2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 22 Mehefin 2022.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn ehangu addysg Gymraeg yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ58227
Diolch, Jack. I gefnogi eu cynlluniau i dyfu addysg Gymraeg, mae’r cyngor wedi cael cymeradwyaeth mewn egwyddor i sefydlu ysgol gynradd newydd, trwy gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Ac rwy'n credu ei bod yn amlwg eich bod yn cytuno y bydd buddsoddi mewn adeiladau ysgolion cyfrwng Cymraeg yn allweddol os ydym am gyflawni o ddifrif a rhoi cyfle i bob rhiant a phlentyn gael addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi cynllun strategol uchelgeisiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn sir y Fflint. Tybed a wnewch chi roi sylwadau pellach, Weinidog, ynglŷn â sut y byddwch yn cefnogi'r cynllun hwn ac uchelgeisiau'r cyngor, a sut y byddech yn buddsoddi mewn ysgolion fel Ysgol Croes Atti yn Shotton, yn fy etholaeth i.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach ac am ei ddefnydd o'r Gymraeg yn ei gwestiwn cyntaf. Mae awdurdod lleol sir y Fflint wedi ymrwymo yn eu cynllun strategol Cymraeg mewn addysg drafft i gynyddu canran y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg o 6.3 y cant ar hyn o bryd i 15 y cant o fewn y 10 mlynedd nesaf. Fe wnes i gyhoeddi'n ddiweddar, ym mis Mawrth, 11 o brosiectau a fydd yn elwa o'r grant cyfalaf addysg Gymraeg—cronfa o ryw £30 miliwn—a bydd sir y Fflint yn un o'r naw awdurdod lleol a fydd yn elwa o'r cyllid hwn. Mae elfen wedi ei dyrannu'n barod i sefydlu ysgol Gymraeg newydd, ac mae ardal Bwcle yn etholaeth yr Aelod yn un o'r opsiynau ar gyfer y lleoliad hwnnw. A bydd sir y Fflint hefyd yn cyflwyno'u hachos busnes er mwyn buddsoddi yn Ysgol Croes Atti, i gefnogi'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal, ac rwy'n edrych ymlaen i weld y cynllun hwnnw.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy am gyflwyno'r cwestiwn hwn hefyd, oherwydd mae gennyf innau hefyd ddiddordeb brwd mewn addysg Gymraeg yn Alun a Glannau Dyfrdwy? Ac fel y dywedodd yr Aelod, mae'n bwysig ein bod yn galluogi addysg Gymraeg ac yn annog mwy o bobl i siarad a dysgu Cymraeg.
Ers dod yn Aelod o'r Senedd, rwyf wedi cael y pleser o ymuno â chynllun dysgu Cymraeg y Senedd, ac rwy'n mwynhau'n fawr iawn.
Ond fel y gwyddom, Weinidog, mae llawer o'r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn deillio'n bennaf o waith ein hawdurdodau lleol gydag ysgolion, gan weithio gyda chonsortia rhanbarthol, megis GwE yn y gogledd. Felly, yng ngoleuni hyn, pa asesiad a wnaethoch o'r cydweithio rhwng awdurdodau lleol yn y gogledd sy'n gweithio gyda GwE, gan weithio gydag ysgolion, fel y gallant weithio fel tîm i gyflawni uchelgeisiau'n ymwneud ag addysg Gymraeg yn fy rhanbarth i? Diolch yn fawr iawn.
A gaf i ddweud mor braf yw e i glywed mwy o Aelodau yn siarad Cymraeg yn y Siambr? Llongyfarchiadau i Sam, ynghyd â Jack, heddiw.
Ie, mae e wir yn bwysig, er mwyn i ni allu gweld y cynnydd rŷn ni eisiau ei weld o fewn darpariaeth Gymraeg, a bod mynediad hafal gan bob plentyn yng Nghymru i addysg Gymraeg yn unrhyw ran o Gymru, fod cynlluniau uchelgeisiol o ran cynlluniau strategol ar waith, ond hefyd fod gwaith da yn digwydd rhwng ysgolion, rhwng awdurdodau lleol a'r consortia. Ac rwy'n sicr bod hynny'n digwydd yng ngogledd Cymru fel mae e ym mhob rhan o Gymru.