– Senedd Cymru am 6:14 pm ar 8 Mawrth 2022.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar setliad llywodraeth leol 2022-23. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig—Rebecca Evans.
Diolch. Heddiw, rwy'n cyflwyno setliad llywodraeth leol 2022-23 i'r Senedd i'w gymeradwyo ar gyfer y 22 awdurdod unedol yng Nghymru. Yn gyntaf, hoffwn gofnodi fy niolch i lywodraeth leol am y ffordd y mae wedi trafod y cylch setliad hwn, ac am y gwaith hollbwysig y mae'n ei wneud o ddydd i ddydd yn ein cymunedau ac i bobl a busnesau ledled Cymru, yn enwedig, wrth gwrs, o ystyried digwyddiadau'r ddwy flynedd diwethaf. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i ddiolch iddyn nhw am eu gwaith caled a'u hymroddiad. Wrth baratoi cyllideb Cymru a'r setliad hwn, rydym ni wedi ymgysylltu â llywodraeth leol drwy gydol y prosiect. Rwy'n ddiolchgar i lywodraeth leol am y ffordd y cynhaliwyd y trafodaethau hynny, ac i fy swyddogion am y gwaith manwl a gofalus y maen nhw wedi ei wneud fel rhan o'r broses hon.
Eleni, rwy'n falch o gynnig setliad i'r Senedd ar gyfer 2022-23 sydd 9.4 y cant yn uwch na'r setliad yn y flwyddyn ariannol gyfredol ar sail tebyg am debyg. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o £437 miliwn yn ystod 2021-22, gyda'r cynnydd lleiaf ar gyfer awdurdodau lleol yn y setliad hwn, sef 8.4 y cant, yn uwch na'r cynnydd ar gyfer unrhyw awdurdod mewn unrhyw setliad blaenorol am o leiaf 17 mlynedd. Yn 2022-23, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael £5.1 biliwn mewn dyraniadau refeniw cyffredinol, o gyllid craidd ac ardrethi annomestig. Mae hwn yn setliad da i lywodraeth leol, gan gynnwys dyraniadau cyllid craidd ar lefel Cymru ar gyfer 2023-24 a 2024-25. Mae'n rhoi llwyfan sefydlog i awdurdodau lleol gynllunio eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf a thu hwnt.
Rydym wedi gweithio'n agos gyda llywodraeth leol, ac rydym yn sylweddoli'r pwysau y maen nhw'n eu hwynebu. Byddwn yn parhau i amddiffyn llywodraeth leol, yn arbennig ar yr adeg anodd a heriol hon. Wrth wneud penderfyniadau am lefel y cyllid ar gyfer llywodraeth leol, ymatebais i'r angen i sicrhau bod staff diwyd yn cael codiad cyflog haeddiannol yn y dyfodol. Yn benodol, rwyf wedi cynnwys cyllid i alluogi awdurdodau lleol i gyflawni ein cyflog byw go iawn ar gyfer ymrwymiad gofal cymdeithasol, yn ogystal â chostau cynyddol cyflog athrawon ac, yn ehangach, i dalu am y costau uwch y bydd awdurdodau lleol yn eu hwynebu o ganlyniad i gyhoeddiad Llywodraeth y DU i gynyddu'r cyfraniadau yswiriant gwladol i gyflogwyr.
Yn ogystal â'r cyllid craidd heb ei neilltuo a ddarparwyd drwy'r setliad, rwy'n ddiolchgar bod fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet wedi darparu gwybodaeth ddangosol am grantiau refeniw a chyfalaf a gynlluniwyd ar gyfer 2022-23. Ar hyn o bryd, mae'r rhain bron i £1.2 biliwn ar gyfer refeniw, a dros £740 miliwn ar gyfer cyfalaf ar gyfer ein blaenoriaethau cyffredin gyda llywodraeth leol. Bydd cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer llywodraeth leol ar gyfer 2022-23 yn cael ei bennu ar £150 miliwn. Bydd hyn yn cynyddu i £200 miliwn ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol, gan gynnwys £20 miliwn ym mhob blwyddyn i alluogi awdurdodau i ymateb i'n blaenoriaeth ar y cyd o ddatgarboneiddio.
Yn ogystal, ysgrifennais at arweinwyr awdurdodau lleol fis diwethaf i gyhoeddi £70 miliwn arall o gyfalaf yn y flwyddyn ariannol gyfredol, i gefnogi rhaglenni cyfalaf cyffredinol awdurdodau, gan gynnwys effeithiau ar briffyrdd. Rwyf hefyd yn cyhoeddi heddiw £60 miliwn ychwanegol, i'w ychwanegu at setliad y flwyddyn gyfredol, i helpu awdurdodau lleol i reoli eu cyllidebau'n fwy effeithiol dros y cyfnod 2021-22 i 2024-25, yn erbyn cyd-destun chwyddiant a phwysau gwasanaeth a diwedd y gronfa caledi llywodraeth leol. Bydd yr arian hwn hefyd yn galluogi llywodraeth leol i ymateb i'w huchelgais i gynyddu eu gallu yn y gwasanaeth cymorth cartref, drwy ariannu gwersi gyrru a darparu mynediad i gerbydau trydan. Bydd hyn hefyd yn helpu awdurdodau i barhau i ddatgarboneiddio eu gwasanaethau ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae'r adroddiad diweddaraf ar effaith yr hinsawdd ac ymaddasu sydd wedi ei gyhoeddi gan y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd yn dangos yn glir pa mor bwysig yw hi ein bod ni i gyd yn gwneud hynny. Gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig.
Diolch i'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw ar setliad llywodraeth leol 2022-23. Ar y pwynt hwn, rwyf am ddatgan buddiant fy mod yn dal i fod yn aelod etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac yn anffodus, ar ôl 14 mlynedd, bydd hynny'n newid yn fuan eleni. Yn sicr, hoffwn ymuno â'r Gweinidog i gydnabod y gwaith eithriadol sydd wedi ei wneud gan ein cynghorau drwy gydol pandemig COVID-19. Aethon nhw y filltir ychwanegol i ddarparu'r gwasanaethau eithriadol hynny i bobl leol, a dangoson nhw yr hyn y gellir ei wneud pan fyddan nhw'n cael eu galluogi i wneud hynny. Ond mae'n hanfodol nodi bod y gwaith da hwn wedi digwydd cyn y pandemig hefyd, ac y bydd yn parhau ar ôl hynny, a dyna pam mae'r setliadau llywodraeth leol hyn a setliadau llywodraeth leol yn y dyfodol mor bwysig. Mae'n rhaid i gynghorau gael eu hariannu'n ddigonol, i'w galluogi i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sydd eu hangen ar ein trigolion.
Mae gan y setliad y potensial bob amser i ryddhau cynghorau a chaniatáu iddyn nhw gyflawni eu potensial llawnaf. Ar yr ochr hon i'r meinciau, nid ydym yn credu bod hyn wedi digwydd yn hwn yn y fan yma heddiw. Mae tri maes yr hoffwn eu codi sy'n tynnu sylw at y mater hwn yn benodol. Mae'r cyntaf yn ymwneud â fformiwla ariannu llywodraeth leol. Fel y mae arweinwyr cynghorau a Chyngor Llywodraeth Leol Cymru wedi ei ddweud, mae cynnydd o 9.4 y cant mewn cyllid, wrth gwrs, i'w groesawu. Rwyf i'n sicr yn cydnabod y cynnydd sylweddol hwn i gyllid i gynghorau. Serch hynny, daw'r cyllid hwn ar ôl blynyddoedd o danariannu. Mae'n bwysig nodi hefyd, er gwaethaf y cynnydd hwn o 9.4 y cant, fod cyllid refeniw Llywodraeth Cymru mewn termau real wedi gostwng tua 17 y cant i gynghorau dros y degawd diwethaf. Ac er gwaethaf y cynnydd mawr hwn, rydym yn dal i weld cynghorau ar hyd a lled Cymru yn gorfod codi'r dreth gyngor yn sylweddol i ymdrin â'r pwysau y maen nhw'n eu hwynebu.
Un maes y mae hyn yn cyfeirio ato yn y fformiwla ariannu, efallai y mae angen ei ystyried eto, yw'r cronfeydd wrth gefn sydd gan gynghorau. Mae gan rai cynghorau gronfeydd wrth gefn sylweddol y gellir eu defnyddio, a ddylai, yn fy marn i, gael eu defnyddio er budd dinasyddion ac nid eu dal yn ôl. Cafwyd enghraifft o hyn yn 2021, y flwyddyn ariannol cyn eleni, pan oedd gan gynghorau Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Chaerffili y swm mwyaf o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio, sef £208 miliwn, £183 miliwn a £180 miliwn yn y drefn honno—mae hynny'n werth bron i £600 miliwn o gronfeydd wrth gefn rhwng tri chyngor. Roedd gan gynghorau eraill fel Merthyr Tudful, Conwy a sir Fynwy gronfeydd wrth gefn o £27 miliwn, £30 miliwn a £32 miliwn yn y drefn honno—sy'n llai na £90 miliwn rhyngddyn nhw. Mae problem yn y modd y gall rhai cynghorau barhau i gael cyllid sylweddol, a lefelau sylweddol o gronfeydd wrth gefn, ond bydd eraill yn ei chael hi'n anodd. Mater arall sy'n ymwneud â'r fformiwla ariannu yw'r data a ddefnyddir, rwyf i wedi codi hyn o'r blaen yn y Siambr. Diolch, Gweinidog, am gydnabod rhywfaint o'r gwaith yr ydych chi a'ch swyddogion yn debygol o'i wneud ar hyn a'i adolygu, gan fod rhai agweddau ar y fformiwla ariannu dros 20 mlwydd oed—rhai o'r pwyntiau data. Diolch i chi am fwriadu adolygu hynny ac rwy'n edrych ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynny cyn gynted â phosibl. Dyna'r maes cyntaf—y fformiwla ariannu.
Mae'r ail faes sy'n broblem, yn fy marn i, yn un diweddar iawn. Nid wyf wedi clywed dim heddiw ynghylch sut y bydd y rhai sy'n ffoi o Wcráin yn cael eu cefnogi drwy gynghorau. Mae'n debygol y bydd cynghorau'n cynnig llety i'r ffoaduriaid hynny sy'n dod o Wcráin. Byddai'n ddiddorol i mi wybod a roddwyd ystyriaeth yn y fformiwla ariannu a'r setliad i alluogi cynghorau i gefnogi'n briodol y rhai sy'n ffoi o Wcráin dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Rydym yn gwybod bod cynghorau eisoes dan bwysau mewn gwasanaethau tai. Mae llawer o gynghorau'n gorfod rhoi symiau sylweddol o arian i dai ar hyn o bryd. Felly, mae angen rhagor o gymorth yno, rwy'n siŵr, i alluogi cynghorau i ddarparu gwasanaethau'n briodol.
Yn olaf, mae pryder o hyd mewn cynghorau ynghylch cytundeb cydweithredu'r Llywodraeth a Phlaid Cymru, yn benodol yr effeithiau y bydd yn eu cael ar wasanaethau a ddarperir gan y cynghorau hynny. Rydym yn gwybod eisoes bod y cytundeb cydweithredu wedi ymrwymo i dynnu rhai pwerau oddi ar gynghorau a newid y dreth gyngor yn sylweddol. Byddan nhw yn ofynion newydd sylweddol i gynghorau o ran cyflawni llawer o bolisïau newydd, ac nid yw'n ymddangos eu bod nhw i gyd yn cael eu hariannu'n llawn nac yn briodol. Felly, byddai'n ddiddorol clywed a oes gan y Gweinidog unrhyw bryderon ynghylch ariannu a chyflawni rhai agweddau ar y cytundeb cydweithredu sydd ar waith ar hyn o bryd.
Ac i gloi, Dirprwy Lywydd, fel y mae'r Gweinidog eisoes wedi cydnabod, rwy'n siŵr, rydym ni, yn y Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi'r cynnydd i'r setliad llywodraeth leol ac yn gwerthfawrogi'r elfennau cadarnhaol yn hyn i gynghorau. Fodd bynnag, mae yn ofid i ni sut y mae'r setliad llywodraeth leol yn parhau i beidio ag ymdrin â rhai o'r materion yr wyf wedi eu codi heddiw. Oherwydd hyn a'r hyn yr wyf wedi ei amlinellu, byddwn yn ymatal heddiw. Serch hynny, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am yr arian a gydnabyddir yn y setliad ac am ei chydweithrediad a'i thrafodaethau parhaus ar y setliad. Diolch yn fawr iawn.
Rwyf innau hefyd eisiau cychwyn fy nghyfraniad i i'r ddadl yma yn y man dyledus, sef i ddiolch i gynghorau, i gynghorwyr ac i swyddogion a staff yr awdurdodau lleol am y gwaith aruthrol maen nhw wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf. Maen nhw wedi profi, os oedd angen profi efallai—dwi ddim yn meddwl bod—pwysigrwydd yr haen yna o lywodraethiant, yr haen agosaf efallai i'r ffas lo. Mi wnaethon nhw gamu i fyny, wrth gwrs, a chreu'r atebion bespoke, perthnasol, yn adlewyrchu anghenion eu cymunedau lleol nhw mewn modd y byddai llywodraeth genedlaethol ddim yn gallu ei wneud. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod hynny ac yn cadw hynny mewn cof pan ddaw'n drafodaethau ar siâp llywodraeth leol yn y blynyddoedd i ddod.
Mae setliad o gynnydd o 9.4 y cant yn rhywbeth i'w groesawu. Mae'n sicr yn fwy, efallai, nag oedd nifer o fewn llywodraeth leol wedi disgwyl, ac efallai y gallwn ni ddweud ei fod e'n hael, yn sicr ar yr edrychiad cyntaf. Ond pan ŷch chi wedyn yn sylweddoli mai'r realiti yw bod nifer o'r elfennau a ariannwyd y tu allan i'r RSG yn y gorffennol nawr yn rhan o'r setliad, ac os ychwanegwch chi y gefnlen yna rŷm ni wedi clywed amdani, o gostau yn cynyddu, chwyddiant yn mynd i fod yn sylweddol uwch, efallai, na fyddai rhai ohonom ni wedi rhagweld ac, yn wir, y byddai neb ohonom ni yn dymuno, a'r ymrwymiad i godiadau cyflog, sydd wrth gwrs yn berffaith iawn i'w wneud, yn sydyn iawn efallai fod y setliad ddim yn edrych mor hael ag y byddai fe wedi gwneud fel arall.
Mae blwyddyn 1 yn dweud un stori, ond mae blynyddoedd 2 a 3 yn dweud stori arall hefyd, onid ydynt? Oherwydd mae'r setliad yn fflat, wedyn, onid yw e, am yr ail a'r drydedd flwyddyn i bob pwrpas. Ac felly os ydyn ni yn cydnabod efallai fod yna elfennau heriol yn mynd i fod yn y flwyddyn i ddod, wel, mae hynny'n mynd i ddwysáu yn sylweddol yn y blynyddoedd y tu hwnt i hynny. Felly, rwy'n credu bod angen reality check, er ein bod ni wrth gwrs yn croesawu y cynnydd. Mae mawr ei angen e oherwydd mi fydd pwysau aruthrol yn dal i fod ar y cyllid hwnnw, a'r angen yn dal i fod hefyd wedyn, wrth gwrs, i gynyddu treth y cyngor ac yn y blaen, er mwyn ceisio gwneud i fyny neu geisio ymateb i'r pwysau yna.
Er ein bod ni'n dod allan o un argyfwng, wrth gwrs, sef COVID, rŷm ni yn gwbl ymwybodol o'r argyfyngau newydd sydd yn ein cwmpasu ni nawr, o safbwynt costau byw a'r sefyllfa yn Wcráin, ac yn y blaen, ac mae hynny yn mynd i wneud sefyllfa anodd yn waeth. Mae costau bwyd yn cynyddu, mae costau tanwydd yn cynyddu, ac mae'r goblygiadau o safbwynt awdurdodau lleol yn sylweddol—o safbwynt ysgolion a'r gwasanaeth addysg, gofal, a llu o wasanaethau eraill. Mae costau yn cynyddu ar union yr un pryd ag y bydd galw am nifer o wasanaethau awdurdodau lleol yn cynyddu hefyd. Felly, y cwestiwn yw, yn ei hanfod: faint o sgôp sydd yna i gamu i'r adwy flwyddyn nesaf os bydd pethau yn gwaethygu yn fwy, efallai, na'r hyn rŷm ni'n ei rhagweld? I ba raddau y mae gan y Llywodraeth gynlluniau neu gyllid wrth gefn i fedru camu i mewn, petai angen gwneud hynny?
Dwi hefyd eisiau ategu y pwynt a wnaethpwyd ynglŷn â'r fformiwla ariannu ac ailadrodd, i raddau, yr hyn a ddywedwyd ychydig o wythnosau yn ôl yn y ddadl honno. Tra ei bod hi'n iawn fod y Llywodraeth yn edrych ar sut mae pres cynghorau yn cael ei gasglu drwy dreth y cyngor, dwi yn teimlo ei bod hi hefyd yn amserol i edrych ar sut mae'r arian yna yn cael ei rannu. Ac nid dim ond edrych ar y fformiwla in isolation, ar ben ei hunan; mae angen edrych ar y darlun ehangach o ariannu awdurdodau lleol. Oherwydd dwi'n clywed mewn adborth gan awdurdodau lleol bod nifer o'r cyfrifoldebau newydd sydd wedi dod i lywodraeth leol sydd i fod yn gost niwtral mewn gwirionedd yn dod â chost mewn sawl gwahanol ffordd. Dwi ddim yn teimlo, efallai, fod yna gyfle wedi bod i edrych ar y darlun global pan fo'n dod i'r sefyllfa gyllido yna. Mae'r fformiwla wedi dyddio. Dŷn ni'n cytuno gyda hynny, ac rŷm ni hefyd yn derbyn, wrth gwrs, beth bynnag yw'r fformiwla, mi fydd yna enillwyr a chollwyr, wrth gwrs. Ond dwi yn teimlo y byddai adolygiad annibynnol yn hynny o beth yn rhywbeth amserol hefyd.
Hoffwn ddweud yn gyntaf ei bod yn braf iawn gweld cynifer o bobl yn eistedd yn yr ystafell hon sydd â phrofiad ar lefel uchel iawn o lywodraeth leol ac yn cymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy'n credu y bydd hynny ond yn ychwanegu at ansawdd y ddadl ar y setliad llywodraeth leol.
Rwy'n croesawu'r setliad. Mae'n newyddion da i awdurdodau lleol. Gan addasu ar gyfer trosglwyddiadau, mae'r cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2022-23 wedi cynyddu 9.4 y cant ar sail tebyg am debyg, ni fydd unrhyw awdurdod yn cael llai nag 8.4 y cant, ac nid oes unrhyw dwyll na thriciau ynghlwm wrth hyn. Rwy'n credu ein bod wedi gweld pan fu achosion o gynnydd yn y gorffennol, a phan fyddwch yn dechrau edrych yn fanwl arnyn nhw, nad oedden nhw gymaint yn union ag yr oeddem ni'n ei ddisgwyl. Mae hyn yn newyddion da iawn. Wrth gwrs, nid yw'n gwneud iawn am doriadau blaenorol yn y gyllideb sydd wedi digwydd, ond mae'n sicr yn gam i'r cyfeiriad iawn o ran darparu arian ychwanegol i awdurdodau lleol. Mae wedi'i groesawu ar draws awdurdodau lleol. Mae'n setliad da ar gyfer eleni.
Gallaf gymharu'r hyn yr wyf i'n ei ddweud am y setliad llywodraeth leol hwn â'r hyn yr wyf wedi'i ddweud mewn blynyddoedd blaenorol. Rwyf wedi'i ddisgrifio'n siomedig, gan arwain llywodraeth leol i dorri gwasanaethau, gan roi pwysau ar wasanaethau allweddol a ddarperir gan awdurdodau lleol, gan arwain at orfodi'r cyngor i gynyddu'r dreth gyngor i wneud iawn am rywfaint o'r diffyg, peidio â darparu digon o adnoddau. Eleni, er nad yw'n mynd i'r afael yn llawn â thoriadau blaenorol, mae'n caniatáu i awdurdodau lleol bennu cyllidebau heb doriadau a heb gynyddu'r dreth gyngor yn sylweddol. Rwyf yn disgwyl, wrth i awdurdodau lleol bennu eu cyfraddau treth, y mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn eu gwneud tua nawr ac yn yr wythnosau nesaf, y bydd y rhan fwyaf yn gosod cynnydd o lai na 2 y cant bryd hynny, a bydd rhai'n gosod cynnydd o 0 y cant. Y setliad llywodraeth leol yw'r cyllid allanol cyfanredol sy'n cael ei ddarparu i awdurdodau lleol i ychwanegu at ei braesept treth gyngor er mwyn iddo wario ar lefel yr asesiad gwariant safonol. Ers i ardrethi busnes gael eu canoli, mae hyn wedi golygu bod y cyllid allanol cyfanredol, sydd bellach yn cynnwys ardrethi busnes, yn gyfran fwy o incwm cynghorau. Nid yw hyn yn gymorth ariannol llwyr i bob awdurdod lleol. Gall awdurdodau lleol godi arian o'r dreth gyngor. Gallant godi incwm o daliadau a ffioedd ac mae hyn yn amrywio yn ôl awdurdod. Mae rhai ffioedd a thaliadau, fel cost ceisiadau cynllunio, wedi'u pennu'n ganolog; mae eraill, fel taliadau parcio ceir, yn cael eu pennu yn gyfan gwbl yn ôl disgresiwn pob cyngor lleol.
Mae setliad cyllid llywodraeth leol yn pennu faint o'r arian a ddarperir ar gyfer Cymru a roddir i bob awdurdod lleol. Mae'r cyllid hwn yn cynnwys y grant cynnal refeniw a'r gyfradd annomestig fel y nodwyd yn gynharach, ac fe'i cyflwynir ar sail fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Gweithgor Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, o'r enw yr is-grŵp dosbarthu, sy'n gyfrifol am sicrhau bod y fformiwla'n cael ei hadolygu'n rheolaidd. Rwy'n siarad fel rhywun a fu unwaith yn eistedd ar is-grŵp dosbarthu ac rwy'n cyfaddef: roeddem ni'n anghywir. Roedd 52 y cant o ffyrdd yn arfer bod yn seiliedig ar boblogaeth, a 48 y cant ar hyd ffyrdd. Fe wnaethom ni benderfynu ei wneud yn 50:50. Nid yw'n ymddangos fel newid mawr, nag yw e? Wel, mewn gwirionedd gwnaeth hyn symud cannoedd o filoedd o bunnoedd allan o Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, a'u rhoi nhw yng Ngwynedd, sir Benfro a Phowys. Felly, gall newidiadau bach gael effeithiau enfawr.
Mae dosbarthiad eiddo ym mhob band yn amrywio'n aruthrol. Mae gan rai awdurdodau dros hanner eu heiddo yn y ddau fand isaf, mae gan eraill, yn fwyaf nodedig sir Fynwy, dros hanner eu heiddo ym mand D ac uwch. Byddem felly'n disgwyl mai'r rhai hynny a fyddai'n cael y cymorth mwyaf gan Lywodraeth Cymru fesul pen fyddai Blaenau Gwent, Merthyr a Rhondda Cynon Taf, a'r tri isaf fesul pen fyddai Bro Morgannwg, sir Fynwy a Chaerdydd, oherwydd bod y cynllun yn gwneud iawn am y dreth gyngor na chaiff ei chasglu. Dyma sy'n digwydd mewn gwirionedd. Roeddwn i'n credu bod y cynnydd blynyddol cymharol wedi'i seilio'n bennaf ar newidiadau wedi'u pwysoli yn y boblogaeth. Yn draddodiadol, Caerdydd yw'r ardal sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, ac mae'n cael y cynnydd mwyaf, ond eleni, mae'r cynnydd mwyaf yn sir Fynwy, ac yna Caerdydd. Caerdydd yw'r drydedd ddinas sy'n tyfu gyflymaf ym Mhrydain; y ddau a'i curodd yw Llundain a Chaeredin. A beth sydd gan Lundain a Chaeredin a Chaerdydd i gyd yn gyffredin?
Rwyf bob amser yn gofyn am ddau beth yn ystod y ddadl hon, ac ni chefais fy siomi eleni. Yn gyntaf, rwy'n galw eto am ddychwelyd ardrethi busnes i awdurdodau lleol. Byddai hynny'n lleihau'r swm sy'n cael ei dalu'n ganolog. Fy ail gais, ac nid wyf yn deall pam na ellir ei wneud, yw i'r cyfrifiadau sy'n cynhyrchu cyllid allanol cyfanredol pob awdurdod gael eu cyhoeddi. Mae'n rhaid ei fod yn bodoli; dyna sut y cyfrifir y cyllid. Mae'r symiau yno: dangoswch eich cyfrifiadau. Rwyf bob amser yn dweud hynny, ac rwyf wedi dweud hynny am Lywodraeth ganolog hefyd o ran yr arian a gawn gan y Lywodraeth ganolog. Hoffwn i bobl ddechrau dangos eu cyfrifiadau. Cyhoeddi'r cyfrifiadau: mae gennych chi nhw, dim ond eu rhoi ar y wefan y mae'n rhaid i chi ei wneud. Byddai'n caniatáu i academyddion, awdurdodau lleol ac eraill wirio bod y symiau yn unol â'r fformiwla yn gywir. Os nad yw Llywodraeth Cymru yn eu darparu'n wirfoddol, yn y pen draw bydd cais rhyddid gwybodaeth yn eu gorfodi i'w ddarparu. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig i bawb weld sut yn union y caiff y cyfrifiadau eu cyfrifo, ac os ydyn nhw'n cael y mwyaf y dylen nhw.
A gaf i ddatgan buddiant hefyd, fel cynghorydd ar Gyngor Sir Fynwy am gyfnod byr eto? Ac rwy'n rhannu'n llwyr y teimladau ynglŷn â'n cynghorau a phopeth y maen nhw'n ei wneud. Rwyf wedi dweud droeon mai'r adnodd mwyaf sydd gan gyngor yw ei staff, ac mae eu staff wedi gwneud yn wych, ac maen nhw'n parhau i wneud hynny, ac rwy'n diolch iddyn nhw am hynny.
Bydd Aelodau'n cofio i ni drafod y fformiwla llywodraeth leol yn ddiweddar yn y Siambr hon, fel y nododd Llyr, felly byddwn ni'n cofio bod llawer o'r ochr hon i'r Siambr, ac yn wir, gyd-Aelodau gyferbyn, wedi dadlau nad yw'r fformiwla ddosbarthu yn gyfredol, ac yn sicr nid yw'n addas i'r diben, ac rwyf i'n mynd i ganolbwyntio ar y maes hwnnw eto heddiw. Bydd Aelodau hefyd yn cofio i mi ddadlau nad oedd y fformiwla yn cydnabod anghenion awdurdodau gwledig a mater poblogaeth isel yn ddigonol mewn unrhyw ffordd ystyrlon, a diolch i Sam Rowlands am godi'r pwynt hwnnw eto heddiw.
Dirprwy Lywydd, i brofi'r pwynt hwn, dim ond agor y ddolen yn yr agenda heddiw i'r adroddiad cyllid llywodraeth leol y mae'n rhaid i Aelodau'r Senedd ei wneud a sgrolio i atodiad 2, yn nodi dangosyddion a gwerthoedd a ddefnyddiwyd wrth gyfrifo asesiadau o wariant safonol cynghorau. Cododd fy nghyd-Aelod Sam Rowlands eto heddiw, ond nododd yn flaenorol, faint o'r data hwnnw a oedd yn anghyfredol, yn enwedig y data gwasgariad a setliad a nodir yn yr adroddiad, sy'n dyddio yn ôl i 1991. Ar wahân i hynny, rwyf eisiau canolbwyntio ar fy mhrif bryderon ynghylch y fformiwla—nad yw'n cydnabod yn ddigonol natur wledig a chostau uned darparu gwasanaethau mewn awdurdodau gwledig a gwasgaredig eu poblogaeth. Os edrychwch chi drwy'r dangosyddion a ddefnyddir i greu'r fformiwla, mae'n ymddangos mai dim ond dangosyddion gwasgariad, y mae pedwar ohonyn nhw, y gellir eu priodoli i ymwneud â natur wledig. Nodir yn yr adroddiad eu bod wedi'u dylunio
'i gipio gwybodaeth am y costau amser a phellter ychwanegol sydd yn gysylltiedig â chyflenwi gwasanaethau i gymunedau sydd ar wasgar.'
Ond edrychwch ar eu cyfraniad wrth greu'r fformiwla derfynol—maen nhw'n fach iawn, maen nhw'n geiniogau. Er mwyn cyfeirio'n hawdd, Aelodau, yr esboniad i'r dangosydd yw eitem 21 ar dudalen 18 o atodiad 2. Mae sawl dangosydd diddorol ac amheus iawn arall yn cael eu defnyddio i gyfrannu at y fformiwla, ond ni wnaf grwydro oddi ar y pwynt.
Dirprwy Lywydd, mae llawer o bwyntiau eraill y gellir eu gwneud ynghylch amhriodoldeb y fformiwla bresennol, fel yr wyf wedi'u codi o'r blaen, fel y dystiolaeth glir ei bod yn caniatáu i rai cynghorau gronni cronfeydd wrth gefn enfawr, a gweld cynghorau llai a gwledig yn gweld eu cronfeydd wrth gefn yn lleihau. Yn wir, dim ond edrych ar adroddiad datganiad cyfrifon cynghorau Cymru ar gyfer unrhyw flwyddyn benodol, i edrych ar eu datganiadau symudiadau cronfeydd wrth gefn, sy'n rhaid i chi ei wneud i weld cronni cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy a sut y maen nhw'n bwriadu eu defnyddio neu wedi'u defnyddio. Wedi dweud hynny i gyd, heddiw, Dirprwy Lywydd, nid yw'n ymwneud â beirniadu'r cwantwm sy'n cael ei ddarparu i awdurdodau lleol yn y gyllideb, ond byddaf yn parhau i ddadlau nad yw'r ffordd y caiff y gacen ei thorri yn deg, wrth i rai cynghorau gael darn enfawr a'r lleill, yn enwedig cynghorau gwledig, yn cael y briwsion drwy'r fformiwla bresennol hon. Os yw Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn poeni am gynaliadwyedd ein cynghorau ledled Cymru, ac yn credu mewn tegwch a phriodoldeb y ffordd y cânt eu hariannu, bydden nhw'n sylweddoli bod eu dull dosbarthu yn anghyfredol, yn anaddas i'r diben a bod angen ei adolygu. Gweinidog, peidiwch â chuddio y tu ôl i'r rhethreg arferol y byddech yn comisiynu adolygiad pe byddai rhai arweinwyr cyngor eisiau hynny. Rydych chi'n gwybod na fydd hynny'n digwydd oherwydd eich bod yn gwybod hefyd cystal ag yr wyf i y byddai'n rhaid i rai o'r cynghorau hynny golli ychydig i wneud y fformiwla a'i dosbarthiad yn decach. Rwy'n eich annog, Gweinidog, i edrych o ddifrif, heb safbwynt gwleidyddol, ar y fformiwla cyllido cyn setliadau yn y dyfodol. Diolch.
A gaf i hefyd ddatgan fy mod yn gynghorydd yn sir y Fflint? Byddaf yn sefyll i lawr ar ôl 14 mlynedd ym mis Mai. Yn ystod dadleuon y gyllideb, rydym wedi trafod pwysigrwydd y sector cyhoeddus wrth ddarparu gwasanaethau rheng flaen, cyfrannu at les y genedl a chyflogi pobl leol ledled y rhanbarth. A chynghorau—. Mae'n ddrwg gen i, rwy'n edrych ar y peth anghywir yma. Mae'n ddrwg gen i, a gaf i ddechrau eto? Mae'n ddrwg gen i.
Cymerwch eich amser, ond mae gennych lai o amser ar y cloc.
Mae'n ddrwg gen i. Roeddwn i bron â llewygu gynnau gyda mwgwd wyneb ymlaen. Os gwnaf ei dynnu i ffwrdd, gallaf anadlu eto. Mae'n ddrwg gen i.
A gaf i ddatgan fy mod yn gynghorydd yn sir y Fflint? Yn ystod dadleuon y gyllideb, rydym wedi trafod pwysigrwydd y sector cyhoeddus o ran darparu gwasanaethau rheng flaen, cyfrannu at les y genedl, ac rwy'n gwybod ar draws—. Mae'n ddrwg gen i. A gaf i roi'r gorau iddi?
Carolyn, cymerwch eich amser. Ar bob cyfrif, does dim rhuthr. Chi yw'r siaradwr olaf cyn y Gweinidog. Fe wnaf roi digon o amser i chi. Ydych chi eisiau parhau? Ydych chi eisiau parhau? Parhewch. Fel y mae rhywun wedi'i ddweud, ewch amdani. Rydych chi'n gynghorydd sir, rydych chi'n gwybod y sgôr, felly byddwch yn hyderus.
Ocê. Iawn. Mae'n ddrwg gen i. Diolch. Ocê. Rwy'n datgan fy mod yn gynghorydd yn sir y Fflint. Yn ystod y ddadl ar y gyllideb, rydym wedi trafod pwysigrwydd y sector cyhoeddus o ran darparu gwasanaethau rheng flaen, cyfrannu at les y genedl a chyflogi pobl leol. Ynghyd â'r sector gofal iechyd, y cynghorau yw un o'r cyflogwyr mwyaf, gan ddarparu swyddi lleol mewn ardaloedd lleol. Ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi diogelu llywodraeth leol gyda chynnydd o 9.4 y cant ar gyfartaledd, o'i gymharu â setliad cynghorau Lloegr o gynnydd o 6.9 y cant, a setliad tair blynedd i roi sefydlogrwydd a chymorth gyda chynllunio, yn enwedig ar ôl 10 mlynedd o gyni. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod y Gweinidog wedi cadarnhau yn ystod y ddadl ar y gyllideb y bydd fformiwla ariannu llywodraeth leol yn cael ei ddadansoddi gan bwyllgor cyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Pan fyddwn yn cerdded yn ein cymunedau, gallwn weld buddion buddsoddiad Llywodraeth Cymru: ysgolion yr unfed ganrif ar hugain sy'n darparu amgylcheddau dysgu gwych; buddsoddiad mewn darpariaeth gofal; tai cyngor a thai cymdeithasol carbon isel a di-garbon; llwybrau mwy diogel yn y gymuned; cynlluniau teithio llesol sy'n annog cerdded a beicio i'r ysgol a siopau a mynediad i waith mewn amgylchedd glanach a mwy diogel. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw dyledus i Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ac yn rhoi cynaliadwyedd ac adferiad gwyrdd wrth wraidd buddsoddi, gan roi sylw i natur a chreu meysydd ar gyfer bioamrywiaeth.
Mae'r argyfwng costau byw bellach yn un o'r materion mwyaf sy'n ein hwynebu ac rwy'n croesawu'r pecynnau cymorth a roddir gan Lywodraeth Cymru a'r £200 miliwn ychwanegol i gyflawni'r ymrwymiad i ymestyn prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd ac ehangu gofal plant am ddim. Rwy'n dal i bryderu am gyllid ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd—ac ni fyddwn yn fi heb sôn am hyn—a dirywiad parhaus ffyrdd, palmentydd a strwythurau fel pontydd yn dilyn 10 mlynedd o gyni a diffyg buddsoddiad. Mae seilwaith a achosir hefyd gan drychinebau naturiol hefyd yn broblem ddifrifol, ond rwy'n croesawu y £48 miliwn o refeniw ychwanegol a chyfanswm y buddsoddiad o £102 miliwn o gyfalaf a gyhoeddwyd yn ddiweddar i helpu i wella mesurau rheoli a lliniaru llifogydd. A hefyd yn ystod proses y gyllideb, soniodd y Gweinidog am £70 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol eleni y gallwn ni hefyd ei ddefnyddio ar gyfer buddsoddi mewn priffyrdd, felly rwy'n croesawu hynny'n fawr—diolch i chi. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i fynd i'r afael â'r ôl-groniad. Dros y blynyddoedd, cafwyd rhai enghreifftiau da o gydweithio, gan gynnwys archwilio dulliau amgen o fenthyca darbodus. A hefyd, bydd yr adolygiad o adeiladu ffyrdd newydd yn gweld y bydd yr arian yn cael ei ailfuddsoddi yn y gwaith o gynnal a chadw ffyrdd presennol, a fydd i'w groesawu, yn ogystal â thrafnidiaeth gyhoeddus, wrth symud ymlaen. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu diddordeb a'u cyfraniadau i'r ddadl heddiw. Fel Mike, sydd â'i brofiad ei hun o lywodraeth leol, hoffwn ymuno ag ef i gydnabod yn iawn lefel yr arbenigedd sydd gennym yn y Senedd. Rwyf yn gwneud pwynt, gobeithio, o wneud y mwyaf o'r lefel honno o arbenigedd sydd gennym ar bob mainc ac rwy'n awyddus i barhau â'r trafodaethau adeiladol hynny sydd gennym ar bob mater sy'n ymwneud â llywodraeth leol.
Er bod hwn yn setliad da sy'n adeiladu'n sylweddol ar ddyraniadau gwell yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwy'n cydnabod nad yw hwn yn setliad o hyd a all wrthdroi'r blynyddoedd o gyfyngiadau o ganlyniad i gyni cyffredinol mewn cyllid cyhoeddus. Bydd angen i lywodraethau lleol wneud rhai penderfyniadau anodd o hyd wrth bennu eu cyllidebau ac mae'n bwysig, wrth gwrs, eu bod yn ymgysylltu'n ystyrlon â'u cymunedau lleol wrth iddyn nhw ddechrau ystyried eu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Mae'r cyllid craidd a ddarparwn i lywodraeth leol yn cael ei ddosbarthu, wrth gwrs, drwy fformiwla sefydledig a chaiff ei chreu a'i datblygu mewn cydweithrediad â llywodraeth leol a chytunir arni'n flynyddol gyda llywodraeth leol drwy is-grŵp cyllid cyngor partneriaeth Cymru. Ac mae'r fformiwla'n rhydd o unrhyw agenda wleidyddol ac mae'n cael ei llywio gan ddata ac mae ganddi gefnogaeth ar y cyd gan lywodraeth leol. Caiff y fformiwla ei llunio a'i llywodraethu yn y fath fodd fel na all unrhyw un awdurdod neu grŵp o awdurdodau neu wleidyddion ei defnyddio yn annheg, boed yn gynghorwyr a etholwyd yn lleol neu'n Weinidogion Llywodraeth Cymru.
Wrth gwrs, bu galwadau erioed am adolygiad sylfaenol o'r fformiwla ac, yn wir, rwy'n cofio i ni drafod y pwynt hwn yn fanwl yn un o ddadleuon y gwrthbleidiau fis diwethaf, ond mae'r galwadau hyn yn rhai unigol ac nid ar y cyd, oherwydd, wrth gwrs, mae unrhyw fformiwla'n cynhyrchu enillwyr a chollwyr cymharol. Ond bydd pob awdurdod, fel y clywsom ni, yn gweld cynnydd o 8.4 y cant o leiaf yn y cyllid ar sail tebyg am debyg y flwyddyn nesaf. A hoffwn sicrhau pob rhan o Gymru nad oes unrhyw duedd nac annhegwch bwriadol yn y fformiwla ac mae awgrymu hynny'n annheg i'r rhai sy'n ymwneud mor gadarnhaol â'r gwaith a wnânt i'w gyflawni.
Wrth gwrs, mae'r fformiwla'n cael ei hadolygu'n barhaus ac mae'n iawn bod y cyllid refeniw craidd yn cael ei ddosbarthu yn ôl angen cymharol. Y ffactorau sy'n sbarduno gwariant ar wasanaethau fwyaf yw lefelau poblogaeth, lefelau amddifadedd a theneurwydd poblogaeth, ac mae'r fformiwla'n defnyddio dangosyddion angen yn hytrach na mesurau uniongyrchol o ddefnyddio gwasanaethau i sicrhau na ellir dylanwadu'n uniongyrchol ar ddyraniadau cyllid na'u trin. Mae'n wir bod tua 72 y cant o'r cyllid a ddosberthir drwy fformiwla'r setliad llywodraeth leol yn dibynnu ar ddata sy'n cael ei ddiweddaru'n flynyddol. O ganlyniad i'r pandemig a chyflwyno credyd cynhwysol yn raddol, mae nifer o'r dangosyddion wedi'u rhewi ar hyn o bryd ac yn cael eu harchwilio gan yr is-grŵp dosbarthu. Ond, pan caiff y materion hyn eu datrys, bydd dros 80 y cant o'r cyllid a ddosberthir drwy fformiwla'r setliad llywodraeth leol yn dibynnu ar ddata sy'n cael ei ddiweddaru'n flynyddol. Ac, wrth gwrs, edrychwn ymlaen yn fawr at ganlyniadau'r cyfrifiad, a gyhoeddir dros gyfres o wythnosau a misoedd yn y dyfodol agos. Ac, wrth gwrs, bydd data arall ar gael i ddiweddaru'r fformiwla. A dyma un o'r rhesymau pam, wrth gwrs, ein bod wedi darparu'r dyraniadau cyllid clir hynny ar gyfer blwyddyn 1 yr adolygiad o wariant, ond, blynyddoedd 2 a 3, rhoesom y ffigur Cymru gyfan hwnnw fel y gallem ddyrannu cyllid ar y data mwyaf diweddar.
Fe wnaf gyfeirio at gyfarfod a gefais gyda'r is-grŵp cyllid ar 9 Chwefror, lle y gwnaethom drafod mater addasrwydd fformiwla ariannu setliad llywodraeth leol a phrydlondeb y data sy'n bwydo i mewn i'r fformiwla. Nododd arweinwyr awdurdodau lleol yr angen i unrhyw fformiwla ariannu gydbwyso'r angen am sefydlogrwydd o ran cyllid ac ymatebolrwydd i anghenion cymharol sy'n newid. Ond byddwn yn trafod—. Yn ein cyfarfod nesaf o'r is-grŵp cyllid, ym mis Gorffennaf, byddwn yn edrych ar elfennau o fformiwla ariannu llywodraeth leol ac a ddylai gwaith gael ei wneud i adolygu rhai o'r elfennau hynny'n benodol. Felly, rwy'n credu bod hynny'n gam i'w groesawu.
Byddai unrhyw newid i'r fformiwla, wrth gwrs, yn arwain at enillwyr a chollwyr, a gallai'r rhain fod yn sylweddol, a dyna pam yr wyf wedi dweud o'r blaen, os oes y math hwnnw o awydd ar y cyd gan lywodraeth leol i gael yr adolygiad sylfaenol hwnnw, yna wrth gwrs byddem yn gweithredu arno gyda'n gilydd. Fe wnaf sôn, serch hynny, ein bod wedi cytuno—neu ein bod wedi ymrwymo—i wneud y dreth gyngor yn decach yng Nghymru. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni'n ei wneud mewn partneriaeth â'n partneriaid cytundeb cydweithredu ym Mhlaid Cymru, er nad wyf yn ymwybodol o ymrwymiad yn y cytundeb hwnnw i dynnu pwerau oddi ar awdurdodau lleol—nid wyf yn siŵr a yw hynny'n rhywbeth y byddai unrhyw un ohonom wedi ymrwymo iddo—ond rydym wedi ymrwymo'n llwyr i weithio i wneud y dreth gyngor yn decach. Fel rhan o'r gwaith hwnnw, byddwn yn ystyried sut y mae angen i'r fformiwla ariannu ymateb i hyn ac i amgylchiadau eraill sy'n newid wrth roi sefydlogrwydd a sicrwydd i awdurdodau. Felly, bydd y fformiwla'n rhan o'n syniadau, yn enwedig pan gawn yr arwyddion diweddaraf ynghylch beth allai'r newid fod i awdurdodau lleol yng Nghymru o ganlyniad i unrhyw ddiwygio'r dreth gyngor. A phan ddechreuwn feddwl a oes angen trefniadau pontio, er enghraifft, mae'n anochel y bydd gan yr holl bethau hyn gysylltiad â'r fformiwla ariannu.
Ac yna'n olaf, i ymateb i'r pwynt sy'n ymwneud â'r sefyllfa yn Wcráin, rydym yn genedl noddfa, rydym yn barod iawn i groesawu pobl o Wcráin ac eisiau gwneud hynny. A chawsom gyfarfod cwbl anhygoel, yn fy marn i, gydag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, arweinwyr pob awdurdod lleol yng Nghymru, y trydydd sector a'r heddlu, ac roedd fy nghyd-Weinidog Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, hefyd yn y cyfarfod—
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Gweinidog?
Gwnaf, wrth gwrs.
Rydym ni i gyd yn gweld y sefyllfa erchyll—yr hyn sy'n digwydd yn Wcráin. Mae nifer y ffoaduriaid sy'n gadael yn awr yn fwy na 2 filiwn, rwy'n credu, yn ôl yr adroddiadau heddiw. Cafwyd cyfarfod yr wythnos diwethaf gan Weinidogion y Llywodraeth gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol a'r byrddau iechyd. Fel y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, a ydych chi mewn sefyllfa i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd heddiw am yr hyn y gall Cymru ei gynnig i'r ffoaduriaid a fydd yn dod i'r Deyrnas Unedig yn y pen draw? Oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn deall yr hyn y gallwn ni ei wneud mewn ffordd ystyrlon a chadarnhaol.
Byddwn yn sicr yn rhoi croeso ystyrlon a chadarnhaol i bobl sy'n dod o Wcráin. Yn amlwg, ceir trafodaethau gyda llywodraeth leol ynglŷn ag unrhyw gyllid sydd ei angen. Ond fe wnaf ddweud, gan fyfyrio ar y cyfarfod hwnnw, ei fod yn enghraifft wirioneddol o arweinyddiaeth dosturiol ar waith. A dyna'r math o arweinyddiaeth yr ydym ni i gyd yn ymbil ar ein Llywodraeth yn y DU i ddechrau troi ei meddwl ati. Oherwydd, nid yw arweinyddiaeth dosturiol yn ymwneud â bod yn wan nac yn hawdd dylanwadu arni, mae'n ymwneud â gweld pobl fel pobl. Ac rydym yn sôn am un o'r ffoaduriaid hyn yn dod i Gymru, ond, wrth gwrs, yn y DU ar hyn o bryd, mae gennym lond llaw ohonyn nhw. Felly, pan fydd y ffoaduriaid yn cyrraedd, byddan nhw'n sicr o gael groeso cynnes iawn. Ac roedd y cyfarfod hwnnw a gawsom ni gydag arweinwyr llywodraeth leol ac eraill yr wythnos diwethaf, wedi fy ngwneud yn gadarnhaol y byddwn yn gallu darparu'r math hwnnw o groeso cynnes a phwysig iddyn nhw, a'r gefnogaeth, wrth gwrs, y bydd ei hangen arnyn nhw ar ôl dianc rhag amgylchiadau mor ofnadwy.
Byddem ni'n disgwyl y byddai cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU o ran unrhyw fath o gynlluniau ailsefydlu y byddai'n eu cyflwyno, ond, wrth gwrs, rydym ni'n dal i aros, mewn gwirionedd, i ffurf y cynlluniau hynny fod yn glir gan Lywodraeth y DU, ond, wrth gwrs, mae llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn barod i groesawu pobl.
Felly, gan droi'n ôl at y setliad, Llywydd, rwyf yn ei gymeradwyo i'r Senedd, mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i wasanaethau cyhoeddus ac yn parhau i gynorthwyo llywodraeth leol ledled Cymru i gyflawni dros bobl Cymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly rŷn ni'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. Ac rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, felly gwnawn ni gymryd toriad byr tra ein bod ni'n paratoi'n dechnegol ar gyfer y bleidlais honno. Toriad byr, felly.