– Senedd Cymru am 3:37 pm ar 15 Mehefin 2022.
Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf heddiw gan Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Yr wythnos hon mae'n ddeugain mlynedd ers rhyddhau Ynysoedd Falkland, yn dilyn ymosodiad lluoedd yr Ariannin arnynt ar 2 Ebrill 1982. Rhyddhawyd y diriogaeth dramor Brydeinig fach yn ne Cefnfor Iwerydd gan luoedd Prydain ar 14 Mehefin. Yn ystod y gwrthdaro, bu 26,000 o'r lluoedd arfog yn weithredol yn yr awyr, ar y ddaear ac ar y môr, ac fe wnaethant wasanaethu i amddiffyn sofraniaeth, democratiaeth a rhyddid Prydain.
Roedd llawer o’r personél milwrol dewr hyn, wrth gwrs, yn dod o’n gwlad fach ni yng Nghymru, gyda’r Gwarchodlu Cymreig yn chwarae rhan allweddol yn y gwrthdaro. Fodd bynnag, talodd y gwarchodlu bris uchel am ryddhau'r ynysoedd, gan golli 48 o bersonél a dioddef 97 o anafiadau, mwy nag unrhyw uned Brydeinig arall. Lladdwyd 32 o'r Gwarchodlu Cymreig ar yr RFA Sir Galahad yn unig, pan aeth y llong ar dân ar ôl cael ei bomio gan yr Archentwyr yn Port Pleasant. Cafodd y golygfeydd hynny, wrth gwrs, eu gwylio gydag arswyd gartref a dros y môr.
Cafodd y digwyddiadau ym 1982 effaith gorfforol, feddyliol a gwleidyddol ddofn ar ein gwlad, ac rydym yn dal i deimlo eu creithiau hyd heddiw. Ond y dynion a'r menywod dewr a frwydrodd i ryddhau'r ynysoedd a deimlodd yr effaith honno fwyaf. Collodd cyfanswm o 255 o filwyr Prydain, 649 o filwyr yr Ariannin a thri o sifiliaid yr ynysoedd, pob un ohonynt yn fenywod, eu bywydau. Yr wythnos hon, wrth inni goffáu rhyddhau Ynysoedd Falkand, rhaid inni gofio a pharchu pawb a fu’n rhan o’r gwrthdaro ac yr effeithiwyd arnynt gan y gwrthdaro, yn enwedig y rheini a wnaeth yr aberth eithaf. Rydym yn saliwtio pob un ohonynt.
Mae'r datganiad nesaf gan Cefin Campbell.
Diolch, Llywydd. Dwi eisiau talu teyrnged i Phil Bennett, a fu farw dros y penwythnos yn 73 oed. Roedd Phil yn un o'r chwaraewyr rygbi gorau erioed i gynrychioli Cymru, y Llewod a'r Barbariaid. I'r rhai ohonom a gafodd y fraint o'i weld yn chwarae yng nghrys coch Llanelli neu Gymru, roedd yn wledd i'r llygaid. Disgrifiwyd y ffordd roedd Benny yn rhedeg ac yn ochrgamu fel poetry in motion. Ganwyd a magwyd Phil yn Felinfoel yn 1948. Ac er i rai ddweud wrtho ei fod yn rhy fach i chwarae rygbi, fe ddaeth o dan ofal y digymar Carwyn James, ac aeth ymlaen i chwarae 413 o gemau i Lanelli, gan wasanaethu’r clwb fel capten am chwe blynedd. Enillodd 29 o gapiau dros Gymru, chwaraeodd 20 gêm i'r Barbariaid, fe oedd seren taith y Llewod i Dde Affrica yn 1974, ac yn gapten ar y daith i Seland Newydd yn 1977.
Ond, er gwaetha'r llwyddiannau hyn, uchafbwynt ei yrfa heb os oedd y fuddugoliaeth hanesyddol honno, 9-3, yn erbyn y crysau duon ar Barc y Strade yn 1972—the day the pubs ran dry, fel y dywedodd Max Boyce. Sgoriodd Phil Bennett rai o'r ceisiau gorau yn hanes y gamp, gan ennill tair coron drifflyg a dwy bencampwriaeth pum gwlad yng nghrys coch Cymru. Er ei lwyddiant anhygoel ar y cae rygbi, roedd e'n berson cwbl ddiymhongar, ac arhosodd yn driw i'w filltir sgwâr tan y diwedd. Diolch, Phil, am dy gyfraniad aruthrol i’r gamp, i Lanelli, ac i Gymru, ac am adael atgofion o chwaraewr cwbl unigryw na welir ei debyg byth eto.
Yr wythnos hon yw Wythnos Iechyd Dynion 2022, wythnos sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth o’r problemau iechyd sy’n effeithio’n anghymesur ar ddynion, gan ganolbwyntio ar annog dynion i ddod yn ymwybodol o broblemau a allai fod ganddynt neu y gallent eu datblygu, a'u hannog i fagu’r dewrder i wneud rhywbeth am y peth.
Mae rhai o'r ystadegau ynglŷn ag iechyd dynion yn eithaf brawychus. Fel y gwyddom, yn anffodus, dynion yw tri o bob pedwar sy'n cyflawni hunanladdiad, mae 12.5 y cant o ddynion yn dioddef o anhwylderau iechyd meddwl, ac mae dynion bron deirgwaith yn fwy tebygol na menywod o ddod yn ddibynnol ar alcohol. Mae dynion hefyd yn fwy tebygol o ddefnyddio a marw o ganlyniad i gyffuriau anghyfreithlon. Mae hyn oll a mwy yn arwain at y ffaith bod y dangosydd iechyd eithaf, sef ein disgwyliad oes, yn golygu bod dynion yn marw bedair blynedd yn iau na menywod yn y DU.
Mae'n amlwg fod llawer o ddynion yn ei chael hi'n anodd bod yn agored a siarad am eu hiechyd. Clywsom yn gynharach heddiw am rywfaint o’r gwaith cadarnhaol y gall sefydliadau fel Men's Sheds—rwy’n un o ymddiriedolwyr Men's Shed Abergele—ei wneud, ac mae'n rhaid inni eu hannog i fodoli fel y gall mwy o ddynion deimlo’n agored ac yn hyderus i siarad am yr heriau y maent yn eu hwynebu.
I gloi, hoffwn annog holl Aelodau’r Senedd heddiw i ymuno â mi i achub ar y cyfle i nodi Wythnos Iechyd Dynion, i godi ymwybyddiaeth o’r problemau sy’n wynebu dynion, a'u hannog i wneud rhywbeth yn eu cylch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, bawb.