1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 2 Mawrth 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, ac yn gyntaf y prynhawn yma, llefarydd y Ceidwadwyr, Natasha Asghar.
Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Gweinidog yr economi strategaeth ofod genedlaethol Llywodraeth Cymru, gan amlinellu ei huchelgais i sicrhau cyfran o 5 y cant o sector gofod y DU, a fyddai’n cyfateb i £2 biliwn y flwyddyn i economi Cymru. Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar dyfu potensial datblygiadau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn y sector gofod yma yng Nghymru, gan gynnwys gallu hyfforddi a phrofi lansio i'r gofod, ynghyd â phrofi a gwerthuso technolegau gyriant gwyrddach newydd yn Llanbedr. Mae’n amlwg fod y cyhoeddiad hwn yn bwrw amheuaeth ar benderfyniad eich panel adolygu ffyrdd i ganslo ffordd osgoi arfaethedig Llanbedr, gan wastraffu £1.7 miliwn o arian trethdalwyr yn y broses. Gan fod y meini prawf sy’n dylanwadu ar y penderfyniad yn sicr o fod wedi newid bellach, a wnewch chi gytuno nawr i ailystyried y mater hwn a gofyn i’r panel adolygu ei benderfyniad o ystyried y manteision economaidd posibl i’r ardal ac i Gymru gyfan?
Wel, unwaith eto, dywedaf wrth Natasha Asghar yr hyn a ddywedais wrth y Siambr ar y dechrau: dywedai adroddiad y panel ar newid hinsawdd a gyhoeddwyd ddydd Llun fod y sefyllfa sy'n wynebu pob un ohonom yn waeth nag a feddylient—mae ar ben uchaf yr amcanestyniadau o effaith cynhesu byd-eang a’r effaith drychinebus a gaiff hynny ar ein heconomi a’n cymdeithas. Dywedai ein bod eisoes wedi cael ein heffeithio, fod y newidiadau'n ddiwrthdro, a bod y cyfle i adeiladu cymdeithas â mwy o allu i wrthsefyll newid hinsawdd yn prysur ddiflannu. Credaf y dylai pob un ohonom fod o ddifrif ynglŷn â hynny. Ni allwn ddatgysylltu’r pethau hyn am ein bod am sgorio pwyntiau gwleidyddol am fater gwahanol. Edrychodd y panel adolygu ffyrdd, fel rhan o’u meini prawf, ar effaith newid hinsawdd ar drafnidiaeth a’r llif o brosiectau sydd gennym, a daethant i’r casgliad nad oedd cynllun Llanbedr yn gydnaws â strategaeth drafnidiaeth Cymru, ac nad oedd yn gydnaws â chyflawni sero net. Nawr, ni chredaf y gellir anwybyddu hynny ar chwarae bach.
Os darllenwch adroddiad y panel ar y maes awyr, o ran mynediad i’r safle hwnnw, dangosai fod opsiynau eraill i'w cael, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chyngor Gwynedd i archwilio’r opsiynau hynny i weld beth y gellir ei wneud. Ond rydym yn dal i ddod yn ôl at y pwynt sylfaenol: mae canlyniadau dwys ac arwyddocaol i bawb ohonom yn sgil newid hinsawdd, ac mae angen inni ddechrau adlewyrchu hynny yn y penderfyniadau a wnawn. Nid yw o unrhyw werth i'r Ceidwadwyr ymrwymo i dargedau pan fyddant yn galw am ddull gwahanol o fynd ati bob tro y gwneir penderfyniad o ganlyniad i'r targedau hynny. Nid yw'n gyson.
Iawn. Diolch, Ddirprwy Weinidog. Gallaf eich sicrhau bod pob un ohonom yn pryderu am newid hinsawdd. Nid oes modd ei wadu, a chredaf y bydd fy nghyd-Aelodau ar y fainc hon, a hyd yn oed yn San Steffan, yn cytuno â mi ar hynny. Fodd bynnag, ar ôl gweld y wybodaeth a gyhoeddwyd gan Weinidog yr Economi, roedd yn amlwg fod rhai o’r meysydd dan sylw wedi’u diogelu, felly mae hynny’n peri pryder i ni ynglŷn â sut y bydd hyn yn cael ei wireddu.
Gan ddod at fy ail gwestiwn, rwyf eisoes wedi sôn am ganslo ffordd osgoi Llanbedr gan wastraffu £1.7 miliwn o arian trethdalwyr ar sawl achlysur bellach yn y Siambr hon. Ers hynny, mae’r panel adolygu ffyrdd wedi canslo cynlluniau i gael gwared ar y cylchfannau ar gyffyrdd 15 ac 16 ar yr A55, gan wastraffu bron i £9 miliwn. Felly, Ddirprwy Weinidog, hyd yn hyn, mae eich polisi wedi arllwys £10.5 miliwn o arian trethdalwyr i lawr y draen, ac mae mwy na 50 o brosiectau i wella seilwaith ffyrdd Cymru yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Rwyf wedi gofyn y cwestiwn o'r blaen ac nid wyf yn ymddiheuro am ei ofyn eto, gan nad wyf yn credu bod y wybodaeth ar gael yn hawdd i mi nac i eraill. Felly, er mwyn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd, pe bai’r panel adolygu ffyrdd yn canslo pob un o’r prosiectau sy’n cael eu hadolygu ar hyn o bryd, beth fyddai cyfanswm yr arian sydd wedi'i wario eisoes a fyddai’n cael ei golli? Diolch.
Wel, nid yw'r panel adolygu ffyrdd wedi dod i gasgliad eto, ac eithrio ar ddau gynllun y gofynnwyd iddynt eu rhoi ar lwybr carlam. Ac ar gyfer y ddau gynllun, maent wedi cyhoeddi'r rheswm pam, at ei gilydd, mai dyna'r penderfyniad gorau wrth symud ymlaen. Yn amlwg, mae arian wedi’i fuddsoddi mewn cynlluniau. Fel rydym wedi'i drafod eisoes yn y Siambr, ond rwy’n fwy na pharod i’w ailadrodd, roedd llawer o’r buddsoddiadau yng nghyffyrdd yr A55, er enghraifft, ar gyfer astudiaethau a fyddai’n dal i fod yn ddefnyddiol i gomisiwn Burns yn y gogledd ar gyfer ei waith yn y dyfodol. Felly, nid yw wedi'i wastraffu; mae wedi'i ailgyfeirio.
Ond ar ryw bwynt, mae angen inni ddod â chynlluniau i ben, oherwydd rhesymeg ei safbwynt yw ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn cynlluniau am fod rhywfaint o fuddsoddiad wedi'i wneud, ni waeth beth fo'u heffaith ar allyriadau carbon, ni waeth beth fo'u heffaith ar ansawdd aer, ni waeth beth fo'u heffaith ar dagfeydd a newid hinsawdd. Ac ni chredaf fod hynny'n gydnaws â'r hyn y mae'r wyddoniaeth yn ei ddweud wrthym am yr angen i edrych o'r newydd a rhoi camau gwahanol ar waith. Wrth wraidd hyn, mae'n rhaid i bob un ohonom wynebu'r ffaith bod gwyddoniaeth yn dweud wrthym fod angen inni newid cyfeiriad, ac mae canlyniadau i newid cyfeiriad.
Iawn. Ddirprwy Weinidog, dywedir eich bod wedi dweud yn ddiweddar y dylai bysiau trydan—bydd hyn yn rhywbeth y gwn y byddwch yn ei fwynhau [Chwerthin.]—y dylai bysiau trydan gael eu gwneud yng Nghymru yn hytrach na chael eu mewnforio o Tsieina, gan fynegi dymuniad i agor ffatri fysiau trydan yma i greu swyddi gwyrddach. Mewn ymateb, dywedodd Andy Palmer, prif weithredwr Switch Mobility, un o’r llond llaw o gwmnïau yn y DU sydd eisoes yn gwneud bysiau trydan, ei fod wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch adeiladu ffatri ond nad yw wedi gwneud fawr o gynnydd. Yn ddiweddar, mae cwmnïau bysiau yng Nghasnewydd a Chaerdydd wedi prynu bysiau trydan o Tsieina, sy’n newyddion gwych. Mae gweithredwyr bysiau wedi honni bod angen cynllun ariannu cenedlaethol ar gyfer y cynllun i newid fflyd fysiau Cymru gyfan yn gerbydau allyriadau sero erbyn 2035, ond nid oes gan Gymru gronfa a reolir gan y Llywodraeth i’w helpu gyda chost seilwaith cerbydau gwyrdd, yn wahanol i Loegr a'r Alban. Dywedodd John Dowie, cyfarwyddwr partneriaethau First UK, sy’n berchen ar First Cymru, ei bod yn bryd i Gymru sefydlu ei chynllun ei hun sy’n addas ar gyfer amgylchiadau Cymru a llywio ei hagenda ei hun, yn hytrach nag aros i godi briwsion Lloegr. Ddirprwy Weinidog, pa bryd y byddwch yn cyflwyno cynllun ariannu i gefnogi’r newid i fysiau trydan yng Nghymru, fel y maent wedi’i wneud yn Lloegr a’r Alban? Diolch.
Wel, fel y mae Natasha Asghar eisoes wedi nodi’n garedig iawn, rydym yn buddsoddi yn y newid i fysiau trydan, yn enwedig yng Nghaerdydd a Chasnewydd, lle mae ganddynt gwmnïau bysiau sy'n eiddo dinesig. Hoffwn wneud dau beth i sicrhau newid systemig, yn hytrach na gwneud cyhoeddiadau sy’n plesio’r diwydiant yn unig. Y cyntaf yw dylunio system fysiau sy'n gydlynol, lle nad yw buddsoddiad o Gymru yn diferu allan o'r wlad. Nawr, ar hyn o bryd, mae gennym system breifat fasnachol dameidiog, lle mae cwmnïau bysiau preifat yn disgwyl i'r trethdalwr ariannu eu cyfalaf, ac yna maent yn pocedu'r elw heb roi gwasanaethau cydlynol i ni na rhoi cyfle i bobl newid dulliau trafnidiaeth. Mae angen unioni hynny, a dyna fydd dan sylw yn y Papur Gwyn ar fysiau sydd ar y ffordd.
Yn ail, hoffwn weld diwydiant domestig yn cynhyrchu bysiau trydan, a chredaf fod yma gyfle economaidd i Gymru. Yn hytrach na buddsoddi symiau sylweddol—cannoedd o filiynau o bunnoedd—i brynu bysiau o Tsieina, mae cyfle yma i ddatblygu diwydiant bysiau Cymreig a Phrydeinig. Fe sonioch chi am fuddsoddwr. Yr hyn nad ydym am ei wneud yw dychwelyd at y model mewnfuddsoddi. Mae cyfle yma i adeiladu cwmnïau lleol; adeiladu'r canol coll yr ydym wedi sôn amdano'n fynych. Sefydlais dasglu, dan arweiniad James Davies, cadeirydd a phrif weithredwr Diwydiant Cymru, i archwilio sut y gallwn gydgrynhoi'r galw. Ar hyn o bryd, mae llawer o lyfrau archebion yn dod drwy’r sector cyhoeddus. Os down â hwy ynghyd, a chronni ein harchebion, mae cyfle i ddiwydiant Cymreig ddatblygu, a dyna'r gwaith yr ydym yn ei wneud.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae Canolfan Cydweithredol Cymru newydd ryddhau adroddiad sydd yn galw ar i'r Llywodraeth gyflwyno Deddf grymuso a pherchnogaeth gymunedol er mwyn cynorthwyo grwpiau cymunedol i ddatblygu tai fforddiadwy parhaol yn eu cymunedau. Mae'r adroddiad yn dangos sut mae'r system dai presennol, o dan reolaeth y farchnad agored, yn methu pobl a chymunedau Cymru. Wrth fod prisiau tai yn codi'n sylweddol ar draws Cymru a diffyg tai fforddiadwy go iawn i bobl leol, gall polisïau’r ganolfan gydweithredol chwarae rhan bwysig wrth i ni edrych i sicrhau tai cymunedol o dan berchnogaeth leol. Mae'r adroddiad yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu comisiwn i annog meddwl arloesol ar berchnogaeth leol o dir ac asedau yng Nghymru, i gyflwyno Deddf grymuso a pherchnogaeth leol, i ddatblygu bas data neu gofrestr o berchnogaeth tir, i sefydlu cronfa cymorth ariannol ar gyfer prosiectau tai sy'n cael eu harwain yn gymunedol, ac i ddatblygu proses ffurfiol ar gyfer trosglwyddo asedau cymunedol.
Ydy'r Gweinidog yn cytuno y byddai cynlluniau o'r fath o fudd i bobl Cymru? Ac a wnaiff hi ystyried cynnwys argymhellion y ganolfan gydweithredol fel rhan o raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth? A gobeithio hefyd y byddwch chi yn cytuno â mi fod y gallu i gymunedau lwyddo i ddelifro ymrwymiadau tai yn ddibynnol ar argaeledd tir fyddai'n galluogi grwpiau i adeiladu tai cymunedol. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gofrestru perchnogaeth tir ac adnabod tir sydd yn addas at ddatblygu anghenion cymunedol?
Mae'n ddrwg gennyf, collais ychydig o'r cyfieithiad, ond fe gefais yr hanfodion, rwy'n credu, felly maddeuwch i mi os nad wyf wedi deall ychydig o'r manylion, yn enwedig ar y diwedd. Nid wyf yn gwybod pam y methodd yn sydyn am ryw reswm. Felly, rydym yn sicr yn croesawu’r gwaith a wnaed gan y ganolfan gydweithredol. Rydym yn cytuno’n llwyr fod tai a arweinir gan y gymuned yn rhan fawr iawn o’r ateb tai yng Nghymru, ac y byddant yn sicr yn cyfrannu at gyflawni ein targed o 20,000 o gartrefi cymdeithasol. Rydym eisoes wedi ailddatgan hynny drwy’r rhaglen lywodraethu: ein hymrwymiad i gefnogi tai cydweithredol, mentrau a arweinir gan y gymuned ac ymddiriedolaethau tir cymunedol. Ac rwy'n falch iawn o allu dweud ein bod wedi gallu cynyddu'r grant i'r ganolfan gydweithredol yr wythnos diwethaf er mwyn hwyluso llawer o'r gwaith hwn. Felly, rwy'n falch iawn o fod wedi gallu gwneud hynny.
Yr egwyddor graidd hollbwysig, fel y dywed Mabon, yw galluogi pobl i gymryd mwy o reolaeth ar sut y caiff eu tai eu darparu a’u rheoli. Felly, mae ein cymorth drwy raglen Cymunedau’n Creu Cartrefi, a ddarperir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, wedi cynnwys a chefnogi 64 o grwpiau hyd yma ers dechrau’r rhaglen yn 2019. Ceir nifer o gyfleoedd ar hyn o bryd hefyd, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, ac rwy’n falch fod y rhaglen gymorth gyfredol wedi dylanwadu ar bolisïau, gan gynnwys ein cynllun Nyth, ac mae’n cysylltu â pholisïau a rhaglenni ehangach Llywodraeth Cymru i ddarparu cyfleoedd go iawn i oresgyn rhai o’r rhwystrau sy’n wynebu grwpiau a arweinir gan y gymuned.
Ond cytunaf fod angen gwneud mwy i hwyluso hyn a’i ymgorffori, os mynnwch, yn y diwylliant yr hoffem ei weld. Rydym yn gwneud gwaith parhaus i archwilio pa gymorth ychwanegol sydd ei angen drwy raglen tai a arweinir gan y gymuned yn y dyfodol. Rydym hefyd wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru ynghylch cyllid ar gyfer grwpiau cymunedol ers sawl mis bellach, ac edrychaf ymlaen at glywed canlyniadau’r trafodaethau hynny hefyd. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd iawn—rwy’n cyfarfod, ac mae fy swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd iawn—â Chanolfan Cydweithredol Cymru.
Rwy'n croesawu'r adroddiad, ond mae rhywfaint ohono—. Yn anffodus, nid ydym wedi rhyngweithio yn ei gylch eto, felly edrychaf ymlaen at y rhyngweithio hwnnw. Felly, er enghraifft, mae i Lywodraeth Cymru efelychu gwaith Cofrestrfa Tir y DU yn amlwg yn dyblygu ymdrech drud, ond mae sicrhau bod yr wybodaeth ar gael yn llawer haws i grwpiau cymunedol yn werthfawr iawn, ac rydym yn gwneud gwaith gyda MapDataCymru a fydd yn helpu i wireddu’r uchelgeisiau a nodir yn yr adroddiad ar gyfer hynny, er enghraifft. Mae nifer o bethau lle byddaf am fynd drwy'r adroddiad i nodi lle'r ydym arni gyda hwy, lle'r ydym yn hapus i dderbyn yr argymhelliad, a lle'r ydym eisoes wedi rhoi camau ar waith tuag at wneud yr hyn a argymhellir.
Rwy’n falch iawn hefyd o fod wedi gallu hwyluso'r ffordd i ymddiriedolaethau tir cymunedol a thai cydweithredol gyda phartner sy'n landlord cymdeithasol cofrestredig gael mynediad at y grant tai cymdeithasol, ac rwy’n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol o ymddiriedolaeth tir cymunedol Solfach, gan ein bod yn edrych ar hwnnw fel rhyw fath o gynllun peilot i weld pa mor dda y mae'n gweithio. Mae gennym nifer o grwpiau eraill yn gwneud hyn hefyd. Felly, mewn egwyddor, rwy’n cytuno’n llwyr. Mae angen inni weithio drwy rai o'r manylion i sicrhau ein bod yn cael gwerth am arian—mae'n ddrwg gennyf, ystrydeb ofnadwy, ond rydych yn deall yr hyn rwy'n ceisio'i ddweud. Rydym hefyd, fel y mae'n digwydd, yn gwneud rhywfaint o hyn, ond nid yn union fel y mae'r adroddiad yn ei nodi. Felly, mewn egwyddor, rydym yn gwbl gefnogol i hynny, ac rwy'n awyddus iawn i weld cymaint o bobl ag y gallwn ymdopi â hwy yn dod at ei gilydd yn y maes tai cydweithredol yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb yna ac, i'r record, hoffwn ddiolch i Vikki Howells am gyflwyno'r adroddiad yn y grŵp trawsbleidiol y bore yma. Mae yna gefnogaeth drawsbleidiol i ddatblygu cynllun o'r fath, ac felly dwi'n edrych ymlaen i weld y camau fydd yn cael eu cymryd i'r perwyl yma.
Os caf i fynd ymlaen i retroffitio, os gwelwch yn dda. Mae tlodi tanwydd yn broblem anferthol, fel rydych chi'n gwybod, ar draws Cymru, ac rydw innau'n gwybod fel Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd am effaith andwyol tlodi tanwydd ar y cymunedau yno. Mae gennym ni'r stoc dai hynaf yng ngorllewin Ewrop ac maen nhw ymhlith y tai lleiaf effeithiol o ran ynni. Mae hyn yn arwain at lawer o bobl yn gorfod dewis rhwng gwresogi eu tai neu gael bwyd—dewis na ddylai neb orfod ei wynebu. Mae prisiau tanwydd ar eu huchaf ac mae'r cap ar bris ynni am gynyddu 54 y cant o 1 Ebrill, fel rydych chi'n gwybod. Mae'r rhai hynny ar dariff rhagosodedig sy'n talu trwy ddebyd uniongyrchol am weld cynnydd o rhwng £693 a £1,971 y flwyddyn ar gyfartaledd. Bydd hyn yn gwthio dros 0.25 miliwn o bobl yng Nghymru i fewn i dlodi tanwydd.
Mae angen inni fynd i'r afael â thlodi tanwydd rŵan, yn fwy nag erioed, drwy ymateb i'r argyfwng a gwella effeithlonrwydd ynni tai. Hefyd, mae'n werth nodi bod 10 y cant o allyriadau carbon Cymru yn dod o anheddau preswyl, a bydd datrys tlodi tanwydd yn ein cynorthwyo i fynd i frwydo yn erbyn newid hinsawdd. Mae'r sector tai cymdeithasol am fod yn allweddol wrth inni ddadgarboneiddio ein tai a sicrhau bod y budd economaidd o wneud hynny yn aros yng Nghymru. Mae'n her sydd angen ei gweithredu o fewn y 10 mlynedd nesaf. Bydd y Gweinidog yn gwerthfawrogi, wrth gwrs, na fydd dadgarboneiddio tai yn medru cael ei weithredu heb y cyfuniad cywir o grantiau, cyllid preifat, safonau rheoleiddio a llwybr clir—road map—wedi cael ei osod.
Mae'r gyllideb derfynol—
Cwestiwn, plis, Mabon ap Gwynfor.
Rwy'n dod ato rŵan, diolch yn fawr iawn am eich amynedd.
Mae'r gyllideb derfynol—
Dyw e ddim yn ddi-ben-draw. [Chwerthin.]
—yn neilltuo £35 miliwn yn ychwanegol o'r cyfalaf trafodiadau ariannol—y financial transactions capital—i arbrofi a datblygu modelau ariannu newydd er mwyn helpu cyflymu maint a pha mor sydyn y gellir dadgarboneiddio tai yng Nghymru. A all y Gweinidog gadarnhau os bydd y sector tai cymdeithasol yn medru cael mynediad neu fudd o'r ariannu yma—[Torri ar draws.]
Yn nes ymlaen, efallai. Yn nes ymlaen.
A sut bydd y gronfa yn cael ei defnyddio er mwyn medru cyflymu'r polisi a'r ariannu dadgarboneiddio tai?
Cwestiwn da. [Chwerthin.]
Iawn. Rwy'n cael fy nhemtio'n fawr i ddweud 'ie' ac eistedd. [Chwerthin.]
Yn bendant, rydym eisoes wedi gwneud rhywbeth yng Nghymru nad ydynt wedi’i wneud yng ngweddill y DU, sef sicrhau, drwy safon ansawdd tai Cymru, fod ein holl dai cymdeithasol yn cyrraedd lefel D y dystysgrif perfformiad ynni, EPC, sy’n uwch o lawer na'r hyn yr arferai fod. Dywedwyd wrthym dro ar ôl tro na fyddai hynny’n bosibl wrth inni ddechrau ar y daith honno, felly rwy’n falch iawn o ddweud, gydag un eithriad, ac rydym wedi’i dderbyn am resymau COVID, fod pawb arall wedi cyflawni hyn, a bydd yr un eithriad hwnnw wedi gorffen y broses honno erbyn diwedd y flwyddyn hon.
Felly, rydym eisoes yn cael trafodaethau â'n cynghorau a'n landlordiaid cymdeithasol ynghylch sut beth fydd safon ansawdd tai Cymru 2, a beth fydd yn ddisgwyliedig, a fyddwn yn gofyn iddynt gynyddu lefelau EPC tai i B neu A, beth fyddwn yn ei wneud gyda'r tai na ellir eu codi i'r safon honno a pha fesurau eraill y gellir eu rhoi ar waith. Rydym hefyd yn dysgu’r gwersi o safon ansawdd tai Cymru 1, oherwydd ar gyfer y rhan helaethaf o gartrefi, roedd yn llwyddiannus iawn, ond i rai cartrefi, nid oedd yn llwyddiannus ac arweiniodd at broblemau gydag anwedd dŵr a lleithder, y gwn y bydd yr Aelodau'n gyfarwydd â hwy, ac rwy'n sicr yn gyfarwydd â hwy yn fy etholaeth fy hun. Felly, rydym wedi dysgu’r wers honno. Rydym wedi rhoi’r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio ar waith i ganfod beth sydd ei angen ar bob tŷ yng Nghymru, felly pa gyfuniad o’r math o insiwleiddio, technoleg, y math o do ac ati sy’n ofynnol fel bod eiddo'n cyrraedd y sgôr EPC uchaf y gallant ei chyflawni.
Nid ydym ychwaith wedi cyhoeddi cynllun i olynu cynllun Arbed eto. Roedd cynllun Arbed yn dda iawn i lawer o bobl mewn tlodi tanwydd yng Nghymru, am ei fod yn darparu boeleri llawer mwy effeithlon yn lle rhai aneffeithlon iawn, ond roeddent yn dal i fod yn foeleri nwy ac roeddent yn dal i gyfrannu allyriadau carbon, felly nid ydym am wneud hynny, ond nid yw’n ddigon dweud, 'Fe rown ni bwmp gwres ffynhonnell aer i chi,’ oherwydd, fel rwyf wedi’i ddweud droeon yn y Siambr hon, mae hynny cystal â gwresogi’r cae y tu ôl i’ch tŷ ar gyfer rhai tai. Felly, mae angen y cyfuniad hwnnw arnom.
Fel y gwnaethom gyda safon ansawdd tai Cymru, byddwn yn gorsgilio’r gweithlu drwy’r prosiectau tai cymdeithasol, fel y gallwn gynnig grantiau i bobl yn y sector preifat wedyn, gan wybod beth fydd yn gweddu i’w math o dŷ a gwybod y byddwn yn cael gwerth da am arian. Credaf fod Aelod arall o grŵp Plaid Cymru ar fin gofyn cwestiwn ar y papur trefn i mi ynglŷn â rhai o'r problemau a gawsom, a'r hyn y ceisiwn ei wneud yw dysgu'r gwersi hynny, fel nad ydym yn gosod y math anghywir o ateb technolegol yn y math anghywir o eiddo. Felly, mae’r pethau hyn bob amser yn llwyddiannus iawn i’r rhan fwyaf o bobl sy'n eu cael, ond wedyn rydym wedi cael problemau gyda rhai tai, felly rydym yn ceisio dysgu’r gwersi hynny a sicrhau ein bod yn darparu'r ateb iawn yn y lle iawn. Felly, cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi safon ansawdd tai newydd Cymru er mwyn gwella hynny.
Mae gwaith i'w wneud yn y sector rhentu preifat i sicrhau bod gennym y cymelliadau cywir, fel nad yw pobl yn dod allan o'r sector ond yn sicrhau bod eu tai yn cyrraedd y safon, fel rwyf wedi'i nodi droeon, ac mae amrywiaeth o bethau eraill y gallwn eu gwneud ar gyfer perchen-feddianwyr, gan gynnwys defnyddio dull abwyd a ffon yn y system dreth leol, y byddwn am eu cyflwyno ar lawr y Senedd.