2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

– Senedd Cymru am 2:29 pm ar 14 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:29, 14 Mehefin 2022

Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Lesley Griffiths.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae gen i ddau newid i'r agenda heddiw: bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gwneud datganiad maes o law ar gostau byw, ac mae'r datganiad ar ddiogelwch adeiladau wedi ei dynnu yn ôl. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymysg y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 2:30, 14 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, yn anffodus, ddiwedd yr wythnos diwethaf, bu'n rhaid i mi fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys yn ysbyty y Faenor ar ôl cael cyngor gan fy meddyg. Gadewch i mi fod yn glir nad yw'r hyn yr wyf i ar fin ei rannu â'r Senedd yn feirniadaeth o gwbl ar y staff, oherwydd yr oedd pob un person y siaradais ag ef, o'r derbynnydd i'r nyrsys gweithgar, yn hollol wych, ac ni allaf eu beio nhw o gwbl. Cyn fy ethol y llynedd, roeddwn i wedi clywed y newyddion, fel llawer o bobl y tu allan i'r Siambr hon, ac wedi darllen yn y papurau, ac ar ôl cael fy ethol yma, mae mwy a mwy o drigolion y de-ddwyrain wedi dod ataf i a siarad am eu dadrithiad gydag ysbyty y Faenor. Ac rwy'n sefyll o'ch blaen chi heddiw i gytuno â phob un ohonyn nhw fod ysbyty y Faenor, heb amheuaeth, mewn anhrefn.

O ran cefndir, rwyf i eisiau'ch gwneud chi'n ymwybodol fy mod i wedi ffilmio fy holl brofiad tra'r oeddwn i yno—gallwch chi ei alw'n fersiwn fy hun o fy exposé Panorama—a gwnes i hyd yn oed ei bostio ar y cyfryngau cymdeithasol ddoe. Ni ddywedais wrth neb fy mod i'n mynd i'r ysbyty, ac roeddwn i'n gwisgo gorchudd wyneb drwy'r amser fel na fyddai neb yn fy adnabod, gan nad oeddwn i eisiau cael fy nhrin yn wahanol i neb arall oherwydd fy mod i'n Aelod o'r Senedd. Daeth yn amlwg iawn yn gyflym iawn fod y problemau'n dechrau cyn i chi gyrraedd yr ysbyty hyd yn oed. Yn gyntaf, fel rhywun â throed a oedd yn ddwywaith ei maint, ac mewn poen, bu'n rhaid i mi barcio ymhell iawn i ffwrdd o'r prif adeilad mewn maes parcio atodol gan nad oedd dim lle hyd yn oed yn agos at y drysau i barcio car. Yn ffodus, roeddwn i'n gallu hercian i'r fynedfa, ond sut y gall unrhyw un ohonom ni ddisgwyl i rywun sy'n ddifrifol wael, yn anabl neu'n oedrannus gerdded yr holl ffordd y gwnes i? Roedd un fenyw yr oeddwn i wedi siarad â hi, a oedd yno gyda phoenau difrifol yn y frest, wedi gorfod brwydro gyda thrafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd yr ysbyty oherwydd cafodd hi wybod nad oedd ambiwlansys ar gael.

Mae hyd yn oed ceisio dod o hyd i'r adran damweiniau ac achosion brys fel ceisio cerdded drwy ddrysfa y byddai hyd yn oed Harry Potter yn ei chael yn anodd, oherwydd mae'n amlwg nad oedd unrhyw arwyddion o'r fynedfa i'r adran damweiniau ac achosion brys ei hun. Cerddais drwy'r brif fynedfa, yna crwydrais o amgylch gwahanol goridorau ac adrannau, siaradais â gwahanol aelodau o staff cyn cael fy arwain i'r lle iawn. Yr uchafbwynt ar ôl cerdded drwy'r hyn a oedd teimlo fel yr ysbyty cyfan oedd cael fy anfon allan eto i gymryd fy nhymheredd, dim ond i gerdded yn ôl i mewn eto a chael gwybod gan ddarn bach o bapur y gallwn i fynd i mewn a gwneud fy apwyntiad. Nid oedd yn rhaid i'r ffrind a oedd gyda mi, a gerddodd wrth fy ochr i drwy'r amser, gymryd unrhyw un o'r profion.

Hwn oedd y tro cyntaf i mi yn ysbyty y Faenor, ac i unrhyw un nad yw wedi bod yno o'r blaen, pan fyddwch chi'n cyrraedd yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys, rydych chi'n cael eich cyfarch ag ystafell aros frawychus o fach, y mae'n amlwg nad yw'n addas ar gyfer ysbyty sy'n cwmpasu ardal fel y de-ddwyrain. Ar ôl cael fy archwilio gan dderbynnydd hyfryd, cefais fy ngorfodi i eistedd ar garreg y drws gan nad oedd digon o gadeiriau y tu mewn. Eisteddais yno yn gwylio nifer cynyddol o ambiwlansys yn aros gyda chleifion y tu mewn iddyn nhw am gyfnod hir iawn. Diolch byth, nid oedd yn rhaid i mi aros yn hir i gael fy ngweld, ond roedd un dyn wedi bod yn aros am 17 awr cyn rhoi'r gorau iddi yn y diwedd a mynd adref gyda gwraig oedrannus arall a fu'n aros yno am bum awr.

Mae gen i fam oedrannus, Gweinidog, mam anabl, ac fel hi, mae llawer o bobl sy'n ddiabetig neu'n wan yn naturiol yn llwglyd ar ôl aros cyhyd am apwyntiad. Beth yw'r opsiynau os ydych chi eisiau tamaid i'w fwyta yn ysbyty y Faenor? Gadewch i mi ddweud wrthych chi. Un o'ch dewisiadau—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:32, 14 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu fy mod i wedi bod yn hynod hael wrth ganiatáu i chi egluro'ch sefyllfa. 

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative

(Cyfieithwyd)

Felly, fy nghwestiwn i, Gweinidog, ar ôl mynd drwy hyn i gyd, a fy nghwynion a fy mhryderon yw—ac maen nhw wedi eu codi gan nifer o gleifion—yr hoffwn i ddatganiad gan y Gweinidog yn y Siambr hon, cyn gynted â phosibl, ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud yn awr i sicrhau bod ysbyty y Faenor yn addas i'r diben fel mater o frys. Oherwydd gyda'r nifer o ddefnyddwyr yn mynd yno o Ysbyty Brenhinol Gwent ac ysbytai eraill yn yr ardal, rwy'n poeni'n wirioneddol ein bod ni'n wynebu trychineb. Diolch yn fawr. 

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:33, 14 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Roedd hwnnw yn sicr yn gwestiwn hir iawn i'w ofyn am ddatganiad. Mae'n ddrwg gen i glywed y bu'n rhaid i chi fynd i ysbyty y Faenor. Yn amlwg, rydych chi'n nodi llawer o faterion a fydd wedi codi pryderon, yn enwedig gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a fydd wedi clywed eich cwestiwn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod pobl yn mynd i'r lleoliad iechyd cywir pan fydd ganddyn nhw broblem. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylai llawer ohonom ni ei ailadrodd pryd bynnag y cawn ni'r cyfle i wneud hynny. Rwy'n gwybod bod gwaith yn mynd rhagddo i wella'r mannau yn yr adran achosion brys yn ysbyty y Faenor a'r ardal achosion mawr. Yn anffodus, mae'n rhaid iddyn nhw osod camerâu am resymau diogelwch, ond hefyd, maen nhw'n gosod sgriniau, a byddwch chi'n ymwybodol bod ymweliad dirybudd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi ei gynnal a wnaeth argymhellion. Rwy'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn ymdrin â'r holl bethau hyn. 

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 2:34, 14 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Trefnydd, mae cwestiynau difrifol am ddyfodol gwasanaethau mentora cymheiriaid i bobl â phroblemau cyffuriau, alcohol ac iechyd meddwl yng Nghymru. Mae rhai yn y sector yn credu y gallai gwasanaethau chwalu yn ystod yr haf gan nad yw'r contract newydd wedi ei gynnig i dendro eto ac efallai na fydd ar waith tan fis Hydref neu fis Tachwedd eleni. Mae hyn yn golygu na fydd gwasanaethau mentora cymheiriaid yn gallu derbyn cleientiaid newydd o ddechrau'r mis nesaf, ac y bydd mentoriaid, y bydd gan lawer ohonyn nhw brofiad personol o fod yn gaeth i sylweddau, ac felly'n agored i niwed eu hunain, yn ddi-waith ddiwedd mis Awst.

Ymateb eich Llywodraeth i'r mater hwn fu galw ar ddarparwyr gwasanaethau i gynnal y gwasanaeth heb gyllid nes iddo gael ei dendro, yn y pen draw, yn ddiweddarach eleni. Cefais wybod ei bod yn bosibl iawn y gallai hyn fod yn anghyfreithlon gan y byddai'n golygu bod elusennau'n rhoi cymhorthdal i Lywodraeth Cymru. Codais i'r mater gyda'r Dirprwy Weinidog—ac rwy'n gweld bod y Dirprwy Weinidog yma hefyd—mewn gohebiaeth ddiwedd yr wythnos diwethaf, ond mae'r sefyllfa mor bwysig, mae angen ymdrin â hi ar frys. A gawn ni ddatganiad brys felly gan y Llywodraeth ar y mater hwn, gyda'r nod o ddarparu ateb i'r broblem nad yw'n amharu ar gleientiaid sy'n agored i niwed, staff sy'n agored i niwed, ac yn peryglu cynaliadwyedd elusennau sydd wedi gweithio mor ddiwyd ac effeithiol dros gyfnod y contract presennol? 

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:35, 14 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydych chi wedi gwneud y peth iawn drwy ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog, sydd, fel yr ydych wedi ei ddweud, yn gwrando ar eich cwestiwn, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n ymateb cyn gynted ag y gall wneud hynny. Rwy'n ymwybodol bod gwasanaeth mentora cymheiriaid i bobl heb waith wedi'i ddarparu gan gyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Yn anffodus, bydd yr arian hwnnw yn dod i ben, ac mae'r Dirprwy Weinidog wedi cyhoeddi, rwy'n credu, tua £8 miliwn o gyllid, o'r cof, ar gyfer ymestyn y gwasanaeth mentora cymheiriaid hwnnw. Ond rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn rhoi sylw i'r pwyntiau hynny yn ei hymateb i chi.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, rwy'n gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar yr arholiadau Safon Uwch, UG a TGAU eleni, ac yn arbennig, TGAU Cymraeg ail iaith; TGAU Ffrangeg, a oedd yn cynnwys cwestiwn ar bwnc y cafodd ysgolion wybod ei fod wedi ei ddileu; Safon UG mathemateg bur; Safon Uwch ffiseg, y cafodd yr athrawon wybod na fydden nhw'n synoptig, ond yr oedden nhw'n synoptig; a Safon UG cemeg, lle'r oedd y papur arholiad ei hun yn wahanol iawn i unrhyw bapurau ymarfer blaenorol neu bapurau blaenorol. A gawn ni ddatganiad fel mater o frys yn hytrach na phan gaiff y canlyniadau eu cyhoeddi?

Hefyd, rwy'n gofyn am ddatganiad ar ddarparu caeau chwaraeon 3G a 4G yng Nghymru. Y broblem fwyaf sydd gennym yw dod o hyd i leoedd i blant chwarae drwy gydol y gaeaf. Nid oes unrhyw bwynt iddyn nhw gael eu hudo gan Aaron Ramsey, Joe Allen, Gareth Bale ac eraill os nad oes digon o gaeau o safon ar gael iddyn nhw eu defnyddio. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad ynghylch faint o gaeau pêl-droed maint llawn 3G a 4G newydd y maen nhw'n disgwyl iddyn nhw gael eu hadeiladu yn ystod y tymor hwn a'r chwaraeon sy'n cael eu darparu?

Yn olaf, rwy'n gofyn am ddatganiad ysgrifenedig neu lafar ar ganlyniad cyfarfod y cyngor dur, a gafodd ei gynnal yr wythnos hon rwy'n credu.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:37, 14 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Cododd Mike Hedges dri mater, yr un cyntaf ynghylch arholiadau a fydd yn cael eu cynnal yr haf hwn. Yn amlwg, mae wedi bod yn gyfnod eithaf anodd i'n dysgwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwy'n credu bod dysgwyr wedi gorfod addasu ac ymdopi â threfniadau newydd sy'n aml yn heriol o ganlyniad i'r aflonyddwch sylweddol hwnnw yr ydym ni wedi ei gael i addysgu a dysgu. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg yn ymwybodol o'r pryder ynghylch nifer o bapurau arholiad. Nid wyf i'n hollol siŵr o'r holl bynciau, ond rwy'n siŵr bod Mike Hedges wedi ymdrin â llawer ohonyn nhw. Mae'n cyfarfod yn rheolaidd â CBAC a Cymwysterau Cymru, nid yn unig ynghylch y pryderon o ran yr arholiadau y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw, ond hefyd i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi'n llawn drwy gydol y gyfres arholiadau hon eleni.

O ran caeau 3G a 4G, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo, fel y mae Mike yn gwybod, rwy'n siŵr, £24 miliwn o gyllid cyfalaf yn ystod y tair blynedd nesaf ar gyfer ein cyfleusterau chwaraeon. Rydych chi'n hollol gywir wrth ddweud, os ydym ni eisiau rhyddhau manteision chwaraeon i bawb, fod angen i ni sicrhau bod gennym ni'r cyfleusterau hynny ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corfforol sydd ar gael i bob un wan jac. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog diwylliant a chwaraeon yn parhau i weithio'n agos iawn gyda Chwaraeon Cymru. Mae hi wedi cael trafodaethau cadarnhaol ac adeiladol iawn gyda rhai o'n partneriaid cenedlaethol hefyd ynglŷn â darparu'r cyfleusterau hynny wrth symud ymlaen. Mae Chwaraeon Cymru wedi sefydlu grŵp buddsoddiad cyfalaf strategol yn ddiweddar, fel bod ganddyn nhw gynllun strategol ar gyfer cyfarwyddo'r cyllid a blaenoriaethu buddsoddiad cyfalaf mewn cyfleusterau.

O ran eich cwestiwn ynglŷn â'r cyngor dur, byddaf i'n sicr yn gofyn i Weinidog yr Economi, yr wyf yn tybio iddo ymgymryd â hynny, ddarparu datganiad ysgrifenedig.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:39, 14 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Trefnydd, a gaf i ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Dirprwy Weinidog trafnidiaeth ynghylch cyflwr brawychus y gwasanaeth trenau yng Nghymru? Nid yw mor bell yn ôl ers i mi sefyll yma, Llywydd, ar ôl i ni gael taith erchyll i lawr o'r gogledd i'r de—cymerodd nifer fawr o oriau. Ond ddydd Llun diwethaf, wrth ddod i lawr yma, cefais i daith ofnadwy. Cefais i wybod mai'r rheswm oedd bod y trên marc 5 a oedd i fod i weithredu ar y daith hon ar 6 Mehefin wedi datblygu problem ddifrifol gyda'i freciau ac nad oedd modd ei ddefnyddio ar gyfer y gwasanaeth hwn. Gan fynd yn ôl—roeddwn i'n sâl yr wythnos diwethaf; cefais fy nghymryd yn sâl, mewn gwirionedd—cymerodd bum awr a chwarter i mi, o ddrws i ddrws, ac nid oedd troli yno. Gofynnais, fe wnes i erfyn arnyn nhw am botel o ddŵr, oherwydd roeddwn i wedi bod yn bur sâl. Unwaith eto, nid yw hynny'n foddhaol ar daith bedair neu bum awr.

Ond yn bwysicach na hynny, fore Sadwrn diwethaf, gwelodd teithwyr yng Nghymru ragor o anhrefn ar drenau Trafnidiaeth Cymru. Dim ond dau gerbyd oedd gan drên a oedd yn rhedeg o Gaergybi i Gaerdydd ac roedd eisoes yn llawn erbyn 11.10 a.m. ym Mangor. Roedd helbul mawr yn dechrau codi storm ar Twitter, ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n credu i mi weld y Dirprwy Weinidog yn cymryd rhan. Cafodd cwestiynau eu codi gyda Trafnidiaeth Cymru, ac atebodd Trafnidiaeth Cymru gan ddweud, ac rwy'n dyfynnu:

'nid oes terfynau uchaf ar nifer y cwsmeriaid sy'n cael teithio ar drên, yn wahanol i ddulliau eraill o deithio, fel bysiau ac awyrennau.'

I mi, gan fod y cyswllt awyr wedi dod i ben o Gaerdydd bellach—mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf i erioed wedi ei ddefnyddio, ond oherwydd bod y gwasanaeth trenau yn mynd mor wael, mae'n rhywbeth y byddwn i wedi ei ystyried—pryd mae'r gwasanaeth trenau'n mynd i wella? Ac yn lle trydar, a wnaiff y Dirprwy Weinidog ddod yma a gwneud datganiad? Oherwydd, os oes unrhyw Aelodau yma wedi clywed datganiad gan y Dirprwy Weinidog ers misoedd, yna mae'n rhaid fy mod i wedi colli rhywbeth. Rwy'n credu ei bod yn bryd iddo ddod yma a gwneud datganiad am gyflwr brawychus ein gwasanaeth trenau yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:41, 14 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Roedd yn sicr yn siomedig iawn gweld y gorlenwi ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn y gogledd dros y penwythnos. Rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog yn sicr wedi dweud wrth Trafnidiaeth Cymru am wneud pob ymdrech i ganolbwyntio adnoddau ar y gwasanaethau prysurach. Wrth gwrs, roedd gêm bêl-droed ryngwladol ddydd Sadwrn, felly rwy'n siŵr bod llawer mwy o bobl yn teithio i lawr o'r gogledd. Gwelais i hefyd bobl yn mynd yn rhwystredig iawn ar y cyfryngau cymdeithasol ac rwy'n deall y rhwystredigaeth honno yn llwyr. Nid oedd yn ddigon da, ac, fel y dywedais i, rydym ni yn deall rhwystredigaethau teithwyr.

Byddwch chi'n ymwybodol o'r hyn a ddigwyddodd yn Craven Arms yn ddiweddar, lle'r oedd trên Trafnidiaeth Cymru wedi taro peiriant cloddio bach a oedd wedi ei ddwyn a'i adael ar y lein, felly fe wnaeth hynny ddifetha rhai cerbydau. Felly, yn anffodus, mae ganddyn nhw lai o drenau. Fe wnaethoch chi sôn pam nad oedd trên yn cael ei ddefnyddio'r wythnos diwethaf, ac, wrth gwrs, os oes nam difrifol, ni fyddem ni eisiau iddo gael ei ddefnyddio. Byddwch chi'n ymwybodol bod gennym ni drenau newydd yn cyrraedd yn ddiweddarach eleni. Maen nhw'n cael eu profi ar hyn o bryd. Nid ydyn nhw'n barod ar hyn o bryd, ond byddan nhw'n barod yn ddiweddarach eleni. Ond, byddwch yn dawel eich meddwl bod y Dirprwy Weinidog yn cynnal trafodaethau rheolaidd gyda Trafnidiaeth Cymru.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:42, 14 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, rydym ni'n aros i weld beth sy'n digwydd heddiw gyda'r awyren sydd wedi ei drefnu ar gyfer ceiswyr lloches i Rwanda. Ond byddwn i'n ddiolchgar am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am ei thrafodaeth gyda Llywodraeth y DU ar y mater penodol hwn. Darparodd y Cwnsler Cyffredinol gyfrif defnyddiol yr wythnos diwethaf, ond byddai'n dda cael datganiad llafar y gallai Aelodau gael cyfle i siarad arno. Mae'n bolisi hyll. Mae'n sarhad ar enw da ein gwlad, fel y mae'r llanastr dros brotocol Gogledd Iwerddon. Mae'n hurt, mae'n ddrud ac mae'n aneffeithiol. Efallai y bydd cyn lleied â saith o bobl ar yr awyren gyntaf heddiw. Mae hynny'n wastraff enfawr ar arian trethdalwyr, ac ni fydd yn gweithio. Mae hyd yn oed y Swyddfa Gartref yn dweud nad oes unrhyw dystiolaeth o effaith ataliol. Mae'n ymgais sinigaidd i dynnu sylw oddi ar fethiannau costau byw y Torïaid a'u brwydro mewnol eu hunain. Dyna fy marn i. Efallai y bydd Aelodau Ceidwadol y Senedd yma yn anghytuno â hynny. Felly, rwy'n credu y byddai'n amser da amserlennu trafodaeth i gael y gwir deimlad ar y polisi erchyll hwn gan bob Aelod sy'n dymuno cymryd rhan ynddo yn y Siambr hon.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:43, 14 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Nid wyf i'n anghytuno ag unrhyw beth y mae Joyce Watson yn ei ddweud. Rwy'n credu ei fod yn greulon, rwy'n credu ei fod yn anfoesol, rwy'n credu ei fod yn aneffeithiol, rwy'n credu ei fod yn ddrud, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi gwneud y safbwyntiau hynny yn glir iawn yn y llythyr ar y cyd â Llywodraeth yr Alban ar 19 Mai. Mae'n gwbl groes i'n hymagwedd cenedl noddfa sydd gennym ni yma yng Nghymru, ac rydym yn falch iawn o fod yn genedl noddfa.

Rwy'n cytuno â chi hefyd ynglŷn â'r effaith y bydd yn ei chael. Rwy'n credu'n llwyr y bydd yn arwain at fwy o fasnachu pobl, yn hytrach na llai. Os edrychwch chi ar y rhai sy'n mynd i gael eu cludo i Rwanda, maen nhw'n mynd i fod yn agored iawn i gangiau o droseddwyr a fydd yn ceisio manteisio ar y sefyllfa. Nid yw mor bell yn ôl, rwy'n siŵr, yr oedd gennym ni ffoaduriaid o Rwanda hefyd. Yn sydyn, mae Llywodraeth y DU yn credu ei bod yn iawn cludo ffoaduriaid a cheiswyr lloches yno. Rwy'n credu y bydd yn ei gwneud hi'n wirioneddol fwy heriol i bobl geisio diogelwch rhag rhyfel ac erledigaeth wrth symud ymlaen, gan arwain at oedi hirach—ac maen nhw eisoes yn rhy hir o lawer—yn y system lloches.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:45, 14 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Dau ddatganiad, os gwelwch yn dda, Trefnydd. Fel y gwnaeth arweinydd yr wrthblaid ein hatgoffa ni'n gynharach, mae ein meddyliau'n troi tuag at Dŵr Grenfell heddiw, bum mlynedd neu hanner degawd ar ôl y digwyddiad trasig hwnnw. Clywais i resymu'r Prif Weinidog ynghylch pam y cafodd y datganiad ei dynnu yn ôl, ond roedd y trigolion yr wyf i wedi siarad â nhw wedi eu tramgwyddo gan y ffaith ei fod wedi ei dynnu yn ôl ar y diwrnod hwn, ac roedden nhw'n ei ystyried yn sarhad. Clywais i'r Prif Weinidog yn dweud y bydd y datganiad yn cael ei wneud ddiwedd y mis hwn. Rwyf i wedi ceisio edrych ar-lein i ddarganfod pryd, gan fod gwylnos ar risiau'r Senedd heddiw a bydd gofyn i ni ddweud pryd, felly a allwch chi ddweud wrthym ni yn union pa ddiwrnod y bydd y datganiad yn cael ei glywed?

A gan ddilyn ymlaen o fy nghyfaill Joyce Watson ar Rwanda, hoffwn i hefyd adleisio ei chais hi am ddadl. Pan fydd gennym ni weithredwyr asgell chwith enwog fel yr etifedd i orsedd Lloegr, archesgobion Caergaint ac Efrog a holl esgobion Tŷ'r Arglwyddi yn gwrthwynebu'r polisi creulon hwn, a hefyd y Cynghorydd Joel Williams, ac aelod o staff y Ceidwadwyr, rwy'n credu, hefyd yn gwrthwynebu'r polisi hwn yn y Western Mail, siawns nad oes angen iddyn nhw ddeffro? Felly, a gawn ni ddadl ar hynny, os gwelwch yn dda, fel y gofynnodd Joyce Watson? Diolch yn fawr, Trefnydd.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:46, 14 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Felly, i ychwanegu at yr hyn a ddywedais wrth Joyce Watson, fe wnes i sôn bod y Gweinidog wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU. Un o'r pethau y cafodd ei ofyn amdano oedd cyfarfod rhwng y pedair gwlad i drafod polisi Rwanda. Rwy'n siŵr na fyddwch chi'n synnu o glywed nad oes ymateb wedi dod i hynny hyd yn hyn. Felly, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog fynd ar drywydd y llythyr hwnnw i weld a yw'n bosibl, ac yna, rwy'n credu mai dyna fyddai'r adeg briodol i'r Aelodau gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

O ran tynnu'r datganiad llafar ar ddiogelwch adeiladau yn ôl, rwyf i eisiau sicrhau pawb nad oedd yn fwriad i sarhau unrhyw un o gwbl. Fel y dywedodd y Prif Weinidog, yr oedd gwaith yr oeddem ni wedi gobeithio y byddai wedi ei wneud cyn y datganiad llafar heddiw ond nad yw wedi ei wneud, ond cyn gynted ag y bydd y gwaith hwnnw wedi ei wneud, bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad. Ni allaf roi dyddiad i chi, ond yn amlwg y bydd cyn toriad yr haf.

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 2:47, 14 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd BBC Cymru stori yn cynnwys amrywiaeth o bryderon gan Sefydliad Bevan ynghylch cyflwyno dewis Llywodraeth Cymru o ran prydau ysgol am ddim i bob ysgol gynradd, a fydd yn dechrau ym mis Medi. Yn syml, nid oes gan lawer o ysgolion y seilwaith i gynnig pryd o fwyd i bob disgybl. Bydd cyfyngiadau ar geginau, seddi a gallu staffio. Cyn diwedd tymor yr haf, mae angen gwirioneddol i ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog addysg sy'n nodi'r heriau allweddol, ac a ydyn nhw wedi eu goresgyn, a pha gamau y mae ef ac awdurdodau lleol yn mynd i'w cymryd i fodloni'r disgwyliadau ymhlith rhieni yr ydych chi wedi eu creu. Diolch yn fawr, Gweinidog.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:48, 14 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru, ynghyd â Phlaid Cymru fel rhan o'n cytundeb cydweithredu, yn cyflwyno prydau ysgol am ddim. Yn amlwg, mae materion y mae angen ymdrin â nhw, ac rwy'n credu bod gallu mewn ysgolion yn un. Mae materion eraill sy'n cael eu datrys. Mae'n ddarn o waith i bob rhan o'r Llywodraeth i raddau helaeth. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cymryd rhan, ac rwyf i hefyd o safbwynt bwyd, yn ogystal â'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n cael ei wneud yn gyflym cyn cyflwyno'r hyn sydd, yn fy marn i, yn bolisi gwych ym mis Medi.

Daeth y Dirprwy Lywydd (David Rees) i’r Gadair.

Photo of Buffy Williams Buffy Williams Labour 2:49, 14 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Rydym yn gwybod bod y pandemig wedi cael effaith ddwys ar ein gwasanaeth iechyd, gydag amseroedd aros yn broblem wirioneddol. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad a gafodd ei wneud gan y Gweinidog iechyd yn gynharach eleni yn sicrhau na fydd neb, erbyn 2025, yn aros mwy na blwyddyn am driniaeth mewn mwy o arbenigeddau, ond mae angen i ni weld mwy o weithredu brys ar amseroedd aros canser. Cysylltodd etholwr â fy swyddfa y mis hwn. Cafodd wybod bod ganddo atgyfeiriad brys am ganser yn dilyn ymweliad â'r meddyg teulu, dim ond i gael gwybod bod atgyfeiriadau brys yn 16 wythnos neu fwy ar hyn o bryd. Mae'r pryder a'r gofid sydd wedi'u hachosi yn ystod y pedwar mis hyn yn cael effaith andwyol iawn nid yn unig ar yr unigolion, ond ar eu teuluoedd a'u ffrindiau hefyd. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lleihau nifer yr wythnosau a'r misoedd y mae pobl yn aros am atgyfeiriadau canser?

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:50, 14 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n llwyr dderbyn pa mor ofidus yw'r amser i unrhyw un sy'n cael ei atgyfeirio oherwydd y posibilrwydd fod canser arno, fel rydych chi'n dweud, effaith hynny nid yn unig ar yr unigolyn, ond yn fwy eang ar ei deulu a'i ffrindiau. Byddwch yn ymwybodol bod y Gweinidog wedi lansio'r rhaglen ar gyfer trawsnewid ein GIG ni, y cyfeirioch chi ati, yn gynharach eleni. Mae'r pandemig, yn anochel felly, wedi cael effaith sylweddol ar ofal canser. Roeddem ni'n gweld nôl yn nyddiau cynnar y pandemig nad oedd pobl yn mynd ymlaen i gael eu harchwilio, ac fe ataliwyd rhai o'n rhaglenni sgrinio ni ac roedd rhai pobl yn amharod i fynd i'w hapwyntiadau nhw, ac fe fu'n rhaid altro therapïau i leihau'r risgiau iddyn nhw. Mae'r Gweinidog wedi nodi ei disgwyliadau hi, ac rydych chi'n ymwybodol, unwaith eto, rwy'n siŵr, ein bod ni, cyn y pandemig, wedi buddsoddi yn helaeth ar offer radiotherapi a'n bod ni wedi cyflwyno'r ymdrech gyntaf yn y DU i ad-drefnu'r amseroedd aros yn llwyr o ran triniaethau canser. Felly, mae'r Gweinidog wedi mynegi yn eglur iawn i staff y GIG, sy'n parhau i weithio yn eithriadol o galed i ymateb i'r amseroedd aros, yr hyn y mae hi'n ei ddisgwyl ganddyn nhw, a sut yr ydym ni wedi cynyddu niferoedd y lleoedd ar gyfer hyfforddiant i gefnogi'r GIG, wrth symud ymlaen. Ac fe wyddom ni nawr fod pob bwrdd iechyd wedi cychwyn canolfannau diagnostig cyflym—clinigau siop un stop—ar gyfer pobl â symptomau fel gallan nhw fynd i'r mannau hynny hefyd.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad a wnaeth y Prif Weinidog rhyw awr yn ôl, yn dweud y dylem ni ddisgwyl datganiad ynglŷn â diogelwch adeiladau cyn diwedd y mis—mae angen rhywfaint o eglurder arnom ni ynghylch pryd yn union y bydd hynny'n digwydd. Mae hi'n siomedig fod cyhoeddiad heddiw wedi cael ei dynnu yn ôl. Mae hi'n bum mlynedd ers trychineb Grenfell. Fe gollodd 72 o bobl eu bywydau nhw'n drist iawn ac, wrth gwrs, rydym ni'n cofio am eu hanwyliaid nhw heddiw. Achoswyd dioddefaint a marwolaethau'r bobl hyn gan hunanoldeb wrth dorri corneli a rhoi ariangarwch rhai o flaen lles pobl eraill. Ni ddylai hyn fyth ddigwydd eto. Mae pobl yn parhau i fyw gyda phryder ac ofn heddiw. Mae yna fwy y gall y ddwy Lywodraeth ei wneud, ac mae angen i ni fod ag ymdeimlad o frys ar gyfer datrys hyn. Mae lesddeiliaid eisoes yn talu miloedd o bunnau ychwanegol am waith i adfer heddiw, ar ben costau'r taliadau gwasanaeth, na ddylen nhw orfod talu amdanyn nhw. Yn aml, fe gaiff y gost honno ei throsglwyddo i'r tenantiaid. Yn y pen draw, y datblygwyr hunanol a chyfrwys hynny a'u cwmnïau nhw sy'n gyfrifol. Fe ddylai'r rhai sy'n gwrthod cymryd cyfrifoldeb a thalu am y gwaith sydd ei angen i gywiro'r diffygion hyn gael eu gwahardd rhag unrhyw ddatblygiadau pellach yma yng Nghymru, ac fe ddylai eu cyfrifon banc nhw gael eu rhewi gan eu cyfarwyddwyr. Fe fydden nhw'n sylweddoli wedyn sut mae'r lesddeiliaid a'r tenantiaid diniwed hyn yn teimlo. Mae'r ffaith bod Michael Gove wedi mynd yn ei flaen ac wedi sicrhau addewid i ddatblygwyr ar gyfer Lloegr yn unig yn dangos cyn lleied yw ystyriaeth Llywodraeth y DU o Gymru hefyd. Felly, yn rhan o'r datganiad, a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni felly ynglŷn â'r ffordd y mae trafodaeth y Llywodraeth gyda Llywodraeth y DU ar y dull hwn ar gyfer Lloegr yn unig yn mynd rhagddi, ac a wnaiff hi ddweud beth yw'r camau nesaf y bwriedir eu cymryd i ddatrys y mater hwn ar fyrder? 

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:53, 14 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi. Wel, rwy'n sicr yn cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod ynghylch y 72 o bobl a gollodd eu bywydau yn drist iawn, ac rydym ni'n cofio am eu teuluoedd nhw ac, wrth gwrs, am yr effaith sylweddol a gafodd hynny ar eu bywydau nhw, ond am bobl sy'n gorfod byw gyda materion yn ymwneud â diogelwch adeiladu hefyd, yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw. Nid wyf i'n credu bod gennyf i unrhyw beth pellach i'w ychwanegu at yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog. Fel dywedais i, fe wneir y datganiad cyn toriad yr haf. Dim ond pedair wythnos o eistedd sydd gennym ni ar ôl yr wythnos hon, felly fe fyddaf i'n sicrhau bod hynny ar y datganiad a chyhoeddiad busnes cyn gynted â phosibl, fel bod Aelodau ac, yn amlwg, ein hetholwyr ni'n ymwybodol o hynny. Nid wyf i o'r farn y gallai'r Gweinidog wneud unrhyw beth yn gynt nac ar fwy o frys na'r hyn y mae hi'n ei wneud, ond fe fyddaf i'n sicr yn gofyn iddi hi ystyried eich pryderon chi a'r pwyntiau penodol yr ydych chi'n eu codi, yn arbennig felly o ran ei thrafodaethau hi gyda Llywodraeth y DU, pan fydd hi'n cyflwyno ei datganiad.