2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 23 Mawrth 2022.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr? OQ57827
Diolch yn fawr. Mae Bwrdd iechyd Hywel Dda yn gweithio'n gyflym i sicrhau bod pobl yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn cael mynediad amserol at ofal brys ac argyfwng. Rŷn ni'n cefnogi'r bwrdd iechyd trwy gyllid ychwanegol wedi'i dargedu fel bod modd gwella ansawdd ac amseroldeb y gofal yn yr adran damweiniau ac achosion brys yng Nglangwili.
Rŷn ni i gyd yn ymwybodol, wrth gwrs, o’r pwysau anhygoel sydd ar y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd, ond mae’n fy nharo i fod sefyllfa a oedd eisoes yn wael cyn y pandemig erbyn hyn wedi troi'n argyfyngus. Dwi wedi cael achosion yn ddiweddar o un etholwr yn gorfod aros mewn ambiwlans am 10 awr y tu fas i Glangwili, teulu arall, o Frynaman, yn gorfod aros saith awr i'w plentyn nhw weld doctor, ac mae aros am bum awr wedi troi'n gyffredin erbyn hyn. Ac mae'n rhaid cofio, wrth gwrs, oherwydd daearyddiaeth yr ardal, fod pobl yn aml iawn wedi aros yn hir iawn i ambiwlans ddod atyn nhw ac wedyn wrth gwrs wedi gorfod teithio'n bell yn aml i Langwili yn y lle cyntaf.
Ac wrth gwrs, rŷn ni'n ymwybodol o'r broblem trwy Gymru ar hyn o bryd. Dwi'n edrych ar A&E live ac rŷch chi'n gorfod aros ar hyn o bryd hyd at naw awr yn Wrecsam Maelor a hyd at wyth awr yn Ysbyty'r Tywysog Siarl. Cam cyntaf datrys argyfwng fel hyn, Weinidog, ydy cydnabod bod yna greisis. Ydych chi'n fodlon derbyn bod yna greisis o ran sefyllfa'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru ar hyn o bryd?
Dwi ddim yn derbyn bod yna greisis, ond dwi yn derbyn bod yna bwysau aruthrol ar y gwasanaeth ar hyn o bryd. Dwi wedi cael cyfarfod arall â phrif weithredwr y gwasanaeth ambiwlans y bore yma, fel dwi'n cael yn aml, achos ein bod ni'n benderfynol o wella'r sefyllfa. Wrth gwrs, y peth i'w gofio yw'r ffaith bod hwn yn rhan o system gyflawn, a'r ffaith, ar hyn o bryd, yw bod yna 129 o bobl yn Hywel Dda sydd yn barod i gael eu hanfon allan o'r ysbyty, ond mae hwnna'n anodd achos bod y sefyllfa yn y gwasanaeth gofal mor fregus. Ac mae'n dda ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd ar ddatrys y broblem yma. Ond dyw hi ddim yn broblem y byddwn ni'n ei datrys dros nos. Mae hefyd rhaid cofio bod yna 118 o bobl sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd yn Hywel Dda yn dioddef o COVID, ac mae hwnna'n dod â phwysau ychwanegol.
Mae'n dda gen i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhoi arian ychwanegol i helpu'r sefyllfa—£25 miliwn. Bydd Hywel Dda yn derbyn o leiaf £1 filiwn o'r arian yma i helpu i ddatblygu canolfannau ar gyfer primary care. Hefyd, bues i'n ymweld â Glangwili yn ddiweddar, gan fynd i'r gwasanaeth yna—y same-day emergency care unit. Ac mae'n werth mynd i weld y gwasanaeth yna, achos beth maen nhw'n trial gwneud yw sicrhau bod pobl â ffordd arall i gael eu gweld ar yr un diwrnod, yn hytrach na'u bod nhw'n mynd i'r accident and emergency service.
Weinidog, y prif wasanaeth ysbyty yn etholaeth Adam Price a fy etholaeth i, ar y ffin ddwyreiniol, yw ysbyty Glangwili. Ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod amseroedd aros yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn yr ysbyty hwn yn annerbyniol. Mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael yn dangos bod 46.5 y cant o gleifion yn treulio mwy na phedair awr yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys cyn cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau, ac mae 16.5 y cant—un rhan o chwech o'r holl gleifion—yn treulio mwy na 12 awr yn aros, y gwaethaf yn rhanbarth bwrdd iechyd Hywel Dda i gyd. Un o'r ffactorau sy'n cyfrannu at y cyfraddau hyn yw'r anawsterau y mae ysbytai'n eu hwynebu wrth ryddhau cleifion, gyda'r ôl-groniadau i'w gweld drwy gydol y daith drwy'r ysbyty—rhywbeth y gwn fod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymchwilio iddo ar hyn o bryd. Gyda'i bod hi'n ddwy flynedd heddiw ers gosod y cyfyngiadau symud COVID-19 ar y wlad, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod y pwysau aruthrol a fu ar ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol am y 24 mis diwethaf a'n bod yn diolch i staff y GIG am eu gwasanaeth. Ond pa gamau yr ydych chi fel y Gweinidog, a Llywodraeth Cymru, yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r ffigurau pryderus hyn a gwella profiad ysbyty i gleifion ledled sir Gaerfyrddin?
Diolch yn fawr, Sam—diolch yn fawr am hynny. A hoffwn ymuno â chi i ddiolch i'n GIG cyfan ac yn wir, i'n gweithwyr gofal am y gwaith anhygoel y maent wedi'i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf. A chredaf ei bod yn werth myfyrio ar y pwysau a fu arnynt am y cyfnod hir hwnnw.
Rhan o'r broblem sydd gennym yng Nglangwili mewn gwirionedd yw'r ffaith ein bod yn cael trafferth recriwtio, ac mae gorddibyniaeth ar weithwyr asiantaeth a banc a goramser o ran yr hyn sy'n digwydd yng Nglangwili. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn golygu bod yn rhaid iddynt dalu mwy o arian, sy'n gwthio'r bwrdd iechyd i fwy fyth o ddyled. Felly, mae'r holl bethau hynny'n broblemau, ac rwy'n tybio mai dyna un o'r rhesymau pam y mae'r bwrdd iechyd yn awgrymu cyfuno'r adran ddamweiniau ac achosion brys mewn ysbyty newydd, fel y gellir recriwtio'n haws. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth y maent yn ei awgrymu ac yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y mae fy swyddogion yn gweithio arno ar hyn o bryd.
Credaf fod problem system gyfan yma. Rydym bellach wedi cyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol, o fis Ebrill ymlaen, ac wedi sefydlu pont i'r rheini sydd yn y gwasanaeth eisoes i gyrraedd y cyflog byw gwirioneddol hwnnw, gyda chymorth ychwanegol, a gobeithiwn y bydd hynny'n annog pobl i aros yn y gwasanaeth, fel y gallwn ymdrin â'r bobl a nodwyd gennych, sydd yn yr ysbyty, na ddylent fod yno, pobl y mae angen eu rhyddhau ond nad oes unman iddynt gael eu rhyddhau iddo oherwydd breuder y system honno—. Felly, mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r mater hwnnw. Rydym wedi dechrau gwneud hynny drwy'r cyflog byw gwirioneddol. Mae gennym gomisiwn gofal y gwn fod Julie Morgan yn gweithio'n agos iawn ag ef, ond mae hwn yn fater system gyfan ac yn sicr mae'n rhywbeth y byddaf yn ei godi gyda'r cadeiryddion pan fyddaf yn cyfarfod â hwy yfory.
Adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Treforys yw prif ganolfan ddamweiniau ac achosion brys dwyrain sir Gaerfyrddin, yn enwedig dyffryn Aman, yn ogystal â Chastell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Mae'r adran ddamweiniau ac achosion brys yn Nhreforys yn brysur iawn ac mae sawl ambiwlans yn aros y tu allan yn rheolaidd. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen inni sicrhau bod y rheini nad ydynt yn ddamweiniau neu'n achosion brys yn cael eu gweld naill ai gan eu meddyg teulu neu eu fferyllydd, ac a all y Gweinidog ddweud pa ganran o gleifion damweiniau ac achosion brys sy'n cael eu rhyddhau adref naill ai'n syth ar ôl cael eu gweld neu o fewn 24 awr i gael eu derbyn?
Diolch yn fawr iawn, Mike, ac rwy'n cytuno'n llwyr fod angen inni ddarparu dewisiadau amgen yn lle'r adran ddamweiniau ac achosion brys, sef un o'r rhesymau pam ein bod wedi buddsoddi £25 miliwn ychwanegol ac wedi nodi chwe cham blaenoriaethol yr ydym yn disgwyl i fyrddau iechyd a'r gwasanaeth ambiwlans eu cyflawni.
Rydym yn gobeithio y bydd canolfannau gofal sylfaenol brys—mae £7 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer y rheini—yn darparu model newydd ar gyfer darparu gwasanaethau. Gwn fod Abertawe'n debygol o gael o leiaf £0.5 miliwn o'r cyllid hwn. Ac rydym yn awyddus i weld mwy o wasanaethau gofal brys ar yr un diwrnod, a chyn bo hir byddwn yn cyhoeddi canllawiau cenedlaethol ar hynny er mwyn gwella llif cleifion.
Ond ar ben hynny, rwy'n falch iawn o allu dweud, o'r diwedd, fod gennym wasanaeth 111 cenedlaethol lle y gall pobl ffonio i gael barn arall cyn iddynt fynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys fel y gellir eu hanfon at y gwasanaeth priodol ar eu cyfer. Cyflwynodd Caerdydd eu gwasanaeth 111 newydd ar 16 Mawrth, ac oherwydd hynny rydym bellach yn gallu hyrwyddo'r gwasanaeth hwnnw fel gwasanaeth cenedlaethol sydd ar gael i bawb yng Nghymru.