5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Yr Holodomor

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 11 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:34, 11 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

'Roedd yr hyn a welais y bore hwnnw... yn anhraethol o erchyll. Ar faes y gad, mae dynion yn marw'n gyflym, maent yn ymladd yn ôl, cânt eu cynnal gan eu cyfeillion ac ymdeimlad o ddyletswydd. Yma, gwelais bobl yn marw'n araf ar eu pen eu hunain, yn marw'n erchyll, heb yr esgus eu bod yn aberthu dros achos. Roeddent yn sownd ac wedi'u gadael i newynu, pob un yn ei gartref ei hun, gan benderfyniad gwleidyddol a wnaed mewn prifddinas bell o amgylch byrddau cynadledda a gwledda.'