Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 18 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:42, 18 Mai 2022

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Natasha Asghar. Mae'r cwestiynau yma i'w hateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Natasha Asghar.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, mae’r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf fod Llywodraethau’r DU a Chymru wedi dod i gytundeb i sefydlu porthladd rhydd newydd yng Nghymru yn hynod gyffrous. Mae gan y cytundeb hwn, sy’n werth miliynau o bunnoedd, botensial i ddarparu miloedd o swyddi lleol, gan ysgogi arloesedd a hybu buddsoddiad busnes, a darparu manteision a chyfleoedd i'r cymunedau sydd eu hangen fwyaf. Mae’r ddwy Lywodraeth wedi cytuno y byddent yn barod i ystyried yr achos dros borthladd rhydd ychwanegol arall yng Nghymru pe bai cynnig gwirioneddol eithriadol yn cael ei gyflwyno yn ystod y cam cyflwyno ceisiadau. Ddirprwy Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda chyd-Weinidogion a phartïon sydd â diddordeb ynghylch annog ceisiadau am statws porthladd rhydd, a pha gymorth yr ydych chi'n bersonol yn ei ddarparu i sicrhau bod y ceisiadau hyn o’r ansawdd gorau posibl fel bod Cymru’n cael y budd mwyaf posibl o'r buddsoddiad hwn o £26 miliwn gan Lywodraeth y DU? Diolch.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 1:43, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Rydym yn falch, yn amlwg, ein bod wedi gallu dod i gytundeb o'r diwedd gyda Llywodraeth y DU ar y porthladdoedd rhydd. Mae wedi bod yn drafodaeth hirach nag y dylai fod, ac nid oedd y ffordd y’i cynhaliwyd yn ddelfrydol, ond rwy’n falch inni ddod i gytundeb yn y pen draw. Dangosodd fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, gryn dipyn o amynedd i sicrhau canlyniad boddhaol, ac ef sydd wedi bod yn arwain y trafodaethau hynny. Roeddwn yn awyddus iawn i sicrhau, fel rhan o’n cytundeb, fod gennym ffin fân-dyllog rhwng y gwahanol borthladdoedd yng Nghymru i ganiatáu cydweithredu, yn enwedig er mwyn iddynt fanteisio ar gyfleoedd ynni’r môr ac ystyried y porthladdoedd yn ddarn allweddol o seilwaith i'n galluogi i fanteisio ar y cyfleoedd economaidd, yn ogystal â chyfleoedd ynni gwynt ar y môr Celtaidd o ran cynaliadwyedd.

Felly, cafwyd cytundeb y bydd y Trysorlys a Llywodraeth y DU yn ystyried ceisiadau ar gyfer cyfuno porthladdoedd gwahanol, a allai ganiatáu i Aberdaugleddau a Phort Talbot gyflwyno cais ar y cyd, ac mae geiriau yn y cytundeb sy’n caniatáu inni archwilio mwy nag un cais. Ond maent yn ddibynnol, fel y nododd Natasha Asghar, ar farn Llywodraeth y DU am ansawdd y cynigion hynny, ond ni chafwyd unrhyw ddiffiniad o sut beth yw cynnig o ansawdd. Felly, mae'n sgwrs barhaus. Rydym yn awyddus i achub ar y cyfleoedd ac mae gennym amheuon o hyd ynghylch prif bwyslais y polisi, ond rydym yn benderfynol o gydweithio er budd Cymru.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 1:44, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio bod disgwyl i gost prosiect metro de Cymru fod yn sylweddol uwch na’i gyllideb o £734 miliwn. Er na roddwyd unrhyw arwyddion pendant o swm disgwyliedig y gorwariant, rhagwelir y bydd yn ddegau o filiynau o bunnoedd. Mae gan brosiect metro de Cymru gadwyn gyflenwi gymhleth, ac mae’r pandemig a chostau cynyddol wedi effeithio ar argaeledd deunydd adeiladu. Pan fydd yr arian wrth gefn ar gyfer unrhyw orwariant wedi dod i ben, mae'n anochel y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru dalu'r gost ychwanegol. Felly, Ddirprwy Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â gwneud cynlluniau wrth gefn ar gyfer sefyllfa o’r fath, ac a oes perygl y bydd oedi i'r gwaith o gwblhau metro de Cymru, gyda’r holl oblygiadau amgylcheddol ac ariannol y gallai hynny ei olygu? Diolch.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 1:45, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’r cyhoeddiad heddiw fod chwyddiant yn y DU wedi cyrraedd 9 y cant ym mis Ebrill. Mae chwyddiant yn y diwydiant adeiladu yn agosach at 30 y cant, felly mae unrhyw brosiect seilwaith yn cael ei effeithio gan gostau uwch; mae hynny, mae arnaf ofn, yn anochel, o ystyried y ffordd y mae chwyddiant yn codi'n afreolus. Felly, wrth gwrs, nid yw'r prosiect metro'n ddiogel rhag hynny, a bydd y costau'n cael eu heffeithio. Rydym yn edrych ar hynny'n ofalus i ddeall y goblygiadau i gyflymder a maint y gwaith. Cyfarfûm â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru yr wythnos diwethaf i drafod hyn. Nid oes gennym ddarlun clir—sut y gallem, o ystyried cyflwr yr economi—o ganlyniad terfynol hyn, ond rydym wedi ymrwymo i'r metro.

Byddai'n sicr o gymorth pe gallai Llywodraeth y DU ddarparu cyfran Cymru o'r gwariant ar y seilwaith rheilffyrdd. Ar hyn o bryd, rydym yn ariannu hyn yn gyfan gwbl ar ein pen ein hunain, gyda rhywfaint o gymorth o gronfeydd yr UE. Ond fel yr ydym wedi'i ailadrodd yn y Siambr hon sawl tro, pe byddem yn cael ein cyfran o brosiect HS2, byddai Cymru'n cael £5 biliwn yn y grant bloc, y byddem yn gallu ei ddefnyddio i wella buddsoddiad. Rwy'n ailadrodd fy ngalwad ar Natasha Asghar a’i chyd-Aelodau unwaith eto i ymuno â ni mewn ymdrech drawsbleidiol i alw ar Lywodraeth y DU i wneud yr hyn y dywedodd y Pwyllgor Materion Cymreig dan arweiniad y Torïaid oedd y peth iawn i’w wneud, sef Barnetteiddio gwariant HS2 i ganiatáu i Gymru gael ein cyfran o wariant y DU. Byddwn yn sicr yn croesawu ei chymorth i ddadlau'r achos hwnnw ar y cyd.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 1:47, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Fel y gwyddoch yn well nag unrhyw un, mae eich Llywodraeth wrthi'n treialu cynlluniau peilot i gyflwyno terfynau cyflymder 20 mya ar bob ffordd gyfyngedig yng Nghymru. Yng Nghil-y-coed yn fy rhanbarth i, Dwyrain De Cymru, mae trigolion lleol yn cwyno bod tagfeydd wedi gwaethygu ers cyflwyno’r terfyn hwn, yn enwedig ar amseroedd agor a chau ysgolion. Mae ceir, ac rwy'n dyfynnu, 'yn ymlusgo ar hyd y ffordd mewn gêr is gan achosi llygredd, ac mae rhwystredigaeth yn peri i yrwyr gyflymu a thorri'r terfynau cyflymder cyn gynted ag y cânt gyfle i wneud hynny.' Yn y Fenni, rhan arall o fy rhanbarth, mae gosod terfyn cyflymder o 20 mya ar Ffordd Trefynwy, sy’n cludo’r A40 o gylchfan Hardwick, wedi’i alw'n anymarferol a pheryglus gan drigolion lleol.

Nid oes gennyf unrhyw broblem—a hoffwn i hyn gael ei gofnodi—gyda chyfyngiadau cyflymder is ar ffyrdd lle y ceir llawer o gerddwyr, megis y tu allan i siopau, ysgolion, y stryd fawr, mannau addoli ac ati. Fodd bynnag, Ddirprwy Weinidog, mae’n amlwg fod y cyfyngiad cyflymder 20 mya cyffredinol hwn yn achosi problemau mawr ar ffyrdd prysur i gymudwyr. Felly, Ddirprwy Weinidog, fy nghwestiwn yw: ai gwir fwriad eich cynlluniau peilot yw llywio eich cynigion, neu a ydynt yn fantell ar gyfer cynlluniau y cytunwyd arnynt eisoes? Diolch.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 1:48, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Yn y Senedd ddiwethaf, cawsom gefnogaeth drawsbleidiol i gyflwyno’r polisi o derfynau cyflymder 20 mya ar ffyrdd lleol. Fe wnaethom sefydlu tasglu a ymgynghorodd yn eang iawn ac a gynhwysodd randdeiliaid wrth weithio drwy fanylion y ffordd orau o lunio a gweithredu'r polisi hwn. Un o’r pethau y cytunwyd arnynt oedd y byddem yn mynd ati mewn wyth ardal i dreialu gwahanol ddulliau o sicrhau y gellid cyflwyno hyn yn ddidrafferth pan gaiff ei weithredu y flwyddyn nesaf. Bydd angen inni ddod yn ôl i’r Senedd cyn bo hir cyn y gellir bwrw ymlaen â hynny. Mae diben y cynlluniau peilot hynny yn ddiffuant: deall a dysgu am y ffordd orau o'i weithredu.

Soniodd yr Aelod am ystod o wrthwynebiadau rwy'n gyfarwydd â hwy. Credaf fod rhai ohonynt yn deg, mae rhai ohonynt yn ganlyniad i'r ffaith bod rhai pobl yn gwrthwynebu newid a ddim eisiau cadw at derfynau cyflymder is. Mae'r arolwg wedi dangos yn fras fod 80 y cant o bobl o blaid y polisi, a 20 y cant o bobl yn ei erbyn. Mae’r 20 y cant hynny o bobl yn lleisio’u barn, ond ni chredaf y dylem ystyried hynny’n dystiolaeth fod y polisi wedi'i wrthod yn gyfan gwbl—i'r gwrthwyneb. Credaf fod cefnogaeth gyffredinol, hyd yn oed yn y cymunedau y soniodd amdanynt. Felly, bydd cyfleoedd i ddysgu o'r cynlluniau peilot.

Soniodd am y broblem o gael cyfyngiad cyffredinol o 20 mya. Nid y bwriad yw cael cyfyngiad cyffredinol o 20 mya. Un o'r pethau sy'n cael eu treialu yw'r broses eithriadau, fel y'i gelwir. Yn fras, mae Trafnidiaeth Cymru wedi llunio fformiwla ar gyfer pa ffyrdd y credant y dylid eu cyfyngu i 20 mya. Bydd pob cymuned yn cael cyfle i ymateb i ymgynghoriad ar hynny, a bydd cyfle i gynghorau lleol, sef yr awdurdodau priffyrdd, ddweud pa ffyrdd y dylid eu heithrio—pa ffyrdd y mae'n well eu cadw ar gyflymder o 30 mya. Yn yr ardaloedd peilot, mae’r broses eithrio honno’n cael ei phrofi. Yn sicr, rydym wedi gweld cryn dipyn o bryder ym Mwcle yn sir y Fflint ynghylch y ffordd y mae hynny wedi’i roi ar waith. Credaf fod llawer o wersi i gynghorau ac i Lywodraeth Cymru eu dysgu o hynny. Dyna holl bwynt ei dreialu—rhoi cynnig arni, dysgu gwersi ac addasu. Dyna y bwriadwn ei wneud.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd adroddiad hynod feirniadol gan Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd. Roedd yn rhybuddio Llywodraeth y DU fod y cynnydd i gyflawni ymrwymiadau amgylcheddol yn Lloegr yn rhy araf, ac mae’n gwneud argymhellion ar gyfer camau gweithredu brys. Mae’n pwysleisio’r angen am dargedau cyfreithiol rwymol.

Gwn ein bod wedi cael y drafodaeth hon sawl gwaith o’r blaen, Weinidog. Gwyddom nad yw sefyllfa'r amgylchedd yn llai difrifol yng Nghymru, ond serch hynny, nid oes gennym gorff annibynnol a all ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Gwn y gall pobl godi pryderon am weithrediad cyfraith amgylcheddol gyda'r asesydd dros dro ar gyfer diogelu amgylchedd Cymru, ond nid oes gan yr asesydd dros dro bwerau i ymchwilio a gweithredu mewn perthynas â methiannau canfyddedig neu achosion o dorri’r gyfraith gan gyrff cyhoeddus.

Mae gan Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd wefan ar gyfer y cyhoedd, ac maent wedi ymgynghori ar strategaeth ddrafft ar eu polisi gorfodi, ond nid yw hynny’n wir ar hyn o bryd am waith yr asesydd dros dro, gan nad yw yn y parth cyhoeddus. Felly, a ydych yn cydnabod, Weinidog, fod bwlch annerbyniol yn bodoli mewn perthynas â llywodraethu amgylcheddol yng Nghymru? A wnewch chi roi sicrwydd i’r Siambr, os gwelwch yn dda, y byddwch yn cyflwyno deddfwriaeth i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol a thargedau adfer natur i Gymru yn ail flwyddyn y Senedd hon?

Photo of Julie James Julie James Labour 1:52, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Rydym yn mynd i wneud hynny, yn bendant. Nid wyf am ei addo yn yr ail flwyddyn, Delyth, gan fod y mater yn nwylo'r rhaglen ddeddfwriaethol i ryw raddau. Mae gennym nifer fawr o flaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd, yn anffodus, ac mae'n ymwneud â beth sydd yn sefyllfa orau i fwrw ymlaen ag ef ar unrhyw adeg benodol, a sut y gallwn ei gael drwy'r systemau pwyllgor ac yn y blaen. Nid yw’n ymwneud â ph'un a ydym yn credu ei fod yn flaenoriaeth. Rydym yn credu ei fod yn flaenoriaeth.

Rwy'n falch iawn ein bod newydd ddechrau'r archwiliad dwfn ar fioamrywiaeth. Rwy'n falch iawn o sut yr aeth hynny yr wythnos diwethaf. Mae gennym gyfres gyfan ohonynt yn mynd rhagddynt yn awr. Er eglurder, mae gennym y grŵp craidd ar gyfer hynny, ond mae gennym hefyd gyfres o gyfarfodydd rhanddeiliaid ynghlwm wrth hynny a grwpiau arbenigol ynghlwm wrth hynny. Yna, byddaf yn gwneud datganiad i’r Senedd. Rwy'n gobeithio y bydd modd inni gael rhywbeth yn y Sioe Frenhinol ar ffurf proses ymgysylltu â’r cyhoedd ar hynny hefyd, pan fydd y broses ar gyfer y cam cychwynnol hwn wedi dod i ben.

Holl ddiben hynny yw dweud wrthym sut i gyrraedd 30x30, beth ddylai’r targed fod, a sut y dylem strwythuro hynny ar gyfer Cymru mewn ffordd sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad. Credaf ein bod yn rhannu’r farn fod angen i hynny ddigwydd. Yn sicr, hoffwn roi corff annibynnol ar waith sy’n ein dwyn i gyfrif, ond hoffwn wybod am beth y maent yn ein dwyn i gyfrif yn ei gylch, a sut y gallwn sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau bosibl i wneud hynny, cyn inni fynd amdani. Felly, edrychaf ymlaen yn fawr at ganlyniad yr archwiliad dwfn, sef y cam mawr cyntaf ar y llwybr i allu gwneud hynny.

Wedyn, Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd modd inni gael sesiwn yn y Senedd er mwyn inni allu cytuno sut y dylem fwrw ymlaen â hynny. Bydd penderfyniadau anodd i'w gwneud yn y cyfamser. Os ydym yn mynd i warchod 30 y cant o’n tirwedd i’r lefel y byddem yn ei hoffi, bydd hynny’n effeithio ar bobl sy’n byw yn y dirwedd honno ac sy’n gweithio ac sy’n dymuno gwneud cartref a bywyd gweddus ynddi. Felly, mae'n bwysig gwneud hyn yn iawn, er mwyn inni allu cael y gefnogaeth honno, yn ogystal â'r targedau.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 1:53, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Rwy’n sicr yn croesawu’r archwiliad dwfn, ac rwy’n cytuno â chi am yr angen i fod yn onest ac yn realistig gyda ni ein hunain, a chyda phobl Cymru, ynglŷn â sut y bydd yn rhaid gwneud rhai penderfyniadau anodd. Byddwn yn dal i bwysleisio, mewn gwirionedd, oni bai fod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei chyflwyno yn yr ail flwyddyn, fy mod yn poeni faint y gallai'r amser fynd yn ei flaen ymhellach. Ond hyderaf fod hynny’n rhywbeth y byddwch yn parhau i wthio amdano, gymaint â phosibl, o fewn y Llywodraeth. Rwy'n gobeithio y gwnewch chi hynny.

Rydych wedi dweud eisoes eich bod yn dymuno gweld y targedau adfer natur hyn ar gyfer Cymru yn cael eu llywio gan dargedau byd-eang a fydd yn cael eu cytuno yn uwchgynhadledd COP15. Mae'r uwchgynhadledd hon eisoes wedi'i gohirio. Mae ansicrwydd parhaus ynghylch pryd y bydd yn cael ei chynnal. Drwy gydol yr amser, rydym mewn argyfwng natur. Mae un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru. Gwn ein bod yn crybwyll yr ystadegyn hwnnw’n aml, ond rwy'n credu o ddifrif, weithiau, fod angen inni gamu y tu allan i ni'n hunain, bron, i feddwl pa mor ddinistriol y bydd hynny mewn gwirionedd.

A wnewch chi gadarnhau bod y ddeddfwriaeth ar gyfer targedau adfer natur, pan gaiff ei chyflwyno—? Rwy'n derbyn eich pwynt ynglŷn â sut nad ydych yn gwybod eto a ellir gwneud hyn yn ail flwyddyn y Senedd, er fy mod o ddifrif yn eich gwthio ar hynny unwaith eto, os gwelwch yn dda. A fydd hynny’n cael ei effeithio gan unrhyw oedi pellach yn uwchgynhadledd COP15, neu a oes prosesau yn y Llywodraeth i sicrhau nad yw hynny’n mynd i fod yn rhwystr pellach i’w chyflwyno, os gwelwch yn dda?

Photo of Julie James Julie James Labour 1:55, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'n drueni mawr ei bod wedi'i gohirio am amrywiaeth o resymau. Mae'n drueni mawr i'r byd, heb sôn am Gymru. Un agwedd yr hoffwn ei gweld ar y gwaith, ac mae hyn yn rhan o broses yr archwiliad dwfn hefyd, i gael cyngor ar hyn, yw sut y gallwn strwythuro’r targedau fel y gellir eu tynhau ond nid eu llacio. Mae’n hawdd strwythuro targedau y gellir eu newid, ond hoffwn roi proses ar waith lle y gellir cyflymu’r targedau hynny, ond lle na ellir eu llacio’n hawdd. Rwy'n sylweddoli, yn amlwg, y gallai unrhyw Senedd wrthdroi'r ddeddfwriaeth gyfan a’u llacio, ond hoffem gael proses lle y gall rhyw fath o fethodoleg, offerynnau statudol, rheoliadau—nid wyf yn gwybod, rhywbeth; dyma y mae gennyf bobl yn gweithio arno—gyflymu'r targedau hynny neu ychwanegu rhai newydd fel y bo'n briodol wrth i dystiolaeth ddod i'r amlwg yn sgil COP a phrosesau eraill, ond heb roi'r disgresiwn inni allu eu dadwneud am unrhyw reswm. Mae hynny'n hawdd iawn i mi ei ddweud, ond mae'n eithaf anodd ei wneud. Felly, mae rhan o'r hyn y ceisiwn weithio arno yn ymwneud â chanfod, gyda'r arbenigwyr hyn, a yw hynny'n bosibl, ac os felly, sut y gallwn ei wneud.

Mae'n ymwneud â'r targedau cychwynnol, sut beth yw 30x30. Tri deg y cant erbyn 2030—mae'n wych i'w ddweud, ond beth y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd? Beth yw'r 30 y cant? Tri deg y cant o beth? Ac ai 30 y cant o Gymru neu 30 y cant o bob ardal awdurdod lleol neu 30 y cant o bob cymuned ydyw? Am beth y soniwn mewn gwirionedd? Ac yna beth yw'r 30 y cant o rywogaethau y soniwn amdanynt? Neu a yw'n 30 y cant ar draws pob rhywogaeth, neu beth? Nid wyf yn gwybod yr ateb i unrhyw un o’r cwestiynau hynny eto. Felly, rhan o'r hyn a wnawn yw, 'Beth yw'r ateb? A oes ateb? Beth yw'r consensws?', ac yna sut y gallwn gael proses gyflymu er mwyn gwarchod mwy a mwy o rywogaethau a darnau o dir, gan nad ydym am gael system ychwaith lle mae gennym 30 y cant o'r tir wedi'i gadw'n hyfryd a 70 y cant o'r tir wedi'i balmantu. Yn amlwg, nid dyna rydym am ei weld ychwaith.

Mae hyn oll yn ymwneud â’r cydbwysedd, sut y defnyddiwn y 30 y cant, efallai, fel esiampl, sut y defnyddiwn hynny fel enghraifft o'r hyn y gellir ei wneud mewn mannau eraill yng Nghymru, sut y gallwn gynnwys cymaint â phosibl o dirfas Cymru, a chymaint â phosibl o'r rhywogaethau ac yn y blaen. Felly, mae'n beth hawdd i'w ddweud, ond mewn gwirionedd, mae'n wirioneddol gymhleth i'w wneud mewn ffordd sy'n ystyrlon ac sy'n ein dwyn i gyfrif mewn ffordd lle na allaf godi a dweud, 'O ie, mae 30 y cant o holl dir Cymru wedi'i warchod ar hyn o bryd', gan nad dyna ble mae unrhyw un ohonom yn dymuno bod. Felly, nid yw'n fater o fod eisiau ei wneud; rydym yn parhau â'r prosesau hyn am ein bod eisiau ei wneud yn iawn.