1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 30 Mawrth 2022.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatgarboneiddio tai? OQ57878
Diolch. Rydym wedi cyflwyno safonau adeiladu newydd ar gyfer cartrefi cymdeithasol, sy'n gwahardd y defnydd o danwydd ffosil, gydag uchelgeisiau i ddatblygwyr preifat fabwysiadu'r gofynion hyn erbyn 2025. Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi yn y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, gan archwilio'r ffyrdd mwyaf effeithiol ac effeithlon o ddatgarboneiddio'r stoc o dai cymdeithasol sy'n bodoli'n barod.
Diolch i’r Gweinidog am ei ateb. Yn bersonol, hoffwn ganmol Cyngor Abertawe a’r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lleol am y gwaith y maent wedi’i wneud yn datgarboneiddio eu tai newydd. Rwy’n cynrychioli etholaeth a chanddi nifer fawr o dai sy'n eiddo i berchen-feddianwyr a thai rhentu preifat, a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Pa gynnydd a wnaed i leihau’r gwres a gollir o dai preifat a thai rhentu preifat? A beth yw'r cynllun i ddatgarboneiddio'r tai hyn? Rwy'n cydnabod y bydd yn broses hir ac rwy'n cydnabod y bydd yn broses anodd.
Wel, hoffwn adleisio'r hyn a ddywedodd Mike Hedges am Gyngor Abertawe. Credaf ei bod yn enghraifft wych o bartneriaeth rhwng awdurdod lleol sy’n cael ei redeg gan Lafur a Llywodraeth Lafur Cymru. Maent hwy eu hunain wedi buddsoddi oddeutu £60 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon mewn cartrefi cynhesach, mwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni, gan greu oddeutu 25 o gartrefi carbon isel newydd, yn ogystal â rhaglen effeithlonrwydd ynni ar gyfer cartrefi sy'n bodoli'n barod, gwerth cyfanswm o oddeutu £46 miliwn. Credaf fod honno’n ymdrech aruthrol ar eu rhan i fynd i'r afael â’r argyfwng costau byw, drwy ddarparu cymorth ymarferol i ymdopi â thlodi tanwydd a mynd i’r afael â’r her sero net.
Ar fater tai preifat, rydym yn ffodus iawn fod gennym Rhentu Doeth Cymru, sy’n rhywbeth nad oes gan rannau eraill o’r DU, ac sy’n caniatáu inni fapio’r eiddo yn y sector preifat i weld pa rai nad ydynt yn bodloni'r safonau effeithlonrwydd ynni gofynnol ar hyn o bryd. Wedyn, gyda'r wybodaeth honno, gallwn edrych ar ba gymysgedd o grantiau a benthyciadau sydd eu hangen i gymell y cartrefi hynny i gyrraedd a rhagori ar y safon. Ein dull o weithredu, fel y gŵyr Mike Hedges, yw treialu ein rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, sy’n fuddsoddiad o £220 miliwn gennym ni, a mabwysiadu ymagwedd yr ydym yn ei galw'n ddull 'ffabrig yn gyntaf', gan gydnabod y bu anawsterau gyda rhaglenni ôl-osod ledled y DU dros y blynyddoedd diwethaf a bod pob tŷ'n wahanol. Yn benodol, mae gan Gymru hen stoc dai, gyda thai amrywiol iawn, a gallai’r hyn a allai fod yn ateb i dŷ teras yn y Cymoedd fod yn wahanol ar gyfer byngalo maestrefol. Felly, mae angen inni dreialu ffabrigau gwahanol, ac rydym yn gwneud hynny, er mwyn deall beth fyddai'n fwyaf effeithlon, a phan fyddwn yn deall yr agweddau ymarferol hynny, gallwn nodi llwybr wedyn tuag at ddatgarboneiddio.
Prynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Weinidog, mae mwy na 70 y cant o’r 1.4 miliwn o gartrefi sydd gennym yng Nghymru yn eiddo i berchen-feddianwyr. Ar gyfartaledd, mae ein heiddo'n hŷn nag mewn mannau eraill yn y DU, a bydd llawer yn wynebu her i ddatgarboneiddio yn unol â’r targed a osodwyd gennych. Os mai cyflenwad ynni yw’r broblem, sut y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i deuluoedd symud oddi wrth nwy tuag at ffynonellau adnewyddadwy, a sut y bydd yn talu am hynny?
Wel, hoffwn groesawu Altaf Hussain i’r meinciau Llafur—[Chwerthin.] Mae llawer o lawenydd yn y nefoedd am bob pechadur sy’n edifarhau.
A gaf fi egluro bod gormod o Dorïaid i ffitio ar fainc y Torïaid, ac felly bod angen sedd ymhlith y garfan Lafur?
Ni allwn gytuno mwy, Lywydd. Yn wir, mae gormod o Dorïaid, a byddwn yn sicrhau bod llai ohonynt yn yr etholiad nesaf—[Chwerthin.] Ond o ddifrif, i ateb pwynt cwestiwn yr Aelod, ac rwy'n diolch iddo amdano, mae'r modd yr ydym yn mynd i'r afael â chartrefi'r sector preifat yn amlwg yn her i bob un ohonom. Sylwais yng nghyllideb y Canghellor iddo gyhoeddi gostyngiad TAW ar gyfer rhywfaint o dechnoleg adnewyddadwy solar, ac rydym yn croesawu hynny, ond mae arnaf ofn ei fod yn annigonol ar gyfer yr her sy’n ein hwynebu. I raddau helaeth, nid yw hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud; mae hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ei wneud ledled y DU, ac mae datgarboneiddio cartrefi yn mynd i fod yn rhan allweddol o'r gwaith o gyflawni ein targedau sero net, ar gyfer gwres ac ar gyfer trydan. Mae'r dechnoleg ar gael, mae wedi'i phrofi ac mae'n gosteffeithiol.
Roeddwn o'r farn mai camgymeriad enfawr oedd i Lywodraeth y DU gael gwared ar y tariff cyflenwi trydan ychydig flynyddoedd yn ôl. Fe’i cyflwynwyd yn 2010 gan glymblaid y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr, a bu'n llwyddiannus iawn yn cymell perchnogion tai preifat i fuddsoddi yn eu heiddo eu hunain, yn ogystal â chyfrannu ynni at y grid drwy ffynonellau adnewyddadwy. A chredaf fod cael gwared ar hwnnw yn 2019 yn gamgymeriad mawr. Felly, credaf fod angen rhaglen sylweddol ledled y DU yn awr i gymell perchnogion tai i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy. Dyna'r ffordd i ddiogelu ffynonellau ynni. Dyna’r ffordd i sicrhau nad ydym yn ddibynnol ar olew a nwy o Rwsia, a dyna’r ffordd i ddatgarboneiddio a mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Ond hyd yn hyn, ychydig iawn a glywsom gan Lywodraeth y DU ynglŷn â hyn, ac rwy'n awyddus iawn i weithio gyda hwy i unioni hynny.