1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 2 Mawrth 2022.
5. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei roi i gwmnïau yn sir Benfro i’w helpu i leihau eu hallyriadau carbon? OQ57722
Diolch, Cefin. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig ystod eang o gymorth i helpu busnesau i leihau eu heffaith amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys ein cynghorwyr effeithlonrwydd adnoddau Busnes Cymru, sydd, ers 2016, wedi cynorthwyo 170 o fusnesau sir Benfro i wella eu strategaethau cynaliadwyedd amgylcheddol.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Ychydig o wythnosau yn ôl, ces i'r pleser o gwrdd ag awdurdod porthladd Aberdaugleddau a chael cyfarfod buddiol iawn ynglŷn â'u cynlluniau nhw ar gyfer y dyfodol. Daeth hi i'r amlwg yn y cyfarfod hwnnw, wrth i Gymru geisio cynyddu ei hymdrechion i gyrraedd ei thargedau net zero wrth fanteisio i'r eithaf, wrth gwrs, ar gyfleoedd twf gwyrdd, bod angen i'r prif gyflogwyr olew a nwy yn sir Benfro drawsnewid o'u sectorau traddodiadol er mwyn lleihau allyriadau carbon a datblygu diwydiannau gwyrdd newydd o gwmpas porthladd Aberdaugleddau, er enghraifft, sy'n cynnal dros 4,000 o swyddi da yn lleol. Felly, yn ogystal â phroject morol Doc Penfro, sy'n rhan o fargen ddinesig bae Abertawe, fel y gwyddoch chi, a wnewch chi amlinellu a yw Llywodraeth Cymru'n barod i fuddsoddi ymhellach ac yn uniongyrchol mewn rhai o'r technolegau megis hydrogen a gwynt o'r môr, a hefyd cynlluniau i ddal carbon, carbon capture, er mwyn darparu swyddi gwyrdd yn ardal sir Benfro gan ddatgloi cyfle posibl gwerth £5 biliwn i'r rhanbarth ac i Gymru?
Yn sicr. Rwy'n hapus iawn i wneud hynny, oherwydd rydym yn awyddus iawn i sicrhau'r swyddi gwyrdd hynny. Fe fyddwch yn gwybod bod ein cynllun Cymru Sero Net yn tynnu sylw at sut yr ydym yn awyddus i leihau allyriadau gan gyflawni'r manteision ehangach yr ydych newydd eu hamlinellu. Ar hyn o bryd rydym wedi darparu £6 miliwn o gymorth grant cynllun diogelu'r amgylchedd i Valero, i gynorthwyo eu hymdrechion datgarboneiddio. Mae hynny wedi sicrhau £120 miliwn o fuddsoddiad i osod safle cydgynhyrchu i leihau allyriadau a'u tynnu oddi ar y grid. Rydym wedi darparu ystod o gymorth arloesi, gan gynnwys £100,000 o arian sefydlu ar gyfer datblygiad prosiect Milford Haven: Energy Kingdom, sydd wedi ysgogi £4.5 miliwn o gyllid DU a Gweriniaeth Iwerddon. Fel y dywedoch chi, Cefin Campbell, mae busnesau sir Benfro yn chwarae rhan bwysig yng nghlwstwr diwydiannol de Cymru. Mae un o'r busnesau hynny, RWE, wedi lansio canolfan sero net i wneud y mwyaf o botensial hydrogen, gwynt arnofiol ar y môr a dal carbon, ac roeddwn yn falch iawn o siarad yng nghynhadledd y porthladdoedd i dynnu sylw at eu hymdrechion. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu astudiaeth ddichonoldeb cam 2 gwerth £100,000 ar gyfer cyflenwi hydrogen gwyrdd i sir Benfro ac Aberdaugleddau, gan ddefnyddio technoleg cynhyrchu hydrogen gwynt arnofiol ar y môr ERM Dolphyn.
Mae'r cwmnïau hyn i gyd yn allweddol i glwstwr y môr Celtaidd a'n pwyslais ar y diwydiant ynni adnewyddadwy ar y môr. Mae gennym hefyd y gronfa her datgarboneiddio a COVID sy'n agored i fusnesau bwyd a diod, felly y tu hwnt i'r busnes ynni ei hun, i geisio helpu adferiad yn sector bwyd a diod Cymru, yr effeithiodd y pandemig yn andwyol arno. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyngor busnes, gwybodaeth a chyfeirio cyffredinol, yn ogystal â meysydd cyngor arbenigol megis effeithlonrwydd adnoddau a chyfeirio at bolisïau gwyrdd i leihau allyriadau carbon ledled Cymru drwy Busnes Cymru, ac mae nifer o fusnesau sir Benfro wedi cysylltu â ni ynglŷn â hynny. A'r un olaf i dynnu sylw ato yw prosiect Milford Haven: Energy Kingdom yn sir Benfro, sef y prosiect £4.5 miliwn hwnnw, sy'n dangos y rôl hanfodol y gall hydrogen ei chwarae mewn dyfodol ynni wedi'i ddatgarboneiddio. Roeddwn am dynnu sylw at yr un pwynt hwnnw, oherwydd dyna'r allwedd—trosglwyddo o danwydd ffosil i fath gwahanol o dechnoleg sy'n diogelu'r swyddi medrus iawn sy'n rhan o'r clwstwr hwnnw yn sir Benfro.
Weinidog, yn gynharach eleni cefais y pleser o ymweld â datblygiad arobryn Pludds Meadow y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai yn Nhalacharn yn fy etholaeth i, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, safle a weithredir gan Salem Construction, sy'n cynhyrchu cartrefi ansawdd uchel sy'n defnyddio ynni'n effeithlon ar gyrion un o drefi enwocaf sir Gaerfyrddin. Roedd yr adeiladwyr yn awyddus iawn i leihau eu hôl troed carbon, gan ddefnyddio staff lleol ac eitemau fel pympiau gwres ffynhonnell aer i wresogi eu cartrefi. A wnewch chi amlinellu pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau fel Salem Construction i helpu i leihau eu hallyriadau carbon hyd yn oed ymhellach, drwy'r ffordd y caiff eu busnesau eu rhedeg a thrwy barhau i gynhyrchu cartrefi sy'n creu ôl troed carbon bach? Diolch.
Rydym yn croesawu'n llwyr y symudiad gan nifer fawr o gynhyrchwyr bach a chanolig eu maint ledled Cymru tuag at dai carbon isel. Byddwn hefyd yn cyflwyno newidiadau i'n rheoliadau adeiladu—bydd fy nghyd-Aelod, Lee Waters, yn cyflwyno newidiadau i'r rheoliadau adeiladu i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon honno ar gyfer pawb, ac rwy'n hapus iawn i weld nifer o gwmnïau BBaChau, fel yr un y sonioch chi amdano, yn arwain y ffordd.
Fel rwyf newydd ei ddweud wrth ateb Cefin Campbell, rydym yn darparu ystod eang o gyngor busnes cyffredinol drwy Busnes Cymru, sy'n cynnwys effeithlonrwydd adnoddau, cymorth ar bolisïau gwyrdd i leihau allyriadau ac yn y blaen. Rydym hefyd yn hapus iawn i weithio gydag unrhyw gyflenwr tai gwyrdd i'n helpu i'w defnyddio i adeiladu ein tai cymdeithasol ac i adeiladu ystadau deiliadaeth gymysg fel bod gennym dai tebyg ym mhob man, fel nad oes gennym bobl yn wynebu tlodi tanwydd yn y dyfodol. Ac rydym hefyd yn awyddus iawn—. Unwaith eto, mae gan y Dirprwy Weinidog a minnau fforwm adeiladu, sy'n is-grŵp tai, ac rydym yn awyddus iawn i gael busnesau bach a chanolig fel yr un y sonioch chi amdano yn dod i'r fforwm adeiladu i rannu arferion da ac i glywed am amrywiaeth o fenthyciadau a chyfleoedd eraill sydd gennym—cronfeydd safleoedd segur ac yn y blaen—i gyflwyno tir i'w ddatblygu a fydd yn caniatáu i'r BBaChau sy'n adeiladu tai mor hyfryd gael gafael ar gyllid i sicrhau bod datblygiadau pellach yn cael eu defnyddio yng Nghymru cyn gynted â phosibl.