4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Pride, a’r Cynnydd o ran y Cynllun Gweithredu LHDTC+

– Senedd Cymru am 3:14 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:14, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n symud ymlaen yn awr at eitem 4, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar Pride, a'r cynnydd o ran y Cynllun Gweithredu LHDTC+. Hannah Blythyn.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae Mis Pride eleni'n nodi 50 mlynedd ers Pride cyntaf y DU; 50 mlynedd ers dydd Sadwrn, 1 Gorffennaf 1972 pan ddaeth pobl ynghyd i gymryd y cam cyntaf hwnnw i ddod â Pride i strydoedd Llundain. Bum degawd yn ddiweddarach, fe allwn ni ymfalchïo yn ein cynnydd ni o ran hawliau LHDTC+ gan ddiolch i'r brwydrwyr a'r cynghreiriad a ddaeth o'n blaenau ni. Ond, ni allwn fod yn hunanfodlon, pan fo ymosodiadau ar gymunedau LHDTC+ a pherygl o gwtogi ar yr hawliau y brwydrwyd mor galed amdanyn nhw ledled y byd, gan gynnwys, yn gywilyddus, yma yn y DU.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 3:15, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Ganed Pride o'r angen a'r ewyllys i brotestio, i ymladd dros hawliau cyfartal, i gael ein gweld, i fod yn ni'n hunain, i gael ein parchu, i sefyll gyda'n gilydd fel cymuned ac i fynnu diwedd ar wahaniaethu. Mae mwy i'w wneud o hyd, ac felly mae cyfrifoldeb arnom i ddyblu ein hymrwymiad i barhau i newid hanes er gwell, yma a thramor, ac i greu dyfodol lle yr ydym yn cydnabod ac yn gwireddu Cymru fel y genedl fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn Ewrop.

Fel Llywodraeth, rydym yn sefyll gyda'n cymunedau LGBTQ+. Dyna pam mae hawliau LHDTC+ yn rhan annatod o'n rhaglen lywodraethu, yn elfen allweddol o'r cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, a pham yr ydym yn datblygu ein cynllun gweithredu beiddgar. Mae'r cynllun hwn yn cryfhau amddiffyniadau i bobl LHDTC+, yn hyrwyddo cydraddoldeb i bawb, ac yn helpu i gydlynu camau gweithredu ar draws y Llywodraeth, cymunedau a'r wlad.

Ein nod yw cyhoeddi'r cynllun gweithredu yr hydref hwn, ac rydym yn gwneud cynnydd nid yn unig ar y cynllun ei hun ond, yn bwysig, ar roi ymrwymiadau ar waith. Rydym yn cyflawni ein hymrwymiadau i gefnogi sefydliadau Pride yng Nghymru. Mae ein cefnogaeth i Pride Cymru yn parhau ac, am y tro cyntaf, rydym wedi darparu cyllid i ddigwyddiadau Pride ar lawr gwlad ledled Cymru. Rydym eisoes wedi rhoi cefnogaeth i Pride Abertawe a Pride Gogledd Cymru, ac mae trafodaethau ar y gweill gyda Pride in the Port yng Nghasnewydd.

Rydym yn galluogi addysg fwy cynhwysol, wrth i Lywodraeth Cymru ddarparu canllawiau cenedlaethol i ysgolion erbyn diwedd eleni i'w helpu i gefnogi disgyblion trawsryweddol yn llawn. Mae hyn yn cael ei wneud fel rhan o'r dull ysgol gyfan o ymdrin ag addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac rydym ni eisiau ei gwneud yn glir nad yw Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo unrhyw ganllawiau trydydd parti yn y maes hwn. Yn ddiweddar, mae ein cefnogaeth wedi galluogi Stonewall Cymru a Peniarth i gyfieithu dau lyfr am deuluoedd LHDTC+ i'r Gymraeg. Bydd y llyfrau, sydd wedi eu dosbarthu i ysgolion cynradd, yn sicrhau bod gan ystafelloedd dosbarth fynediad at lenyddiaeth gynhwysol sy'n adlewyrchu amrywiaeth Cymru.

Gwnaed cynnydd hefyd ym maes iechyd rhywiol drwy'r cynllun gweithredu HIV i Gymru, a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghoriad yr wythnos diwethaf. Nod y cynllun yw cyrraedd y targed o ddim trosglwyddiadau HIV newydd erbyn 2030, mynd i'r afael â stigma a gwella ansawdd bywyd pobl sy'n byw â HIV.

Deugain mlynedd yn ôl, roedd pobl hoyw yn dioddef anfri cas ac ymosodiadau rhagfarnllyd. Heddiw, mae pobl draws yn destun llif tebyg o ymosodiadau wedi eu hysgogi gan gasineb. Nid yw ymestyn hawliau i un grŵp yn golygu erydu hawliau o un arall. Nid ydym yn credu y bydd gwella hawliau i fenywod traws yn niweidio hawliau i fenywod a merched cisryweddol. Mae ein cymunedau traws yn brifo, mae ofn arnyn nhw, ac maen nhw'n dioddef niwed. Fel cymdeithas, gallwn ni ac mae'n rhaid i ni wneud yn well na hyn.

Felly, rydym yn parhau i ddatblygu ein gwasanaeth rhyw yng Nghymru, sy'n adrodd am amseroedd aros byrrach ar gyfer asesiad cyntaf na gwasanaethau rhyw tebyg y GIG yn Lloegr ac sydd wedi ymrwymo i leihau amseroedd aros ymhellach. Rydym hefyd wedi ymrwymo i wella'r llwybr ar gyfer pobl ifanc drawsryweddol yng Nghymru. Bydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, sy'n gyfrifol am y gwasanaeth, yn edrych ar y dystiolaeth sydd ar gael i ddiffinio'r model gwasanaeth clinigol ymhellach ar gyfer y dyfodol, a bydd lleisiau cymunedol yn flaenllaw ac yn ganolog i'r gwaith hwn.

Yn unol â'n hymrwymiad i'r cytundeb cydweithredu, byddwn hefyd yn ceisio datganoli pwerau ychwanegol i wella bywydau ac amddiffyn pobl drawsryweddol. Ni fu ein hymrwymiad i gefnogi pobl LHDTC+ sy'n ceisio noddfa yng Nghymru a chyflawni ein dyletswydd ryngwladol i ddangos arweiniad ar gydraddoldeb erioed yn bwysicach. Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn mynegi ein harswyd ynghylch eu cynlluniau i anfon ceiswyr lloches i Rwanda. Byddai hyn yn ddinistriol i bobl LHDTC+, gan eu rhoi mewn perygl o gael eu trin yn wael, gwahaniaethu, arestio mympwyol, a'u cadw yn y ddalfa.

Felly, mae materion LHDTC+ y tu hwnt i'n ffiniau yn parhau i fod yn hollbwysig i ni ac, er bod Cymru'n ennill ei lle yng Nghwpan y Byd yn destun dathlu, ni ellir anwybyddu safbwynt gwarthus y wlad sy'n cynnal y bencampwriaeth ar hawliau LHDTC+. Bydd llawer yno na fyddan nhw'n teimlo'n ddiogel i deithio, neu a fydd yn dewis peidio â chefnogi cymunedau LHDTC+ Qatar ei hun, sy'n methu â byw yn agored ac yn rhydd fel eu hunain. Byddwn yn ceisio defnyddio ein platfform i ymgysylltu a dylanwadu ar y materion pwysig hyn.

Rydym wedi ymrwymo i beidio â gadael yr un garreg heb ei throi o ran gwahardd arferion trosi ar gyfer pobl LHDTC+. Ni fyddwn yn troi cefn ar ein cymunedau traws, fel y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud, ac ni fyddwn ychwaith dim ond yn siarad pan ddaw'n fater o weithredu. Gan weithio gyda Phlaid Cymru, rydym yn gwneud gwaith cymhleth, gan gynnwys ceisio cyngor cyfreithiol i bennu'r holl ysgogiadau sydd gennym ar gyfer gwaharddiad yng Nghymru, datblygu ein hymgyrch i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau cymorth ac erchyllterau arferion trosi, ac mae ein cynlluniau i sefydlu gweithgor o arbenigwyr ar y gweill.

Yn ystod fy ymweliad diweddar i gwrdd â'r grŵp Digon o Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd, gofynnais i'r myfyrwyr pa neges y bydden nhw'n dymuno i mi ei rhannu mewn datganiad yma i nodi Mis Pride. Roedd y neges yn glir: 'Dydw i ddim eisiau cael fy ngoddef yn unig, rwy'n dymuno cael fy nathlu.' Yn ystod y Mis Pride hwn, a phob mis arall, y deyrnged fwyaf y gallwn ei thalu i'r arloeswyr a baratôdd y ffordd yw parhau i siarad, sefyll a chwarae ein rhan ein hunain i sicrhau dyfodol tecach lle rydym yn teimlo'n ddiogel, yn cael ein cefnogi a'n dathlu, gyda'n hawliau wedi eu sicrhau.

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 3:20, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad, ac a gaf i ddiolch yn ddiffuant i bawb sydd wedi gweithio mor galed i lunio'r cynllun gweithredu hyd yn hyn? Mae gen i ychydig o gwestiynau byr, os caf i, ynglŷn â rhai o'r camau gweithredu. Gweinidog, byddwch yn gwybod mai hunanladdiad yw'r lladdwr mwyaf ymhlith pobl ifanc o dan 35 oed yn y DU, ac mae'n effeithio'n anghymesur ar aelodau o'r gymuned LHDTC+. At hynny, rydym yn gwybod bod dros bump o bobl ifanc, ar gyfartaledd, yn cymryd eu bywydau bob dydd, bod dros 200 o blant ysgol yn cael eu colli i hunanladdiad bob blwyddyn, a bod ymchwil wedi dangos, gyda'r ymyrraeth a'r gefnogaeth gynnar briodol, y gellir atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc. Sonnir yn y cynllun gweithredu arfaethedig y bydd gwaith iechyd cyhoeddus wedi'i dargedu yn cael ei wneud i fynd i'r afael â materion ar gyfer pobl LHDTC+ sydd mewn perygl anghymesur, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, iechyd rhywiol ac iechyd meddwl. Rydym hefyd yn ymwybodol bod yna rai sy'n rhan o'r gymuned LHDTC+ sy'n byw mewn ofn o gael eu hadnabod yn LHDTC+ drwy ymgysylltu ag unrhyw brosiect neu gael eu gweld yn ymwneud â mentrau, ac rwy'n meddwl tybed pa gamau penodol y mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â materion iechyd meddwl y rhai hynny sydd wedi eu cuddio o fewn y gymuned LHDTC+ er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn.

Yn ail, hoffwn i ddeall yn well yr hyn a olygir wrth greu

'dull mwy cyfannol o lunio adnoddau hyfforddiant i weithleoedd preifat' fel y gall gweithleoedd fod yn fwy cynhwysol i LHDTC+. Beth ydych chi'n ei olygu mewn gwirionedd gan 'ddull cyfannol'? Pam ydych chi wedi penderfynu mai dyma'r ffordd orau o weithredu? Rwy'n gofyn hyn gan fy mod i wedi bod o'r farn erioed nad yw un dull gweithredu sy'n addas i bawb yn caniatáu ar gyfer yr hyblygrwydd sydd ei angen, ac ni fydd model hyfforddi sefydlog o reidrwydd yn gweddu i'r holl wahanol ddiwydiannau a diwylliannau gwaith sydd gennym. Fel yr ydych chi wedi ei ddweud, mae gwahaniaethu yn y gweithle yn parhau i fod yn gyffredin, sydd, fel y gwyddom, wedi ei yrru gan ofn yr anhysbys, ac ofn rhywbeth gwahanol. Felly, sut y bydd yr hyfforddiant hwn yn ceisio'n benodol i addysgu pobl a newid ymddygiad gwahaniaethol?

Yn olaf, Gweinidog, roeddwn i eisiau ychwanegu fy ngeiriau fy hun at eich datganiad cadarnhaol ynglŷn â Pride. Mae themâu Pride yn newid nid yn unig o flwyddyn i flwyddyn, ond o le i le, i adlewyrchu a dathlu'r gymuned. Fodd bynnag, mae'r neges sy'n gorgyffwrdd bob amser yr un fath—er ein bod yn wahanol, rydym ni i gyd yr un fath hefyd. Er ein bod yn hoffi ac yn dda am wahanol bethau ac yn caru gwahanol bobl, rydym i gyd yn ddynol, ac ni ddylem ni byth gael ein herlyn na'n barnu na'n trin yn wahanol oherwydd y gwahaniaethau hynny. Yn hytrach, dylem ddathlu'r hyn sy'n ein gwneud yn unigryw a'r hyn sy'n ein gwneud yn unigolion, oherwydd, os gwnawn ni hynny, gallwn gyflawni pethau rhyfeddol drwy gynnwys pawb a gwneud y gorau o'n hamrywiaeth ar gyfer y ddynoliaeth. Diolch yn fawr, Gweinidog.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 3:24, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Aelod am y geiriau cynnes hynny o gefnogaeth i Pride ar ddiwedd ei gyfraniad yn y fan yna, a hefyd croesawu'n fawr y sylwadau cefnogol am yr hyn yr ydym yn ceisio'i wneud yn y cynllun gweithredu LHDTC+? Byddwn yn fwy na bodlon, wrth i ni ddatblygu'r cynllun, i drafod elfennau penodol y gallai fod gan yr Aelod ddiddordeb penodol ynddyn nhw. Wrth i ni wneud hynny dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, rwyf yn fwy na pharod i wneud hynny, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, yn y lle hwn yn y fan yma, yn y Siambr hon, ein bod ni yn defnyddio naws wahanol iawn ac ymagwedd wahanol iawn nag mewn mannau eraill efallai o ran sefyll gyda'n gilydd i wneud y peth iawn.

Gwnaf i sôn rhywfaint am rai o'r pwyntiau penodol a wnaethoch, Altaf, yn y cyfraniad hwnnw. Rydych chi'n iawn i dynnu sylw at yr heriau gwirioneddol y mae'r gymuned LHDTC+ yn eu hwynebu o ran heriau iechyd meddwl, unigedd. Gall ddeillio o amrywiaeth o bethau. Rydym yn gwybod ei fod wedi ei waethygu, efallai, yn ystod y pandemig i bobl a allai fod wedi gorfod parhau i fyw gyda phobl nad oedden nhw efallai wedi dod allan iddyn nhw, nad oedden nhw'n gallu bod yn nhw eu hunain gyda nhw, neu efallai mewn amgylchedd a oedd yn llai na chyfeillgar tuag atyn nhw. Felly, rydym ni wedi gwneud—. Yn ogystal â'r hyn sydd wedi ei amlinellu yn y cynllun gweithredu, mae darn o waith rydym wedi bod yn ei wneud i edrych ar effaith COVID-19 ar y gymuned LHDTC+ yn arbennig. Felly, y gobaith yw y gall hynny fwydo i mewn i waith ehangach y cynllun gweithredu. Ond rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt dilys iawn, ac rwy'n siŵr bod ein swyddogion a'n harbenigwyr eisoes yn bwrw ymlaen, o ran sicrhau mewn gwirionedd fod pobl yn gwybod ble mae'r cymorth a'r adnoddau ac, os nad ydyn nhw'n teimlo eu bod yn gallu gwneud hynny, nid oes rhaid iddyn nhw roi eu llaw i fyny a datgan pwy ydyn nhw os nad ydyn nhw'n teimlo'n gyfforddus ar yr adeg honno yn eu bywyd i wneud hynny i allu cael mynediad at wasanaethau penodol. Felly, rwy'n credu bod pwynt gwirioneddol bwysig a dilys yno.

O ran gweithleoedd cyfeillgar a chynhwysol i bobl LHDTC+, rwy'n meddwl, yn hollol, ein bod yn treulio cymaint o'n hamser a'n bywyd yn y gwaith, mewn gweithle, ac rwy'n gwybod o fy mhrofiad personol fy hun, ar yr adeg pan oeddwn i'n gallu bod allan a bod fy hun yn y gwaith, nad oeddwn i ddim ond yn hapusach yn y gwaith yn sydyn, ond mae'n debyg fy mod i'n fwy cynhyrchiol; roeddwn i eisiau bod yno. Ac rwy'n meddwl pan fyddwch chi yn y sefyllfa honno weithiau pan nad ydych chi'n teimlo y gallwch chi fod eich hun, rydych chi'n gwario cymaint o egni ar hynny, yn hytrach nag egni ar bethau mwy cadarnhaol, pethau y gallech chi ganolbwyntio arnyn nhw. Felly, mae hynny'n elfen bwysig iawn o'r hyn yr ydym yn ei wneud. Rydych chi'n sôn am ddull gweithredu homogenaidd, ac rwy'n cydnabod yr hyn yr ydych yn ei ddweud, nad yw un ateb yn addas i bawb, ond rwy'n credu ei fod yn ymwneud â chael y tegwch hwnnw a chefnogaeth ac adnoddau cyfartal i weithleoedd, boed yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat—a'r sector gwirfoddol, wrth gwrs. Ac rydym yn gwybod bod enghreifftiau da iawn o arfer gorau. Rydym yn eu gweld yn y sefydliadau, busnesau mawr hynny yng Nghymru sy'n cael eu cydnabod am eu rhwydweithiau a'u cynwysoldeb. Ac rydym yn gwybod hefyd, o fewn y mudiad undebau llafur, fod llawer o gyrsiau cydraddoldeb da ar gael a chefnogaeth i aelodau, ac mae hynny'n ffordd arall o hwyluso a lledaenu'r wybodaeth honno yn y gweithle.

Felly, rwy'n credu mai'r hyn yr ydym yn ei olygu yw sicrhau ein bod yn cael yr arfer gwell hwnnw a sicrhau ei fod yn cael ei rannu a bod pawb yn cael cyfle i gael gafael ar y cymorth hwnnw a chael y cymorth hwnnw yn y gwaith hefyd. Ac, wrth gwrs, mae'n ganolog—pan fyddwn yn sôn am fod yn genedl o waith teg, wrth gwrs, mae cydraddoldeb yn y gweithle a gallu bod eich hun yn y gwaith yn rhan allweddol o hynny o ran eich lles yn y gwaith hefyd.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch bod y cytundeb cydweithredu gyda Phlaid Cymru yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i wneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop ac i alw am ddatganoli'r pwerau i ddeddfu i wella bywydau a diogelu diogelwch pobl draws yng Nghymru. Mae'n amlwg pa mor hanfodol yw'r ymrwymiadau hynny, o ystyried sut mae troseddau casineb yn erbyn pobl ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol wedi codi bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr ers 2016. Ac mae ffigurau gan Heddlu Gwent, Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu De Cymru a gafwyd drwy gais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru hefyd wedi dangos y duedd hon o gynnydd i droseddau casineb trawsffobig ac ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Rwy'n falch bod y Dirprwy Weinidog wedi cyfeirio'n benodol yn ei datganiad at y ffordd y mae pobl draws yn cael eu gwneud yn destun anoddefgarwch a chasineb cynyddol. Mae'n rhaid i ni gael pwerau i ddiogelu pobl draws yma yng Nghymru yn well, ac rwy'n edrych ymlaen at waith pellach ar hyn. Rwy'n credu hefyd fod menywod traws yn fenywod a bod y ffordd y mae menywod traws yn cael eu heithrio gan gyrff chwaraeon, p'un a ydych yn cytuno ag ef fel dull o sicrhau tegwch ai peidio, yn ymwroli'r rhai sy'n defnyddio chwaraeon i guddio eu trawsffobia a'u rhagfarn. O'i ystyried ynghyd â'r materion iechyd meddwl a chyfraddau hunanladdiad ymhlith pobl draws, a'r gyfran fach iawn o athletwyr traws sy'n cystadlu mewn chwaraeon elitaidd, mae'n ymddangos bod penderfyniadau i wahardd athletwyr trawsryweddol, yng ngeiriau un o newyddiadurwyr chwaraeon mwyaf blaenllaw America, Dan Wolken, yn ateb sy'n chwilio am broblem. Mae gan chwaraeon ran mor allweddol wrth hyrwyddo darlun cynhwysol ac amrywiol o ddinasyddion ein byd, gan gynnwys athletwyr trawsryweddol. Felly, sut ydym ni yng Nghymru, fel y'i mynegwyd yn gwbl briodol gan fyfyrwyr grŵp Digon Ysgol Gyfun Plasmawr, yn mynd i ddathlu ein dinasyddion traws sy'n athletwyr? Hoffwn i wybod felly, Dirprwy Weinidog, pa sgyrsiau yr ydych wedi'u cael gyda sefydliadau a chyrff chwaraeon yng Nghymru am oblygiadau'r penderfyniad a wnaed gan FINA a'r datganiadau a wnaed gan Nadine Dorries, y bydd yn annog cyrff chwaraeon y DU i ddilyn arweiniad FINA.

Ac i aros gyda chwaraeon, roeddwn i hefyd yn falch o glywed y Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at ein cyfrifoldeb fel cenedl i dynnu sylw at ragfarn ac erledigaeth y tu hwnt i Gymru, a'r angen i sicrhau bod ein pryderon am record ofnadwy Qatar ar hawliau LHDTC+ yn cael eu lleisio'n glir pan fydd ein tîm cenedlaethol, a'u staff ategol, a chefnogwyr Cymru, yn teithio yno ar gyfer Cwpan y Byd.

Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu'n union pa sgyrsiau y mae wedi'u cael gyda Llywodraethau eraill, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a rhanddeiliaid eraill ynghylch y mater hwn? Sut byddwn yn ymgysylltu â gwladwriaeth a all atal pobl LHDT rhag dod i mewn i'w gwlad, neu alltudio pobl LHDT o Qatar ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol a'u hunaniaeth o ran rhywedd, a cheisio dylanwadu arni? Sut mae'r Llywodraeth yn mynd i sicrhau bod cefnogwyr LHDTC+, y rhai sy'n gysylltiedig â'r timau, aelodau o gwmnïau a sefydliadau Cymru, yn gallu chwarae rhan lawn yn ymgyrch Cwpan y Byd Cymru heb fod ofn erledigaeth?

Yn olaf, hoffwn i droi at eich sylwadau ar sut y mae Cymru'n genedl noddfa i bawb—mae mor addas ein bod yn gwneud hynny yn ystod Wythnos Ffoaduriaid, ac yn dilyn y ddadl yr ydym newydd ei chael—a sut y mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei harswyd tuag at gynlluniau Llywodraeth San Steffan i anfon ffoaduriaid a cheiswyr lloches i Rwanda. Ac mae Plaid Cymru yn cefnogi eich geiriau cryf, ac yn rhannu eich pryderon am y canlyniadau i ffoaduriaid LHDTC+ a'r risgiau posibl y bydden nhw'n eu hwynebu. Mae Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 yn ei gwneud yn anoddach byth i bobl LHDTC+ sy'n ceisio lloches gael eu cydnabod a'u diogelu. Mae triniaeth gywilyddus rhai o ffoaduriaid mwyaf agored i niwed y byd yn un o'r rhesymau pam mae'r DU wedi plymio yn y safleoedd ar gyfer hawliau LHDTC+ ledled Ewrop am y drydedd flwyddyn yn olynol. Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud yn benodol i gefnogi ffoaduriaid LHDTC+, ac a yw'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi, os ydym am ddiogelu pobl LHDTC+ sy'n dymuno gwneud Cymru'n gartref yn llawn, yna mae angen daer am fil hawliau Cymru arnom i'n helpu i ymgorffori'r amddiffyniadau cyfreithiol rhyngwladol y maen nhw'n eu haeddu? Diolch.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei bod yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr, ac rwy'n credu bod gallu sefyll a siarad mewn undod am broblemau a materion sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth i bobl—rydym yn sôn am fywydau pobl onid ydym ni—a gallu—. Rydym yn sôn am weithredu, ond ni allwch danbrisio pobl yn siarad ac yn herio ac yn cymryd y safbwynt cywir ar y pethau hyn. Nid oes fawr ddim i mi anghytuno ag ef ar unrhyw beth y gwnaethoch ei ddweud, yn enwedig ynghylch cefnogi cenedl noddfa a'r hyn y gallwn ei wneud ynghylch hynny, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'ch sylwadau.

Os cyfeiriaf yn gyntaf efallai at yr hyn y gwnaethoch ei ddweud am bobl drawsryweddol mewn chwaraeon, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n ymddangos ei fod wedi ei—. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, rwy'n hapus iawn am fod wedi colli sylwadau Nadine Dorries, ond af i edrych ar hynny a gweld yr hyn a ddywedodd unwaith eto. Ond, rwy'n meddwl, un o'r pethau y mae'n rhaid i chi ei ddweud yw, fel yr ydym wedi ei ddweud o'r blaen, mae'n ymddangos bod y gymuned drawsryweddol yn un o'r rhai sydd wedi'i halltudio fwyaf a'i diogelu lleiaf, ac mae methu â chydnabod a mynd i'r afael â hynny, boed hynny ym maes chwaraeon neu mewn meysydd eraill, yn fethiant yn ein dyletswydd a'n cenhadaeth i sicrhau cydraddoldeb a chynhwysiant. Os ydym yn dweud bod ein safbwynt yn glir bod hawliau LHDTC+, gan gynnwys hawliau traws, yn hawliau dynol, yna mae angen i chwaraeon fod yn fan lle gall pawb gymryd rhan, ac mae pawb yn cael eu trin â charedigrwydd, urddas a pharch. Ac rwy'n credu bod yn rhaid iddo ddechrau o safbwynt—. Roeddwn i'n gallu clywed murmur cefnogaeth yn y lle hwn. Mae chwaraeon, yn ei hanfod, yn gyfle i fod yn gynhwysol ac i gynnwys pobl mewn gwahanol gymunedau. Ac nid sôn am chwaraeon elitaidd yn unig ydym ni; rydym yn siarad yn gyffredinol hefyd.

Ac, rwy'n credu, yn fawr iawn, bod yn rhaid i ni ddechrau o safbwynt tosturi, tegwch a thryloywder. Mae'r mathau hynny o sgyrsiau eisoes wedi eu cynnal gyda rhai o'r cyrff chwaraeon hynny, a byddaf yn gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod Dawn Bowden o'r safbwynt hwnnw. Mae'n rhywbeth yr wyf yn sicr yn mynd i'w ddatblygu a'i symud ymlaen yn awr, o ran sut y gallwn sicrhau bod pethau'n cael eu gwneud fel hyn. Roeddwn i mewn digwyddiad PinkNews—wel, derbyniad gan y Senedd, nad oedd yn y Senedd—yr wythnos diwethaf, ac fe wnes i gyfarfod mewn gwirionedd â'r beiciwr Emily Bridges yno, ac rwyf i wedi gwahodd Emily i ddod i ymweld â ni yma i rannu ei phrofiadau, fel y gallwn ddysgu o hynny a gwella cefnogaeth a defnyddio profiadau byw pobl hefyd. Mae'n hynod bwysig fy mod i'n ffrind i'r gymuned honno, ond nid wyf yn dod o'r gymuned honno, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, fel gydag unrhyw beth a wnawn, eu bod yn llunio ein gwaith a'n ffordd ymlaen hefyd.

I sôn am y pwyntiau a wnaethoch ynghylch troseddau casineb a'r cynnydd mewn troseddau casineb, rwy'n credu bod rhywfaint ohono'n ddeublyg, bod pobl yn fwy parod i roi gwybod amdano, ond yn anffodus mae cynnydd mewn troseddau casineb. Rwy'n credu ein bod ni wedi siarad yn y Siambr hon o'r blaen am godi ymwybyddiaeth, drwy ein hymgyrchoedd Mae Casineb yn Brifo Cymru a'r gwaith yr ydym yn ei wneud, fod troseddau casineb ar sawl ffurf wahanol. Ar ei ben eithafol ac erchyll, mae'n dreisgar, ac, fel yr ydym wedi'i weld, gall arwain at ganlyniadau gwirioneddol ddinistriol, yma yn ein prifddinas ein hunain. Ond mae hefyd yn bobl sy'n meddwl y gallan nhw ddweud beth bynnag maen nhw'n ei ddymuno wrth bobl, ac rwy'n gwybod fy mod i wedi siarad am bethau o fy mhrofiad i o'r blaen, yma. Rwy'n ei chael yn anodd iawn ar hyn o bryd fod fy ngwraig yn darged oherwydd fi. Rwy'n gwybod ei bod wedi cael galwad ffôn i'w rhif gwaith yn y lle hwn gan rywun a oedd, yn ei hanfod, yn siarad mewn tafodau, wedi dweud wrthi ei bod yn mynd i losgi yn uffern. Mae ein heddluoedd yn ymdrechu'n galed, ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda nhw, ond rwyf i yn credu bod mwy o waith i'w wneud o ran sut yn union maen nhw'n trin ac yn ymdrin â phethau fel hynny, oherwydd ni chafodd ei drin yn ddigonol mewn gwirionedd. Ac rwy'n credu bod angen gwella'r pethau hyn.

Rwy'n credu bod angen i gymorth fod ar gael i bobl deimlo y gallan nhw adrodd am bethau, oherwydd nid ydym yn mynd i newid pethau oni bai fod pobl yn teimlo bod ganddyn nhw'r gefnogaeth honno. Ac rwy'n credu bod gwahanol ffyrdd o'i wneud—mynd drwy'r broses, o adrodd i'w gofrestru fel trosedd casineb, ond mewn gwirionedd beth sy'n cael ei wneud yn ei gylch yn y dyfodol. Hefyd, mae'n mynd yn ôl at yr hyn yr ydym yn ceisio'i wneud o ran addysg hefyd. Ac rwy'n dal i ddarllen drosodd a throsodd, yn rhy aml, am bobl eraill sy'n cael profiadau tebyg. Mae'n mynd yn ôl at yr hyn yr oeddem yn ei ddweud am dynnu sylw at bethau. Rwy'n credu bod her i bob un ohonom yn y lle hwn, yn ein cymunedau ein hunain, yn ein sefydliadau ein hunain, yn ein pleidiau gwleidyddol ein hunain, i gael sgwrs anodd—gall fod, weithiau—i wneud y peth iawn, ac i amlygu hyn a dweud mewn gwirionedd, 'Dyma'r effaith y gall rhai o'r geiriau, y gall rhai o'r "ddadl" honedig y mae pobl yn ei chael, arwain ati, a'r effaith a'r niwed a'r dolur y gall ei achosi i bobl unigol a chymunedau cyfan.'

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 3:36, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, diolch yn fawr am eich datganiad heddiw. Roeddwn i eisiau dweud ychydig am awdurdodau lleol yng Nghymru a'r rhan bwysig sydd ganddyn nhw, a gofyn a fyddech yn cytuno â mi fod Cyngor Dinas Casnewydd mewn gwirionedd yn gwneud llawer o bethau da ar hyn o bryd ac yn gwneud cynnydd gwirioneddol ar y materion hyn. Rwy'n gwybod eu bod wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi cynllun gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru, ac mae ganddyn nhw gysylltiadau cryf iawn â chymunedau ledled dinas Casnewydd, ac mae ganddyn nhw rwydwaith staff Pride yn yr awdurdod, sydd, yn fy marn i, yn sicrhau canlyniadau yn wirioneddol o ran eu sefydliad mewnol, ond hefyd yn cysylltu wedyn â'r gymuned.

Maen nhw wedi bod yn gweithio gyda Balchder yn y Porthladd, ac roeddwn i'n falch eich bod wedi sôn amdanyn nhw yn gynharach. Bydd gorymdaith yng Nghasnewydd ym mis Medi, yr orymdaith Pride gyntaf wedi'i threfnu gan Balchder yn y Porthladd, ac mae'r awdurdod lleol yn cefnogi hynny. Mae llawer o weithgareddau ar draws y gymuned leol erbyn hyn, gan godi baner Cynnydd Pride gan arweinydd y cyngor a Balchder yn y Porthladd i ddathlu Mis Pride. Mae llawer iawn yn digwydd ar hyn o bryd, gan gynnwys digwyddiad a lle diogel yn Theatr Glan yr Afon, a grëwyd, unwaith eto, i fwrw ymlaen â'r gweithgareddau hyn—i anfon y negeseuon cywir. Yn amlwg, rydych yn dymuno gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol yng Nghymru, Gweinidog, a tybed a fyddech yn cadarnhau yr hyn rwy'n gobeithio sy'n wir, sef bod Cyngor Dinas Casnewydd yn dangos esiampl dda ar hyn o bryd ac yn gwneud llawer o bethau addawol.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 3:38, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i John Griffiths am y cyfraniad yna? Rwy'n credu ei fod yn iawn i dynnu sylw at rôl, nid yn unig i Gyngor Dinas Casnewydd, ond y rhan sylweddol y gall awdurdodau lleol ei chwarae yn ein cymunedau mewn gwirionedd, nid yn unig o ran cefnogi digwyddiadau Pride, ond hefyd wedyn gan fynd yn ôl at yr hyn a ddywedodd Altaf o ran eu rhwydweithiau eu hunain, sut maen nhw'n cefnogi eu staff eu hunain, a sut maen nhw'n creu mannau a chyfleoedd cynhwysol i bobl mewn cymunedau—gallai fod mewn dinas, neu p'un a yw hynny mewn cymunedau mwy trefol, mwy gwledig hefyd. Felly, yn wir, hoffwn i yn fawr iawn ymuno â chi i longyfarch Cyngor Dinas Casnewydd, a Jane Hutt—Jane Mudd, mae'n ddrwg gen i. Mae Jane Hutt yn dangos arweiniad ar hyn hefyd. [Chwerthin.] Llongyfarchiadau i Jane Mudd, fel arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd. Roeddwn i mewn gwirionedd yn siarad â Jane ar Ddiwrnod Lluoedd Arfog Cymru yn Wrecsam ddydd Sadwrn, oherwydd bod y baton yn cael ei drosglwyddo i Gasnewydd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ac roeddem yn siarad yn llawn cyffro a brwdfrydedd am y potensial sydd gan Balchder yn y Porthladd, oherwydd, fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen yn y lle hwn, a byddaf yn ei ddweud dro ar ôl tro, mae'r mathau hynny o ddigwyddiadau Pride nodedig, fel yr un yn ein prifddinas, yn bwysig. Ni allwn danbrisio gwerth digwyddiadau mewn cymunedau a dinasoedd ledled y wlad. Felly, rwy'n gwybod bod Balchder yn y Porthladd ar 3 Medi. Rwy'n gobeithio bod yno fy hun, ac rwy'n gwybod bod Jayne Bryant wedi bod mewn cysylltiad â mi i roi hynny ar fy agenda, i sicrhau y gallaf geisio ei roi yn y dyddiadur. A byddwn i'n gwahodd yr Aelodau i ymuno â ni ar gynifer o orymdeithiau Pride ag y gallwn dros yr haf, oherwydd, mewn gwirionedd, gallwn ddod at ein gilydd fel hyn fel cymuned unwaith eto ar ôl pandemig y coronafeirws.

Photo of Sarah Murphy Sarah Murphy Labour 3:40, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Weinidog, am y datganiad hwn am y cynllun gweithredu heddiw. Yr wythnos diwethaf, buom yn dathlu, fel y gwnaethoch ei ddweud, beth fyddai wedi bod yn ben-blwydd y Cymro, Terrence Higgins, ac yn cofio iddo farw 40 mlynedd yn ôl o salwch sy'n gysylltiedig ag AIDS. Enwyd Terry fel y person cyntaf yn y DU i farw o AIDS, ond arweiniodd yr argyfwng at ddynion hoyw a deurywiol yn wynebu homoffobia a stigma erchyll. Heb os, cyfrannodd hyn at golli llawer mwy o fywydau.

Ac, er ein bod ni wedi dod yn bell iawn wrth gydnabod yr homoffobia hwn a oedd yn gysylltiedig ag argyfwng HIV ac AIDS y 1980au, roedd yn frawychus gweld y troellau yn y cyfryngau a'r drafodaeth gyhoeddus wrth adrodd am feirws y frech mwnci yn ddiweddar. Cafodd yr eithrio, mynegi pobl queer fel bygythiad, yr ystrydebu, yr awgrymiadau negyddol yn ein cyfryngau prif ffrwd, i gyd eu hatgynhyrchu fel pe na bai'r gwersi o'r 40 mlynedd diwethaf erioed wedi digwydd. A dyna pam mae angen i lywodraethau fod yn weithgar wrth fynd i'r afael â homoffobia o bob math, a dyna pam rwy'n croesawu'r diweddariad hwn ar gynllun gweithredu LHDT Llywodraeth Cymru heddiw. Fel yr ydych wedi ei ddweud, mae'n ymwneud â chyrraedd man o gynhwysiant ac undod, yn hytrach na rhannu ac ymddieithrio. P'un a yw'n rhagfarn systemig yn ein sefydliadau, y rhai mewn swyddi cyhoeddus neu gasineb ar-lein, mae gennym lawer i'w wneud o hyd i ddileu hyn, fel yr ydym wedi ei weld.

Felly, Gweinidog, a wnewch chi gytuno â mi, wrth gymeradwyo'r datganiad, i ddweud wrth bawb a allai fod yn ei chael hi'n anodd, yn wynebu gwahaniaethu neu ragfarn, 'Nid oes dim o'i le arnoch chi; mae llawer o'i le ar y byd yr ydym yn byw ynddo'? Hefyd, mae'n ymwneud â phwysleisio a dod allan a dweud wrth y bobl hynny sy'n gwneud y sylwadau hynny am feirws y frech mwnci ei fod yn anwybodus, yn hurt, yn beryglus, yn sarhaus, ac mae rhoi'r bai am hynny ar y gymuned LHDTC+ yn gwbl annerbyniol.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 3:42, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Sarah, am y sylwadau yna a oedd wedi eu mynegi yn dda iawn o ran amlygu'r risg y bydd hanes yn ailadrodd ei hun o ran anwybodaeth. Wyddoch chi beth? Nid wyf i'n credu mai anwybodaeth yw hi hanner yr amser, yn anffodus; mae'n fwriadol. A'r math hwnnw o eithrio a homoffobia, y math hwnnw o lefel isel, bron iawn, weithiau—. Mae'n homoffobia awgrymedig sy'n gudd mewn rhai o'r pethau hyn. Rwy'n falch iawn 40 mlynedd ar ôl yr argyfwng AIDS fod—. Hefyd, fe wnaethoch chi sôn am Terrence Higgins, ac rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Jeremy Miles wedi noddi digwyddiad yn y lle hwn yr wythnos diwethaf, i lansio cynllun gweithredu HIV newydd Llywodraeth Cymru. Mae hynny'n dangos pa mor bell yr ydym wedi dod, ond mae hefyd yn cydnabod bod gennym ffordd i deithio o hyd o ran mynd i'r afael â stigma a homoffobia. Yn sicr, rwy'n ymuno â chi yn yr hyn y gwnaethoch ei ddweud, a neges i bob person LHDTC+ yng Nghymru a thu hwnt eich bod chi'n anhygoel, rydych chi'n cael eich gwerthfawrogi, rydych chi'n cael eich caru am bwy ydych chi.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:43, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Cyn i ni symud i ddadl Cyfnod 3 ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), byddaf yn gohirio'r trafodion am 10 munud, yn unol â Rheol Sefydlog 12.18. Bydd y gloch yn cael ei chanu bum munud cyn ailymgynnull. Os gwelwch yn dda, a wnaiff bob Aelod sicrhau ei fod yn dychwelyd yn brydlon, fel y gellir gwneud paratoadau pleidleisio?

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:43.

Ailymgynullodd y Senedd am 15:59, gyda'r Llywydd yn y Gadair.