8. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 28 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:55, 28 Mehefin 2022

Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae hi ychydig dros flwyddyn bellach ers i fi ymgymryd a'm rôl fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldebau, ac fel y gwyddoch, rwy hefyd yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a merched. Rwy wedi clywed ac wedi datgan sawl tro erbyn hyn yr ystadegau moel, pryderus sy'n adrodd y profiadau erchyll, y troseddau ofnadwy a'r agweddau llawn casineb a rhagfarn sy'n golygu bod gormod o bobl yng Nghymru yn dal i ddioddef trais domestig, trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd. Mae dros 50 o fenywod wedi colli eu bywydau ers i'r Ddeddf trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais Rhywiol gael ei chyflwyno gyntaf gan y Llywodraeth, a degau o filoedd wedi dod yn oroeswyr trais a chamdriniaeth. Does dim modd, felly, gorbwysleisio pwysigrwydd y strategaeth hon na phwysigrwydd ei gweithrediad effeithiol o ran diogelwch menywod.

Mae bywydau yn cael eu colli a'u dinistrio. Dim ond yr wythnos yma, fe glywsom am lofruddiaeth Zara Aleena yn nwyrain Llundain yn dilyn ymosodiad ffiaidd. Mae enghreifftiau cyson o ddynion ar bob lefel yn ein cymdeithas yn camddefnyddio ac yn manteisio ar eu braint a'u grym patriarchaidd o fewn cymdeithas i boenydio, tanseilio, rheoli, bygwth, ac mewn rhai achosion ymosod yn gorfforol ar fenywod. Rhaid i ni fynnu ar agwedd o ddim goddefgarwch, yn ein gweithleoedd a'n sefydliadau, ym myd addysg ac ym myd gwleidyddiaeth, er mwyn sicrhau'r newid cymdeithasol gwaelodol sydd dirfawr ei angen. Rwy'n falch bod y strategaeth, felly, yn cydnabod bod trais yn erbyn menywod yn fater i gymdeithas gyfan a bod angen cymryd y cyfrifoldeb oddi ar fenywod i newid eu hymddygiad a'r onws yn cael ei rhoi ar y rheini sy'n arddangos agweddau tocsig, misoginistaidd a pheryglus.

Fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, rwy wedi clywed tystiolaeth a fydd yn aros gyda fi am byth am brofiad goroeswyr o'r cymunedau mudol. Weinidog, mae Llywodraeth Cymru yn datgan nifer o weithiau drwy gydol y strategaeth newydd eu bod am wneud Cymru’r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw, ond sut ydych chi'n gobeithio cyflawni hyn pan fydd llawer o oroeswyr o gymunedau mudol heb fynediad at unrhyw arian cyhoeddus ac felly yn dal i fethu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnyn nhw—beth mae 'diogelwch' yn ei olygu ar eu cyfer nhw? A fyddai'r Llywodraeth yn ystyried sefydlu cronfa argyfwng a fyddai ar gael at ddefnydd y sectorau cefnogi arbenigol yn yr achosion yma, fel sy'n digwydd yn yr Alban?

Yn eu tystiolaeth i'r pwyllgor rŷch chi wedi cyfeirio ato fe, mae BAWSO a Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith, er gwaethaf ymateb i’r ymgynghoriad, nad yw anghenion menywod mudol wedi’u hadlewyrchu’n ddigonol yn y strategaeth derfynol, ac mae Cymorth i Ferched Cymru, fel y clywon ni gan Mark Isherwood, hefyd wedi mynegi eu siom wrth weld diffyg ymrwymiad ac egni yn y strategaeth o ran canfod datrysiad Cymreig ar gyfer goroeswyr mudol sydd heb fynediad at gyllid cyhoeddus. A wnewch chi egluro pam bod adran benodol ar fenywod a phlant mudol, sydd mor fregus a gymaint angen ein cymorth a’n cefnogaeth, ar goll o’r strategaeth?

Tra ei bod yn fwy cynhwysfawr o ran ei hymdriniaeth o blant a phobl ifanc, mae’r strategaeth newydd yn methu â chreu dyletswydd benodol i amddiffyn plant a phobl ifanc mewn achosion o VAWDASV. Mae elusennau plant, fel Barnardos a’r NSPCC, wedi mynegi siom at hyn. Mae profi VAWDASV yn eich cartref fel plentyn neu berson ifanc yn brofiad trawmatig iawn gydag effeithiau hirhoedlog a niweidiol yn aml, ac mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau bod hawliau plant a phobl ifanc cael eu cynnal a’u llesiant yn cael ei flaenoriaethu. A allai’r Gweinidog, felly, gyflwyno dyletswydd o’r fath, i sicrhau bod holl ddioddefwyr VAWDASV yn cael eu hamddiffyn yn briodol?

Yn olaf, Weinidog, ym mis Ionawr, fe ddaeth Plaid Cymru â dadl i’r Siambr yn dilyn cynnydd pryderus a brawychus yn y nifer o achosion o stelcio. Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud o ran atal stelcio, o ran annog menywod i adrodd am stelcio, a sut fydd y strategaeth yma yn amddiffyn y rhai sy’n dioddef stelcio yn well? Diolch.