3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 23 Mawrth 2022.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran lletya ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru? TQ610
Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud i baratoi i dderbyn pobol sy’n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin fel y gallant geisio noddfa a diogelwch yng Nghymru. Mae cynllun Cartrefi i Wcráin y DU bellach ar agor a bydd llwybr uwch-noddwr Llywodraeth Cymru yn weithredol o ddydd Gwener.
Diolch i’r Gweinidog am fy ffonio ar y trên ddydd Llun i roi cyfarwyddyd imi ar hyn, a nodaf hefyd y diweddariad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru y bore yma, sy’n datgan eu bod yn parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol, y GIG, gwasanaethau cyhoeddus eraill a’r trydydd sector i sicrhau bod cymorth ar gael i bobl sy’n ffoi rhag y gwrthdaro ac sy’n cyrraedd Cymru drwy gynllun Cartrefi i Wcráin.
Fel y dywedwch, bydd Llywodraeth Cymru yn dod yn uwch-noddwr o dan y cynllun hwn. Ar 13 Mawrth, anfonodd Prif Weinidogion Cymru a’r Alban lythyr ar y cyd at Lywodraeth y DU yn cynnig mai Llywodraethau Cymru a’r Alban fyddai’r uwch-noddwyr cyffredinol ar gyfer y cynlluniau yng Nghymru a’r Alban. Fodd bynnag, er bod Llywodraeth y DU wedi lansio porth Cartrefi i Wcráin ar 18 Mawrth, lle y gellid dewis sefydliad fel noddwr, pan ddewisir yr opsiwn, yr unig sefydliad sydd wedi'i restru o hyd yw Llywodraeth yr Alban. Er eich bod wedi nodi y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gallu noddi pobl yn uniongyrchol ac y bydd pobl sy’n cyrraedd drwy'r llwybr hwn yn cael eu cyfeirio at un o’r canolfannau croeso sy’n cael eu sefydlu ledled Cymru cyn mynd ymlaen i lety tymor canolig a hirdymor, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn dal i ymddangos fel noddwr ar y porth Cartrefi i Wcráin, ac a wnaiff y Gweinidog ddweud a fydd pobl yn gallu dewis Llywodraeth Cymru fel noddwr, a phryd?
Ymhellach, pa gymorth y gallwch ei roi i bobl fel yr etholwr o sir y Fflint yr aeth ei wraig i Wlad Pwyl i ddod â'i mam Wcreinaidd yn ôl—yn llwyddiannus, diolch byth, ac mae hi bellach yn sir y Fflint—ond sydd wedi cael gwybod na allant gael mynediad at y cerdyn arian parod ar gyfer ffoaduriaid oherwydd diffyg gwybodaeth a chyllid, nad yw’r cynllun ailgartrefu £350 yn berthnasol i’w fam-yng-nghyfraith, na all gael mynediad at gredydau pensiwn hyd nes y bydd ganddi fisa llawn, a fydd yn cymryd dau fis, ac na all gofrestru gyda'u meddyg teulu, er bod ganddi broblemau iechyd? Rwy’n deall yn iawn fod rhai o’r rheini’n faterion a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU a bod rhai'n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, ond o ystyried eich rôl gyffredinol fel uwch-noddwr, byddwn yn ddiolchgar am eich ymateb.
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiynau, Mark Isherwood. Fel y dywedais ac fel sydd wedi’i nodi'n glir iawn yn yr wybodaeth a ddarparwyd gennym ar ein tudalen bwrpasol ar wefan Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r hyn a wnawn i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin, rydym ar fin dod yn uwch-noddwr o dan gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU ddydd Gwener. Roeddem yn awyddus i sicrhau ein bod yn gallu gwneud hynny ac yn barod ar gyfer hynny, i roi'r cynllun ar waith, ac mae hynny, wrth gwrs, yn mynd i ddigwydd ddydd Gwener. Ond mewn gwirionedd, rydym wedi bod yn barod dros yr wythnosau diwethaf, yn sicr y penwythnos diwethaf, pan ddaeth cynllun Llywodraeth y DU yn weithredol, rhag ofn i bobl ddod atom a bod ein hangen. Roeddem yn barod, ac roedd gennym lety ar gael. Ond mae'r cynllun llawn, fel uwch-noddwr, gyda'r holl waith paratoi y bu'n rhaid ei wneud, yn dechrau ddydd Gwener.
Credaf ei bod yn bwysig i gyd-Aelodau wybod y bydd hyn yn golygu y bydd hyd at 1,000 o bobl i ddechrau yn osgoi'r angen i nodi noddwr yn y DU, ac yn hytrach, byddant yn cael eu noddi'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Ni fyddwn yn dewis y rheini sy'n gymwys i wneud cais; bydd pobl sy’n ffoi o Wcráin yn gallu dewis Llywodraeth Cymru o’r system hyd nes bod ein cap cychwynnol o ffoaduriaid wedi’i gyrraedd. Fel y gwyddoch, rydym yn agor canolfannau croeso ledled Cymru—ac maent i'w cael ym mhob rhan o Gymru—i sicrhau bod pob un o'r rheini yr ydym yn eu noddi'n uniongyrchol yn gallu cael croeso o ansawdd uchel ac yn cael eu cefnogi'n uniongyrchol o'r funud y byddant yn cyrraedd. Ac yna, o'r canolfannau croeso, bydd pobl yn cael eu symud i lety mwy hirdymor ledled Cymru.
Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo, 24/7, gan awdurdodau lleol, gan ein swyddogion yn Llywodraeth Cymru, y GIG a'r trydydd sector. Rwyf wedi cael cyfarfod hynod bwysig heddiw gydag ystod o gymorth cymunedol Wcreinaidd, gan gynnwys y cyswllt gogledd Cymru y tynnoch chi ein sylw ato, Mark, a llawer o grwpiau a lleisiau Wcreinaidd sydd hefyd yn mynd i ymateb a helpu yn y ffyrdd a godwyd o ran cefnogi plant a phobl ifanc mewn cwestiynau cynharach i Lynne Neagle. Felly, mae’r cyfan yn ei le, a bydd y cyfan yn weithredol ledled Cymru o ddydd Gwener ymlaen. Bydd y ffaith y byddant yn gallu dod yn uniongyrchol yn hollbwysig. Bydd cynllun Llywodraeth Cymru yn eu galluogi i ddod atom yn uniongyrchol i gael y cymorth hwnnw.
Ar yr ail gwestiwn, mae’r pwyntiau a godwyd gennych yn faterion a gedwir yn ôl, ond gallwn gyflwyno sylwadau ar eich rhan chi ac etholwyr i Lywodraeth y DU. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU, yn amlwg, mewn perthynas â'r holl ffoaduriaid o Wcráin a ddaw atom. Os bydd hynny drwy gynllun Cartrefi i Wcráin, a’r paru uniongyrchol, yn amlwg, byddwn yn cael y data gan Lywodraeth y DU i sicrhau y gallwn gael popeth yn ei le. A gaf fi nodi un pwynt sy'n bwysig am y trefniadau? Mae cryn dipyn o bobl yn dod drwy lwybr fisa teulu. Efallai mai dyna’r llwybr a nododd eich etholwr mewn gwirionedd. Nid ydym yn gwybod eto—rydym wedi gofyn i'r Swyddfa Gartref—faint sy'n dod drwy'r llwybr hwnnw, ond rwy'n tybio mai drwy'r llwybr hwnnw y daeth eich etholwr. Felly, mae’n werthfawr iawn clywed gan yr Aelodau heddiw am rai o’u profiadau o ran yr hyn sy’n digwydd iddynt hwy ac i’w hetholwyr.
Weinidog, mae'r University of New Europe, grŵp o academyddion o Ewrop a’r Unol Daleithiau, wedi cyhoeddi dogfen gynhwysfawr sy’n cynnwys manylion cyswllt brys a chyfleoedd ariannu ar gyfer ysgolheigion, myfyrwyr, artistiaid, gweithwyr diwylliannol, newyddiadurwyr, cyfreithwyr a gweithredwyr hawliau dynol sy’n ffoi o Wcráin, Rwsia a Belarws. Wrth inni roi cartref a chroeso i ffoaduriaid sy’n ffoi rhag yr argyfwng a’i effeithiau yn Wcráin, mae cyfle i'n prifysgolion, sefydliadau addysgol a diwylliannol gynnig ystod eang o gyfleoedd a chymorth i’r rheini a ddaw i Gymru. Byddai darparu hyn yn helpu ffoaduriaid i ymgartrefu a theimlo’n rhan o’u cymunedau, yn ogystal, wrth gwrs, â gwella amrywiaeth syniadau yn ein prifysgolion ac ymhlith ein rhwydweithiau academaidd a diwylliannol. A wnaiff y Llywodraeth ystyried cydgysylltu ymateb gan ein prifysgolion a’n sefydliadau diwylliannol fel y gellid darparu canllawiau a system gymorth debyg? Sut y mae’r Gweinidog yn gweithio gyda’n prifysgolion a’n sefydliadau diwylliannol ar hyn o bryd i roi cymorth a chyfleoedd i ffoaduriaid, ac a wnaiff y Llywodraeth ddarparu cymorth ariannol ar gyfer yr ymateb hwn?
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae'n bwysig iawn eich bod wedi tynnu sylw at rwydwaith ysbrydoledig arall sy'n gweithio ledled Ewrop, a byddwn yn ddiolchgar am y manylion cyswllt er mwyn inni allu creu cysylltiadau â hwy. Mae ein prifysgolion yn ymateb i'r her. Mae gan lawer ohonynt gysylltiadau â myfyrwyr o Wcráin eisoes, â phrifysgolion Wcráin, ac mae'r cysylltiadau hynny'n cael eu creu yn awr, mewn gwirionedd. Yn wir, o safbwynt prifysgolion Cymru, credaf y gwelwch fod pob un o'r prif brifysgolion fwy neu lai yn cysylltu â'i gilydd eisoes. Ac yna, deuwn â'r holl brifysgolion ynghyd. Felly, maent yn edrych i weld sut y gallant, eu hunain, gysylltu â'u partneriaethau eu hunain â phrifysgolion Wcráin, ond hefyd, yr hyn y gallent ei gynnig i bobl ifanc eraill, ac yn wir, i deuluoedd a ddaw yma.
Credaf, hefyd, fod eich pwynt ynglŷn â sefydliadau diwylliannol Cymru yn bwysig iawn. Mae hwn yn ymateb trawslywodraethol. Gallwch weld o’r atebion o ran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, o ran tai, fod pob adran o Lywodraeth Cymru yn ymwneud â hyn, ond yn enwedig y sefydliadau diwylliannol. Dyma hefyd fydd y cynnig, y croeso, yr ydym yn ei roi i ffoaduriaid o Wcráin wrth iddynt ddod i Gymru. Mae gennym becyn croeso sy'n cael ei ddatblygu. Roedd yn ddiddorol clywed, pan gyfarfûm â llawer o'r rheini, er enghraifft, yn Llais Wcráin Cymru, sut y mae ganddynt adnoddau. Mae'r comisiynydd plant hefyd yn cysylltu â chomisiynydd plant Wcráin; gwnaethom gyfarfod â hi heddiw. Mae llawer o adnoddau addysgol wedi'u dwyn ynghyd hefyd. Ond o ran y sefydliadau diwylliannol ac addysg uwch a’r ffyrdd y gallwn ddod â’u cysylltiadau ynghyd a phan fydd ffoaduriaid o Wcráin yn cyrraedd, rwy'n credu bod hyn yn rhan o’r cynnig croeso wrth iddynt ddod yma ac wrth i ninnau eu cefnogi yma yng Nghymru.
Mae’r haelioni a ddangoswyd gan bobl yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig a ledled cyfandir Ewrop yn cyferbynnu’n eithaf siomedig â dull crintachlyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig o weithredu. Weinidog, pa effaith a gaiff y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau ar ein gallu i estyn cymorth i deuluoedd o Wcráin? Fe fyddwch yn ymwybodol fod ASau Torïaidd yn Nhŷ’r Cyffredin wedi pleidleisio ddoe i orfodi dedfryd bosibl o bedair blynedd o garchar i unrhyw ffoadur o Wcráin sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig heb y papurau cywir. Ar yr un pryd, mae’r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn rhwygo’r confensiwn rhyngwladol ar ffoaduriaid yn ddarnau, confensiwn a ysgrifennwyd yn dilyn yr ail ryfel byd ac a arweiniwyd gan Lywodraeth Prydain. Yr hyn sydd gennym yn Llundain yw Llywodraeth sy’n troi ei chefn ar effaith ddynol rhyfel, a Llywodraeth a chanddi fwy o ddiddordeb yn ei phropaganda ar ei hasgell dde ei hun nag mewn estyn cymorth a gofalu am deuluoedd y mae rhyfel wedi effeithio arnynt. Beth a wnawn, fel Llywodraeth Cymru, i ddangos nad rhethreg yn unig yw cenedl noddfa yma yng Nghymru, ond realiti?
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn amserol iawn, Alun Davies. Mae’r Prif Weinidog wedi nodi yn ystod yr wythnosau diwethaf, pan ysgrifennodd at Brif Weinidog y DU ddiwedd mis Chwefror i sicrhau ein bod yn cynnig chwarae ein rhan fel cenedl noddfa a nodi ein safbwynt ar ymddygiad ymosodol Putin yn glir iawn, ei fod wedi manteisio ar y cyfle, yn ei ohebiaeth, i bwysleisio bod Llywodraeth Cymru yn credu y dylai Llywodraeth y DU ailystyried y cynigion yn y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, sydd, yn ein barn ni, yn creu system ddwy haen rhwng ceiswyr lloches yn dibynnu ar sut y dônt i mewn i'r DU. Gwnaethom nodi'r pwynt hwnnw’n gwbl glir i Brif Weinidog y DU. Felly, mae'n rhaid inni gydnabod y pwynt y mae Alun Davies yn ei wneud heddiw. Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid yn y DU, mewn gwirionedd, a ddywedodd ddoe yn y ddadl y bydd y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn ei gwneud yn drosedd, fel y dywedwch, i deuluoedd o Wcráin gyrraedd y DU heb y papurau cywir, gyda chosb o hyd at bedair blynedd o garchar, ar adeg pan fo pobl Prydain wedi nodi'n glir fod angen inni gynorthwyo ffoaduriaid o Wcráin. Mae hyn yn gywilyddus—dyna oedd ei geiriau. Ond yma yng Nghymru, fel cenedl noddfa, rydym yn dymuno rhoi croeso cyflym, diogel a chynnes i Wcreiniaid yng Nghymru. Credaf y bydd ein llwybr uwch-noddwr, yr ydym yn gweithio arno ochr yn ochr â’n swyddogion cyfatebol yn yr Alban, yn cael gwared ar dagfa allweddol yn system y DU. Mae hynny'n hollbwysig er mwyn sicrhau nad oes angen i'r rheini sy'n dod i Gymru wybod ymlaen llaw am aelwyd yng Nghymru a all eu noddi.
Diolch, Weinidog.