– Senedd Cymru am 3:28 pm ar 15 Chwefror 2022.
Felly, fe symudwn ni ymlaen nawr at eitem 4, sef datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: y Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol. Ac rwy'n galw ar Julie Morgan.
Diolch. Rwy'n falch iawn o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am y cynnydd aruthrol a wnaethom ni o ran talu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, un o'n blaenoriaethau allweddol ni yn y rhaglen lywodraethu. Ym mis Mehefin, fe wnes i ddatganiad ar y dull y byddwn ni'n ei ddefnyddio i weithredu'r ymrwymiad hwn ac fe eglurais i y byddwn ni'n gofyn i'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol am ei gyngor ynglŷn â'r ffordd orau o'i ddatblygu.
Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol a minnau gwrdd â'r fforwm ym mis Gorffennaf i ofyn yn bersonol am ei gefnogaeth yn ogystal â thrafod yr heriau posibl. Fe wnaethom ni ofyn i'r fforwm ystyried a rhoi cyngor ynglŷn â rhai materion cymhleth, gan gynnwys: pwy ddylai gael eu cynnwys yn y codiad; gwahaniaethau cyflog, cysgu i mewn, ac amser teithio; sut y gallem ni wneud yn fawr o effaith cyllid a pha heriau y gallem ni eu rhagweld wrth roi hyn ar waith i sicrhau bod y broses o'i gyflwyno yn un lwyddiannus. Fe weithiodd y fforwm yn gyflym iawn i baratoi ei gyngor erbyn diwedd mis Hydref, ac rwy'n hynod ddiolchgar am waith y fforwm am ei gyflawni yn ôl amserlenni mor heriol, ac mae ei gyngor ef wedi ein helpu ni'n fawr wrth lywio ein penderfyniadau ni.
Ym mis Rhagfyr, fe wnes i gyhoeddi y byddem ni'n talu'r cyflog byw gwirioneddol o £9.90 yr awr i weithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig mewn cartrefi gofal a gofal cartref, yn y gwasanaethau i oedolion a'r gwasanaethau i blant, a chynorthwywyr personol a ariennir drwy daliadau uniongyrchol.
Mae canolbwyntio ar y gweithwyr hyn yn cydnabod ein huchelgais ehangach ni i wella ansawdd gwasanaethau ac ymdrechu i sicrhau parch cydradd â gwasanaethau iechyd cyhoeddus allweddol eraill drwy eu proffesiynoli. Mae cynnwys cynorthwywyr personol sy'n cael eu talu drwy daliadau uniongyrchol yn adlewyrchu bod y swyddi hyn yn aml yn debyg iawn i swydd gweithiwr gofal cartref, ac rydym ni'n awyddus i barhau i ddiogelu llais a rheolaeth defnyddwyr y gwasanaethau o ran sut y caiff y cymorth sy'n angenrheidiol ei ddarparu ar eu cyfer nhw, sef yr egwyddor allweddol yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Fe wyddom ni y bydd galwadau i fynd ymhellach, ond mae hi'n hanfodol ein bod ni'n cyflawni'r ymrwymiad hwn mewn ffordd ystyriol sy'n ein galluogi ni i sicrhau bod hynny'n gynaliadwy ac yn fforddiadwy. Yn ogystal â hynny, er mai ein hymrwymiad gwreiddiol ni oedd cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol yn ystod tymor y Senedd hon, mae ein dull gweithredu ni'n caniatáu i ni ei gyflwyno nawr o fis Ebrill ymlaen, gan helpu'r sector i wynebu ei heriau cyfredol o ran recriwtio a chadw yn gynt na'r disgwyl.
Rydym ni wedi cyhoeddi y bydd £43 miliwn ar gael i awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gynnig y cyflog byw gwirioneddol o fis Ebrill ymlaen. Mae hyn hefyd yn cynnwys cyfraniad tuag at y gost o gynnal gwahaniaethau ar ben isaf y graddfeydd cyflog. Fe fydd hyn yn helpu i roi rhywfaint o hyblygrwydd yn y cyllid. Mae hyn yn bwysig ar gyfer helpu i osgoi ansefydlogrwydd yn y bandiau cyflog is hyn. Mae swyddogion yn gweithio yn agos gyda chyfarwyddwyr y gwasanaethau cymdeithasol a rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector gofal cymdeithasol i ddatblygu canllawiau gweithredu i gefnogi'r broses o'i gyflwyno'n llwyddiannus o fis Ebrill ymlaen.
Fe fyddwn ni hefyd yn comisiynu gwerthusiad annibynnol a deinamig o'r gweithredu i fonitro effaith, gan gynnwys sicrhau bod y cyllid yn nwylo'r gweithwyr y bwriedir iddyn nhw elwa arno mewn da bryd, a bod y canllawiau ar gyfer gweithredu yn effeithiol o ran cefnogi comisiynwyr a chyflogwyr. Fe fydd hyn yn ein helpu ni hefyd i ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud yn y dyfodol, a llywio amcangyfrifon o ran ariannu i'r blynyddoedd i ddod.
Rydym ni'n deall yr heriau y mae cyflogwyr yn eu hwynebu wrth i staff edrych ar sectorau eraill sydd â thelerau ac amodau sy'n ymddangos yn fwy deniadol. Felly fe fyddwn ni hefyd yn gwneud taliad ychwanegol o £1,498 i'r gweithwyr gofal cymdeithasol hynny y byddwn ni'n talu'r cyflog byw gwirioneddol iddyn nhw. Fe fydd staff gofal uwch a rheolwyr mewn cartrefi gofal a gofal cartref yn cael y taliad hwn hefyd am ei fod yn amlygu ein hymrwymiad ni i godi statws, a gwella telerau ac amodau ein gweithlu gofal cymdeithasol proffesiynol ni. Fe fydd y taliad hwn yn golygu y bydd gweithwyr gofal cymdeithasol ar y gyfradd dreth sylfaenol yn cael un taliad ychwanegol o £1,000 yn eu pecyn cyflog nhw. Fe fydd manylion y cynllun hwn yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Rydym ni'n awyddus i weld mwy o bobl yn ymuno â'r sector gofal cymdeithasol ac yn dilyn gyrfa hir sy'n rhoi boddhad. Rydym ni'n disgwyl y bydd y taliad ychwanegol a'r cyflog byw gwirioneddol yn cael eu prosesu yng nghyflog pobl o fis Ebrill i fis Mehefin, oherwydd cymhlethdod y sector gofal a'r nifer fawr o gyflogwyr dan sylw. Er nad ydym ni'n disgwyl i'r codiad cyflog byw gwirioneddol, na'r taliad ychwanegol, ddatrys problemau'r sector i gyd o ran recriwtio a chadw staff, rydym ni o'r farn eu bod nhw'n gam cyntaf gwerthfawr a hanfodol, yn enwedig o ran helpu i gadw gweithwyr drwy'r cyfnod anodd iawn hwn.
Fe fyddwn ni'n parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol ynglŷn â'r camau priodol i'w cymryd i wella telerau ac amodau gweithwyr gofal cymdeithasol yn fwy eang, fel sut y dylid cymhwyso'r diffiniad o 'waith teg' ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, a nodi beth y dylai ffurf arferion gwaith da fod mewn gofal cymdeithasol. Rydym ni'n dal i fod wedi ymrwymo i greu gweithlu mwy cadarn sy'n ennill cyflogau gwell ym maes gofal cymdeithasol, a chefnogi'r sector drwy'r cyfnod heriol hwn i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol o safon y gall pobl ddibynnu arnyn nhw.
Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelod dynodedig Plaid Cymru ynglŷn â'n hymrwymiad ni i gytundeb cydweithredu o ran dyfodol gofal cymdeithasol. Mae hynny'n cynnwys sefydlu grŵp arbenigol i gefnogi ein huchelgais cyffredin ni i lunio gwasanaeth gofal cenedlaethol, sy'n rhad ac am ddim lle bod angen. Fe fyddwn ni hefyd yn parhau i integreiddio iechyd a gofal yn well, ac yn gweithio tuag at gydnabyddiaeth a gwobr hafal i weithwyr iechyd a gofal. Diolch.
Diolch i chi. Fe hoffwn i alw nawr ar Gareth Davies i siarad.
Diolch yn fawr iawn, Comisiynydd, a diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Ac mae hi'n siomedig iawn eich bod chi'n parhau i anwybyddu cyngor pawb sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol. Ni fydd y cyflog truenus sy'n cael ei gynnig yn denu pobl i'r sector gofal, ac ni fydd y bonws o £1,000 a ddadorchuddiwyd gennych chi, gyda chryn sbloet, yn gwneud hynny ychwaith. Gyda biliau'r aelwyd fel maen nhw ar hyn o bryd, ni all gweithwyr gofal fforddio byw ar y cyflog pitw a gynigir. Ni ddylech chi gymryd mantais ar garedigrwydd nac ymroddiad gweithwyr gofal. Mae'r bobl anhygoel hyn yn estyn gofal hanfodol i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni, ac fe ddylid eu gwobrwyo nhw am hynny. Fel y mae hi, nid yw gyrfa ym maes gofal cymdeithasol yn ddewis deniadol, ac oni bai eich bod chi'n gwasgu'r danadl ac yn derbyn nad ydyw £9.90 yr awr yn ddigonol, ac oni bai ein bod ni'n talu cyflog teilwng i weithwyr gofal, fe fydd yr argyfwng yn y sector yn mynd yn drychineb. Nid yn unig y bydd gennym ni broblem recriwtio, ond fe fydd cadw staff yn broblem hefyd.
Mae angen i ofal cymdeithasol fod yn yrfa sy'n rhoi boddhad, ac ni all y gwobrau fod yn rhai ysbrydol yn unig, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn faterol hefyd. Ac nid yw taliadau untro, er eu bod nhw i'w croesawu, yn ddigonol. Nid yw talu llai na'r sector manwerthu yn ddigonol. Felly, pam ydych chi'n parhau â'r polisi cyflog byw gwirioneddol, pan fo'r sector a'r undebau yn dweud nad ydyw hwnnw'n ddigonol? A ydych chi wir yn credu y bydd talu'r cyflog byw gwirioneddol yn gwneud unrhyw beth i fynd i'r afael â'r problemau o ran recriwtio a chadw staff y mae'r sector yn eu hwynebu? Dirprwy Weinidog, un o'r dewisiadau y gwnaethoch chi eu cyflwyno oedd alinio gofal cymdeithasol â graddfeydd cyflog y GIG, a fyddai'n costio tua £54 miliwn yn ôl eich amcangyfrifon chi. Pam nad aethoch chi ar hyd y trywydd hwnnw? Ai dim ond ar sail y gost yr oedd hynny? Ac a fyddech chi'n ymuno â mi i groesawu cyhoeddiad Cyngor Sir Fynwy, sy'n cael ei redeg gan y Ceidwadwyr Cymreig, y byddan nhw'n talu £10.85 yr awr i'w staff gofal nhw? A ydych chi'n disgwyl y bydd awdurdodau lleol eraill yn dilyn esiampl ragorol sir Fynwy?
Ac roeddech chi'n dweud yn eich datganiad chi fod eich dull mesuredig chi'n un cynaliadwy. Sut all hwnnw fod yn gynaliadwy os nad yw'n gwneud fawr ddim i fynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio ar hyn o bryd? Pam wnaethoch chi ddewis bonws untro eleni, yn hytrach na defnyddio'r £96 miliwn ychwanegol i dalu cyflog gwell i'r staff cyfan? Ni all staff ddibynnu ar fonysau, ac ni ellir eu cyfrif nhw tuag at bethau fel morgeisi. Pa asesiad a wnaethpwyd o effaith y polisi hwn wrth helpu i gadw staff? Ac yn olaf, Dirprwy Weinidog, rwy'n croesawu eich nod chi o weld mwy o bobl yn ymuno â'r sector gofal ac yn dechrau gyrfa hir a gwerth chweil, fel dylai hi fod. I wneud gofal cymdeithasol yn yrfa werth chweil, mae'n rhaid i ni sicrhau mwy na phecyn cyflog gwerth chweil, mae'n rhaid i ni sicrhau telerau ac amodau gwerth chweil hefyd. Pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd yn hynny o beth, neu a oes yn rhaid i'r sector aros wrth i chi â Phlaid Cymru drin a thrafod eich cynlluniau chi ar gyfer gwasanaeth gofal cenedlaethol? Diolch i chi.
Wel, rwy'n diolch i Gareth Davies am y sylwadau yna, ac rwy'n rhyfeddu i ryw raddau at ei agwedd ef tuag at y cyhoeddiad hwn. Mae hwn yn sicr yn gam cyntaf tuag at wella bywydau gweithwyr gofal cymdeithasol, ac fe'i croesawyd yn eang, yn ogystal â'r taliad o £1,000. Felly, rwy'n synnu'n fawr at ei agwedd ef at y datganiad hwn heddiw. Pam ydym ni wedi talu £9.90? Dyna oedd yr ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu ni; roedd hwnnw'n ymrwymiad maniffesto hefyd. Dyma'r swm sy'n cael ei gynghori gan Sefydliad Resolution. Fe gaiff ei fonitro gan y Comisiwn Gwaith Teg, ac yn flynyddol, maen nhw'n argymell codiad. Ac felly rydym ni'n dilyn cyfarwyddiadau'r comisiwn hwnnw. Ac fel rwyf i'n dweud, dyma'r hyn yr oeddem ni wedi ymrwymo iddo.
Roeddem ni'n falch iawn o gael y cyfle i dalu'r £1,000, ar ben hynny, sy'n gysylltiedig â thalu'r cyflog byw gwirioneddol, oherwydd rydym ni'n ceisio proffesiynoli'r sector. Fe wnaethom ni sefydlu'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol. Fe'n cynghorwyd ni ynglŷn â'r dull o gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol, ac maen nhw'n edrych ar y telerau ac amodau yr ydym ni'n cytuno eu bod nhw mor bwysig. Ac rwy'n credu i mi ddweud yn fy natganiad na fydd hyn yn ddigon ar ei ben ei hun. Cam cyntaf yw hwn, a'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud yw gweithio yn agos iawn gyda'r fforwm gwaith teg, sydd wedi bod o gymorth aruthrol wrth roi cyngor i ni, ac edrych wedyn ar y telerau ac amodau a gweld sut y gallwn ni feithrin y gweithlu gofal cymdeithasol er mwyn cydnabod mai proffesiwn ydyw, ac fe fyddan nhw'n gallu cyflawni eu dyletswyddau nhw yn y wybodaeth eu bod nhw'n cael eu talu, a bod hwnnw'n dâl rhesymol gyda thelerau ac amodau rhesymol. Felly, rwy'n falch iawn o glywed bod rhai awdurdodau lleol yn talu mwy na'r cyflog byw gwirioneddol. Rwy'n gobeithio y bydd llawer o bobl yn talu dros ben hynny, a mater i'r cyflogwyr yn unig yw penderfynu a ydyn nhw'n dymuno talu mwy. Ond rwyf i o'r farn fod angen i ni gydnabod bod hwn yn gam tuag at hyrwyddo'r sector gofal cymdeithasol ac fe roddwyd croeso cyffredinol iddo.
Rwy'n galw yn awr ar Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Cadeirydd, a diolch, Dirprwy Weinidog, am y datganiad.
Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw yn fras, gyda'r cynnydd tuag at gyflog byw gwirioneddol i bob gweithiwr gofal cymdeithasol. Mae Plaid Cymru wedi galw ers tro am gynnydd sylweddol mewn cyflogau yn y sector hwn. Gall swyddi gofal cymdeithasol roi boddhad, ond maen nhw'n swyddi heriol a chyfrifol iawn. Dylid gwobrwyo'r swyddi hyn yn unol â hynny. Mae Plaid Cymru am gael cydraddoldeb cyflog a pharch cyfartal rhwng staff iechyd a gofal cymdeithasol. Byddai cyflawni hyn yn mynd gryn ffordd tuag at atal y llif o weithwyr gofal yn gadael y sector. Er bod y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf am daliad bonws o £1,000 i weithwyr gofal i'w groesawu, rwy'n poeni mai dim ond papuro dros y craciau, sy'n rhai dwfn ac wedi hen sefydlu mewn gofal cymdeithasol, y bydd hyn. Rwy'n ofni na fydd hyn yn gwneud fawr ddim i ddenu neb i'r sector, ac rwy'n amau y bydd yn dwyn perswâd ar unrhyw un sy'n ystyried gadael i aros.
Fel y dywedais i yn gynharach, mae'r datganiad hwn heddiw yn gam ymlaen tuag at gyflawni cyflog byw gwirioneddol. Byddwn i'n llawer hapusach pe bai'r cyhoeddiad hwn yn ymwneud â darparu cyflog byw i bob gweithiwr gofal ar unwaith. Ni fydd y cyhoeddiad heddiw o fawr o gysur i weithwyr gofal sydd hyd yn hyn heb gael y cyflog byw, ac efallai y byddant yn aros am ddwy flynedd arall cyn ei gael, yn unol ag ymrwymiad y Llywodraeth. Mae'r argyfwng costau byw eisoes yma, ac mae'n mynd i waethygu'n fawr. Mae gweithwyr gofal yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau fel y mae pethau; mae arnyn nhw angen y codiad cyflog hwnnw gorau po gyntaf. A wnaiff y Dirprwy Weinidog felly egluro cyflymder cyflwyno'r cyflog byw i weithwyr gofal? Pryd mae'n disgwyl i 50 y cant o weithwyr gofal fod yn ennill y cyflog byw? Neu pryd y mae'n disgwyl iddo fod yn 75 y cant neu 90 y cant o'r staff? Am resymau a grybwyllwyd eisoes, a oes unrhyw bosibilrwydd o gyflwyno'ch ymrwymiad yn gynt fel bod pob gweithiwr gofal yn cael yr isafswm cyflog cyn eich dyddiad yn 2024 ar gyfer cyflawni'r ymrwymiad hwn?
Er bod y datganiad hwn yn ymwneud â gweithwyr gofal cymdeithasol, rwyf eisiau sôn am y rhan allweddol y mae gofalwyr di-dâl yn ei chwarae mewn cymdeithas. Ni allwn anghofio eu cyfraniad aruthrol. Rwy'n ategu galwadau'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael eu hamddiffyn rhag caledi ariannol gan Lywodraeth Cymru. Gallwch wneud hyn drwy gynyddu'r gwaith o lobïo Llywodraeth y DU i ddiwygio lwfans gofalwr i'w godi i'r un lefel o leiaf â lwfans ceisio gwaith. Dyma un o'r adegau hefyd pan all unrhyw un sy'n gwerthfawrogi tegwch a pholisïau blaengar fwrw llygad eiddigeddus dros drafodion yn yr Alban. Yno, mae ganddyn nhw atodiad lwfans gofalwr, sy'n cael ei dalu ddwywaith y flwyddyn gan Social Security Scotland. Mae hyn yn tanlinellu'r angen am system fudd-daliadau ar wahân i Gymru fel y gallwn lunio system budd-daliadau mwy tosturiol yma yng Nghymru sy'n debyg i'r un yn yr Alban. Dirprwy Weinidog, ble ydych chi'n sefyll ar y mater hwn? A fyddwch chi'n lobïo am y pwerau i allu gwneud hyn? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr am y sylwadau cadarnhaol iawn yna ac am groesawu hyn fel cam tuag at—cam i'r cyfeiriad cywir, ddywedwn ni? Rwy'n llwyr gefnogi'r sylwadau y mae'r Aelod wedi'u gwneud. Rydym eisiau cyrraedd cydraddoldeb cyflog a pharch. Gwyddom fod gweithwyr gofal yn gwneud gwaith hynod gyfrifol a gwelwn hwn, unwaith eto, fel y dywedaf, fel y cam cyntaf ar y daith honno.
O ran cyflymder cyflwyno'r cynllun, dywedais yn fy natganiad pwy fyddai'n ei gael mewn gwirionedd, sef yr holl weithwyr gofal sy'n darparu gofal yn uniongyrchol ac sy'n gweithio mewn cartrefi gofal, y rhai sy'n darparu gofal yng nghartrefi pobl, y gweithlu gofal cartref, a chynorthwywyr personol sy'n cael taliadau uniongyrchol. Felly, bydd yr holl grwpiau hynny'n dechrau cael y cyflog byw o fis Ebrill ymlaen. Gwelwn y flwyddyn gyntaf fel blwyddyn bontio, ond bwriadwn i'r holl bobl hynny gael yr arian yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf hon. Oherwydd cymhlethdod y sector, oherwydd y nifer fawr o gyflogwyr—. Gan fod 80 y cant o hyn yn y sector preifat, bydd hyn yn golygu y gallai gymryd peth amser i weithio allan, ond gobeithiwn y dylen nhw ei gael rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, ac mae'r un peth yn wir am y taliad o £1,000.
Ei bwynt olaf am ofalwyr di-dâl, ni allwn i gytuno mwy. Rwy'n credu bod gofalwyr di-dâl wedi ysgwyddo llawer o'r baich yn ystod y pandemig hwn, ac rwy'n cytuno'n llwyr eu bod wedi dioddef caledi ariannol. Gwyddom hynny, ac rydym wedi gweld, o'r holl arolygon gofalwyr sydd wedi'u cynnal, y straen y maen nhw wedi'i ddioddef. Rwy'n gresynu at y ffaith nad ydym yn rheoli lwfans gofalwr yma yng Nghymru, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r galwadau gan y sector y dylid cynyddu lwfans gofalwr.
Dirprwy Weinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma, ac rwyf innau hefyd yn cydnabod rhai o'r pryderon a godwyd gan fy nghyd-Aelod Gareth Davies, ond rwy'n cael fy nghalonogi wrth weld bod Llywodraeth Cymru yn dod ymlaen i roi'r cyflog byw gwirioneddol i'n gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru a chydnabod y gwaith hanfodol pwysig y maen nhw'n ei wneud yn gofalu am y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Gadewch i ni obeithio bod mwy y gallwn ni ei wneud wrth symud ymlaen i wella cyflogau gweithwyr gofal ar draws y sector.
Gweinidog, tynnais sylw yn y datganiad busnes yr wythnos diwethaf at y sefyllfa ym Mhowys lle mae pecynnau gofal yn cael eu trosglwyddo'n ôl i'r awdurdod lleol oherwydd y prinder mawr o staff gofal. Gweinidog, gwn fod y bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn bwriadu sefydlu academi iechyd a gofal ym Mhowys, ond, Dirprwy Weinidog, pa ymyraethau eraill y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud i sicrhau bod gennym ddigon o staff gofal yn y sector hwn wrth symud ymlaen, ar ben y cyhoeddiad i'w groesawu a wnaethoch chi heddiw?
Diolch yn fawr iawn, James, am groesawu'r cyhoeddiad a'r sylwadau yr ydych wedi'u gwneud. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddenu mwy o bobl i'r system. Rwy'n ymwybodol bod pecynnau gofal yn cael eu rhoi yn ôl oherwydd prinder staff. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn i geisio denu mwy o weithwyr gofal. Rydym wedi cael ymgyrch hysbysebu enfawr, y bydd llawer o bobl wedi'i gweld. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gwario—. Rydym wedi rhoi arian i Gofal Cymdeithasol Cymru i hysbysebu'r swyddi gwag yn y sector hwn a hefyd i hyrwyddo pa mor werthfawr yw'r swydd honno. Rwy'n credu, fel y mae pob un ohonoch yn cydnabod, na allech wneud gwaith llawer mwy gwerthfawr na gofalu am bobl sy'n agored i niwed. Hefyd, rydym wedi bod yn cynnig hyfforddiant am ddim i bobl sydd eisiau dod i mewn i'r sector, ac rwy'n croesawu'r cynnig ar gyfer yr academi iechyd a gofal. Rwy'n credu mai'r mater allweddol yw bod yn rhaid i ni sicrhau bod iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio'n agosach o lawer gyda'i gilydd, a bydd hynny'n datrys llawer o'r problemau hyn. Dyna pam y mae'r Gweinidog iechyd a minnau wedi bod yn gweithio mor agos gyda'n gilydd ac yn cyfarfod bob wythnos gyda chynrychiolwyr o'r byrddau iechyd a'r awdurdodau lleol yn y pwyllgor gweithredu gofal. Ond rwy'n credu mai cydweithio fydd yn ein galluogi ni i symud ymlaen.
Rwy'n croesawu'r datganiad a'r cyhoeddiad yn fawr iawn. Rwy'n dechrau o'r gred y dylai pawb yng Nghymru gael eu talu o leiaf y cyflog byw gwirioneddol, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen i ni fod yn ei wthio ym mhob ffordd bosibl. Yr ail beth yr hoffwn i ei ddweud yw fy mod yn croesawu'r ymrwymiad gwreiddiol i gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol yn nhymor y Senedd hon, ac rwy'n falch y caiff ei gyflwyno o fis Ebrill ymlaen, gan helpu i ariannu gwasanaethau gofal sy'n wynebu problemau recriwtio a chadw. Ond, mae angen parch a chyflog cyfartal arnom rhwng y sector iechyd a gofal. Pa mor aml y gwelwn ni bobl sy'n gweithio mewn gofal yn mynd i weithio ym maes iechyd oherwydd y gallan nhw gael mwy o dâl yn gwneud yr un swydd fwy neu lai?
Mae gen i ddau gwestiwn. A yw'r £43 miliwn, a fydd ar gael i awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gyflawni'r cyflog byw gwirioneddol o fis Ebrill ymlaen, yn ddigonol i ariannu'r cynnydd? Ac, a yw'r £1,498 ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, a fydd yn cael y cyflog byw gwirioneddol, yn cynnwys cogyddion a darparwyr gofal eraill nad ydyn nhw'n ddarparwyr uniongyrchol? Yn olaf, a gaf i atgoffa'r Aelodau sut y mae'r Scottish National Party yn yr Alban wedi cynyddu tlodi?
Diolch yn fawr iawn, Mike, a diolch yn fawr am eich croeso i'r cynigion hyn. Rwy'n cytuno yn llwyr fod angen talu'r cyflog byw gwirioneddol i bawb yng Nghymru, ond yr hyn yr ydym yn mynd i'r afael ag ef yma yw'r bobl sy'n darparu gofal cymdeithasol yn uniongyrchol. A'r rhai sy'n ei gyflawni'n anuniongyrchol, wrth gwrs, rwy'n credu y dylid talu'r cyflog byw gwirioneddol iddyn nhw hefyd, ond yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud yw rhoi hwb i'r proffesiwn gofal cymdeithasol i symud tuag at gydraddoldeb â'r hyn a geir yn y GIG.
Mae'r £43 miliwn, yn ein barn ni, yn ddigonol. Rydym wedi penderfynu ar y ffigur hwnnw drwy weithio'n agos iawn gyda'r ADSS—Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol—ac mae'r £43 miliwn hwn yn cynnwys £6.7 miliwn a fydd yn dod o'r byrddau iechyd, a fydd yn dod o'r gyllideb iechyd i dalu am y gofal y mae'r byrddau iechyd yn ei gomisiynu. Felly, rwy'n ffyddiog y bydd y £43 miliwn yn ddigon i ariannu'r cynnig hwn.
Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad. Rwy'n croesawu hwn fel cam mawr i'r cyfeiriad cywir. Byddwch yn ymwybodol bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi ymrwymo yn ein maniffesto ar gyfer etholiadau'r Senedd i gyfradd cyflog o £10 yr awr, sydd dim ond 10c yn fwy nag eich un chi, ac roeddwn yn gobeithio y byddech wedi gallu ymestyn at hynny, ond yn amlwg rwy'n sylweddoli bod hyn yn rhywbeth yr ydym ni i gyd eisiau gweithio tuag ato o ran cydnabyddiaeth ehangach o'r gweithlu gofal cymdeithasol.
Cyfeirioch chi at y ffaith y bydd uwch staff gofal a rheolwyr mewn cartrefi gofal ac uwch reolwyr mewn gofal cartref hefyd yn derbyn y bonws, sy'n cael ei roi i'r gweithlu gofal cymdeithasol eleni, ond ni chlywais unrhyw gyfeiriad at staff cegin na glanhawyr yn y cartrefi gofal hyn, mae pob un ohonyn nhw'n gweithio'n galed iawn ac wedi gwneud drwy gydol y pandemig, ac rwy'n credu hefyd fod angen eu cydnabod o ran y cyfraniad y maen nhw wedi'i wneud. A allwch chi gadarnhau heddiw y byddwch yn ystyried a oes gan Lywodraeth Cymru yr adnoddau er mwyn cydnabod y swyddogaethau hynod werthfawr a hanfodol hynny y mae staff cegin a staff glanhau mewn cartrefi gofal wedi bod yn eu gwneud yn ystod y pandemig, drwy roi'r un bonws iddyn nhw ar ôl treth â'r hyn y bydd y gweithwyr gofal rheng flaen hyn hefyd yn ei gael?
Diolch, Darren Millar, am groesawu'r taliad hwn fel cam i'r cyfeiriad cywir. Rwy'n croesawu ei gefnogaeth. Bydd, bydd uwch staff gofal a rheolwyr yn cael y taliad ychwanegol, ac rwy'n credu fy mod eisiau ailadrodd, mewn gwirionedd, mai ein diben yw ceisio proffesiynoli'r gweithlu—y rhai sy'n rhoi gofal yn uniongyrchol, y rhoddwyr gofal uniongyrchol.
Gwnaethom ni roi dau daliad cydnabyddiaeth yn ystod y pandemig: un yn 2020 ac un yn 2021; un o £500 ac un o £725. Aeth yr un cyntaf at yr holl staff yn y maes gofal cymdeithasol. Er enghraifft, mewn cartrefi gofal, roedd pawb a oedd yn gweithio yn y cartrefi gofal wedi'u gael, ac aeth y £725 i'r holl staff iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, taliadau cydnabyddiaeth oedd y rheini, ond nid yw hyn yn daliad cydnabyddiaeth yn y modd hwnnw. Roedd y taliadau cydnabod yn cydnabod y risgiau a gymerodd y staff hynny a sut yr oedden nhw mor agos at holl beryglon y pandemig, mewn gwirionedd, a'r hyn a wnaethon nhw gyfrannu. Felly, taliadau cydnabyddiaeth oedd y rheini; nid yw hwn yn daliad cydnabyddiaeth.
Mae hwn yn daliad a fydd yn cael ei weithredu ynghyd â'r cyflog byw gwirioneddol ac mae'n ceisio symud y staff gofal cymdeithasol sy'n darparu'r gofal hwn yn uniongyrchol i gorff proffesiynol. Ar ei ben ei hun, nid yw'n ddigon; rwy'n credu ein bod wedi dweud hynny eisoes heddiw. Mae llawer iawn mwy y mae'n rhaid ei wneud o ran telerau ac amodau a datblygiad a chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant—yr holl bethau hynny—a dyna'r pethau yr ydym ni eisiau symud ymlaen atyn nhw nesaf, ond nid ydym yn peidio â chydnabod yr hyn y mae'r staff eraill hynny wedi'i wneud mewn unrhyw ffordd.FootnoteLink
Diolch, a diolch, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Byddwn yn awr yn atal y trafodion i ganiatáu newid yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon, a bydd y gloch yn cael ei chanu dwy funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.