– Senedd Cymru am 5:53 pm ar 15 Mehefin 2022.
Rŷn ni'n symud ymlaen, felly, at y ddadl fer.
Ni fydd unrhyw bleidleisiau y prynhawn yma. Rydym yn weddol gytûn mewn perthynas â hydrogen—[Torri ar draws.]—'cytûn' a ddywedais. Symudwn ymlaen at y ddadl fer.
Fe wnaf i ofyn i Rhianon Passmore gyflwyno ei dadl hi.
Rwy'n siŵr y bydd Aelodau'n gadael yn dawel, a phan gawn ni rywfaint o dawelwch yn y Siambr, fe ddechreuwn y ddadl fer. Rhianon Passmore.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu rhoi munud o'r ddadl hon—yn anffodus, dim ond munud—i fy nghyd-Aelodau, Jayne Bryant, ar draws y Siambr, Sam Rowlands a Delyth Jewell. Diolch.
Yng Nghymru, mae'n iawn fod ein cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru o fis Medi ymlaen yn rhagnodi na ddylai diffyg arian atal ein pobl ifanc, yn arbennig, rhag dysgu cerddoriaeth, ac nad hawl i'r rhai sy'n gallu fforddio talu i chwarae yn unig yw cerddoriaeth mwyach. Credaf mai dyma yw ein gweledigaeth a rennir ar gyfer Cymru, a hoffwn gofnodi fy niolch am hyrwyddo a diogelu ein hetifeddiaeth ddiwylliannol wych. Mae Cymru wedi cael ei chydnabod ledled y byd fel gwlad y gân ers amser maith, a dyna oedd teitl yr adroddiad cyntaf imi erioed ei gomisiynu i'r lle hwn gan yr enwog Athro Paul Carr, ac roedd ei gyfranwyr yn cynnwys artistiaid byd-eang a gweithwyr proffesiynol o Gymru. Oherwydd bod gennym gymaint i ymfalchïo ynddo, ein bandiau pres a'n corau arobryn, ein cyfansoddwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol, ein bandiau pop a roc, a'n hartistiaid a'n harweinwyr enwog ar blatfformau digidol byd-eang, mae'n wir dweud bod Cymru'n gwneud yn well na'r disgwyl yn y byd cerddoriaeth.
Ond mae'r llwyddiant gweladwy a chlywadwy hwn hefyd wedi bod yn anfantais fawr i ni. Mae cuddio anhrefn cyni'n effeithio ar ein ffatrioedd cerddoriaeth, i aralleirio'r enwog Max Boyce. Yn ystod llawer o'r pandemig COVID, roedd y gerddoriaeth yn ddistaw. Tawelwyd ein cerddoriaeth o Gymru yn ei holl haenau niferus o amrywiaeth bywiog, lliwgar. Cafodd lleoliadau eu cau, cafodd cyngherddau eu canslo. O'n stadia mwyaf i'n grwpiau cerddoriaeth cymunedol lleiaf, cafwyd distawrwydd. Rhoddwyd taw ar ymarferion, er lles y mwyafrif. Cydiodd galar diwylliannol yn ein cymunedau, a dioddefodd pobl, oherwydd mae cerddoriaeth yn bwysig. Mae'n llonyddu, mae'n lleddfu poen, mae'n ymlacio, mae'n gwella. Mae ein bryniau Cymreig a'n dyffrynnoedd gwyrdd, fel rydym yn gwyrddu'r pyllau glo yn awr, yn dechrau anadlu unwaith eto, yn bywiogi gyda sŵn cerddoriaeth unwaith eto.
Ddirprwy Lywydd, rydym i gyd yma i wneud y newidiadau sydd eu hangen. Fodd bynnag, fel gwleidyddion, rhaid inni fod yn onest ac edrych ar ein hunain yn hir yn y drych. Roedd ein hadroddiadau amrywiol ar y pwyllgor diwylliant a'r Gymraeg, fel y bydd Delyth Jewell yn siŵr o'i nodi, yn tynnu sylw uniongyrchol at y dyfodol anghynaliadwy. Mae tystion fel yr arweinydd gwych, Owain Arwel Hughes, wedi dweud bod peiriannau ein llwyddiant byd-eang yn atal y llif, yn draenio'r seilwaith—yn anghynaliadwy. Mae ein gwasanaethau cymorth cerddoriaeth yn gwywo oherwydd cyni a COVID ac mae hon yn golled i'n hieuenctid, yn golled i'n gwaddol cenedlaethol ac yn golled i'n henw da byd-eang fel gwlad y gân.
Felly, heddiw, Weinidog, beth sy'n wahanol? Rwy'n credu, yn credu o ddifrif, ein bod ar drothwy cyfle newydd, digyfyngiad, a'n bod bellach mewn tiriogaeth newydd lle y gallai dadeni diwylliannol newydd ddigwydd yng Nghymru, y gallwn ac y byddwn yn cryfhau ein sîn gerddorol a diwylliannol yn ogystal â'n heconomi, yn bwysicaf oll drwy ein mynediad a ariennir at addysg cerddoriaeth, sy'n flaenoriaeth i genedlaethau'r dyfodol. Ceir gweledigaeth newydd ar gyfer Cymru. Mae cryfhau ein haddysg cerddoriaeth yn bwysig er mwyn ailadeiladu a chefnogi llesiant ein pobl ifanc ar ôl coronafeirws. A'r wythnos hon, pan fo miloedd yn heidio i Gaerdydd i weld cyngerdd enfawr gyda Syr Tom a'r Stereophonics, mae angen inni ofyn sut y mae meithrin y Shirley, y Manics, y Bryn Terfel, y Catrin Finch, y Claire Jones nesaf. Mae'r cynllun cenedlaethol newydd sydd newydd ei gyhoeddi gennym ar gyfer cerddoriaeth yn hollbwysig i hyn, ein cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg cerddoriaeth a'n Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol, ac rwy'n hynod falch mai un o gonglfeini'r cynlluniau hyn fydd y ffaith eu bod ar gyfer pawb, y bydd pob person ifanc yng Nghymru yn cael cyfle i gael addysg cerddoriaeth ac i ddysgu chwarae offeryn. Bydd y cwmni, fel yr un ym Merthyr sy'n cynhyrchu trympedi plastig a gaffaelwyd yn gymdeithasol gyfrifol, yn elwa.
Rwyf wedi dweud droeon yn y Siambr hon y dylai addysg cerddoriaeth fod yn seiliedig ar y gallu i chwarae ac nid ar y gallu i dalu. Yr hyn sy'n allweddol i hyn yw bod y cynigion uchelgeisiol newydd hyn yn cael eu hariannu'n briodol. Felly, rwy'n croesawu'n fawr y £13.5 miliwn o gyllid i awdurdodau lleol a'u gwasanaethau cerdd, sydd mor angenrheidiol ac sy'n ddechrau iach iawn i uwchsgilio pob un o'n disgyblion yng Nghymru, gyda llwybrau mynediad priodol at lwybrau elitaidd. Mae'r polisi hwn yn bwysig oherwydd mae'n ymwneud â'r hyn yr ydym yn sefyll drosto fel gwlad, pwy ydym ni, a'r hyn yr ydym yn buddsoddi ynddo yn y dyfodol i lifo i'r byd. Felly, hoffwn ddiolch o waelod calon i'r Gweinidog am ei ymrwymiad i gyflawni'r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol, sydd, yn fy marn i, wedi ennyn cefnogaeth ddiffuant a chonsensws ar draws y Siambr hon. A hoffwn dalu teyrnged yn fyr, os caf, i bawb sydd wedi ymuno â mi i ymgyrchu ar y mater hwn dros nifer o flynyddoedd i sicrhau ei fod wedi aros ar yr agenda wleidyddol. Rwyf eisoes wedi sôn am Owain Arwel Hughes a'i gefnogaeth angerddol, Craig Roberts a'i rwydwaith rhyfeddol o gerddorion, a Vanessa David. Rwyf hefyd am grybwyll fy chwaer, Eluned, a llawer iawn mwy.
Ac wrth gwrs, nid yw cerddoriaeth yn bodoli mewn gwactod. Mae creu sector cerddoriaeth cryf yn dibynnu ar gael sector diwylliannol bywiog. Mae teledu, ffilm, theatr a gwyliau yn gyfle i arddangos talent gerddorol Gymreig. Yn ystod tymor diwethaf y Senedd, lansiwyd Cymru Greadigol i gydlynu twf diwydiannau creadigol ledled Cymru, ac er gwaethaf y bedydd tân, mae'r sefydliad wedi tyfu i mewn i'r rôl, gan gefnogi'r sector creadigol drwy heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen, ac eto ceir rhagor o gyfleoedd, Ddirprwy Lywydd, a lle i gydweithredu a chefnogi ar draws ein gwahanol sectorau. Mae'r celfyddydau'n aml wedi'u cysylltu'n gynhenid ac maent yn bwysig iawn i Gymru o safbwynt economaidd, a gobeithio y bydd Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo ac yn gweithio gyda'i gilydd mewn consensws i adeiladu ar y cydweithrediad hwn.
Yn olaf, mae'r sefyllfa hon yn fregus, ac er mwyn ei chynnal rhaid inni ofalu am ein talent. Ac er bod llawer i'w ddathlu yn y gwaith blaengar y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, rhaid inni sicrhau bod y canlyniadau'n cael eu mesur yn briodol fel bod polisïau'n cyflawni'r hyn y maent i fod i'w wneud, fod arian cyhoeddus gwerthfawr yn cael ei wario—pob ceiniog yn y celfyddydau, pob punt. I gloi, serch hynny, credaf y dylem ddathlu'r camau breision ymlaen ac osgoi canu ein clodydd ein hunain. Rhaid inni sicrhau bod y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yn bodloni ei egwyddorion sylfaenol: ein bod o ddifrif yn creu addysg cerddoriaeth sy'n hygyrch i bawb a'n bod yn rhoi'r cyfleoedd gorau i'n pobl ifanc i wneud yn iawn neu i fod yn sêr cerddorol. Yn olaf, credaf y gwelwn y dadeni diwylliannol newydd hwnnw os bydd pawb ohonom yn y Siambr hon yn gweithio gyda'n gilydd i'w gyflawni, ac y bydd y ddraig a'r ffenics yn codi eto. Diolch.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon, a hoffwn longyfarch fy nghyd-Aelod a fy nghyfaill, Rhianon Passmore, ar ei hymroddiad a'i gwaith rhagorol parhaus yn y maes hwn. Mae mynediad at ddiwylliant a cherddoriaeth mor hanfodol i ddatblygiad unrhyw blentyn, ac ni ddylai byth fod yn foethusrwydd sydd ar gael i'r rhai sy'n gallu ei fforddio yn unig. Mae Cymru'n ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn wlad beirdd a chantorion, lle mae bod yn freintiedig yn golygu cael eich geni gyda cherddoriaeth yn eich calon a barddoniaeth yn eich enaid. Rhaid inni wneud popeth a allwn i sicrhau bod ein traddodiad balch yn parhau a bod pob cenhedlaeth yn gallu profi a chyfrannu at y byd diwylliannol. Gall meithrin awydd mewn plant a phobl ifanc i gymryd rhan weithredol mewn creu cerddoriaeth, yn eu hysgol ac yn y gymuned ehangach, fod yn gatalydd ar gyfer creadigrwydd, mynegiant a dychymyg sydd â'r potensial nid yn unig i fod o fudd iddynt hwy, ond i gymdeithas yn gyffredinol. Dyma'r mantra y mae Cerdd Gwent, sy'n sefydliad gwych, wedi'i arddel ers eu sefydlu.
Rwy'n falch o gadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar y celfyddydau ac iechyd, lle rydym wedi gweld cynifer o enghreifftiau o'r celfyddydau'n cael effeithiau buddiol ar fywydau pobl. O sicrhau bod preswylwyr mewn gofal cymdeithasol yn clywed cerddoriaeth eu hieuenctid, a helpu pobl hŷn i adfer eu hyder ar ôl cwymp drwy ddefnyddio dawns, i fanteision gemau canu i blant sydd â salwch hirdymor ac yn sâl yn yr ysbyty, mae'r enghreifftiau'n niferus, ac mae'r effaith ar bob grŵp oedran. Mae cerddoriaeth a'r celfyddydau yn ein diwylliant yn rym er daioni. Hir y parhaed hynny, a diolch yn fawr iawn i bawb sy'n tiwtora, yn addysgu ac yn gwneud i hynny ddigwydd. Diolch yn fawr.
A gaf innau hefyd ddiolch i Rhianon Passmore am gyflwyno'r ddadl fer bwysig heddiw ac am ganiatáu imi gyfrannu'n fyr heno? Fel y dywedais droeon yn y Siambr, mae cerddoriaeth yn eithriadol o bwysig i'n diwylliant yma yng Nghymru, ac mae'n bwysig i bobl o bob cefndir, i bob math o wahanol bobl, ac ar wahanol adegau yn eu bywydau hefyd. Yn ogystal â hyn, mae cerddoriaeth wedi bod yn fuddiol i mi yn bersonol, yn ogystal â fy nheulu. Rwy'n credu mai'r tro diwethaf y cafwyd dadl fer yma ym mis Rhagfyr ar bwnc tebyg, dywedais wrth yr Aelodau lle roedd fy merched wedi cyrraedd gyda'u gwersi piano, ac fe fyddwch yn falch o wybod nad yw 'Old MacDonald Had a Farm' yn cael ei chwarae mwyach; rydym wedi symud ymlaen at y 'Watchman's Song', sy'n rhyddhad mawr i fy nghlustiau i, ac nid yw 'The Music Box' yn cael ei chwarae mwyach—rydym wedi symud ymlaen at 'The Year 1620'—gan yr hynaf. Maent yn gwneud yn rhagorol. Ond mae cerddoriaeth, drwy ddod â phobl at ei gilydd, drwy ddod â theuluoedd at ei gilydd, drwy ddod â chymunedau at ei gilydd, yn bwysig iawn, a hefyd o ran addysg a sgiliau gydol oes. Dyna pam fy mod yn cefnogi'r alwad hon am fwy o fynediad i bobl at offerynnau cerdd ac at ddysgu'r offerynnau hynny mor hawdd â phosibl. A dyna pam, fis diwethaf, yr oedd yn gadarnhaol gweld y Siambr yn croesawu gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol y Llywodraeth, ac fel y nodais o'r blaen, mae'n hanfodol fod elusennau, busnesau a chydweithfeydd megis cydweithfa gerddoriaeth sir Ddinbych a Wrecsam yn cael eu hannog a'u cefnogi i wella mynediad at gerddoriaeth i bawb. Carwn atgoffa'r Aelodau fod fy chwaer-yng-nghyfraith hefyd yn athrawes beripatetig, rhag ofn y bydd unrhyw wrthdaro yno o gwbl. Ond mae hi mor bwysig sicrhau bod pobl yn gallu manteisio ar y gwersi hynny, a chael mynediad at yr offerynnau hynny. Felly, unwaith eto, hoffwn ddiolch i Rhianon Passmore am gyflwyno'r ddadl heddiw ac yn sicr, rwy'n cefnogi'r modd y mae'n gyson yn hyrwyddo'r rhan bwysig hon o fywyd yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Rhianon—mae hon yn ddadl mor hyfryd, onid yw? Rwy'n falch iawn o gyhoeddiad y Llywodraeth yn y maes. Rwy'n dod o deulu o gerddorion, ac fe elwodd fy chwaer a minnau o gael gwersi cerddoriaeth pan oeddem yn yr ysgol. Cefais wersi canu, gwersi piano a gwersi clarinet. Peidiwch â gofyn imi chwarae'r clarinet; dim ond gradd 1 a gefais yn y clarinet, ac ni fyddai'n swnio'n dda, ond nid yr athrawon sy'n gyfrifol am hynny; y rheswm am hynny yw nad oeddwn yn ymarfer.
Soniodd Rhianon am y gwaith anhygoel a wnaeth y pwyllgor diwylliant blaenorol yn y Senedd flaenorol ar hyn. Rwy'n talu teyrnged i waith y pwyllgor yn ogystal ag i Rhianon am ymgyrchu dros hyn. Fel y nododd Rhianon, dangosodd y dystiolaeth a gawsom fel pwyllgor fod cael mynediad at addysg gerddorol yn datblygu mwy na sgil mewn cerddoriaeth yn unig; mae'n helpu llesiant plant, eu hyder, mae'n eu helpu i ffynnu ac i ymhyfrydu yn y peth gwych hwn. Mae cerddoriaeth yn agor drysau ar fydoedd eraill, mae'n caniatáu inni gael llawenydd yn ein bywydau, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r teimladau yr oedd Rhianon yn eu cyfleu—pam ar y ddaear y dylai hynny fod yn fraint i'r ychydig sy'n gallu ei fforddio? Gwlad y gân ydym ni, rydym yn genedl o bobl sy'n dwlu ar gerddoriaeth, a dylai pob plentyn, pob oedolyn, allu cymryd rhan yn yr etifeddiaeth gyfoethog honno. Felly, diolch yn fawr iawn eto i Rhianon am gyflwyno'r ddadl hon, am y gwaith ar y pwnc, ac rwyf mor falch fod y Llywodraeth wedi gwneud hyn. A Sam, roedd fy mam innau'n athrawes gerdd beripatetig, felly bydd hithau'n falch iawn hefyd.
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ymateb i'r ddadl—Jeremy Miles.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i Rhianon Passmore am gyflwyno'r ddadl bwysig hon ar addysg cerddoriaeth. Fel y nodais yn fy natganiad llafar diweddar ar y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol a'r cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg cerddoriaeth, mae eich angerdd a'ch ymrwymiad i ymgyrchu ar bwysigrwydd addysg cerddoriaeth wedi bod heb ei ail. Mae llawer yn credu y dylai'r cynllun fod wedi cael ei alw'n gynllun Rhianon Passmore ar gyfer addysg cerddoriaeth. Ond rwyf hefyd yn cydnabod ei chydnabyddiaeth hael hi i gyfraniad llawer o bobl eraill i'w hymgyrch a'r modd y gwnaethant gyfrannu'n greadigol i'r dadleuon y mae hi wedi'u gwneud mor ddiwyd, gan gynnwys rôl ei chwaer ei hun, sydd, rwy'n gwybod, yn arbennig o arwyddocaol iddi. Hoffwn ychwanegu fy niolch hefyd i Jayne Bryant, a'i geiriau o ddiolch i'r tiwtoriaid a'r athrawon ledled Cymru sydd, o ddydd i ddydd, yn goleuo bywydau ein pobl ifanc drwy eu cyflwyno i fyd hyfryd cerddoriaeth.
Ddirprwy Lywydd, fel y soniodd Rhianon Passmore yn ei haraith agoriadol, mae thema'r ddadl yn cysylltu'n glir iawn â phwysigrwydd rhoi camau ar waith i gefnogi adferiad yn sgil y pandemig COVID. Mae'n sicr yn wir fod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar addysg cerddoriaeth a bod angen canolbwyntio'n benodol bellach ar ailadeiladu a chefnogi llesiant ein plant a'n pobl ifanc, a bod hyn yn chwarae rhan bwysig yn hynny. Rwy'n credu bod y pandemig hefyd wedi effeithio'n amlwg ar y cyfleoedd i wneud cerddoriaeth gydag eraill fel rhan o ensemble neu gôr neu fand pres yn yr ysgol, y gymuned, y gwasanaeth cerdd lleol, neu'n wir ar lefel genedlaethol. Ac rwy'n credu ei bod yn werth nodi mai un o'r elfennau allweddol yn y cynllun newydd yw'r rhaglen ar gerddoriaeth ar gyfer dysgu gydol oes, iechyd a llesiant, a fydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod dysgwyr, o oedran cynnar, yn cael eu cefnogi drwy weithgareddau cerddoriaeth a fydd, gobeithio, yn ysbrydoli eu synhwyrau a'u dychymyg a thrwy hynny, y byddwn yn atal y distawrwydd y soniodd Rhianon Passmore amdano yn ei haraith agoriadol.
Mae hwn yn un o ystod eang o feysydd sydd wedi'u hymgorffori yn y model gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, sydd, fel y gŵyr yr Aelodau, wedi'i ddatblygu drwy broses o gydadeiladu gyda'n rhanddeiliaid allweddol. Ein gweledigaeth ar gyfer y gwasanaeth yw darparu dull newydd radical y mae nifer wedi sôn amdano ar gyfer sicrhau dyfodol hirdymor a chynaliadwy i addysg cerddoriaeth. Ac yn rhan sylfaenol o hyn, rydym am sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc ledled Cymru, waeth beth fo'u cefndir, yn cael cyfleoedd i fanteisio ar weithgareddau cerddorol a chymryd rhan ynddynt ac i ddysgu chwarae offeryn cerdd—y cyfleoedd digyfyngiad y soniodd Rhianon Passmore amdanynt.
Ac yn fy marn i, Ddirprwy Lywydd, caiff y sylfaen ar gyfer y gwasanaeth ei chryfhau drwy gysylltiadau agos â'r cwricwlwm er mwyn sicrhau mynediad i bob dysgwr, gan ddarparu gwell cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a phrofiadau. A chyda buddsoddiad ariannol sylweddol o £4.5 miliwn y flwyddyn, cyfanswm o £13.5 miliwn hyd at 2025, mae'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol yn cefnogi darpariaeth i ysgolion a lleoliadau ar sail ehangach, ac ensembles cerddorol hefyd, a cherddoriaeth mewn cymunedau, ynghyd â dysgu proffesiynol i ymarferwyr eu hunain.
Bydd cyflwyno'r elfennau penodol ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd a lleoliadau yn dechrau o fis Medi ymlaen. Mewn ysgolion cynradd, bydd dysgwyr yn cael o leiaf hanner tymor o sesiynau blasu offerynnau cerdd a gyflwynir gan ymarferwyr cerddoriaeth hyfforddedig a medrus, a bydd y sesiynau hyn yn helpu plant i symud ymlaen yn eu profiadau o gymryd rhan mewn cerddoriaeth a chreu cerddoriaeth, a bydd yn cefnogi anghenion unigol pob ysgol, os mynnwch, i wireddu maes celfyddydau mynegiannol y cwricwlwm. Ar lefel uwchradd, bydd ysgolion yn derbyn cyllid ar gyfer profiadau a fydd yn cefnogi iechyd a llesiant pobl ifanc a'u cynnydd tuag at gerddoriaeth TGAU, gan roi cyfleoedd iddynt ddatblygu wrth chwarae offeryn neu ganu, a meithrin eu doniau a'u huchelgeisiau, a darganfod y Shirley newydd, y Tom newydd neu'r Catrin newydd, gobeithio, fel y nodwyd eisoes.
Bydd y gwasanaeth cerddoriaeth yn cael ei ategu gan y cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer addysg cerddoriaeth. Mae'n nodi'r weledigaeth y dylai profi llawenydd cerddoriaeth o bob math fod yn ganolog i bob ysgol a phob lleoliad, a bydd yn helpu i ddarparu cyfleoedd i'n holl blant a'n pobl ifanc allu chwarae, canu, cymryd rhan mewn cerddoriaeth a chreu cerddoriaeth, yn y cwricwlwm a hefyd yn y gymuned ehangach. Bydd hefyd yn darparu llwyfan ar gyfer dathlu'r diwylliant cyfoethog a'r etifeddiaeth genedlaethol sydd gennym, fel y nododd siaradwyr yn y ddadl eisoes.
Ac ar y lefel ehangach honno o gymorth sy'n canolbwyntio ar ddiwylliant, wrth ymateb i'r pandemig, rydym wedi darparu dros £60 miliwn o gyllid ar gyfer sefydliadau diwylliannol. Drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn cefnogi Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerdd Gymunedol Cymru, Live Music Now Cymru, Mid Wales Opera, Opera Cenedlaethol Cymru, Trac Cymru a Tŷ Cerdd, ac rydym wedi ymrwymo i sector diwylliant sy'n hygyrch, yn amrywiol ac yn gynhwysol, ac mae'r sector cerddoriaeth yn sicr yn arwain y ffordd ar hynny. Rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno â hynny.
Dylwn ychwanegu, i gloi, Ddirprwy Lywydd, fod llesiant wedi bod yn ganolbwynt allweddol i'n dull ehangach o gefnogi dysgwyr gydag effeithiau'r pandemig, ac mae hyn yn cyd-fynd â'r darlun cyffredinol hwnnw. Mae ein cynllun adnewyddu a diwygio, sydd wedi'i gefnogi gan dros £270 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, yn rhoi iechyd a lles corfforol a meddyliol dysgwyr wrth wraidd ei ddull o weithredu. A boed yn Haf o Hwyl neu'r Gaeaf Llawn Lles, mae hynny wedi rhoi cyfle i lawer o'n pobl ifanc gael mynediad at weithgareddau diwylliannol a chreadigol. Ac rwy'n benderfynol o weld y pwyslais ar lesiant a hyblygrwydd a welsom yn ystod y pandemig yn sail i'r gwaith yr ydym yn sôn amdano yma heddiw ac yn cyd-fynd yn agos â'r cwricwlwm. A thrwy'r rhaglen o weithgareddau, bydd y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol yn gweithio i sicrhau nad yw diffyg arian yn rhwystr i ddysgu chwarae offeryn a bod pob plentyn a pherson ifanc, waeth beth fo'i gefndir, waeth beth fo incwm ei deulu, yn gallu elwa o addysg cerddoriaeth, fel y mae llawer ohonom wedi'i wneud. Diolch yn fawr.
Diolch, pawb. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.