Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 2 Mawrth 2022.
Ceir llawer gwell dealltwriaeth o anhwylderau bwyta erbyn hyn nag a oedd 50 mlynedd yn ôl. Gallaf gofio brodyr a chwiorydd ffrindiau i mi yn ei chael hi'n anodd deall beth y gallent ei wneud, ac nid oedd y proffesiwn meddygol yn gwybod yn iawn beth i'w wneud y tu hwnt i orfodi bwyd ar bobl a oedd yn benderfynol o lwgu eu hunain i farwolaeth.
Felly, rydym bellach mewn sefyllfa well o lawer i ymdrin â hyn, ac mae llawer llai o stigma ynghlwm wrtho hefyd. Mae dioddefwyr enwog iawn, fel Diana Spencer, Tywysoges Cymru, yn ei gwneud yn llawer mwy tebygol y bydd pobl ifanc yn gofyn am gymorth, ond rydym ymhell iawn o lle y mae angen inni fod. Credaf fod adolygiad 2018 yn grynodeb da o’r broblem a’r camau yr oedd angen eu cymryd. Felly, roedd yn siomedig na roddwyd unrhyw ymateb ffurfiol i’r adroddiad rhagorol hwnnw tan fis Medi 2019, a chymerodd 15 mis arall i recriwtio arweinydd clinigol ar gyfer anhwylderau bwyta. Clywn gan Beat fod yr unigolyn dan sylw wedi cael effaith gadarnhaol iawn ers iddi ddechrau ar y gwaith, sy’n ddatblygiad cadarnhaol wrth gwrs. Ond mae llawer iawn o rwystrau ac anawsterau yma, ac mae gwir angen inni fod yn onest ynglŷn â hynny.
Cafodd un o fy etholwyr, a ddatblygodd anhwylder bwyta difrifol yn ystod y cyfyngiadau symud, ei derbyn i'r ysbyty i ward CAMHS yn y lle cyntaf, cyn cael ei rhyddhau oherwydd ymchwydd o achosion COVID, ac yna cafodd ei gadael ar ei phen ei hun fwy neu lai, ac yn anffodus, dywedwyd wrthi fod yr ysbyty agosaf lle gallai fynd am wasanaeth anhwylderau bwyta arbenigol yn Wiltshire. Nid oedd unrhyw beth ar gael yng Nghymru. Rwy'n derbyn ein bod ynghanol pandemig ar y pryd, ond yn anffodus, fe geisiodd ladd ei hun, ac yn ffodus, cafodd ei hachub gan Ysbyty Athrofaol Cymru yn y Mynydd Bychan, ac mae bellach yn ymgyrchydd gwych dros sicrhau nad yw pobl eraill yn gorfod wynebu'r hyn a wynebodd hi, felly rwy'n rhoi pob clod iddi.
Felly, yn sicr, gallwn weld o adolygiad Beat fod y pandemig wedi rhoi gwynt dan adain yr anhwylder. Gallwn weld y ffigurau y maent yn eu dyfynnu: cynnydd o 300 y cant yn nifer y bobl sy’n ceisio cymorth o gymharu â’r cyfnod cyn y pandemig, a chynnydd o 50 y cant mewn atgyfeiriadau mewn o leiaf ddau fwrdd iechyd. Felly, mae llawer mwy o gleifion angen cymorth nag sydd o glinigwyr i'w cefnogi.
Ond mae'n rhaid inni ddechrau yn y dechrau. Mae'n rhaid inni sicrhau bod ysgolion yn llawer mwy ymwybodol o'r arwyddion pan fyddant yn ymddangos. Mae fy etholwr yn gwneud pwyntiau da iawn ar hyn. Mae'n fater cymhleth iawn. Dyma’r ochr arall i’r datganiad a gawsom ddoe ar y strategaeth gordewdra. Faint o ysgolion sy'n cyfrannu'n weithredol neu'n oddefol at y broblem drwy annog pobl ifanc i beidio â chael cinio oherwydd diffyg amser, neu ddiffyg lle yn yr ystafell fwyta i'w wneud yn brofiad dymunol yn hytrach nag un y byddwch yn dymuno dianc rhagddo a mynd i guddio yn rhywle arall? Yn amlwg, mae hynny’n cael effaith fawr ar ddysgu myfyrwyr, yn ogystal â phroblemau hirdymor posibl i’w perthynas â bwyd.
Felly, yn sicr, dyna lle y mae angen inni ddechrau, ond mae angen i feddygon teulu fod yn llawer mwy ymwybodol o'r arwyddion hefyd, fel eu bod o ddifrif ynglŷn â hyn yn hytrach na gwthio pobl o bared i bost. Oherwydd nid yw'n ddigon da mynd at un gwasanaeth a chlywed, 'O, mae'n rhaid inni eich pwyso', a mynd at y gwasanaeth clinigol wedyn, sy'n dweud 'Mae'n rhaid inni eich pwyso.' Mae pobl yn cael yr argraff fod yn rhaid iddynt fynd yn salach cyn y gallant gael unrhyw sylw. Wel, mae hynny'n gwbl groes i'r ffordd y mae angen inni ymdrin â'r gwasanaeth iechyd. Felly, credaf fod angen dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, dim drws anghywir, a pheidio â gorfod dweud eich stori 65 o weithiau cyn i chi allu cyrraedd unman.
Felly, ceir rhai heriau difrifol iawn, ac rwy'n siŵr fod y Dirprwy Weinidog yn eu hystyried, ond mae angen inni wybod beth a wnawn i recriwtio mwy o seiciatryddion, mwy o bediatregwyr ac arbenigwyr meddygol eraill. Dywed Beat y gallai fod llai ohonynt nag a oedd cyn adolygiad 2018. Golyga hyn ein bod yn y man cwbl anghywir, nid lle mae angen inni fod. Mae angen inni gael her recriwtio a chadw staff a fydd yn sicrhau ein bod yn cadw'r rheini y llwyddwn i’w recriwtio ac nad ydym yn eu gorweithio. Felly, mae gennyf gryn ddiddordeb mewn clywed yr hyn sydd gan y Gweinidog i’w ddweud, ond mae hwn yn fater difrifol iawn, a diolch i Blaid Cymru am ei gyflwyno.