2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 8 Mehefin 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Weinidog, gan fod y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd bellach wedi cyhoeddi ei adroddiad, a ydych wedi ystyried a oes gan y Senedd y pwerau i gyflawni argymhellion y pwyllgor?
Wel, y pwynt cyntaf y byddwn yn ei wneud yw y bydd dadl, wrth gwrs—credaf fod dwy awr wedi'u dyrannu ar gyfer hyn y prynhawn yma—ac rwy'n siŵr y bydd yr holl faterion sy'n ymwneud ag adroddiad y pwyllgor diben arbennig yn cael eu hystyried. Fy rôl i a rôl Llywodraeth Cymru, os bydd y Senedd yn derbyn y cynigion yn yr adroddiad hwnnw, yw ystyried y rheini'n fanwl ac yn ofalus ac edrych ar y ffordd orau o weithredu'r cynigion hynny mewn deddfwriaeth ymarferol a chadarn.
O gofio mai eich Prif Weinidog a ysgrifennodd y crynodeb gweithredol, i bob pwrpas, gydag arweinydd Plaid Cymru, byddwn wedi meddwl y byddech wedi gwneud ychydig o waith eisoes, a dweud y gwir, i ystyried a oedd gan y Senedd gymhwysedd i weithredu'r argymhellion hyn. Oherwydd, fel cyn-aelod o'r pwyllgor hwnnw, gallaf ddweud wrthych fod y cyngor cyfreithiol, yn ein trafodaethau, yn gwbl glir: mae'r maes cyfle cyfartal yn faes nad yw wedi'i ddatganoli; nid oes gan y Senedd bwerau i osod cwotâu rhywedd statudol i fynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn menywod. Roedd y cyngor cyfreithiol hwnnw'n glir i ni, ac roedd yn dweud, i bob pwrpas, pe baem yn gweithredu i fynd i'r afael â gwahaniaethu neu driniaeth lai ffafriol i fenywod, y byddai'n sicr y tu hwnt i gymhwysedd y Senedd. Felly, ni waeth beth fo rhinweddau unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â diffyg amrywiaeth yn y Senedd, a ydych yn derbyn, os bydd eich Llywodraeth yn bwrw ymlaen â chwotâu rhywedd statudol, y byddai mewn gwirionedd yn peryglu holl agenda ddiwygio'r Senedd, ac na fyddai'n llwyddo i'w chyflawni erbyn 2026?
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw, ac rwy'n siŵr ei fod yn fater a fydd yn cael ei godi eto yn ddiweddarach y prynhawn yma. Hoffwn ddweud yn gyntaf, serch hynny, ynglŷn ag adroddiad y pwyllgor diben arbennig, nad wyf yn rhagdybio canlyniad y penderfyniad y prynhawn yma; mater i'r Senedd ydyw. Ac mae'n bwysig iawn mai'r Senedd sy'n gwneud unrhyw benderfyniad a wneir mewn perthynas â chynigion ar gyfer diwygio ac nid y Llywodraeth, ac mae'r gwahaniaeth hwnnw'n un eithriadol o bwysig. Mae'r holl faterion cyfreithiol a allai godi o ystyriaethau o'r hyn a dderbynnir gan y Senedd y prynhawn yma, os o gwbl, yn rhai a gaiff sylw mewn perthynas â'r gwaith o lunio deddfwriaeth i weithredu penderfyniadau neu argymhellion y Senedd.
Mae'n ddrwg gennyf, ni chlywais unrhyw eglurder yn eich ateb ynglŷn ag a ydych yn credu bod gan y Senedd gymhwysedd i allu cyflwyno cwotâu rhywedd ar hyn o bryd. Mae'n gwestiwn syml iawn. Gwn eich bod yn dal i gyfeirio at y ddadl a fydd yn cael ei chynnal ymhen dwy awr. Rwy'n tybio nad oes gennych ateb yn eich ymateb i'r ddadl honno ychwaith ar y mater hwn. Os oes gennych, efallai y gallaf bwyso arnoch ar y mater eto. A ydych yn derbyn nad oes gan y Senedd gymhwysedd ar hyn o bryd, oherwydd bod cyfle cyfartal wedi'i gadw'n ôl, i weithredu cwotâu rhywedd mewn gwirionedd, ac os byddwch yn bwrw ymlaen â deddfwriaeth—os bydd y Senedd yn bwrw ymlaen â deddfwriaeth—y gallai hynny beryglu holl agenda diwygio'r Senedd? Oherwydd os ydych yn derbyn hynny—ac o'r dystiolaeth a gawsom, nid yn unig gan ein cyfreithwyr ein hunain, ond gan bawb arall heblaw am un tyst unigol, roedd yn ymddangos i mi nad yw'r cymhwysedd hwnnw gennym—ac os byddwch yn bwrw ymlaen ar y sail hon byddwch yn peri i agenda diwygio'r Senedd fethu i bob pwrpas. Efallai mai dyna yw eich bwriad; nid wyf yn gwybod. Byddwn yn gobeithio nad dyna yw eich bwriad; byddwn yn gobeithio nad ydych am wastraffu amser pawb—[Torri ar draws.] [Anghlywadwy.]
Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod—a dywedaf hyn yn rhinwedd dwy swydd; yn gyntaf, fel Gweinidog yn y Llywodraeth, ond hefyd yn rhinwedd fy nghyfrifoldebau swyddog y gyfraith fel Cwnsler Cyffredinol—yw y byddaf yn rhoi ystyriaeth fanwl iawn, a bydd y Llywodraeth yn gwneud yr un peth, i'r argymhellion a gyflwynir, a gaiff eu pasio gan y Senedd, ac y byddaf yn gweithio wedyn i weld sut y gellir llunio deddfwriaeth gadarn ac ymarferol i weithredu'r argymhellion gan y Senedd.
Mae arnaf ofn y bydd angen i ni gymryd seibiant technegol. Ar hyn o bryd, dim ond microffon y Gweinidog, fy un i a Carolyn Thomas sy'n gweithio. Nid oedd un Darren Millar yn gweithio, ond rwy'n dawel fy meddwl fod eich llais yn ddigon cryf i'w glywed yn y darllediad, ond efallai nad yw hynny'n wir am bob Aelod, felly yn anffodus, bydd angen inni gymryd seibiant technegol byr.
A yw hynny'n golygu bod yn rhaid inni wrando arno eto? [Chwerthin.]
Nac ydy.
A gaf fi groesawu pawb yn ôl? Diolch i'r tîm technegol am ddatrys y problemau. Gobeithio y gallwn barhau am weddill y prynhawn heb ragor o anawsterau. Symudwn ymlaen yn awr at gwestiynau llefarydd Plaid Cymru—Rhys ab Owen.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fe fyddwch yn fwy ymwybodol nag unrhyw Aelod yma o'r garreg filltir enbyd a basiwyd dros y toriad hanner tymor o 100 diwrnod ers ymosodiad di-synnwyr Putin ar Wcráin a'i phobl. Fel swyddog y gyfraith yn Llywodraeth Cymru, pa waith a wnaethoch gyda swyddogion y gyfraith eraill ledled y Deyrnas Unedig i ymchwilio i'r troseddau rhyfel a'r erchyllterau hawliau dynol a gyflawnwyd yn erbyn pobl Wcráin gan Vladimir Putin?
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Mae'n fater sy'n dod i'r amlwg ledled y byd yn awr—y comisiwn troseddau rhyfel ac ymchwiliadau gan y Llys Troseddau Rhyngwladol ac yn wir, gan y Cenhedloedd Unedig eu hunain. Mae'r dystiolaeth yn llethol iawn. Rwyf wedi cael cyfarfod gyda swyddogion y gyfraith—y Twrnai Cyffredinol, Arglwydd Adfocad yr Alban ac Adfocad Cyffredinol Gogledd Iwerddon—ac rydym wedi trafod y dull sy'n cael ei fabwysiadu o ran y gefnogaeth i'r ymchwiliadau. Mae'r ymchwiliadau, wrth gwrs, yn cael eu dwyn gerbron gan yr erlynydd cyffredinol yn Wcráin. Rwyf wedi awgrymu y byddai manteision i ddull sy'n cynnwys y pedwar swyddog y gyfraith o ran y gefnogaeth i'r gwaith. Rwy'n gwybod bod cynghorydd arbennig wedi'i benodi gan Lywodraeth y DU i gynorthwyo'r erlynydd cyffredinol yn Wcráin.
Wrth gwrs, cafwyd dau achos troseddau rhyfel eisoes yn erbyn unigolion, ac mae nifer fawr o rai eraill yn cael eu hymchwilio. Mae'r niferoedd yn y miloedd. Wrth gwrs, ceir cyfreithwyr y mae eu gwasanaethau hefyd yn cael eu cyfeirio at gefnogi'r ymchwiliadau hynny. Byddaf yn cysylltu â'r erlynydd cyffredinol fy hun ynghylch unrhyw waith a chymorth penodol y gallwn ei ddarparu o Gymru, boed yn foesol neu'n ymarferol o ran ymgysylltu ag aelodau o'r gymuned gyfreithiol yng Nghymru sydd ag arbenigedd yn y maes hwn. Mae hynny'n rhywbeth lle yr hoffwn weld maes penodol iawn o gefnogaeth Gymreig os ystyrir ei bod o fudd i'r gwaith pwysig sy'n digwydd—yn awr, yn ystod y rhyfel, ond yn yr un modd ar gyfer y blynyddoedd lawer ar ôl hynny fel sy'n anochel gyda'r mathau hyn o achosion.
Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyhoeddi'n ddiweddar eu bod wedi prynu bloc swyddfa wrth ymyl yr Old Bailey am £111 miliwn. Fel bargyfreithiwr ifanc yn 2009, roedd pobl yn cwyno bryd hynny am gyflwr annigonol y ganolfan cyfiawnder sifil yng Nghaerdydd. Mae pobl wedi parhau i gwyno amdani ers hynny. Mewn gwirionedd, pan ymwelodd y Goruchaf Lys â Chaerdydd am y tro cyntaf, cafodd ei gynnal yn Nhŷ Hywel, sy'n codi llawer o gwestiynau eraill, yn hytrach nag yn y ganolfan cyfiawnder sifil. Ymateb y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw, 'Byddwn yn darparu ffynnon ddŵr ychwanegol a byddwn o'r diwedd yn trwsio'r lifft sydd wedi torri.' Y mae ychydig fel fflat Del Boy, yn hytrach na chanolfan cyfiawnder sifil. Felly, Gwnsler Cyffredinol, pryd y mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn mynd i fod o ddifrif ynglŷn â chyfiawnder yng Nghymru ac yn sicrhau canolfan cyfiawnder sifil sy'n gweddu i brifddinas fel Caerdydd?
Diolch am hynny. Nid oes amheuaeth o gwbl nad yw'r ganolfan cyfiawnder sifil yn addas i'r diben. Nid oes amheuaeth o gwbl ychwaith fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymwybodol o hynny. Rwyf i a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cyfarfod â Dominic Raab, yr Arglwydd Ganghellor, a chodwyd y mater penodol hwn gydag ef. Fe'i codwyd gennym hefyd yn ystod cyfarfodydd ar sawl achlysur gyda'r Arglwydd Wolfson, a ymddiswyddodd wedi hynny—nid oherwydd y cwestiwn ond oherwydd materion eraill. Felly, maent yn ymwybodol iawn o'r pryderon. Hefyd, rwyf wedi'i gwneud yn glir iawn, rwy'n credu, mewn atebion i gwestiynau yn y Siambr hon ei bod yn gwbl annerbyniol fod prifddinas Caerdydd yn cael ei thrin fel hyn. Pe bai cyfiawnder yn cael ei ddatganoli, ni fyddem yn goddef cyfleusterau o'r fath, cyfleusterau sydd nid yn unig yn annigonol i ddefnyddwyr y llys—y dinasyddion, y cyfreithwyr, a'r farnwriaeth—ond nad ydynt ychwaith yn briodol o ran y ddelwedd yr ydym am ei chael o system gyfreithiol Cymru a'r ffordd yr ydym am weld yr economi gyfreithiol yng Nghymru yn tyfu.
Serch hynny, gallaf ddweud wrthych fy mod yn y broses o ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn benodol ar y pwynt hwn—mor rhyfedd yw hi, ar ôl cael gwybod nad oes digon o arian, fod miliynau o bunnoedd ar gael ar gyfer canolfan arall yn Llundain, tra bod y ganolfan cyfiawnder sifil yng Nghaerdydd yn cael ei hanwybyddu'n llwyr. Rwy'n falch o weld, wrth gwrs, fod rhywun wedi'i benodi yn lle yr Arglwydd Wolfson bellach. Y Gweinidog cyfiawnder newydd yw Syr Christopher Bellamy, a fu'n rhan o'r adolygiad diweddar o gymorth cyfreithiol wrth gwrs. Byddaf yn ceisio cael trafodaethau gydag ef ynghyd â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, lle bydd hyn hefyd yn un o'r eitemau ar yr agenda. Rhaid imi ddweud, un o'r pethau rwy'n meddwl amdanynt yw efallai y dylem gael ein cyfarfod wyneb yn wyneb nesaf yn y ganolfan cyfiawnder sifil.