1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 18 Mai 2022.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar reolaeth lefelau dŵr yng nghronfa ddŵr Llyn Clywedog, Powys? OQ58059
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Cefin Campbell. Caiff y gwaith o reoli lefelau dŵr a gollwng dŵr o gronfa ddŵr Clywedog ei lywodraethu gan ddeddfwriaeth glir a sefydledig. Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr sy'n gyfrifol am reoli'r gollyngiadau a lefelau dŵr, mewn ymgynghoriad â Cyfoeth Naturiol Cymru.
Diolch yn fawr iawn. Wel, yn ddiweddar iawn, ces i gyfarfod gyda nifer o ffermwyr yn ardal Llanidloes ym Mhowys, gan drafod pryderon gyda nhw am sut mae lefelau dŵr yn cael eu rheoli yng nghronfa ddŵr Clywedog a'r effaith mae hyn yn ei chael ymhellach lawr y dyffryn, gyda thir amaethyddol ac eiddo yn cael eu heffeithio gan lifogydd, a hynny mor ddiweddar â mis Chwefror eleni.
Nawr, mae fy nghyd-Aelod dros sir Drefaldwyn, Russell George, wedi tynnu sylw'r Senedd at hyn yn barod, ac mae'n debyg bod cryn amwysedd ynglŷn â phwy sy'n rheoli'r gronfa ddŵr a'r gollyngiadau dŵr—ai asiantaeth amgylchedd Lloegr neu Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol. Dwi'n gwybod bod dŵr yn fater emosiynol iawn yng Nghymru a bod y gronfa hon wedi cael ei sefydlu er mwyn darparu dŵr a lliniaru llifogydd ymhellach i ffwrdd o Gymru, felly dwi'n siŵr eich bod chi'n deall pryderon lleol. Ac mae'n bosibl fod modd dadlau bod camreoli traws-sefydliadol wedi achosi llifogydd ar yr ochr yma i'r ffin. Felly, gaf i ofyn pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda'r gwahanol asiantaethau i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon ynghylch rheoli llifogydd ar ochr Cymru ac a ydych chi'n gallu cadarnhau a oes bwriad i ehangu cronfa ddŵr Clywedog yn y dyfodol?
Ie, diolch yn fawr iawn am y gyfres honno o ymholiadau. Ac wrth gwrs, rydym yn deall sensitifrwydd y mathau hyn o faterion i bobl Cymru yn ogystal â'r holl bobl sy’n dibynnu ar yr afonydd a’r dalgylchoedd am amrywiaeth o bethau, gan gynnwys eu dŵr yfed.
Felly, fel y gwyddoch yn barod, rwy’n siŵr, Hafren Dyfrdwy sy'n berchen ar gronfa ddŵr Clywedog. Dylid cynnwys cynigion ar gyfer defnydd ychwanegol o'r dŵr neu opsiynau trosglwyddo yng nghynllun rheoli adnoddau dŵr y cwmni. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd a CNC yn cydnabod effeithiau llif dŵr uchel ar landlordiaid lleol ac ymhellach i lawr afon Hafren. Ac mae pob un o’r sefydliadau sydd ynghlwm wrth hyn wedi ymrwymo i gynnal adolygiad hirdymor i foderneiddio'r gwaith o reoli'r gronfa ddŵr er mwyn mynd i'r afael â heriau’r dyfodol yn y ffordd orau, sy’n amlwg yn beth cymhleth iawn i’w wneud, ac sy’n debygol o gymryd cryn dipyn o amser a deddfwriaeth newydd i sicrhau'r newid cynaliadwy hirdymor hwnnw. Yn y cyfamser, mae CNC yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i roi unrhyw newidiadau posibl i’r gweithdrefnau ar waith o dan y rheolau a’r ddeddfwriaeth gyfredol a allai wella gweithrediad y cynllun ar hyn o bryd, gan bwyso ar brofiadau o reoli systemau tebyg eraill yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Dylai’r newidiadau gael effaith fuddiol ar y gwaith o liniaru llifogydd o ystyried natur y dalgylchoedd, ond mae’n annhebygol y gallai’r newidiadau hyn wneud gwahaniaeth sylweddol os ceir sawl achos o lawiad o’r maint a welsom dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac felly mae angen adolygiad mwy hirdymor o'r broses gyfan.
Ein polisi, yn amlwg, yw lleihau a rheoli'r perygl o lifogydd i bobl a chymunedau dros y degawd nesaf, ac mae hynny wedi’i nodi yn y strategaeth llifogydd genedlaethol. Mae'n tanlinellu pa mor bwysig yw perygl llifogydd i ni ynghyd â'r risgiau cynyddol sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd yn sgil llifogydd ac erydu arfordirol.
Yn ogystal, fel rhan o'r cynllunio mwy hirdymor ar gyfer y cyflenwad dŵr, rydym yn edrych ar gynlluniau a allai gyflenwi dŵr lle rhagwelir diffygion dros yr 50 mlynedd nesaf. Mae Hafren Dyfrdwy, sy'n gweithredu'r gronfa ddŵr, fel y dywedais eisoes, a Severn Trent yn edrych ar gynllun ar y cyd i archwilio ymarferoldeb yr argae fel y gellid anfon mwy o ddŵr i lawr afon Hafren yn ystod cyfnodau sych—felly, y gwrthwyneb i’r llifogydd—i gynnal llif dŵr yn yr afon, lle rhagwelir diffyg. Ond nid yw hynny'n rhan o'r cynllun rheoli adnoddau dŵr drafft presennol, sy'n cael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru beth bynnag. Felly, os caiff hwnnw ei gyflwyno, byddwn yn sicr yn edrych arno fel y gallwn fod yn fodlon ei fod yn addas at y diben, ar gyfer dalgylch afon Hafren ac ar gyfer y bobl leol.
Weinidog, rwy’n ddiolchgar i Cefin Campbell am godi’r mater hwn, mater rwyf wedi’i godi nifer o weithiau o’r blaen, ynglŷn â rhwystredigaeth tirfeddianwyr i lawr yr afon o ganlyniad, yn eu barn hwy—a byddwn yn cytuno—i'r angen i newid y rheolau gweithredol ar gyfer argae Clywedog. Nawr, rwy'n deall ei fod yn fater cymhleth—rwyf wedi codi hyn droeon gyda'ch rhagflaenwyr hefyd—ond a gaf fi ofyn pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i'r taliad i dirfeddianwyr am reoli gorlifo tir lle byddai hynny wedyn yn helpu i liniaru llifogydd mewn eiddo ymhellach i lawr yr afon? A hefyd, Weinidog, rwy'n ymwybodol, neu—bûm mewn cyfarfod ag amrywiol randdeiliaid, gan gynnwys CNC, Asiantaeth yr Amgylchedd, gyda Gweinidog Llywodraeth y DU, Rebecca Pow, yn gynharach eleni—yn y cyfarfod hwnnw, gwn fod y Gweinidog yn mynd i ysgrifennu atoch i ofyn am gydweithredu a chydweithio pellach. Tybed a ydych wedi derbyn y llythyr hwnnw, a ydych wedi ymateb, a beth yw’r trafodaethau yr ydych yn eu cael gyda Gweinidog Llywodraeth y DU, Rebecca Pow, ar lunio dull cydweithredol o reoli argae Clywedog yn well, ac adolygu'r rheolau gweithredu?
Ie, roeddwn yn ymwybodol fod y Gweinidog Pow wedi ymweld â’r gronfa ddŵr. Ac mewn gwirionedd, trafodais y mater gyda hi ymlaen llaw, mewn grŵp rhyngweinidogol, ond mae’n debyg ei bod wedi sôn am hynny ar y pryd. Rydym yn awyddus iawn i weithio ar draws y ffin ar gyfer y dalgylchoedd sy’n llifo dros y ffin, ac yn wir, i rannu arferion da lle mae hynny’n effeithiol ar gyfer y cymunedau ar y naill ochr a'r llall i'r ffin. Oherwydd yn amlwg, ceir nifer o ddalgylchoedd yn Lloegr nad ydynt yn croesi'r ffin i mewn i Gymru, ond gallant ddysgu gwersi serch hynny o rai o'r mesurau naturiol i amddiffyn rhag llifogydd yr ydym yn eu rhoi ar waith yma yng Nghymru, er enghraifft. Felly, rydym wedi cyfnewid y llythyrau hynny.
A gwyddoch yn well na minnau, yn ôl pob tebyg, Russell, am afon Hafren a'i phwysigrwydd amgylcheddol i Gymru fel afon sy'n ardal cadwraeth arbennig, at gyfres gyfan o ddibenion, gan gynnwys dŵr yfed ac amddiffyn rhag llifogydd, amddiffyn rhag sychder, ac yn y blaen. Felly, mae rhan o'r cynllun hirdymor yr wyf newydd ei grybwyll mewn ymateb i Cefin Campbell yn ymwneud ag edrych ar beth yn union yr ydym yn gofyn i'r tirfeddianwyr ei wneud—perchnogion glannau'r afon a'r tirfeddianwyr cyfagos—ar hyd dalgylch afon Hafren ac o gwmpas y gronfa ddŵr, i ganfod sut beth ddylai cynllun hirdymor ar gyfer hynny fod, mewn cydweithrediad â’r tirfeddianwyr hynny, ac yna i gyflwyno’r hyn rydym yn disgwyl y bydd yn newid deddfwriaethol er mwyn gwireddu’r gallu i reoli’r system honno’n well. Ond mae honno'n strategaeth hirdymor, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac yn amlwg, rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi a Cefin ac eraill wrth inni fwrw ymlaen â'r broses honno.