– Senedd Cymru am 5:08 pm ar 21 Mehefin 2022.
Grŵp 6 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae rhain yn ymwneud â gweithdrefn y Senedd a'i phroses ar gyfer gwneud rheoliadau. Gwelliant 85 yw'r prif welliant yn y grŵp yma a dwi'n galw ar Laura Anne Jones i gyflwyno'r grŵp. Laura Jones.
Diolch, Llywydd. Hoffwn siarad am fy ngwelliannau fy hun yn gyntaf. Diben gwelliant 85 a sawl un arall yn y grŵp yw ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru gael ei wneud drwy offeryn statudol, yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol, a gwneud hynny dim ond ar ôl ymgynghori â phwyllgor perthnasol y Senedd. Mae hyn yn unol ag argymhelliad 21 y pwyllgor ac â chynnal sefyllfa hyd braich wirioneddol gan sicrhau y cedwir y cydbwysedd priodol o ran unrhyw gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru.
Mae gwelliannau 87 i 89 a 96 yn ddiwygiadau treiddgar y bwriedir iddyn nhw annog eglurhad ynghylch dynodiad unrhyw ddarparwyr addysg drydyddol eraill ac ymgynghori â chyrff priodol.
O ran gwelliant 105 a'i elfennau amodol, rwy'n ailgyflwyno'r gwelliant i newid y pwerau o dan adran 138 i'r weithdrefn gadarnhaol. Mae fy ngrŵp a minnau yn dal i fod o'r farn ei bod yn gamgymeriad rhoi'r weithdrefn yn y negyddol, o ystyried nifer y rheoliadau negyddol a gyflwynwyd drwy gydol y Bil a'i effaith ganlyniadol ar graffu'r Senedd.
Mae gwelliant 108 hefyd yn gweithredu fel gwelliant treiddgar i geisio cael eglurder ar y categorïau cofrestru ac ymgynghori â chyrff priodol.
O ran gwelliant 111, rwy'n ailgyflwyno'r gwelliant hwn fel rhagofal i sicrhau y ceir gwared ar bwerau Harri VIII ac i ail-bwysleisio fy ngwrthwynebiad i a Phrifysgol Caerdydd i elfennau o'r fath yn y ddeddfwriaeth.
Yn olaf, o ran gwelliant 118, rwyf i hefyd yn ceisio yn hyn o beth gwneud grym gwneud rheoliadau o dan adran 143 yn destun gweithdrefn gadarnhaol, yn ogystal â dileu pwerau Harri VIII.
O ran gwelliant y Gweinidog, rwy'n fodlon cefnogi'r gwelliant hwn gan fy mod i'n deall ei fod yn gymoni angenrheidiol ar gyfer y Bil. Diolch.
Ydy'r Gweinidog eisiau cyfrannu i'r ddadl ar y grŵp yma?
Diolch, Llywydd. Hoffwn ddechrau gyda gwelliant 66, sy'n fân welliant technegol yr wyf i wedi ei gyflwyno i ddileu cyfeiriad at adran 140 y Bil at rym gwneud rheoliadau y darparwyd ar ei gyfer yn flaenorol yn adran 33(1) y Bil yng ngoleuni ei ddileu yn ystod trafodion Cyfnod 2, a chroesawaf gefnogaeth Laura Anne Jones i'r gwelliant hwnnw.
Mae'r rhan fwyaf o'r gwelliannau sy'n weddill yn y grŵp hwn yn ailadrodd y rhai a gyflwynwyd yng Nghyfnod 2. Mae gwelliant 85 yn ei gwneud yn ofynnol i gyfarwyddiadau cyffredinol o dan adran 21 y Bil gael eu gwneud drwy offeryn statudol, tra bod gwelliant 107 yn gwneud yr OS yn destun gweithdrefn gadarnhaol y Senedd. Mae'r cyfarwyddyd grym cyffredinol yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddiadau i'r comisiwn o ran materion penodol a nodir ar wyneb y Bil, ac mae gwelliant 106 yn ganlyniadol i welliant 107. Mae'r cyfarwyddiadau hyn yn ymwneud ag un corff a materion penodol, ac nid ydyn nhw'n darparu ar gyfer deddfu cyffredinol o natur ehangach. Bydd y gofyniad i gyhoeddi'r cyfarwyddyd, i hysbysu'r Senedd amdano a gosod copi o'r cyfarwyddiadau gerbron y Senedd yn sicrhau hygyrchedd a thryloywder unrhyw gyfarwyddiadau. Felly, rwy'n gwrthod gwelliannau 85, 106 a 107, a galwaf ar yr Aelodau i wneud yr un fath.
Rwyf i hefyd yn gwrthod gwelliannau 108 a 109, sy'n gwneud rheoliadau a wneir o dan adran 25(2) a 25(8) yn destun gweithdrefn gadarnhaol y Senedd, tra bod gwelliant 110 yn gwneud yr un ddarpariaeth o ran rheoliadau a wneir o dan adran 41(2) a 43(13). Neilltuwyd gweithdrefn negyddol y Senedd i'r rheoliadau hyn gan fod sylwedd y ddarpariaeth wedi'i gyflwyno yn eglur ar wyneb y Bil. Mae'r rheoliadau hyn yn rhagnodi materion technegol a gweinyddol y gallai fod angen eu diweddaru o bryd i'w gilydd, neu wneud darpariaethau trosiannol neu arbed. Felly, mae'r weithdrefn negyddol yn briodol o ran pob un o'r pwerau gwneud rheoliadau hyn.
Nid wyf i'n cefnogi gwelliant 111, sy'n cymhwyso gweithdrefnau cadarnhaol y Senedd i reoliadau a wneir o dan adran 143, sy'n ymdrin â materion fel gwelliannau canlyniadol neu ddarpariaeth ddeilliadol neu drosiannol o ran is-ddeddfwriaeth. Mae hyn yn anghymesur ac yn ddiangen, gan fod darpariaeth o'r fath, o ran is-ddeddfwriaeth, yn dechnegol yn ôl ei natur, ac nid yw'n cyflawni newidiadau polisi sylweddol.
Rwy'n gwrthod gwelliant 118, sy'n cael gwared ar allu Gweinidogion Cymru i wella, addasu, diddymu neu ddirymu deddfiad o ganlyniad i ddarpariaethau'r Bil, neu i roi effaith lawn iddyn nhw. Heb y grym hwn, bydd angen deddfwriaeth sylfaenol bellach i wneud unrhyw welliant canlyniadol a ddaw i'r amlwg yn ôl yr angen ar ôl y Cydsyniad Brenhinol. Er mai grym Harri VIII yw hwn yn dechnegol, mae ei ddefnydd wedi'i gyfyngu i ddarpariaethau o ganlyniad i ddarpariaethau'r Bil, neu i roi effaith lawn iddyn nhw. Byddai'n anarferol iawn i ddeddfwriaeth sylfaenol beidio â chynnwys grym o'r fath, ac mae peri'r risg na fydd y ddeddfwriaeth yn gweithredu fel y bwriadwyd. Pan ddefnyddir y grym i wella neu addasu deddfwriaeth sylfaenol, mae'n destun gweithdrefn gadarnhaol y Senedd.
Nid oes angen gwelliannau 87, 88, 89 a 96. Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori'n ffurfiol fel mater o drefn wrth baratoi is-ddeddfwriaeth, ac rydym ni'n cyhoeddi adroddiadau cryno ar ôl i'r ymgynghoriadau hyn ddod i ben. Fel y dywedais i, Llywydd, mae'r holl bwerau gwneud rheoliadau wedi cael eu hystyried yn llawn gan weithredu gweithdrefn briodol y Senedd, gan alluogi'r Senedd i graffu ar yr is-ddeddfwriaeth, ac nid wyf i o'r farn bod angen darparu gofyniad statudol i gyhoeddi rheoliadau drafft cyn i'r rheoliadau gael eu gosod neu eu gwneud. Ac felly, galwaf ar yr Aelodau i gefnogi gwelliant 66, a gyflwynwyd yn fy enw i, ac i wrthod yr holl welliannau eraill.
Laura Jones i ymateb.
Diolch. Diolch am eich ymateb, Gweinidog. Rwy'n dal i gredu'n gryf bod gormod o welliannau yn y negyddol, a bod angen mesurau diogelu i sicrhau bod cyrhaeddiad pwerau Gweinidogion Cymru yn gyfyngedig, fel yr amlinellwyd yn flaenorol gan bryderon a amlygwyd gan y pwyllgor ei hun. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi ein gwelliannau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 85? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly symudwn ni i bleidlais ar welliant 85. Agor y bleidlais.
Gwelliant 85.
Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 85 wedi'i wrthod.