4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Safon Ansawdd Tai Cymru 2

– Senedd Cymru am 3:21 pm ar 10 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:21, 10 Mai 2022

Yr eitem nesaf heddiw yw eitem 4 ar yr agenda, datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, safon ansawdd tai Cymru 2, a galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, i wneud y datganiad.  

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n lansio'r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer safon ansawdd tai arfaethedig Cymru 2023. Cyflwynwyd y SATC wreiddiol, fel y gelwir hi, yn 2002 ar gyfer gwella ansawdd tai cymdeithasol yng Nghymru. Ynghyd â'n partneriaid cyflenwi landlordiaid cymdeithasol, rydym ni wedi buddsoddi biliynau o bunnau dros ddau ddegawd i wella a chynnal ansawdd cartrefi cymdeithasol mewn ffordd sylweddol ledled Cymru drwy gyfrwng y SATC, ac fe weithiodd hynny i raddau helaeth iawn. Erbyn diwedd 2020, roedd 99 y cant o dai cymdeithasol yng Nghymru yn cyrraedd y SATC wreiddiol, safon sy'n llawer mwy heriol nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU.

Mae'r SATC bob amser wedi bod yn safon wrthdlodi, gan sicrhau tai o ansawdd uchel i rai o'n cartrefi a'n cymunedau mwyaf agored i niwed. Yn rhychwantu chwe gweinyddiaeth, mae'r SATC yn enghraifft o sut y gall Llywodraethau, yn wir, edrych i'r hirdymor, gan fuddsoddi mewn polisïau a rhaglenni hirdymor, gyda modelau ariannu hirdymor. Rydym ni wedi galluogi landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi gyda hyder mewn asedau a chymunedau yn yr hirdymor, ac mae hyn wedi arwain at godi safon tai cymdeithasol yng Nghymru.

Mae pawb yn derbyn bod ymgartrefu mewn cartref o safon yn dod â manteision i lesiant corfforol a meddyliol y rhai sy'n trigo ynddyn nhw. Yn wir, mae'r pandemig wedi newid dulliau pobl o fyw, sut maen nhw'n teimlo am eu cartrefi a'u disgwyliadau yn hynny o beth. Hon yw'r adeg iawn i adolygu'r safon, gan gydnabod y newid hwn, yn ogystal â'r argyfwng costau byw digynsail sy'n wynebu pobl Cymru. Ac wrth wneud hynny, mae'n rhaid i ni godi'r safon eto, gan fynd ymhellach i sicrhau bod cartrefi cymdeithasol yn bodloni nid yn unig y disgwyliadau newydd, ond, wrth gwrs, eu bod nhw'n ymateb i'r argyfwng newid hinsawdd gan leihau'r allyriadau carbon a achosir gan dai cymdeithasol.

Mae'r safon arfaethedig ar gyfer SATC 2023 yn adeiladu ar gyflawniadau rhagorol ei rhagflaenydd. Mae'r safon newydd yn cadw at ofynion wrthdlodi yn ei gofynion hi, gan gyflwyno'r gofyniad i ddarparu lloriau drwy'r cartref i gyd ym mhob tenantiaeth newydd, gwella effeithlonrwydd ynni a lleihau amlygiad i sŵn, gyda'r nod o roi mwy o arian ym mhocedi'r tenantiaid a chefnogi eu cysur a'u llesiant nhw. Fe fydd hefyd yn cyflwyno safonau o ran effeithlonrwydd gyda dŵr ac yn annog landlordiaid i ystyried cyfleoedd o ran bioamrywiaeth.

Mae'r safon arfaethedig yn ceisio bod yn uchelgeisiol, ond yn gyraeddadwy yn y pen draw. Ein nod ni o ran yr ymgynghoriad yw sicrhau bod llais y sector yn cael ei ystyried wrth gwblhau'r safonau hyn, a'u cael nhw'n hollol iawn. Nid wyf i'n ymddiheuro am gynnig yr hyn y bydd rhai yn ei ystyried yn ddull beiddgar; rwy'n benderfynol y dylid codi'r safonau eto. Yn wyneb yr argyfwng costau byw a'r argyfwng newid hinsawdd, nid ydym ni'n gallu sefyll yn ein hunfan. Mae'n rhaid i ni barhau i wthio cynnydd a gosod safonau i fynd i'r afael â datgarboneiddio drwy amrywiaeth o fesurau gyda'r tai cymdeithasol presennol.

Cefnogwyd yr elfennau technegol yn y safon gan arbenigwyr sydd wedi edrych ar beth arall sy'n digwydd ledled y DU a thu hwnt, ac wedi helpu i ddatblygu safon arfaethedig sy'n cadw Cymru ar y rheng flaen o ran datgarboneiddio tai cymdeithasol. Fe glywyd lleisiau dros 900 o denantiaid wrth lunio'r safon newydd sy'n adlewyrchu eu hanghenion nhw, eu dymuniadau a'u dyheadau nhw ar gyfer eu cartrefi. Ac rydym ni wedi gweithio yn agos iawn gydag ystod eang o randdeiliaid, gan wrando ac ystyried eu pryderon a'u heriau nhw wrth ddrafftio'r safon arfaethedig newydd hon. Mae'r dull cydweithredol hwn wedi bod yn sail i ddatblygiad SATC 2023 hyd yn hyn, ac fe fydd honno'n parhau i fod yn sail i'n dull ni o ymgynghori ar y safonau a'u mireinio nhw wrth symud ymlaen.

Fe fydd safonau arfaethedig SATC 2023 yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad o 11 o fis Mai ac fe fyddan nhw'n agored i randdeiliaid ymateb am 12 wythnos. Mae ein tenantiaid tai cymdeithasol ni'n haeddu'r safonau gorau posibl y gallwn ni eu llunio. Mae cyrraedd ein nodau ni o ran Sero Net Cymru yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni wneud cynnydd pendant ac rwyf i o'r farn y bydd y safonau hyn yn helpu i lywio'r cynnydd hwn. Fy ngobaith pybyr i yw y bydd y safonau hyn nid yn unig yn cael eu dwyn i'r amlwg ar gyfer tai cymdeithasol, ond y gallai deiliadaethau eraill hefyd ystyried yn y dyfodol sut y gellid bodloni a rhagori ar y disgwyliadau hyn, ac rwy'n annog rhoi safbwyntiau drwy'r ymgynghoriad ynglŷn â sut y gallai'r safon hon weithio i bawb. Diolch.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:25, 10 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i am y datganiad, a, Gweinidog, a gaf i ddweud pa mor braf yw eich gweld chi'n ôl yn y Siambr hon a'n bod ni wedi meddwl llawer amdanoch chi yn ystod yr wythnosau diweddar?

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Nawr, rwyf i yn cytuno â'r egwyddor sylfaenol bod rhaid i dai sy'n perthyn i gymdeithasau ac awdurdodau lleol fod mewn cyflwr da, deniadol a chyfanheddol, ond rwy'n credu y gallai rhai holi a yw safon ansawdd tai Cymru wedi gweithio hyd eithaf ei gallu. Mae canlyniadau arolwg y tenantiaid yn dweud llawer: dim ond 53.6 y cant o'r ymatebwyr a oedd o'r farn fod eu cartref nhw mewn cyflwr da; dim ond 60.3 y cant a oedd o'r farn fod eu cartref nhw'n bodloni gofynion penodol yr aelwyd; ac nid oedd 44 y cant wedi clywed erioed am safon ansawdd tai Cymru. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n amlinellu pa fesurau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod tenantiaid yn cael gwybod am y safonau hyn, a sut y maen nhw'n teimlo eu bod wedi eu grymuso i sicrhau'r newidiadau angenrheidiol.

Rwy'n ymwybodol hefyd, oherwydd rhai cyfarfodydd a gynhaliwyd yn ddiweddar, sut weithiau, pan gynigir cyfle i denantiaid gael rhai gwelliannau—efallai mai system wresogi neu ffenestri newydd sydd dan sylw, ac fe wn i fod hyn wedi codi yn ein pwyllgor ni, ynghylch datgarboneiddio tai—fod tenantiaid weithiau ychydig yn amharod i ganiatáu i gontractwyr fynd i mewn. Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn rhif 1 yw gofyn sut efallai y byddech chi yn y Llywodraeth yn gallu gwneud ein tenantiaid ni yn fwy ymwybodol o'r safonau hyn o ran ansawdd tai, a sut i fagu hyder y tenantiaid wedyn i ganiatáu i'r gwaith hwn gael ei wneud, oherwydd fe fydd o les mawr iddyn nhw.

Ar y llaw arall, rydych chi'n cytuno â mi, rwy'n siŵr, Gweinidog, fod rhai tenantiaid yn dweud eu bod nhw wedi bod yn aros hyd at 10 mlynedd i orffen rhai atgyweiriadau. Mae hi'n bwysig ystyried hefyd a yw SATC yn mynd ar drywydd gwaith atgyweirio ac adnewyddu sy'n rhesymol. Roeddech chi'n cyfeirio at loriau, effeithlonrwydd ynni a lleihau amlygiad i sŵn. Er hynny, mae tystiolaeth oddi wrth Linc Cymru, ClwydAlyn a Grŵp Pobl wedi tynnu sylw, er enghraifft, at y ffaith bod rhaid iddyn nhw newid y ceginau bob 15 mlynedd yng Nghymru, ond bob 20 mlynedd y mae angen newid y ceginau, sydd o'r un gwneuthuriad, yn Lloegr. Ystafelloedd ymolchi yn yr un modd, sef 25 mlynedd yng Nghymru a 30 mlynedd yn Lloegr. Nawr, mae'r cymdeithasau tai yn tynnu sylw mewn ffordd amlwg at y ffaith bod landlordiaid cymdeithasol Cymru yn gorfod talu gwerth miliynau o bunnau o gostau yn ddiangen. Felly, a wnewch chi edrych ar hynny, neu ymateb i hynny, ar gyfer ystyried a ellid rhyddhau cyllid i'w wario ar faterion eraill sy'n ymwneud â chartrefi cymdeithasol?

Mae'r arian yn achos pryder mawr. Mae landlordiaid cymdeithasol yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu cartrefi carbon isel er lles eu tenantiaid nhw, yr amgylchedd a'r blaned. Er hynny, maen nhw wedi egluro i'r pwyllgor newid hinsawdd y dylai materion o ran diogelwch fod â mwy o flaenoriaeth nag uchelgeisiau datgarboneiddio, os yw'r adnoddau yn brin. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy'n nodi y bydd £5.5 biliwn o gost i ôl-osod pob tŷ cymdeithasol i fodloni gradd tystysgrif perfformiad ynni yng Nghymru. Felly, fe fyddai hynny'n cyfateb i gyfartaledd o £24,000 y cartref. A ydych chi'n cytuno â chostau Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, ac, os felly, a fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi'r cyllid hwn sydd ei angen? Mae Cartrefi Cymunedol Cymru hyd yn oed wedi datgan y bydd angen i fodel ariannu safon 2 ansawdd tai Cymru roi sicrwydd digonol i fyrddau pob landlord cymdeithasol y gellir bodloni'r safon heb beryglu amcanion y sefydliad arall.

Lle bwriedir gwneud gwaith, mae hi'n ffaith, fel soniais i'n barod, fod landlordiaid cymdeithasol yn wynebu gwrthsafiad gan denantiaid. Yn ôl astudiaeth y gronfa datgarboneiddio tai cymdeithasol, y prif faterion sy'n achosi gwrthwynebiad y tenantiaid yw bod ag ystafelloedd na ellir eu defnyddio yn ystod gwaith sydd ar 43 y cant; yr amser y bydd y gwaith yn ei gymryd, ar 45 y cant; y tarfu oherwydd sŵn y gwaith ar 60 y cant, ac mae eraill yn casáu unrhyw newid o gwbl ac mae'r gyfradd honno ar 62 y cant. Felly, er fy mod i'n sylweddoli bod gwrando ar leisiau dros 900 o denantiaid wedi digwydd, o gofio'r ystadegau hyn, sut ydych chi, wrth symud ymlaen, yn bwriadu cyflawni'r nod o sicrhau nad yw tenantiaid ar eu colled o ganlyniad i'r gwaith datgarboneiddio yn eu cartrefi nhw, ac y gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd safonau ansawdd tai Cymru i'r graddau pryd y gall pob un o'n tenantiaid ni elwa ar hynny? Diolch i chi.

Photo of Julie James Julie James Labour 3:31, 10 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch yn fawr iawn i chi, Janet. Rydych chi'n codi rhai pwyntiau diddorol iawn a rhai materion o egwyddor. Felly, o ran y materion o egwyddor, mae hi'n amlwg ein bod ni'n wynebu her ynglŷn â'r hinsawdd. Rydych chi, rwy'n siŵr, wedi gweld yr adroddiad diweddaraf sy'n mynegi ein bod ni'n edrych ar rai o'r blynyddoedd poethaf a gofnodwyd erioed. Ac, felly, mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod cartrefi pobl yn addas ar gyfer hynny. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â gwresogi yn ystod y gaeaf yn unig; mae hyn yn ymwneud hefyd â'u cadw nhw'n oer yn ystod yr haf, eu gwneud nhw'n addas i'w diben. Fe wyddom ni mai hyd at EPC D yr ydym ni newydd godi safon ansawdd tai Cymru, ac mae hwnnw'n welliant sylweddol iawn o'i gymharu â'r hyn a gafwyd o'r blaen, ond mae hi'n amlwg nad yw hynny'n agos at y safon yr ydym ni'n disgwyl ei chyrraedd i ymateb yn effeithiol i newid hinsawdd.

Felly, un o'r pethau cyntaf yr ydym ni'n ei wneud yw edrych ar y safon dros gyfnod ymarferol o amser. Yn amlwg, ni chaiff pawb ei dro yn ystod y flwyddyn gyntaf, felly fe fydd hi'n cymryd 10 mlynedd arall i ni gyrraedd y fan. A mater i gymdeithasau tai a chynghorau fydd cynllunio sut y byddan nhw'n cyrraedd y fan, a pha rai yw'r tai anoddaf i'w haddasu, neu'r hawsaf i'w haddasu, hyd yn oed, mewn rhai achosion, a chynllunio ar gyfer hynny dros y cyfnod hwnnw. Hefyd, rydym ni'n ymwybodol iawn bod rhaglenni gennym ni fel y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a'r rhaglen tai arloesol sy'n gyfredol ar hyn o bryd, ac maen nhw'n profi technolegau i ni. Felly, yn ystod y cyfnod o 10 mlynedd, fe fydd yna dechnolegau ar gael iddyn nhw nad ydyn nhw ar gael nawr, neu fe allai'r dechnoleg gostio lawer yn llai yn y dyfodol nag ar hyn o bryd, ac ati. Felly, mae hi'n bwysig iawn bod gan y safon allbwn yn hytrach na—. Nid wyf i am ddweud y bydd rhaid i chi gael pwmp gwres o'r awyr, neu y bydd raid i chi gael y naill beth neu'r llall; yr allbwn sy'n bwysig. Fe fydd yn rhaid i'r cartref fod â chyfradd safonol o ddatgarboneiddio, fe fydd yn rhaid iddo fod ag effeithlonrwydd ynni safonol ac ati. Ac yna fe fydd ein llwybr ni'n dibynnu ar sut fath o dŷ ydyw. Ac rydych chi'n gwybod ein bod ni wedi bod yn profi'r gwahanol fathau o bethau sy'n gweithio ar wahanol fathau o dai gan ddefnyddio'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, felly rydym yn disgwyl dysgu o'r pethau hyn i gyd wrth symud ymlaen.

Dyna pam hefyd yr ydym ni'n ymgynghori â'r tenantiaid wrth gwrs, oherwydd rydych chi yn llygad eich lle: nid yw rhai pobl yn hoff o newid, nid yw rhai'n gallu ymdopi wrth i un ystafell beidio bod ar gael ac ati. Rydym ni'n edrych hefyd, o ran rhai pobl, fe fydd angen dod o hyd i rywle arall iddyn nhw fyw am gyfnod wrth i'w cartref nhw gael ei ôl-osod, ac roedd hynny'n wir am hen safon ansawdd tai Cymru hefyd, mewn gwirionedd. Felly, roedd gennym ni bobl yn symud i rywle arall am dri neu bedwar mis tra bod eu cartref nhw'n cael ei ôl-osod. Yr hyn a wyddom ni yw, pan fo pobl yn symud yn ôl i mewn, maen nhw'n nhw'n hapus iawn â'r hyn y maen nhw'n ei ganfod.

Ac o ran pethau fel pa mor aml ydych chi'n newid eich cegin, pa mor aml ydych chi'n newid eich ystafell ymolchi, eto mae hynny'n dibynnu ar yr hyn yr ydych chi'n ei nodi. Felly, nid oes neb yn dymuno cael gwared ar bethau sy'n dal i weithio yn berffaith iawn—mae ôl troed carbon i hynny hefyd. Ond, ar yr un pryd, rydym ni'n awyddus hefyd i bobl fod â'r defnydd mwyaf effeithlon a mwyaf effeithiol o leoedd ac offer. Felly, mae hyn i gyd yn ymwneud ag ymgynghoriad, onid yw? Mae hyn i gyd yn ymwneud â phob cymdeithas dai unigol, pob cyngor unigol, ymgynghori mewn ffordd briodol â'i thenantiaid, rhoi rhaglen waith iddyn nhw, ac yna cytuno ar honno. Ni chawn ni gefnogaeth 100 y cant i unrhyw un o'r pethau hyn; mae rhai pobl yn casáu unrhyw newid yn eu tŷ nhw ni waeth pa fanteision sy'n dod yn eu sgil nhw, ac rydym ni wedi gweld enghreifftiau o hynny mewn cymdeithasau tai dros y cyfnod. Ond rwy'n credu y bydd modd gwneud y pethau hyn i gyd os bydd pobl yn deall beth fydd y canlyniad iddyn nhw, ac os mai'r canlyniad hwnnw yw cartref gwell sy'n fwy diogel ac effeithlon o ran ynni, ac yn fwy ffasiynol ac yn fwy modern yn y cyfnod dan sylw, yna fe fydd y rhan fwyaf o bobl yn dod ar y daith honno gyda nhi. Ni wnewch chi fyth blesio pawb bob amser.

Ond rwy'n falch iawn o'r ffordd y gwnaethom ni ddod i'r fan hon. Felly, gan ddysgu o'r gwersi hynny gan y rhaglen tai arloesol a'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, gan ddysgu oddi wrth gymdeithasau tai gwirioneddol dda fel ClwydAlyn ac yn y blaen, sydd wedi gwneud llawer o waith yn hyn o beth, fe fyddwn ni'n gallu cyflwyno hyn mewn ffordd sy'n addas i'r mwyafrif llethol o'r tenantiaid sydd gennym ni, yn fy marn i.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:34, 10 Mai 2022

A gaf innau ategu geiriau Janet ynghynt, a dweud pa mor dda ydy o i weld y Gweinidog nôl, a'n bod ni wedi bod yn meddwl amdani a'i theulu yn ystod y cyfnod anodd diweddar? 

Ond diolch i'r Gweinidog am y cyhoeddiad heddiw. Wrth gwrs, mae gosod safonau ar ansawdd tai yn beth da iawn, ac mi rydyn ni wedi gweld gwella yn safon nifer o'n tai ni. Ond erys y ffaith bod canran fawr iawn o'r tai yn y sector cyhoeddus yn parhau i fod yn israddol. Mi ddaru'r Gweinidog ddweud ar ddechrau ei datganiad bod 99 y cant yn cyrraedd y safonau gwreiddiol ddaru gael eu gosod, ond mae bron i 55,000 o dai cyhoeddus yng Nghymru yn yr hyn y maen nhw'n ei alw'n 'compliant subject to acceptable fails'. Mae hyn yn bron i chwarter o'r stoc tai cyhoeddus. Rŵan, mae acceptable fails yn golygu nifer o wahanol bethau. Yn amlach na pheidio, mae'n golygu nad ydy rhywun yn medru fforddio i'w gael o i'r lefelau angenrheidiol. Felly, ydy'r Gweinidog yn meddwl bod hyn yn nifer derbyniol?

Mae ystadegau diweddar hefyd yn dangos ein bod ni'n gwybod, wrth gwrs, fod tua 15 y cant o'r stoc dai yn rhent preifat, a thua'r un nifer, neu ychydig yn fwy, 16 y cant, o'r stoc dai yn rhent cymdeithasol. Ond o'r rhai rhent cymdeithasol, mae 93 y cant ohonyn nhw yn dai sydd yn glir o beryglon—does yna ddim peryglon ynddyn nhw. Ond yn y stoc breifat, dim ond 75 y cant—tri chwarter ohonyn nhw—sy'n glir o beryglon. Hefyd, mi rydym ni'n gwybod bod perfformiad llawer iawn is o ran rhyddhau ynni a pherfformiad ynni yn y sector preifat. Felly, beth mae'r Gweinidog am ei wneud er mwyn cau'r bwlch yma rhwng y sector preifat a'r sector cyhoeddus, er mwyn gwneud yn siŵr bod pob tŷ yng Nghymru yn cyrraedd y safonau gofynnol yma?

Tra bod camau wedi cael eu cymryd i sicrhau bod tai cyhoeddus yng Nghymru yn ynni effeithiol, fel rydyn ni wedi sôn, y gwir ydy nad ydyn nhw hyd yn oed yn cyrraedd y lefel angenrheidiol ar hyn o bryd. Mae ôl-ffitio yn parhau i fod yn her anferthol. Ac er fy mod yn croesawu eich bod chi wedi blaenoriaethu datgarboneiddio, y gwir ydy bod y costau i fynd i'r afael ag ôl-ffitio a datgarboneiddio yn anferthol. Fedrwch chi ddim disgwyl i'r sector tai cyhoeddus godi rhent er mwyn talu'r costau ôl-ffitio yna. Ac yn yr hinsawdd bresennol, efo costau adeiladu yn cynyddu mor aruthrol, mae hi'n mynd i fod yn anodd iawn i'r sector benderfynu a ydyn nhw'n mynd i adeiladu tai newydd ynteu ôl-ffitio. Felly, lle mae'r sector am gael y pres ychwanegol angenrheidiol yna er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cyrraedd y safonau gwresogi yna?

Yna, wrth edrych ar yr ymgynghoriad newydd rydych chi'n ei gyflwyno, mae'n rhaid i ni gofio bod Cymru 2023 yn wahanol iawn i Gymru 2002. Ac un o'r hanfodion newydd, wrth gwrs, yn yr oes yma ydy band eang. Gaf i ofyn wedyn a fyddwch chi, yn ystod eich ymgynghoriad, yn fodlon ystyried gofyn y cwestiwn ynghylch pa mor bwysig ydy cael mynediad i fand eang a sicrhau bod band eang ar gael ym mhob tŷ fel rhan o'r safonau hynny?

Yn ogystal, mae cymdeithas, o'r diwedd, yn dod i werthfawrogi bod gan bawb yr hawl i dŷ sydd yn addas i bwrpas, a phawb â'u hanghenion gwahanol nhw—rhai, wrth gwrs, efo clefydau, rhai efo rhywbeth fel motor neurone disease, rhai'n methu â gweld yn glir, efo nam ar eu llygaid, rhai'n methu â symud, ac yn y blaen, ac yn y blaen. Pa waith ydych chi felly, fel Llywodraeth, yn ei wneud er mwyn adnabod anghenion pobl sydd efo'r gwahanol anghenion yma, a sicrhau bod hyn yn rhan o'r ystyriaeth wrth ein bod ni'n symud ymlaen i safon tai Cymru 2?

Ac yn olaf yr un pryd byddwch chi hefyd yn gwerthfawrogi bod safon byw mewn tŷ nid yn unig yn ddibynnol ar frics a morter; mae'n ddibynnol ar y gwasanaethau sydd ar gael hefyd. Felly, yn yr ymgynghoriad yma ar gyfer safon tai Cymru 2, a fyddwch chi hefyd yn fodlon ystyried yr angen i edrych ar gael mynediad at wasanaethau o ran trafnidiaeth gyhoeddus a pha mor hawdd ydy hi i bobl fyw yn y cymunedau hynny lle mae'r tai am gael eu hadeiladu? Diolch yn fawr iawn.

Photo of Julie James Julie James Labour 3:39, 10 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Mabon. A diolch yn fawr am eich sylwadau chi ar y dechrau, yn arbennig.

Rydych chi'n gwneud nifer o bwyntiau da iawn, ac un o'r rhesymau yr ydym ni'n mynd am ymgynghoriad yw ar gyfer tynnu sylw at rai o'r pethau hyn. O ran y methiannau derbyniol a welsom ni eisoes, rwy'n awyddus iawn i edrych eto ar yr hyn a ystyriwn ni'n fethiant derbyniol ar gyfer y safon ansawdd tai newydd. Mae rhai ohonyn nhw'n amlwg iawn. Felly, mae gennym ni bobl sy'n byw mewn fflatiau, rhandai, nad oes ganddyn nhw fynediad i'r mannau awyr agored sef rhywbeth angenrheidiol i gyrraedd rhan o'r safon. Yn amlwg, rydym ni i gyd yn gallu deall bod hwnnw'n fethiant derbyniol yn hyn o beth. Nid wyf i'n awyddus o gwbl i alw unrhyw beth o ran fforddiadwyedd yn fethiant derbyniol. Ein barn ni yw, os gellir dod â'r cartref i'r safon, yna nid yw'n ymwneud â maint y gost i wneud hynny, mae hyn yn ymwneud â sut yr ydych chi'n codi'r tŷ i'r safon honno dros gyfnod o amser, ac efallai drwy nifer o ymdrechion ôl-osod, gan ystyried y pwynt a wnaeth Janet Finch-Saunders ynglŷn â sicrhau bod y tenant yn hapus gyda'r rhaglen waith barhaus. Ac un o'r pethau y mae'r ymgynghoriad yn ei wneud yw gofyn i denantiaid, cymdeithasau tai a chynghorau, ystyried sut y maen nhw am gynllunio'r dull hwnnw, fel bydd—. Ni fydd pob cartref yn bodloni'r safon ar unwaith gyda'r ymdrech ôl-osod gyntaf, er enghraifft. Ac yna, fel yr ydych chi wedi fy nghlywed i'n dweud, rydym ni'n gobeithio dysgu gwersi hefyd yn sgil y rhaglenni ôl-osod er mwyn optimeiddio a thai arloesol o ran y dechnoleg y gellir ei defnyddio mewn mathau arbennig o gartrefi ar gyfer cyrraedd safonau effeithlonrwydd ynni penodol, ac ati.

Photo of Julie James Julie James Labour 3:40, 10 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Rydym ni hefyd yn awyddus iawn i weld pethau fel mynediad i fannau gwyrdd. Felly, hyd yn oed os ydych chi mewn fflat, fe ddylech chi barhau i allu cael mynediad i fannau gwyrdd y tu allan. Rydym ni'n bwriadu annog pob landlord cymdeithasol—cynghorau a chymdeithasau tai—i sicrhau mynediad i fannau gwyrdd, hyd yn oed os nad yw'n ardd breifat, serch hynny, mae mynediad da yn rhan o hynny—fe wyddom ni i gyd, yn rhan o'r pandemig—yn rhan bwysig iawn o'ch llesiant chi wrth fyw yn y tŷ hwnnw.

O ran gwasanaethau eraill, yn sicr, fe fyddwn ni'n edrych ar hynny, ond nid wyf i'n siŵr a fyddem ni'n dymuno i dŷ fethu â chyrraedd SATC am nad yw'r gwasanaeth bws y tu allan iddo yn cyrraedd y safon, ond yn amlwg mewn rhan wahanol o fy mhortffolio rydym ni'n awyddus iawn i wella gwasanaethau cyhoeddus, fel gwasanaethau bysiau ac ati. Ond rwy'n sicr yn barod i edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i annog landlordiaid cymdeithasol i roi pwysau ar gwmnïau gwasanaethau i ddefnyddio gwasanaethau eraill. Mae pethau fel mynediad i amwynderau lleol, yr holl ffordd hyd at siopau a chyfleusterau hamdden yn un o'r pethau sy'n gwneud tai yn fwy derbyniol. Ond mae hyn yn ymwneud llawer mwy ag adeiladwaith y cartref, mewn gwirionedd, ac fe wyddom ni, o'r dadansoddiad a wnaethom ni o arolygon boddhad cymdeithasau tai a thenantiaid cyngor a phethau eraill, fod pethau fel sŵn a lloriau a phethau o'r fath yn uchel iawn ar restrau dymuniadau tenantiaid, ac felly dyna pam y cawsant eu cynnwys yn y safon.

Mae'r hafaliad rhent y gwnaethoch chi ei godi yn ddiddorol iawn hefyd. Bob tro yr ydym ni'n pennu'r hafaliad rhent ar gyfer landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru rydym ni'n cael y cyfyng-gyngor ofnadwy hwn i wneud hynny'n fforddiadwy, ond gan sicrhau bod y ffrwd rentu ar gyfer y landlordiaid hynny'n ddigonol, i ôl-osod eu tai nhw ac adeiladu'r tai newydd y mae eu hangen arnom ni. A'r ffrwd rentu, wrth gwrs, yw'r hyn sy'n gyrru'r gallu i fenthyca gan y cymdeithasau tai lleol, ac felly mae hwn yn hafaliad anodd iawn, onid yw e', sy'n ymwneud â fforddiadwyedd a'r hyn na ellir ei fforddio.

Ond mae rhai pwyntiau gwleidyddol i'w gwneud yn y fan hon hefyd, mae arnaf i ofn. Mae rhewi'r lwfans tai lleol gan Lywodraeth bresennol y DU wedi bod yn rhywbeth niweidiol iawn, nid yn unig i'r tenantiaid sydd wedi eu caethiwo gan ostyngiad yn eu gallu nhw i hawlio budd-dal yn y sector rhentu preifat, ond mewn gwirionedd i allu pobl i fforddio tai ledled Cymru. Felly, mae'r dewisiadau gwleidyddol hyn yn broblem wirioneddol. Rwyf i wedi ysgrifennu sawl tro at y Gweinidog yn cwyno bod y toriad cudd o rewi'r lwfans tai lleol yn cael effaith andwyol iawn, nid yn unig ar unigolion, ond ar y gallu i gynllunio tai yn gyffredinol. Felly, dim ond i wneud y pwynt yna.

O ran costau adeiladu, o ran adeiladu o'r newydd, rydym ni eisoes wedi helpu drwy godi'r ffordd yr ydym ni'n trin ein grant tai cymdeithasol a'r ffordd y cawn ni amlen fforddiadwyedd i chwilio am adeiladu o'r newydd. Rydym ni wedi addasu hynny i roi cyfrif am gostau adeiladu. Fe fyddwn ni'n ceisio gwneud hynny ar gyfer ôl-osod hefyd, ond, unwaith eto, un o'r pwyntiau sydd i'w gwneud yn y fan hon yw eich bod chi'n talu TAW ar adnewyddu, ond nid ydych chi'n ei dalu ar adeiladu o'r newydd. Ac felly un o'r pethau yr ydym ni wir yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ei ystyried yw pa mor llethol yw bod â TAW ar adnewyddu, a pha mor andwyol i'r agenda newid hinsawdd yw annog dymchwel rhywbeth ac adeiladu rhywbeth yn ei le yn hytrach nag adnewyddu'r hen adeilad, a chymaint o ysgogiad i'r economi fyddai edrych eto ar TAW ar gyfer adnewyddu. Felly, mae hynny'n rhywbeth sydd gennym ni hefyd—. Mae Rebecca Evans a minnau wedi ysgrifennu sawl gwaith ar ffolineb codi TAW ar waith adnewyddu. Felly, mae'r pethau hyn yn hafaliadau ariannol cymhleth bob amser ac nid yw hynny'n helpu.

Ond yn gyffredinol, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw sefydlu safon briodol i ddechrau, ac edrych wedyn ar y cyfnod amser a'r model ariannu. Felly, rwy'n credu mai'r safon yw'r peth pwysicaf yn hyn o beth, ond mae yna gyllid ar gael i ni. Rydym ni'n gallu cael gafael ar yr hyn a elwid yn flaenorol yn lwfans atgyweiriadau mawr i awdurdodau lleol, a'r hyn a elwir yn waddoli, sef yr arian trosglwyddo gwirfoddol stoc leol a dalwyd pan allanolodd ein hawdurdodau lleol eu stoc tai nhw ddeng mlynedd yn ôl neu fwy erbyn hyn, ac fe gadwyd yr arian yn y cyllidebau ac mae hwnnw ar gael o hyd ar gyfer safon ansawdd tai Cymru. Dyna sut y gwnaethom ariannu'r fersiwn gyntaf hefyd. Felly, mae'r arian hwnnw yno, Mabon, ac rydym ni'n edrych ar ffyrdd ariannu arloesol ar gyfer ymestyn hwnnw cymaint ag y bo modd hefyd.

Ac yna'r peth olaf yr oeddwn i eisiau ei ddweud oedd ynghylch mynediad at fand eang. Rydych chi'n gwneud pwynt da iawn yn hyn o beth. Nid yw hyn yn ymwneud â'r seilwaith yn unig, er, ar gyfer band eang, mae'n ymwneud â fforddiadwyedd y ddarpariaeth o fand eang. Rydym ni wedi bod yn annog cymdeithasau tai lleol ac awdurdodau lleol i edrych ar drefniadau prynu ar gyfradd fawr neu drefniadau Wi-Fi ac ati. Felly, nid yw yn ymwneud ag adeiladwaith y tŷ yn caniatáu'r band eang yn unig, mae hyn yn ymwneud â fforddiadwyedd y pecyn band eang sydd ar gael ac ar gyfer beth y mae'n cael ei ddefnyddio ac ati. Felly, rydym yn cadw golwg ar hynny. Mae gennym ni nifer fawr o adeiladau gwyn o hyd ar wasgar yng nghefn gwlad, felly un o'r pethau y gallwn ni ei wneud yw defnyddio ein tai cymdeithasol ni i roi pwyslais ar sicrhau bod y gwasanaethau hynny'n cael eu gwella yn yr ardal honno. Felly, rwy'n cadw golwg ar hynny hefyd, er, unwaith eto, nid yw o reidrwydd yn ymwneud ag adeiladwaith y tŷ, nag yw, mae hyn yn ymwneud â pha mor rhwydd yw hi i gael gafael ar y seilwaith allanol. Felly, rwy'n croesawu eich cyfraniad chi'n fawr, ac rwy'n edrych ymlaen at y cyflwyniad y byddwch chi'n ei wneud, rwy'n siŵr, wrth ymateb i'r ymgynghoriad.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:46, 10 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n siarad fel un a gafodd ei fagu mewn tŷ cyngor. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn yn fawr iawn. Mae safon ansawdd tai wreiddiol Cymru wedi gweithio, ac mae wedi gweithio yn dda iawn. Mae wedi gwella ansawdd tai cymdeithasol yng Nghymru, landlordiaid cyngor a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, neu, fel rwyf i'n eu galw nhw fel arfer, cymdeithasau tai. Mae hyn yn mynd yn ôl i 2002, sydd 20 mlynedd yn ôl. A yw'r tai hynny a oedd â cheginau ac ystafelloedd ymolchi newydd dros 15 mlynedd yn ôl yn cael eu hadnewyddu neu eu diweddaru erbyn hyn?

Rwyf i o'r farn y dylai gwrthdlodi fod yn ysgogiad i bob un o bolisïau'r Llywodraeth, ac fe hoffwn i weld mwy o drafodaeth gan y Llywodraeth ynghylch sut y mae popeth a wnân nhw yn ymwneud â wrthdlodi. Rwy'n credu mai'r rheswm y daeth y blaid yr wyf i'n perthyn iddi i fodolaeth oedd ar gyfer ymladd yn erbyn tlodi. A yw'r Gweinidog yn derbyn ein bod ni ar hyn o bryd yn creu system ddwy haen ar gyfer tai rhent, tai cymdeithasol a thai rhent preifat? A yw'r Gweinidog yn bwriadu cyflwyno safon ansawdd tai ar gyfer llety a rentir yn breifat, y mae rhai ohonyn nhw mewn cyflwr llawer gwaeth na thai cyngor a chymdeithasau tai?

Photo of Julie James Julie James Labour 3:47, 10 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Mike. Fe wn i eich bod chi'n rhannu fy mrwdfrydedd i dros dai cymdeithasol. Fe gawsom ni ein magu nid nepell oddi wrth ein gilydd, fel mae hi'n digwydd, ac rwyf i bob amser wedi edmygu eich sêl a'ch brwdfrydedd chi dros dai cymdeithasol o ansawdd da iawn. Yn sicr, mae hon yn agenda wrthdlodi; mae hon yn agenda o ran datgarboneiddio hefyd. Mae'r pethau hynny'n mynd law yn llaw, wrth gwrs. Po fwyaf effeithlon o ran ynni y byddwch chi'n gwneud y tŷ, y lleiaf o garbon y mae'n ei allyrru, y lleiaf yw eich bil ynni chi, ac mae'r cylch gwrthdlodi yn gwella o'r herwydd. Felly, rwy'n cytuno â hynny'n llwyr.

O ran y sector rhentu preifat, rydym ni'n gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a fydd yn helpu yn hynny o beth, ond mae gennym amrywiaeth o gynlluniau hefyd y bwriedir iddyn nhw gymell landlordiaid yn y sector preifat i'n galluogi ni i'w helpu i godi eu tai nhw i'r safon. Fel gwyddoch chi, i landlord sy'n rhoi tŷ drosodd i ni am o leiaf bum mlynedd, fe fyddwn ni'n ei helpu i godi'r tŷ i'r safon, fe fyddwn ni'n gwarantu'r rhent cymdeithasol am y cyfnod hwnnw, fe allwn ni roi gwell sicrwydd deiliadaeth i'r tenant am y cyfnod hwnnw, ac mae'r landlord yn cael y tŷ yn ei ôl mewn cyflwr gwell, mae gwelliant yn y stoc tai—mae honno'n sefyllfa lle mae pawb yn gyfan gwbl ar ei ennill ynddi. Gorau po fwyaf y gallwn ni gyhoeddi'r wybodaeth ynglŷn â hynny yn y sector rhentu preifat, po fwyaf o'r landlordiaid hynny y gallwn eu hannog i ymuno â'r cynllun hwnnw, y gorau fydd y stoc tai.

Yr hyn nad ydym ni'n awyddus i'w gael yw dweud bod yn rhaid i'r sector rhentu preifat godi tŷ i safon EPC E, fel gwnaeth Llywodraeth y DU yn ddiweddar, heb unrhyw grantiau na benthyciadau nac unrhyw beth arall i'w gael, oherwydd rydym ni'n ofni y bydd y landlordiaid hynny'n ymadael â'r sector rhentu preifat ac yn gwerthu'r tai. Yn arbennig, gyda'r tai mawr sy'n pontio'r cenedlaethau a gawn ni mewn etholaethau sydd yng nghanol dinasoedd, fel yn fy etholaeth i ac un Jenny Rathbone, er enghraifft, rydym ni'n gofidio llawer y byddai'r landlordiaid hynny'n gweld hynny'n anghymellol. Felly, yr hyn sydd ei angen arnom ni yw cynlluniau cymhelliant i sicrhau bod pobl yn aros yn y sector rhentu preifat, yn cael elw teilwng ar eu cyfalaf, ond mewn gwirionedd yn cael eu gwobrwyo am roi cartrefi gwell i'w tenantiaid.

Rhan o hynny yw agenda'r Ddeddf rhentu cartrefi—rydym ni wrthi yn gweithredu'r Ddeddf honno—a rhan o hynny yw'r cymhelliant a roddwn ni i landlordiaid y sector preifat i sicrhau bod y cartrefi hynny'n cyrraedd y safon. Ac wrth gwrs, drwy ysgogi safon tai cymdeithasol, rydym ni'n amlygu'r gwrthgyferbyniad, onid ydym ni? Rydym ni'n rhoi'r dewis hwnnw i bobl. A thrwy adeiladu mwy o dai cymdeithasol, rydym ni'n rhoi'r dewis hwnnw i bobl hefyd. Cafodd hynny i gyd ei gynllunio i roi pwysau ar landlordiaid PRS a allai fod yn ystyried peidio â chodi'r tŷ i'r safon.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:49, 10 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Fe hoffwn i ddiolch i chi, a phob un o'r Gweinidogion blaenorol sydd wedi bod â chyfrifoldeb am dai, a'r rhanddeiliaid eraill i gyd sydd wedi ymwneud â dod â'r SATC i'n holl dai cymdeithasol ni. Nid yw hynny'n golygu nad oes unrhyw waith i'w wneud eto. Mae gen i denantiaid sy'n dal i fyw mewn llety nad yw'n destun dirwyon sy'n ddeifiol oer yn y gaeaf. Rwyf i eisiau achub ar y cyfle a gawsom ni gennych chi yn eich paragraff olaf o ran ystyried sut y byddwn ni'n codi deiliadaethau eraill i'r safonau sydd gennym ni ar hyn o bryd mewn tai cymdeithasol, oherwydd mae byw mewn band D neu eiddo rhent preifat gwaeth yn golygu diffyg cysur, biliau ynni anfforddiadwy, ac, i lawer, gorfod dewis rhwng gwresogi neu fwyta. Yng nghyd-destun argyfwng costau byw'r Torïaid, rydym ni ar y dibyn mewn gwirionedd. Nid wyf i'n credu y gallwn ni edrych i'r hirdymor, ac yn bendant ni allwn ni sefyll yn yr unfan. Mae angen i ni weithredu ar frys nawr. Mae'n rhaid i ni gofio mai yn 2007 y cyflwynodd Gordon Brown y safonau di-garbon ar gyfer pob tŷ newydd, ac fe gafodd y rheini eu diddymu gan George Osborne yn 2015—un o'r mesurau mwyaf trychinebus yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd. Mae gwir angen i ni wybod pryd y byddwn ni'n cael safonau Rhan L llawer mwy cadarn ar gyfer tai newydd, oherwydd mae ôl-osod yn llawer mwy cymhleth a drud na chywiro trachwant adeiladwyr tai preifat sy'n dymuno adeiladu cartrefi sy'n is na'r safon. Felly, mae hi'n ymddangos i mi—

Photo of David Rees David Rees Labour 3:51, 10 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Mae angen i chi orffen gofyn y cwestiwn, os gwelwch chi'n dda.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

—fe geir cyfleoedd yng ngradd sero TAW ar insiwleiddio y dylai landlordiaid preifat gael eu cymell i fanteisio arnyn nhw. Nid wyf i'n chwilio am grantiau; fe hoffwn i weld benthyciadau ar gael i landlordiaid preifat fel eu bod nhw'n gwneud y peth iawn. Yn y pen draw, fe hoffwn i weld gwialenni ar gyfer landlordiaid preifat nad ydyn nhw'n gwneud y peth iawn, a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym am hynny, tybed?

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno, Jenny, yn llwyr â chi. O ran adeiladau newydd, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n cyflwyno newidiadau i reoliadau rhan L yn fuan iawn. Rydym ni eisoes wedi newid yr hyn a elwir y DQL ar gyfer tai cymdeithasol newydd i garbon goddefol neu garbon niwtral, felly unwaith eto, yn cymell y diwydiant i adeiladu yn unol â hynny. Rydym ni hefyd, wrth gwrs, yn caniatáu i landlordiaid cymdeithasol brynu oddi ar y cynllun ar gyfer adeiladu o'r newydd, gan gymell ein hadeiladwyr i adeiladu eu holl dai i hynny yn y gobaith y byddant yn gallu gwerthu mwy ohonyn nhw oddi ar y cynllun i'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig mawr a'r cynghorau. Mae hynny'n digwydd ledled Cymru.

O ran y wialen, fe fydd gweithredu'r Ddeddf rhentu cartrefi yn cael effaith fawr iawn ar sicrhau bod landlordiaid yn y sector preifat yn gorfod cynnig cartref sy'n addas i'r diben. Ond rwy'n cytuno â chi ynghylch cymell benthyciadau; rydym ni'n rhoi ystyriaeth i'r hyn y gallwn ni ei wneud i ganiatáu hynny. Un o'r pethau yr ydym ni'n eu gwneud yw ceisio gwarantu, fel dywedais i, gyda'r cynlluniau prydlesu—. Yn gyntaf i gyd, rydym ni'n ceisio sicrhau bod yr holl landlordiaid yn gwybod am hyn. Rydym ni wedi bod yn defnyddio Rhentu Doeth Cymru ar gyfer cyfathrebiadau. Rwyf i o'r farn fod hwnnw'n gymhelliad mawr sef bod yr incwm hwnnw'n cael ei warantu i chi heb unrhyw dai gwag neu beth bynnag dros gyfnod cyfan yr amser y byddwch chi'n cyflwyno hynny, ac wrth gwrs i'r cartref gael ei godi i'r safon. Rwy'n dymuno i bawb wneud pobl yn ymwybodol o hynny, felly pan fyddwn ni'n dod ar draws tenantiaid yn y tai hynny, rwy'n credu ei bod hi'n werth gofyn iddyn nhw bob amser a yw eu landlord nhw'n ymwybodol o'r cynllun hwn. Fe geir llawer ohonyn nhw nad ydyn nhw'n ymwybodol o hynny, ac fe gefais i fy synnu, felly, bod cymaint o bobl nad oedden nhw'n ymwybodol o hynny.

O ran gwialenni, rydym ni'n ystyried yr hyn y gellir ei wneud ar y cyd â Llywodraeth y DU, mewn gwirionedd, ynghylch gwella hyn i ryw raddau. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi rhai safonau ansawdd ar y sector rhentu preifat, ond yn anffodus, mae'r rhain yn tueddu gorfodi EPC E arnoch chi heb unrhyw un o'r cymhellion. Fel dywedais i, rwy'n awyddus iawn i osgoi rhai o ganlyniadau anfwriadol hynny, yn enwedig yng nghanol dinasoedd lle ceir y stoc hynaf, fwyaf o dai. Fe fyddai hi'n anodd iawn i gael rhywbeth yn ei lle nhw'n gyflym, ar gyfer teuluoedd sy'n pontio'r cenedlaethau yn arbennig felly. Mae tai o'r fath yn arbennig o gyffredin yn eich etholaeth chi ac yn fy etholaeth innau.

Ond rwy'n awyddus i gael y sgwrs honno. Fe fyddaf i'n cwrdd â Chymdeithas y Landlordiaid Preswyl yn fuan; fe fyddwn ni'n parhau â'r sgwrs honno gyda nhw. Ond yn y cyfamser, gosod y safon aur, os mynnwch chi, ar gyfer tai yng Nghymru gyda'r tai cymdeithasol yw'r sefyllfa yr ydym ni ynddi hi gyda'r datganiad hwn. Fe ddywedwyd wrthym ni na allem ni wneud hynny'r tro cyntaf, ac fe wnaethom ni, felly rwy'n siŵr y byddaf i'n cael gwybod na allaf ei wneud y tro hwn chwaith, ac rwy'n eithaf sicr y byddwn ni'n gallu ei wneud unwaith eto. Rebecca Evans oedd fy rhagflaenydd i yn y swydd, mewn gwirionedd, ac fe wn iddi hi gynnal sgyrsiau hir iawn am ein hanallu ni i wneud fel hyn, ac fe wnaethom ni beth bynnag. Felly, dyna'r sefyllfa, ond rwy'n fodlon cael sgyrsiau unigol gyda chi hefyd, Jenny, ynglŷn â materion etholaethol.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad. Yn ddiweddar, fe fuom ni'n trafod y sgiliau y bydd eu hangen yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith. Fe ddywedodd Mark Bodger o Fwrdd Hyfforddi Diwydiant Adeiladu Cymru y bydden nhw'n fwy na pharod i ddod i'r adwy yn hynny o beth. Ac wrth gwrs, mae cynllun sgiliau Sero Net Cymru ar y gweill gennym ni, ac rwy'n deall y bydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi rywbryd yn ystod yr hydref eleni. Un o'r meini prawf yn y cynllun hwnnw yw atal yr anghydraddoldebau presennol yn y farchnad lafur rhag cael eu trosglwyddo i'r economïau sero net a digidol newydd. Felly, rwy'n gobeithio eich bod chi'n cytuno â mi, Gweinidog, fod yna gyfle enfawr yn y fan hon, a hefyd, yn fy marn i, fe geir rhwymedigaeth hefyd, i ddefnyddio safon ansawdd tai newydd Cymru i annog a chefnogi mwy o fenywod ac aelodau o leiafrifoedd ethnig i ddilyn gyrfaoedd ym maes adeiladu. Os edrychwn ni ar safleoedd, rydym ni'n sôn am gyfradd o 2 neu 3 y cant yn unig o fenywod, a dim ond ychydig dros 14 y cant os edrychwn ni ar y swyddi ar yr ochr dechnegol. Felly, dyma farchnad enfawr heb ei defnyddio gyda'r prinder sydd yn y farchnad lafur honno ar hyn o bryd. A wnewch chi, Gweinidog, gyda'ch cyd-Aelodau chi, ystyried sut i ddefnyddio safon ansawdd tai Cymru i droi'r niferoedd hynny'n rhywbeth sy'n gadarnhaol? 

Photo of Julie James Julie James Labour 3:55, 10 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i chi, Joyce. Rwy'n gwybod eich bod chi wedi bod yn ymgyrchydd ynglŷn â'r mater hwn ers i mi ddod i'ch adnabod chi, felly mae hi'n braf eich gweld chi'n dod i fatio, neu beth bynnag yw'r gyffelybiaeth o fyd chwaraeon am hynny. Ie, yn hollol; un o'r pethau yr oeddem ni'n gallu ei wneud gydag ymgyrch gyntaf safon ansawdd tai Cymru oedd gorhyfforddi nifer y prentisiaid sy'n angenrheidiol i sicrhau eu bod nhw ar gael i'r sector preifat ar gyfer ôl-osod o'r fath. Fe fyddwn ni'n gallu gwneud hynny'r tro hwn hefyd, gan adeiladu ar yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud ar gyfer y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a'r rhaglen tai arloesol, sef deall sut beth yw'r dechnoleg i ôl-osod, a sicrhau wedi bod y ddeialog â CITB ac eraill, ein colegau AB ac ati, yn hollbwysig ac yn gwbl ganolog yn y rhaglen honno, fel eu bod nhw'n newid eu rhaglenni hyfforddiant prentisiaid wrth i ni newid y dechnoleg. Nid oes diben hyfforddi fflyd o beirianwyr atgyweirio nwy os yr hyn yr ydym ni'n ei fynegi yw, 'Nid boeler nwy sydd ei eisiau arnoch chi'. Felly, yn amlwg, mae yna fater o ran ailhyfforddi gweithwyr presennol, ac fe geir newydd-ddyfodiaid i'r farchnad.

Y peth olaf i'w ddweud yw y bydd llawer o'r ôl-osod hwn, rydym ni'n gobeithio, yn cael ei wneud gydag ynni adnewyddadwy—pren o Gymru ar gyfer paneli inswleiddio ac ati. Fe wneir llawer o hynny yn ein ffatrïoedd ni sy'n cynhyrchu pethau newydd a chyfoes o ran deunyddiau adeiladu. Fe gefais i fy syfrdanu, wrth fynd o gwmpas y ffatrïoedd hyn, gan weithlu sy'n llawer mwy amrywiol, oherwydd nid yw hyn yn digwydd ar uchelderau, nac allan ym mhob tywydd, ond y tu mewn i ffatri. Felly, rydych chi'n gweld llawer mwy o bobl ag anableddau a llawer mwy o fenywod yn y lleoliadau hynny nag y byddech chi ar safle adeiladu arferol y tu allan ym mhob tywydd. Rwy'n gobeithio mai dyna fydd y sbardun, os hoffech chi, i gael y bobl hynny'n ôl i'r proffesiwn.

Y peth olaf yr hoffwn ei ddweud yw ein bod ni, wrth gwrs, yn gwthio'r pwynt i raddau helaeth iawn, y gwnaethoch chi droeon, nad ymwneud ag adeiladwyr yn unig y mae hyn. Fe geir cyfleoedd i weithio yn y sector adeiladu ym mhob dull a modd—yr aseswyr, y syrfewyr meintiau, y penseiri, rheolwyr y prosiect ac ati. Fe hoffem ni weld llawer mwy o amrywiaeth ym mhob un o'r haenau hynny yn y diwydiant adeiladu, yn ogystal ag o ran crefftau. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:57, 10 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Gweinidog. Ar ran yr Aelodau i gyd, rwy'n siŵr y byddem ni'n hoffi eich croesawu chi'n ôl i'r Siambr a chydymdeimlo â chi yn yr anawsterau a welsoch chi yn ystod yr wythnosau diweddar.