1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 26 Ebrill 2022.
3. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd yn Nwyrain Casnewydd gyda biliau cynyddol yr aelwyd? OQ57943
Llywydd, bydd teuluoedd Dwyrain Casnewydd yn cael eu cynorthwyo gan becyn £380 miliwn Llywodraeth Cymru y bwriedir iddo helpu teuluoedd ledled Cymru gyda biliau aelwyd cynyddol. Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu o fewn ein pwerau i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed, ac rydym ni angen Llywodraeth y DU sy'n barod i wneud yr un fath.
Prif Weinidog, y bore yma, fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar dlodi, cadeiriais gyfarfod ar y cyd â'n cymheiriaid yn Seneddau'r DU a'r Alban, a chlywsom gan sefydliadau ac elusennau ledled y DU am raddfa'r argyfwng costau byw presennol a thlodi cynyddol. Yn amlwg, mae'r sefydliadau hyn yn bryderus dros ben, fel yr ydym ni i gyd, rwy'n credu. Prif Weinidog, gwaethygodd COVID yr anghydraddoldeb presennol yng Nghymru a'r DU, a bellach mae gennym ni'r costau ynni aelwydydd a'r biliau bwyd cynyddol hyn, ynghyd â llawer o bethau eraill. Gwn mai'r ymateb y gwnaethoch chi gyfeirio ato, Prif Weinidog, yw cyrraedd 75 y cant o'n haelwydydd yng Nghymru a'i fod yn cael ei dargedu yn gymesur at y rhai sydd â'r angen mwyaf, fel y dylai fod, gyda bron ddwywaith cymaint yn mynd i aelwydydd yn hanner isaf y dosbarthiad incwm o'u cymharu â'r rhai yn yr hanner uchaf, a thair gwaith cymaint i'r rhai yn y pumed isaf o'u cymharu â'r rhai yn y pumed uchaf. Mae hyn i'w groesawu yn fawr, Prif Weinidog. A allwch chi fy sicrhau i heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddilyn egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol wrth gynorthwyo cymunedau yn Nwyrain Casnewydd a ledled Cymru ac yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i symud oddi wrth eu dull atchweliadol traddodiadol a mabwysiadu cyfres deg o bolisïau ar gyfer y dyfodol, o ystyried maint yr argyfwng hwn?
Wel, Llywydd, diolch i John Griffiths am hynna. Rwy'n credu mai'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid a ddaeth i'r casgliad nad yw'r pecyn cymorth y mae Llywodraeth y DU yn ei ddarparu yn Lloegr yn cynnwys llawer o dargedu adnoddau yn uniongyrchol ar gyfer y tlotaf neu'r rhai mwyaf anghenus. Ac mae John Griffiths yn iawn, Llywydd, bod y pecyn cymorth a ddarperir yma yng Nghymru, sef y pecyn cymorth mwyaf helaeth sydd ar gael yn unrhyw un o bedair gwlad y DU, yn cael ei dargedu fel bod y rhan fwyaf o'r cymorth yn mynd i'r bobl hynny ar waelod y dosbarthiad incwm. Ac, wrth gwrs, dyna'n union y byddwn ni'n parhau i'w wneud.
Rwyf i wedi cael trafodaethau yr wythnos hon gyda fy nghyd-Weinidog Jane Hutt am y taliad tanwydd gaeaf o £200 a sut y gallwn ni ymestyn hwnnw ar gyfer y gaeaf a fydd yn dechrau yn ddiweddarach eleni. Roeddwn i'n falch iawn o weld, Llywydd, bod y £150 sy'n cael ei dalu nid yn unig i'r bobl hynny sy'n talu'r dreth gyngor ond i'r bobl hynny sydd wedi eu heithrio o'r dreth gyngor gan eu bod yn gymwys i gael budd-dal y dreth gyngor—mae hynny'n rhywbeth nad yw'n digwydd dros ein ffin—bod y taliadau hynny eisoes yn cael eu gwneud: mae 138,000 o aelwydydd eisoes wedi cael y £150 hwnnw yng Nghymru; £6 miliwn wedi'i roi yn nwylo trigolion Caerdydd yn unig ers dechrau'r mis hwn. Mae hynny, rwy'n credu, yn arwydd eglur o'r ffordd yr ydym ni eisiau i'r £380 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ei sicrhau fynd i bocedi'r rhai sydd ei angen fwyaf a gwneud hynny cyn gynted â phosibl. Rydym ni'n dibynnu ar ein cydweithwyr mewn llywodraeth leol i'n helpu i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd, a hoffwn longyfarch cyngor bwrdeistref sirol Casnewydd, Llywydd, ar y £100,000 y mae wedi ei ganfod o'i gyllideb ei hun i gefnogi banciau bwyd yn y ddinas—eto, gwasanaeth yr hoffem ni nad oedd ei angen ond a fydd yn dod yn rhan fwy angenrheidiol fyth o'r dirwedd wrth i'r argyfwng costau byw ddwysáu.
Yn gyflym iawn, Prif Weinidog, Cyngor Dinas Casnewydd yw ef, nid cyngor bwrdeistref. Prif Weinidog, ar hyn o bryd mae ein hetholwyr ni i gyd yn wynebu argyfwng costau byw byd-eang, lle disgwylir i filiau gynyddu dim ond yn ystod y misoedd nesaf. Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod mwy o gymorth nag erioed yn cyrraedd pocedi ein pobl sy'n gweithio'n galed yng Nghymru. Roeddech chi'n ddigon digywilydd yn dilyn cwestiwn blaenorol i sefyll yma a dweud eich bod chi'n anhapus gyda Llywodraeth y DU a sut y mae wedi bod yn gwario ei harian yn helpu pobl Cymru ar lefel leol. Gyda pharch, mae honno'n un dda, Prif Weinidog. Meddyliwch am yr holl filiynau y gwnaethoch chi eu gwastraffu ar ffordd liniaru'r M4, y ffordd liniaru y mae mawr ei hangen y cefnwyd arni, a thra'r oeddech chi'n aros, yn penderfynu a oeddech chi ei heisiau ai peidio, y miliynau a wastraffwyd gennych chi a allai fod wedi mynd yn ôl i bocedi pobl Cymru sy'n gweithio'n galed—. Yn hytrach na helpu pobl Cymru, y cwbl y gallwch chi ganolbwyntio arno ar hyn o bryd yw gwario miliynau yn fwy o bunnoedd ar fwy o wleidyddion yma yn y bae a threth twristiaeth. Ai dyma mewn gwirionedd yw'r cyfan sydd gan eich Llywodraeth i'w gynnig i bobl Cymru ar adeg pan fo pawb yn ei chael hi'n anodd? I mi, mae'n ymddangos bod eich blaenoriaethau i gyd yn anghywir.
Wel, mae hyn braidd yn anobeithiol, Llywydd, onid yw? Edrychaf ymlaen at weld yr Aelod yn ôl ar ei thraed ymhen pythefnos, pan all wneud sylwadau ar ddigywilydd-dra pobl yng Nghymru a fydd yn mynd i'r papur pleidleisio i wneud eu dyfarniad ar ei Llywodraeth hi. Gadewch i ni weld beth sydd ganddi i'w ddweud amdano bryd hynny.