1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Mehefin 2022.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig? OQ58286
Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae ein strategaeth genedlaethol bum mlynedd, a gyhoeddwyd fis diwethaf, yn nodi ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig a mathau eraill o drais. Nod ei chwe amcan yw sicrhau cefnogaeth gynhwysfawr i ddioddefwyr, lle bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru.
Diolch i chi am eich ateb, Prif Weinidog. Ddoe, lansiais adroddiad ar wasanaethau cymorth i blant a phobl ifanc sy'n gweld trais a cham-drin gartref. Nid yw trais domestig yn effeithio ar yr oedolion dan sylw yn unig; effeithir ar tua un o bob pump o blant, ac mae'r gyfraith yn eu cydnabod fel dioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain. Ond mae angen dybryd am gymorth wedi'i deilwra ar eu cyfer oherwydd, heb gymorth cynnar, gall arwain at oes o effeithiau andwyol. Felly, comisiynais Cymorth i Fenywod Cymru i archwilio darpariaethau ledled Cymru, a'r hyn y gwnaethom ei ganfod yw loteri cod post. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech yn darllen ein hadroddiad ac yn trafod ein canfyddiadau a'n hargymhellion gyda chyd-Weinidogion yn y Cabinet. Siaradodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y lansiad ac mae wedi bod yn gefnogol iawn. Mae Julie Morgan a Lynne Neagle, Jeremy Miles a Jayne Bryant i gyd wedi ymgysylltu â'r prosiect hefyd. Felly, byddai'n dda cael mewnbwn Llywodraeth Cymru ar bob lefel unigol.
Wel, Llywydd, rwy'n llongyfarch Joyce Watson ar ei defnydd o'r cyfleuster y mae'r Comisiwn yn ei ddarparu er mwyn i Aelodau allu cynnal ymchwil i faterion o arwyddocâd lleol ac, yn ei hachos hi, o arwyddocâd cenedlaethol. Mae gen i gopi o'r adroddiad, felly, wrth gwrs, rwy'n awyddus iawn iddo gael ei ddarllen yn eang. Bydd yn sicr yn cael ei drafod gan gyd-Weinidogion yn y Cabinet. Mae'n cynnwys cyfres o gasgliadau o'r ymchwil ac, yn bwysig iawn, cyfres o gamau ymarferol y mae'n awgrymu y gallai Llywodraeth Cymru ac eraill eu cymryd i sicrhau bod plant sy'n dioddef cam-drin domestig yn cael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.
Yn ystod hynt Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, cynigiais welliannau yn galw am i'r strategaeth genedlaethol gynnwys darparu o leiaf un rhaglen i gyflawnwyr, gan nodi mai Choose2Change oedd yr unig raglen a achredwyd gan Respect yng Nghymru ar y pryd. Wrth holi eich rhagflaenydd Prif Weinidog yn 2016, cyfeiriais at hyn a dywedais fod y Gweinidog ar y pryd, er nad oedd yn derbyn yr angen i gynnwys cyfeiriad at raglenni cyflawnwyr, wedi ymrwymo Llywodraeth Cymru wedyn i gasglu rhagor o dystiolaeth ar ddatblygu rhaglenni cyflawnwyr cyn carcharu. Gofynnais iddo ba gamau yr oedd ei Lywodraeth yn eu cymryd i hwyluso hynny. Ymatebodd:
'mae'r rhain yn faterion sy'n cael eu datblygu trwy gyfrwng grŵp cynghori'r Gweinidog ac, wrth gwrs, drwy'r strategaeth.'
Felly, pa gamau penodol y mae eich Llywodraeth wedi'u cymryd ers hynny, pan fo eich ail strategaeth genedlaethol o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a gyhoeddwyd y mis diwethaf, chwe blynedd yn ddiweddarach, yn cyfeirio at fwriad Llywodraeth Cymru i adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes yn y maes hwn drwy gynyddu ein gwaith o ganolbwyntio ar y cyd ar yr unigolion hyn?
Llywydd, rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud rhai pwyntiau pwysig, ac mae'n iawn iddo ddweud bod y strategaeth newydd yn ceisio adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi'i wneud; ni fyddai'n bosibl adeiladu ar gynnydd pe na bai cynnydd eisoes wedi digwydd yn ystod y pum mlynedd cyntaf. Cyfeiriais yn fy ateb i Joyce Watson at chwe amcan y strategaeth genedlaethol bum mlynedd newydd. Mae'r trydydd o'r amcanion hynny'n ymdrin yn uniongyrchol â'r materion y mae'r Aelod wedi'u codi y prynhawn yma. Felly, wrth gwrs, mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar y rhai sy'n cyflawni trais domestig, wrth gwrs mae'r strategaeth yn bwriadu i'r bobl hynny wynebu'r cyfrifoldebau am eu gweithredoedd eu hunain, ond mae hefyd yn nodi ffyrdd y gellir rhoi rhaglenni ymarferol ar waith i helpu pobl sy'n dymuno diwygio a rhoi eu bywydau ar seiliau gwahanol a gwell.
Prif Weinidog, rwyf i hefyd yn cymeradwyo gwaith Joyce Watson—y gwaith diflino y mae wedi'i wneud yn y maes hwn ers ei hethol yn 2007. Ac rwy'n siŵr y bydd hi'n falch fy mod i hefyd wedi darllen yr adroddiad, felly dyna ddau ohonom, Prif Weinidog, sydd wedi ei ddarllen, ac rwy'n siŵr bod llawer o rai eraill wedi gwneud hynny hefyd. Rydym wedi cymryd rhai camau pwysig iawn o ran gofal dioddefwyr, gyda sefydlu'r comisiynydd dioddefwyr yn 2019 a'r comisiynydd cam-drin domestig yn yr un flwyddyn. Fodd bynnag, gofynnodd mam i blentyn a lofruddiwyd i mi'n ddiweddar pam nad oes gennym gomisiynydd dioddefwyr yng Nghymru, rhywun yn llawer agosach atom. Felly, a ydych yn credu, Prif Weinidog, y dylem fod â chomisiynydd dioddefwyr yng Nghymru sy'n atebol i'r lle hwn yn hytrach na'r Swyddfa Gartref? Diolch yn fawr.
Llywydd, fel Llywodraeth, rydym wedi gweithio'n agos gyda'r comisiynydd dioddefwyr, Vera Baird QC. Rwy'n credu ei bod wedi gwneud gwaith effeithiol iawn. Mae hi wedi dangos diddordeb gwirioneddol yn yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru. Ac rwy'n credu bod y system honno wedi ein gwasanaethu'n dda hyd yma. Wrth gwrs, rydym bob amser yn agored i syniadau am ffyrdd o wella'r system, ond rwy'n credu mai dyma un o'r agweddau hynny lle—. Ac rwy'n talu teyrnged arbennig i ddeiliad presennol y swydd, oherwydd yr egni a'r ymrwymiad a'r diddordeb y mae'n eu dangos mewn meysydd datganoledig yn ogystal â meysydd nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Rwy'n credu ein bod wedi cael gwasanaeth da gan y comisiynydd, ac ar hyn o bryd, rwy'n credu mai ein barn ni yw y dylem barhau i fanteisio i'r eithaf ar y gwasanaeth a gawn.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Gwych eich clywed chi ar y radio y bore yma hefyd. A gaf i hefyd ddweud 'diolch' wrth Joyce Watson am y gwaith y mae hi wedi ei wneud yn y maes yma?
A gaf i droi'r sylw yn ôl at blant ac amddiffyn plant? Maen nhw, fel yr ydych chi wedi ei ddweud, ac fel y mae Joyce wedi ei ddweud hefyd, yn ddioddefwyr eraill cam-drin domestig y mae angen i ni eu rhoi ar flaen ein meddyliau. Hoffwn dalu teyrnged i bawb sy'n gweithio i amddiffyn plant—ein bydwragedd, ein hymwelwyr iechyd, ein hathrawon ysgol, y rhai sy'n gweithio ym maes addysg, a'n gweithwyr cymdeithasol hefyd. Fel y gwyddoch, mae gen i rywfaint o brofiad o weithio ym maes gwaith cymdeithasol, ac roeddwn i'n awyddus iawn i ofyn i chi sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ein gweithwyr cymdeithasol yma yng Nghymru yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i'w cefnogi, a'n bod ni fel Senedd yn gyfrifol am eu monitro a'u cefnogi yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud? Diolch yn fawr iawn.
Llywydd, diolch i Jane Dodds. Wrth gwrs, dwi'n cytuno â phopeth roedd hi'n dweud am y gwaith y mae pobl yn ei wneud yn y rheng flaen, yn enwedig pobl sy'n gweithio ym maes anodd a heriol gofal plant.
Rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth Jane Dodds yn un pwysig, Llywydd. Mae hyn yn gyfrifoldeb i'r holl weision cyhoeddus sy'n dod i gysylltiad â phlant sy'n dangos tystiolaeth bod profiad o drais domestig wedi effeithio arnyn nhw eu hunain. O ran yr amcanion y cyfeiriais atyn nhw yn y strategaeth genedlaethol, mae'r pumed o'r chwe amcan yn canolbwyntio ar anghenion hyfforddi'r gweithlu, er mwyn sicrhau bod pobl y gofynnwn iddyn nhw wneud y swyddi anodd hyn yn cael yr hyfforddiant sydd ei angen arnyn nhw, yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw, ac, yn unol â phedwerydd amcan y cynllun, eu galluogi i symud eu gweithgarwch i fyny'r afon, fel y byddem yn ei ddweud, fel y gallan nhw ganolbwyntio'n fwy ar ymyrraeth gynnar ac atal, yn hytrach na gorfod cyrraedd fel gwasanaeth ambiwlans, gan geisio achub plant rhag y profiadau a fydd eisoes wedi effeithio arnyn nhw.