Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 18 Mai 2022.
Cyfeiriaf yr Aelodau at fy nghofrestr buddiannau.
Nid wyf yn credu y dylid ymddiheuro nad yw'r ddadl hon y prynhawn yma yn un gyfforddus, ac mae pob cyfraniad a glywn yn hynod berthnasol i'r ddadl hon. Hoffwn dalu teyrnged i Sarah Murphy am rannu ei stori hynod bersonol gyda ni. Diolch ichi am roi o'ch amser i rannu hynny gyda ni.
Nid wyf yn credu mai bwriad y ddadl hon yw dwyn anfri ar Lywodraeth Cymru na chodi cywilydd; yn hytrach, fel y dywedodd yr Aelod dros Frycheiniog a Maesyfed yn gywir, mae'n rhaid dwyn y Llywodraeth i gyfrif, a bydd yn tynnu sylw at y methiannau gwirioneddol sefydledig yng ngwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yng Nghymru. Mae'r methiannau hyn wedi arwain at chwalu a chreu cythrwfl ym mywydau plant a phobl ifanc. Fodd bynnag, hoffwn ddefnyddio fy nghyfraniad y prynhawn yma i dynnu sylw'r Aelodau at y sefyllfa mewn cymunedau gwledig ledled Cymru, sefyllfa lle mae ein gwasanaethau iechyd meddwl heb ddigon o adnoddau ac yn brin o gyllid.
Nawr, mae'n wir fod tyfu i fyny yn y Gymru wledig yn fendith, ac nid yw hynny'n golygu nad yw heb ei heriau a'i anawsterau—sefyllfa sy'n arbennig o wir i'n pobl ifanc. Mae ynysu gwledig yn broblem sy'n effeithio ar bob grŵp cymdeithasol, ond yn aml, ein pobl ifanc sy'n cael eu gadael heb y rhwydwaith cymorth sydd ei angen arnynt i ddatblygu perthynas iach ag eraill a thwf emosiynol. Heb y rhwydweithiau hyn a heb y cymorth angenrheidiol a'r mesurau ataliol, mae ein pobl ifanc yn aml yn cael eu gadael i frwydro yn erbyn iselder a mathau eraill o salwch meddwl, sefyllfa sydd wedyn yn galw am ymyrraeth broffesiynol gan wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Wrth edrych o gwmpas y Siambr, faint ohonom sy'n gorfod ymdrin yn uniongyrchol ac ymyrryd yn uniongyrchol mewn achos CAMHS unigol am nad oedd adnoddau ar gael i gael y cymorth hanfodol sydd ei angen ar blentyn neu unigolyn ifanc? Un o'r achosion cyntaf un yr ymdriniais ag ef ar ôl yr etholiad fis Mai diwethaf oedd merch ifanc ag anhwylder bwyta. Ac i mi, sy'n cynrychioli etholaeth wledig, mae ymyriadau fel hyn yn rhy gyffredin ac yn llawer rhy gyfarwydd.
Mae ffigurau diweddaraf rhestrau aros CAMHS yn dangos mai llai na dwy ran o dair o'r bobl ifanc sy'n derbyn yr asesiad gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol gofynnol o fewn 28 diwrnod. Yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy'n cynnwys fy etholaeth i, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, dim ond 3.2 y cant o atgyfeiriadau CAMHS a welir o fewn 28 diwrnod—3.2 y cant. Mewn cymhariaeth, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cynnal 91.3 y cant o'u hasesiadau gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn y cyfnod o 28 diwrnod, gwahaniaeth a allai, i lawer, fod yn wahaniaeth rhwng cael y gefnogaeth a'r mynediad sydd ei angen ar y bobl ifanc hyn neu dywyllu'r cymylau o'u cwmpas ymhellach.
Ond gadewch inni fod yn glir, nid canlyniad y pandemig yw'r problemau hyn; yn anffodus maent yn symptom o duedd hanesyddol o fynediad cyfyngedig ac adnoddau sy'n crebachu. Lle mae methiannau fel hyn yn digwydd, mae ein cymunedau lleol, ac fel y nododd yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed yn gywir, y trydydd sector, yn cyd-dynnu ac yn darparu'r cymorth sydd ei angen. Ac nid oes neb yn well am wneud hyn na chymuned ffermwyr ifanc Cymru. Fel y dywedais droeon yn y Siambr hon, mae clybiau ffermwyr ifanc Cymru yn darparu mwy na chyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth amaethyddol yn unig; maent hefyd yn darparu nifer o sgiliau bywyd, ond hefyd ymdeimlad o gwmnïaeth a chefnogaeth. Datblygir cyfeillgarwch gydol oes rhwng pobl a chaiff rhwydweithiau cymorth eu creu, ar lefel leol a ledled CFfI. Nid yw'n hawdd mesur y gwerth sydd i'r cysylltiadau hyn yn cefnogi aelodau a allai fod yn wynebu problemau iechyd meddwl, ond ar sail anffurfiol, ni ddylid tanbrisio gwerth cyfaill sy'n deall yr heriau a'r ansicrwydd sydd gan lawer o bobl ifanc wrth iddynt dyfu fyny. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dynnu sylw at aelod o Lys-y-frân yng Nghlwb CFfI Sir Benfro, Hannah Rees, a gyflwynodd gynllun i CFfI Cymru o'i phen a'i phastwn ei hun i roi cymorth pellach i aelodau ifanc CFfI, drwy ddiwrnodau cystadlu. O gofio mai unigolyn ifanc yw hi sy'n gwybod bod bwlch yno ac a geisiodd lenwi'r bwlch hwnnw ei hun, rwy'n talu teyrnged i Hannah Rees am y gwaith y mae'n ei wneud.
Ond ni ddylai'r sefydliadau hyn fod ar eu pen eu hunain, ac nid yw bob amser yn ddigon. Dyna pam y mae hi mor bwysig sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn meddu ar yr adnoddau sydd eu hangen arnynt. Beth bynnag y bo'n lliwiau gwleidyddol, mae gennym ddyletswydd yn y Siambr hon i sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael y gwasanaethau iechyd sydd eu hangen arnynt. Ond fel y clywsoch y prynhawn yma, nid yw hynny'n digwydd, yn anffodus. Mae rhestrau aros yn gwaethygu, mae'r galw'n rhy uchel a nifer y staff yn rhy isel. Y cynnig hwn sydd ger ein bron yw ein cyfle i newid y ffordd y mae ein gwasanaethau CAMHS yn gweithredu, gan sicrhau bod ein plant yn gallu cael y gwasanaethau iechyd meddwl y maent eu hangen ac yn eu haeddu. Diolch, Ddirprwy Lywydd.