– Senedd Cymru am 3:44 pm ar 3 Mai 2022.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar bresenoldeb ysgol. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â'r heriau sydd wedi dod i ran ein cymuned addysg ni yn sgil y pandemig. Un o'r rhain yw'r cynnydd yn absenoldeb dysgwyr, a hynny ymhob grŵp blwyddyn ac ymhlith dysgwyr o bob math. Rydyn ni'n gwybod bod yna resymau amrywiol dros yr absenoldeb yma, a bod y sefyllfa wedi gwaethygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn yn un o'r prif elfennau sydd wedi dod i'r amlwg yn sgil yr adolygiad o batrymau absenoldeb, adolygiad y gwnes i ei gomisiynu ddiwedd 2021.
Er mwyn ymateb i'r her gynyddol yma, bydd angen inni edrych ar y system yn ei chyfanrwydd. Heddiw, fe fyddaf i'n datgelu nifer o gamau y byddwn ni fel Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi'r gymuned addysg i gefnogi ei dysgwyr.
Mae yna gysylltiad sydd wedi'i hen sefydlu rhwng presenoldeb, cyrhaeddiad a lles. Fy mlaenoriaeth i, uwchlaw dim arall, yw sicrhau bod pob person ifanc yn cael y cyfle i gyflawni ei botensial, beth bynnag ei gefndir. Mae mynd i'r afael gydag absenoldeb yn allweddol i hyn. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd 10.5 y cant o ddisgyblion uwchradd a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn absennol, o gymharu â 4.7 y cant o'r rheini nad oedden nhw'n gymwys am brydau ysgol am ddim. Mae'r ffigurau hyn yn drawiadol ac yn galw am ymateb cenedlaethol.
Mae'r lefelau uchel o absenoldeb wedi bod yn dueddiad ar draws y Deyrnas Unedig, ond rhaid inni fod yn ofalus wrth gymharu. Mae ffigurau Lloegr yn seiliedig ar arolwg o ysgolion gyda dim ond 50 y cant i 60 y cant ohonyn nhw wedi ymateb; mae Cymru yn aml yn llwyddo i sicrhau bod bron i 100 y cant o'r ysgolion yn ymateb.
Hefyd, ar gyfer y rhan fwyaf o’r pandemig, mae ein data ni wedi mesur 'ddim yn bresennol'. Felly, mae pob disgybl wedi'i gyfrif yn absennol, hyd yn oed os oedden nhw'n dysgu gartref. Rhesymau diogelu sy'n gyfrifol am hyn. Felly, nid yw bod yn absennol o'r ysgol yr un fath â bod yn absennol o'r dysgu.
Yn gyntaf, fe hoffwn i sôn am gynnydd yn ein cyfathrebu gyda theuluoedd ar lefel genedlaethol ynghylch pa mor bwysig yw hi fod eu plentyn yn mynychu'r ysgol. Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anhygoel o anodd i lawer o deuluoedd, ac mae'n ddealladwy pam mae hyn wedi creu pryder i gymaint. Rydyn ni wedi bod yn ymwybodol o'r pryderon hyn, ond mae'r cydbwysedd rhwng gwahanol ffactorau niweidiol yn glir bellach.
Mae angen i bobl ifanc fynychu'r ysgol, gweld eu ffrindiau a dysgu yn y dosbarth. Mae hyn yn hanfodol o ran eu lles, yn ogystal â'u haddysg. Fe fyddwn ni felly'n cynyddu ein cyfathrebu gyda rhieni a gofalwyr i fynd i'r afael gydag unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw o hyd, gan bwysleisio pwysigrwydd mynd i'r ysgol.
Bydd ein pwyslais ar ysgolion bro yn chwarae rhan allweddol wrth ymateb i'r her hon. Mae swyddogion ymgysylltu â theuluoedd yn hanfodol i sicrhau bod partneriaethau cadarnhaol yn cael eu creu a bod cymorth pwrpasol yn cael ei gynnig. Gall ysgolion sy'n adnabod eu teuluoedd yn dda sicrhau bod mesurau'n cael eu rhoi ar waith a fydd yn helpu plant i gynnal ymgysylltiad a phresenoldeb da. Rydym wedi darparu £3.84 miliwn yn ddiweddar ar gyfer swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, a fydd yn sefydlu perthynas gadarnhaol gyda rhieni ac yn rhoi arweiniad a gwybodaeth glir am bresenoldeb da.
Er bod hysbysiadau cosb benodedig am ddiffyg presenoldeb wedi bod ar gael i awdurdodau lleol yn ystod y pandemig, rydym wedi argymell yn gyffredinol yn erbyn eu defnyddio. Rydym yn awr mewn cyfnod lle y gallwn ni ddychwelyd yn ôl at y polisi blaenorol, pryd y gellir eu defnyddio pan fetho popeth arall. Rydym yn parhau i fod yn glir mai dim ond yn yr achosion mwyaf eithafol y dylid defnyddio dirwyon, fel rhan o amrywiaeth o ddewisiadau a phan fydd pob ymdrech i ymgysylltu â'r teulu wedi'i cheisio ac wedi methu, a phryd mae'n amlwg nad oes unrhyw resymau sylfaenol sy'n effeithio ar bresenoldeb yn yr ysgol. Yn effeithiol ar unwaith, felly, dylai pob awdurdod lleol ddychwelyd at ganllawiau ar ddefnyddio hysbysiadau cosb benodedig a gynhwysir yng nghanllawiau 2013 ar hysbysiadau cosb am ddiffyg presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol.
I gydnabod y newid yn y cyd-destun, byddwn yn diweddaru fframwaith presenoldeb Cymru gyfan. Fel rhan o'r gwaith hwn, rwyf yn awyddus i ni adolygu'r diffiniad o absenoldeb 'parhaus', yr ystyrir ar hyn o bryd ei fod yn fwy nag 20 y cant. Mae hwn yn fesur pwysig, gan ei fod yn aml yn cael ei osod fel sbardun ar gyfer mathau penodol o ymyrraeth, fel cynnwys y gwasanaeth lles addysg. Felly, credaf fod rhinwedd mewn ystyried cael trothwy is ar gyfer ymyrryd, a fyddai'n cyd-fynd â chynnydd yn y cymorth i'r gwasanaethau hyn.
Yn ystod y pandemig, mae absenoldeb wedi bod ar ei waethaf ymhlith blwyddyn 11. Er mwyn cefnogi'r dysgwyr hyn i baratoi ar gyfer arholiadau, gwnaethom ariannu'r ddarpariaeth o gymorth pontio wedi'i dargedu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o £1.28 miliwn ar gyfer dysgwyr blwyddyn 11 i'w cefnogi i symud ymlaen yn hyderus a gwneud penderfyniadau gwybodus am drosglwyddo i'r camau nesaf, gan gynnwys addysg bellach ac addysg uwch.
Rwyf hefyd yn pryderu y dylem gymryd yr holl gamau a allwn ni i leihau'r risg y gallai lefel uchel o absenoldeb yn y grŵp hwn o ddysgwyr arwain at nifer uwch nad ydyn nhw mewn addysg na hyfforddiant cyn bo hir. Dyna pam yr ydym ni wedi darparu £8.5 miliwn o gyllid pontio penodol i golegau a chweched dosbarth mewn ysgolion i gefnogi pobl ifanc wrth iddyn nhw symud i gam nesaf eu haddysg neu eu gyrfa, gan alluogi gweithgareddau fel mentora, sesiynau blasu a thiwtora ychwanegol.
Wrth gwrs, mae gan Estyn ran i'w chwarae o ran sicrhau bod presenoldeb yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol. Bydd Estyn yn casglu data ar bresenoldeb disgyblion, ac, fel rhan o'u gwaith treialu fframwaith arolygu, maen nhw'n ystyried darpariaeth i unedau atgyfeirio ysgolion a disgyblion ar gyfer monitro a gwella presenoldeb. Fel rhan o'u hadolygiad o'r trefniadau arolygu newydd ar gyfer mis Medi 2022, rwy'n croesawu'r ffaith bod Estyn hefyd yn ystyried sut i gryfhau eu gofynion adrodd ar bresenoldeb disgyblion fel rhan o'u pwyslais cynyddol ar degwch mewn addysg.
Mae'n hanfodol, Dirprwy Lywydd, fod gan bob ysgol bolisi presenoldeb clir. Er mwyn helpu i sicrhau bod hynny'n digwydd, byddaf yn gofyn i bob ysgol gyhoeddi eu polisïau presenoldeb. Dylai'r rhain fabwysiadu dull ysgol gyfan ac amlinellu sut mae ysgolion yn gweithredu yn dilyn absenoldeb dysgwyr, ac amlygu pa gamau y mae ysgolion yn eu cymryd i gefnogi dysgwyr, yn enwedig gweithdrefnau ar gyfer nodi ac ailintegreiddio disgyblion sy'n absennol dros dymor hir.
Arweiniodd y pandemig at gynnydd yn nifer y plant a oedd yn cael eu haddysgu yn y cartref. Bydd y cynigion addysg ddewisol yn y cartref sy'n cael eu datblygu gennym ar hyn o bryd yn helpu i sicrhau bod y dysgwyr hynny'n cael mynediad at addysg effeithlon ac addas. Mae'r pecyn cymorth ehangach yr ydym yn ei ddarparu yn elfen hanfodol a fydd yn gwella eu profiad dysgu a'u cyfleoedd datblygu, a bydd yn cynnwys mynediad llawn i'r adnoddau addysgol ar Hwb. Rydym yn annog awdurdodau lleol i gydweithio â theuluoedd drwy ddull cefnogol i alluogi pobl i ddychwelyd i'r ysgol.
Heddiw, rwyf wedi amlinellu rhai o'r camau y byddwn yn eu cymryd. Wrth i ni symud i ddull tymor hwy ar gyfer ymateb i coronafeirws, byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod hawliau plant a'r hawl i addysg wrth wraidd popeth a wnawn.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr am eich datganiad, Gweinidog. Rydym yn croesawu, wrth gwrs, yr hyn yr ydych chi wedi'i amlinellu a'r hyn sy'n cael ei wneud hyd yma ar yr hyn sy'n gynnydd pryderus iawn o ran presenoldeb mewn ysgolion ar hyn o bryd yng Nghymru. Wrth gwrs, mae'r cyfan yn ymwneud, yn fy marn i, ag ymddygiad, dewis a diffyg cefnogaeth, ac wrth gwrs effaith COVID ar iechyd meddwl, yn arbennig.
Fel yr ydych chi wedi sôn, mae effaith COVID wedi cael effaith sylweddol iawn ar ein bywydau ni i gyd a phob agwedd ar addysg yng Nghymru. Fel y gwyddom, cyn y pandemig, cyhoeddwyd data presenoldeb ysgol a gynhelir yn flynyddol ar ffurf a grynhowyd ar gyfer blwyddyn academaidd gyfan. Y data diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer y cyfnod cyn y pandemig yw blwyddyn academaidd 2018-19. Fodd bynnag, mae'r data ers dechrau'r pandemig wedi dangos tueddiadau sy'n peri pryder mawr. Mae cyfraddau uwch o absenoldebau mewn ysgolion uwchradd, mae cyfraddau uwch mewn ysgolion cynradd, a llawer mwy o absenoldebau o ran dysgwyr difreintiedig, y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, y rhai â datganiad anghenion addysgol arbennig neu'r rhai sy'n destun gweithredu gan yr ysgol a mwy.
Yn ystod y pandemig, gwelsom fod ysgolion wedi adrodd i'r adolygiad presenoldeb bod eu presenoldeb wedi gostwng, 5 y cant yn nodweddiadol ac fel arfer rhwng 2 y cant a 10 y cant. Fel y mae'r adroddiad yn amlygu, roedd rhai dysgwyr wedi sefydlu patrwm o beidio â mynychu'r ysgol yn ystod y cyfyngiadau symud y maen nhw a'u teuluoedd yn ei chael yn anodd eu newid neu'n gweld hyn yn ddiangen. Mae'r adolygiad hyd yn oed yn awgrymu, hyd yn oed ar ôl dadgyfuno rhesymau sy'n gysylltiedig â COVID, nad yw presenoldeb yn gyffredinol wedi dychwelyd i lefelau cyn COVID eto. Mae hyn yn amlwg yn broblem. Gweinidog, sut ydych chi am fynd i'r afael â'r mater ac annog pobl i ddychwelyd yn llawn i'r dosbarth o leiaf i lefelau cyn y pandemig? Nid yn unig y mae angen i ni weld anogaeth gadarn yn ôl i'r ystafell ddosbarth, ond mae angen i ni gael gwell diogelwch a chefnogaeth—cymorth yn bennaf—ar waith, i'r rheini sydd ag absenoldebau hirdymor anesboniadwy.
Hefyd, Gweinidog, sut ydych chi yn mynd i fonitro absenoldebau hirdymor yn well, ac a wnewch chi newid y trothwy cysylltiedig ar gyfer ymyriadau er mwyn sicrhau na chaiff absenoldebau eu methu? Mae'n hysbys hefyd o'r adolygiad presenoldeb y gall absenoldeb sy'n dirywio fod yn rhagflaenydd i ystod o broblemau ymddygiadol ac emosiynol i ddysgwyr a allai, os na eir i'r afael â nhw, arwain at wahardd y dysgwyr hyn o'r ysgol. Felly, mewn gwirionedd, camu i mewn ar yr adeg iawn—.
Ac yn olaf, Gweinidog, mae'n amlwg bod hwn bellach yn gyfle da i fynd i'r afael â thriwantiaeth a chyfle i ni i sicrhau bod myfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth. Felly, a wnewch chi gynnal ymchwil pellach i'r defnydd o hysbysiadau cosb benodedig a'u heffaith ar batrymau presenoldeb dysgwyr, gwella profiadau dysgwyr, gan fod dirwyon bellach yn dychwelyd, i weld a ydyn nhw yn gweithio ai peidio? Fodd bynnag, yr hyn sy'n glir, serch hynny, yw, cyn y pandemig, roedd un o'r ffyrdd gorau o wella presenoldeb wedi ei seilio ar y gydnabyddiaeth bod presenoldeb yn gwella os yw dysgwyr eisiau dod i'r ysgol ac os ydyn nhw'n canfod fod yr hyn a gynigir yn atyniadol, yn ddiddorol ac yn berthnasol iddyn nhw, ac, wrth gwrs, yn amlwg, ers y pandemig, pa un a yw'r cymorth wedi bod yno ai peidio. Rwy'n gwybod gan fy mod wedi bod yn mynd o gwmpas y de-ddwyrain yn ddiweddar, rwyf wedi cwrdd â llawer o ddisgyblion sydd wedi ei chael yn anodd dychwelyd i'r ysgol, dim ond oherwydd effaith y pandemig ar iechyd meddwl a'r trafferthion a gawson nhw.
Rhaid i ni fabwysiadu ymagwedd amlbroffesiwn tuag at y mater hwn a defnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i'r Llywodraeth, boed hynny'n cryfhau hysbysiadau cosb benodedig neu'n sicrhau bod y cynnig addysgol yn cyrraedd safon benodol ac yn ddeniadol i'r dysgwr, a bod y cymorth hwnnw—y cymorth hwnnw'n bennaf—ar waith.
Gweinidog, er bod eich datganiad yn fan cychwyn, ni allwn laesu dwylo a dylem ni yn awr fod yn ceisio manteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn ar ôl yr adolygiad hwn i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn colli amser yn yr ystafell ddosbarth yn ddiangen os yw hynny'n bosibl. Diolch.
Diolch i Laura Anne Jones am ei chwestiynau ac rwy'n credu ei bod yn gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn yn ei chyfraniad, os caf i ddweud. Rwy'n credu ei bod yn iawn, fel y mae hi'n ei ddweud, fod hon yn gyfres o heriau pryd nad yw symud o bandemig i gyflwr endemig o ran ymateb y system ysgolion i COVID yn mynd i warantu ein bod yn dychwelyd i'r lefelau presenoldeb a ddigwyddodd cyn COVID. Mae hynny'n gwbl glir, ac rwy'n llwyr gefnogi'r pwynt a wnaeth fod yn rhaid i'r Llywodraeth gael amrywiaeth o ddulliau i gefnogi'r system, ond ein bod yn gwneud y cynnydd mwyaf o ran parhau â'r dull yr ydym wedi'i fabwysiadu drwyddi draw, sef cefnogi teuluoedd, cefnogi dysgwyr i ddychwelyd i'r ysgol, felly rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau hynny y mae'n eu gwneud.
Mae her, yn amlwg, wrth ofyn i ysgolion, i bob pwrpas, fynd i'r afael â chyfres newydd o heriau yma, a dyna beth mae hyn yn ei olygu. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y buddsoddiad ychwanegol mewn cysylltiad â gweithlu'r swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, fel yr wyf yn disgwyl, yn werthfawr ac yn cael ei groesawu. Drwy waith y gweithlu hwnnw, y rhan honno o'n gweithlu proffesiynol, sy'n ymwneud â sefydlu perthynas gadarnhaol â rhieni, gyda gofalwyr, gyda dysgwyr eu hunain, darparu arweiniad clir, cyfres glir o ddisgwyliadau, ond hefyd y math o sicrwydd sy'n mynd gyda hynny, a deall hefyd, fel yr ydym ni wedi dweud droeon yn y Siambr hon, bod profiad dysgwyr unigol dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn unigol iddyn nhw, onid yw e', ac rwy'n credu i'r graddau y gallwn ni, adlewyrchu hynny a chael rhyw fath o ddull pwrpasol wedi'i deilwra i anghenion teuluoedd unigol cyn belled ag y bo hynny'n bosibl.
Gofynnodd am y trothwyon—rwy'n credu mai dyna'r term a ddefnyddiodd—a byddwn yn edrych ar rai o'r rheini, gan gynnwys, fel y soniais i yn fy natganiad, y diffiniad o absenoldeb parhaus. Rwy'n poeni y gallai hynny fod wedi'i osod ar lefel rhy uchel ar hyn o bryd, ac felly dylai'r math o ymyriadau y bydd eu hangen arnom ni fod ar gael—dylen nhw gael eu sbarduno, os mynnwch chi—ar lefel is o absenoldeb yn hytrach na fel arall efallai, felly rwyf wedi gofyn i waith gael ei wneud i edrych ar hynny. Fel y byddwch wedi gweld, mae hynny'n argymhelliad yn yr adroddiad ei hun.
Rwy'n credu bod y cysylltiad rhwng absenoldeb ac iechyd meddwl a llesiant yn achos ac yn effaith, os mynnwch chi; rwy'n credu bod ganddo berthynas gymhleth â llesiant. Ac felly mae angen i'r gwaith yr ydym ni eisoes yn ei wneud, ond gan adeiladu arno, o ran y dull system gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol, fod yn ymwybodol iawn o'r cysylltiad hwnnw.
Cododd y pwynt yn benodol ynghylch profiad dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Rydym yn edrych ar—. Rydym yn mynd i adolygu neu ailedrych ar ein canllawiau ar allgáu. Rydym eisoes wedi comisiynu rhywfaint o ymchwil gan brifysgolion i'n helpu ni i ddeall y cysylltiad rhwng allgáu a nodweddion amrywiol, gan gynnwys anghenion dysgu ychwanegol, a byddwn yn gweithio yn ystod y flwyddyn hon ar ddiwygio'r canllawiau hynny i ddarparu offeryn mwy defnyddiol, gan adlewyrchu'r ddwy flynedd ddiwethaf.
I gloi, rwy'n credu mai un o'r themâu mewn nifer o'n hymyriadau yw gwneud ffiniau'r ysgolion yn fwy mân-dyllog, os mynnwch chi. Felly, pa un a yw'n sicrhau bod adnoddau Hwb ar gael i'r rhai sy'n dysgu gartref, neu ehangu ein model ysgolion bro, ac mae hynny'n cynnwys, hefyd, cymorth i dreialu swyddogaeth rheolwyr ysgolion cymunedol, mae'n galluogi i'r gwaith o bontio byd yr ysgol a byd y cartref fod ychydig yn fwy di-dor. A rhan o hynny yw adolygiad, sydd eisoes ar y gweill, o'n strategaeth dysgu cyfunol, sydd, yn fy marn i, yn mynd rhan o'r ffordd i adlewyrchu o leiaf un o'r pwyntiau a wnaeth yn ei chwestiwn, sy'n ymwneud â sicrhau, pan nad ydyn nhw yn yr ysgol, fod cefnogaeth i'r dysgwyr hynny i brofi dysgu cyfunol a dod yn ôl i fyd yr ysgol maes o law.
Ar ran Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n hyfryd gweld cymaint o blant ifanc yn ein gwylio ni y prynhawn yma yn y Siambr—croeso i chi.
Gwyddom oll pa mor bwysig yw presenoldeb ysgol o ran cyrhaeddiad a lles plant a phobl ifanc, fel y gwnaethoch ei nodi yn y datganiad. A fel rhywun a fu yn y gorffennol yn lywodraethwraig ysgol gyda chyfrifoldeb am bresenoldeb, gwn hefyd pa mor heriol y gall fod i ysgolion, a bod athrawon ledled y wlad yn ceisio llu o ffyrdd amrywiol a gwahanol i sicrhau bod lefelau presenoldeb mor uchel â phosib.
Mae'n bwysig hefyd cofio bod rhesymau dilys iawn pam bod rhai plant yn peidio â mynd i'r ysgol. Cyfarfûm â rhiant oedd eisiau i ysgol roedd ei phlant ynddi ddiddymu system a oedd yn gwobrwyo presenoldeb gan fod gan un o'i phlant gyflwr meddygol oedd yn golygu ei fod yn colli nifer o ddyddiau ysgol oherwydd apwyntiadau a thriniaethau meddygol. Roedd ei phlentyn yn teimlo'n fethiant oherwydd y negeseuon parhaus yn yr ysgol am bwysigrwydd presenoldeb ac yn crio os oedd yn rhaid iddyn nhw golli diwrnod o ysgol—rhywbeth a oedd yn gorfod digwydd yn wythnosol.
Dwi'n falch o glywed y Gweinidog, o ran yr hysbysiadau cosb benodedig, yn pwysleisio bod rheswm dilys angen cael ei gymryd i ystyriaeth. A gaf i ofyn, felly, pa asesiad sydd wedi'i wneud o effeithiolrwydd y system cosb benodedig, ac oes yna unrhyw newidiadau wedi'u gwneud i ganllawiau 2013? Oherwydd, wedi'r cyfan, mi ydyn ni wedi clywed straeon am rieni yn derbyn y gosb yma er gwaethaf y ffaith bod rhesymau dilys.
Awgrymodd adroddiad Erlyn Rhieni y gall bygwth ac erlyn rhieni fod yn ddibwrpas ac yn niweidiol. Ac mi oedd y mwyafrif a wnaeth ymateb i arolwg gan Erlyn Rhieni yn nodi, oherwydd absenoldeb eu plant, fod y mwyafrif yn gwrthod mynd i'r ysgol oherwydd bod ganddyn nhw anawsterau ymddygiadol, niwrolegol neu, fel y cyfeiriwyd ato eisoes, iechyd meddwl gwael, a'u bod nhw wedi cael trafferth cael apwyntiadau CAMHS ac ati a chefnogaeth i'w plant. Roedd pob rhiant wnaeth ymateb i'r arolwg hwnnw yn dymuno cael eu plant i'r ysgol, ond mi oedden nhw'n dweud yn aml ei bod hi'n amhosib, oherwydd bod yr adwaith mor eithafol o ran ofn a gorbryder, methu cysgu, hunan-niweidio ac ati, ei bod hi'n drawmatig ofnadwy i'r rhieni a'r gofalwyr hynny o ran ceisio cael eu plant i'r ysgol. Hefyd bod plant yn cael eu bwlio oherwydd, efallai, anallu mynd i'r ysgol, oherwydd cyflwr meddygol ac ati. Dwi'n meddwl ei bod hi'n eithriadol o bwysig ein bod ni'n cael hyn yn iawn wrth ichi fod yn annog awdurdodau unwaith eto i fod yn rhoi hysbysiadau cosb benodedig. Fedrwn ni ddim bod yn cosbi rhieni a gofalwyr yn y sefyllfa fan hyn pan fod dirfawr angen mwy o wasanaethau i gefnogi'r plant a phobl ifanc yma.
Mi wyddom ni hefyd fod yr argyfwng costau byw yn cael effaith mawr o ran presenoldeb ar adegau. Rydyn ni wedi cyfeirio ato yn y gorffennol, rydyn ni'n gwybod bod absenoldebau'n uwch ar ddiwrnodau gwisgo, fel Diwrnod y Llyfr, ac ati. Rydyn ni hefyd yn gwybod os ydy rhieni'n cael trafferth o ran talu am gostau bws, os ydy plentyn wedi colli bws i'r ysgol, fod hwnna, weithiau, yn rheswm. Hefyd, mae rhai rhieni dim ond yn gallu fforddio mynd â phlant ar wyliau, rŵan, yn ystod y tymor ysgol. Mae nifer o brifathrawon yn sensitif iawn o ran hynny os ydy presenoldeb wedi bod yn uchel fel arall, ond mae'n rhaid inni gydnabod bod gan blant yr hawl i gael hwyl a gwyliau hefyd, nid dim ond addysg, a bod teuluoedd dan straen aruthrol.
Mae'n rhaid sicrhau, felly, fod unrhyw strategaeth a chyfathrebiad yn sensitif o ran y rhai hynny lle mae rhesymau dilys iawn o ran colli'r ysgol, a lle mae presenoldeb o unrhyw fath, megis i blentyn sydd â nifer o apwyntiadau meddygol, yn rhywbeth i’w ddathlu. Rhaid bod targedau pob ysgol yn cymryd disgyblion o'r fath i ystyriaeth, gan gynnwys y gefnogaeth sydd ar gael i ddysgwyr a'u rhieni. Fe gyfeirioch yn benodol at rôl allweddol Estyn yn hyn, a mawr obeithiaf y byddant yn sicrhau bod modd i ysgolion gofnodi yr ystod o resymau pam fod dysgwr yn absennol i ni ddeall yn well pam fod problem.
Fe gyfeirioch yn y datganiad at y buddsoddiad gafodd ei neilltuo ar gyfer dysgwyr blwyddyn 11 yn benodol. Yn amlwg, mae hyn yn destun pryder a da gweld bod gwariant penodol wedi ei neilltuo ar ei gyfer. Fyddai'r Gweinidog yn gallu amlinellu sut cafodd yr arian hwn ei wario a pha mor effeithiol oedd y gwariant o ran gwella presenoldeb? Ac oes asesiad wedi ei wneud o hyn? Diolch.
Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny. Does dim byd yn y datganiad y gwnes i ei wneud sydd yn awgrymu y dylai'r pethau pwysig y gwnaeth hi eu codi yn ei sylwadau gael eu hanwybyddu. Mae, wrth gwrs, yn bwysig ein bod ni'n teilwra'r ffordd rŷn ni'n ymateb i'r heriau yma yn ôl amgylchiadau dysgwyr unigol a sefyllfa'r teulu, ac mae wedi rhoi amryw o enghreifftiau ac mae llawer eraill o enghreifftiau dilys hefyd, sydd yn disgrifio'r berthynas gymhleth, efallai, mewn amryw o gyd-destunau rhwng absenoldeb a phresenoldeb a'r ffactorau eraill y gwnaeth hi sôn amdanyn nhw.
Un o'r prif newidiadau, efallai, o'r canllawiau yn 2013—does dim newid wedi bod i'r canllawiau eu hunain—yw i gefnogi ysgolion i allu darparu'r modd mwy cefnogol hwnnw, i gydweithio gyda theuluoedd i wneud hynny, sy'n adlewyrchu amgylchiadau penodol y teulu hwnnw. Felly, mae'r buddsoddiad ychwanegol, gyda'r bwriad o greu mwy o gapasiti a mwy o arbenigedd a mwy o allu yn ein hysgolion i allu gwneud hynny hefyd. Dwi eisiau jest bod yn glir: gwnaeth hi ddweud yn ei datganiad am y ffaith ein bod ni'n annog awdurdodau lleol i wneud hyn. Nid dyna rwy'n ei wneud heddiw, rwyf i jest yn dweud bod cyfle i fynd nôl i'r canllawiau a oedd gennym ni cyn y cyfnod COVID. Mae wir yn bwysig bod hyn yn digwydd fel rhan o ystod o gamau y gall awdurdodau lleol ac ysgolion eu cymryd. Ac fel y gwnes i ddweud yn fy ateb i gwestiynau Laura Anne Jones, mae'n rhaid cefnogi a chydweithio, a dyna'r ffordd fwyaf adeiladol i'r rhan fwyaf o bobl allu sicrhau bod eu plant nôl yn yr ysgol.
Mae'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â chostau'r dydd ysgol. Bydd yr Aelod yn gwybod ein bod ni wedi, wrth gwrs, cymryd amryw o gamau i gefnogi'r teuluoedd sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd i allu fforddio rhai o'r prif elfennau o gost y diwrnod ysgol, a rŷn ni hefyd wedi darparu canllawiau pellach drwy gydweithio â'r trydydd sector i sicrhau bod gan ysgolion ganllawiau penodol ynglŷn â sut i leihau'r risg pwysig y mae hi'n sôn amdano fe, a bod hynny yn digwydd. Mae'r profiad o wybod eich bod chi ddim yn gallu fforddio, fel yr oedd hi'n ei ddweud, gwisgo i fyny neu fynd i'r ysgol ar ddiwrnodau penodol, mae hynny, wrth gwrs, yn destun gofid i lawer o deuluoedd. Felly, mae wir yn bwysig bod ysgolion yn ymateb i'r canllawiau hynny.
Jest i gloi, mae gan bob rhan o'r system addysg rôl i'w chwarae yn hyn, ac fel yr oedd hi'n sôn yn ei chwestiynau, mae rôl bwysig gan Estyn i sicrhau'r berthynas ag ysgolion i ddeall beth yw'r patrwm, i ddeall beth yw'r data, os hoffech chi, ond hefyd i ddeall pam fod hyn yn digwydd—mae hynny'n rhan bwysig hefyd o'r dadansoddiad ac o'r ymateb.
Ac yn olaf, Jayne Bryant, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiad sydd i'w groesawu'n fawr y prynhawn yma a'r manylion yr ydych chi wedi'u darparu ynddo. Fel yr ydych chi wedi dweud, mae mynd i'r afael ag absenoldeb dysgwyr yn allweddol, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi cytuno heddiw ei fod yn fater hollbwysig. Rydw i'n cydnabod yr anawsterau wrth fynd i'r afael ag ef gyda'r heriau ychwanegol a ddaeth yn sgil y pandemig. Bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dechrau darn byr o waith â phwyslais, gan edrych ar y materion sy'n ymwneud â phresenoldeb disgyblion, a bydd yn ystyried eich datganiad heddiw a'r adroddiad.
Hoffwn ganolbwyntio ar un agwedd, ac mae Aelodau eraill wedi crybwyll hyn hefyd. Pan ysgrifennodd y pwyllgor at awdurdodau lleol ynghylch sut yr oedden nhw'n ymdrin ag absenoldeb parhaus, nododd rhai yr hoffai awdurdodau lleol weld ailgyflwyno'r hysbysiadau cosb benodedig. Ac rydych chi wedi cyhoeddi heddiw bod y cyngor gan Lywodraeth Cymru ar ddefnyddio hysbysiadau cosb benodedig wedi newid, o gael eich cynghori i beidio â'u defnyddio i ddweud y gallai fod yn briodol ar gyfer nifer fach o achosion sy'n ymwneud ag absenoldeb parhaus nad ydynt yn gysylltiedig â phandemig COVID. Ac rydych chi wedi dweud eich hun heddiw eich bod chi'n ei weld fel y dewis olaf. Felly, pa ran, yn eich barn chi, all yr hysbysiadau cosb benodedig hynny ei chwarae mewn cysylltiad ag ymdrin ag absenoldebau parhaus mewn ysgolion? A sut y byddwch chi'n parhau i fonitro hyn fel arf, a'r effaith ar lesiant meddyliol ein plant a'n pobl ifanc?
Diolch i Jayne Bryant am y sylwadau yna a'r cwestiynau. Pan wnes i fy natganiad, rydw i am fod yn glir ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud: mewn gwirionedd, dydyn ni erioed wedi newid y gyfraith ar unrhyw adeg mewn cysylltiad â hysbysiadau cosb benodedig. Efallai ei bod hi'n cofio i ni benderfynu peidio â gwneud hynny, ond y byddem yn mynegi barn, os mynnwch chi, ynghylch i ba raddau y dylid eu defnyddio yng nghyd-destun y ddwy flynedd ddiwethaf. A'r hyn yr ydym ni'n ei wneud heddiw yw dweud y dylid adfer y canllawiau oedd yn bodoli o'r blaen. Ond mae ei chwestiwn yn rhoi cyfle i mi bwysleisio unwaith eto fy mod i'n credu ei bod yn bwysig gweld hyn—yn y ffordd yr oedd Laura Anne Jones yn dweud yn ei chwestiwn—fel rhan o ystod o gamau ac, mewn gwirionedd, y bydd y pwyslais i raddau helaeth ar gefnogi dysgwyr a theuluoedd i wneud yn siŵr, drwy waith swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, drwy'r canllawiau, y tawelwch meddwl, drwy'r gwaith mewn cysylltiad â'r adolygiad dysgu cyfunol, drwy'r olwg newydd honno ar y pwynt pryd y mae'r ymyriadau cefnogol amrywiol sydd ar gael i'r ysgol yn dechrau bod ar gael, drwy edrych eto ar y trothwy absenoldeb parhaus yn benodol, ond pwyntiau sbarduno eraill hefyd, mae'r holl ymyriadau hynny'n dod at ei gilydd. Ac rwy'n gwybod y bydd hi wedi gweld hyn yn yr adroddiad: mae ymdeimlad o'r ystod o offer sydd ar gael i ysgolion ac rwy'n glir iawn y bydd angen hysbysiadau mewn nifer fach iawn o achosion. I'r mwyafrif llethol, rwy'n ffyddiog mai'r gwaith y bydd ysgolion yn ei wneud, y maen nhw'n fedrus iawn yn ei wneud, a gyda'r adnoddau ychwanegol yr ydym ni'n eu darparu, rwy'n ffyddiog, i'r rhan fwyaf o ddysgwyr, i'r rhan fwyaf o deuluoedd, mai dyna'r ffordd orau o sicrhau bod dysgwyr yn dod yn ôl i'r ysgol, yn dysgu gyda'u cyfoedion wyneb yn wyneb â'u hathrawon, sy'n fuddiol iawn o ran eu haddysg, ond hefyd, fel yr adlewyrchodd nifer o gyfraniadau heddiw, yn gwbl hanfodol i'w llesiant hefyd.
Diolch i'r Gweinidog.
Cyn i ni symud ymlaen, rydw i'n siŵr y bydd yr Aelodau'n ymuno â mi i ddweud ei bod yn bleser gweld cynifer o bobl ifanc yn yr oriel heddiw, a'u canmol hefyd am eu hymddygiad eithriadol pan oedden nhw yno, ac roedd hi'n wych gweld mwy yn dod i mewn. Rwy'n credu eu bod nhw'n dod o Ysgol Y Wern.