Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 15 Mehefin 2022.
Wel, dilyniant o'r cwestiwn diwethaf. Yn sicr, mae'r byrddau iechyd yn gyfrifol am gynllunio ac asesu darpariaeth ddeintyddol i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar ddiwygio'r contract deintyddol i ganolbwyntio ar atal a thriniaeth sy'n seiliedig ar angen er mwyn creu mwy o fynediad i gleifion GIG newydd.