3. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol: Cyflawni’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gerddoriaeth

– Senedd Cymru am 2:29 pm ar 17 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:29, 17 Mai 2022

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol, cyflawni'r cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg gerddoriaeth. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Jeremy Miles.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:30, 17 Mai 2022

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe ddylai’r llawenydd sy’n dod o gerddoriaeth o bob math fod yn elfen ganolog ym mhob ysgol a lleoliad addysgol. Ond ers yn rhy hir, rŷn ni’n gwybod mai dim ond y rheini sy’n gallu fforddio’r gwersi sy’n cael dysgu chwarae offeryn cerdd, a dyw hynny ddim yn dderbyniol. Ni ddylai’r un plentyn fod ar ei golled o achos diffyg arian. Fe ddylai pob plentyn, beth bynnag ei gefndir ac incwm ei deulu, gael manteisio ar addysg gerddoriaeth.

Mae’n bleser imi, felly, gael lansio ein cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer addysg gerddorol. Mae’r cynllun yn nodi bod gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol i gael ei sefydlu, sef un o brif ymrwymiadau’r rhaglen lywodraethu. Bydd £13.5 miliwn yn cael ei roi i awdurdodau lleol a’u gwasanaethau cerdd dros y tair blynedd nesaf i sicrhau dyfodol cynaliadwy i addysg gerddoriaeth yng Nghymru. Mae’r cynllun yn nodi sut y bydd pob plentyn a pherson ifanc, o dair i 16 oed, yn cael y cyfle i ddysgu chwarae offeryn. Mae’n gwneud yn siŵr bod ein plant a’n pobl ifanc o bob cefndir yn cael gwneud y mwyaf o’n diwylliant cyfoethog, ein treftadaeth ni, a’n cymunedau ni, ledled Cymru a thu hwnt.

Mae ein seiliau ni ar gyfer y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol wedi dechrau cael eu gosod yn barod. Y llynedd, fe gafodd swm sylweddol ei wario—£6.82 miliwn—ar brynu offerynnau cerdd ac offerynnau cerdd wedi eu haddasu er mwyn cefnogi ein plant a’n pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Fel rhan o’r pecyn cymorth hwn, fe gafodd trwyddedau cerddoriaeth digidol eu trefnu ar gyfer gwasanaethau cerdd awdurdodau lleol, a sesiynau dysgu proffesiynol i hyfforddi ein hymarferwyr cerdd ac i sicrhau bod yr addysgu a’r profiadau sy’n cael eu darparu yn gydnaws â Chwricwlwm Cymru.

Dros y misoedd diwethaf, rŷn ni wedi gweithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid ar draws byd cerdd ac addysg, ysgolion a lleoliadau, a’r diwydiant creadigol. Rŷn ni wedi gwrando arnyn nhw ynghylch beth y gallwn ni ei wneud i helpu ein plant a’n pobl ifanc i ddysgu am y llawenydd sydd yna mewn cerddoriaeth ac i roi profiad iddyn nhw o’r llawenydd hwnnw. Mae eu brwdfrydedd nhw ynghylch yr hyn y gallwn ni ei wneud i helpu dysgwyr a’u lles, a’r trafodaethau buddiol a gonest am yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu wrth ddod dros y pandemig, wedi ein helpu ni i fod yn glir ynghylch beth ddylai fod yn greiddiol i wasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol.

Gyda cherddoriaeth yn un o ddisgyblaethau maes celfyddydau mynegiannol y cwricwlwm a datganiadau o'r hyn sy’n bwysig y mae'n rhaid i’n hysgolion a’n lleoliadau eu dilyn yn y maes hwn i ddatblygu sgiliau, profiad a gwybodaeth ein dysgwyr, bydd y cysylltiad agos ag ysgolion a lleoliadau a fydd yn cyflawni amcanion y maes hwn yn cryfhau’r gwasanaeth. Bydd ei gysylltiad agos ag ysgolion a lleoliadau yn gwneud hyn wrth gyflawni maes celfyddydau mynegiannol y cwricwlwm, gyda cherddoriaeth yn un o ddisgyblaethau’r maes hwn. Er mwyn i’n holl blant a phobl ifanc allu cael gwersi a phrofiadau cerdd o fewn ysgolion a’r tu allan iddyn nhw, bydd y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yn meithrin cysylltiadau cryfach â sefydliadau ac yn gweithio mewn partneriaeth â’n cymuned gerdd ehangach. Dirprwy Lywydd, drwy weithio gyda’n gilydd, fe wnawn ni’n siŵr bod yna amrywiol gyfleoedd i’n dysgwyr gael creu cerddoriaeth a’i mwynhau ar hyd eu bywyd ym mhob cwr o Gymru, ble bynnag y mae eu hysgol neu eu lleoliad.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:32, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Bydd y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yn cynnwys partneriaid a sefydliadau allweddol sy'n cydweithio fel hyb, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn gorff arweiniol, yn gyfrifol am gydlynu gweithgareddau'r gwasanaeth a'i raglenni gwaith. Byddan nhw'n sicrhau bod y rhaglenni gwaith yn amrywiol ac yn hygyrch i bob plentyn a pherson ifanc, ac yn dyrannu cyllid i awdurdodau lleol i ddarparu'r adnoddau a'r staff angenrheidiol i gyflawni'r gwaith.

Mae'r cynllun yn nodi ein rhaglenni gwaith ar gyfer y gwasanaeth, a fydd yn sicrhau bod mynediad i addysg gerddoriaeth yn decach ac yn fwy cyson ledled Cymru. Bydd prif ganolbwynt ein rhaglenni gwaith, o fis Medi ymlaen, yn helpu'n plant a'n pobl ifanc mewn ysgolion a lleoliadau, gyda chymorth i'n dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig, aelwydydd incwm isel a'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i allu manteisio ar hyfforddiant cerddoriaeth a symud ymlaen ag ef. Bydd plant a phobl ifanc o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a chefndiroedd difreintiedig hefyd yn cael eu cefnogi i ymuno ag ensembles cerddoriaeth fel rhan o'r cynlluniau.

Er enghraifft, bydd ein rhaglen Profiadau Cyntaf yn rhoi o leiaf hanner tymor o sesiynau blasu offerynnau cerdd i blant mewn ysgolion a lleoliadau cynradd, wedi'u cyflwyno gan ymarferwyr cerddoriaeth hyfforddedig a medrus, i gymryd rhan a mwynhau creu cerddoriaeth. Bydd ein hysgolion a'n lleoliadau uwchradd yn cael cyllid ar gyfer profiadau a fydd yn cefnogi iechyd a llesiant pobl ifanc a'u dilyniant i TGAU cerddoriaeth, gan roi cyfleoedd iddyn nhw ddatblygu wrth chwarae offeryn neu ganu, ac felly meithrin eu doniau a'u huchelgeisiau. Bydd menter Creu Cerddoriaeth gydag Eraill hefyd, sy'n cynnwys rhaglen adfer ensemble i gefnogi'r adferiad o bandemig COVID yn y maes hwn, a chyfleoedd i'n pobl ifanc ennill profiad o'r diwydiant drwy weithio ochr yn ochr â cherddorion a diwydiannau creadigol. Bydd llyfrgell offer a chyfarpar cenedlaethol newydd hefyd yn cael ei chreu i gynorthwyo awdurdodau lleol i sefydlu banc adnoddau o offerynnau a chyfarpar i'w rhannu ledled Cymru.

Mae'r gallu i asesu pa mor dda y mae'r rhaglenni hyn yn gwneud yn hanfodol i lwyddiant y gwasanaeth. Bydd CLlLC yn datblygu strategaeth werthuso, gan edrych ar y manteision i'n plant a'n pobl ifanc ac, yn bwysicach, ei llwyddiant. Bydd ganddyn nhw'r hyblygrwydd i ddatblygu rhaglenni gwaith newydd os nad yw rhaglen yn mynd yn dda, ac addasu yn unol â hynny. Bydd CLlLC hefyd yn ystyried yr heriau sy'n wynebu'r gweithlu addysg cerddoriaeth ledled Cymru. Er mwyn sicrhau bod ein tiwtoriaid cerddoriaeth sy'n cael eu cynnal gan awdurdodau lleol yn cael eu trin yn deg a bod eu cyfraniad i addysg gerddoriaeth yn cael ei gydnabod yn briodol, bydd CLlLC yn cynnal adolygiad o'r telerau ac amodau, a fydd yn dechrau yn hydref 2023 ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn haf 2024.

Dirprwy Lywydd, gwn i pa mor bwysig oedd hi i mi, pan oeddwn i yn yr ysgol, i gael y cyfle i ddysgu'r bariton, yn fy achos i, ac i allu chwarae mewn ensembles pres. Nid wyf i ar fy mhen fy hun yn hyn o beth. Mae cerddoriaeth, rwy'n gwybod, yn rhywbeth sy'n agos at galonnau llawer ohonom ni yma heddiw. Hoffwn i gydnabod gwaith caled llawer o Aelodau'r Senedd sydd wedi ymgyrchu yn y maes hwn dros y blynyddoedd diwethaf, neb yn fwy na Rhianon Passmore, y mae ei hangerdd yn y maes hwn yn amlwg i bawb ei weld. Hoffwn i hefyd gydnabod gwaith y pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, y mae ei ymchwiliad a'i argymhellion yn y Senedd ddiwethaf wedi chwarae rhan bwysig yn y cyhoeddiad heddiw.

Dirprwy Lywydd, mae'r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol a'r cynllun cenedlaethol yn gam beiddgar ymlaen o ran cefnogi addysg cerddoriaeth yng Nghymru. Nerth gwlad, ei gwybodaeth—cryfder cenedl yw ei gwybodaeth. Mae ein Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol newydd yn cyflawni ein maniffesto, ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu, ac mae'n hanfodol er mwyn gwneud y gwahaniaeth hwnnw i'n plant a'n pobl ifanc feithrin eu sgiliau cerddorol mewn ysgolion a'n cymunedau ac er eu llesiant, fel ein bod ni'n parhau i gynhyrchu talent newydd o'n gwlad y gân ar gyfer y genhedlaeth nesaf i ddod. 

Photo of David Rees David Rees Labour 2:37, 17 Mai 2022

Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 2:38, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Rydym ni'n croesawu'r datganiad hwn, gan ein bod ni'n teimlo ei bod yn hen bryd cael mewnbwn ariannol gan y Llywodraeth i gerddoriaeth ar gyfer pobl ifanc. Hoffwn i ddiolch hefyd i Rhianon Passmore am y gwaith y mae wedi'i wneud yn y Senedd ddiwethaf. Ond yr ydym ni hefyd—. Mae gennym ni rai pryderon ymarferol o hyd am eich cyhoeddiad heddiw, Gweinidog. 

Mae loteri cod post wedi bodoli erioed o ran cyfle i fanteisio ar gyfleusterau cerddoriaeth a chyfleoedd dysgu cerddoriaeth ar draws ffiniau ein cynghorau. Rhaid i'r anghydraddoldeb cyfle hwn ddod i ben, ond ai eich cynnig chi yw'r ffordd iawn o fynd ati, ynteu ymateb annigonol arall yw hwn gan y Llywodraeth hon, gan fod gwir angen i hwn fod yn gynllun cynaliadwy, hirdymor? Ar hyn o bryd, mae'r ddarpariaeth gerddoriaeth yn wahanol iawn rhwng pob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, ac mae'r loteri cod post ar hyn o bryd yn wirioneddol real.

Dros gyfnod rhy hir, mae'r baich wedi ei roi ar gynghorau sy'n brin o arian i geisio achub y gwasanaethau hyn ar eu pen eu hunain, ac unigolion—enghraifft o hyn oedd y diweddar Peter Clarke, cyn gynghorydd Cyngor Sir Mynwy, a oedd yn eiriolwr enfawr dros Gerdd Gwent, a helpodd i sicrhau'r cyfle cerddorol hwnnw i raddau yng Ngwent. Ond tan nawr, mae hi wir wedi cymryd unigolion yn ymgyrchu ledled ein cynghorau yng Nghymru i achub y cyfleoedd cerddorol hyn i'n plant, nad yw'n iawn, yn amlwg.

Mae'n amlwg bod angen adfywio addysg gerddoriaeth yng Nghymru, ac mae gan y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol hwn y potensial i fod yn gatalydd ar gyfer hynny, mae hygyrchedd, wrth gwrs, yn ffactor allweddol er mwyn sicrhau llwyddiant—i offerynnau a gwersi. Felly, rwy'n gobeithio y bydd costau trafnidiaeth i'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn cael eu hystyried er mwyn sicrhau cyfle cyfartal a chyfle i fanteisio ar y gwasanaethau a'r offerynnau hynny—neu a fydd costau cyflenwi ar gyfer yr offerynnau? Rwy'n meddwl am y pryderon ymarferol hynny sydd gennym ni. Gallai'r cyfle i ddefnyddio offeryn am ddim fod yn brofiad amhrisiadwy i bobl ifanc ledled Cymru, a'u gosod ar y llwybr cerddorol hwnnw, ond mae cwestiynau mawr yn parhau ynghylch sut y byddai hyn yn gweithio'n ymarferol.

Yn amlwg, rydym ni'n croesawu'r chwe mis o wersi i blant, ond a allech chi egluro o ble y maen nhw'n dod? Ydy'r cerddorion yn dod o gyrff fel Cerdd Gwent? Roeddwn i eisiau cael rhywfaint o eglurder ynglŷn â hynny i mi fy hun. Os bydd plant neu bobl ifanc, ar ôl chwe mis, eisiau parhau â'r gwersi hynny, sut y byddan nhw'n cael cymorth ariannol i wneud hynny, fel nad ydyn nhw dim ond yn cael y chwe mis cryno hynny os byddan nhw eisiau mynd ag ef ymhellach? A fydd ganddyn nhw dalebau? A fydd ganddyn nhw wasanaethau am bris gostyngedig? Oherwydd, yn amlwg, ar ôl y chwe mis hynny, bydd yr un pryderon ariannol yn parhau i lawer o'n teuluoedd.

Hefyd, wedi fy ysgogi wrth siarad am hyn â fy mhlentyn fy hun y bore yma, o ran yn yr ysgol, pryd y byddan nhw'n cael eu cyflwyno? A fyddan nhw'n cael eu cyflwyno amser cinio, yn ystod amser egwyl, neu fel rhan o'r cwricwlwm newydd? Oherwydd rwy'n ymwybodol iawn o lawer o blant a fyddai'n colli diddordeb pe baen nhw'n gorfod eu cael yn ystod eu hamseroedd egwyl, y maen nhw'n eu gwerthfawrogi, yn amlwg, yn fawr ar gyfer eu hymarfer awyr agored a'u hawyr iach.

Felly, dyna'r peth olaf yr ydym ni eisiau'i weld yn digwydd. Ond os yw'n rhan o'r cwricwlwm, sut y bydd hynny'n cyd-fynd â'r diwrnod ysgol, oherwydd mae hwn ar gyfer tair i 16 oed? Rwy'n pryderu'n benodol, mewn ysgolion uwchradd, sut y byddai hynny'n cyd-fynd â'r diwrnod ysgol. Ac yn olaf, Dirprwy Lywydd, Gweinidog, mae eich Llywodraeth chi wedi dweud y bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i blant o deuluoedd incwm isel a'r rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ond tybed sut y byddwch chi'n nodi'r plant hynny nawr, yn amlwg, gan y bydd prydau ysgol am ddim ar gael i bawb.

Felly, roeddwn i eisiau gofyn a wnewch chi ateb y pryderon ymarferol hynny sydd gennym ni heddiw, ac rwy'n edrych ymlaen at eich atebion, oherwydd yr ydym ni i gyd eisiau i'r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol hwn lwyddo. Diolch.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:41, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i Laura Anne Jones am y cwestiynau adeiladol y mae wedi'u codi heddiw ac am y gefnogaeth y mae wedi'i rhoi i'r cynigion yr wyf i wedi'u cyhoeddi yn fy natganiad. Gofynnodd ai'r cynigion oedd y ffordd iawn o fynd ati i sicrhau cysondeb yn y ddarpariaeth ledled Cymru, a gallaf i gadarnhau wrthi mai'r cynigion yw'r ffordd iawn. Mae'r model yr ydym ni wedi'i fabwysiadu i ddarparu'r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yn fodel sy'n seiliedig ar hybiau, felly CLlLC fydd y corff cenedlaethol ledled Cymru, ond yn gweithio ar y cyd gyda'r gwasanaethau cerddoriaeth ym mhob rhan o Gymru, ac asiantaethau eraill hefyd, i ddarparu'r gwasanaeth, ac rwy'n credu bod dau amcan, mewn gwirionedd. Un yw sicrhau, fel y dywedodd hi yn ei chwestiwn, fod mwy o gysondeb ym mhob rhan o Gymru o ran y cynnig sydd ar gael a hefyd, drwy gydweithio, i gynyddu'r amrywiaeth o ddewisiadau sydd ar gael i ddisgyblion mewn ysgolion yng Nghymru. Roedd y Prif Weinidog a minnau yn ysgol San Joseff yn Abertawe ddoe, ac roeddem ni'n gallu profi amrywiaeth o offerynnau, yr oedd y disgyblion yn cael amser gwych yn eu chwarae. A'n huchelgais ni yw gweld hynny'n digwydd ym mhob rhan o Gymru.

Mae'r pwynt arall y gwnaeth hi yn ei chwestiwn yn ymwneud ag amrywioldeb profiad y gweithlu addysgu mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae elfen o'r cynllun, sef cynnal adolygiad o delerau ac amodau tiwtoriaid cerddoriaeth a gynhelir gan awdurdodau lleol er mwyn sicrhau mwy o gysondeb ledled Cymru, hefyd yn agwedd bwysig yn y darlun hwnnw.

O ran y pwynt y gwnaeth hi am hygyrchedd ac offerynnau, bydd hi'n cofio'r cyhoeddiad y gwnaethom ni ddiwedd y llynedd ynghylch bron i £7 miliwn o fuddsoddiad i brynu offerynnau, a'r hyn y byddwn ni'n ei ddatblygu fel rhan o'r cynllun hwn yw llyfrgell o offerynnau i Gymru gyfan fel ein bod ni'n gwybod beth sydd ar gael i gefnogi uchelgeisiau ein pobl ifanc, a lle y maen nhw, ond hefyd, yn bwysig, i ddarparu cyfle i fanteisio ar brofiad ensemble, sy'n bwysig y tu allan i fyd yr ysgol hefyd.

O ran y cwestiwn dilyniant a gafodd ei godi ganddi, bydd o leiaf hanner tymor o sesiynau blasu cerddoriaeth am ddim yn y cyfnod cynradd, fel y gall pobl ifanc archwilio eu chwaeth a'u dewisiadau, os mynnwch chi, o ran offerynnau. Ond mae'n ganolbwynt pwysig i'r cynllun hwn sicrhau bod hyfforddiant cerddoriaeth yn parhau i fod ar gael drwy gydol taith plentyn a pherson ifanc drwy'r ysgol. Felly, er enghraifft, byddwn ni hefyd yn ystyried cytuno ar uchafswm tâl am hyfforddiant cerddoriaeth ledled y system. A hefyd, os oes unrhyw un yn ymgymryd â hyfforddiant cerddoriaeth fel rhan o'u TGAU neu, mewn gwirionedd, Safon Uwch, bydd hynny am ddim hefyd. Ac i'r dysgwyr hynny na fydden nhw fel arall yn gallu fforddio hyfforddiant neu offeryn oherwydd amgylchiadau eu teulu, bydd y rheini'n cael eu blaenoriaethu ar gyfer cymorth fel rhan o'r cynllun.

Mae'r pwynt y mae'n ei wneud ynghylch cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim fel maen prawf sy'n berthnasol yma mewn gwirionedd yn gwestiwn cyffredin ledled nifer o feysydd polisi'r Llywodraeth. Wrth gwrs, bydd cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim yn dal i fod yn faen prawf perthnasol ar gyfer ysgolion uwchradd, ac rydym ni'n gweithio ar gyfres o fetrigau a fydd yn berthnasol i'r amrywiaeth o gymhwysedd yr ydym ni'n gyfrifol amdano.

Yn olaf, o ran y pwynt ynglŷn â'r cwricwlwm, yn y bôn swyddogaeth y gwasanaethau cerddoriaeth o ran y cwricwlwm fel rhan o'r cynllun hwn yw cefnogi athrawon i gyflwyno'r cwricwlwm. Yn amlwg, mae cynllun y cwricwlwm yn parhau yn nwylo'r athrawon eu hunain, ond bydd y tiwtoriaid o dan y cynllun, o dan y gwasanaeth, yn gallu cefnogi a chyfeirio a chynghori ynghylch yr amrywiaeth o brofiadau sydd ar gael i bobl ifanc fel rhan o'u gwasanaeth. Felly, byddan nhw'n gweithio law yn llaw ag athrawon dosbarth, a bydd amrywiaeth o adnoddau dysgu proffesiynol a fydd yn cael eu darparu er mwyn cefnogi'r gwaith hwnnw y bydd CLlLC, y consortia ac awdurdodau lleol yn cyfrannu iddo er mwyn sicrhau ei fod yn gyson ag anghenion y cwricwlwm. 

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn groesawu'n fawr y cyhoeddiad heddiw a nodi'n benodol pa mor falch oeddwn i o glywed un gair yn benodol yn cael ei ailadrodd gan y Gweinidog, sef 'llawenydd'. Mae'r pwyslais, felly, ar bwysigrwydd cerddoriaeth o ran iechyd a lles pawb ohonom yn rhywbeth y dylem ni i gyd ei groesawu, ac yn arbennig, felly, yng nghyd-destun argyfwng costau byw dybryd a hefyd argyfwng tlodi plant, dwi'n croesawu'n benodol pa mor bwysig yw'r pwyslais ar fynediad cydradd i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru i addysg gerddoriaeth, ynghyd â'r pwyslais ar fynediad cydradd i blant a phobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol. Yr unig beth roeddwn i'n gresynu o ran eich datganiad chi, o glywed am eich llais bariton hyfryd, ac mae'n biti, oedd eich bod chi heb ganu rhan o'r datganiad, ond, yn sicr, mae'r ffaith bod y pwyslais ar lawenydd yng nghyd-destun mor llwyd i gynifer o deuluoedd yn cael ei groesawu'n fawr.

Oherwydd y gwir amdani ydy bod yna argyfwng o ran cerddoriaeth mewn ysgolion. Mae Estyn wedi canfod mai cerddoriaeth oedd un o'r pynciau a effeithiwyd fwyaf gan y pandemig, ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod yr argyfwng wedi bodoli cyn hynny. Ers 2014, mae nifer y disgyblion sy'n cymryd TGAU mewn cerddoriaeth wedi disgyn bron 20 y cant, ac, o ran lefel A, bron 40 y cant, gan greu risg o ran dyfodol y sector cerddoriaeth yng Nghymru. Ymhellach, dengys ymchwil fod 50 y cant o ddisgyblion mewn ysgolion preifat yn derbyn gwersi cerddoriaeth cyson o gymharu â 15 y cant o ddisgyblion mewn ysgolion gwladol. Mae hynna wedyn yn cael ei adlewyrchu o ran y niferoedd sydd yn mynd ymlaen i gael gyrfa lwyddiannus yn y byd cerddoriaeth. Mae'r buddsoddiad yma, felly, i'w groesawu'n fawr o ran gwneud iawn am ddegawdau o dan-gyllido gwasanaeth a oedd yn cael ei weld tan heddiw fel rhywbeth neis i'w gynnig yn hytrach na rhywbeth hanfodol o ran datblygiad pob plentyn a pherson ifanc. 

Hoffwn holi rhai pethau ymarferol, felly, i'r Gweinidog, o ran pethau fel rôl Estyn i'w chwarae, o ran sicrhau bod pob ysgol yn manteisio'n llawn ar hyn trwy gymryd i ystyriaeth ddarpariaeth cerddoriaeth ysgolion fel rhan o'i adolygiadau. Dwi'n cymryd, oherwydd y cysylltiad gyda'r cwricwlwm newydd, y bydd hynny, ac mi fyddai'n dda cael cadarnhad. Hefyd, dwi'n croesawu bod yna sôn o ran gwerthuso ac ati, ond mae hi'n allweddol bwysig ein bod ni'n deall effaith hyn, oherwydd, os nad oes mynediad wedi bod am gyn gymaint o amser, mae'n mynd i gymryd amser i ddisgyblion fod eisiau, ac mae'n rhaid i ni gydnabod hefyd y bydd yna fwlch o ran rhai disgyblion, ac ati. 

Dwi hefyd yn croesawu eich bod chi'n rhoi pwyslais ar yr ystod o offerynnau, oherwydd dydy pob offeryn ddim yn siwtio pawb. Dwi'n meddwl bod hynny'n beth pwysig. Rydyn ni'n gweld yn aml, hyd yn oed pan fydd yna ddarpariaeth gerddoriaeth mewn ysgolion rŵan, efallai fod un offeryn penodol, ac os nad ydych chi'n caru'r offeryn hwnnw, yna dydych chi ddim yn mynd i garu cerddoriaeth. Mae'r ystod yna yn eithriadol o bwysig, hefyd. 

Gaf i hefyd holi, o ran y cynllun, a oes yna fwriad o ran sicrhau mynediad cydradd i bawb o ran y gofodau i ymarfer? Oherwydd un o'r heriau hefyd, wrth gwrs, ydy cael y gofod adre. Os ydych chi'n byw mewn fflat neu rywle efo waliau tenau, ac ati, mae cael rhywun yn cwyno—. Oherwydd rydyn ni i gyd yn gwybod, pan fyddwch chi'n dechrau dysgu offeryn, dydy e ddim, efallai, y sŵn mwyaf pleserus yn y byd, ond mae'n bwysig iawn ichi allu gwneud y camgymeriadau hynny rhag chwaith gael eich herio i beidio ymarfer. Felly, oes yna fwriad o ran y gofodau ymarfer, ac ydy hynna'n rhan o ymestyn y diwrnod ysgol ac ati, a'r cyfle efo cerddoriaeth? Ydy hynna'n rhan o'r bwriad hefyd?

Fel chi, Weinidog, roeddwn i'n rhywun yn bersonol a wnaeth fanteisio ar wasanaeth gwersi cerddoriaeth yn yr ysgol, gan gael cyfle i gael gwersi sielo, clarinét a thelyn drwy'r ysgol, a benthyg offerynnau am y cyfnod hwnnw, oherwydd mae offerynnau yn gallu bod yn ddrud ofnadwy hefyd. Dwi'n cofio gallu benthyg telyn am £30 am flwyddyn, oedd yn golygu eich bod yn gallu cael y cyfle. A dwi'n meddwl bod y rhan yna i'w groesawu'n fawr yn y cynllun hefyd.

Mi oedd pwyntiau Laura Anne Jones yn deg iawn o ran yr hirdymor, felly. Mae hwn yn dair blynedd, a byddwn i'n croesawu'n fawr meddwl sut ydyn ni'n sicrhau wedyn barhad buddsoddiad o'r fath, oherwydd mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol a chyffrous, yn fy marn i. Dwi'n meddwl mai un o'r heriau fydd gweld wedyn sut ydyn ni'n gallu cynnal y gwasanaeth a'r cyfleoedd, a hefyd o ran pethau fel bod mewn cerddorfeydd. Yn aml, mae yna dripiau yn yr haf yn gysylltiedig â hynny, sydd yn gallu bod yn gostus iawn. Dwi'n meddwl y bydd yna lot o bethau y byddwn ni'n dysgu wrth i hyn fynd rhagddo, sydd yn rhywbeth i ni ei groesawu a gwerthuso.

Hoffwn innau dalu teyrnged i Rhianon Passmore a gwaith y pwyllgor diwylliant, ac mae'n rhaid i fi, wrth gwrs, sôn am Bethan Sayed yn benodol. Dwi'n gweld o 'trydar' heddiw ei bod hi'n croesawu hyn yn fawr, a phe bai hi yma heddiw, buasai hithau ar ei thraed yn ei groesawu. Felly, dwi'n edrych ymlaen at weld sut bydd hyn yn mynd, ond mae'n bwysig ein bod ni'n cadw golwg a gwerthuso a hefyd sicrhau parhad fel bod y mynediad cydradd yna'n parhau. Diolch.  

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:51, 17 Mai 2022

Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny. Mae hi'n iawn i ddweud bod y sefyllfa wedi bod, ers cyfnod, yn rhywbeth roedden ni eisiau mynd i'r afael ag e. Rwy'n cofio, pan oeddwn i yn yr ysgol, cael manteisio ar wersi cerddoriaeth am ddim ac, fel yr Aelod, yn gallu benthyg offeryn pres, heb orfod prynu un ein hunain fel teulu. Mae'r tirwedd wedi newid yn sylweddol, yn anffodus, ers hynny wrth gwrs. Ac mae'r pwyllgorau, yn cynnwys pwyllgor Bethan, fel y gwnaeth yr Aelod sôn, wedi gwneud gwaith yn y Senedd ddiwethaf i'n helpu ni i siapo hyn. Mae wedi bod yn werthfawr iawn. Hoffwn i hefyd sôn am y gwaith a wnaeth fy rhagflaenydd i, Kirsty Williams, o ran buddsoddi mewn offerynnau a hefyd sefydlu Anthem, sydd wedi bod yn gyfraniad i'r tirwedd pwysig hwn. 

O ran y gwaith y byddwn ni'n gwneud gyda chyrff eraill, tu hwnt i ffiniau'r gwasanaeth, bydd rôl gan awdurdodau lleol, gan Estyn, gan y consortia i helpu siapo sut y mae gwaith y gwasanaeth yn cyffwrdd ag anghenion y cwricwlwm ac ati. O ran creu adnoddau, byddwn ni'n gweithio gydag Estyn ar y rheini er mwyn creu adnoddau hyfforddiant proffesiynol, er enghraifft, i'r tiwtoriaid allu darganfod y ffyrdd gorau o sicrhau bod hynny'n digwydd. Mae'r elfen o werthuso, rwy'n credu, yn bwysig iawn yn hyn o beth, oherwydd mae'n fuddsoddiad sylweddol, ac mae'r strwythur sydd gyda ni yn un sy'n tyfu o'r llawr i fyny, yn hytrach nag o'r top i lawr. Felly, mae hynny'n gyffrous. Mae'n caniatáu arbrofi, mae'n caniatáu approaches lleol, a byddwn ni'n dysgu o'r rheini beth sydd yn gweithio orau ac, efallai, beth sydd ddim mor llwyddiannus. Mae hynny'n anorfod, buaswn i'n dweud. Felly, mae'r broses yma o werthuso wrth i ni fynd yn bwysig, rwy'n credu, fel ein bod ni'n gallu gwneud newidiadau er mwyn ymateb i'r arfer orau fydd yn cael ei dangos. Ac rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i ddweud bod yn rhaid gwneud hynny mewn cyd-destun o edrych ar beth sydd wedi digwydd dros y ddwy flynedd diwethaf hefyd. Mae hynny wedi cael impact. 

Mae'r pwynt o ran gofodau ymarfer yn bwysig. Rwy'n credu bod hyn yn rhan o'r agenda ehangach sydd gyda ni fel Llywodraeth o ran ysgolion sydd â ffocws cymunedol ac sy'n agored tu hwnt i oriau cyfyng y diwrnod ysgol i ganiatáu i'w hadnoddau gael eu defnyddio yn y ffyrdd y mae hi'n sôn amdanyn nhw yn ei chwestiwn. 

Jest yn bwynt olaf, mae'r ymrwymiad yma yn ymrwymiad tair blynedd. Dim ond cyllideb tair blynedd sydd gennym ni i unrhyw beth ar hyn o bryd, felly dyna'r rheswm am hynny. Wrth gwrs, buaswn i eisiau gweld parhad o'r math yma o wasanaeth y tu hwnt i hynny. Rwy'n gobeithio ac yn disgwyl y bydd hwn yn gyfnod lle byddwn ni ar drywydd newydd nawr. Felly, rwy'n siŵr y gwelwn ni lwyddiant dros y tair blynedd nesaf ac y byddwn ni'n moyn adeiladu ar hynny. 

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 2:54, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'n gân i godi fy ysbryd, y cyhoeddiad hwn. [Chwerthin.] Hoffwn i hefyd dalu teyrnged i Rhianon Passmore, sydd wedi bod yn allweddol wrth hyrwyddo hyn. Dysgais i gerddoriaeth drwy'r recorder yn yr ysgol, ac yna gwnes i roi nodau ar biano fy mam-gu fel y gallwn i ddysgu ar ei phiano hi hefyd. Ac roedd pobl yn dysgu drwy fandiau pres y pyllau glo ar un adeg onid oedden nhw? Dysgodd fy mab drwy wasanaeth cerdd sir y Fflint 10 mlynedd yn ôl. Yr adeg hynny, fodd bynnag, yr oedd 2,500 o bobl ifanc yn cymryd rhan drwy wasanaeth cerdd un cyngor, oherwydd ei fod am ddim, ac roedd yn gymuned wych. Ond cafodd cyni a thoriadau i gyllid gwasanaethau cyhoeddus effaith dros y blynyddoedd, ni allai'r cyngor roi cymhorthdal iddo mwyach, a dechreuodd y taliadau gynyddu, a chynyddu, fesul tipyn bob blwyddyn. Roedd trafnidiaeth am ddim bryd hynny hefyd, a oedd yn anhygoel—roedd yn gymuned go iawn—ond cafodd y toriadau bryd hynny gymaint o effaith fel mai dim ond ychydig gannoedd sy'n cymryd rhan nawr. 

Photo of David Rees David Rees Labour 2:55, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Mae angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr, os gwelwch yn dda.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour

(Cyfieithwyd)

Iawn. Felly, gwnes i annog fy mab i ddysgu pan oedd am ddim. Ni fyddem wedi cael y cyfle i fanteisio ar y gwasanaeth cerddoriaeth hwnnw fel arall, ac ni fyddai ef erioed wedi cael y cyfle i ddysgu oherwydd na allem ni ei fforddio. Felly, a fydd wir am ddim i bobl roi cynnig arni? A hefyd, dysgodd y trombôn oherwydd mai dyma'r unig offeryn a oedd ar ôl iddo roi cynnig arno, ond daliodd ati a llwyddodd i'w wneud hyd at radd 8. Ond, mae angen i ni sicrhau bod amrywiaeth o offerynnau i bobl eu dysgu—ac roedd yn beth da mai dyna'r unig offeryn a oedd ar ôl—fel nad yw pobl ifanc yn dymuno dysgu drymiau a gitâr yn unig, oherwydd mae'n ymddangos mai'r rheini yw'r rhai poblogaidd iawn, oherwydd mae angen i ni gael amrywiaeth, onid oes, ar gyfer ensembles, ar gyfer bandiau pres, ar gyfer yr holl bethau gwych hyn? 

Ac roedd un peth arall. Crybwyllwyd yn gynharach—

Photo of David Rees David Rees Labour 2:56, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Na, rydych chi dros eich amser. Nid oes mwy o bethau. 

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour

(Cyfieithwyd)

Iawn. Ysgrifennaf i at y Gweinidog ynghylch y llall. [Chwerthin.]

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

(Cyfieithwyd)

A gaf i gymeradwyo'r Aelodau'n gyffredinol am atal eu hunain rhag defnyddio mwyseiriau cerddorol yn eu cyfraniadau heddiw? Ond, dywedaf, Carolyn Thomas, fod eich cyfraniad yn taro'r nodyn cywir. Gobeithio na fydd yr Aelodau'n teimlo bod hwn wedi ei offerynnu gormod. [Chwerthin.] Dim ond i ddweud, rwy'n credu bod y pwynt y mae hi'n ei wneud am yr amrywiaeth o brofiad yn gwbl ganolog i hyn. Dechreuais i chwarae cornet ac yna dod yn chwaraewr ewffoniwm a bariton, yn rhannol oherwydd bod yr offerynnau hynny ar gael. Felly, rwy'n credu ein bod eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod amrywiaeth o offerynnau ar gael ac, yn sicr, os yw'r profiad a gafodd y Prif Weinidog a minnau ddoe yn yr ysgol yn Abertawe yn adlewyrchiad cywir o hynny, yn bendant roedd amrywiaeth o ddewisiadau ar gyfer pobl ifanc. Ac mewn gwirionedd, mae'r buddsoddiad a wnaethom ni ddiwedd y llynedd wedi'i fuddsoddi gyda hynny mewn golwg. 

O ran y costau, bydd, i'r rhai sydd angen y cymorth mwyaf, bydd hyfforddiant am ddim, ac i'r rhai y mae'n rhan bwysig o'u harholiadau TGAU neu Safon Uwch, bydd am ddim. Ond, i bawb, yr uchelgais yn y cynllun yw cytuno ar uchafswm tâl am yr hyfforddiant sy'n cael ei ddarparu yn ystod amser ysgol. Felly, bydd hynny'n rhan bwysig o'r gwaith y bydd CLlLC, ynghyd â'r gwasanaethau cerddoriaeth, yn ei gyflawni fel rhan o hyn.  

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Conservative 2:57, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf i ymuno ag Aelodau i groesawu'r datganiad heddiw am lansio Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru? Rwy'n datgan bod fy chwaer-yng-nghyfraith yn athro cerdd peripatetig yn y gogledd. Ond, Gweinidog, gwnaethoch chi gyfeirio ychydig o weithiau at eich ymweliadau ddoe, a mwynheais i'r fideo ohonoch chi a'r Prif Weinidog, ond tynnodd sylw at y ffaith ei bod yn bwysig datblygu cynllun cenedlaethol ar gyfer dysgu cerddoriaeth, oherwydd yr oedd yn sicr yn ysbrydoledig. Ond, y llynedd, cefais i'r pleser o ymweld â chwmni cydweithredol cerddoriaeth yn Wrecsam a sir Ddinbych i wylio un o'u perfformiadau byw wedi'i ffrydio i ysgolion lleol, gan ddangos amrywiaeth o offerynnau cerdd i blant a'u hannog i ymgymryd â cherddoriaeth eu hunain. Dim ond un enghraifft yw hon o lawer o sefydliadau gwych sy'n darparu'r gwasanaeth hwn i'n pobl ifanc. Felly, yng ngoleuni hyn, Gweinidog, pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o ran sefydliadau megis cerdd gydweithredol Wrecsam a sir Ddinbych o ran helpu i gyflawni a sicrhau llwyddiant y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol? Diolch yn fawr iawn. 

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:58, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am hynna. Pan oeddwn i ar y pwyllgor a ystyriodd hyn yn y Senedd ddiwethaf, cawsom ni dystiolaeth gan amrywiaeth o wasanaethau cerdd. Felly, nid uchelgais y cynllun yw pennu ffurf y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu; bydd hynny'n parhau i fod yn swyddogaeth i'r awdurdod lleol, ond bydd yr holl wasanaethau cerdd yn gallu cydweithio â CLlLC i gyflawni'r cynllun yn gyffredinol. Ond, un o'r heriau yr ydym ni wedi'i hwynebu ers peth amser yng Nghymru mewn gwirionedd yw natur amrywiol profiad athrawon cerddoriaeth mewn gwahanol rannau o Gymru, beth bynnag yw ffurf y gwasanaeth ei hun. Ac rwy'n credu mai un o fanteision pwysig iawn y cynllun sydd gennym ni yma yw, yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf, 2023-24, darn pwysig ac eithaf cymhleth, mewn gwirionedd, o waith i ystyried y gwahanol delerau ac amodau sy'n berthnasol i hyfforddiant cerddoriaeth ledled Cymru, ac i geisio dod â mwy o gysondeb a thegwch i hynny, oherwydd rwy'n credu, yn y pen draw, er mwyn sicrhau newid sylweddol hirdymor a chynaliadwy, sef yr union beth y mae'r holl wasanaethau cerddoriaeth eisiau'i weld fel rhan o'r cynllun hwn yr wyf i'n ffyddiog y caiff ei ddarparu, fe fydd yn bwysig sicrhau bod y gweithlu'n cael y cysondeb hwnnw ledled Cymru, i'r graddau y gallwn ni wneud hynny.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 3:00, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n rhyfeddu yr wythnos hon fy mod yn dilyn cyfraniadau gan Laura Anne Jones ac nad wyf yn gweiddi 'gwrthwynebu', sy'n syndod i mi, ond mae'n amlwg, Gweinidog, fod yna gefnogaeth drawsbleidiol i'r datganiad hwn heddiw, ac rwy'n cymeradwyo'r datganiad hwn i'r Senedd hon.

Ond fel mae Aelodau wedi dweud o bob rhan o'r Siambr, gan eich cynnwys chi, ni allwn i gyfrannu at y datganiad heddiw heb roi teyrnged i fy ffrind da Rhianon Passmore, oherwydd yn sgil ei hymgyrch a'i phenderfyniad hi yr ydym ni yn y sefyllfa hon heddiw—ei hymgyrch a'i phenderfyniad i'w gynnwys ym maniffesto Llafur Cymru, y gwnaethom ni sefyll arno ac ennill. Rwy'n gobeithio y bydd y strategaeth gerddoriaeth hon yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o gerddorion, ac rwy'n siŵr y bydd hi, oherwydd dyna pwy fydd ar eu hennill mewn gwirionedd. Plant Cymru fydd ar eu hennill mewn gwirionedd, oherwydd fe fyddan nhw'n cael y rhodd honno o gerddoriaeth. 

Gweinidog, rwyf i eisoes wedi cael etholwyr yn gofyn i mi'n gyffrous: sut y cawn nhw gymryd rhan, sut mae cofrestru, sut mae cymryd rhan yn y rhaglen hon? Fe fyddwn i'n ddiolchgar am ateb i'r cwestiwn hwnnw, oherwydd mae hwn yn gyhoeddiad pwysig iawn heddiw. Rwy'n ei groesawu yn fawr. Rwy'n ei groesawu gan Lywodraeth Lafur Cymru sy'n cyflwyno strategaeth wych. 

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:01, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am hynna, ac rwy'n credu bod ei bwynt ynglŷn ag ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf wrth wraidd hyn mewn gwirionedd. P'un ai eich profiad chi o gerddoriaeth yw dim ond rhoi cynnig ar ganu offeryn yn yr ysgol gynradd, neu ei bod yn dod yn angerdd ar hyd eich oes, neu ei bod yn yrfa i chi, rwy'n credu mai rhan o'r hyn a gynigir yma yw sicrhau ein bod ni'n cysylltu pobl ifanc sydd ag angerdd penodol, a allai fod yn awyddus i gerddoriaeth fod yn fywoliaeth iddyn nhw, eu helpu nhw ar y daith honno, gan eu cysylltu nhw â'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw, a'r dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw o ran gyrfaoedd. Ond hyd yn oed os nad ydych chi'n dymuno gwneud hynny, hyd yn oed os ydych chi eisiau bod â cherddoriaeth yn fwynhad neu'n diddordeb, fe fydd y gwasanaeth yn eich cefnogi chi i wneud hynny.

Felly, y bwriad yw cyflwyno hyn o fis Medi eleni. Felly, un o'r tasgau cyntaf, yn fy meddwl i, y bydd y corff arweiniol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ei roi i'w hun fydd sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei rhaeadru i ysgolion, drwy'r gwasanaethau cerddoriaeth sydd wedi'u hymwreiddio eisoes yn yr ysgolion hynny, fel y bydd ein pobl ifanc ni'n gwybod beth yw'r cyfle sydd ar gael a sut y gallan nhw elwa arno a manteisio i'r eithaf ar y cyfle cyffrous hwn.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, diolch yn fawr am y datganiad hwn heddiw sydd i'w groesawu yn fawr—datganiad na fyddech chi'n ei wneud oni bai am y cyfraniad a wnaeth Rhianon Passmore ynglŷn â'r mater penodol hwn dros lawer o flynyddoedd. Dim ond nifer fach o gwestiynau sydd gen' i.

Yn gyntaf i gyd, sut ydych chi'n rhagweld defnyddio neu wneud defnydd o'r diaspora Cymreig, ac yn arbennig rai o'r cerddorion cyfoes mwyaf llwyddiannus sydd gennym ni'n cynrychioli Cymru ledled y byd, gan gynnwys pobl fel Jonny Buckland, a aeth i Ysgol Uwchradd Alun y Wyddgrug, ac sy'n un o gerddorion cyfoes mwyaf llwyddiannus y byd ac yn aelod o Coldplay, ac sy'n dwyn y ffaith i gof yn rheolaidd mai ei athrawes gerdd ef, Mrs Parr, a wnaeth gyfraniad mor fawr at ei ddatblygiad? Yn ail, Dirprwy Lywydd, fe hoffwn i ofyn i'r Gweinidog a oes unrhyw bwyso a mesur neu ystyriaeth yn digwydd o ran cyflwyno mentrau o'r fath ar gyfer drama a dawns. Diolch.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:03, 17 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ken Skates am y ddau gwestiwn pwysig iawn yna. O ran y cyntaf o'r ddau gwestiwn, mewn gwirionedd, rydym ni eisoes wedi cael cyswllt â nifer o gerddorion o Gymru sydd â phroffil uchel—rhai yng Nghymru, ond rhai y tu hwnt i'n ffiniau ni—y mae'r cyhoeddiad hwn wedi eu cyffroi nhw'n fawr ac sydd wedi bod yn cysylltu i ddweud, 'Sut allwn ni helpu?' Felly, gan gyfeirio yn ôl at y cwestiwn a ofynnodd Jack Sargeant yn gynharach, fe fyddwn ni'n awyddus i ystyried dros yr wythnosau nesaf sut y gallwn ni weithredu ymrwymiad a brwdfrydedd y rhai sydd wedi bod yn wirioneddol lwyddiannus o ran cerddoriaeth yng Nghymru, i'n helpu ni i hyrwyddo y bydd y gwasanaeth ar gael o fis Medi ymlaen. Felly, rwy'n credu bod tasg wirioneddol bwysig i ni ymgymryd â hi yn hynny o beth.

Ac rwy'n gobeithio y gall y math o ymagwedd yr ydym ni'n ei mabwysiadu o ran addysg cerddoriaeth yma fod o fudd mewn rhannau eraill o'r celfyddydau creadigol a mynegiannol. Mae honno'n rhan annatod o addysg yn y cwricwlwm newydd, ond y tu hwnt i hynny, rydym ni'n gwybod yn iawn faint o werth a all ddod o fynegiant artistig a mynegiant creadigol o bob ffurf o ran lles ac, yn arbennig felly, rwy'n credu, yn ystod profiad fel yr un a gafodd pobl ifanc dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Po fwyaf y gallwn ni ei wneud yn y gofod hwn, y mwyaf y dylem ni ei wneud, ac rwy'n siŵr y bydd pobl ifanc ledled Cymru yn elwa ar hynny.