– Senedd Cymru am 6:34 pm ar 21 Mehefin 2022.
Dyma ni'n ailddechrau, gyda grŵp 14 o welliannau. Mae'r grŵp yma yn ymwneud â rhannu gwybodaeth. Gwelliant 101 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Laura Jones i gyflwyno'r gwelliant hynny—Laura Jones.
Diolch, Llywydd. Rwyf eisiau siarad am y ddau welliant yn y grŵp hwn. Er mai dim ond yr hyn a welaf fel gwelliant technegol angenrheidiol yw gwelliant 101, mae gwelliant 102 yn cael ei ailgyflwyno er mwyn ceisio, unwaith eto, gwella adran 128 yn unol ag un o'r gwelliannau a awgrymwyd gan CCAUC, drwy ehangu'r diffiniad o wybodaeth o gyflwyno’r cais i dderbyn y cynnig yn y Bil i sicrhau ein bod yn gwneud popeth sy'n angenrheidiol o ran ymgynghori. Diolch.
Y Gweinidog i ymateb.
Diolch, Llywydd. Ni allaf gefnogi gwelliant 101, gan ei fod yn ddiangen, mewn gwirionedd. Fel y nodir yn adran 6 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, mae geiriau ac ymadroddion a restrir yn y tabl yn Atodlen 1 i'r Ddeddf honno i'w dehongli yn unol â'r tabl hwnnw, pan fyddan nhw'n ymddangos mewn Deddf Senedd Cymru. Diffinnir 'Ysgrifennydd Gwladol' yn y tabl fel 'un o Brif Ysgrifenyddion Gwladol Ei Mawrhydi' ac felly byddai'n cynnwys unrhyw un o'r Ysgrifenyddion Gwladol.
Ni allaf ychwaith gefnogi gwelliant 102, gan ei fod yn ehangu'r rhestr o unigolion a all rannu gwybodaeth â'r comisiwn i gynnwys unrhyw unigolyn arall y mae'r comisiwn yn ei ystyried yn briodol neu a allai gadw gwybodaeth am unrhyw fater y mae gan y comisiwn swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef. Mae'r rhestr o unigolion yn adran 130 wedi'i datblygu er mwyn bod yn briodol eang i gynnwys pawb y gallai fod angen iddyn nhw rannu gwybodaeth â'r comisiwn. Hefyd, caiff Gweinidogion Cymru ychwanegu unigolion eraill at y rhestr drwy reoliadau. Bydd y dull hwn yn galluogi pobl i gael eu hychwanegu at y rhestr mewn modd rheoledig yn dilyn yr ymgynghoriad angenrheidiol a chraffu priodol gan y Senedd. Felly, galwaf ar Aelodau i wrthod y gwelliannau hyn.
Laura Jones, ydych chi eisiau ymateb?
Diolch, Llywydd. Wel, rwy'n siŵr y bydd fy ngrŵp a CCAUC wedi'u digalonni o weld bod y gwelliannau wedi'u gwrthod gan y Gweinidog yn y fan yma. Mae'n ddryslyd pam mae'r Gweinidog yn credu na fyddai'r comisiwn yn cael budd o gronfa ehangach o ymgynghori ynghylch arfer ei swyddogaethau, a gofynnaf i'r Senedd ystyried hyn.
Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn gwelliant 101? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gymrwn ni bleidlais ar welliant 101. Agor y bleidlais.
Agor y bleidlais ar welliant 101.
Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 101 wedi'i wrthod.
Laura Jones, ydych chi'n cynnig gwelliant 102?
Symud. Felly, oes gwrthwynebiad i welliant 102? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gymrwn ni bleidlais ar welliant 102. Agor y bleidlais.
Agor y bleidlais ar welliant 102.
Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Mae gwelliant 102 wedi'i wrthod.
Gweinidog, gwelliant 63—ydych chi'n symud gwelliant 63?
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 63? A oes gwrthwynebiad? Does dim gwrthwynebiad. Felly, mae yna dderbyn ar welliant 63.
Gwelliant 64—ydych chi'n symud gwelliant 64?
Oes yna wrthwynebiad i welliant 64? Na, does dim gwrthwynebiad. Felly, derbynnir gwelliant 64.