– Senedd Cymru am 4:17 pm ar 7 Mehefin 2022.
Eitem 7 sydd nesaf, sef datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, diweddariad ar ddiwylliant a threftadaeth: hanes, diwylliant a threftadaeth pobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am ei datganiad am gyhoeddi 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. O fy rhan i, rwyf wedi ymrwymo i gyflawni'r nodau a'r camau gweithredu a nodir ar gyfer diwylliant, treftadaeth a chwaraeon, sy'n canolbwyntio ar themâu arweinyddiaeth, ariannu, dathlu amrywiaeth ddiwylliannol, y naratif hanesyddol a dysgu am ein hamrywiaeth ddiwylliannol. Mae'r camau uchelgeisiol o dan y meysydd allweddol hyn yn cael eu llywio gan brofiad bywyd; eu nod yw bod yn drawsnewidiol, gan sicrhau newid amlwg ac arwain at ganlyniadau cyfartal i bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Mae gennym ddiwylliant a threftadaeth gyfoethog ac amrywiol yng Nghymru. Mae ein rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i gynrychioli ac adlewyrchu hanes pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn briodol, gyda'r nod o sicrhau bod eu cyfraniad anfesuradwy yn cael ei gydnabod, ac i alluogi mynediad a chyfranogiad cyfartal. Bydd hyn yn gwella canlyniadau i bawb a bydd yn adlewyrchu ac yn hyrwyddo Cymru amlddiwylliannol, fywiog ac amrywiol yn well, sy'n hanfodol i gyflawni ein gweledigaeth o Gymru wirioneddol wrth-hiliol.
Mae'r gwaith o gyflawni'r newid hwn eisoes wedi dechrau. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gwnaethom waith paratoi cychwynnol, gan fuddsoddi bron i £350,000 gyda sefydliadau gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru a Chyngor Hil Cymru. Mae ein sefydliadau cenedlaethol yn chwarae rhan hollbwysig wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chyflawni Cymru wrth-hiliol. Mae hwn yn amcan a rennir ar gyfer yr holl gyrff a noddir yn fy mhortffolio, ac mae cefnogi'r cynllun gweithredu yn un y gellir ei gyflawni yn eu llythyrau cylch gwaith newydd.
Rwyf wedi mynegi fy nymuniad i'n cyrff diwylliannol a noddir gydweithio i gynyddu eu heffaith yn y maes hwn. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru wedi cyd-gynhyrchu cynllun gweithredu ehangu ymgysylltu, gyda chamau gweithredu, bellach wedi'u hymgorffori yng nghynlluniau cydraddoldeb gweithredol a strategol y ddau sefydliad. Mae Casgliad y Werin Cymru, partneriaeth ffederal rhwng Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, wedi cyhoeddi siarter ar gyfer datrefidigaethu'r casgliad.
Wrth gwrs, er bod cydweithio rhwng sefydliadau yn bwysig, mae cydweithio a chyd-gynhyrchu gyda'r cymunedau lleiafrifoedd ethnig eu hunain yn hanfodol i ddatblygu'r gwaith hwn a gweithredu newid a fydd yn cael effaith wirioneddol. Rwy'n falch o weld ein sefydliadau'n canolbwyntio ar hyn; er enghraifft, mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cynnal adolygiad mawr o'i raglen gweithwyr cyswllt y celfyddydau, ac wedi recriwtio swyddogion cyswllt newydd gyda phrofiad bywyd o amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig, yn ogystal ag asiant ar gyfer newid.
O ganlyniad, mae newid diwylliannol eisoes yn digwydd mewn trafodaethau mewn cyfarfodydd ariannu, gyda chynnydd yn nifer y ceisiadau llwyddiannus sy'n targedu cymunedau ac artistiaid amrywiol. Mae Amgueddfa Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol yn penodi ar gyfer swyddi gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol a Chyngor Archifau a Chofnodion Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi creu pecyn cymorth i alluogi'r sector i ymgysylltu'n well â chymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Darparwyd cyllid gennym i Gyngor Hil Cymru i gynnal prosiect treialu i ddatblygu ei raglen Hanes Pobl Dduon Cymru, gan gynnwys cofnodi straeon ledled Cymru. Arweiniodd chwech o bobl ddiwylliannol amrywiol, pob un ag arbenigedd hanes pobl dduon a phrofiad ymgysylltu cymunedol dibynadwy, ddatblygiad rhwydweithiau Hanes Pobl Dduon Cymru mewn gwahanol rannau o Gymru. Bûm yn lansiad Hanes Pobl Dduon Cymru 365 ym mis Hydref y llynedd a gwelais drosof fy hun arddangosfa bwerus Windrush Cymru.
Gwneuthum ddatganiad ym mis Ionawr i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt yr archwiliad o goffáu, ac rwy'n falch o ddweud bod y gwaith hwn wedi bod yn parhau'n gyflym. Mae Cadw yn paratoi canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i'w cefnogi i wneud penderfyniadau am goffáu cyhoeddus—yn hanesyddol ac yn y dyfodol. Mae'r gwaith o ddatblygu'r canllawiau wedi'i lywio gan gyfres o weithdai gydag ystod eang o randdeiliaid. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar ddrafft yn ddiweddarach eleni. Mae Cadw hefyd wedi bod yn gweithio i wella ei wefan, gan gydnabod ystod fwy amrywiol o straeon sy'n cyfrannu at hanes Cymru. Mae wedi gweithio mewn partneriaeth â sawl sefydliad i greu cynnwys, gan gynnwys straeon treftadaeth personol ac ymatebion creadigol i goffáu pobl o dreftadaeth Ddu yng Nghymru. Bydd y cynnwys newydd ar gael o ganol mis Mehefin.
Mae gan ein sectorau diwylliannol lleol ran hanfodol i'w chwarae hefyd. Mae dros 100 o amgueddfeydd lleol ledled y wlad, i gyd yn gweithio ar lawr gwlad. Y llynedd, cymerodd 41 o amgueddfeydd ran yn y rhaglen hyfforddiant a chymorth arloesol a ariannwyd gennym—y cyntaf o'i math yn y DU. Roedd hyn yn cynnwys gweithdai yn edrych ar gasgliadau o safbwyntiau newydd, er mwyn gallu adrodd straeon sy'n gysylltiedig â chaethwasiaeth a'r ymerodraeth o safbwynt lleol. Roedd yr adborth gan gyfranogwyr yn gadarnhaol dros ben, gyda llawer yn dweud eu bod wedi cael y ddealltwriaeth, yr wybodaeth a'r hyder i wneud newid.
Ers i'r rhaglen ddod i ben, gwyddom fod llawer wedi dod o hyd i gysylltiadau newydd yn eu casgliadau ac yn dechrau ail-ddehongli eu harddangosfeydd. Rwy'n falch o'r cynnydd sylweddol yr ydym eisoes wedi'i wneud, ac edrychaf ymlaen at ein cynnydd parhaus wrth i ni gyflawni ein nodau a'n camau gweithredu yn y cynllun gweithredu ac ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu. Ategir hyn gan gyllid pellach o £4.25 miliwn dros y tair blynedd nesaf, drwy lansio cynllun grant newydd arloesol. Ymdrinnir â thri maes penodol: ein cyrff cenedlaethol a noddir; proses grantiau gystadleuol ar draws ein sectorau, ac rwy'n falch o ddweud y byddwn yn ei lansio yn ystod yr wythnosau nesaf; a chronfa wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer sefydliadau ar lawr gwlad, yr ydym yn eu datblygu ar hyn o bryd i'w lansio yn ddiweddarach eleni.
Rydym hefyd yn paratoi i recriwtio mentoriaid cymunedol i weithio gyda fy swyddogion dros y flwyddyn nesaf. Byddant yn cynnig cyngor beirniadol ar gyfer cyflawni'r cynllun gweithredu, yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu'r cynllun grant a sefydlu grŵp cynghori ar brofiad bywyd sy'n benodol i'r sector. Gyda'n gilydd, ac ar lefel genedlaethol, leol ac ar lawr gwlad, byddwn yn parhau i sicrhau newid ystyrlon i bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru ac yn cymryd camau hanfodol i wireddu ein gweledigaeth o Gymru wrth-hiliol.
A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad y prynhawn yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi fod ein sector diwylliannol a'n sector treftadaeth mor groesawgar â phosibl i gynifer o bobl ag sy'n bosibl? Mae'n bwysig bod y gwaith y soniodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol amdano a'r adolygiad hwnnw'n cael eu gwneud, ac rwy'n falch o'i weld yn digwydd yn eich portffolio hefyd, oherwydd fel y dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, nid ei chyfrifoldeb hi fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn unig ydyw, ond rhywbeth sy'n torri ar draws Llywodraeth Cymru, felly rwy'n falch o weld y darn hwn o waith yn digwydd. Rwyf hefyd yn ddiolchgar o glywed o'ch datganiad am y newid diwylliannol hwnnw y sonioch amdano mewn sefydliadau sy'n digwydd, a chredaf fod hynny i'w groesawu'n fawr hefyd.
A gaf i hefyd ddechrau drwy groesawu'r £4.2 miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer y tair blynedd nesaf, a fydd yn rhoi cyllid i sefydliadau ar lawr gwlad? Rwy'n gobeithio y bydd yn sicrhau newid, gan adeiladu ar ein diwylliant a'n treftadaeth gyfoethog ac amrywiol yng Nghymru. Fodd bynnag, rydych hefyd yn sôn am gynllun grant newydd sy'n cyplysu hyn, felly byddwn yn ddiolchgar am ragor o fanylion am hyn a tybed a wnewch chi roi'r disgwyliadau clir sef yr hyn y byddech yn ei ddisgwyl gan y sefydliadau hynny. Beth fydd ffurf llwyddiant yn eich barn chi? Pa fetrig y gallwn ei ddefnyddio i'ch dal yn atebol i sicrhau bod y cyllid newydd hwn yn darparu gwerth am arian? Hoffwn ganolbwyntio hefyd ar rai o'r pwyntiau yn y 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol' a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach heddiw gan ei fod yn ymwneud â'ch portffolio. O dan yr adran diwylliant, treftadaeth a chwaraeon, mae'n nodi mai un o'r nodau yw
'Adolygu a datrefedigaethu ein mannau a’n casgliadau cyhoeddus drwy ymdrin yn briodol â’r ffordd y caiff pobl a digwyddiadau â chysylltiadau hanesyddol hysbys â chaethwasiaeth a threfedigaethedd eu coffáu, gan gydnabod y niwed a wnaed yn sgil eu gweithredoedd ac ail-lunio’r ffordd y caiff eu hetifeddiaeth ei chyflwyno er mwyn cydnabod hyn yn llawn.'
Cytunaf â hynny, a'r hyn sy'n bwysig yma yn fy marn i yw bod y cyhoedd yn gyffredinol yn cytuno â hynny hefyd. Rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno â theimlad y rhan honno o'r cynllun, ond yr hyn sydd ar goll yn y datganiad, rwy'n teimlo, yw diffyg pendantrwydd ynghylch lle mae'r llinell honno'n cael ei thynnu. Mae'n llinell sy'n wahanol yn dibynnu ar eich safbwynt chi, ac mae'n ddadl fyw sy'n digwydd drwy'r amser. Rydym wedi gweld rhai pobl yn dweud bod ffigyrau sydd â chysylltiadau tenau efallai ar y gorau â'r fasnach mewn caethweision yn cael eu llusgo i'r ddadl hon flynyddoedd ar ôl iddyn nhw farw. Rwyf wedi gweld rhai sylwebwyr yn sôn am Winston Churchill yn y math hwn o gyd-destun, a gobeithio y byddem ni'n dau yn cytuno nad bwriad y cynnig hwn yw hynny. Mae hyn, yn fy marn i, yn ymwneud ag atebolrwydd ynghylch pwy fydd yn gwneud penderfyniadau o'r fath a pha safbwyntiau y byddan nhw yn eu hystyried, oherwydd gwyddom, fel y dywedais i, y gall y safbwyntiau hynny fod yn wahanol ac nid ydym eisiau i bobl sy'n cytuno â theimlad y cynllun gweithredu anghytuno â chanlyniad yr hyn a gyflawnir ganddo mewn gwirionedd.
Enghraifft dda fyddai penderfyniad Amgueddfa Cymru ychydig fisoedd yn ôl i adolygu atgynhyrchiad o'r locomotif cyntaf i gael ei bweru gan stêm yng Nghymru gan Richard Trevithick yn sgil honiadau ei fod yn gysylltiedig â'r fasnach mewn caethweision. Cyfaddefodd swyddogion yn yr amgueddfa nad oedd unrhyw gysylltiadau uniongyrchol rhwng locomotif Trevithick a'r fasnach mewn caethweision, ond dywedon nhw fod y defnydd o'r ddyfais wedi'i wreiddio mewn gwladychiaeth a hiliaeth. Mae adolygiad yn iawn, ond mae angen i ni fod yn ofalus ynghylch lle yr ydym yn amlygu'r gwahaniaethau hynny am ein gorffennol i sicrhau na chaiff pobl eu dileu o'n gorffennol dim ond am eu bod yn bodoli yn y gorffennol. Felly, byddai dealltwriaeth o'r math hwnnw o drothwy yn eithaf pwysig, rwy'n credu.
Mae'r cynllun gweithredu hefyd yn datgan y bydd yn
Nodi adnodd penodol wedi’i neilltuo i gefnogi gweithgareddau diwylliannol, creadigol a chwaraeon ar lawr gwlad ymhlith grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a hyrwyddo hyn i annog ceisiadau, gan ystyried anfanteision croestoriadol a materion penodol yn ymwneud ag ieithoedd cymunedol.'
A allwch chi, Dirprwy Weinidog, gadarnhau sut yn union y bydd hynny'n gweithio? Faint fydd yn y pot hwn? Nid oedd yn glir iawn o'ch datganiad a fyddai hyn yn rhan o'r cyllid newydd a gyhoeddwyd yn eich datganiad neu a yw hyn yn elfen ar wahân o gyllid eto.
Pwynt arall yr hoffwn ei grybwyll oedd un o'ch gweithredoedd i weithio gyda chymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i nodi a chodi rhwystrau rhag cael mynediad at gasgliadau treftadaeth a diwylliannol. O ystyried hyn, pa asesiad effaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar y mathau o ffyrdd y mae cymunedau amrywiol yn wynebu rhwystrau rhag cael mynediad i safleoedd treftadaeth, ac a wnewch chi rannu'r canfyddiadau â'r Senedd? Pwynt arall i'w nodi yn y cynllun gweithredu oedd gofyn i Chwaraeon Cymru a'i bartneriaid gynyddu cyfranogiad menywod a merched o grwpiau amrywiol mewn ffyrdd egnïol o fyw, gan ystyried anfanteision croestoriadol, ieithoedd a'r grwpiau mwyaf difreintiedig. Sut y byddwch yn mesur y cynnydd hwnnw, Dirprwy Weinidog? Ac, unwaith eto, beth fydd ffurf llwyddiant, a hefyd pa dargedau gwirioneddol y byddwch yn eu gosod, wrth weithio gyda rhanddeiliaid?
Sonioch chi hefyd am dros 100 o'r amgueddfeydd lleol ledled y wlad—disgwylir iddyn nhw chwarae rhan eithaf mawr, mewn gwirionedd, mewn llawer o'r cynlluniau hyn, megis y siarter ar gyfer datrefidigaethu'r casgliad. Mae'n hanfodol ein bod yn cael hynny'n iawn hefyd. Efallai nad yw llawer sy'n ymwneud ag amgueddfeydd lleol o reidrwydd yn dod i gysylltiad rheolaidd â strwythurau Llywodraeth Cymru, ac mae llawer sy'n gysylltiedig yn wirfoddolwyr. Felly, sut ydych chi'n sicrhau nad ydym yn rhoi gwaith biwrocrataidd anfwriadol, ychwanegol ar ben eu gwaith gwirfoddoli hanfodol mewn amgueddfeydd lleol ledled Cymru, ac yn gweithio allan ffyrdd y gallwn barhau i ddenu a gwella profiadau gwirfoddoli yn ein hamgueddfeydd? A sut hefyd y byddwch yn sicrhau bod dealltwriaeth gyson o fewn grwpiau fel hyn, fel na fydd gennym wahanol amgueddfeydd yn dehongli hyn mewn ffyrdd gwahanol?
Ac yn olaf, un o'r pethau cyntaf a ddywedoch chi oedd y profiad bywyd, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn. Nid oes un profiad amrywiol. Felly, sut ydych chi'n defnyddio'r strategaeth hon i sicrhau bod lluosogrwydd yn cael ei gydnabod a'i gyfrif yn y strategaeth hon? Diolch yn fawr iawn.
A gaf i ddiolch i Tom Giffard am y cwestiynau niferus yna? Dydw i ddim yn siŵr a wnes i nodyn o bob un ohonyn nhw, Tom, ond mi wna i geisio crynhoi popeth mewn ymateb cyffredinol. Os caf ymdrin yn gyntaf â'r cynllun grant diwylliant yr oeddech chi'n sôn amdano i ddechrau. Yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud, mewn gwirionedd, yw cyflwyno cynllun yn barod i'w lansio yn ystod yr wythnosau nesaf. Felly, mae manylion hynny'n dal i gael eu hystyried, a byddaf yn ôl yn y Siambr hon gyda mwy o wybodaeth am hynny maes o law. Credaf fy mod wedi nodi yn fy natganiad y tair elfen o hynny, ac ymdriniwyd â hynny yn rhan o'ch cwestiwn, ond nid oes gennyf y manylion eto—mae hynny'n cael ei ddatblygu a byddwn yn ystyried hynny eto. Ond un o elfennau allweddol hynny yw sicrhau bod rhai o'r grwpiau llai, yr ydym ni wedi cael cryn dipyn o feirniadaeth yn eu cylch ar draws y sector diwylliannol—yn ei chael hi'n anodd iawn cael gafael ar arian grant, oherwydd maen nhw'n fach, oherwydd nid oes ganddyn nhw'r profiad o gael staff sy'n gweithio ar geisiadau grant drwy'r amser ac yn y blaen. Ni fydd y mathau hynny o sefydliadau mewn sefyllfaoedd lle maen nhw'n cystadlu â sefydliadau mawr sy'n ymgeisio am y gronfa benodol honno o arian. Felly, bydd cronfa benodol iawn, elfen benodol iawn o'r gronfa ariannu honno, a fydd wedi'i hanelu at y sefydliadau eraill hynny. Ond byddant yn amlinellu ac yn ein helpu i gyflawni'r hyn a ystyriwn yn nodau uchelgeisiol iawn. Nawr, byddwch yn gofyn y cwestiwn, 'Beth yw'r nodau uchelgeisiol?' Wel, mae'n amlwg mai'r nodau uchelgeisiol yw creu Cymru wrth-hiliol. Nawr, nid wyf am sefyll yma, gan nad yw'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn sefyll yma, yn dweud y gallwn wneud hynny dros nos. Ond mae'n rhaid i ni ddechrau gyda'r sefydliadau y mae gennym ni rywfaint o gyfrifoldeb drostyn nhw, y gallwn ni ddylanwadu arnyn nhw, y gallwn ni weithio gyda nhw ac sy'n derbyn arian gan Lywodraeth Cymru. Felly, dyna'r sefydliadau yr ydym ni'n gweithio gyda nhw'n benodol.
Rwy'n credu fod y sylw yr ydych chi wedi'i wneud ynghylch datrefedigaethu yn un teg iawn o ran pwy yr ydym yn edrych arno, beth sy'n bwysig yn ein barn ni. A dyna i raddau helaeth iawn oedd gwaith yr archwiliad Legall—dechreuodd ychydig flynyddoedd yn ôl—pan oeddem yn edrych ledled Cymru ar enwau lleoedd, henebion, paentiadau, cerfluniau, beth bynnag yr oedden nhw, sydd â rhywfaint o gysylltiad â'n gorffennol trefedigaethol a'r fasnach mewn caethweision. Nawr, mae rhai o'r cysylltiadau hynny'n fwy amwys nag eraill, a chredaf mai dyna'r pwynt yr oeddech chi'n cyfeirio ato, ond credaf mai'r hyn yr oedd archwiliad Legall yn ceisio'i wneud oedd nodi bod llu o bobl yr oedd angen inni gydnabod bod y cysylltiadau hynny ganddyn nhw. Efallai mai cysylltiadau, fel y dywedais i, amwys oedd y rheini, efallai na fu'r cysylltiadau hynny'n sylweddol yn y cyd-destun.
Fe wnaethoch chi sôn am Richard Trevithick sydd, wrth gwrs, yn bwysig iawn i fy etholaeth i. Ond rwy'n meddwl hefyd am bobl fel Robert Owen, a oedd yn ddyngarwr mawr, yn sosialydd, yn undebwr llafur, ac yn un o aelodau sylfaenol y mudiad cydweithredol—rhai cysylltiadau amwys â'r fasnach mewn caethweision nad oeddent mewn gwirionedd o'u rhan eu hunain yn tanseilio'r holl waith da iawn a wnaeth. Ond cydnabyddir bod rhyw gysylltiad, oherwydd defnyddiodd lafur caethweision yn y Caribî i ddod â chotwm i'r DU, i Gymru, i redeg ei fusnes, felly rhaid i ni gydnabod hynny i gyd. Ac mae'r gwaith sydd wedi deillio o archwiliad Legall gyda'r grŵp sydd bellach wedi'i sefydlu, sy'n cael ei arwain gan Marian Gwyn, yn hwyluso'r ffordd yr ydym yn coffáu'r bobl hyn wrth edrych ymlaen. Nid ein lle ni yw penderfynu sut yr ydym yn eu coffáu, mater i gymunedau lleol, ac i'r cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eu hunain i fod yn rhan fawr o lunio'r argymhellion hynny y byddwn yn eu cyflwyno i gyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill sy'n dymuno coffáu, boed hynny yn ein hamgueddfeydd, ein horielau celf, ein llyfrgelloedd, beth bynnag y bo. Os ydyn nhw'n mynd i arddangos gweithiau, os ydyn nhw'n mynd i gynnal arddangosfeydd, os ydyn nhw'n mynd i arddangos celf, os ydyn nhw'n mynd i ddweud stori, yna mae'n rhaid iddyn nhw ddweud y stori yn ei chyd-destun. A dyna'r gwaith y mae Marian Gwyn yn ei wneud ar ran Llywodraeth Cymru, yn dilyn archwiliad Legall. Felly, nid ein lle ni fydd dweud wrth neb sut y dylid gwneud hynny, mater i'r bobl hynny fydd dweud wrthym ni, y rhanddeiliaid hynny fydd yn dweud wrthym ni. A byddant yn llunio argymhellion a gânt eu cyflwyno i ymgynghoriad cyhoeddus, fel y rhoddir y cyfle i'r cyhoedd yn ehangach ddweud eu dweud ynghylch yr holl agweddau hynny
Yr agweddau ynglŷn â chwaraeon: yr hyn y byddwn yn ei ddweud, Tom Giffard, yw nad wyf wedi defnyddio'r datganiad heddiw'n benodol i roi sylw i chwaraeon. Bydd cyfleoedd eraill i mi ddod yma eto ac ymdrin â chwaraeon; canolbwyntiais yn fy natganiad heddiw yn enwedig ar ddiwylliant a threftadaeth. Ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw ein bod yn cefnogi'n gryf y gwaith y mae Chwaraeon Cymru yn ei wneud gyda UK Sport, gyda Sport England, gyda Sport Scotland a Sport Northern Ireland i fynd i'r afael â hiliaeth ac anghydraddoldebau hiliol ar draws y pedair gwlad i ddatblygu cynllun ar y cyd, ac rydym yn rhan bwysig iawn o adeiladu'r gymuned chwaraeon honno sy'n adlewyrchu'r cymdeithasau y mae ein holl Lywodraethau'n eu cynrychioli. Maen nhw yn elfennau allweddol o'r gwaith i ddileu hiliaeth yng Nghymru, rydych chi'n llygad eich lle, ac mae hynny i gyd wedi'i nodi yn eu llythyrau cylch gwaith gennyf fi. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud, oherwydd rwy'n credu ei fod yn sylw a wnaeth Sioned yn gynharach o ran atebolrwydd, mae'r holl gyrff a noddir y mae llywodraeth Cymru yn eu hariannu wedi cael llythyrau cylch gwaith yn nodi'n glir iawn yr hyn a ddisgwylir ganddyn nhw. Maen nhw'n atebol i mi am hynny, ac yn sgil hynny, rydw i yn atebol i'r Senedd hon am hynny. A dyna'r llwybr y byddwn yn ei ddilyn ac yn sicrhau y gwireddir yr atebolrwydd hwnnw a bod y camau hynny'n cael eu cyflawni.
Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw. Mae llawer o bethau a amlinellwyd gennych y byddwn, wrth gwrs, yn eu croesawu, yn enwedig eich sylw ynglŷn â rhan sefydliadau cenedlaethol a sectorau diwylliannol lleol yn creu Cymru wrth-hiliol. Ac i fod yn wrth-hiliol, wrth gwrs, mae'n bwysig ein bod yn glir heddiw pam mae'r cynllun gweithredu hwn mor angenrheidiol. Ac er eich bod yn llygad eich lle'n tynnu sylw at rai o'r pethau sydd wedi newid, mae'n amlwg bod angen mwy o weithredu ac y bydd yn cymryd pob un ohonom i gydweithio i newid hyn. Mae angen i ni hefyd fod yn glir nad yw'n mynd i fod yn hawdd. Rydym eisoes wedi gweld rhai o'r sefydliadau cenedlaethol yn cael eu herio ar eu gwaith ar ddatrefedigaethu yn wynebu cam-drin ffiaidd ar-lein ac yn cael eu holi gan y rhai nad ydyn nhw'n cytuno â chyfeiriad Cymru yn hyn o beth. Mae angen i ni hefyd fod yn glir iawn ein bod yn cymryd cyfeiriad gwahanol i Loegr o ran ein diwylliant a'n treftadaeth a'i fod yn rhywbeth y dylem fod yn falch ohono, ond nid yn hunanfodlon yn ei gylch. Mae'n hawdd iawn llongyfarch ein hunain pan fydd pethau'n mynd rhagddynt, ond mae'n amlwg iawn bod Cymru'n wrth-hiliol ar hyn o bryd a bod y sylwadau hyll hiliol hynny a wynebir gan sefydliadau, megis Amgueddfa Genedlaethol Cymru ynghylch Thomas Picton, yn bodoli. Felly, mae ein cefnogaeth yma heddiw a thrwy gydol y blynyddoedd nesaf yn hanfodol i'r sefydliadau cenedlaethol hynny, wrth iddyn nhw fwrw ymlaen â'r gwaith pwysig a hanfodol hwn.
Mae pwyslais clir yn eich datganiad ar sut y dylai sefydliadau ymgysylltu'n well â phobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ond elfen allweddol i hyn, wrth gwrs, yw i'r sefydliadau hyn ddod yn fwy cynrychioliadol o Gymru eu hunain. Rwy'n falch o weld yn y cynllun gweithredu, mewn cysylltiad â diwylliant, treftadaeth a chwaraeon, ymrwymiad i sicrhau bod mwy o geisiadau'n cael eu gwneud gan bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ond yn hanfodol mwy o benodiadau hefyd, fel gweithwyr a hefyd fel aelodau bwrdd. Mae hyn yn hanfodol os ystyriwn rai o'r ystadegau sydd ar gael i ni mewn cysylltiad â phenodiadau cyhoeddus, yn enwedig o fewn eich portffolio. Er enghraifft, yn 2019-20, dangosodd data Cyngor Celfyddydau Cymru fod 17 o bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig allan o 349 yn gyffredinol ar fyrddau rheoli, mewn 39 o'i sefydliadau a oedd yn derbyn nawdd rheolaidd. Rydym hefyd yn ymwybodol, wrth gwrs, nad oedd neb nad oedd yn wyn wedi gwneud cais am swydd cadeirydd Chwaraeon Cymru. Mae gwaith i ni ei wneud yn y maes hwn. Ac mewn mannau eraill yn y cynllun, mae camau gweithredu penodol mewn cysylltiad â phenodiad cyhoeddus, ond hoffwn ofyn yn benodol mewn cysylltiad â'ch portffolio, Dirprwy Weinidog: a ydych chi'n cytuno bod angen mwy o amrywiaeth a chynrychiolaeth o fewn ein cyrff cyhoeddus, nid yn unig i ddarparu cyfleoedd arwain cyfartal, ond i sicrhau'r ddarpariaeth orau o wasanaethau diwylliannol i holl ddinasyddion Cymru?
Hoffwn ofyn hefyd a yw'r Dirprwy Weinidog yn gweithio gyda swyddogion i foderneiddio'r broses benodi, er mwyn gwella hygyrchedd a thryloywder. Byddai'n ddefnyddiol deall pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu a gwella'r strategaeth 'Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru', yn benodol o fewn y sector diwylliant, treftadaeth a chwaraeon.
Fe wnaethoch chi gyfeirio hefyd yn eich datganiad at rywbeth y cyfeiriodd ein cyd-Aelod ato, sef bod 41 o amgueddfeydd lleol wedi cymryd rhan mewn rhaglenni hyfforddi a chymorth arloesol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n amlwg yn falch iawn o glywed bod yr adborth yn gadarnhaol gan y rhai a oedd yn bresennol, ond mae cyfran sylweddol o amgueddfeydd lleol hefyd nad oedden nhw'n cymryd rhan. Pam oedd hyn, Dirprwy Weinidog? Ai dim ond i nifer penodol o gyfranogwyr y mae'n agored? Ac os nad hynny, os bydd pobl yn dewis peidio â bod yn bresennol neu'n methu bod yn bresennol, a fydd yn orfodol i bob amgueddfa achrededig gymryd rhan?
Yr un pryder sydd gennyf o'r cyllid a gyhoeddwyd yw y bydd rhai yn gwneud cais ac y byddan nhw'n bwrw ymlaen â'r gwaith hwn, ond bydd rhai sefydliadau yng Nghymru yn cael eu gadael ar ôl ac nid yn gweithio tuag at wireddu ein gweledigaeth gyffredin o Gymru wrth-hiliol. Rwy'n gwerthfawrogi yn eich ymateb i Tom Giffard eich bod wedi crybwyll mai datganiad yn benodol am ddiwylliant a threftadaeth oedd hwn, ond yn amlwg, fel yr ydych chi wedi cydnabod, mae chwaraeon yn eithriadol o bwysig fel rhan o hyn. A byddwn yn croesawu datganiad yn y dyfodol yn benodol ynglŷn â chwaraeon, pe byddech yn fodlon gwneud hynny, Gweinidog, oherwydd, yn amlwg, mae hyn yn hollbwysig. Mae arnom ni eisiau i bobl gymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd yma yng Nghymru ac i bob agwedd ddod yn wrth-hiliol. A chan fod diwylliant a chwaraeon mor annatod ac yn cydblethu â'i gilydd, credaf ei bod yn hanfodol bod y rheini'n cael eu hadlewyrchu a'n bod yn clywed gennych ymhellach ar y mater hwnnw. Diolch.
Diolch. A gaf i ddiolch i Heledd Fychan am y sylwadau yna? Fe ddechreuaf i gyda'r un olaf yn gyntaf, oherwydd er nad oedd hwn yn ddatganiad am chwaraeon—ac, ie, byddaf yn dychwelyd yma ac yn ymdrin â hynny—mae chwaraeon yn agos iawn at fy nghalon, yn enwedig pêl-droed, yn enwedig ar ôl y penwythnos diwethaf, ac rwy'n teimlo mor gyffrous. Dim ond—mae'n wir—. Wyddoch chi, rwy'n cael pob math o—. Roeddwn yn siarad â rhywun yr wythnos diwethaf, mewn gwirionedd, cyn y gêm, ac roeddwn i fod i gael cyfarfod busnes gydag ef, yn sôn am y trefniadau ar gyfer y gêm, ac roedd fy nghalon yn carlamu dim ond yn sôn am baratoi ar gyfer y gêm. Ond mae gennym ni lawer iawn i'w wneud mewn chwaraeon. Nawr, roeddwn yn gwylio ar y teledu y noson o'r blaen—roedd gêm ryngwladol yn cael ei chwarae rhwng Lloegr a Hwngari y tu ôl i ddrysau caeedig, oherwydd llafarganu hiliol torf Hwngari ac ati, a chwaraewyd y gêm y tu ôl i ddrysau caeedig. Felly, caniataodd cymdeithas bêl-droed Hwngari i 30,000 o bobl ifanc fynd i'r gêm honno, oherwydd roedd diffyg yn y gyfraith. Pan benliniodd y tîm—pan benliniodd tîm Lloegr—dechreuodd y dorf o blant fwio. Nawr, mae hynny'n frawychus iawn—30,000 yn bwio tîm yn penlinio i fynegi gwrth-hiliaeth. Felly, os bydd unrhyw un yn ceisio dweud wrthym nad oes gennym ni broblem, ac rwy'n credu, unwaith eto, y sylw roedd Sioned yn ei wneud—. Wyddoch chi, nid yw plant yn cael eu geni'n hiliol, maen nhw'n ei ddysgu. Maen nhw'n cael eu haddysgu am yr ymddygiad hwnnw, ac os na fyddwn yn ymyrryd yn ifanc iawn—ac rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod Jeremy Miles yn ymdrin â hyn yn ei ddatganiad—os na ddechreuwn hynny'n gynnar iawn, drwy ein system addysg, yna rydym ni mewn tiriogaeth anodd iawn.
I fynd yn ôl at rai o'r pwyntiau eraill yr ydych wedi'u codi, rwy'n credu yr hyn sy'n bwysig, yn enwedig ym meysydd cynrychiolaeth o ran mynediad—mynediad i'n sefydliadau, boed yn fynediad i arddangosfeydd, fel ei fod yn dod yn fwy hygyrch i bobl gymryd rhan yn y gwylio a rhan mewn arddangosfeydd sydd gennym yn ein hamgueddfeydd a'n llyfrgelloedd, fel ei bod yn fwy hygyrch, yn haws eu deall—dyna'r un agwedd, ac mae hynny hefyd yn wir am chwaraeon o ran mynediad i chwaraeon. Ond mae hefyd yn ymwneud â'r bobl y mae ein cyrff cenedlaethol yn eu cyflogi, y bobl sy'n eistedd ar y cyrff llywodraethu ac ati. Felly, i ymdrin yn benodol â'ch pwynt, cawsom adroddiad a ddeilliodd o nifer o ymchwiliadau, ymchwil a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, ac a arweiniodd at yr adroddiad ar ehangu ymgysylltiad, a oedd yn edrych yn benodol ar arweinyddiaeth ac atebolrwydd, democratiaeth ddiwylliannol, cydraddoldeb a'r iaith Gymraeg, gwasanaethau hygyrch, datblygu gwaith, hyfforddiant staff, sgiliau, cyfathrebu a brandio. Felly, mae hynny bellach yn elfen o bopeth y mae Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn ei wneud o ran eu proses benodi, penodi i'w byrddau ac yn y blaen. Ond rydych chi wedi nodi, Heledd, a hynny'n gwbl briodol, fod llawer iawn o waith i'w wneud o hyd ynghylch sut mae cael pobl i wneud cais yn y lle cyntaf, ac mae rhan o'r cynllun gweithredu ar ehangu ymgysylltu hwnnw'n ymwneud ag edrych ar yr holl beth yma, os ydych yn dal i wneud pethau fel yr ydych chi wedi'u gwneud erioed, byddwch bob amser yn cael yr un canlyniadau—felly, rhaid i ni fynd i'r afael â hynny a rhaid i ni edrych yn wahanol ar hynny—a pham mae ymgysylltu â phobl sydd â phrofiadau bywyd mor bwysig. Dyna pam mae hynny'n allweddol ac yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Unwaith eto, byddai'n rhaid i mi gytuno â chi ynglŷn â'r gwaith enfawr sydd eto i'w gyflawni gennym. Credaf fod angen cwestiynu pellach o ran ein hamgueddfeydd achrededig ynghylch pam nad oedd pob un ohonyn nhw wedi cymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn, ac efallai bod yn rhaid i ni edrych ar rywfaint o hynny. Efallai y bydd yn rhaid i ni edrych arno o ran yr hyn y mae ein cyllid yn ei olygu i sefydliadau na fyddan nhw'n cymryd rhan yn yr hyn sydd, wedi'r cyfan, yn ymrwymiad yn ein rhaglen llywodraethu.
Felly, i gloi, rwy'n dweud fy mod yn cytuno'n llwyr â bron popeth yr ydych chi wedi'i ddweud. Mae cymaint mwy i'w wneud. Ond rwy'n credu ein bod ni wedi dechrau troedio llwybr, llwybr clir iawn, o benderfyniad i wneud hyn yn iawn. Ac, fel y dywedais wrth Tom Giffard, mae'r atebolrwydd hwnnw i mi, a finnau i'r Senedd hon, felly mae gennyf ddiddordeb personol mewn sicrhau bod y pethau hynny'n cael eu cyflawni hefyd. Diolch.
Gweinidog, roeddwn yn ddiolchgar iawn am eich cyfarfod ag Urban Circle, sefydliad celfyddydol a diwylliannol ar lawr gwlad yng Nghasnewydd sy'n gwneud llawer iawn o waith da yn y gymuned o ran cerddoriaeth, dawns a diwylliant i ddod â chymunedau at ei gilydd ac i gefnogi amrywiaeth a chydraddoldeb. Dim ond yr haf yma, fel y byddech yn gwybod o'n cyfarfod, maen nhw'n bwrw ymlaen â rhaglen uchelgeisiol iawn i gael cyngerdd reggae a riddim yng Nghasnewydd, yn Nhŷ Tredegar yng Nghasnewydd, a fydd yn un o'r digwyddiadau swyddogol i nodi trigeinfed pen-blwydd annibyniaeth i Jamaica. Felly, bydd yna gerddoriaeth, bydd yna ddawnsio, bydd ganddyn nhw amgueddfa, amgueddfa dros dro, wedi'i hadeiladu ar y safle, a bydd yn gymorth mawr iawn i gysylltu Cymru gyfan, mewn gwirionedd, nid ardal Casnewydd yn unig, gyda Jamaica i raddau helaethach.
Rwy'n gwybod eich bod yn credu, fel finnau, ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud y cysylltiadau rhyngwladol hyn yn rhan o'n hymdrechion i fod yn amrywiol, i gysylltu â diwylliannau eraill, i ddeall cefndiroedd diwylliannol pobl sy'n byw yng Nghymru ac i hyrwyddo Cymru, mewn gwirionedd, ar y llwyfan rhyngwladol, i wneud Cymru'n fwy adnabyddus yn rhan o'n hymdrechion i agor Cymru i'r byd a'r byd i Gymru. Felly, rwy'n credu bod y digwyddiad hwn yn bwysig iawn, Gweinidog, ac roeddwn yn falch iawn eich bod wedi rhoi cefnogaeth frwd iddo pan wnaethom ni gyfarfod, oherwydd dim ond un enghraifft ydyw, mewn gwirionedd, ond un cadarn iawn a da iawn, o'r gwaith y mae Urban Circle yn ei wneud yng Nghasnewydd yn ein cymunedau ethnig amrywiol, ond hefyd i wneud y cysylltiadau ehangach hynny. Felly, rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi heddiw, Gweinidog, i gymeradwyo gwaith Urban Circle, gan groesawu'r digwyddiad pwysig iawn hwn rwy'n credu, yr haf hwn a dymuno'r gorau i Urban Circle a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw yn y dyfodol ar gyfer y gwaith gwerthfawr iawn hwn.
A gaf i ddiolch i John Griffiths am y sylw yna a'r sylwadau hynny am Urban Circle, a oedd—sydd yn—yn sefydliad gwych? Rwyf wedi siarad â chi a fy nghyd-Aelod Jayne Bryant amdanyn nhw a'r gwaith y maen nhw yn ei wneud, ac roedd yn wych cwrdd â Loren ac Ali pan drafodwyd yr ŵyl sy'n cael ei chynnal fis nesaf. Rwy'n credu bod gennyf i wahoddiad i fynd, hefyd, a fydd, wyddoch chi—a fydd yn wych.
Ond rydych chi yn llygad eich lle, John, fod y ffaith bod gennym y cymunedau amrywiol hyn sy'n cyfoethogi ein cymdeithas a bod gennym ni gysylltiadau, yn enwedig yn y cymunedau Caribïaidd, Jamaica—mae gennym ni lawer o'r cymunedau hynny yng Nghymru—a'r cysylltiad penodol hwnnw â'r fasnach gaethweision hefyd, o ran yr hyn yr oeddem yn sôn amdano a'r hyn yr oeddwn yn sôn amdano'n benodol yn fy natganiad—. Mae'r cysylltiad hwnnw gennym ni, mae gennym ni'r cysylltiad penodol hwnnw yng Nghymru, ac mae arnom ni eisiau annog yr amrywiaeth ddiwylliannol honno. Mae arnom ni eisiau cydnabod y cysylltiadau â'r fasnach mewn caethweision, ond, yn bwysicach, mae arnom ni eisiau annog ein cymunedau amrywiol i fynegi eu diwylliant yng Nghymru.
Rydym ni wastad wedi bod yn wlad groesawgar, yn genedl groesawgar. Ein hamrywiaeth sy'n ein gwneud yn arbennig iawn. Mae'r DU gyfan yn genedl amrywiol iawn, yn grŵp o genhedloedd, ac mae hynny i gyd mor bwysig. Felly, gobeithio y bydd yr ŵyl reggae a riddim yn wych. Rwy'n siŵr y bydd, oherwydd byddaf yno. Rwy'n siŵr y bydd yn wych. Rwy'n siŵr y bydd yn gwneud llawer iawn i ddod â phobl ifanc at ei gilydd yn y gymuned honno—a phobl nad ydyn nhw mor ifanc, os wyf i'n mynd, hefyd. [Chwerthin.] Ond dim ond i ddweud, John, ydy, mae'n sefydliad rhagorol, a phob clod iddyn nhw am y gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud yng Nghasnewydd.
Diolch i'r Gweinidog—i'r Dirprwy Weinidog—am y datganiad.