3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 15 Mehefin 2022.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddi dyfodol yr hediadau rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus rhwng Caerdydd ac Ynys Môn? TQ637
Diolch, Carolyn. Yn dilyn dadansoddiad cost a budd llawn, rydym wedi penderfynu rhoi'r gorau i bob cefnogaeth i'r gwasanaeth. Nid ydym yn credu y bydd lefelau teithwyr yn dychwelyd i lefel sy'n gwneud y gwasanaeth hwn yn hyfyw, naill ai'n economaidd neu'n amgylcheddol. Byddwn yn defnyddio'r cyllid a glustnodwyd ar gyfer y cyswllt awyr i gyflymu gwaith i wella cysylltedd rhwng y gogledd a'r de.
Diolch am yr esboniad hwnnw, Weinidog. Rwy'n deall bod yr hediadau wedi bod yn gostus ac yn cytuno â'ch rheswm dros beidio ag ailgychwyn y gwasanaeth. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd y miliynau o bunnoedd a gaiff eu harbed drwy ganslo'r hediadau hyn yn cael eu buddsoddi mewn cysylltedd yng ngogledd Cymru, yn ddigidol, drwy'r ganolfan prosesu signalau digidol ardderchog ym Mangor, a chyflwyno cynlluniau peilot ar Ynys Môn ar gyfer band eang a thrafnidiaeth. Gwn y bydd y Gweinidog yn bryderus, fel roeddwn i, wrth weld y gorlenwi erchyll ar drenau o'r gogledd i'r de dros y penwythnos, sy'n dangos bod angen cerbydau ychwanegol, y rhai sydd wedi eu harchebu er mwyn gwella'r gwasanaeth, a hynny ar frys. Mae angen pedwar cerbyd ar y gwasanaeth hwnnw. Weithiau fe gawn bedwar cerbyd. Yn aml iawn, y gwasanaeth dau gerbyd a gawn, ac nid yw'n ddigon mwyach. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â pha bryd y bydd y trenau a'r cerbydau newydd yn gweithredu ar y gwasanaeth hwnnw? Diolch.
Yn sicr, Carolyn. Yn hollol gywir: mae'n amlwg fod angen inni wella cysylltedd rhwng pob rhan o'r gogledd a'r de cyn gynted â phosibl. Bydd y trenau 197 newydd sbon a gyflwynir yn y gogledd yn cael eu cyflwyno ymhell cyn iddynt gael eu cyflwyno yng ngweddill Cymru, ac maent i fod i ddechrau gwasanaethu erbyn diwedd eleni fan bellaf, ac rydym yn gweithio i sicrhau bod hynny'n digwydd cyn gynted â phosibl eleni. Mae gennym 77 o drenau wedi'u harchebu, a byddant yn cynyddu capasiti ar ein gwasanaethau, yn union fel y dywedwch, yn gwella profiad teithwyr ac yn ei gwneud hi'n bosibl cyflwyno gwasanaethau newydd ar hyd llwybr y gogledd, yn ogystal â sicrhau bod gennym ddigon o gapasiti ar adegau prysur ar y llwybr. Felly, rwy'n derbyn y cynsail yn llwyr, a byddwn yn gallu ailgyfeirio'r arian o'r gwasanaeth i gyflymu hynny.
Rwy'n falch, a dweud y gwir, fod Llywodraeth Cymru o'r diwedd wedi deffro a gweld beth sy'n digwydd. Dywedais wrthych yn ôl yn 2010 nad oedd y gwasanaeth hwn yn darparu gwerth da am arian i'r trethdalwr, a bod angen sefydlu opsiynau amgen. Mewn gwirionedd, rwyf wedi sôn am nifer o opsiynau amgen y gallech fod wedi edrych arnynt dros y blynyddoedd, gan gynnwys y cyfle i'r awyren lanio mewn nifer o gyrchfannau gwahanol er mwyn ei gwneud yn fwy hyfyw'n fasnachol, gan gynnwys drwy Ynys Môn, er enghraifft, i Ynys Manaw, Ynys Môn a Chaerdydd. Cyflwynais y cynnig hwnnw, ni wnaethoch wrando. Ni wnaethoch wrando. Ni wnaethoch wrando ychwaith pan ddywedais y byddai'r gwasanaeth hwn mewn gwell sefyllfa yng ngogledd-ddwyrain Cymru, lle mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn y gogledd yn byw. Ni wnaethoch wrando. Ni wnaethoch wrando ychwaith pan ddywedais y dylech fod wedi symud y cyswllt awyr hwn i rywle fel Lerpwl neu Fanceinion, gan gysylltu gogledd Lloegr, pwerdy gogledd Lloegr, â'n heconomi yma yn ne Cymru. Ond ni wnaethoch wrando. Gallai'r rheini fod wedi bod yn opsiynau masnachol hyfyw a fyddai wedi cadw gwasanaeth awyr ar gael i bobl gogledd Cymru er mwyn iddynt allu ei ddefnyddio i gyrraedd Caerdydd, ond ni wnaethoch wrando.
Felly, a wnewch chi wrando yn awr, pan ddywedaf wrthych: a wnewch chi edrych ar weithio gyda chwmnïau awyrennau eraill fel partneriaid posibl i geisio sefydlu rhai o'r opsiynau amgen hynny, er mwyn sicrhau bod gan ogledd Cymru y cysylltiadau trafnidiaeth da sydd angen inni allu eu cael gyda de Cymru? Ac a wnewch chi hefyd edrych ar y gwahaniaethau mewn gwariant ar drafnidiaeth gan eich Llywodraeth yma yng Nghymru? Rydych yn gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd ar ffyrdd yn ne'r wlad a symiau pitw, a dweud y gwir, ar y rhwydwaith trafnidiaeth yng ngogledd Cymru. Rydych yn gwario briwsion, ac rwy'n golygu briwsion, o ran yr arian a wariwch ar fetro gogledd Cymru, sef £50 miliwn o'i gymharu â £750 miliwn yn ne Cymru. Mae angen codi'r gwastad yn well yn ein seilwaith trafnidiaeth yn y gogledd, ac nid ydym yn gweld hynny ar hyn o bryd. Felly, pam na wnewch chi sicrhau bod eich cyfalaf seilwaith yn cael ei wario'n fwy cyfartal ledled y wlad, a manteisio ar y cyfle i weld a oes yna gwmnïau awyrennau a allai fod yn bartneriaid posibl i sefydlu cysylltiadau masnachol hyfyw a all wasanaethu pobl gogledd Cymru, i helpu i'w cysylltu â'r de mewn ffordd na allai eich gwasanaeth sy'n cael cymhorthdal cyhoeddus mo'i wneud?
Wel, credaf ein bod wedi cael enghraifft gwbl ragorol o'r hyn y mae'r Ceidwadwyr yn ei feddwl o'u hymrwymiad i sero net. Gadewch inni ariannu gwasanaeth awyr sy'n fasnachol hyfyw, ond sy'n ddinistriol i'r amgylchedd, er mai'r hyn y dylem ei wneud yw rhoi'r arian hwnnw tuag at wasanaethau rheilffyrdd. [Torri ar draws.] A byddech yn well o lawer, Darren Millar—[Torri ar draws.]
Darren Millar, rydych wedi cael eich cyfle i ofyn eich cwestiwn. Gadewch i'r Gweinidog ymateb.
Byddech yn well o lawer yn defnyddio eich egni emosiynol diamheuol i gael y Llywodraeth yn San Steffan i ariannu gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru yn briodol, a chefnogi'r ymrwymiad sero net y dywedwch y byddwch yn ei gefnogi, ond bob tro y gwnawn unrhyw beth tuag ato, rydych yn dweud rhywbeth gwahanol. Nonsens llwyr yw dweud mai'r ateb i gysylltedd gogledd Cymru yw rhoi mwy o awyrennau hanner gwag yn yr awyr, pan fyddwn yn edrych ar argyfwng hinsawdd nad ydym erioed wedi gweld ei debyg o'r blaen. [Torri ar draws.] Nid wyf am wrando ar hynny o gwbl, gan ei fod yn nonsens.
Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, dwi'n rhyfeddu at ragrith y Ceidwadwyr yn fan hyn, yn lladd ar gysylltiadau de-gogledd, yn dweud bod gormod o fuddsoddiad yn y de, pan oedden nhw eisiau gwario biliynau o bunnoedd ar yr M4 yn y de-ddwyrain. Dwi'n synnu bod Carolyn Thomas wedi gofyn y cwestiwn yma a hithau mor ffwrdd-â-hi ar raglen Sharp End ITV Cymru neithiwr ynglŷn â chysylltiadau de-gogledd, yn awgrymu bod fawr o ots am y cysylltiadau de-gogledd oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn rhoi buddsoddiad i mewn i dechnoleg ddigidol. Rŵan, peidiwch â fy nghamddeall i, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol Cymru ddigidol, dwi'n croesawu'r buddsoddiad mewn prosesu signalau digidol, ond peidiwch â thrio dweud wrthyf i fod a wnelo'r buddsoddiad hwnnw unrhyw beth â chysylltiadau trafnidiaeth de-gogledd. Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos yn y ffordd maen nhw wedi gwneud y penderfyniad yma eu bod nhw wedi edrych ar bris yr hedfaniad rhwng Caerdydd ac Ynys Môn, ond ddim wedi ystyried beth oedd ei werth o—ei werth o fel arwydd bod ots gan ein Llywodraeth ni am uno'n gwlad ni drwy drafnidiaeth gyflym, bod ots gan Weinidogion am estyn allan i ardaloedd sydd, dwi'n addo ichi, yn teimlo'n bell iawn ar adegau o'r brifddinas a lle mae ein Llywodraeth ni.
Rŵan, fel dwi wedi ei ddweud o'r blaen, mi fues i'n bragmataidd a dweud, wrth gwrs bod ein dulliau newydd ni o weithio yn sgil COVID wedi gwanhau y cynllun busnes. Does dim angen teithio bob amser o un pen y wlad i'r llall. Mi ddywedais i, wrth gwrs bod ein pryderon cynyddol ni am yr amgylchedd yn rhywbeth i'w groesawu a bod hynny hefyd yn newid y cyd-destun. Ond, y cwestiwn y gwnes i ei ofyn, yn syml iawn, oedd: os nad yr awyren fel buddsoddiad o werth ein cysylltiadau ni o un pen y wlad i'r llall, yna beth? A beth gawson ni yn y cyhoeddiad yma oedd dim. Dim ymrwymiad o gwbl, dim buddsoddiad o gwbl mewn gwella a chryfhau cysylltedd rhwng y de a'r gogledd, a dim arwydd bod ots gan y Llywodraeth yma ynglŷn â sut mae'n gwlad ni'n cael ei chysylltu yn economaidd ac yn gymdeithasol.
Fel y dywedodd un etholwr wrthyf,
'Mae hwn yn benderfyniad digalon sy'n dangos diffyg gweledigaeth ac uchelgais. Mae Cymru wedi dioddef mor aml oherwydd penderfyniad ffwrdd-â-hi a wnaed yn Llundain', meddai,
'sy'n anwybodus neu'n ddi-hid ynglŷn â'i effeithiau ar Gymru.'
Nawr, mae'n teimlo bod hyn yr un mor anwybodus ynghylch yr angen i ddod â ni at ein gilydd fel cenedl drwy gysylltiadau trafnidiaeth—nid o reidrwydd natur y cyswllt hwnnw a'r cyswllt awyr a fu gennym, ond y ffaith na ddarparwyd unrhyw beth ac na chyflwynwyd gweledigaeth yn ei le.
Wel, Rhun, cytunais yn llwyr â rhan gyntaf eich dadansoddiad, wrth gwrs, ac nid wyf am drafferthu ailadrodd hynny. Ac mae'n ddrwg gennyf glywed bod eich etholwr yn teimlo hynny, oherwydd yn sicr nid dyna'r argraff y dymunem ei rhoi. Yn ôl ein harolygon teithwyr cyn y pandemig, a gynhaliwyd gan y gweithredwr, roedd 77 y cant o'r bobl a oedd yn teithio ar y gwasanaeth yn ei ddefnyddio at ddibenion gwaith—felly, ychydig iawn a wnâi hynny at ddibenion hamdden—ac rydym yn cydnabod yn gyffredinol fod teithio busnes wedi lleihau'n sylweddol o ganlyniad i'r pandemig, ac mae'r newid ymddygiad yn debygol o barhau. Hefyd, cawsom astudiaeth annibynnol wedi'i chomisiynu i effaith carbon y gwasanaeth, ac yn y bôn—nid oeddwn yn synnu gweld hyn—dyma'r ffordd fwyaf drud-ar-garbon o gysylltu'r ddwy ran o Gymru.
Nawr, rwy'n cytuno'n llwyr fod angen inni gael y cysylltedd rhwng y gogledd a'r de yn llawer gwell, yn llawer cyflymach, yn llawer mwy cyfforddus—rhywbeth y gallwch ei wneud heb orfod poeni am yr effaith arnoch chi a'ch taith. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Felly, rydym eisoes wedi cyhoeddi, fel y dywedais wrth ateb Carolyn, y trenau 197 newydd sbon, a fydd yn gweithredu yn y gogledd cyn gweddill y wlad. Ac fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng ein dwy blaid, rydym wedi cytuno i weithio gyda chi ar ystod o fesurau eraill i wella cysylltedd rhwng y gogledd a'r de. Bydd yr arian hwn yn ein helpu i gyflymu'r gwaith cysylltedd hwnnw, ac rwy'n edrych ymlaen at wneud hynny.
Rwy'n derbyn eich pwynt am y digidol, ond roeddwn serch hynny'n falch o weld y gwelliant digidol. Gwn eich bod chithau hefyd. Rydym wedi cyhoeddi nifer o bethau sy'n caniatáu inni edrych ar safleoedd gwyn ar Ynys Môn—ac fe aethoch chi a minnau, mewn bywyd blaenorol, i edrych ar rai o'r rheini, felly roeddwn wrth fy modd ynglŷn â hynny hefyd. Rwy'n derbyn yn llwyr nad yw hynny'n gwella'r cysylltedd, ond yr hyn y mae'n ei wneud yw ei gwneud yn fwy a mwy tebygol y bydd pobl yn gweithio gartref am ganran fawr iawn o'r amser, ac yn ei gwneud yn fwy tebygol fod yr awyren hyd yn oed yn llai llawn nag yn y lle cyntaf.
Felly, mae'n ddrwg gennyf glywed bod eich etholwr yn teimlo felly. Yn sicr, nid oedd yn benderfyniad ffwrdd-â-hi. Roedd yn destun llawer iawn o feddwl. Nid ydym am i neb yn y gogledd deimlo'n fwy digyswllt, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi, drwy'r cytundeb cydweithio, ar wella'r cysylltedd rhwng y gogledd a'r de hyd eithaf ein gallu, a gweithio gyda chi hefyd i roi pwysau ar y Ceidwadwyr gyferbyn ynghylch sefyllfa gwbl warthus y buddsoddiad yn y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
Diolch i'r Gweinidog am yr atebion i'r cwestiynau yna. Hi eto sydd yn ateb y cwestiwn amserol nesaf, a'r cwestiwn hwnnw gan Natasha Asghar.