1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 22 Mawrth 2022.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rydym yn sôn yn aml am ganlyniadau cau rhannau o'r GIG i ymdrin â'r coronafeirws, sydd wedi gadael 20 y cant o boblogaeth Cymru ar restr aros y GIG, ac, o'r 20 y cant hynny, mae un o bob pedwar o bobl yn aros dros flwyddyn. Ond nid yw'r un o'r rhestrau hynny yn cynnwys yr amseroedd aros ar gyfer deintyddiaeth. Mae'r arosiadau mor gronig erbyn hyn ein bod ni'n gweld pobl yn gorfod talu cannoedd o bunnoedd, os nad miloedd o bunnoedd, neu gymryd camau mwy eithafol i dynnu eu dannedd eu hunain.
Hoffwn eich cyflwyno i Adam, sy'n dod o'r gogledd, a gafodd broblem debyg pan geisiodd gael gafael ar wasanaethau deintyddol yn y gogledd. Mae'n athro ym Mangor, a cheisiodd dro ar ôl tro gofrestru gyda phractisau deintyddol ym Mhorthaethwy, Bangor, Llandudno, Penmaenmawr, Bae Colwyn, Caernarfon, ac, ar bob un achlysur, ni allai gofrestru, gan fod yr amseroedd aros yn hirach na dwy flynedd ym mhob un o'r practisiau hynny. Nawr, pan fyddwn ni'n gweld triniaethau deintyddol yn gostwng 70 y cant dros y 12 mis diwethaf, ydych chi'n cytuno â mi bod problem wirioneddol o ran capasiti yng ngwasanaethau deintyddol Cymru a gallu pobl i gofrestru gyda darpariaeth y GIG?
Wel, nid oes amheuaeth bod deintyddiaeth y GIG yn cael ei herio yn fawr ar hyn o bryd, Llywydd, ond nid yw'n gymaint o fater o gapasiti; mae'n ymwneud â'r amgylchiadau ar gyfer cyflawni triniaeth ddeintyddol. Mae gennym ni niferoedd sylweddol o ddeintyddion yng Nghymru o hyd sy'n cyflawni triniaeth ddeintyddol y GIG, ond nid ydyn nhw'n gallu darparu niferoedd y triniaethau yr oedden nhw'n eu darparu o dan amodau cyn COVID, oherwydd, o'r holl bethau y mae'r GIG yn eu gwneud, y gweithdrefnau cynhyrchu aerosol y mae deintyddiaeth yn dibynnu arnyn nhw yw'r rhai sydd fwyaf tebygol o ledaenu COVID. Felly, yr amodau o hyd yw bod yn rhaid i ddeintyddion leihau nifer y cleifion y gallan nhw eu gweld mewn diwrnod, mae'n rhaid iddyn nhw gael cyfnodau hirach rhwng apwyntiadau er mwyn gwneud gwaith glanhau angenrheidiol, ac mae hynny yn arwain at yr amgylchiadau anodd iawn y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw.
Mae adferiad ym maes deintyddiaeth. Rydym yn ôl i fyny i tua 70 y cant o'r niferoedd a oedd yn bosibl cyn COVID. Mae ffyrdd newydd o roi cyngor i bobl. Rwy'n credu bod dros 2,000 o bobl yr wythnos yn cael cyngor dros y ffôn gan eu hymarferydd deintyddol. Ac mae cynlluniau yn arbennig i arallgyfeirio'r gweithlu deintyddol, a fydd yn golygu y gellir cyflwyno'r capasiti sydd ei angen arnom ni yn y dyfodol. Yn y cyfamser, bydd y sefyllfa yn parhau i fod yn anodd. Er bod mwy o arian yn y system, nid yw'r system yn gallu amsugno'r arian y mae'r Gweinidog iechyd wedi ei roi iddo yn y flwyddyn galendr hon. Oherwydd nid yr arian yw'r ateb yma. Nid oes amser yn y dydd na'r gweithwyr ar gael i allu gwneud popeth yr hoffem ni ei weld yn cael ei wneud.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fe wnaethoch chi nodi bod heriau yn y gwasanaeth deintyddol ledled Cymru, ond mewn gwirionedd mae 83 yn llai o ddeintyddion yn gweithio ar draws byrddau iechyd Cymru nag yn 2020. Mae'n debyg nad yw hyn yn cael ei helpu gan gontract deintyddol newydd y Llywodraeth ar gyfer y GIG, y mae gweithwyr proffesiynol—nid fi fy hun—yn dweud ei fod yn lleihau'r pwyslais ar archwiliadau rheolaidd, yn gwneud i ddeintyddion ddewis rhwng hen gleifion a chleifion newydd, yn talu deintyddion ar sail data perfformiad sydd wedi dyddio ac yn cael ei ariannu gan swm sy'n gostwng, 15 y cant yn llai na chwe blynedd yn ôl. Mae hynny yn ôl Cymdeithas Ddeintyddol Prydain. Mewn llythyr gan gadeirydd pwyllgor deintyddol lleol Dyfed Powys a anfonwyd at y Gweinidog iechyd, mae'r pwyllgor wedi cadarnhau—eto, nid fi sy'n dweud hyn—nad yw pob practis yn ardal y cadeirydd yn gallu llofnodi'r contract arfaethedig, a fyddai'n arwain at doriad o 75 y cant i gapasiti ar y lefelau presennol y cytunwyd arnyn nhw. Dywedodd y cadeirydd—ac eto, y cadeirydd sy'n ei ddweud, nid fi fy hun—nad yw pob aelod yn barod i gyfaddawdu ar ansawdd gofal eu cleifion. Mae hynny, fel grŵp, yn peri pryder mawr—bod gwasanaethau deintyddol y GIG yn y gorllewin mewn perygl o fethu cyn gynted â'r mis nesaf. Nid fi sy'n dweud hynny, cadeirydd y proffesiwn deintyddol yn ardal bwrdd iechyd Dyfed Powys. Os ydych chi'n derbyn bod heriau o ran y mater penodol hwn, pam ydych chi'n cyflwyno contract a fyddai'n gwneud y sefyllfa yn waeth ac o bosibl yn creu anialwch deintyddol mewn rhai rhannau o Gymru?
Rwy'n pendroni ynghylch yr adroddiad am y llythyr, oherwydd, o'r mis nesaf ymlaen, mae gan ddeintyddion yng Nghymru ddewis. Gallan nhw gymryd y contract newydd, ond os ydyn nhw'n teimlo nad yw'r contract newydd yn addas ar eu cyfer nhw, byddan nhw'n gallu parhau â'r contract presennol. Nid oes neb yn cael ei orfodi i gymryd y contract newydd. Mae'r contract newydd wedi ei gytuno yn ofalus iawn gyda'r cyrff proffesiynol. Mae llawer iawn o ddeintyddion yn credu ei fod yn llawer gwell na'r contract presennol gan ei fod yn caniatáu iddyn nhw gyflawni deintyddiaeth o ansawdd yn hytrach na'r ffrwd o unedau gweithgarwch deintyddol sy'n ysgogi'r contract presennol ac yn gwthio deintyddion i gynnal archwiliadau rheolaidd, triniaethau bach, yn hytrach nag ymarfer ar ben uchaf eu cymhwysedd proffesiynol. Mae'r contract newydd yn gwobrwyo deintyddion am waith ataliol ac am wneud y pethau y mae angen i ddeintydd cwbl gymwys eu gwneud. Ond, os bydd practis unigol yn credu mai'r contract presennol yw'r un sy'n gweithio iddyn nhw, yna bydd hwnnw ar gael iddyn nhw ar ôl 1 Ebrill.
Yn amlwg, mae cadeirydd y proffesiwn deintyddol yn ardal bwrdd iechyd Dyfed Powys yn teimlo yn wirioneddol fod potensial i wasanaethau fethu, a dyna pam y mae wedi ysgrifennu ar ran ei aelodau at y Gweinidog iechyd ynghylch y mater penodol hwn. Ni allwn anghofio pa mor anodd fu cael gafael ar ddeintyddiaeth y GIG cyn y pandemig. Dywedodd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain y llynedd fod mynediad at wasanaethau i gleifion newydd yng Nghymru wedi mwy na haneru ers 2012, gan ostwng i 15 y cant ar gyfer practisau sy'n derbyn cleifion sy'n oedolion, a 27 y cant ar gyfer plant sy'n defnyddio gwasanaethau deintyddol. Rydym yn gwybod bod y contract newydd yn dod drwodd. Rydym yn gwybod bod gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain a chynrychiolwyr ar lawr gwlad bryderon. Rydym yn sylweddoli bod cyfyngiad ar gyflenwad. Beth yn union allwn ni edrych ymlaen ato dros y 12 mis nesaf i wneud yn siŵr bod y cyfyngiadau hynny yn cael eu codi a bod pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau deintyddol? Rwyf wedi ei glywed gan aelodau eich meinciau cefn dro ar ôl tro, pan fyddan nhw'n holi Gweinidogion, ei bod yn broblem o'u hardaloedd eu hunain. Nid dim ond y Ceidwadwyr sy'n sefyll ac yn dweud hyn. Mae hyn ledled Cymru, ac mae angen gweithredu.
Ceir cyfres o gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd. Gwrandewais ar y cwestiwn cyntaf gan arweinydd yr wrthblaid. Bydd yr athro a nodwyd ganddo sy'n byw ym Mangor yn gallu manteisio, rwy'n gobeithio, ar y ganolfan newydd a fydd yn agor ym Mangor—canolfan ddeintyddol fawr newydd a fydd yn darparu lefel newydd o ddarpariaeth ddeintyddol y GIG i bobl yn y gogledd-orllewin. Byddwn yn parhau i ddarparu mwy o arian ar gyfer deintyddiaeth y flwyddyn nesaf—£2 filiwn gylchol arall gan y Gweinidog iechyd i gryfhau'r ddarpariaeth ddeintyddol. A byddwn, fel y dywedais wrth yr Aelod, yn bwrw ymlaen â rhyddfrydoli'r proffesiwn. Mae angen gwahanol garfan o weithwyr proffesiynol ym maes deintyddiaeth, sy'n gallu gwneud y gwaith arferol nad oes angen deintydd cwbl gymwys arnoch i'w wneud. Rydym ni wedi gweld rhyddfrydoli'r proffesiwn yn sylweddol mewn gwasanaethau meddygon teulu. Os ewch chi i feddygfa bellach, rydych chi'n debygol iawn o weld fferyllydd y practis, ffisiotherapydd y practis, nyrs y practis. Ceir amrywiaeth o weithwyr proffesiynol sy'n cyfrannu at y tîm o dan oruchwyliaeth y meddyg teulu. Mae angen yr un dull arnom ym maes deintyddiaeth. Mae angen i sgiliau a galluoedd ein deintyddion hynod fedrus gael eu neilltuo i wneud y pethau dim ond deintydd sy'n gallu eu gwneud, ac yna, ochr yn ochr â nhw, i gael lledaeniad ehangach o weithwyr proffesiynol perthynol eraill sy'n gallu ymgymryd ag agweddau ar ofal deintyddol nad oes angen deintydd cwbl gymwys arnyn nhw, wedi'i gyflawni o dan ei oruchwyliaeth. Fel hynny, byddwn yn gallu cynyddu capasiti deintyddiaeth y GIG a gwneud y defnydd gorau o'r staff drytaf a mwyaf cymwys sydd gennym ni yn y maes hwnnw.
Arweinydd Plaid Cymru nawr—Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ddydd Sul, fe wnes i a channoedd o bobl eraill, gan gynnwys y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Cwnsler Cyffredinol, ymgynnull a gorymdeithio yma yng Nghaerdydd fel rhan o ddiwrnod gwrth-hiliaeth y Cenhedloedd Unedig. Clywsom dystiolaeth rymus gan ymgyrchwyr cyfiawnder teuluol, gan undebwyr llafur ac ymgyrchwyr cymunedol, a siaradodd am y profiad cyffredin o hiliaeth strwythurol y mae pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig eraill yma yng Nghymru yn ei wynebu bob dydd. Wrth wrando ar y lleisiau hynny, roeddwn i'n teimlo bod pob sefydliad yn y gymdeithas, gan gynnwys pleidiau gwleidyddol—fy mhlaid i yn eu plith—wedi methu â chydnabod a mynd i'r afael yn briodol â'r hiliaeth systemig sydd i'w chael ym mron pob maes, o wleidyddiaeth i iechyd, i addysg a'r economi. Fel cam symbolaidd pwerus, ond ymarferol hefyd, i gyflawni'r dyhead cyffredin hwnnw i fod yn genedl wrth-hiliaeth, a wnewch chi ymrwymo i Gymru ymuno â'r Alban i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar ddileu pob math o wahaniaethu ar sail hil mewn cyfraith?
Diolch i'r Aelod am hynna. Roedd yn dda iawn darllen adroddiadau am yr orymdaith ddydd Sul—gorymdaith y bydd Aelodau yma yn gwybod sy'n coffáu cyflafan Sharpeville, a ddigwyddodd ym 1960. Mae'n wych, yn fy marn i, weld hynny yn parhau i gael ei goffáu yma yng Nghymru. Cefais gyfle i siarad â fy nghyd-Weinidog Jane Hutt, a agorodd yr areithiau yn y rali, ac rwy'n gwybod bod y Cwnsler Cyffredinol wedi siarad wrth i'r gorymdeithwyr weithio eu ffordd i lawr i'r Senedd. Darllenais adroddiadau am yr hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru yn yr orymdaith hefyd.
Yn ein cynllun gweithredu ar gydraddoldeb hiliol, y cyngor, rwy'n credu, yr ydym ni wedi ei gael gan bobl sydd â phrofiad byw o hiliaeth yw bod yn rhaid i ni symud y tu hwnt i ymrwymiad i beidio â bod yn hiliol i ymrwymiad i fod yn gadarnhaol wrth-hiliol yn y ffordd yr ydym yn trefnu ein hunain fel pleidiau gwleidyddol, fel gwasanaethau cyhoeddus. Mae hynny i'w weld ar bob tudalen, rwy'n credu, o'r cynllun a ail-luniwyd—a ail-luniwyd o ganlyniad i'r ymarfer ymgynghori y gwnaethom ei chynnal. Rwy'n gwbl fodlon, wrth gwrs, i drafod y pwynt penodol y mae'r Aelod wedi ei godi ac i wneud hynny gyda'r grŵp hwnnw o bobl yr ydym ni wedi gallu manteisio arno mewn ffordd mor rymus wrth lunio'r cynllun, oherwydd eu profiad byw nhw sy'n siarad drwyddo draw. Mae hefyd yn ymateb, rwy'n gobeithio, i'w penderfyniad y dylai'r cynllun gweithredu, yn ogystal â chynnwys rhai camau datganol a symbolaidd pwysig, fod yn gynllun ymarferol mewn gwirionedd, ei fod yn canolbwyntio ar y pethau hynny y gallwn ni eu gwneud, camau pendant ac ymarferol, wedi eu seilio ar newid sylfaenol. Dyna maen nhw'n ei ddweud wrthym ni y maen nhw eisiau ei weld yn digwydd yma yng Nghymru.
Ar yr un penwythnos â'n rali gwrth-hiliaeth, penderfynodd Heddlu De Cymru, gyda chefnogaeth y comisiynydd heddlu a throseddu, ei bod hi'n amser priodol i ailgychwyn y defnydd o dechnoleg adnabod wynebau yng nghanol y ddinas y gorfodwyd iddo ei hatal gan y Llys Apêl oherwydd pryderon ynghylch ei duedd hiliol cynhenid. Yn ôl grŵp moeseg biometreg a fforenseg Llywodraeth y DU ei hun, mae diffyg cynrychiolaeth wynebau lleiafrifoedd ethnig yn y data hyfforddi y mae'r dechnoleg a ddefnyddir gan yr heddlu wedi ei seilio arnyn nhw yn golygu ei bod hi'n fwy tebygol o nodi pobl dduon ddiniwed yn droseddwyr. Bydd hyn yn gwaethygu'r anghymesuredd hiliol mewn cyfraddau cadw yr ydych chi eich hun wedi eu cydnabod. Yn yr Alban, mae'r defnydd o'r dechnoleg hon wedi ei wahardd am y rheswm hwn. Nid yw'r grym gennym ni i wneud hynny yng Nghymru ar hyn o bryd, ond a wnewch chi o leiaf gefnogi'r gwaharddiad ar ei ddefnydd ar dir cyhoeddus fel grisiau'r Senedd, lle cynhaliwyd y rali ddydd Sul?
Rwy'n ymwybodol iawn o'r pryderon sy'n gysylltiedig â thechnoleg adnabod wynebau, ac rwy'n credu bod y pryderon hynny yn haeddu cael eu cymryd o ddifrif. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidog Jane Hutt wedi cael cyfle i drafod hyn a materion cysylltiedig gyda Phrif Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Cymru, Dafydd Llywelyn, a byddwn yn parhau i wneud yn siŵr bod y pryderon hynny yn cael eu cyfleu yn briodol i'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, ac yn wir i brif gwnstabliaid pan fo'n fater gweithredu.
Er bod cysgod ffasgaeth dros Ewrop eto, mae'r comedïwr Jimmy Carr yn dal i wrthod ymddiheuro am awgrymu bod marwolaethau cannoedd o filoedd o Sipsiwn wrth law'r Natsïaid rywsut yn rhywbeth i'w ddathlu. Ddydd Llun nesaf, mae'n perfformio yn ein prifddinas yn Neuadd Dewi Sant. Mae Sipsiwn Cymru yn gofyn i'r lleoliad ganslo'r perfformiad mewn undod â nhw. Cyngor Caerdydd sy'n berchen ar Neuadd Dewi Sant ac yn ei rheoli ac mae'n cael cymhorthdal gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y mae Llywodraeth Cymru yn ei ariannu. Fel Prif Weinidog, ac yn wir fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, a wnewch chi ofyn i arweinyddiaeth Lafur Cyngor Caerdydd gytuno i alwad cwbl resymol cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, o dan yr amgylchiadau, na ddylai unrhyw leoliad a ariennir yn gyhoeddus fod yn llwyfan ar gyfer hyrwyddwr diedifar o ymadroddion hiliol? Os byddan nhw'n gwrthod gwneud hynny, a wnewch chi ofyn i gyngor y celfyddydau adolygu telerau ei gyllid ar frys?
Mae'r safbwyntiau a briodolwyd i'r unigolyn yn gwbl annerbyniol a byddai unrhyw un, rwy'n credu, yn eu condemnio yn y Siambr hon. Fe wnaethom ni siarad yr wythnos diwethaf am ein pryderon ynghylch cymunedau Sipsiwn/Teithwyr, ac fe wnaethom ni eu trafod am gryn amser ym mwrdd plismona Cymru, yr oedd fy nghyd-Weinidog Jane Hutt a minnau yn bresennol ynddo. Pe bai mor syml â chyhoeddi gorchymyn ac unioni pethau, yna wrth gwrs byddem ni'n gallu gwneud hynny, ond rwy'n gwybod o'r hyn yr wyf i wedi ei glywed gan Gyngor Caerdydd nad yw mor hawdd â hynny. Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yn wrthun i fy nghydweithwyr yng Nghyngor Caerdydd, fel y maen nhw i bob un ohonom ni yma, ac rwy'n siŵr y bydd y teimladau hynny yn cael eu cyfleu yn rymus.