– Senedd Cymru am 2:15 pm ar 17 Mai 2022.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno y dylai dadleuon y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru gael eu cyfnewid yfory. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Diolch, Trefnydd. Mae gan reoliadau ffosffad sydd wedi'u gosod gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn ardaloedd cadwraeth arbennig afonydd broblemau mawr ledled Cymru o hyd, ac rydym ni'n agos iawn at argyfwng mewn llawer o'n diwydiannau, gyda'n proffesiwn adeiladu bron â phallu'n gyfan gwbl mewn rhai rhannau o Gymru. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch canfyddiadau'r gweithgor a gafodd ei sefydlu i ddod o hyd i ateb i'r broblem hon? Oherwydd cyntaf i gyd y gwnawn ni ddatrys y broblem hon, cyntaf i gyd y gallwn ni gael ein system gynllunio a'n hadeiladau i symud eto. Diolch, Llywydd.
Diolch. Felly, rydych chi'n cyfeirio at ddarn o waith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd, a gwn i fod y Gweinidog yn ystyried yr hyn sydd wedi dod o'r grŵp, ac yn sicr bydd hi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd hi wedi ystyried yr holl argymhellion.
Gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn ymwneud â ffyrdd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd? Yn gyntaf, gawn ni ddiweddariad ganddo ynghylch Llanbedr a beth ydy'r diweddaraf, os gwelwch yn dda? Yn anffodus, bu yna ddamwain ffordd ofnadwy yn y pentref ar fore Sul, yr wythfed o'r mis yma, ac fe ddioddefodd gŵr anafiadau difrifol. Dwi'n siŵr ein bod ni oll yn dymuno gwellhad llawn a buan iddo fo. Yn sgil hyn, caewyd y ffordd am y rhan fwyaf o'r diwrnod, gan orfodi pobl y pentref i wneud taith o 40 milltir o amgylch mynyddoedd y Rhinogydd er mwyn cyrraedd Harlech, sydd ond 3 milltir i ffwrdd. Dyna'r peryg o gael un lôn yn unig, ac yn enghraifft bellach o pam fod angen ffordd osgoi. Felly, mae angen datrysiad buan arnom, os gwelwch yn dda.
Yn ail, gawn ni ddiweddariad hefyd gan y Dirprwy Weinidog ynghylch cynlluniau i wella diogelwch ffyrdd cefn gwlad yn y gogledd? Dŷn ni wedi gweld nifer o ddamweiniau yn ddiweddar—dwy ddamwain ddifrifol, er enghraifft, ddwy wythnos yn olynol ar yr A494 ger Glan-yr-Afon ar bwys y Bala. Dywed trigolion lleol wrthyf fi eu bod nhw ofn gweld yr haul yn tywynnu gan fod hyn yn anochel yn golygu bod damweiniau am fod ar y ffordd. Flwyddyn ddiwethaf, cafwyd chwe damwain angheuol ar ffyrdd Meirionnydd yn unig, a 36 anaf difrifol hefyd. Roedd hanner y damweiniau angheuol yn yrwyr beiciau modur. Yn wir, ers 2016, mae yna 24 damwain angheuol a 162 damwain difrifol ar ffyrdd Meirionnydd. Felly, gawn ni ddiweddariad gan y Gweinidog ynghylch pa gamau mae o'n eu cymryd er mwyn sicrhau diogelwch ffyrdd yn y gogledd? Diolch.
Diolch. Byddaf i'n sicr yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a oes unrhyw wybodaeth ddiweddar y gall ei rhoi i'r Aelodau yng nghyswllt diogelwch ar y ffyrdd. Nid wyf i'n siŵr a wnaethoch chi sôn am ffyrdd gwledig neu'r gogledd.
O ran ffordd osgoi Llanbedr—ac rwy'n sicr yn ategu eich dymuniadau gorau i'r dyn a gafodd ei anafu—daeth yr adroddiad, fel y gwyddoch chi, gan gadeirydd y panel adolygu ffyrdd, i'r casgliad nad oedd y cynllun yn cyd-fynd yn dda â pholisi trafnidiaeth a hinsawdd newydd Llywodraeth Cymru. Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi ymrwymo i ddarparu cyllid ar gyfer datblygu a gweithredu pecyn arall o fesurau i ymdrin ag effaith negyddol traffig yn Llanbedr a bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau maes o law.
Gwnaethom ni glywed yn gynharach gan arweinydd Plaid Cymru am y risg o doriadau i wasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu rheoli gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau. Mae un o fy etholwyr, sy'n aros i adnewyddu ei thrwydded tymor byr, sydd, oherwydd ei chyflwr meddygol, yn gorfod cael ei hadnewyddu bob tair blynedd, ond yn wahanol i rai cyflyrau fel epilepsi a diabetes, nid yw hi'n gallu gwneud cais ar-lein; mae'n rhaid iddi aros i'r DVLA anfon ei gwahoddiad i adnewyddu. Ac ar hyn o bryd, (a) cyrhaeddodd hwnnw'n hwyr, a (b) mae ei meddyg teulu ar hyn o bryd yn dweud nad ydyn nhw'n gwneud unrhyw atgyfeiriadau DVLA o hyd, heb atgyfeiriad nid yw hi'n gallu adnewyddu ei thrwydded yrru, ac mae hyn mewn gwirionedd yn golygu ei bod hi'n gaeth yn ei chartref ei hun, yn hytrach nag yn gallu bod mewn swydd amser llawn, cael bywyd cymdeithasol llawn, gallu ymweld â phobl, gwneud ei holl siopa ei hun, ac ati. Felly, mae'n rhaid bod hyn yn effeithio ar lawer o bobl eraill oherwydd nad yw'r DVLA yn gallu ymdopi â'r gofynion sy'n ofynnol ar gyfer pobl y mae angen trwyddedau tymor byr arnyn nhw. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch sut y mae methiant y DVLA yn prosesu'r ceisiadau hyn yn effeithio ar bobl â'r anableddau hyn yn y tymor byr, oherwydd mae ei thrwydded nawr wedi dod i ben ac mae hi, fel y dywedais i, yn gaeth yn ei chartref ei hun.
Diolch, ac rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, nid yw'n fater i Lywodraeth Cymru o ran rhoi trwyddedau, mae'n fater a gedwir yn ôl, ac mae hyn yn cael ei gadw gan Lywodraeth y DU. Nid ydym ni'n gyfrifol am hynny. Fodd bynnag, yr ydych chi'n gwneud pwynt ynglŷn â'r ffaith nad yw meddyg teulu eich etholwr yn gallu ei chynorthwyo yn y ffordd sydd wir ei hangen. Byddwn i'n eich annog chi i roi gwybod iddi hi fy mod i o'r farn y dylai hi siarad â'i rheolwr practis yn y feddygfa i weld a oes modd gwneud unrhyw beth, oherwydd, i mi, mae hwn yn ymddangos yn beth syml a hawdd iawn ei wneud i'w chynorthwyo hi.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad brys gan y Gweinidog llywodraeth leol ar ôl i nifer o etholwyr yn sir Pen-y-bont ar Ogwr gysylltu â mi ynglŷn â'u pryderon am y broses benodi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr? Daw hyn ar ôl i aelod cabinet Llafur yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei gyflogi i weithio mewn swydd swyddog cyflogedig lefel uchel yn yr union adran yr oedd ef yn gyfrifol amdani. Mae ffynonellau'r cyfryngau wedi adrodd bod yr aelod cabinet Llafur yn y cyngor dros gymunedau ar yr adeg y gwnaeth gais am y swydd, wedi'i benodi'n ddiweddarach wedyn fel y rheolwr newydd ymateb i newid hinsawdd yn yr un gyfarwyddiaeth gymunedau. Mae'n codi cwestiynau sylweddol i'r cyngor eu hateb ynghylch a gafodd ei gyfweld gan swyddogion yn ei adran ei hun, a oedd ganddo'r holl gymwysterau angenrheidiol ar gyfer y swydd a phriodoldeb y broses. Rwyf i wedi ysgrifennu at arweinydd Llafur Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda'r cwestiynau hyn yn y gobaith y bydd yn egluro'r llanastr cyfan, ond ar hyn o bryd nid wyf i wedi cael ateb, ac maen nhw hefyd yn anwybyddu ceisiadau am adolygiad mewnol i'r sefyllfa hefyd. Mae'r un cyngor hefyd wedi cael ei orfodi i ymddiheuro'n ddiweddar ar ôl i'r cynllun Arbed yng Nghaerau, a aeth o'i le'n drychinebus, ddarganfod bod y contract ar gyfer y gwaith a gafodd ei gyflawni wedi'i ddyfarnu i gwmni gyda chysylltiadau ag aelod Llafur y cabinet a oedd yn eistedd bryd hynny. Mae'n amlwg i mi fod bwlch sylweddol yn neddfwriaeth Llywodraeth Cymru sydd wedi caniatáu i'r sefyllfa hon yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddatblygu, pan fo'r cyhoedd yn codi pryderon difrifol am y ffordd y mae'r cyngor yn ymdrin â buddiannau ei aelodau cabinet. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad brys i ddatrys y mater a darganfod pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i'w ddatrys?
Byddwn i'n cynghori'r Aelod i aros am ymateb i'w lythyr—at arweinydd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, rwy'n credu iddo ddweud. Ac yna ar ôl i chi gael yr ymateb, efallai ar ôl i chi ei ystyried, os ydych chi'n teimlo bod angen i chi wneud hynny, ysgrifennwch at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
Prynhawn da, Gweinidog. Rwy'n siŵr eich bod chi'n gwybod beth yr wyf am ofyn i chi, ond mae'n ymwneud â'r milgwn hynny. A gaf i ofyn am ddatganiad gennych chi eich hun yn rhinwedd eich swydd fel y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru ar y cynnydd tuag at wahardd rasio milgwn? Hoffwn i ddiolch i chi am eich addewid i fynd ar ein taith gerdded Hope Rescue yfory, ac rwy'n croesawu unrhyw Aelodau eraill o'r Senedd. Byddwn i wedi dod ag Arthur, fy milgi a achubwyd, fy hun yno, ond mae arnaf i ofn fod ganddo broblemau â'i goesau sydd wedi digwydd, yn anffodus, drwy rasys milgwn, a dyna pam y mae angen i ni wahardd y gweithgaredd creulon hwn. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fynd am dro o amgylch y Senedd yfory gydag ychydig o filgwn, ac fel chi, byddwn i'n annog pob Aelod neu gymaint o Aelodau â phosibl i ymuno. Rwy'n credu ei fod yn cael ei gynnal gan Luke Fletcher a chithau. Rwy'n ymwybodol, yn amlwg, o'r ddeiseb a oedd â nifer sylweddol o enwau wedi'u hychwanegu ati, a gwn i ei bod yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Deisebau ar hyn o bryd. Gwnes i gyfarfod hefyd, ac rwy'n credu yr oedd hynny ar sail eich awgrym chi, gyda Hope Rescue i weld beth arall y byddai modd i ni ei wneud. Fel y gwyddoch chi, fy mwriad yn bendant yw ystyried rasio milgwn yng Nghymru fel rhan o gynllun trwyddedu yn y dyfodol i ddechrau, ac mae hynny wedi'i nodi yn ein cynllun lles anifeiliaid i Gymru. Fel y gwyddoch chi, mae'n gynllun pum mlynedd, felly ni allaf i roi dyddiad penodol o ran pryd y byddwn ni'n gwneud hynny, ond rwyf i wedi ymrwymo'n llwyr i wneud popeth o fewn ein gallu ni i gefnogi milgwn fel eich Arthur chi.
Gweinidog, rwyf i'n gofyn am ddatganiad busnes heddiw ynghylch Bil Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU, oherwydd iddo gael ei godi yn y Senedd, yn y Siambr, yr wythnos diwethaf. Ym mis Chwefror eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddau ychwanegiad i'r Bil Diogelwch Ar-lein a oedd yn anymarferol ac yn cymryd cam yn ôl. Mae llawer o grwpiau ymgyrchu hawliau dynol a hawliau digidol wedi dweud bod y Bil, gyda phob cyhoeddiad newydd, yn dangos ei fod yn gwneud y byd ar-lein yn llai diogel i'r bobl y mae'n honni ei fod yn eu hamddiffyn, yn enwedig pobl LHDTC+, goroeswyr camdriniaeth a lleiafrifoedd ethnig.
Yn gyntaf, drwy fod yn fwy llawdrwm ynghylch anhysbysrwydd
'Mae'r llywodraeth yn honni ei fod yn "dybiedig" bod camdriniaeth yn gysylltiedig ag anhysbysrwydd ond yn ymarferol, mae'r rhan fwyaf o gamdriniaeth ar-lein yn cael ei wneud gan bobl adnabyddadwy iawn', ond i ddioddefwyr camdriniaeth a rhagfarn, mae anhysbysrwydd yn angenrheidiol a'r unig ffordd y gallan nhw gael mynediad i'r byd ar-lein gan aros yn ddiogel. Yn ail, wrth honni ei bod yn ymdrin â chynnwys 'cyfreithiol ond niweidiol', mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd defnyddwyr sy'n oedolion yn gallu optio allan o hyn. Fodd bynnag, mae gwallau mewn hidlyddion ac algorithmau cymedroli cynnwys yn dueddol o wahaniaethu yn erbyn y bobl y mae'r cynigion hyn wedi'u cynllunio i'w diogelu. Mae'n hysbys bod cynnwys LHDTC+ yn cael ei nodi a'u rhwystro, fel mater o drefn gan beiriannau fel rhywbeth a allai fod yn rhywiol eu natur
Felly, fy nghwestiwn i yw: a gaf i ofyn felly am ddatganiad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y Bil Diogelwch Ar-lein a'r hyn y mae Gweinidogion yn ei wneud i sicrhau bod diogelwch ar y rhyngrwyd yn cael ei gyflawni drwy fwy o hawliau i ddinasyddion yn hytrach na datgymalu rhyddid barn yr ydym ni'n ei weld yn y Bil hwn?
Diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, rydym ni'n ymwybodol iawn o Fesur Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU sydd wedi'i gyflwyno i'r Senedd San Steffan. Mae offer a thechnolegau digidol yn rhan o fywyd bob dydd i ni ac mae'n faes pwysig iawn yr ydych chi wedi'i godi. Rwy'n gwybod bod y Prif Chwip a'r Dirprwy Weinidog diwylliant a chwaraeon wedi bod yn cysylltu â Llywodraeth y DU, ac yn sicr mae ei swyddogion yn ymgysylltu'n rheolaidd iawn ynghylch y Bil drafft. Maen nhw hefyd wedi bod yn trafod gydag Ofcom Cymru sut y byddan nhw'n defnyddio eu swyddogaeth ehangach fel rheoleiddiwr o ran hyn. Mae'n Fil cymhleth iawn. Mae'n mynd drwy'r Senedd yn unol ag arfer cyffredin, felly mae'n debygol y bydd nifer o welliannau, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, a byddwn ni'n amlwg yn parhau fel Llywodraeth i fonitro'r Bil wrth iddo fynd ar ei hynt.
Mae cydbwysedd sensitif iawn rhwng rhyddid barn a sicrhau diogelwch pobl ar-lein a bydd y ddeddfwriaeth yn berthnasol i wasanaethau rhyngrwyd sy'n cynnal cynnwys sydd wedi'i gynhyrchu gan ddefnyddwyr fel delweddau, fideos a sylwadau neu sy'n caniatáu i ddefnyddwyr gyfathrebu ag eraill ar-lein, ac ni fydd y ddeddfwriaeth yn berthnasol i wasanaethau e-bost, negeseuon testun, gwasanaethau negeseuon amlgyfrwng na gwasanaethau galwadau llais byw un i un. Mae diogelwch ar-lein yn fater a gedwir yn ôl, ond bydd y Bil hwn yn cael effaith ar Gymru ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cadw llygad barcud arno.
Trefnydd, hoffwn i alw am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol am y gefnogaeth i ofalwyr di-dâl yng Nghymru, y gallech chi fod wedi'i gweld fel pennawd ar newyddion BBC Cymru heddiw. Mae adroddiad diweddar gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn tynnu sylw at yr heriau sy'n wynebu'r 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, ac mae'n werth cofio'r ffigur hwnnw—370,000. Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn argymell bod gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud mwy i gydnabod a nodi gofalwyr di-dâl fel y gallan nhw gael y cyfle i fanteisio ar wasanaethau cymorth pwrpasol.
Maen nhw hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod bron i hanner o ofalwyr pobl sy'n byw gyda dementia wedi dweud bod eu hiechyd eu hunain wedi dioddef yn ystod y pandemig. Mae pryder y gall peidio cydnabod gofalwyr pobl sy'n byw gyda dementia, yn ogystal â pheidio cael adolygiadau o'u hanghenion yn ffurfiol a rheolaidd gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, arwain at sefyllfa pan fyddan nhw ar eu colled o ran cymorth y mae mawr ei angen arnyn nhw cyn iddyn nhw wynebu argyfwng. Felly, Trefnydd, a gawn ni ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol am y camau y mae hi'n eu cymryd i nodi'r gofalwyr cudd hyn a pha gamau eraill y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi byddin Cymru o ofalwyr di-dâl sy'n arbed tua £8 biliwn i'r GIG bob blwyddyn?
Wel, rydym ni'n amlwg yn ymwybodol iawn o'r rhan bwysig iawn y mae gofalwyr yn ei chwarae ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n eu gwerthfawrogi a bod nhw yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Byddwch chi'n ymwybodol, er mwyn cydnabod effaith ariannol pandemig COVID-19, er enghraifft, a'r argyfwng costau byw ar ofalwyr di-dâl, fod Llywodraeth Cymru yn dyfarnu taliad untro o £500 i fwy na 57,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru sy'n derbyn lwfans gofalwyr. Mae'r taliad hwnnw'n targedu unigolion sy'n gwneud gwaith gofalu am o leiaf 35 awr yr wythnos ac sydd ag incwm isel, a gall unrhyw un sy'n cael lwfans gofalwr hyd at 31 Mawrth eleni gofrestru gyda'u hawdurdod lleol a hawlio'r taliad.
Diolch i'r Trefnydd.