– Senedd Cymru am 2:35 pm ar 8 Mawrth 2022.
Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw, Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon: mae angen cynnig i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn galluogi ni i drafod yr LCM ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws). Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Gweinidog, byddwch chi wedi clywed y trafodaethau a gafodd y Prif Weinidog a minnau ynglŷn â diogelwch bwyd. Rwyf i'n amlwg yn eich holi chi heddiw fel arweinydd y tŷ, ond, yn amlwg, rydych chi'n gwisgo het arall y Gweinidog materion gwledig, a chi yw'r Gweinidog sy'n noddi'r Bil amaethyddol y byddwch chi'n ei gyflwyno ym mis Ebrill, rwy'n credu. Ni allaf i orbwysleisio'r cyfyng-gyngor yr ydym ni'n ei wynebu gyda'r hyn sy'n digwydd yn Wcráin. Rydym ni wedi clywed am argyfwng y ffoaduriaid, rydym ni'n gweld creulondeb y golygfeydd ar y teledu, bob nos, bob bore, bob awr effro, a dweud y gwir. Ond o'n blaenau ni yn y ddau, tri, pedwar mis nesaf, ac yn wir, dwy, tair, pedair blynedd, y mae'r mater hwn o ansefydlogi'r rhanbarth hwnnw'n llwyr a'i allu i gynhyrchu bwyd, nid yn unig ar gyfer y rhan hon o Ewrop ond ar gyfer y byd. Mae wedi newid difrifwch sylfaenol, fe fyddwn i'n ei awgrymu, o ran ble y mae angen i'r Bil hwn fod fel rhan o'n gofynion diogelwch bwyd. Fel yr wyf i wedi'i ddweud, mae gwenith wedi dyblu mewn pris, ac wrth symud ymlaen at farchnad y dyfodol, ar gyfer mis Tachwedd, bydd yn llawer uwch na hyd yn oed heddiw—gallai fod dros £300 y dunnell. Mae prisiau nwyddau eraill yn cynyddu o ran cynhyrchu bwyd hefyd, yn ogystal â'r gwrteithiau, y chwynladdwyr a'r plaladdwyr sy'n ofynnol i dyfu'r cnydau hyn. Dim ond unwaith y flwyddyn y gall ffermwr wneud y penderfyniad hwnnw, ac os na chaiff y penderfyniad hwnnw ei wneud bryd hynny, yna caiff y flwyddyn honno ei cholli, ac mae'n cymryd dwy flynedd i ddal i fyny.
A gawn ni ddatganiad am yr hyn y mae eich swyddogion ac, yn benodol, chi fel Gweinidog yn credu yw'r camau y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd nawr i ailfywiogi meddylfryd cymuned amaethyddol Cymru i dyfu er diogelwch bwyd? Oherwydd rwy'n gwybod eu bod yn barod am yr her honno ac maen nhw eisiau chwarae eu rhan, er, ac yr wyf i'n cydnabod, mai sylfaen tir amaethyddol gymharol fach sydd gennym ni yng Nghymru. Ond mae cyfle yma y mae angen i ni afael ynddo a sicrhau ein bod ni'n chwarae ein rhan ni i sicrhau, er bod Wcráin yn parhau i fod yn ansefydlog, ein bod ni'n gwneud ein rhan ni i fwydo'r genedl a bwydo'r byd.
Diolch yn fawr iawn. Nid wyf i'n anghytuno ag unrhyw beth y gwnaethoch chi ei ddweud am y sefyllfa dorcalonnus sy'n datblygu yn Wcráin. Byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud fy mod i wedi gofyn am roi diogelwch bwyd ar agenda'r grŵp rhyngweinidogol pan fyddwn yn cyfarfod wythnos i ddydd Llun. Oherwydd, yn amlwg, rhaid i ddiogelwch bwyd fod yn gyfannol ledled y DU—rhaid i ni i gyd weithio gyda'n gilydd o amgylch hynny. Ac rydych chi yn llygad eich lle ynghylch prisiau gwenith. Byddaf i’n cyfarfod ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru ddydd Llun—rhan o fy nghyfarfodydd rheolaidd—ac, yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y byddwn i'n parhau i'w drafod.
O ran y pwyntiau penodol yr ydych chi'n eu gwneud am y Bil amaethyddol, rwy'n credu, unwaith eto, fod y Prif Weinidog wedi cyfeirio at lawer o bethau sydd wedi newid ers i ni gael y Papur Gwyn yn nhymor diwethaf y Llywodraeth, a fydd, yn amlwg, wedyn yn cyfrannu at y Bil amaethyddol. Felly, mae'r rhain i gyd yn bethau y mae fy swyddogion yn eu hystyried, gan gynnwys effaith gronnol y cytundebau masnach y mae Llywodraeth y DU wedi'u cyflwyno.
Trefnydd, hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, yn amlinellu cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros fwrw ymlaen â gwario £1.4 biliwn i wneud 11 milltir o'r A465 yn ffordd ddeuol. Mynegodd y Western Mail y farn ddoe nad oedd modd cyfiawnhau'r prosiect hynod ddrud hwn mwyach, o ystyried y rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniad i ganslo dau brosiect llai carbon-ddwys yn y gogledd. Nawr, rwy'n sylwi nad yw'r Llywodraeth wedi gwadu bod bwrw ymlaen â'r prosiect yn gwrth-ddweud ei pholisïau newid hinsawdd, ond byddwch chi'n gwybod fy mod i wedi bod yn codi pryderon ers rhai blynyddoedd nawr ynghylch ariannu'r prosiect, oherwydd bydd yn cloi degawdau'r dyfodol i ddyled y bydd yn rhaid iddyn nhw ei thalu'n ôl. Mae'r Western Mail wedi cwestiynu ai rhwymedigaethau cytundebol yw'r rheswm nad oes modd canslo'r prosiect efallai, ac, gan ein bod ni'n sôn am swm mor enfawr o arian, nid yn unig nawr, ond am ddegawdau i ddod, byddwn i'n gofyn am ddatganiad llafar, os gwelwch yn dda, i'n helpu ni i benderfynu pam mae'r prosiect hynod ddrud hwn yn mynd rhagddo.
Diolch. Byddwch chi'n ymwybodol o'r gwaith sylweddol sydd wedi'i wneud o ran adolygiadau ffyrdd, yn y de a, nawr, yn y gogledd, gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cyhoeddi'r cadeirydd ar gyfer adolygiad ffyrdd y gogledd yn ddiweddar. Felly, byddwn i'n credu ei bod yn fwy buddiol, mae'n debyg, cyflwyno datganiad pan fydd gennym ni ddull Cymru gyfan, yn hytrach nag ar hyn o bryd ynghylch un ffordd.
A gaf i ofyn am un datganiad ac un ddadl? Mae'r datganiad yn un y gwn i y bydd y Trefnydd yn gyfarwydd ag ef yn ei swyddogaeth adrannol hefyd. Yn ôl yn hydref 2019—. Mae'n ddrwg gennyf i, rwy'n datgan buddiant fel hyrwyddwr eogiaid yr Iwerydd ar gyfer y Senedd. [Chwerthin.] Ond yn hydref 2019, cafodd y cynllun gweithredu ar gyfer eogiaid a brithyllod y môr ei gyflwyno. Roedd ganddo gyfres o gamau gweithredu a ddeilliodd ohono. Rwy'n amau y gallai rhai ohonyn nhw fod wedi cael eu taro gan ffactorau diweddar, gan gynnwys y pandemig a'r gallu i fynd allan a monitro a gwerthuso ar lawr gwlad. Felly, byddai'n dda cael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy ddatganiad ar lawr y Senedd am weithredoedd a chanlyniadau'r cynllun hwnnw, a lle yr ydym ni, o gofio iddo gael ei gyflwyno, ac rwy'n dyfynnu, gan gydnabod, y
'dirywiadau difrifol...mewn "eogiaid y gwanwyn" cynnar a bellach gan holl gydrannau oedran môr eogiaid ac, yn fwy diweddar, brithyllod y môr', hefyd. Mae iechyd y stociau pysgod mudol hynny'n arwydd o iechyd nid yn unig ein hafonydd, ond hefyd ein hamgylchedd morol ledled y DU ac yn fyd-eang hefyd. Felly, byddwn i'n croesawu datganiad.
Byddai hefyd yn gyfle i brofi barn pobl, yma yn y Siambr hon, ar fater ffermio eogiaid â chewyll. Mae cwestiynau mawr wedi'u codi ynghylch cynaliadwyedd hyn, ac nid cwestiwn i'r Alban yn unig ydyw ond lle bynnag y bydd hyn yn digwydd. Oherwydd mae'n fater yn ymwneud a pharasitiaid ac effeithiau parasitiaid ar eogiaid gwyllt ac eogiaid ymfudol, plaladdwyr sy'n cael eu rhyddhau o eogiaid mewn cawell a'r effaith ar eogiaid gwyllt a rhywogaethau gwyllt eraill, a hefyd mater o fwyd protein—y sgandal a glywsom amdani yn ddiweddar sef 460,000 tunnell o bysgod gwyllt yn cael eu cynaeafu i fwydo eogiaid fferm mewn cewyll. Duw a'n helpo ni o ran yr hyn sy'n digwydd yn y fan honno a'r cwestiwn o gynaliadwyedd ynghylch hyn, ac mae angen sicrwydd arnom ni na fydd hyn byth yn cael ei weld yng Nghymru yn y dyfroedd cynhesach sydd gennym ni yma.
Hoffwn i hefyd geisio dadl, os caf i—
Rwy'n credu eich bod chi wedi treulio dwy funud yn galw am eich datganiad cyntaf. Rwy'n credu y bydd yn rhaid i chi aros tan yr wythnos nesaf i alw am eich dadl.
Rwy'n ymddiheuro. Arhosaf tan yr wythnos nesaf. [Chwerthin.]
James Evans. Na, Gweinidog i ymateb. Ie, mae'n ddrwg gennyf i, anghofiais i am y rhan honno. [Chwerthin.]
Byddaf i ychydig yn fwy cryno. Felly, y peth cyntaf i'w ddweud, ac yr wyf i'n falch iawn o allu dweud hyn a rhoi sicrwydd nid yn unig i Huw Irranca-Davies, hyrwyddwr eogiaid yr Iwerydd, ond pob Aelod, nad yw'r math hwn o bysgota diwydiannol yn digwydd yn nyfroedd Cymru. Nid oes gennym ni ddyframaeth pysgod asgell diwydiannol yma yng Nghymru chwaith, ond gwnaf i—. Gwnaethoch chi fy nghlywed i'n dweud, mewn ateb cynharach i arweinydd yr wrthblaid, fod gennym ni gyfarfod grŵp rhyngweinidogol DEFRA wythnos i ddydd Llun, felly byddaf i'n ei godi gyda'r gweinyddiaethau eraill bryd hynny.
Yr hyn y gwnaeth y Gweinidog ei ddweud, Huw.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, ynghylch pam mae Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar y cynllun taliadau atodol band eang gwledig? Mae hyn yn hanfodol bwysig i gymunedau gwledig o ran cael band eang cyflym iawn ledled ein cymunedau, a hoffwn i wybod yn union beth fydd yn dod yn lle'r cynllun hwnnw, oherwydd rwy'n poeni y bydd rhai o'n cymunedau'n cael eu gadael ar ôl, os nad yw'r elfen atodol honno ar gael, sy'n gwneud llawer o'r cynlluniau hyn yn hyfyw. Diolch yn fawr iawn.
Wel, byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud, mewn ateb cynharach ynghylch band eang, mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yw hynny. Felly, efallai, os bydden nhw wedi cadw at eu haddewid o 'ddim ceiniog yn llai' byddem ni wedi cael mwy o arian i barhau â'r cynllun band eang gwledig hwnnw.
Hoffwn i alw am ddau ddatganiad, a byddaf i'n ceisio cadw o fewn dwy funud.
Na, un funud, mewn gwirionedd.
Un funud, felly. [Chwerthin.]
Roeddwn i'n llawer rhy drugarog.
Yn gyntaf, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar gyfleusterau iechyd meddwl preswyl yng Nghymru. Mae etholwr sydd o dan ofal tîm iechyd meddwl yn y de wedi cysylltu â mi'n ddiweddar oherwydd diffyg cyfleusterau lleol cafodd ei hatyfeirio i uned breswyl yn Llundain. Ar ôl i breswylydd yn yr uned honno brofi'n bositif am COVID, cafodd ei hanfon adref ar ôl dim ond 10 diwrnod o driniaeth. Fel y gallwch chi ddychmygu, mae hwn wedi bod yn brofiad llawn straen i rywun a oedd yn gorfod teithio mor bell i gael y driniaeth yr oedd ei hangen arni. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi pe byddai'r Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch a oes unrhyw ddatblygiadau o ran darparu cyfleusterau iechyd meddwl preswyl addas yng Nghymru.
Yn ail, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar honiadau diweddar fod cynghorwyr ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu bygwth gan swyddogion statudol y byddai camau yn cael eu cymryd yn eu herbyn am dorri'r cod ymddygiad pe baen nhw'n pleidleisio yn erbyn cynnig cyllideb diweddar. Fel y gwyddom ni i gyd, mae aelodau etholedig, boed hynny i San Steffan, siambrau cyngor ledled Cymru neu i'r union Senedd hon, i gyd yn cael eu hethol i weithredu er budd eu hetholwyr. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi pe byddai modd i'r Gweinidog gynnig rhywfaint o eglurder ynglŷn â'r sefyllfa a chadarnhau a fydd unrhyw ymchwiliad i'r hawliadau hyn yn digwydd fel y gallwn ni fynd at wraidd y mater.
Diolch. O ran eich pwynt cyntaf, ynghylch lleoliadau preswyl addas i bobl sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl, gofynnaf i'r Dirprwy Weinidog iechyd meddwl gyflwyno datganiad ysgrifenedig.
Mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi clywed eich cais. Nid wyf i'n ymwybodol o'r sefyllfa y gwnaethoch chi sôn amdani, ac yr wyf i'n siŵr, os oes gan y Gweinidog unrhyw beth arall i'w ddweud, y bydd yn ysgrifennu atoch.
Trefnydd, roeddwn i'n meddwl tybed, o gofio'r sefyllfa ofnadwy yn Wcráin, fel arwydd arall o'n hundod ni, a oes gennych chi ar y safle o fewn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ac ati, lyfr coffa lle gall staff ac Aelodau neu Weinidogion gyfleu eu meddyliau. Rwyf i hefyd wedi codi hyn gyda'r Llywydd ac wedi cael ymateb cadarnhaol, ond roeddwn i'n meddwl tybed a oes unrhyw lyfrau wedi'u gosod eto yn unrhyw un o adeiladau Llywodraeth Cymru.
Cyn bod y Gweinidog yn ymateb, rwy'n credu eich bod chi wedi rhoi geiriau yn fy ngheg yn y fan yna. Fy ymateb i chi oedd dweud y byddwn i eisiau i ni fel Senedd feddwl am ein gweithredoedd yn hytrach na'n geiriau ni, ac ein bod ni'n ymchwilio i weld a fyddai'n bosibl i ni sefydlu pwynt casglu ar gyfer rhoi arian i gefnogi'r rhai sy'n dioddef yn Wcráin. Rwyf i wir yn credu, ac yn gobeithio fy mod i'n adlewyrchu'r Siambr ynghylch hyn, mai ein gweithredoedd ni ac nid ein geiriau ni sydd bwysicaf ar hyn o bryd. Mae'n ddrwg gennyf i os na wnaeth fy neges i chi eich cyrraedd mewn pryd i chi fod wedi codi hynny, ond nid oeddwn i eisiau i fy ngeiriau i gael eu camddehongli mewn unrhyw ffordd.
Felly—
Na, nid yw hyn yn—. Nid yw hyn—.
Er eglurder, a ydych chi'n dweud na chawn ni lyfr yma, felly?
Rwyf i wedi dweud gweithredu nid geiriau, bydd, fe fydd pwynt casglu. Mae'n ddrwg iawn gennyf i, Janet, eich bod chi wedi dewis codi hyn yn y ffordd fwyaf amhriodol hon nawr. Y Gweinidog, i ymateb.
Felly, byddwn i'n credu bod hyn yn fwy o fater i Gomisiwn y Senedd yn hytrach na Llywodraeth Cymru. Ond rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae'r Llywydd wedi'i ddweud—rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod ein gweithredoedd yn amlycach o lawer na geiriau.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar ddarpariaeth gofal dydd i bobl anabl yn ystod y pandemig. Rwy'n codi hyn gyda chi eto oherwydd mae'n ymddangos bod gwrthgyferbyniad mawr rhwng yr hyn sy'n cael ei ddarparu, gyda rhai awdurdodau lleol, megis Gwynedd a Blaenau Gwent, yn cadw darpariaeth canolfannau gofal dydd ar gyfer y rhai mwyaf anabl, ac mae awdurdodau lleol eraill, megis Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wedi torri'r ddarpariaeth, gan adael llawer o rieni a gofalwyr pobl anabl heb ddim neu fawr ddim o seibiant. Mae'n ymddangos bod dehongliad awdurdodau lleol o reoliadau a chanllawiau COVID y Llywodraeth wedi arwain at loteri cod post lle na fyddai rhywun ag anabledd dwys yng Nghrymlyn, er enghraifft, sydd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn cael darpariaeth canolfan gofal dydd, er y byddai rhywun sy'n byw yn Swffryd, ychydig lathenni i ffwrdd ym Mlaenau Gwent, yn cael hynny. Roeddwn i'n gobeithio, gyda phethau'n ailagor ac ymrwymiad y Llywodraeth hon i bwysigrwydd canolfannau gofal dydd, y byddem ni'n gweld rhywfaint o newid yn y ddarpariaeth gofal dydd i bobl anabl, ond nid yw hynny wedi digwydd mewn sawl rhan o'r wlad eto. A all y Llywodraeth ystyried hyn fel mater o frys? Nid wyf i'n credu ei bod yn ddigon da dweud mai mater i awdurdodau lleol ydyw.
Wel, efallai nad yw'n ddigon da, ond mae'n ffaith mai mater i bob awdurdod lleol yw darparu gwasanaethau i'r bobl yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw. Rwy'n credu bod canllawiau Llywodraeth Cymru yn glir iawn yn y maes hwn a mater i awdurdodau lleol yw sicrhau bod y gwasanaethau hynny'n cael eu darparu ar gyfer eu poblogaeth leol. Yn amlwg, mae problemau wedi bod yn ystod pandemig COVID—rwy'n gwybod o fy etholaeth fy hun—gyda staff sydd, yn anffodus, wedi bod i ffwrdd yn sâl gyda COVID, ac ati. Mae prinder wedi bod yn y ddarpariaeth honno. Ond, fel y dywedwch chi, yr ydym ni nawr yn ailagor. Byddwn i'n gobeithio y gall pob awdurdod lleol roi'r pwysigrwydd y mae wir ei angen ar y gwasanaethau hyn.
Rŷn ni yn clywed nawr, wrth gwrs, fod yna gymorth dyngarol sydd fod i fynd i Wcráin yn styc ar ffin y Deyrnas Unedig oherwydd y tâp coch ychwanegol i allforio nwyddau yn sgil Brexit. Nawr, yn ôl yr elusennau sy'n cael eu heffeithio, maen nhw'n dweud bod angen nawr gwaith papur ychwanegol am mai rhoddion sy'n cael eu cludo ac nid nwyddau sy'n mynd i gael eu gwerthu ymlaen ar ôl croesi'r ffin. Byddwch chi'n ymwybodol, efallai, fod Llyr Jones a Rhys Jones o sir Ddinbych yn gyrru cerbyd i Wcráin yr wythnos yma, ond maen nhw, oherwydd yr amgylchiadau hynny, yn cael eu gorfodi i groesi'r ffin i Ffrainc, wedyn prynu y nwyddau dyngarol er mwyn eu cludo. Nawr, liciwn i gael datganiad ysgrifenedig neu ryw fath o ddiweddariad gan y Llywodraeth jest yn egluro beth ŷch chi'n ei wneud i roi'r achos gerbron Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i'r afael â'r broblem yma, oherwydd mae rhywun yn poeni am dynged cannoedd o filoedd o eitemau sydd wedi cael eu rhoi mewn casgliadau—yn Rhug, yn Wrecsam, ac ar draws Cymru—a allai fod yn styc mewn porthladdoedd yn methu â chyrraedd Wcráin, lle mae mawr eu hangen nhw.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, oherwydd mae'r fath gydymdeimlad wedi bod, onid ydyw, gan bobl Cymru o ran y sefyllfa erchyll hon yn Wcráin. Ac, fel y dywedwch chi, mae rhoddion sylweddol wedi'u rhoi, ac rwy'n gwybod bod llawer o lorïau'n mynd yr wythnos hon.
Rwy'n credu bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i geisio dod o hyd i ffordd ymlaen. Llywodraeth Cymru, rwy'n ei olygu—. Roeddem ni'n ystyried cyflwyno datganiad llafar heddiw, ond oherwydd, yn amlwg, mae gan Geidwadwyr Cymru ddadl yfory, yr ydym ni wedi penderfynu mai ymateb y Gweinidog fydd y lle priodol ar gyfer hyn. Felly, byddaf i'n sicrhau ei bod hi'n cyfeirio at y gwaith sydd wedi bod yn digwydd wrth ateb eich cwestiwn. Diolch.
Diolch i'r Trefnydd.