– Senedd Cymru am 7:30 pm ar 8 Mehefin 2022.
Symudaf yn awr i'r ddadl fer, a galwaf ar Joel James i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo.
Ac os oes Aelodau'n gadael, gwnewch hynny'n dawel. Joel.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn gadarnhau fy mod wedi cytuno i roi munud yr un i fy nghyd-Aelodau, Altaf Hussain a Russell George. Fel y gŵyr llawer yma, mae byddardod a'r problemau sy'n wynebu'r gymuned fyddar yn agos iawn at fy nghalon, ac roeddwn am fanteisio ar y cyfle—
Joel, cyn i chi barhau, os gwnewch chi gadarnhau: Altaf Hussain a Russell George.
Ie, munud yr un.
Diolch.
Fel y gŵyr llawer yma, mae byddardod a'r problemau sy'n wynebu'r gymuned fyddar yn agos iawn at fy nghalon. Roeddwn am achub ar y cyfle yn fy nadl fer gyntaf i dynnu sylw at rai o'r materion hyn. Byddaf yn ymdrin â thri phrif bwynt, sef yr effaith a gaiff colled clyw mewn cyflogaeth, Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022, ac anallu ymarferwyr awdioleg preifat i wneud gwaith GIG a goblygiadau hyn i restrau aros a'r effaith ddilynol ar iechyd a lles pobl. Rwyf am ganolbwyntio ar y pwyntiau hyn oherwydd credaf fod angen i'r Llywodraeth ddeall y gymuned fyddar ehangach yn well ac yn fwy greddfol, yn enwedig yr agweddau cudd ar golli clyw a sut y mae hyn yn cael effaith ddofn ar fywydau pobl.
O ran cyflogaeth, gwyddom fod o leiaf 4.4 miliwn o bobl o oedran gweithio yn y DU â cholled clyw. Gwyddom hefyd fod y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y rhai sydd â cholled clyw yn llawer is o'i chymharu â phobl heb unrhyw broblemau iechyd neu anabledd hirdymor, sef 65 y cant a 79 y cant yn y drefn honno. Ar gyfartaledd, telir o leiaf £2,000 yn llai y flwyddyn i bobl sydd â cholled clyw na'r boblogaeth gyffredinol, sy'n golygu y gall rhai sydd â cholled clyw ddisgwyl ennill gryn dipyn yn llai yn ystod eu hoes, sy'n cael effaith ganlyniadol o ran darparu ar gyfer eu teuluoedd a mwynhau'r un ffordd o fyw â phobl heb unrhyw broblemau iechyd hirdymor. Canfu arolwg diweddar o bobl â cholled clyw gan y Gymdeithas Frenhinol i Bobl Fyddar fod y rhai â cholled clyw yn wynebu amgylchedd gwaith caletach, a theimlai'r mwyafrif nad oeddent wedi cael cyfle cyfartal, nad oeddent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu bod yn teimlo eu bod wedi'u heithrio o sgyrsiau gyda chydweithwyr, eu bod yn unig yn y gwaith, eu bod wedi cael eu gadael allan o ddigwyddiadau cymdeithasol, a'u bod wedi profi bwlio neu angharedigrwydd yn y gwaith oherwydd eu cyflwr. Mae'r materion hyn sy'n ymwneud ag allgáu a diffyg cefnogaeth yn andwyol yn y tymor hir.
Ar gamu ymlaen mewn gyrfa, dywedodd y mwyafrif—60 y cant—o'r ymatebwyr nad oeddent wedi cael cyfleoedd i gamu ymlaen yn eu gyrfa, gyda nifer o bobl yn nodi bod diffyg modelau rôl byddar yn y gwaith yn rhwystr allweddol. Yn anffodus, er gwaethaf nifer o raglenni Llywodraeth a grëwyd i ddileu effaith anabledd o'r farchnad swyddi, ceir ymdeimlad yn y gymuned fyddar fod llawer o enghreifftiau o hyd o anhawster i gael gafael ar y math cywir o gymorth, ac weithiau i gael gafael ar unrhyw gymorth o gwbl. Y dystiolaeth fwyaf amlwg fod rhaglenni'r Llywodraeth yn aneffeithiol oedd bod y rhai sy'n fyddar neu sydd â cholled clyw difrifol yn dal i gael eu hystyried yn weithwyr drud oherwydd y cyfyngiad ar y swyddogaethau y gallant eu cyflawni a'r cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt.
Mae hyn i gyd yn paentio darlun trist i bobl yn y byd gwaith sy'n dioddef o golled clyw, yn fwy felly oherwydd bod llawer o hyn yn gudd. Mae'n amlwg fod yna lawer o bobl nad ydynt yn teimlo eu bod yn gallu integreiddio i fywyd gwaith yn llawn, a gall hynny, fel y gwyddom, fod yn ffactor pwysig yn hunaniaeth a boddhad bywyd pobl. Roedd diffyg cefnogaeth, diffyg darpariaeth o addasiadau rhesymol ac ar adegau, diffyg hyblygrwydd bron yn llwyr, yn broblem i'r holl gyfranogwyr, yn enwedig gweithwyr llaw neu weithwyr crefftus, sy'n golygu bod llawer o bobl yn teimlo, er gwaethaf eu hymdrechion gorau, na allant wneud eu gwaith hyd eithaf eu gallu.
Rhaid inni hefyd fod yn ymwybodol o agwedd gudd arall, sef y teimlad sydd gan rai sydd â cholled clyw mewn gwaith fod y gallu iddynt aros mewn gwaith a chadw eu swydd y tu hwnt i'w rheolaeth, waeth beth fo'u perfformiad gwaith, ac yn y pen draw mai mater i'r rhai sy'n eu goruchwylio yn eu rôl yw hynny. At hynny, ceir teimlad fod cyflogwyr yn ystyried bod pobl sy'n fyddar neu sydd â cholled clyw yn faich o ran iechyd a diogelwch. I'r rhai a oedd wedi gweithio ers dros 10 i 15 mlynedd, roedd y rheoliadau iechyd a diogelwch presennol yn cyfyngu ar eu gwaith, mewn cyferbyniad llwyr ag amodau gwaith y gorffennol. Yn eithaf pryderus, roedd yna deimlad y byddai'n anodd iawn dod o hyd i waith mewn mannau eraill oherwydd eu colled clyw, a bod rhaid iddynt dderbyn eu hamodau gwaith presennol neu wynebu diweithdra. Yn anffodus, mae sefyllfa pobl fyddar ddi-waith hyd yn oed yn waeth. Gan nad ydynt yn gallu defnyddio'r ffôn, mae bron bob cyswllt â darpar gyflogwyr yn digwydd drwy ohebiaeth ysgrifenedig. Yn aml iawn, gall dod o hyd i ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer cyfweliadau fod yn heriol.
Daw hyn â mi at fy ail bwynt, Deddf BSL. Roeddwn i, fel llawer o rai eraill, yn falch iawn o weld bod Bil BSL Llywodraeth y DU wedi cael Cydsyniad Brenhinol ddiwedd mis Ebrill eleni, gan ddod i rym fel Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022. I'r rhai sy'n anghyfarwydd â'r Ddeddf, ceir cydnabyddiaeth yn awr i Iaith Arwyddion Prydain fel iaith swyddogol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Er bod hon yn garreg filltir enfawr i bobl fyddar, nid yw'r sefyllfa gystal ag y dylai fod yn y gwledydd datganoledig. Yn Lloegr, mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol adrodd ar hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL gan adrannau gweinidogol y Llywodraeth, a rhaid cyhoeddi canllawiau mewn perthynas â BSL, sy'n nodi sut y mae'n rhaid i adrannau'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus ddiwallu anghenion pobl fyddar yn y DU. Yn seiliedig ar y nodau hynny, dylai'r Ddeddf wella mynediad at ddehonglwyr, yn ogystal â gwella ymwybyddiaeth gyffredinol, a helpu i ddatblygu addysg BSL. Dylai hefyd helpu i wella mynediad at gyflogaeth i bobl fyddar. Oherwydd y setliad datganoli, nid yw Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ddarostyngedig i ddyletswydd adrodd y Ddeddf, ac felly mater i Weinidogion Llywodraeth Cymru yma yn gyfan gwbl yw i ba raddau y gwelwn y budd hwn yng Nghymru. Yn hyn o beth, credaf fod angen i Lywodraeth Cymru gydnabod y Ddeddf yn ei chyfanrwydd, a chyflawni ei dyletswyddau adrodd llawn, a byddwn yn gobeithio y byddai pob Aelod yma yn y Siambr yn annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu'r ymagwedd hon.
Yn fy mhwynt olaf, rwyf am drafod gwasanaethau awdioleg yng Nghymru, a'r rôl a'r effaith bosibl y gall ymarferwyr awdioleg preifat eu cael. Ceir angen digynsail i glirio ôl-groniadau awdioleg yng Nghymru. Mae gan fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro bron i 1,500 o bobl yn aros am driniaeth, gyda dros 800 wedi aros 14 mis neu fwy am wasanaethau awdioleg y GIG. Mae 5,000 yn rhagor yn aros ledled Cymru am driniaeth fawr ei hangen i allu clywed yn dda eto, ac mae'r ffigurau hyn wedi cynyddu ers y pandemig. Mae'r rhestr aros benodol hon yn arwyddocaol. Er y gellir dweud nad yw colled clyw yn bygwth bywyd yn uniongyrchol, mae'n cael effaith enfawr ar fywydau'r rhai sy'n dioddef, yn enwedig gan fod colled clyw sy'n gysylltiedig ag oedran yn gyffredin iawn yng Nghymru, gydag 1 y cant o'r boblogaeth am bob blwyddyn o oedran yn dioddef—hynny yw, 70 y cant o bobl 70 oed ac 80 y cant o bobl 80 oed ac ati.
Mae effaith colli clyw sy'n gysylltiedig ag oedran yn mynd ymhell y tu hwnt i fethu clywed yn dda. Mae'n arwain, yn drasig, at ynysu cymdeithasol, unigrwydd, salwch meddwl, dementia, ac mae'r cyflyrau hyn wedyn yn arwain at broblemau iechyd eraill. Nid yw aros mwy na 14 mis am asesiad a chymhorthion clyw yn fater dibwys os ydych yn 80 oed gyda dirywiad gwybyddol cynyddol. Mae'n eich rhoi mewn sefyllfa fregus iawn, ac mae'n siŵr fod hynny'n wirioneddol frawychus iddynt. Ceir tystiolaeth gref i ddangos bod nam bach ar y clyw yn dyblu'r risg o ddatblygu dementia, mae colled clyw cymedrol yn arwain at dair gwaith y risg, a cholled clyw difrifol yn cynyddu'r risg bum gwaith. Amcangyfrifir mai colled clyw sydd i gyfrif am 8 y cant o achosion o ddementia, yn ogystal â phroblemau iechyd hirdymor eraill. Dros gyfnod o 10 mlynedd, mae gan bobl sydd â cholled clyw risg 47 y cant yn uwch o orfod mynd i'r ysbyty oherwydd y risg uwch o gwympiadau ac iselder. Yr hyn sy'n sefyll allan ymhellach yw y gellir atal gweithrediad gwybyddol rhag dirywio os ceir diagnosis amserol felly mae'r rhestr aros 14 mis i gael mynediad at wasanaethau awdioleg yn niweidio pobl, heb amheuaeth.
Holais y Prif Weinidog am y pwynt hwn yn ddiweddar, ac er fy mod yn croesawu ei ymateb fod angen cynyddu capasiti gofal sylfaenol, credaf fod y dull un llwybr hwn yn un cibddall, yn anad dim am ei bod yn mynd i gymryd cryn dipyn o amser i gynyddu capasiti gofal sylfaenol mewn GIG sydd eisoes dan bwysau, ond hefyd am fod awdiolegwyr cymunedol sefydledig ar gael i ni, awdiolegwyr y mae cleifion yn eu hoffi ac y profwyd eu bod yn ddiogel, yn glinigol effeithiol, ac y canfuwyd eu bod yn darparu gwerth da am arian yn Iwerddon, Lloegr ac mewn mannau eraill, ac maent ar gael ar bron bob stryd fawr yng Nghymru. Rhaid inni gofio bod gennym lawer o gleifion dros 70 oed sy'n awyddus iawn i gael mynediad at wasanaethau. Ni allant aros am y broses hir o gael pob bwrdd iechyd i gyflawni cynlluniau peilot a recriwtio'n uniongyrchol i'r gwasanaeth, ac yna gorfod clirio'r rhestrau aros sy'n dal i dyfu, sy'n sefyllfa a brofais yn ddiweddar gan fy mod newydd gael fy symud oddi ar y rhestr cleifion allanol yr oeddwn arni am ei bod wedi tyfu'n rhy hir.
Yr hyn sy'n fwy hurt ynghylch dull o weithredu'r Llywodraeth hon yw'r ffaith eu bod eisoes yn defnyddio optometryddion preifat, fferyllwyr, deintyddion a meddygon teulu yng Nghymru i helpu i ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol y GIG. Felly, mae'r Llywodraeth hon, heb unrhyw dystiolaeth ategol, yn trin gwasanaethau awdioleg yn wahanol ac yn gwrthod mynediad cyflym i gleifion yng Nghymru at y gwasanaeth hwn. Efallai nad yw'r Aelodau yma'n ymwybodol, ond yn yr archwiliad diweddaraf o wasanaethau awdioleg yng Nghymru, a gynhaliwyd, efallai y dylwn ychwanegu, cyn COVID-19, methodd pob bwrdd iechyd yng Nghymru gydymffurfio â'r gofyniad i gysylltu â phob claf cymorth clyw bob tair blynedd i gynnig apwyntiad ailasesu. Methodd pob bwrdd iechyd y meini prawf hyn yn 2017 hefyd. Dim ond pump o naw gwasanaeth a gyrhaeddodd neu a ragorodd ar y targed cydymffurfio ar gyfer pob safon unigol. Felly, cyn COVID, roeddem eisoes yn gweld nad oedd cleifion yn cael y gwasanaethau awdioleg y maent yn eu haeddu, ac mae'r sefyllfa hon yn gwaethygu.
Mae nifer y bobl sydd â cholled clyw yn cynyddu. Mae amcangyfrifon yn awgrymu y bydd tua 15.6 miliwn o bobl yn y DU â cholled clyw erbyn 2035—mae hynny'n un o bob pump o'r boblogaeth, o'i gymharu ag un o bob chwech o bobl ar hyn o bryd. Erbyn 2030, bydd colled clyw ymhlith oedolion yn un o'r 10 clefyd uchaf yn y DU, yn uwch na chataractau a diabetes, fel y'i mesurir yn ôl blynyddoedd bywyd a addaswyd o achos anabledd. Yn rhwystredig, mae agwedd y Llywodraeth hon at broblemau gyda gwasanaethau awdioleg yn rhyfedd ar y gorau ac yn achosi niwed bwriadol ar ei waethaf, yn enwedig am fod ateb parod ar gael ar ffurf awdiolegwyr cymunedol ar y stryd fawr. Mae GIG Cymru eisoes yn comisiynu optometreg gofal sylfaenol ac mae byrddau iechyd yn comisiynu gwasanaethau cymunedol ar gyfer iechyd llygaid, felly pam y mae'r Llywodraeth hon yn trin awdioleg yn wahanol ac nad yw'n mabwysiadu'r un dull o weithredu? Rwy'n gobeithio bod hwn yn safbwynt y bydd y Gweinidog yn rhoi sylw iddo. Diolch, Lywydd, a diolch i bawb am roi o'ch amser i wrando.
Diolch am y ddadl hon, Joel, ac am roi munud i mi—efallai y cymeraf fwy. Mewn llawer o achosion, mae pobl sydd â cholled clyw yn gorfod aros llawer mwy am apwyntiad gyda'u meddyg teulu. Mae llawer o feddygfeydd meddygon teulu yn methu cynnig apwyntiadau ar yr un diwrnod am nad oes ganddynt staff sy'n ddehonglwyr hyfforddedig neu sy'n gallu defnyddio iaith arwyddion. Gallai cleifion aros pythefnos neu fwy wrth iddynt aros i ddehonglwr gael ei drefnu. Mae hwn yn gyfnod hir i rywun agored i niwed sydd angen gweld ei feddyg. Mewn grŵp trawsbleidiol, disgrifiodd unigolyn â cholled clyw sut y cawsant eu torri i ffwrdd yn ystod galwad 111, am ei bod wedi cymryd cymaint o amser i ddod o hyd i rywun a allai gyfathrebu â hwy dros y ffôn. Pe bai hon yn alwad 999, gallai hynny fod wedi bod yn drychinebus. Mae angen i Lywodraeth Cymru dynhau rheoliadau ar gyfer cymhorthion clyw dros y cownter, gan y gallai defnyddwyr gael eu hynysu ymhellach a cholli mwy o'u clyw o ganlyniad i chwyddo'r sain yn ormodol. Mae angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn gwasanaethau colled clyw fel bod pawb yn cael triniaeth gyfartal. Yn y pen draw, gallai hyn achub bywydau. Diolch.
A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod, Joel James, am ei gyfraniad ac am roi eiliad o'i amser i minnau hefyd? Yng Nghymru, gwasanaethau'r GIG mewn ysbytai yn unig sy'n darparu gwasanaethau colled clyw. Gwyddom hefyd fod lefel amseroedd aros i rai cleifion yn annerbyniol o faith, gan orfodi cleifion naill ai i fynd yn breifat, neu os na allant ei fforddio, i ddioddef neu fethu gwybod lle i droi. Pan fyddaf yn mynd am fy apwyntiad i gael prawf golwg, rwyf hefyd yn cael cynnig prawf clyw, yn Specsavers yn y Drenewydd. Maent yn cynnig prawf clyw a hefyd—[Torri ar draws.] Dau am bris un—yn hollol. Ond mae fy nghyd-Aelod, Joel James, wedi tynnu sylw at hyn a hoffwn ddweud wrthych, Weinidog, fod cyfle yma i arbed arian i'r GIG, i wella mynediad at wasanaethau a hefyd i dynnu'r pwysau oddi ar y GIG, a hynny drwy gomisiynu darparwyr gwasanaethau cymunedol presennol yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau'r GIG gan ddefnyddio model sy'n seiliedig ar optometreg gofal sylfaenol presennol yng Nghymru. Mae optometryddion yn chwarae rhan enfawr wrth gwrs, yn lleihau'r baich ar wasanaethau gofal sylfaenol meddygon teulu a'r GIG yn ei gyfanrwydd yng Nghymru, felly gofynnaf i'r Gweinidog ystyried hyn fel model tebyg ar gyfer gwasanaethau colled clyw y GIG yng Nghymru.
Galwaf yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Hoffwn dalu teyrnged i Joel am ddod â'r mater hwn i sylw'r Senedd. Rwyf hefyd am dalu teyrnged i grŵp y Torïaid, oherwydd mae'n hyfryd gweld y ffordd y mae pawb ohonoch yn cefnogi eich gilydd yn y dadleuon byr hyn. Mae'n esiampl go iawn i'r gweddill ohonom, felly da iawn chi. Fe fyddwch yn falch o glywed bod fy araith 15 tudalen bellach wedi'i thorri i bump. [Chwerthin.]
Mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd dros dymor y Senedd hon i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl drwy ymrwymiad a rennir i sicrhau bod pawb yn cyrraedd eu potensial. Ac mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, pobl fyddar neu sy'n byw gyda nam ar eu clyw. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall bod yn fyddar neu fod â nam ar y clyw effeithio'n negyddol ar lefelau cyfathrebu weithiau, fel y nododd Joel. Gall hyn olygu bod pobl yn teimlo'n ynysig, wedi eu gwahanu oddi wrth y byd o'u cwmpas ac yn teimlo'n isel eu hysbryd. Gall rhwystrau bob dydd o ran gwasanaethau cyhoeddus, trafnidiaeth, iechyd, gofal cymdeithasol, adloniant a hamdden eu dal yn ôl. Mae ymyrraeth a diagnosis cynnar yn hollbwysig i iechyd a lles yr unigolion hyn.
Mae Cymru yn arwain y ffordd ar ddatblygu a darparu gofal iechyd clyw, drwy ein cynllun clyw, 'Fframwaith Gweithredu ar gyfer Cymru, 2017-2020: fframwaith gofal a chymorth integredig i bobl sy'n F/fyddar neu sy'n byw â cholled clyw'. Dyma'r cyntaf yn y DU, ac mae ein fframwaith gweithredu yn amlinellu'r ailgynllunio gwasanaethau sydd ei angen i ddiwallu anghenion poblogaeth Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Mae'r fframwaith gweithredu wedi'i ymestyn hyd at 2023, i gydnabod yr heriau sy'n parhau gyda'r gwaith sydd eto i'w wneud, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i atal problemau clust. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod pobl yn cael eu diagnosis a'u trin yn brydlon a'u bod yn cael y gofal a'r cymorth cyfathrebu parhaus sydd ei angen arnynt.
Mae pobl sy'n fyddar neu sy'n byw gyda nam ar eu clyw heb ei reoli neu heb gael diagnosis o golled clyw a dementia, neu broblemau iechyd meddwl, yn fwy tebygol o fod angen gofal a chymorth os ydynt yn mynd i gyrraedd eu potensial llawn o ran cyflogaeth ac addysg, ac yn gymdeithasol. Nod y fframwaith gweithredu yw dilyn cwrs bywyd o sgrinio babanod newydd-anedig a phlant i oedolion a phobl hŷn, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau priodol yn cael eu datblygu a bod unigolion yn cael eu cyfeirio at y gwasanaethau hynny pan fo'u hangen.
Yn yr amser sydd gennyf heddiw, ni allaf wneud cyfiawnder â'r ystod o bolisïau sydd ar y gweill i fynd i'r afael â materion cudd sy'n effeithio ar bobl fyddar a'r rhai sy'n byw gyda nam ar eu clyw, ond tynnaf sylw at ambell faes gweithgarwch. Hoffwn ddweud y byddaf yn ymchwilio i'r cyfleoedd i weld a oes unrhyw gyfle inni weithio gyda'r sector preifat i ehangu a chyflymu'r broses. Ni ellir gwella colled clyw, ond gellir lliniaru ei effeithiau negyddol drwy gymhorthion clyw ac offer a chymorth gan weithwyr proffesiynol amlasiantaethol. Ym mis Ebrill, cyhoeddais ein rhaglen ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal ysbyty wedi'i gynllunio a lleihau rhestrau aros. Yn bwysig, mae'r cynllun yn dangos sut i drawsnewid gwasanaethau yn y gymuned i gynnig gwahanol opsiynau a luniwyd i gefnogi unigolion. Dyma fydd ein ffordd allweddol o fynd i'r afael â'r mater o hyd.
Mae'n wych fod y DU wedi cydnabod BSL. Wrth gwrs, mae hynny'n dilyn yr enghraifft a osodwyd gennym yn ôl yn 2004, pan wnaethom gydnabod BSL yn ffurfiol fel iaith ynddi'i hun. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu hygyrch, a ni oedd y Llywodraeth gyntaf yn y DU i sicrhau bod ein cynadleddau i'r wasg COVID-19 yn cynnwys presenoldeb dehonglwr BSL.
Mae safonau Cymru gyfan yn rhoi arweiniad i staff y gwasanaeth iechyd ar sut i sicrhau bod anghenion cleifion am gymorth o ran gwybodaeth a chyfathrebu yn cael eu diwallu, ac mae hynny'n cynnwys BSL. Mae disgwyl i bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth roi trefniadau ar waith i gyflawni'r safonau er mwyn sicrhau bod yr holl wasanaethau ar gael yn hygyrch, gan gynnwys ar gyfer y gymuned fyddar.
Byddwch yn cofio fis Rhagfyr diwethaf, yn ystod yr wythnos pan oedden ni yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau, fod Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wedi gwneud datganiad yn y Senedd, yn tynnu sylw at y ffordd mae'r pandemig COVID wedi cael effaith wael iawn ar bobl anabl. Roedd y diffyg cydraddoldeb sy'n bodoli'n barod wedi cyfrannu at hynny, a chafodd y diffyg cydraddoldeb hwnnw ei ddwysáu yn ystod y pandemig. Roedd yr adroddiad 'Drws ar Glo' yn canolbwyntio ar yr annhegwch amlwg mae pobl anabl yn ei wynebu, ac yn tynnu sylw at y rhwystrau i bobl fyddar, sydd wedi ysgogi Llywodraeth Cymru i sefydlu tasglu hawliau anabledd.
I gloi, dwi'n credu y gallwn fod yn gytûn bod ystod eang o weithgaredd ar y gweill i fynd i'r afael â'r materion cudd sy'n effeithio ar bobl fyddar, a'r rhai sy'n byw gyda cholli clyw. Er hynny, mae mwy i ddod, a byddaf yn parhau i groesawu atebion arloesol pellach i gefnogi'r dinasyddion hyn yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Diolch, Weinidog, a diolch, bawb. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.