Addysg Ysgol

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative

4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu addysg ysgol o'r radd flaenaf yng Nghymru? OQ58197

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:03, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Altaf Hussain am y cwestiwn yna? O fis Medi eleni, bydd cwricwlwm newydd y Senedd hon yn realiti mewn 95 y cant o ysgolion a lleoliadau meithrin yng Nghymru. Mae'r cwricwlwm newydd yn cynrychioli newid radical o ran darparu'r addysg o'r radd flaenaf honno sy'n galluogi ein dysgwyr i ddod yn ddinasyddion gwybodus yng Nghymru a'r byd.

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Prif Weinidog, mae'r pandemig wedi taflu goleuni llym ar anghydraddoldebau yng Nghymru, a gwelwyd llawer o hyn drwy'r ffordd y cyflwynwyd ein system addysg wrth i rieni ei chael yn anodd bod yn rhiant ac yn athro i'w plant, a hefyd pan ddaeth lles plant yn bryder yn ystod absenoldeb hir o'r ystafell ddosbarth. Mae'r argyfwng costau byw nawr yn gorfodi rhieni i ymateb i her arall, ac un pryd y gallem weld cynnydd yn nifer yr absenoldebau ysgol wrth i rieni geisio dod o hyd i wyliau rhatach yn ystod amser ysgol. Pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda chydweithwyr yn y Llywodraeth ac ar draws ein system ysgolion i asesu effaith yr argyfwng costau byw ar bresenoldeb yn yr ysgol? Diolch.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:04, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Cymeradwyaf iddo'r ddarlith ddiweddar a roddwyd gan y Gweinidog addysg i Sefydliad Bevan, pan oedd yn mynd i'r afael â'r union fathau o faterion y mae Dr Hussain wedi'u codi gyda ni y prynhawn yma. Mae'r rhain yn faterion cymhleth. Nid oes gennyf unrhyw ddymuniad o gwbl, Llywydd, i gosbi unrhyw deuluoedd sy'n cael trafferthion yn sgil effaith yr argyfwng costau byw ac sy'n wynebu anawsterau ychwanegol o ran sicrhau bod eu plant yn bresennol—fel y mae angen i'r plant hynny fod, gan fod gan blant hawl i gael addysg yng Nghymru—yn yr ystafell ddosbarth. Nid wyf yn credu y byddai fy ngoddefgarwch yn ymestyn yr holl ffordd i deuluoedd sy'n dewis mynd â'u plant allan o'r ysgol er mwyn mynd ar wyliau. Mae ateb gwahanol a gwell i hynny, a hynny yw diwygio'r flwyddyn ysgol. Mae hwnnw'n fesur arall y mae fy nghyd-Aelod Jeremy Miles yn gweithio arno ar hyn o bryd, gyda'n partneriaid yn y meysydd ysgol ac addysg. Drwy ddiwygio'r flwyddyn ysgol, byddem yn gallu dileu'r cymhelliant gwrthnysig hwnnw, neu effeithio arno, sy'n bodoli i rieni wneud yn union fel y mae Altaf Hussain wedi awgrymu. Nid dyna'r ateb i sicrhau bod plant yn cael yr addysg y mae arnyn nhw ei hangen ac yn ei haeddu yng Nghymru. 

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:06, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae Ysgol Gynradd y Rhigos yn fy etholaeth i yn dathlu ar ôl ennill y teitl clwb brecwast gorau yng Nghymru yn ddiweddar. Rydym wedi bod yn darparu brecwast am ddim i blant yng Nghymru ers ychydig o dan 20 mlynedd bellach, gan wella nid yn unig eu hiechyd ond hefyd eu lefelau canolbwyntio. Ac wrth gwrs, bydd manteision y mynediad cyffredinol hwnnw at faethiad da yn cael eu hehangu'n sylweddol drwy gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn oedran cynradd yng Nghymru. Prif Weinidog, a wnewch chi anfon neges i longyfarch Mrs Mundy a'i thîm yn ysgol gynradd Rhigos am gael y wobr drawiadol hon? A pha arfer gorau, yn eich barn chi, y gellid ei gymryd o ysgol Rhigos a'i rannu fel y gall pob clwb brecwast gynnig ychwanegiad o'r radd flaenaf at addysg ysgol ein disgyblion?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i Vikki Howells am hynna, ac rwyf eisiau llongyfarch Ysgol Gynradd Rhigos a'r tîm o bobl sydd wedi ennill y wobr sylweddol iawn honno. Mae arnaf ofn, Llywydd, fy mod wedi bod o gwmpas yn ddigon hir i gofio ymweliad ag ysgol yn Rhondda Cynon Taf, yr awdurdod lleol a gynrychiolir yma, gydag eraill, gan Vikki Howells. Roedd yn ymweliad a gynhaliwyd gan y Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, a chyfarfu â phennaeth aruthrol, a ddywedodd wrtho, pe bai yna un peth yr hoffai weld Llywodraeth Cymru yn ei wneud, cymryd camau i atal plant yn ei hysgol rhag troi i fyny bob bore yn rhy lwglyd i ddysgu byddai hynny. Roedd honno'n foment sobreiddiol iawn, Llywydd. O'r un ymweliad hwnnw, mae'r rhaglen gyfan yr ydym wedi'i chael yn awr ledled Cymru ar gyfer datganoli, fel y dywedodd Vikki Howells, dros gyfnod cyfan datganoli bron i ddarparu brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd, dyna o le y daeth y syniad hwnnw. Ac fel y dywedodd Vikki Howells, mae'n gwneud yn siŵr bod plant sy'n dod i'r ystafell ddosbarth yng Nghymru yn barod i ddysgu ac nad ydyn nhw'n ymgolli'n gyson yn y ffaith nad ydyn nhw wedi bwyta ers iddyn nhw fod yn yr ysgol y tro diwethaf.

Caiff hynny ei wella ymhellach fyth gan ein rhaglen o giniawau am ddim, prydau ysgol am ddim—prydau ysgol am ddim i bawb—ymrwymiad sydd wedi'i wreiddio yn ein cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, a phryd y cymerwyd cam mawr ymlaen ddoe gyda'r cyhoeddiad am y symudiad ymlaen ym mis Medi eleni. Caf fy nghalonogi yn fawr gan y ffaith bod cynifer o ysgolion a chymaint o awdurdodau lleol yng Nghymru yn gallu ymuno â chyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb mor gynnar yn y rhaglen, ac eraill sydd â chynlluniau gweithgar iawn i ymestyn y cynnig hwnnw, nid yn unig i ddisgyblion oedran derbyn, ond i fyfyrwyr blwyddyn 1 a blwyddyn 2 hefyd. Mae'n syniad sydd wedi cael croeso eang, am yr holl resymau a ddywedodd Vikki Howells, ac rydym yn dechrau'n dda iawn gyda'n rhaglen yma yng Nghymru.