1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 22 Mehefin 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae’n ffaith mai pobl ar yr incwm isaf yng Nghymru sy’n anadlu’r aer mwyaf llygredig. Mae Cyfeillion y Ddaear wedi canfod, yng Nghymru, mai ardaloedd difreintiedig o ran incwm sydd â’r llygredd aer gwaethaf yn anghymesur, a bod pobl o liw 2.5 gwaith yn fwy tebygol o fyw mewn ardal â llygredd gronynnol uchel, a phum gwaith yn fwy tebygol o fyw mewn cymdogaeth sydd wedi'i llygru â nitrogen ocsid. Yn amlwg, mae diffyg camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru yn niweidio ein cymunedau du, asiaidd ac ethnig leiafrifol, a’r tlotaf mewn cymdeithas yn fwy na neb. Yn wir, roedd Joseph Carter, sy’n adnabyddus iawn i ni yma yn y Siambr oherwydd y gwaith y mae wedi’i wneud fel cadeirydd Awyr Iach Cymru, yn llygad ei le pan ddywedodd:
'Mae’r gwaith ymchwil newydd hwn yn syfrdanol, ond nid yw’n syndod.'
Roedd hyd yn oed y Prif Weinidog yn gwybod am ddifrifoldeb llygredd aer pan addawodd yn ei faniffesto ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Llafur yn 2018 i ddatblygu Deddf aer glân newydd. Fodd bynnag, Weinidog, dros dair blynedd a hanner yn ddiweddarach, nid oeddech hyd yn oed yn gallu dweud wrth ein pwyllgor newid hinsawdd yr wythnos diwethaf p'un a yw’r ddeddfwriaeth aer glân wedi’i drafftio i’r graddau y gellid ei chyflwyno, pe bai’r Prif Weinidog yn penderfynu gwneud hynny. Nawr, er y byddwn yn falch o wybod a ydych yn cefnogi penderfyniad y Prif Weinidog i ohirio'r ddeddfwriaeth aer glân ai peidio, byddwn yn ddiolchgar hefyd pe gallech egluro pam fod canlyniad ymgynghoriad y Papur Gwyn ar Fil aer glân (Cymru), a ddaeth i ben ar 7 Ebrill, 2021—
Mae gennych dri chwestiwn, Janet Finch-Saunders, ac rydych ymhell dros eich amser ar eich cwestiwn cyntaf. Felly, gofynnwch gwestiwn os gwelwch yn dda.
—14 mis yn ôl, yn dal heb ei gyhoeddi.
Iawn. Diolch.
Wel, credaf fod hynny'n bum cwestiwn, a dweud y gwir. [Chwerthin.]
Na, dim ond yr un cwestiwn. Dywedwch wrthym pam nad yw’r adroddiad wedi—
Wel, pa un fyddech chi'n hoffi i mi ei ateb, Janet?
Y Bil aer glân—pam nad yw'r papur wedi'i gyhoeddi.
Iawn, mae hynny'n syml iawn. Rwy’n falch o ddweud ein bod wedi cyhoeddi, ar 7 Mehefin, y cynllun ymgysylltu a fydd yn ein helpu gyda’r wybodaeth sydd ei hangen arnom er mwyn cyflwyno’r Ddeddf aer glân.
Nawr, dyna ffordd wych o'i wneud—gofynnwch gwestiwn byr, Janet, fel y gwnaethoch tua'r diwedd, ac fe gewch ateb byr.
Dyna sy'n wych am gwestiynau'r llefarwyr—mae gennym rywfaint o ddylanwad.
Na. Rwy'n credu y byddwn yn symud ymlaen yn gyflym pe bawn yn eich lle chi, Janet.
Mae’r oedi cyson gan Lywodraeth Cymru yn llanast. Ac os nad ydych yn fy nghredu, gwrandewch ar Haf Elgar, is-gadeirydd Awyr Iach Cymru a chyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, sy'n datgan:
'Os yw Cymru am fod yn genedl deg a chyfiawn, yn ogystal â bod yn genedl werdd, rhaid inni wella'r ffordd y gweithredwn yn awr.'
Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru ac Awyr Iach Cymru wedi datgan bod angen mynediad at gyfiawnder amgylcheddol ar Gymru. Mae eu llythyr i Lywodraeth Cymru yn nodi bod 1,600 o bobl yn marw bob blwyddyn yng Nghymru oherwydd llygredd aer, mai dim ond cyfran fach iawn o’n safleoedd natur gorau ar y tir a’r môr sydd mewn cyflwr da, a bod oedi parhaus cyn cyflwyno deddfau i warchod a gwella ein hamgylchedd yn tanseilio hawl pobl i gyfiawnder amgylcheddol. Faint yn fwy o rybudd y mae angen i 20 o sefydliadau a holl aelodau Cyswllt Amgylchedd Cymru ei roi i chi cyn y byddwch yn gwrando ar ein galwadau i fod o ddifrif ynglŷn â chyfiawnder amgylcheddol, rhoi deddfwriaeth gadarn ar waith i ysgogi adferiad byd natur, yn ogystal â’r arfau i ddwyn eich Llywodraeth eich hun i gyfrif?
Felly, unwaith eto, geiriau teg a dim gweithredu o gwbl gennych chi. Felly, rydym wedi gwneud nifer o bethau eisoes ar Fil aer glân (Cymru), y byddwn yn ei gyflwyno yn ystod tymor y Senedd hon. Mae'n un o nifer o gamau gweithredu a nodir yn y cynllun aer glân i Gymru, 'Awyr Iach, Cymru Iach', yr ydym yn eu cymryd i wella ansawdd aer. Mae’r camau a gymerwyd yn cynnwys, wrth gwrs, strategaeth drafnidiaeth Cymru, ‘Llwybr Newydd’, a’r adolygiad ffyrdd, a rhoi'r gorau i adeiladu ffyrdd ledled Cymru, sy’n cynyddu allyriadau a gronynnau. Ac nid ydych yn hoffi'r darnau hynny. Y camau cadarn yr ydym yn eu cymryd, ni allwch eu cefnogi mewn unrhyw ffordd. Felly, geiriau teg, dim gweithredu, unwaith eto, oddi ar feinciau’r Torïaid.
Mae'n deg dweud, pe byddai'r Ceidwadwyr Cymreig mewn Llywodraeth, gyda'r ysgogiadau sydd gennych chi, byddem ni yn eu defnyddio.
Nawr, er bod gan Loegr a Gogledd Iwerddon Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd, a bod gan yr Alban safonau amgylcheddol, yma yng Nghymru, rydym yn dal i ddibynnu ar y drefniadau dros dro y mae Cyswllt Amgylchedd Cymru ac Awyr Iach Cymru wedi’u disgrifio fel rhai heb bwerau cyfreithiol, strategaeth gyhoeddus, a gwefan hawdd ei defnyddio. Fodd bynnag, mae'n peri mwy fyth o bryder fod adroddiad blynyddol asesydd interim diogelu'r amgylchedd Cymru yn tynnu sylw at y canlynol:
'Un broblem allweddol a nodwyd yn ystod yr adolygiad oedd bod y galw am y gwasanaeth wedi bod yn fwy o lawer nag a ddisgwylid yn wreiddiol.'
Felly, Weinidog, yng ngoleuni hyn, rydym wedi bod yn gweithio i roi prosesau mwy cadarn ar waith i sicrhau ein bod yn targedu ein hadnoddau at faterion lle y gallwn ychwanegu’r gwerth mwyaf. Yn wyneb y galw mawr am gymorth gyda chyfraith amgylcheddol, a wnewch chi roi’r broses o sefydlu corff parhaol ar lwybr carlam?
Felly, Janet, eto, unwaith eto, sawl gwaith y mae'n rhaid imi ddweud yr un peth? Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i roi corff diogelu’r amgylchedd ar waith. Mae'r cynllun interim diogelu'r amgylchedd yn gweithio; mewn gwirionedd, mae'n tynnu sylw at faint o bobl sydd am i'w problemau gael sylw, ac mewn amserlen lawer byrrach nag a oedd yn bosibl erioed o'r blaen. Fel y gwyddoch, rydym yn gweithio gyda’r archwiliad dwfn ar fioamrywiaeth i roi safonau ar waith gyda thargedau a fydd yn cadw'r pwysau arnom. Mae cael bathodyn sy'n dweud, 'Nid wyf yn gwybod beth rwyf ei eisiau, ond mae arnaf ei eisiau yn awr' yn un peth, ond mae'n bwysig cael targedau sy'n golygu rhywbeth ac a fydd yn gwthio'r mater yn ei flaen, yn hytrach na set o eiriau gwag, unwaith eto.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Llywydd. Hoffwn dynnu sylw at gyfraniad band eang ffeibr i'n taith i sero net a'n dyfodol cynaliadwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nod i 30 y cant o'r gweithlu weithio o gartref yn rheolaidd, neu'n agos at gartref, erbyn 2030. Yr hyn sy'n amlwg ydy bod angen rhwydwaith band eang sy'n darparu profiad gwaith symlach a dibynadwy o'n cartrefi a chanolfannau cydweithio cymunedol. Mae ymchwil diweddar gan y Sefydliad Materion Cymreig wedi tynnu sylw at sut yn union y byddai uwchraddio'r rhwydwaith ffeibr llawn yn cefnogi ymdrechion datgarboneiddio, naill ai drwy ailddefnyddio pibellau a pholion ffôn presennol, neu oherwydd bod technolegau newydd yn rhyddhau 80 y cant yn llai o garbon hyd yn oed cyn ystyried defnyddio ynni digarbon. Felly, Weinidog, beth ydy rôl band eang ffeibr go iawn yn strategaeth ehangach Llywodraeth Cymru i gyrraedd allyriadau carbon sero net erbyn 2050 neu'n gynharach, plis?
Diolch, Delyth. Rwy'n cytuno'n llwyr; mae strategaeth ddigidol yn gwbl hanfodol er mwyn gwneud hynny. Rydych yn llygad eich lle; rydym wedi ymrwymo i gael o leiaf 30 y cant o bobl yn gweithio gartref neu’n agos i’w cartref—felly, llawer llai o amser cymudo, a ffyrdd o gymudo sy'n llygru llawer llai, gobeithio. Er mwyn gwneud hynny, wrth gwrs, mae’n rhaid inni ddarparu cyfleusterau iddynt allu gwneud hynny, yn ddigidol ac mewn amgylchedd swyddfa. Rydym yn edrych, fel y gwyddoch, ar hybiau cymunedol mewn gwahanol fannau yng Nghymru i alluogi hynny i ddigwydd, ac mewn gwirionedd, mae’r rhan gymdeithasol o hynny’n bwysig iawn hefyd, gan y gall pobl fynd i deimlo'n ynysig yn eu cartrefi.
Amlinellodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, yn y Siambr yn ddiweddar y ffaith ein bod wedi gwneud ychydig o newidiadau i'n strategaeth ddigidol ar gyfer Cymru, ar ôl cael llawer o lwyddiant wrth gyflwyno Band Eang Cymru, oherwydd nid yw hwn yn faes datganoledig mewn gwirionedd. Rydym wedi ymyrryd, oherwydd fel arall, ni fyddai Llywodraeth y DU wedi gwneud hynny, a byddai gennym nifer fawr o adeiladau heb fand eang dibynadwy. Ond yn ddiweddar, rydym wedi cael golwg arall ar hynny, ac rydym wedi cael peth llwyddiant yn sicrhau bod Llywodraeth y DU yn edrych eto ar eu strategaeth. Maent newydd gyflwyno nifer o addewidion, y gobeithiwn y byddant yn dwyn ffrwyth, ac rydym wedi bod yn ailddefnyddio rhywfaint o’n harian. Yn ddiweddar iawn, mewn ateb i gwestiwn gan Rhun, rwy’n credu, cyhoeddodd Lee Waters y gwaith gyda Phrifysgol Bangor, er enghraifft, sy’n enghraifft newydd hynod ddiddorol o arloesi a allai ddarparu cysylltedd llawer gwell i bobl ledled Cymru.
Felly, rydym yn cytuno at ei gilydd. Rydym yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU, ac rydym yn targedu ein harian ein hunain yn llawer mwy penodol at safleoedd—y safleoedd gwyn, fel y’u gelwir—nad oes ganddynt unrhyw gysylltedd o gwbl, yn hytrach nag uwchraddio pobl a chanddynt gysylltedd yn barod i ffeibr llawn gyda'n harian ni, gan y credwn y dylai Llywodraeth y DU gyflawni ei chyfrifoldebau a gwneud hynny.
Diolch, Weinidog. Ar gyfer fy ail gwestiwn a’r cwestiwn olaf gennyf fi, hoffwn droi at ddatgoedwigo a chadwyni cyflenwi. Yn COP26, fe ddywedoch eich bod yn benderfynol o newid polisi caffael Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn hyrwyddo cadwyni cyflenwi sy'n deg, yn foesegol ac yn gynaliadwy. Rwy'n croesawu hynny. Nid yn unig y byddai hynny'n lleihau ôl troed byd-eang Cymru, byddai hefyd yn cefnogi economïau lleol. Mae gennym gyfle i ddod yn arweinydd yn hyn o beth, gan ddilyn, neu'n hytrach, ymuno ag arloeswyr fel Ffrainc a thalaith Califfornia, sydd wedi cyflwyno polisïau caffael i roi terfyn ar ddatgoedwigo a mynd i’r afael â newid hinsawdd. Weinidog, ceir tystiolaeth hefyd fod y cyhoedd yn cefnogi’r camau hyn. Canfu arolwg diweddar gan WWF Cymru o gymunedau gwledig Cymru fod 84 y cant o’r ymatebwyr yn cytuno na ddylai gwasanaethau cyhoeddus sy’n darparu ac yn gwerthu bwyd, fel ysgolion ac ysbytai, brynu bwyd o ffynonellau a all gyfrannu at golledion i fyd natur a newid hinsawdd yng Nghymru a thramor. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym, Weinidog, pa gynnydd a wnaed ar gyflwyno targedau dim datgoedwigo, asesiadau risg a phrosesau diwydrwydd dyladwy yn arferion caffael y sector cyhoeddus, os gwelwch yn dda?
Gwnaf, yn sicr, Delyth. Mae caffael ym mhortffolio Rebecca Evans mewn gwirionedd, ond yn amlwg, rwy’n gweithio’n agos iawn gyda Rebecca. Yn ddiweddar, mae hi wedi cyhoeddi nifer o faterion ymchwil i'r maes caffael, ac un ohonynt yw sicrhau nad yw Cymru’n defnyddio mwy na’n cyfran deg o adnoddau’r byd. Rhan o hynny yw sicrhau, wrth brynu cynhyrchion neu gael cadwyni cyflenwi yma sy’n dibynnu ar gynhyrchion sydd o reidrwydd yn golygu datgoedwigo mewn rhannau eraill o’r byd, ein bod yn ceisio cael cynhyrchion yn lle'r rheini yn y gadwyn gyflenwi a chynorthwyo’r gwledydd i ymbellhau oddi wrth eu harferion, ac ailgoedwigo.
Rydym yn falch iawn o'n gwaith yn Affrica, yn Uganda, yn Mbale, gyda'r coed yr ydym yn eu plannu—un goeden yno, un goeden yma, ar gyfer pob plentyn sy'n cael ei eni yng Nghymru. Mae bob amser yn werth atgoffa pobl o hynny. Rydym yn falch iawn o'r ailgoedwigo y gallasom ei wneud. Rwyf wedi addo gweithio gyda Maint Cymru ar brosiect sy’n caniatáu i’r sector cyhoeddus, a chymaint â phosibl o'r sector preifat yng Nghymru, ddeall sut olwg sydd ar eu cadwyni cyflenwi ac i sicrhau y ceir gwared ar gynhyrchion sydd o reidrwydd yn arwain at ddatgoedwigo ledled y byd o'r cadwyni cyflenwi hynny cyn gynted â phosibl.