– Senedd Cymru am 4:51 pm ar 17 Mai 2022.
Y datganiad nesaf, felly, yw'r un gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar ddiweddariad ar Wcráin, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad hwnnw. Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin sy'n gobeithio dod o hyd i noddfa yng Nghymru. Yn ystod y pythefnos ers i mi ddarparu datganiad llafar ar y mater hwn ddiwethaf, rydym ni wedi croesawu llawer o gymdogion a ffrindiau newydd o Wcráin. Mae Llywodraeth y DU wedi dechrau cyhoeddi data cyrraedd cynllun Cartrefi i Wcráin am y tro cyntaf ac, o 10 Mai, roedd Cymru wedi croesawu 1,126 o bobl o Wcráin, yn ogystal â'r rhai sy'n cyrraedd o dan gynllun teulu'r Wcráin, a'n braint yw gallu darparu noddfa i bob un o'r rhai sy'n cyrraedd.
Hoffwn ddiolch i lywodraeth leol am y gwaith gwirioneddol ragorol maen nhw’n ei wneud i baratoi ar gyfer y rhai sy'n cyrraedd ac i’w cefnogi. Mae graddfa'r archwiliadau eiddo, gwiriadau diogelu a datrys materion newydd maen nhw wedi ymgymryd â nhw wedi bod yn rhyfeddol. Ac rydym ni’n gweld gwelliannau yn yr amser cyfartalog mae Llywodraeth y DU yn ei gymryd i ystyried a chymeradwyo fisâu, ond mae problemau o hyd gyda'r ffordd mae'r system yn gweithredu, yn enwedig yr anallu i gyflwyno ceisiadau teulu wedi'u grwpio, sy'n golygu bod grwpiau mawr weithiau'n cael eu hatal rhag teithio oherwydd bod dim ond un fisa ar goll. Rwyf i wedi codi hyn gyda Gweinidog Ffoaduriaid y DU ac wedi cael sicrwydd y bydd hyn hefyd yn gwella cyn bo hir.
Rydym ni’n falch o weld dros 1,000 o bobl o Wcráin yn cyrraedd Cymru, ond mae fisâu tair gwaith y nifer hwnnw wedi cael eu cymeradwyo. Rydym ni’n monitro hyn yn ofalus ac yn ceisio deall y rhesymau pam nad yw pobl yn cyrraedd mewn niferoedd uwch ac os oes rhwystrau eraill sy'n atal teithio y gallem ni fynd i'r afael â nhw.
Rydym ni’n bryderus o hyd am y risgiau diogelu a gyflwynir drwy baru anffurfiol ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y cynllun Cartrefi i Wcráin. Rydym ni’n parhau i annog aelwydydd o Gymru sy'n dymuno bod yn noddwyr i gael eu paru drwy sefydliadau ag enw da fel Reset neu gysylltu â'u hawdurdod lleol, ac rydym ni’n parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol ac ar draws gwledydd y DU ar y materion hollbwysig hyn.
Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom gysylltu â phob aelwyd yng Nghymru a oedd wedi mynegi diddordeb yn y cynllun Cartrefi i Wcráin i ofyn a oedd ganddyn nhw ddiddordeb o hyd mewn cymryd rhan ond nad oedden nhw wedi dod o hyd i deulu i’w paru gyda nhw eto. Rydym ni wedi cael ymateb cadarnhaol iawn hyd yn hyn, a byddwn ni’n gweithio gyda llywodraeth leol i sicrhau y gellir gwirio'r cynigion hynny i ffurfio ffynhonnell o gynigion llety diogel. Gellir defnyddio'r rhain pan fydd lleoliadau cychwynnol yn dod i ben ac fel cyrchfannau eilaidd unwaith y bydd pob teulu'n barod i symud ymlaen o ganolfan groeso.
I'r rhai sydd eisoes wedi cyrraedd Cymru, yn ddiweddar cyhoeddwyd y byddai ein cynnig trafnidiaeth gyhoeddus am ddim yn cael ei ymestyn. I ddechrau, roeddem yn gallu cynnig teithio am ddim ar y rheilffyrdd i bobl o Wcráin a ffoaduriaid newydd; fodd bynnag, yr wythnos diwethaf, roeddem ni’n gallu cyhoeddi'r tocyn croeso am ddim ar gyfer teithio ar fysiau, lle bydd cwmnïau bysiau sy'n cymryd rhan hefyd yn darparu'r cynnig hwn. Gellir dod o hyd i'r rhestr o gwmnïau bysiau sy'n cymryd rhan drwy chwilio am 'docyn croeso' yn llyw.cymru. A hoffwn ddiolch i bob cwmni bysiau sydd wedi ymuno â'r cynllun hwn, ac rwyf i hefyd yn annog eraill i wneud hynny, fel y gallwn sicrhau y gall pobl Wcráin a ffoaduriaid ym mhob rhan o Gymru elwa.
Yn ogystal â hyn, rydym ni wedi gallu cyhoeddi cynllun mynediad am ddim Cadw i'w safleoedd ledled Cymru. Roedd Cadw eisoes wedi bod yn cefnogi ein gweledigaeth cenedl noddfa ers nifer o flynyddoedd drwy ymweliadau â chymorth am ddim i geiswyr lloches. Fodd bynnag, mae cynnig mynediad am ddim bellach wedi'i ehangu i sicrhau y gall unrhyw geisiwr noddfa yng Nghymru elwa.
Rydym ni wedi wynebu rhai heriau anodd ers i ni ddechrau croesawu pobl sy'n dianc rhag y gwrthdaro ac rydym ni’n gweithio drwy'r rhain mor gyflym a gofalus ag y gallwn ni. Rwy'n ymwybodol nad yw rhai plant sy'n cyrraedd wedi gallu ymuno â'u cyd-ddisgyblion newydd yn yr ysgol eto. Rydym ni’n ceisio lleihau'r risgiau o TB sy'n gwrthsefyll cyffuriau, sy'n parhau i fod yn fygythiad i iechyd y cyhoedd yn Wcráin, drwy ddarparu sgrinio TB ar gyfer pob un sy'n cyrraedd. Mae'r prif swyddog meddygol wedi cyhoeddi cyngor diwygiedig, gan argymell y gall plant oedran ysgol gynradd ddechrau'r ysgol cyn eu sgrinio oherwydd y risg isel. Y cyngor o hyd yw y dylai plant oedran ysgol uwchradd gael eu sgrinio cyn dechrau'r ysgol, ac mae hyn yn cael ei adolygu'n barhaus wrth i ni gasglu mwy o ddata am nifer yr achosion drwy'r rhaglen sgrinio.
Rydym ni’n gweithio'n agos gyda phrifysgolion a cholegau i sicrhau bod gwersi Saesneg ar gael mor eang â phosibl. Rydym ni’n ceisio defnyddio'r ganolfan ganolog asesu ESOL ranbarthol, neu REACH, model ar y cyd ag asiantaethau eraill yn y canolfannau croeso i sicrhau y gellir asesu unigolion a darparu'r lefel gywir o ymyrraeth. Rwy’n gwybod bod Prifysgol De Cymru a chyngor Rhondda Cynon Taf eisoes wedi dechrau dosbarthiadau ESOL anffurfiol i redeg drwy gyfnod yr haf, ac rydym ni’n dod ag awdurdodau lleol a phrifysgolion ynghyd ledled Cymru i ehangu'r dull hwn.
Yn olaf, rydym ni’n gweithio'n agos gyda sefydliadau'r trydydd sector i sicrhau, wrth i bobl gyrraedd, bod llwybrau ar gyfer cyngor a chymorth ar gael iddyn nhw. Rwyf i bellach yn cadeirio gweithgor i gydlynu ymdrechion gyda'r trydydd sector, gan gynnwys trais yn erbyn menywod, gwasanaethau cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac rydym ni’n gweithio i sicrhau partneriaid sy'n gallu darparu gwasanaethau cyngor ac eiriolaeth yn fuan. Dros y penwythnos fe welsom enghraifft gadarnhaol iawn o'r bartneriaeth hon yn gweithio gyda'r trydydd sector, gan fy mod wrth fy modd y gallem weithio'n agos gyda Citizens UK Cymru i ddod â 18 o bobl Wcráin i Gymru gyda’i gilydd. Bydd gwaith pellach yn digwydd yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf.
Yn eich diweddariad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i Wcráin ddydd Iau diwethaf, fe wnaethoch chi gyfeirio at ffigurau diweddaraf Llywodraeth y DU, a oedd yn nodi, ar 10 Mai, fod 3,300 o fisâu wedi'u rhoi i bobl o Wcráin i ddod i Gymru drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin, sydd i fyny o 1,000 mewn pythefnos yn unig. Noddwyd 1,300 ohonynt gan Lywodraeth Cymru, i fyny 630 mewn pythefnos yn unig. Gyda’i gilydd, mae cyfanswm o 132,900 o geisiadau am fisâu cynllun Wcráin bellach wedi'u derbyn, gyda 120,300 o fisâu wedi'u cyhoeddi, i fyny o 73.2 y cant i 77 y cant mewn pythefnos, a chyfanswm o 46,100 o ddeiliaid fisâu yn cyrraedd y DU, i fyny o 23 y cant i 34.6 y cant mewn pythefnos. Rydych chi’n dweud bod 1,126 o bobl â noddwyr bellach wedi cyrraedd Cymru, yn ogystal â'r rhai sy'n cyrraedd o dan gynllun teulu Wcráin. Beth felly yw eich dealltwriaeth o faint sydd wedi cyrraedd Cymru i gyd hyd yn hyn o dan y ddau gynllun? Ac er gwaethaf y ffigurau sy'n gwella'n raddol, pa drafodaethau penodol pellach ydych chi wedi'u cael gyda Gweinidog Ffoaduriaid y DU am y rhesymau dros y bwlch rhwng nifer y fisâu a gyhoeddwyd a chyfanswm y bobl sy'n cyrraedd, a beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â hyn?
Ddydd Iau diwethaf, cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan y Groes Goch Brydeinig ar Wcráin, gyda chamau gweithredu a argymhellir. Sut ydych chi’n ymateb i'w datganiadau, wrth i ffoaduriaid ymgartrefu yng Nghymru, y bydd monitro lles a diogelwch ffoaduriaid yn y tymor hwy yn hollbwysig? Felly, yn rôl Llywodraeth Cymru fel uwch-noddwr o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin, fe wnaethon nhw ddweud, mae'n bwysig bod sicrwydd yn cael ei wneud ynghylch cymorth diogelu er mwyn sicrhau bod rôl i awdurdodau lleol o ran monitro cymorth parhaus ynghylch lles pobl o Wcráin wrth iddyn nhw ymgartrefu yng Nghymru. Ac fe wnaethon nhw ddweud, 'Er bod cefnogaeth hyd yma i'w chroesawu, rydym ni am leihau'r risg o sefydlu system ddwy haen ar gyfer ffoaduriaid yng Nghymru a'r DU, a fyddai'n golygu trin pobl yn wahanol ar sail y ffordd y gwnaethon nhw gyrraedd.' Gallai'r newidiadau arfaethedig, medden nhw, adael pobl heb fynediad at gymorth hanfodol.
Wrth ymateb i chi bythefnos yn ôl, fe wnes i gyfeirio hefyd at ffigurau sy'n dangos amrywiad enfawr yn nifer y fisâu a gyhoeddwyd ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru. Beth yw eich dealltwriaeth o'r sefyllfa gymharol nawr, bythefnos yn ddiweddarach, ac, er gwaethaf y gwahaniaethau amlwg ym maint y boblogaeth, beth yw eich dealltwriaeth o'r rhesymau dros yr ystod hon a sut ydych chi’n targedu cymorth ar lefel leol, os oes gwahaniaeth o hyd?
Wrth ymateb i chi bythefnos yn ôl, fe wnes i ofyn sut roeddech chi’n gweithio gyda'ch cyd-Weinidogion i sicrhau bod lleoedd mewn ysgolion a gwasanaethau meddygon teulu a'r GIG lleol ar gael i ffoaduriaid o Wcráin pan fyddan nhw’n cyrraedd Cymru. Fe wnaethoch chi ymateb gan ddweud:
'Mae hi'n hanfodol o ran addysg y gall plant gael eu derbyn i ysgolion, ac, yn wir, hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, wrth y gwasanaeth iechyd, i'w meddygon teulu nhw, am y gwiriadau sydd ar y gweill o ran iechyd. Fe gaiff hynny ei fonitro bob dydd.'
Fodd bynnag, fe wnes i gysylltu â chi wedyn ar ran etholwr a oedd â theulu ffoaduriaid o Wcráin yn cyrraedd y bore canlynol o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin, a oedd wedi cael gwybod gan dderbyniadau ysgol yr awdurdod lleol na allai plentyn oedran ysgol gynradd y teulu ddechrau addysg nes iddi gael gwiriad meddygol gan feddyg teulu, yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Dywedodd y meddyg teulu yr oedd y teulu wedi’i gofrestru gyda nhw eu bod nhw’n gwrthod gwneud y gwiriad meddygol, nad oedden nhw’n gwybod unrhyw beth am y gofyniad hwn ac nad oedd ganddyn nhw’r gallu. Hoffwn ddiolch i chi am eich ymateb prydlon iawn i hyn, gan ddweud fod swyddogion yn cysylltu â'r swyddog derbyn yn yr awdurdod lleol i gadarnhau, ar yr amod bod y plentyn yn iach, nad oes angen iddyn nhw aros am asesiad iechyd i allu mynychu'r ysgol; bod y gofyniad i ohirio presenoldeb yn ymwneud yn benodol â sgrinio TB; y gall plant oedran ysgol gynradd fynychu os ydyn nhw’n iach, ond mae angen asesiad a phelydr-x ar blant oedran ysgol uwchradd gyda thimau TB y bwrdd iechyd cyn iddyn nhw fynychu'r ysgol; a'ch bod wedi gofyn i swyddogion iechyd fynd ar drywydd hynny gyda'r bwrdd iechyd fel mater o frys o ran y sefyllfa a roddwyd i'r teulu o'r practis meddygon teulu?
Wel, dywedodd yr etholwr wrthyf i wedyn fod derbyniadau i ysgolion wedi cysylltu â nhw i ddweud y gall plant oedran ysgol gynradd fynychu'r ysgol yn awr, a diolchodd i chi a minnau am hyn. Fodd bynnag, fe wnaethon nhw ychwanegu,
'Dydw i ddim yn siŵr o'r broses o ran mynychu os yw ei grŵp blwyddyn hi’n llawn, a dywedwyd wrthym ni ei fod yn llawn.'
Sut, felly, ydych chi’n gweithio gyda chydweithwyr i sicrhau bod y mater hwn o gapasiti yn cael sylw? Ac yn olaf, sut y byddwch chi nawr yn sicrhau bod awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd ledled Cymru yn deall eich disgwyliadau ohonyn nhw?
Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Rydych chi wedi ailadrodd y data y gwnes i ei roi yn y datganiad. Rydw i’n credu ei bod hi’n galonogol iawn bod Llywodraeth y DU, o'r diwedd, yr wythnos diwethaf, wedi cytuno i ddarparu data fesul awdurdod lleol, a gallem wedyn nodi, fel yr ydych chi wedi’i ddweud, fod 1,126 o ffoaduriaid o Wcráin wedi dod drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin—y bydd rhai ohonyn nhw yn ein canolfannau croeso, rhai gyda noddwyr lletyol. Ond, gan gydnabod hefyd fod llawer mwy o fisâu wedi'u cymeradwyo o hyd. Dywedais i hynny yn fy natganiad hefyd—o leiaf dair gwaith y nifer hwnnw.
Rydw i’n cyfarfod â'r Gweinidog Ffoaduriaid, yr Arglwydd Harrington, bob pythefnos. Fe wnes i ei gyfarfod ddydd Iau gyda fy nghyd-Weinidog Neil Gray, Gweinidog Llywodraeth yr Alban. Mae gennym ni dri pheth ar yr agenda: oedi o ran fisâu, diogelu, cyllid. Rydym ni’n amlwg yn ychwanegu pethau eraill hefyd, wrth iddyn nhw ddod drwodd. Ond maen nhw'n gyfarfodydd adeiladol iawn. Ac mae'r dystiolaeth gennym ni, mae gen i lawer o dystiolaeth, nid yn unig o fy ngwaith achos fy hun ond gan lawer o bob rhan o'r Siambr hon, o'r oedi annerbyniol hwn rhwng cymeradwyo fisâu a chyrraedd. Felly, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hynny ac mae'n rhaid iddyn nhw ei oresgyn. Ond, mae cynnydd yn cael ei wneud, fel y gwyddoch chi, o ran y niferoedd.
Mae'n dda eich bod wedi cael y sesiwn friffio honno gan y Groes Goch Brydeinig, yn enwedig mewn perthynas â'n rôl fel uwch-noddwr. Mae hyn yn rhywbeth lle rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi 1,000 o bobl, gan hepgor yr angen i adnabod noddwr unigol a chael eu noddi'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Ac ar 10 Mai, mae gennym ni 1,317 o fisâu sydd wedi'u rhoi i bobl o Wcráin—mwy na 1,000—o dan y llwybr hwn. Felly, roeddem ni’n aros, drwy’r dydd bob dydd, gyda gwaith ar benwythnosau—fe wnes i sôn am Citizens UK Cymru—iddyn nhw gyrraedd. Trefnwyd y cludiant, gan weithio gyda Citizens UK Cymru, ac ym Maes Awyr Luton, cyrhaeddodd y teuluoedd. Mae'n aruthrol pan fydd y partneriaethau hynny'n gweithio, ond mae gennym ni gymaint yn fwy i'w wneud i symud hynny ymlaen.
Rwy’n credu bod eich pwynt am ddiogelu a'r canolfannau croeso, y gwaith rydyn ni’n ei wneud, yn hollbwysig. Pan fyddan nhw’n cyrraedd y canolfannau croeso, mae pawb yno i helpu i gefnogi. Mae gwasanaethau cyfieithu ar gael. Mae cyfleoedd i ddechrau dysgu Saesneg—rydym ni wedi sôn am ESOL—cofrestru gyda meddygon teulu, plant yn dechrau yn yr ysgol a chymorth gydag arian, budd-daliadau lles a chyngor i ddod o hyd i waith. Mae hyn i gyd ar ein gwefan noddfa. Mae cymaint o ganllawiau a gwybodaeth yn cael eu diweddaru'n gyson. Ac mae diogelu'n hanfodol, fel y gwyddoch chi, a dyna pam mai canolfannau croeso yw'r ffordd fwyaf diogel o gefnogi pobl o Wcráin sy'n dianc rhag gwrthdaro, yn hytrach nag—. Rwyf i wedi codi ein pryderon am unrhyw fath o lwybr at baru anffurfiol ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn amlwg, mae'r gwesteiwyr, mae llawer o hyn yn gweithio'n dda iawn gyda Cartrefi i Wcráin, ond mae'n bwysig edrych ar ein canllawiau diogelu a chaethwasiaeth fodern.
Yn olaf, ydy, mae hwn yn fater ar draws y Llywodraeth. Mae gennym ni gyfarfod wythnosol—mae gennym ni un bore yfory—gyda'n cyd-Weinidogion. Addysg, iechyd, llywodraeth leol, tai, rydym ni i gyd yn gweithio—. Cludiant. Rydym ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r materion hyn. Fi’n amlwg sy’n cydlynu hyn. Rydych chi wedi sôn am yr achos pwysig hwnnw yr oeddwn i’n falch iawn o ymateb iddo, Mark, cyn gynted â phosibl. Y dyddiau cynnar hyn, llywodraeth leol—. Rwyf i wedi canmol llywodraeth leol am yr hyn maen nhw’n ei wneud. Maen nhw hefyd yn cael arweiniad, maen nhw’n ei reoli, derbyniadau, ac mae'r rhain yn faterion gweithredol rydym ni’n gweithio gyda'n gilydd arnyn nhw. Rwy'n edrych ymlaen, gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, at gwrdd â'n set newydd o arweinwyr yn fuan iawn i'w trafod. Ond, yn weithredol, wrth gwrs, rydym ni’n gweithio gyda phrif weithredwyr.
Ac yn awr, plant. Cefais neges wych gan ffoadur ifanc sydd wedi bod yn aros i fynd i'r ysgol yn fy etholaeth, a anfonodd neges bersonol ataf neithiwr i ddweud, 'Mae'n wych teimlo fy mod yn yr ysgol. Rydw i yn fy arddegau, rwy'n dysgu, mae'n wych.' Bydd hyn yn digwydd i'r plant wrth iddyn nhw ddod drwodd, ac mae llywodraeth leol wedi ymrwymo i wneud i hynny weithio.
Diolch am eich datganiad, Weinidog. Roedd yna adroddiad yn y Guardian yn ddiweddar fod rhai ffoaduriaid o Wcráin sydd wedi dod i'r Deyrnas Gyfunol yn gorfod aros hyd at ddwy flynedd cyn gallant gael therapi arbenigol i'w helpu i wella o effaith yr erchyllterau maen nhw wedi dioddef yn sgil rhyfel. Gallwn ni, wrth gwrs, ddim dychmygu y pwysau sydd wedi bod ar y bobl yma sydd wedi gweld siẁd bethau, sydd wedi teimlo siẁd boen a siẁd bryder ac ansicrwydd, sydd wedi colli eu cartrefi, eu gyrfaoedd, y dyfodol roedden nhw wedi cynllunio, ac, wrth gwrs, sydd wedi colli anwyliaid, ffrindiau, cymdogion ac sydd wedi, yn anffodus, dioddef trais a thrais rhywiol.
Mae'r anhrefn a'r oedi wythnosau o hyd am fisa neu fodd i deithio i Brydain hefyd, wrth gwrs, yn achosi ac yn dwysáu problemau iechyd meddwl y rhai sy'n cael eu hunain mewn sefyllfa o siẁd straen a gofid. Roedd yr adroddiad yn nodi bod gwasanaethau ar draws y Deyrnas Gyfunol yn dameidiog yn hyn o beth, gyda rhai ardaloedd yn cael eu disgrifio gan yr elusen Room to Heal, sy’n darparu cefnogaeth i bobl sydd wedi ffoi rhag erledigaeth, fel diffeithwch o ran triniaeth sydd ar gael pan ddaw'n fater o drin trawma. Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion hefyd wedi datgan y dylai'r cynlluniau sydd yn eu lle ar gyfer croesawu ffoaduriaid fod wedi cynnwys mecanwaith ar gyfer adnabod arwyddion trawma yn gynnar.
Rydym, wrth gwrs, yn gwybod y bydd yr holl brofiad o ffoi o'r rhyfel yn effeithio'n arbennig o wael ar blant, i'r pwynt lle gallai hyd yn oed newid eu personoliaethau a chael niwed seicolegol hirdymor. Eto, mae Achub y Plant wedi dweud bod diffyg cymorth iechyd meddwl ar gael i'r plant sydd wedi eu trawmateiddio'n ddifrifol sy'n cyrraedd yma o Wcráin. Y tu hwnt i gael mynediad at ofal y gwasanaeth iechyd, nid yw swyddogion yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Lloegr wedi sôn am unrhyw ddarpariaeth benodol i ddarparu cymorth trawma i ffoaduriaid sydd newydd gyrraedd ein glannau.
Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi nodi mai prif bryder y rhai sy'n cyrraedd yma wedi iddynt ffoi yw'r lefel a math o gymorth sydd ar gael iddynt i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, fel triniaeth iechyd meddwl. Amcangyfrifir bod rhestrau aros hyd at ddwy flynedd o hyd ar hyn o bryd mewn rhai ardaloedd o'r Deyrnas Gyfunol, fel roeddwn i'n ei ddweud.
Felly, a allai’r Gweinidog roi gwybod inni beth yw'r sefyllfa yng Nghymru o ran y cymorth sydd ar gael i gael mynediad at wasanaethau arbenigol fel hyn? Pa wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer cymorth trawma, yn benodol, sydd ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru i'r rhai sy'n ffoi o Wcráin, y tu hwnt i fynediad cyffredinol at ofal y gwasanaeth iechyd? Ac, a all y Gweinidog hefyd ddarparu ffigurau ar gyfer y rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a thrawma, os gwelwch yn dda? A allwn ni yng Nghymru ymrwymo mwy o gyllid i'n gwasanaethau iechyd meddwl i ymdopi â'r galw cynyddol, a sicrhau bod y rhai sydd wedi dioddef trawma oherwydd rhyfel yn cael triniaeth addas? Diolch.
Diolch yn fawr, Sioned. Mae'n bwysig iawn, y pwynt hwn am sut y gallwn ni fod yn barod i gefnogi, gan gydnabod y trawma mae cynifer wedi'i brofi. Fe wnaethoch chi sôn am blant. Mae pob un ohonom ni’n gwybod mai menywod a phlant yw'r mwyafrif llethol o ffoaduriaid sy'n dod. Mae'r rheini sydd wedi cwrdd â nhw, neu sy'n cwrdd â nhw, yn gwybod beth maen nhw wedi bod drwyddo—y trawma maen nhw wedi bod drwyddo.
Gan fod gennym ni’r ganolfan gyswllt 24/7 hon, ac mae gennym ni ein canolfannau croeso, sef y ffordd fwyaf diogel, fel y dywedais i, o ymgolli nid yn unig i'r ganolfan groeso, y gwasanaethau cymorth, ond yr holl drefniadau o ran atgyfeiriadau, ac ati—. Felly, rydym ni’n gweithio'n galed iawn gyda'n staff, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn llunio pecyn cymorth penodol, nid yn unig i'r rheini sy'n dod, ond hefyd i'r staff sy'n eu cefnogi. Mae hynny, wrth gwrs, yn golygu bod angen i ni gael dehonglwyr, cyfieithu, sydd i gyd ar gael hefyd.
Felly, yng Nghymru, wrth gwrs, mae gennym ni ganllawiau 2018 Llywodraeth Cymru ar gyfer byrddau iechyd ar iechyd a lles ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Mae hynny'n benodol i Gymru. Fe wnaethom ni gyfieithu'r holl ddeunyddiau i Wcreineg a Rwsieg i gefnogi iechyd meddwl y rhai sy'n cyrraedd o Wcráin—sefydlogi cychwynnol. Mae hynny i gyda ar wefan Straen Trawmatig Cymru. Hefyd, mae Coleg Brenhinol Seiciatreg yn cyhoeddi deunyddiau cymorth penodol i'w helpu gyda nhw. Mae hynny i gyd ar wefan Straen Trawmatig Cymru; eto, mae'n dda gallu rhannu hynny gyda chydweithwyr yma heddiw.
Ond mae gennym ni hefyd, wrth gwrs, ein llinell gymorth iechyd meddwl graidd yng Nghymru. Mae hynny ar gael i gefnogi'r rhai sy'n cyrraedd Cymru. Mae ganddo linell iaith, felly gall helpu pobl sydd eisiau ei ddefnyddio mewn iaith heblaw Cymraeg a Saesneg. Rydym ni’n asesu anghenion, yn amlwg, o ran anghenion ychwanegol.
Rydym ni’n archwilio opsiynau i ddarparu cymorth iechyd meddwl a lles ychwanegol yn y canolfannau croeso. Mae hynny'n ymwneud â chanolbwyntio ar gyfeirio, sefydlogi, gweithio gyda'r trydydd sector. Bydd yr holl sgrinio iechyd yn cynnwys iechyd meddwl, a gallaf i eich sicrhau chi y bydd mynediad at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol ar gael yn unol â'r angen.
A gaf innau hefyd ddiolch i'r Gweinidog am ei harweinyddiaeth, ac wrth gwrs am arweinyddiaeth y Cwnsler Cyffredinol? Rwy'n credu fy mod yn siarad ar ran y Siambr gyfan pan fyddaf i'n dweud ein bod ni'n ddiolchgar iawn am yr hyn yr ydych chi wedi'i wneud ar y mater hwn, ac rydym ni hefyd yn ddiolchgar iawn i chi am ddiweddaru'r Siambr yn barhaus ar lafar hefyd. Gweinidog, o ystyried ein hymrwymiad fel cenedl noddfa, a allwch chi amlinellu i Aelodau'r Senedd heddiw sut mae'r trydydd sector wedi cefnogi a gweithio gyda gwirfoddolwyr, a'r rhai sy'n ffoi o Wcráin?
Diolch yn fawr iawn, Jack Sargeant. Fel y dywedais i, mae hwn yn ymateb ar draws y Llywodraeth i raddau helaeth. Mae cydlynu'n arbennig o bwysig, nid yn unig o ran trawslywodraeth a'n holl gyfrifoldebau, ond rhwng Llywodraethau â Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, a hefyd gyda llywodraeth leol hefyd. Ond mae'r trydydd sector eisoes yn chwarae rôl enfawr a rhan enfawr.
Fe wnes i ddod â grŵp o fudiadau gwirfoddol yn y trydydd sector at ei gilydd. Fe wnaethom ni gyfarfod ddydd Iau. Mae tua 25 o sefydliadau bellach, sy'n cynnwys y Groes Goch. Er enghraifft, ddydd Iau, cawsom gyflwyniad gan Sefydliad Cymunedol Cymru—Richard Williams—am gronfa newydd Croeso, rydym ni wedi'i datblygu. Soniodd Jonathan Cox o Citizens UK Cymru am y gwaith maen nhw wedi'i wneud, gan weithio gyda sefydliad anllywodraethol yng Ngwlad Pwyl a sut y daethon nhw â ffoaduriaid draw ar y penwythnos. Ac yna yn y gogledd, mae Tim Hall o Link International. Maen nhw’n gweithio'n agos iawn gyda ni gan fod ganddyn nhw brofiad enfawr o ran materion yn ymwneud â masnachu mewn pobl a chamfanteisio rhywiol. Maen nhw’n edrych ar faterion lletyol a gwesteion ac yn adrodd yn ôl ar y rhain—mae rhai achosion o fethiannau yno—a'r angen am leoliadau eilaidd. Felly, dyna'r math o adborth roeddem ni’n ei drafod ddydd Iau. Ond hefyd, rydym ni’n edrych, gyda'r sefydliadau hynny, ar ba rôl y gallan nhw ei chwarae. Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, y comisiynydd plant, Barnardo's a Chyngor Ffoaduriaid Cymru i gyd yno.
Ond hoffwn i ddweud—ac mae'n codi rhywbeth a gododd Sioned yn gynharach—fy mod i hefyd wedi gwahodd BAWSO a Cymorth i Fenywod Cymru i'r cyfarfod hwnnw, oherwydd y pryderon a godwyd yn fy natganiad diwethaf am y trawma mae cynifer o fenywod wedi dod ohono. Ond hefyd, bu camfanteisio, yn enwedig ar ffiniau, gyda phobl yn aros i ddod yma, ac, yn anffodus, rhai digwyddiadau yma wedi cyrraedd. Fe wnaethon nhw roi cyflwyniad llawn iawn ddydd Iau yn y cyfarfod.
Mae'n hanfodol bod gwirfoddolwyr sy'n dod ymlaen yn edrych ar wefan Gwirfoddoli Cymru. Edrychwch o dan 'Wcráin'; mae categori cyfan i helpu gwirfoddolwyr i ddarganfod eu rôl. Roedd gen i ddigwyddiad galw heibio ddydd Sadwrn yn fy etholaeth, a daeth gwirfoddolwyr, yn ogystal â chynghorwyr a noddwyr teuluoedd a ffoaduriaid, ac roedd gwirfoddolwyr yn dod sydd am gynnig dosbarthiadau Saesneg, sydd am ymgysylltu a chefnogi teuluoedd. Felly, gadewch i ni hefyd gyfleu'r neges honno heddiw. Rwy'n cael hwn fel yr eitem gyntaf ar yr agenda yng nghyngor partneriaeth y trydydd sector yr wythnos hon.
A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad? Roedd i'w groesawu'n fawr. Diolch am eich ymrwymiad i'r achos hwn. Rwy'n gwybod eich bod chi'n gwneud llawer iawn yn hyn o beth. Rydych chi wedi ateb rhai o fy nghwestiynau allweddol, a oedd yn ymwneud ag addysg a sgrinio. Cawson nhw eu cwmpasu'n dda ac rwy'n diolch i chi am y ddealltwriaeth ddyfnach o'r sefyllfa yr ydym ni'n ei hwynebu i bob golwg. Ond rwy'n cael etholwyr yn cysylltu â mi'n eithaf aml yn awr am rai o'r pryderon hyn. Mae'n ymddangos, efallai, fod diffyg cyfathrebu yn ôl iddyn nhw i'w helpu i ddeall pam y gallai rhai o'r pethau hyn fod yn digwydd. Efallai fod hwnnw'n faes, ynghyd â'r Gweinidog addysg, y gallech chi edrych arno—gan geisio cyfleu'n well i'r bobl hynny sy'n helpu i ofalu am y plant hynny. Roedd gen i un etholwr sydd wedi bod â phlentyn o Wcráin gyda nhw nawr am fis. Maen nhw wedi mynd drwy'r holl sgrinio ac mae ganddyn nhw le yn yr ysgol, ond nid ydyn nhw'n gallu cael mynediad i'r ysgol am ryw reswm o hyd—unwaith eto, mater cyfathrebu, rwy'n siŵr. Ond, Gweinidog, rydych chi wedi ateb fy nghwestiynau ynghylch sgrinio a pham y gwahaniaeth rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd. Diolch i chi am hynny a diolch i chi am y gwaith sy'n mynd rhagddo.
Diolch yn fawr iawn, Peter Fox. A gaf i ddweud eto mai'r awdurdodau lleol sydd wedi gorfod cymryd y cyfrifoldeb o ran derbyniadau i ysgolion? Mae ganddyn nhw ganllawiau clir. Yn amlwg, felly, o ran y cyswllt hwnnw, rydych chi'n bwysig fel pont i wneud i'r cyswllt hwnnw ddigwydd.
A gaf i ddiolch ichi, Gweinidog, am gysondeb y papurau briffio hyn? Yn amlwg, mae'n sefyllfa sy'n symud yn gyflym, ac rwy'n credu bod hynny'n cael ei adlewyrchu gyda'r ymateb a'r cysondeb hwn. Roeddwn i am gyfeirio at ddau beth yn fyr. Roedd hi'n amlwg yn wych gweld y pwyslais gyda gwersi Saesneg; beth mae hyn yn ei olygu o ran y gallu i gael gwersi trochi yn y Gymraeg hefyd? Oherwydd mae'n amlwg y bydd teuluoedd ledled Cymru. Bydd rhai, gobeithio, fel rydym ni wedi'i weld gyda gwahanol bobl yn dod i Gymru yn y gorffennol, yn cael eu trochi yn y Gymraeg, fel y gwelsom gyda'r Urdd. Felly, dim ond cwestiwn o ran y croeso a'r cyfle dwyieithog hwnnw.
Hefyd, roeddwn i eisiau codi mater y bobl heb basbortau yn Wcráin ar hyn o bryd. Mae nifer o bobl wedi cysylltu â mi sy'n ceisio cefnogi'r rheini. Yn amlwg, mae Llywodraeth y DU yn rhoi pwyslais mawr ar y ffaith bod yn rhaid i bobl fod yn meddu ar basbort er mwyn gallu dod yma, ond nid yw gwledydd eraill yn gosod yr un cyfyngiad. Yn amlwg, os ydych chi'n dianc rhag rhyfel, nid yw gallu dod â'ch holl ddogfennau yn rhywbeth sydd mor hawdd, a hefyd efallai nad yw rhai pobl wedi cael pasbortau yn y lle cyntaf ac yn ceisio sicrhau'r rheini nawr. Felly, roeddwn i eisiau gofyn: pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar hyn o bryd i gynorthwyo'r rheini sydd heb basbort am amrywiaeth eang o resymau yn Wcráin er mwyn iddynt allu cyrraedd yma'n ddiogel?
Diolch yn fawr, Heledd. Mae'r rheini'n gwestiynau pwysig iawn, sy'n cael eu trafod ar hyn o bryd, ynglŷn â'r gallu i gael gafael ar gymorth iaith. Rwyf i eisoes wedi rhoi rhywfaint o fanylion o ran ESOL, gan geisio sicrhau mai ymateb addysg bellach, addysg uwch, traws-Gymru yw hwn. Ond er enghraifft, o ran y canolfannau croeso, bu cyswllt hefyd â ColegauCymru yn ogystal ag awdurdodau lleol i edrych ar y ddarpariaeth. O ran estyn allan am lwybrau iaith i gefnogi ffoaduriaid i integreiddio, mae hyn yn cynnwys y gallu i ddysgu Cymraeg, ac i'r plant hefyd. Rwy'n credu mai'r peth arall sy'n digwydd sy'n dda iawn yw bod ffoaduriaid yn cyrraedd gyda sgiliau iaith da iawn sydd eisoes—ac rwy'n credu ein bod ni wedi clywed hyn gan gyd-Aelodau—mewn gwirionedd yn cael swyddi i helpu o ran gallu dehongli a dechrau gweithio o ran cymorth addysgu.
Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn hyblyg—rydym ni eisiau bod â chymaint o hyblygrwydd ar ôl i bobl gyrraedd yma—a disgresiwn. Efallai fod hynny'n wir o ran cymwysterau, mynediad. Dyna ein neges ni i awdurdodau lleol—bod angen iddyn nhw fod mor agored a defnyddio eu disgresiwn gymaint â phosibl. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn berthnasol i'r holl faterion eraill o ran biometreg ac ati. Os gwelaf fod rhwystrau'n dod i'r amlwg, byddaf yn codi hyn gyda'r Gweinidog Ffoaduriaid. Nid yw hyn yn dderbyniol. Ydym, rydym ni'n gwybod ble'r ydym ni gyda'r fisâu, ond ni ddylem ni fod ag unrhyw rwystrau eraill. Ni all pobl gael gafael ar eirdaon a'r holl faterion hyn. Rhaid iddyn nhw allu mynd drwodd ar unwaith i gael eu hanghenion heb o reidrwydd—. Maen nhw wedi dianc rhag gwrthdaro a rhyfel, a dyna'r sefyllfa. Gallaf eich sicrhau, os oes rhwystrau, y byddaf i yn eu codi, ond os yw'r rhwystrau yma, dylem ni fod yn eu goresgyn.
Gweinidog, mae teulu yn fy etholaeth i wedi rhoi llety i deulu o Wcráin, ac mae pob un ohonyn nhw'n ymgartrefu'n dda, ar wahân i un mater penodol, sef bod y teulu hwn yn ei chael hi'n anodd cael eu hailuno â'u hanifeiliaid anwes. Mae problem ddifrifol yma oherwydd bod gan y ferch fach dan sylw anghenion arbennig ac mae mawr angen iddi fod gyda'r anifeiliaid anwes hynny. Mae'n fater difrifol mewn gwirionedd, oherwydd maen nhw wir yn ystyried gadael Cymru o ganlyniad. Mae'n fater difrifol mewn gwirionedd. Ond yn ôl yr hyn rydw i'n ei ddeall, mae'r tair cath dan sylw mewn cwarantin yn Swydd Gaerhirfryn, ac yn cael eu symud i rywle arall yn Lloegr ar gyfer cwarantin, er eu bod wedi pasio eu holl brofion gwrthgyrff a phrofion priodol. Rwy'n gallu gweld Janet Finch-Saunders yn cytuno â mi, ac rwy'n gwybod bod teuluoedd eraill yn Wcráin hefyd wedi profi'r un broblem hefyd.
Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, mae gan Lywodraeth y DU reolau llai llym ar gyfer dod ag anifeiliaid anwes o Wcráin i gefnogi teuluoedd sy'n dianc rhag y parth rhyfel hwnnw, ac mae'n talu am yr holl wiriadau perthnasol mae angen eu cynnal hefyd, ond mae'n ymddangos, am ryw reswm, fod safbwynt polisi gwahanol yng Nghymru nag sydd i Loegr a'r Alban. Felly, i'r teulu hwn, pe baent yn cael llety yn Lloegr neu'r Alban, byddai eu hanifeiliaid anwes bellach wedi cael eu hailuno gyda nhw eisoes. Rwy'n credu bod y stori arbennig hon wedi taro cyfryngau Cymru y prynhawn yma, ac rwy'n deall fod llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud mai diogelu lles anifeiliaid yng Nghymru yw hyn. Ond mae'n ymddangos nad oes rheswm rhesymegol pam y dylid mabwysiadu dull gwahanol yng Nghymru nag sydd o Loegr a'r Alban.
Ar ôl i mi eistedd i lawr, byddaf yn anfon y manylion penodol atoch chi, Gweinidog, ond byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi ofyn i'ch swyddogion archwilio hyn, nid yn unig i'r teulu hwn, ond i deuluoedd eraill o Wcráin sy'n ceisio sefydlu eu hunain yma yng Nghymru, ac am gael eu hailuno â'u hanifeiliaid anwes.
Diolch yn fawr iawn, Russell George. Rydym ni'n deall pa mor bwysig yw anifeiliaid anwes pobl iddyn nhw ac felly rydym ni am wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl sy'n ceisio lloches yng Nghymru yn cael eu hailuno—rydych chi wedi rhoi un enghraifft—gyda'u hanifeiliaid anwes am eu bod wedi bod mewn cwarantin. Mae hyn yn rhywbeth, unwaith eto, rydw i wedi'i godi mewn cyfarfod tair gwlad ddydd Iau diwethaf, ac rydym ni'n mynd i roi hyn ar yr agenda pan fyddwn ni'n cyfarfod eto â'r Gweinidogion i edrych ar sut rydym ni'n ymdrin â hyn. Ond mae'n rhaid i mi ddweud ein bod yn ymgynghori nid yn unig â Llywodraeth y DU, ond Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a'n hawdurdodau lleol ynglŷn â'r ffordd orau o gefnogi'r rhai sy'n dod ag anifeiliaid anwes gyda nhw. Yn amlwg, mae'n ymwneud â diogelu iechyd anifeiliaid a'r cyhoedd. Nid oes ond angen i mi ddweud, cyn cyrraedd, y dylai pobl o Wcráin gysylltu â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Ac, wrth gwrs, mae ein canolfan gyswllt, 24/7, yn delio â'r materion hyn, ac rydym ni wedi bod yn cefnogi ffoaduriaid i sicrhau y gall eu hanifeiliaid anwes ddod gyda nhw.
Gweinidog, rydw i'n mynd i godi derbyniadau i ysgolion hefyd, oherwydd mae etholwyr o Gaerdydd a Bro Morgannwg wedi cysylltu â mi hefyd. Maen nhw wedi cysylltu â'u hawdurdodau lleol, maen nhw wedi cysylltu ag ysgolion, ac nid ydyn nhw wedi cael unrhyw atebion, neu unrhyw wybodaeth, neu dim ond dweud bod yr ysgol yr oedden nhw ei heisiau, yr ysgol agosaf maen nhw am ei mynychu, yn llawn. Cyn cael fy ethol yma, roeddwn i'n arfer delio'n weddol rheolaidd ar sail pro-bono gyda derbyniadau i ysgolion ac, er syndod, mae'n debyg bod y gyfraith yn ddiangen o gymhleth yn y mater hwn. Ond yn gyffredinol, lle mae ewyllys, mae ffordd gyfreithiol o sicrhau bod pob plentyn o Wcráin yn cael ei dderbyn i'r ysgol agosaf atyn nhw. Rydw i'n falch o glywed eich bod wedi rhoi arweiniad i awdurdodau lleol, ond, yn amlwg, nid yw'r neges yn torri drwodd. Pa bethau pellach y gallwch chi eu gwneud, Gweinidog, efallai mewn cydweithrediad â'r Gweinidog addysg, i bwysleisio i'r awdurdodau lleol fod angen i'r plant hyn o Wcráin gael eu derbyn i'r ysgol agosaf i'w cartrefi newydd? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr. Mae hyn yn rhywbeth, fel rydw i wedi'i ddweud, sy'n drawslywodraethol. Rydyn ni'n pwyso a mesur nawr, wrth i'r rhai sy'n cyrraedd ddod. Yn amlwg, mae rhai pwysau mewn rhai ysgolion o ran dalgylchoedd, ond byddwn ni'n mynd ar drywydd hyn, gyda fy nghyd-Weinidog Jeremy Miles, y Gweinidog addysg. Rhaid i awdurdodau lleol hefyd gymryd y cyfrifoldeb a sicrhau bod cyfathrebu da gyda'r teuluoedd noddi a'r ffoaduriaid wrth iddyn nhw gyrraedd. Ac mae eu cael i'r ysgol cyn gynted â phosibl yn hanfodol, gan fynd yn ôl at y cwestiynau cynharach am blant a'u hiechyd meddwl a'u lles.
Diolch i'r Gweinidog.