2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 9 Mawrth 2022.
5. Pa rôl y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn ei chwarae yn y broses o adfer rhywogaethau? OQ57743
Diolch. Mae ymateb i'r argyfwng natur yn un o amcanion allweddol ein cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig. Bydd cymorth i ffermydd yn y dyfodol yn gwobrwyo ffermwyr sy'n gweithredu i gynnal a chreu ecosystemau cadarn. Bydd hyn yn helpu i greu'r amodau a fydd yn galluogi inni adfer rhywogaethau ar raddfa fferm a thirwedd.
Chwe wythnos yn ôl, mewn ymateb ysgrifenedig i mi, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd
'Yn fwy hirdymor, bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn fecanwaith pwysig ac yn ffynhonnell arian i fynd i'r afael â cholli cynefinoedd a dirywiad rhywogaethau, gan gynnwys rhai o'n hadar fferm eiconig megis y gylfinir. Bydd sylwadau gan bartneriaeth Gylfinir Cymru yn cael eu hystyried gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wrth i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy gael ei ddatblygu.'
Ond gyda'r bygythiad y byddant wedi diflannu ar lefel gwlad erbyn 2033, rwy'n gobeithio y byddech yn cytuno nad oes gennym amser i aros. Gan y bydd yn cymryd y rhan orau o ddegawd i gyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy ledled Cymru, sut y bydd hyn yn helpu i adfer poblogaethau o rywogaethau prin a bregus fel y gylfinir, sy'n galw am weithredu ar frys yn awr os nad ydym yn mynd i'w colli yng Nghymru? Ac a all y Gweinidog gadarnhau ei bod yn derbyn cais Gylfinir Cymru am gyfarfod ar y safle gyda ffermwyr, rheolwyr tir a phartneriaid Gylfinir Cymru i drafod adferiad y gylfinir, y manteision lluosog ac amlrywogaethol ehangach, a chefnogi datblygu polisi fel y cynllun ffermio cynaliadwy o bosibl?
Diolch. Wel, gan ein bod eisoes ynghanol argyfwng hinsawdd a natur, rydych yn llygad eich lle nad oes gennym amser i'w wastraffu. Felly, ni fyddwn eisiau i bobl feddwl ein bod yn aros i'r cynllun ffermio cynaliadwy ymddangos cyn diogelu ein rhywogaethau, a bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn o lawer o gynlluniau sydd bellach yn rhan o bortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd—y cynllun rheoli cynaliadwy, er enghraifft, sydd eisoes yn gwella cadernid ein hecosystemau, mae'n gwella ein bioamrywiaeth, ac wrth gwrs mae'n mynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae cyllid sylweddol—oddeutu £235 miliwn, rwy'n credu—eisoes wedi'i ddarparu i oddeutu 50 o brosiectau ledled Cymru. Mae gennym hefyd y rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd, sy'n helpu i gynyddu cadernid ecosystemau ein mawndiroedd yng Nghymru. Felly, bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn edrych ar arferion da y cynlluniau hyn ac yn adeiladu arnynt.