Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 18 Mai 2022.
Rwy'n falch fod yr adroddiad hwn wedi'i gyflwyno i'w drafod heddiw. Derbyniwyd 15 o'r argymhellion, a derbyniwyd pump mewn egwyddor. Mae hynny'n swnio'n dda, ond mae arnaf ofn y gellid dweud bod y sector morol yn cael cam wrth inni ystyried y manylion.
Mewn ymateb i argymhelliad 1, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adrodd ar effeithiolrwydd cynllun morol cenedlaethol Cymru. Fodd bynnag, mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn gywir iawn yn pwysleisio y dylech gadarnhau y bydd yr adolygiad yn ystyried yr angen am gynllun datblygu morol gofodol a chyfannol statudol. Credaf fod y Gweinidog a'r Senedd wedi fy nghlywed yn sôn am hyn sawl gwaith. Yr hyn rwy'n pryderu'n fawr amdano—a chredaf ei fod yn rhywbeth y mae fy nghyd-Aelod, Huw Irranca, wedi'i grybwyll—yw ein bod angen ynni adnewyddadwy blaengar, ond rhaid inni ofalu am ein systemau ecolegol hefyd. Rwy'n poeni'n fawr am y dull ad hoc hwn o weithredu—fod datblygwyr yn dod i mewn ac mae'n ymddangos eu bod yn nodi lle maent eisiau datblygu, ond sut y mae hynny wedyn yn cymryd ei le mewn cynllun cyffredinol, cynllun strategol?
Rydych wedi fy nghlywed yn siarad am yr angen am gynllun datblygu morol i Gymru droeon. Serch hynny, dyna sydd ei angen arnom. Er enghraifft, tynnodd RSPB Cymru sylw at ddiffyg elfen ofodol neu bolisïau rheoli datblygu, sy'n golygu nad yw'r cynllun presennol yn ymgorffori blaengynlluniau strategol nac yn ceisio mynd i'r afael â gwrthdaro mewn modd rhagweithiol, a gall hynny wedyn achosi oedi i gynlluniau. Felly, byddwn yn falch pe gallai'r Gweinidog egluro pam ei bod yn fodlon i'w Dirprwy Weinidog fynd ar drywydd ardaloedd adnoddau strategol, ond nad yw'n barod i greu cynllun datblygu morol manwl.
Yn yr un modd, mae arnom angen mwy o uchelgais ar y camau sy'n cael eu cymryd i ddiogelu'r amgylchedd morol. Eisoes, rydych wedi cydnabod bod bylchau yn y dystiolaeth mewn perthynas â rhyngweithio rhwng y dechnoleg a'r amgylchedd. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod cynllun morol cenedlaethol Cymru yn annog rhannu tystiolaeth. Fel y dywedodd y pwyllgor yn ein hadroddiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23, mae'r ffaith nad oes gennym sylfaen dystiolaeth gadarn i ategu penderfyniadau datblygu yn golygu bod risgiau cynhenid o ran cynyddu'r datblygiad morol hwn.
Mae Emily Williams o Cyswllt Amgylchedd Cymru yn dweud bod datblygwyr yn casglu llawer iawn o ddata morol wrth iddynt ddatblygu prosiectau, ond bod llawer ohono wedyn yn aml yn cael ei nodi fel deunydd masnachol sensitif. Felly, Weinidog, rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno bod angen inni gyrraedd pwynt lle mae trwyddedau datblygu morol angen eu monitro cyn ac ar ôl gwaith adeiladu a rhannu gwybodaeth, fel bod datblygwyr yn gwneud mwy o gyfraniad i'r sylfaen dystiolaeth sy'n sail i gynllunio morol.
Yn ddiweddar, synnais glywed bod cynllun Gwynt y Môr, a'n pysgotwyr lleol a ddywedodd hyn wrthym, mewn gwirionedd—. Diflannodd 13 rhywogaeth o bysgod, ac mae pum rhywogaeth o bysgod nad ydynt erioed wedi dychwelyd, ac roedd hynny flynyddoedd yn ôl. Felly, mae angen inni weld cynnydd ar ddynodi ardaloedd morol gwarchodedig yn y dyfodol hefyd. Mae un Lywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru wedi oedi ar hyn, er gwaethaf y ffaith ei fod yn arf i fynd i'r afael â bygythiadau deuol yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Yn wir, nid oes amheuaeth nad oedd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn 2012 yn drychineb. Cyfeiriodd Clare Trotman ato—a bu Clare yn gwneud gwaith i'r Gymdeithas Cadwraeth Forol—fel methiant. Galwodd Sue Burton ef yn druenus o annigonol, a dywedodd Dr Richard Unsworth fod yr ymgynghoriad wedi methu edrych ar brofiad parciau morol llwyddiannus ac ardaloedd morol gwarchodedig yn unman arall ledled y byd. Felly, er eich bod wedi cadarnhau, mewn ymateb i argymhelliad 16, eich bod yn bwriadu asesu'r rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig, byddai'n ddefnyddiol pe gallech ddarparu dyddiad targed ar gyfer cwblhau'r gwaith hwn.
Dywedodd adroddiad ym mis Hydref 2020 yn The Guardian fod treillrwydo môr-waelodol wedi digwydd yn 97 y cant o ardaloedd morol gwarchodedig alltraeth y DU yn 2019. Nawr, rydym wedi clywed Cyfoeth Naturiol Cymru yn honni nad yw'r prif ystadegau hynny'n berthnasol i Gymru mewn gwirionedd, ond bod eu sylwadau'n seiliedig ar ddealltwriaeth anecdotaidd. Nawr, mae hynny'n peri pryder imi, pan fo hyd yn oed Cyfoeth Naturiol Cymru yn ein hysbysu na allant ddod i gasgliadau clir ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd yn nyfroedd Cymru. Fel y dywedais o'r blaen, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru—beth y maent yn ei alw—rôl potsiwr a chiper yma, oherwydd maent yn darparu'r trwyddedau morol, ac yna maent yn gyfrifol am orfodaeth, a gwn fod problemau yno. Felly, ni ellir anwybyddu'r mater hwn.
Yn olaf, fe fyddwch yn ymwybodol fod COP15 ar y gorwel. Felly, credaf ei bod yn briodol cloi gyda chwestiwn ynglŷn ag a yw'r Gweinidog o'r farn fod y dull presennol o weithredu cynllun morol cenedlaethol Cymru yn rhoi'r argyfwng natur ar yr un lefel â'r argyfwng hinsawdd. Diolch.