– Senedd Cymru am 2:45 pm ar 15 Mawrth 2022.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar y rhaglen fuddsoddi ar gyfer 2022-23 ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad yma—Lee Waters.
Diolch yn fawr iawn. Yn dilyn cymeradwyaeth y Senedd i gyllideb Llywodraeth Cymru, rwy'n cadarnhau heddiw y rhaglen lifogydd ar gyfer eleni. Fe fydd y pecyn ariannu yn golygu'r cynnydd mwyaf a fu erioed yn y buddsoddiad ar gyfer rheoli a lliniaru peryglon o lifogydd ac erydu arfordirol yn 2022-23 ac, yn ystod tymor y Senedd hon, fe fydd hynny'n cyflawni ein hymrwymiad ni fel caiff ei nodi yn y cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Fe ddaw hyn ar ben cyfradd o gyllid yn y flwyddyn gyfredol a oedd eisoes ar ei fwyaf hael yn ystod cyfnod datganoli, ac rydym ni'n ei ymestyn ymhellach. Fe fydd y flwyddyn sydd ar ddod yn gweld y gyfradd uchaf o gyllid a ddarparwyd erioed ar gyfer rheoli peryglon llifogydd ac erydu arfordirol.
Ni fu buddsoddi yn y maes hwn cyn bwysiced erioed. Fis diwethaf, fe gawsom ni ein hatgoffa o hynny pan drawodd tair storm fawr ledled Cymru ar ôl ei gilydd, gan effeithio ar lawer o gymunedau. Yn ffodus, ni fu'r difrod na'r amharu ar seilwaith cymaint ag y gallasai fod neu gyn waethed ag yr oeddem ni wedi ofni. Ond, fe welwyd llifogydd mewn 65 eiddo, ac roedd hwnnw'n brofiad dirdynnol a gofidus iawn i'r unigolion a'r teuluoedd dan sylw. Rwy'n ddiolchgar am gyfraniad enfawr staff mewn awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, cwmnïau dŵr, gwasanaethau brys, a wardeiniaid llifogydd cymunedol, sy'n chwarae eu rhan yn amddiffyn ein cymunedau ni gan ymateb a gweithredu mesurau i leihau'r perygl o lifogydd. Rwy'n falch fod ein buddsoddiad ni wedi helpu i leihau'r perygl o lifogydd ar gyfer dros 950 o gartrefi a busnesau ledled Cymru, gyda 3,600 arall yn elwa ar welliannau i gynlluniau presennol yn ogystal â gwaith cynnal a chadw.
Gan edrych ymlaen at 2022-23, rwy'n falch ein bod ni'n gallu cyhoeddi ein rhaglen lifogydd fwyaf erioed, sef cyfanswm o dros £71 miliwn y flwyddyn nesaf. Fe fydd y dyraniad dros dair blynedd, sy'n ymrwymiad pwysig, o dros £214 miliwn yn helpu i ddatblygu cyfres fwy pendant o gynlluniau i'r dyfodol ar gyfer amddiffyn yn erbyn llifogydd ac fe fydd hynny'n caniatáu rhag-gynllunio mwy cadarn, sy'n hollbwysig. Rydym ni wedi gofyn i awdurdodau rheoli risg barhau i weithio gyda ni i gyflymu'r broses gyflawni i sicrhau a chodi cyfradd yr amddiffyn yn erbyn llifogydd ledled Cymru.
Yn rhan o'n hymrwymiad i ni gynyddu cyllid, fe fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £24 miliwn ychwanegol yn y cyllid refeniw dros y tair blynedd nesaf hefyd. Fe fydd hyn yn caniatáu dyblu, hyd at £225,000 fesul awdurdod, o gyllid refeniw i lywodraeth leol yn y flwyddyn ariannol sydd ar ddod. Ar yr un pryd, rydym ni'n rhoi £1.5 miliwn yn ychwanegol yng nghyllideb refeniw Cyfoeth Naturiol Cymru, ac fe fyddwn ni'n gwneud rhagor o waith gyda'n partneriaid cyflawni ni i ddeall anghenion ariannu yn y dyfodol. Mae'r cyllid ychwanegol yn adlewyrchu'r gweithgareddau sydd ar waith eisoes yn unol â'n strategaeth genedlaethol ni, ein rhaglen lywodraethu ni ac ymrwymiadau yn y cytundeb cydweithredu.
Rwyf i wedi ymestyn y rhaglen genedlaethol ar gyfer rheoli risg arfordirol am un flwyddyn arall i orffen. Mae hi'n hanfodol erbyn hyn, Llywydd, fod yr awdurdodau lleol yn manteisio ar yr estyniad olaf hwn i gwblhau gwaith ar ddyluniad y cynlluniau sydd ar ôl a sicrhau bod y gwaith adeiladu yn dechrau, er enghraifft, yn Aberaeron, yng nghanol Prestatyn a bae Hirael ym Mangor cyn diwedd mis Mawrth 2023. Y rhaglen hon yw'r prif fecanwaith ar gyfer mynd i'r afael â'n hamcanion ni o ran rheoli erydu arfordirol, ar gyfer mynd i'r afael â'r heriau a nodir yn y cynlluniau rheoli traethlin, ac ar gyfer buddsoddi i sicrhau bod cymunedau arfordirol ni'n parhau i fod yn gryf yn y tymor hwy. Yn gynharach y mis hwn, fe gadarnhaodd Cyngor Sir Ddinbych fod cynllun arfordirol dwyrain y Rhyl gwerth £27 miliwn wedi cael ei gwblhau yn sir Ddinbych, ac fe ariannwyd hynny gan ein rhaglen ni, sydd wedi bod o fudd i tua 1,650 eiddo. A ddoe, fe ymwelodd fy nghyd-Aelod Julie James â chynllun arfordirol Aberafan, ac, wrth gwrs, rydym ni'n edrych ymlaen at ymweld â chynlluniau ledled Cymru dros y flwyddyn i ddod wrth iddyn nhw gael eu cyflawni.
Gan droi at gyllid cyfalaf, fe allwn ni edrych ymlaen at raglen fuddsoddi gref o gyfanswm o £34 miliwn. Heddiw, rydym ni wedi cyhoeddi manylion y cynlluniau i gyd, ynghyd â map rhyngweithiol i'r cyhoedd ac Aelodau allu edrych ar y manylion cysylltiedig. Fe ddarparwyd cyllid ar gyfer gwaith i gynllunio a datblygu cynlluniau'r dyfodol yn ogystal ag adeiladu asedau newydd. Mae rhai o'r cynlluniau yn y rhaglen adeiladu yn cynnwys gwaith yn Nhreorci, Dinas Powys, a Glyn-nedd. Drwy ein buddsoddiad cyffredinol ni, gan gynnwys y rhaglen lifogydd, fe fyddwn ni'n gwneud gwelliannau i o leiaf 14,600 eiddo eleni. Ond, nid yw cyllid cyfalaf yn ymwneud ag adeiladu asedau newydd yn unig ; mae'n cynnwys gweithgareddau i gynnal asedau presennol hefyd, a datblygu cynlluniau newydd, yn ogystal â mapio a modelu prosiectau er mwyn deall a mynegi'r perygl o lifogydd yn well. Fe fydd ein cyllid ni'n cefnogi gwaith datblygu ar 86 o gynlluniau eraill a fydd yn cyfrannu at raglenni'r dyfodol.
Y flwyddyn nesaf, fe fyddwn ni'n cynnig grantiau o 100 y cant ar gyfer yr holl waith paratoi ar gyfer cynlluniau newydd. Dim ond ar y cam adeiladu y bydd angen 15 y cant o arian cyfatebol gan yr awdurdodau lleol ac ar gyfer helpu i leihau'r arian cyfatebol hwn. Felly, rwy'n eu hannog nhw i geisio cyfraniadau oddi wrth gronfeydd partneriaethau pryd caiff manteision ehangach eu nodi.
Fe fyddwn ni hefyd yn parhau â'r grant gwaith ar raddfa fach poblogaidd ac rydym ni wedi cynyddu trothwy prosiectau unigol o dan y grant hwn i £200,000, ac rydym ni wedi dyrannu £3.8 miliwn i awdurdodau lleol ar gyfer cefnogi cynlluniau ledled Cymru, a fydd o fudd i dros 2,100 o eiddo.
Yn olaf, Llywydd, mae'r rhaglen Rheoli Llifogydd yn Naturiol yn parhau ac yn ei blwyddyn olaf. Fe fydd y rhaglen hon yn ein helpu ni i ddeall rheolaeth naturiol o lifogydd a'r ffordd orau o gyflawni'r mathau hyn o gynlluniau ar gyfer cyfrannu at ein hymrwymiad ni i reoli llifogydd mewn ffyrdd naturiol. Mae'r rhaglen hon sydd o werth £3 miliwn yn cynnwys 15 o brosiectau a fydd o fudd i dros 1,100 eiddo, gan ddarparu manteision ehangach, fel gwella ansawdd y dŵr a bioamrywiaeth.
Mae ein strategaeth llifogydd genedlaethol ni'n nodi sut yr ydym ni'n gwella'r ffordd yr ydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i leihau risg ac yn dynodi cyfeiriad clir ar gyfer cyflawni ein hamcanion hirdymor ni. Ac mae'r cyfraddau uchaf erioed o fuddsoddiad yr ydym ni'n eu cyhoeddi heddiw yn adlewyrchu pwysigrwydd rheoli peryglon llifogydd yng ngolwg y Llywodraeth hon, wrth i ni wynebu'r heriau newid hinsawdd a gweithio gyda'n gilydd i addasu a pharatoi cymunedau i'r dyfodol. Diolch.
Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog. Mae hwn, yn fy marn i, yn ddatganiad cadarnhaol. Mae croeso i'r newyddion y caiff £214 miliwn ei fuddsoddi mewn cynlluniau atal llifogydd ac erydu arfordirol dros y tair blynedd nesaf, gyda £71 miliwn i'w fuddsoddi yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Er eich bod chi wedi crybwyll mai rhan o'ch cytundeb cydweithredu yw hon, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am gyllid ychwanegol a gwell rheolaeth o ran llifogydd ac amddiffynfeydd arfordirol ers 2016. Rydych chi wedi rhoi gwybod i ni y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu i wella rhag-gynllunio, a dyna, yn fy marn i, oedd y ddau air allweddol yn eich datganiad chi. Oherwydd, yn rhy aml, mae arnaf i ofn fod y dull gweithredu gan Lywodraeth Cymru wedi bod ar sail adweithiol yn hytrach na rhagweithiol. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith yn fawr eich bod chi'n edrych ymlaen nawr at weithio gydag awdurdodau rheoli risg ar gyfer cyflymu'r broses o ddarparu a chefnogi pobl Cymru.
Yn ystod yr ymchwiliad a gynhaliwyd gennym ni i ymateb Llywodraeth Cymru i'r llifogydd ym mis Chwefror 2020, roedd adroddiad y pwyllgor yn dangos bod cyfradd y cyllid refeniw yn golygu bod yr awdurdodau ymhell iawn o fod yn gwbl barod a chydnerth. Fe dderbyniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ychydig o dan 5 y cant o'r cyllid refeniw cenedlaethol, er ei fod yn amcangyfrif bod 21 y cant o'r perygl cenedlaethol oherwydd llifogydd dŵr wyneb ganddo i'w reoli.
Nawr, wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi egluro bod dyrannu refeniw'r blynyddoedd i ddod, ar sail y perygl oherwydd llifogydd ac erydu arfordirol nawr ac yn y dyfodol, yn rhywbeth y byddech chi'n ei ystyried. Felly, mae gennyf i ychydig o gwestiynau, ond rwyf i am ddweud wrthych chi fy mod i'n croesawu eich cyhoeddiad eich bod chi am ymweld â rhai o'r cynlluniau, oherwydd mae gennym ni dri chynllun yma yn fy etholaeth i: Llanfairfechan, sydd wedi gweld difrod aruthrol i'r cob oherwydd stormydd; Bae Penrhyn, y mae cynllun newydd yno i amddiffyn rhag effeithiau'r môr; ac, yn olaf, Llandudno, pryd y rhoddodd eich Llywodraeth chi, mewn ffordd braidd yn esgeulus yn 2014, gynllun amddiffyn y môr i ni a oedd yn sylfaenol annigonol, a chael gwared ar ein tywod ni, a dodi miloedd o dunelli o glogfeini ar y traeth. Roeddech chi yno dros y penwythnos, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno—. Mae cais ger eich bron chi, ac mae pobl Llandudno, y gwleidyddion i gyd, a'r hyn yr ydym ni'n ei ddymuno yw gweld tywod ar y traeth unwaith eto. Felly, rwy'n edrych ymlaen at eich gweld chi'n ymweld â rhai cynlluniau yn yr etholaeth yma yn Aberconwy.
Fy nghwestiwn cyntaf i yw: o gofio nad oedd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gallu ateb fy nghwestiwn i'r wythnos diwethaf, a wnewch chi egluro i'r Senedd pam nad yw dyrannu refeniw yn rhoi ystyriaeth i'r perygl o lifogydd o hyd, er gwaethaf argymhelliad eglur y pwyllgor? Cwestiwn 2: a wnewch chi egluro a fydd y dyraniadau refeniw o ran llifogydd o £222,000 a gafodd ei gadarnhau ar gyfer awdurdodau lleol yn cael eu rhannu yn gyfartal rhwng pob awdurdod? Mae eich datganiad chi i'r wasg yn tynnu sylw at y rhaglen lywodraethu fel tystiolaeth eich bod chi am ganolbwyntio ar ganlyniadau sy'n helpu i wella cydnerthedd ein cymunedau ni. Felly, yn y bôn, pam mae Llywodraeth Cymru yn parhau i anghytuno â thua 6,000 o bobl a lofnododd ddeiseb yn annog Llywodraeth Cymru i gychwyn ymchwiliad llawn, annibynnol, agored a chyhoeddus i lifogydd cartrefi a busnesau yn Rhondda Cynon Taf yn 2020?
Rwy'n credu eich bod chi'n ymwybodol, Dirprwy Weinidog, ynghyd â'r Gweinidog, am fy mhryderon i o ran yr amser y mae hi'n ei gymryd ar gyfer adroddiadau adran 19, a nhw mewn gwirionedd yw'r unig bethau sydd ar gael i gymunedau pan fyddan nhw'n cael llifogydd mawr. Mae rhai wedi gorfod aros—mae awdurdodau lleol wedi gorfod aros—wyth mis am yr adroddiad, ac yn sicr, yma yn Llanrwst a Phentref, 17 mis. Mae hwnnw'n amser maith ar ôl i bobl sydd wedi gweld dinistrio eu cartrefi nhw a'u cymunedau nhw gan lifogydd. A wnewch chi ymrwymo, a hynny ar fyrder, i fynd i'r afael â'r oedi o ran llunio a chyhoeddi adroddiadau adran 19 fel bydd mesurau i liniaru effaith llifogydd yn cael eu nodi ar fwy o gyflymder? Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi ynglŷn â'r gwaith da sydd wedi bod ar ein hucheldiroedd ni—. Yn sicr, yma yn Aberconwy rydym ni wedi bod yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru i gael trefn ar y mawndiroedd fel bod mwy o ddŵr yn cael ei ddal a'i gadw yno yn ein hucheldiroedd ni er mwyn osgoi llifogydd difrifol mewn pentrefi fel Llanrwst.
Yn olaf, rwy'n nodi eich bod chi'n sôn am roi cynnydd o £1.5 miliwn yng nghyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru, ac eto mae CNC eu hunain wedi amcangyfrif y bydd angen ymhell dros 200 o staff ychwanegol i orfodi'r parthau perygl nitradau neu'r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Sut ydych chi am ystyried ailstrwythuro Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan o hynny, oherwydd rwy'n credu y byddech chi'n cytuno â mi, Dirprwy Weinidog, nad yw'n ymwneud ag arian yn unig? Rwy'n credu fy mod i wedi gofyn digon o gwestiynau i chi nawr, ac fe fyddwn i'n gwerthfawrogi eich cydnabyddiaeth o'r materion hyn a'ch ymatebion chi iddyn nhw, a diolch eto i chi am eich datganiad. Diolch, Llywydd.
Wel, Llywydd, dangosed y cofnod fod Janet Finch-Saunders, am 14:53 ar 15 Mawrth 2022, wedi croesawu camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru a diolchodd i ni am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. Mae'n ddiwrnod pwysfawr a fydd yn nodedig yn llyfrau'r cofnodion am amser maith i ddod, ac rwy'n gwerthfawrogi'r gydnabyddiaeth honno.
Fe gafodd llawer o'r cwestiynau a gododd hi eu hateb gan fy natganiad, rwy'n credu, ond fe hoffwn i ymdrin ag un neu ddau o'r gweddill. Yr awdurdodau rheoli perygl llifogydd sy'n gyfrifol am ddatblygu cynlluniau—eu swyddogaeth statudol nhw yw honno. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cynigion ar sail y dadansoddiad arbenigol, ac mae hynny ar sail sut y maen nhw'n hwyluso rheoli llifogydd, ac rwy'n siŵr fod gan Janet Finch-Saunders, sy'n landlord yn Llandudno, ddiddordeb mawr mewn gweld tywod ar y traeth yn y fan honno, ond nid honno yw'r brif ystyriaeth o ran cynllunio ar gyfer lliniaru effeithiau llifogydd, ac nid ydym ni'n dibynnu ar ddewisiadau gwleidyddol, ond ar asesiad arbenigol o'r hyn a fydd yn lleihau'r perygl o lifogydd, a dyna sut y caiff cynlluniau eu barnu. Rydym ni'n awyddus i weld mwy o awdurdodau yn cyflwyno cynlluniau y gallwn ni farnu arnyn nhw a'u rhoi ar y gweill wedyn a'u cyflawni nhw. Mae'r pwynt a wnaeth hi ynglŷn ag ymchwiliadau adran 19 yn rhywbeth, fel mae hi'n gwybod, sy'n cael ei gynnwys yn ein cytundeb partneriaeth ni â Phlaid Cymru a'n bod ni'n trafod gyda'r Aelod dynodedig ac fe fyddwn ni'n gwneud cyhoeddiad ynghylch pryd y bydd cytundeb gennym ni ynglŷn â sut i fwrw ymlaen â hynny. Ond rydym ni wedi ymrwymo i wneud hynny.
Rwy'n credu mai'r pwynt i'w wneud am y sylwadau ehangach yw bod gennym ni raglen waith sylweddol yn y cynllun hwn i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol y gwyddom ni fod newid hinsawdd yn ei chyflwyno i ni, ac mae hi'n sôn am y cynllun yn ei hetholaeth hi, sy'n ardal dan fygythiad ar yr arfordir, fel cymaint o dirwedd Cymru. A'r angen i ni uno'r dotiau yma—. Fe ddywedaf i wrth Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr, sôn yr ydym ni am ymdrin ag effaith newid hinsawdd yma, ond mae'n rhaid i ni ymdrin ag achosion newid hinsawdd hefyd. Ni ddaw unrhyw les o ddod i'r Siambr gyda rhestr o ganlyniadau newid hinsawdd heb fod yn fodlon, yn ogystal â hynny, i ewyllysio peidio â gwaethygu'r sefyllfa o ran newid hinsawdd, ac rwy'n credu bod angen iddyn nhw ystyried rhywfaint o gydgysylltu yn eu meddylfryd nhw o ran polisi.
Fe hoffwn i groesawu'r buddsoddiadau arfaethedig, Gweinidog, ym maes rheoli perygl llifogydd, a diolch yn fawr i chi am y datganiad. Fe fydd y gyllideb gyfalaf tair blynedd yn sicr yn cefnogi cymunedau drwy ddarparu amddiffynfeydd llifogydd hanfodol y mae wir eu hangen nhw, ac, wrth gwrs, fe ddaw'r cyllid ochr yn ochr â chyllideb refeniw hanfodol, fel y nodwyd yn barod. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y gwaith cydweithredol rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, ac, fel dywedwyd eisoes yn ystod y datganiad hwn a'r trafodaethau eisoes, mae'r cytundeb cydweithredu wedi golygu ein bod ni wedi llwyddo hefyd i sicrhau ymrwymiadau i gomisiynu adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19 a CNC ynglŷn â llifogydd eithriadol yn ystod gaeaf 2020-21, ac, wrth gwrs, i weithredu yn ôl yr argymhellion hynny. Felly, fe wyddom ni fod hyn yn rhan o brosiect gwaith parhaus yma.
Nawr, gadewch i ni edrych tua'r dyfodol, Gweinidog. Yn ystod y gaeaf, fe ddisgwylir i'r glaw gynyddu tua 6 y cant erbyn y 2050au a rhwng 7 y cant a 13 y cant erbyn y 2080au o linell sylfaen 1981 i 2000. Yn amlwg, mae llawer o hynny'n dibynnu ar ymdrechion byd-eang i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac fe wn i, pan soniwn ni am bethau yn 2050 a 2080, ei bod hi'n ymddangos yn bell iawn i ffwrdd, ond rydym ni'n sôn am bethau a fydd yn digwydd yn ein hoes ni, a bydd newid hinsawdd yn gwaethygu yn yr oes honno—yn sicr, hefyd, yn oes cynifer o bobl yng Nghymru a phobl sydd eto i'w geni. Bydd llifogydd gwaeth yn effeithio mwy ar fwy o ardaloedd; bydd pobl yn dechrau poeni pan fydd yn dechrau glawio—poeni am eu cartrefi, eu busnesau, eu cymunedau a allai gael eu dinistrio gan ddŵr llifogydd. Fe hoffwn i wybod, os gwelwch yn dda, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd yr ardaloedd y rhagwelir y bydd llifogydd yn effeithio fwyaf arnyn nhw yn cael eu rhagrybuddio pan fydd llifogydd yn digwydd. A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ddweud o ran yr angen i gynyddu systemau rhybuddio cynnar ar gyfer cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd, yn enwedig peidio ag ystyried glaw yn unig ond risgiau cysylltiedig, fel tomenni glo a llithriadau glo?
O edrych ar y buddsoddiad cyfalaf arfaethedig, er bod amddiffynfeydd llifogydd caled fel waliau amddiffyn rhag llifogydd, wrth gwrs, yn gwbl angenrheidiol, nid yn unig i ddiogelu eiddo ond ar gyfer gymunedau, mae hyn wedi codi eisoes, Gweinidog, sef nad oes digon o bwyslais, efallai, ar adfer natur. Fe wn i fod Janet Finch-Saunders wedi codi hyn hefyd, ac rwy'n cydnabod eich bod eisoes wedi cydnabod hyn, ond os ydym ni'n sôn am fawndiroedd, morfeydd heli, plannu coed, ailgyflwyno afancod, cynyddu mannau gwyrdd, storio dŵr mewn ardaloedd trefol, a oes unrhyw beth pellach yr hoffech ei ddweud, Gweinidog, o ran cynlluniau i gynyddu faint o reoli llifogydd naturiol sy'n digwydd, o ystyried y manteision a fyddai'n deillio o'r dulliau naturiol hyn?
Yn olaf, mae Llywodraeth Cymru yn gwario'r symiau uchaf erioed, wrth gwrs, ar amddiffynfeydd rhag llifogydd, ond mae angen gwneud mwy hefyd i helpu aelwydydd sy'n agored i niwed, sydd mewn perygl, i wneud eu cartrefi nhw'n fwy cydnerth o ran llifogydd a sicrhau bod ganddyn nhw yswiriant digonol i ddod i drefn ar ôl unrhyw lifogydd. Y gwir amdani yw bod aelwydydd tlotach yn llai abl i fuddsoddi yn eu heiddo, i'w galluogi i wrthsefyll llifogydd ac o ran cydnerthedd rhag llifogydd hefyd, pan fyddwn yn sôn am lifddorau neu'n eu gwneud hi'n haws i'w glanhau a'u clirio a'u sychu. Mae rhai yn llai abl i ymateb pan fydd llifogydd yn digwydd oherwydd, efallai, eu bod nhw'n anabl neu eu bod nhw'n agored i niwed oherwydd oedran mawr neu salwch, ac nid yw llawer ohonyn nhw'n gallu codi ar eu traed wedyn ar ôl iddyn nhw gael eu taro gan lifogydd. Mae ffigurau'r DU gyfan yn awgrymu efallai nad oes gan tua 50 y cant o'r holl rentwyr yswiriant cynnwys cartref. Mae hynny'n codi i 61 y cant ymhlith rhentwyr incwm isel. Felly, Gweinidog, fe hoffwn i wybod ychydig mwy o fanylion, os gwelwch yn dda, am y mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod mwy o gartrefi, yn enwedig cartrefi incwm isel mewn ardaloedd lle ceir risg uchel o lifogydd, yn gallu gwrthsefyll llifogydd a bod yn gydnerth a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau baich cost yswiriant ar yr aelwydydd hynny, os gwelwch chi'n dda.
Diolch. Roedd nifer o gwestiynau yn y fan yna ac, yn fy natganiad, fe wnes i gydnabod y rhan a chwaraeodd y cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru yn y cyhoeddiad heddiw. Fel gwyddoch chi, roedd dau faes yn y cytundeb yn ymwneud â llifogydd. Yn gyntaf i gyd, adolygiad o lifogydd, y soniais i amdano yn fy ateb blaenorol a'n bod ni'n gwneud cynnydd yn ei gylch. A'r ail oedd buddsoddi cyfalaf mewn amddiffyn yn erbyn llifogydd a chydnerthedd cenedlaethol, gan fuddsoddi mwy mewn rheoli a lliniaru effeithiau llifogydd a chynllunio i ymateb i'r perygl cynyddol o lifogydd, ac yna yn ail i ofyn i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru asesu sut y gellir lleihau'r tebygolrwydd o lifogydd mewn cartrefi, busnesau a seilwaith yn genedlaethol erbyn 2050, ac mae hynny ar y gweill hefyd. Rydym ni'n ail-lunio'r comisiwn seilwaith cenedlaethol. Fel gŵyr yr Aelodau, rwy'n credu, rydym ni wedi penodi cadeirydd newydd sef Gareth Clubb. Rydym ni'n adnewyddu'r aelodaeth ac rydym ni'n canolbwyntio ymdrechion y cylch gorchwyl ar ei waith ef o ran cynllunio sero net. Ac yn rhan o hynny, rydym ni'n gofyn iddyn nhw edrych, fel y cytunwyd yn y cytundeb cydweithredu, ar liniaru effeithiau a chyfyngu ar lifogydd. Felly, rwy'n falch o gadarnhau hynny, a diolch i Blaid Cymru am eu cydweithrediad nhw yn hynny o beth. Rwyf i o'r farn fod hwnnw'n ddarn pwysig o waith ar y cyd. Pan ydym ni'n unfryd, mae hi'n gwneud synnwyr ein bod yn gweithredu gyda'n gilydd, ac rwyf i'n bersonol yn croesawu hynny'n fawr.
O ran systemau rhybuddio cynnar, rwy'n credu bod systemau rhybudd cynnar digidol yn hanfodol, ac mae hyn yn wir yn gyffredinol. Roeddwn i yn y Sioe Amaethyddiaeth Carbon Isel yn Stoneleigh yr wythnos diwethaf gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac roeddem ni'n edrych ar ystod eang o ymyriadau amaethyddol manwl a all ein helpu ni i ymdrin â pheryglon newid hinsawdd yn ogystal â gwella cynhyrchiant a systemau rhybuddio ar ffermydd, ac mae mwy o ddefnydd o amaeth-dechnoleg yn benderfyniad amlwg, a dweud y gwir.
A hefyd, o ran y pwynt penodol am ddiogelwch tomenni glo, yna mae defnyddio systemau rhybudd cynnar digidol yn rhan o'r tasglu a sefydlodd y Prif Weinidog. Ac yn yr un modd, mae'r pwynt ynglŷn â rheoli llifogydd yn naturiol ar y gweill eisoes. Mae cyhoeddiad heddiw yn cynnwys £3 miliwn ar gyfer hynny. Ond mae gennym ni gynlluniau eraill hefyd, fel y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a'r fenter plannu coed a grybwyllwyd hefyd. Yn gywir, fe all y goeden iawn yn y lle iawn fod o gymorth o ran lliniaru llifogydd lleol, boed hynny ar raddfa fferm neu ar strydoedd mewn cymunedau, ac rwy'n credu bod hynny'n rhan bwysig iawn o'n dull ni o blannu coed, a phrif ffrydio rheoli llifogydd naturiol ym mhopeth a wnawn ni.
Rwy'n gobeithio fy mod i wedi ymdrin â'r prif bwyntiau yn y fan yna. Diolch i chi.
A gaf i, yn gyntaf i gyd, Dirprwy Weinidog, ddiolch i chi am eich datganiad heddiw? Fe ddioddefodd gogledd Powys, yn fy etholaeth i, lifogydd sylweddol, wrth gwrs. Y mis diwethaf, mewn tri diwrnod rwy'n credu, fe lawiodd 150mm o ddŵr—50 y cant ar un diwrnod yn unig, dydd Sul 20 Chwefror—ar dir a oedd eisoes yn wlyb iawn, felly roedd yr afonydd wedi codi hyd eu huchaf erioed, yn anffodus, ac fe ddioddefodd llawer o gymunedau, wrth gwrs, yn Llandinam, Cei'r Pwll a Llandrinio. I lawer, roedd llifogydd fel hyn wedi digwydd ddwywaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf, felly mae'r holl ofid, wrth gwrs, yn dod gyda hynny i'r rhai y mae eu cartrefi nhw wedi profi llifogydd.
Pan wyf i'n amlinellu—. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi amlinellu'r cyllid ychwanegol heddiw, ond fe fyddwn yn cwestiynu sut caiff CNC ei strwythuro a'i strwythuro yn briodol ar gyfer cyflawni. Mae arnaf i ofn fy mod wedi cael rhai ymatebion annigonol iawn, fel hefyd cynghorwyr sir fy etholaeth i fy hun, oddi wrth CNC. Fe godwyd materion, yn enwedig yn Llandrinio a Llandinam, ers blynyddoedd, ac fe gafwyd ymrwymiadau gan staff Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwy'n sylweddoli nad oes gennyf i amser i fanylu—rwy'n hapus i ysgrifennu atoch chi—ond fe wneir ymrwymiadau, a blynyddoedd yn ddiweddarach mae llifogydd yn taro eto, a beth sy'n digwydd? Mae CNC yn dweud y byddan nhw'n dod i wneud arolwg. Nid oes angen arolwg arnom ni ac arolygon wedi bod o'r blaen, ac fe geir rhwystredigaeth enfawr. Rwy'n ceisio cael asesiad yma gennych chi, Gweinidog, ai prinder adnoddau yw achos hynny neu a yw CNC yn amddifad o strwythur digonol ar gyfer cyflawni.
Mae angen i chi ofyn cwestiwn nawr.
Iawn, ac os caf i ofyn—. Yn olaf, felly, Gweinidog, os caf i ofyn i chi, o ran y rhwystredigaethau hynny mewn cymunedau—. A gaf i ofyn i chi edrych yn benodol ar rybuddion llifogydd hefyd? Gan nad yw hi'n ymddangos bod gwefan CNC yn gweithio yn iawn. Yn fy marn i, yn ôl eu cyfaddefiad nhw eu hunain, nid yw'r mesuryddion yn gweithio yn iawn. Un o'u prif swyddogaethau nhw wrth gwrs yw rhybuddio cymunedau am lifogydd, ac mae hi'n ymddangos bod manteision eraill yr ochr arall i'r ffin yn Swydd Amwythig, lle mae gwefan Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithio yn llawer mwy effeithlon, mae hi'n ymddangos, na gwefan CNC, lle nad yw llawer o fesuryddion yn gweithio yn iawn, ac wrth gwrs dyna un o'u prif swyddogaethau nhw. Felly, a fydd adnoddau ychwanegol yn mynd i'r mecanweithiau rhybuddio hefyd fel rhan o swyddogaethau CNC?
Wel, rwy'n credu mai dim ond bod yn onest yw cyfaddef bod adnoddau, yn amlwg, yn brin. Ni allwn ni wneud y pethau yr ydym ni'n dymuno eu gwneud i gyd, ac mewn rhai achosion mae angen i ni eu gwneud nhw, ar draws y Llywodraeth. Dyna yw natur bod yn y Llywodraeth, ac nid yw'r setliadau ariannu a gawsom ni yr hyn yr hoffem ni iddyn nhw fod. Nid yw'r cyllid ar gyfer Llywodraeth Cymru wedi dal i fyny â thwf yr economi. Mae hwnnw'n bwynt a wnaethom ni dro ar ôl tro, ac ni all y Ceidwadwyr ddiystyru effaith cyni. Dyma amlygiad ymarferol y cyllid a ataliwyd dros fwy na degawd, ac rwyf i o'r farn mai dim ond tegwch yw tynnu sylw at hynny.
Nawr, o ran CNC yn benodol, rydym ni yn gofyn i CNC gyflawni llawer, ac rwy'n credu ei fod wedi gwneud gwaith rhagorol yn ystod y llifogydd diweddar, ac mae wedi ymateb yn eithriadol o dda mewn argyfwng pob amser. O ran eu swyddogaethau o ddydd i ddydd, mae llawer ganddyn nhw ei wneud, ac nid yw'r adnoddau ar gael iddyn nhw bob amser i wneud popeth y maen nhw'n dymuno ei wneud hyd eithaf eu gallu. Mae hynny o ganlyniad i'r setliad ariannu cyffredinol. Rydym ni wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer CNC yn y cyhoeddiad heddiw, ac fe fyddwn i'n hapus iawn i edrych yn fanwl eto ar y pwyntiau a nododd Russell George. Mae hi'n wir weithiau, fel gwnaethom ni ei ddarganfod ynglŷn â phlannu coed, er enghraifft, i ddefnyddio hynny'n enghraifft o'r pwynt ehangach—. Yn yr astudiaeth ddofn a wnaethom ni yn yr haf y llynedd, fe edrychwyd ar y ffordd y defnyddiodd CNC ei adnoddau, ac yn yr achos hwnnw roedd tua 82 aelod o staff a oedd fel rhan o'u gwaith nhw'n edrych ar asesu cynlluniau plannu coed. Felly, nid oedd yr adnoddau ganddyn nhw, ond fe'u cyfarwyddwyd nhw, yn fy marn i, yn y ffordd anghywir—fe'u cyfarwyddwyd i godi rhwystrau yn hytrach na thynnu rhwystrau i lawr. Felly, weithiau mae hi'n fater o edrych ar yr adnodd sydd ar gael a bod yn eglur ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n gofyn iddyn nhw ei wneud. Rydym ni'n cynnal deialog lawn ac iach iawn gydag arweinyddiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, gan adolygu nifer o feysydd perfformiad allweddol, i sicrhau addasrwydd y systemau ar gyfer y gwaith dan sylw. Ond, o ran y pwyntiau penodol, fe fyddwn i'n hapus iawn i'w hateb nhw mewn gohebiaeth.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu yn fawr gyhoeddiad heddiw, sy’n deillio o’r cytundeb rhwng ein pleidiau. Tan i chi weld effaith llifogydd ar gartrefi a chymunedau, dwi'n meddwl ei bod yn amhosibl dirnad yr effaith nid yn unig yn syth wedi llifogydd, ond hefyd o ran y rhai sydd wedi eu heffeithio am flynyddoedd a degawdau wedi hynny. Mae'r trawma yn un parhaus, ac mae pobl yn dal i grio efo fi bob tro dwi'n eu cyfarfod nhw wrth ddisgrifio'r hyn maen nhw wedi bod trwyddo fo.
Yn y datganiad, fe wnaethoch gyfeirio, Dirprwy Weinidog, at yr arian ychwanegol i gyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru, yn benodol o ran refeniw. Allwch chi gadarnhau, os gwelwch yn dda, os yw hyn wedi ei neilltuo yn llwyr ar gyfer ymdrin â llifogydd, ac i ba raddau y bydd hyn yn gwella’r sefyllfa o ran nifer y staff sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymdrin â llifogydd? Wedi’r cyfan, nododd adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru i lifogydd 2020 y canlynol:
'Amcangyfrifir y bydd angen oddeutu 60-70 o aelodau staff ychwanegol dros y tymor hir i gynnal y gwasanaeth yn gyffredinol ac i fynd i'r afael â'r camau gweithredu a nodir yn ein hadolygiad llifogydd.'
Fydd hyn, felly, yn cael ei unioni yn sgil y datganiad heddiw?
Wel, fel rydym ni wedi dweud, rydym ni wedi cynyddu cyfradd y cyllid ar gyfer CNC, a mater iddyn nhw yw manylion sut y caiff ei wario a mater i'w drafod gyda ni. Ni allaf i ddweud mwy na hynny heddiw, ond mae hi'n amlwg ei fod yn gwestiwn allweddol, ac rwy'n cydnabod hynny. Rwy'n llwyr gydnabod ei phwynt hi am y gofid a'r trueni a achosir gan lifogydd. Fe welais i rywfaint o hynny fy hunan ym Mhontypridd ddwy flynedd yn ôl erbyn hyn, gan gyfarfod â llawer o'r bobl yr effeithiwyd arnyn nhw ac fe allwn i weld y gofid gwirioneddol a achoswyd yno, a'r straen hefyd. Ac rydym ni'n awyddus i rwystro hynny. Fe wyddom ni oddi wrth y gwyddonwyr y bydd hyn yn dod yn ddigwyddiad mwy rheolaidd. Fe fydd ein gaeafau ni'n fwy stormus a gwlyb, fe fyddwn ni'n cael mwy o law, ac mae hynny o ganlyniad i'r allyriadau yn yr hinsawdd, yr allyriadau carbon a ollyngwyd eisoes i'r atmosffer. Mae'r llong wedi hwylio yn hynny o beth, ac mae'n rhaid i ni addasu ein seilwaith a'n systemau ni i ymdrin â hynny, ac mae'n rhaid i bobl mewn ardaloedd risg uchel ddysgu byw gyda'r risg a rheoli'r risg. Allwn ni ddim gwneud iddo ddiflannu gyda hud. Ond yr un mor bwysig yw ein bod yn ei atal rhag gwaethygu, ac mae angen i ni ymrwymo o'r newydd i sero net ac atgoffa pobl, oherwydd mae lleisiau yn ystod yr argyfwng hwn sy'n dweud bod angen i ni roi llawer o'r pethau yr ydym ni wedi ymrwymo i'w gwneud o ran ynni adnewyddadwy neu, yn wir, ynglŷn â phlannu coed, o'r neilltu. Maen nhw'n dweud y dylem ni ymateb i'r argyfwng mewn dull byrdymor, mewn ffordd anystyriol, gan ddychwelyd at y pethau yr ydym ni'n eu gwneud. Yn sicr, fe geir lleisiau ar y dde yn galw arnom ni i groesawu ffracio, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cofio mai trafod effaith newid hinsawdd yr ydym ni yma heddiw. Nid aiff hynny i ffwrdd, fe fydd yn gwaethygu, ac mae'n rhaid i ni beidio â cholli ein plwc mewn sefyllfa anodd iawn a chofio ein bod ni'n wynebu argyfyngau lluosog, ac mae'n rhaid ymdrin â'r argyfwng hinsawdd hefyd.
Fel gŵyr y Dirprwy Weinidog, mae gennyf i brofiad personol o lifogydd, ar ôl byw drwy lifogydd Tywyn yr holl flynyddoedd hynny'n ôl, ac maen nhw'n dod â dinistr llwyr. Mae'n rhaid i ni wneud yr hyn a allwn ni i atal cartrefi pobl rhag effeithiau llifogydd. Roeddwn i'n falch iawn o weld llawer o gyfeiriadau at ardaloedd yn fy etholaeth i yn y rhestr o ymrwymiadau ariannol, yn cynnwys ardal Tywyn a Bae Cinmel. Un o'r pryderon a godwyd gyda mi gan drigolion lleol yn y gymuned honno yw'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gohirio ei gofynion nodyn cyngor technegol 15 newydd, a fyddai'n sicrhau y byddai unrhyw amddiffynfeydd newydd a gaiff eu hadeiladu yn Nhywyn a Bae Cinmel yn fwy cadarn na'r rhai sy'n cael eu cynnig ar hyn o bryd gan yr awdurdod lleol. Pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i'm hetholwyr i y bydd unrhyw fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn digoni cyfraddau amddiffyn newydd TAN 15 ac nid yr hen rai, nad ydyn nhw'n ddigon da, a dweud y gwir?
Wel, rydym ni wedi ymrwymo i weithredu TAN 15, dim ond i fod yn eglur ynglŷn â hynny. Rydym ni wedi cytuno i oedi am 18 mis cyn iddyn nhw a'r map llifogydd ar gyfer cynllunio fod yn weithredol oherwydd pryderon am weithrediad ymarferol yr awdurdodau lleol. A'r peth hollbwysig yn hyn yw gwneud hynny'n briodol, ac mae hynny'n golygu newid sylweddol iawn i lawer o'r tybiaethau a wnaeth yr awdurdodau lleol a'r awdurdodau cynllunio ynghylch pa ddatblygiadau sy'n bosibl a'r hyn sy'n ymarferol, ac mae hynny'n peryglu nifer o gynlluniau sy'n bwysig ar gyfer blaenoriaethau eraill. A dyma'r tyndra sydd gennym ni: sut mae cyplysu'r pwysau gwahanol hyn? Felly, dyna'r broses yr ydym ni'n mynd drwyddi hi nawr, gan weithio gydag awdurdodau lleol, ac fe allaf i sicrhau eich etholwyr chi ein bod ni wedi gohirio hynny, am resymau polisi cyhoeddus synhwyrol yn fy marn i, ond nid ydym ni'n osgoi'r her sy'n cael ei hwynebu. Ac mae'r canlyniadau sy'n dilyn ar ôl hynny'n bethau y bydd hi'n rhaid i bob un ohonom ni ddod i arfer â nhw, oherwydd mae hynny'n golygu gwneud pethau mewn ffordd arall, ac nid yw hi'n mynd i fod yn hawdd.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am y cyhoeddiad. Mae'r buddsoddiad ychwanegol yn sicr i'w groesawu yn fawr iawn, a dwi'n edrych ymlaen at weld y gwaith yn y Bermo, yn Ro-wen, neu Fairbourne, Morfa Nefyn a Phencaenewydd. Dwi am dynnu un peth arall at sylw'r Dirprwy Weinidog, os caf i. Mae Cyngor Cymuned Arthog, sy'n cwmpasu ardal y Ro-wen—Fairbourne—wedi derbyn adroddiad annibynnol gan Dr Graham Hall, sy'n arbenigo yn y maes llifogydd, a gafodd ei adolygu'n annibynnol gan Dr Veronica Edmonds-Brown o Brifysgol Hertfordshire. Mae'n nodi bod y cynllun rheoli glannau gorllewin Cymru—y west of Wales shoreline management plan—yn seiliedig ar waith a wnaed 10 mlynedd yn ôl bellach. Ers hynny, wrth gwrs, mae yna lawer o waith wedi cael ei wneud ar amddiffynfeydd yr arfordir sydd yn newid y rhagolygon ar gyfer cymunedau megis cymuned y Ro-wen, neu Fairbourne, ond dydy'r cynlluniau ddim wedi newid i adlewyrchu'r gwaith yma. Yn ogystal â hyn, mae'n nodi mai dŵr o'r mynyddoedd sy'n fwyaf tebygol o effeithio ar y gymuned honno, nid cynnydd yn lefel y môr, ar ben y ffaith bod lle i amau modelu Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn seiliedig ar ddata annigonol ac hen feddalwedd. A wnewch chi ofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru adolygu cynllun amddiffyn glannau'r gorllewin er mwyn cymryd adroddiad Graham Hall ac adolygiad Veronica Edmonds-Brown i mewn i ystyriaeth, os gwelwch yn dda?
Diolch i chi. Gwnawn, ac rydym ni'n ymwybodol o'r adroddiad. Rydym ni wedi gweld yr adroddiad ac mae ein tîm technegol ni wedi bod yn ei ddadansoddi. Mater i'r awdurdod lleol, sef y corff cyfrifol yn hyn o beth, yw hwnnw, ac rwy'n deall bod Gwynedd yn ystyried yr adroddiad hefyd, neu wedi cael golwg arno, ac rwy'n credu bod angen iddyn nhw drafod hynny gyda'r awduron i ddechrau i sicrhau bod dealltwriaeth gyffredin ar sail y dystiolaeth. Ac wedyn, pe byddai goblygiadau i hynny, fe fyddem yn eu hystyried nhw, yn amlwg.
Ac yn olaf, Samuel Kurtz.
Diolch, Dirpwy Lywydd, a diolch i'r Dirprwy Weinidog hefyd am y datganiad.
Diolch, Dirprwy Weinidog, ond byddwch chi'n ymwybodol bod sawl lleoliad yn fy etholaeth i, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn gweld llawer o erydu, ar yr arfordir ac oherwydd llifogydd, ac rwyf i wedi mynegi fy rhwystredigaethau o'r blaen am ei bod hi'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn taflu'r cyfrifoldeb yn ôl a blaen o ran pwy sy'n gyfrifol am ddatblygu cynllun atal llifogydd i ddiogelu busnesau ar hyd cei afon Tywi yng Nghaerfyrddin. Ac er ei bod hi'n iawn ein bod ni'n diogelu cartrefi pobl, mae busnesau yn hanfodol i'r economi leol ac ni ddylai'r Llywodraeth anghofio amdanyn nhw. Felly, o ystyried y cynnydd yn y cyllid sydd ar gael nawr i asiantaethau Llywodraeth Cymru, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi, Dirprwy Weinidog, yn egluro pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i amddiffyn busnesau lleol, fel y rhai sydd ar bwys cei Caerfyrddin, yn ogystal â chartrefi pobl. Diolch.
O ran y dryswch ynglŷn â chyfrifoldebau, rwy'n credu bod problem yn y fan hon oherwydd bod rhai cyfrifoldebau yn gorgyffwrdd ac nad oes yna eglurder bob amser, a dyna un o'r pethau y bydd yr adolygiad adran 19 y cytunwyd arno gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithredu yn edrych arno, oherwydd roedd honno'n sicr yn agwedd ar yr hyn a ddigwyddodd yn Rhondda Cynon Taf. Ac rwy'n credu mai drwy ddadansoddi'r gwahanol adroddiadau adran 19 a CNC i gyd y gallwn ni ystyried a yw hwnnw'n fater y mae angen i'w archwilio ymhellach ai peidio. Felly, rwy'n credu y bydd hwnnw'n ganlyniad defnyddiol iawn i'r broses honno.
O ran mater penodol cei Caerfyrddin, rydym ni wedi cael ceisiadau i ddiogelu busnesau, ond mae ein canllawiau ariannu yn glir iawn mai diogelu cartrefi ddylai ein blaenoriaeth ni fod. A lle ceir nifer o fanteision i gynlluniau, mae hi'n amlwg bod hwnnw'n fonws, ond mae yna angen i ni flaenoriaethu ac mae angen i'r awdurdodau lleol weithio gyda ni i ddylunio cynlluniau sy'n gallu cyflawni cymaint o amcanion â phosibl.
Diolch, Dirprwy Weinidog.