2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 9 Mawrth 2022.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â sefydliadau partner i sicrhau bod safonau iechyd a lles anifeiliaid yn cael eu cynnal? OQ57745
Diolch. Mae gweithio mewn partneriaeth yn un o egwyddorion allweddol ein fframwaith iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys ceidwaid anifeiliaid, awdurdodau lleol ac asiantaethau cyflawni i godi safonau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.
Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n croesawu'r ffaith bod cynlluniau megis y gwaharddiad ar werthu cŵn bach a chathod bach gan drydydd partïon—cyfraith Lucy—yn dod i rym, ond mae hyn hefyd yn cynyddu rolau arolygu a gorfodi ein cynghorau yng Nghymru. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo cynghorau i gyflawni'r swyddogaethau hyn, ac a oes unrhyw rôl i ddarparu cyfrifoldebau statudol tebyg i'r RSPCA, er enghraifft, fel y gallant hwy hefyd wneud eu rhan?
Diolch. Mewn perthynas â rhan olaf eich cwestiwn, nid oes rôl i roi pwerau i'r RSPCA o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Mae hwnnw'n rhywbeth rwy'n edrych arno ochr yn ochr â materion iechyd a lles anifeiliaid eraill. Ar eich cwestiwn ynghylch cefnogi awdurdodau lleol, pan gyflwynwyd y rheoliadau y cyfeiriwch atynt, fe wnaethom edrych ar eu heffeithiau ar awdurdodau lleol, ac o safbwynt ariannol, yn y gorffennol, roedd yn ofynnol i werthwyr masnachol wneud cais am drwydded gan awdurdod lleol ac roeddent yn destun arolygiadau parhaus. Ond yn y ffordd y gwnaethom lunio'r rheoliadau newydd, rhagwelwyd y bydd y rhai sy'n gymwys i fasnachu ac sy'n bodloni'r safonau gofynnol ar gyfer trwyddedu yn parhau i weithredu ac y byddent ond yn gwerthu'n uniongyrchol i'w cwsmeriaid. Byddai'r rhai anghymwys yn peidio â masnachu wedyn, ac ar y sail honno ni fyddai, neu ni ddylai fod baich ariannol ychwanegol i awdurdodau lleol. Byddant yn gallu pennu ffi newydd y drwydded, a dylai'r ffi a bennir fod yn ddigon i dalu cost ddisgwyliedig cofrestru, arolygu a gorfodi.
Weinidog, er bod angen sicrhau bod pob sefydliad yn glynu wrth safonau iechyd a lles anifeiliaid wrth gwrs, credaf fod llawer o fentrau angen cael eu hannog yn hytrach na'u gwthio. Dylai mentrau fel llochesau a chanolfannau achub ac ailgartrefu fod yn ddarostyngedig i reoliadau, ond mae'r mwyafrif llethol yn cynnal y safonau lles anifeiliaid mwyaf llym. Mae llawer o lochesi anifeiliaid wedi cael trafferth yn ystod y pandemig wrth i ffynonellau ariannu sychu, rhywbeth a all gael effaith andwyol ar eu gallu i ofalu am anifeiliaid anwes a adawyd. Weinidog, beth arall y gall eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod llochesi anifeiliaid, megis y gymdeithas ragorol yn Nyserth sy'n achub anifeiliaid anwes, yn cael eu cefnogi'n ariannol? Diolch.
Diolch. Wel, fe fyddwch yn gwybod bod llawer o sefydliadau, nid yn unig o fewn fy mhortffolio i, wedi dioddef oherwydd y pandemig, a gwnaethom bopeth yn ein gallu i'w cefnogi, yn enwedig yn ariannol. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld â llawer o elusennau a sefydliadau a llochesau yn ystod fy nghyfnod yn y portffolio hwn, a chredaf mai un o'r pethau yr ydym yn sicr yn edrych arno yw pa reoliadau sydd eu hangen mewn perthynas â llochesau.