– Senedd Cymru am 5:35 pm ar 28 Mehefin 2022.
Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 8, a'r eitem hynny yw'r datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar y strategaeth ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol 2022-26. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud y datganiad yma. Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar am gael y cyfle i wneud y datganiad hwn i nodi lansiad ein strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac i geisio cefnogaeth y Senedd, oherwydd mae gwneud Cymru'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw neu'n ferch yn fater i bawb. Ar y pedwerydd ar hugain o'r mis diwethaf cyhoeddais y strategaeth, ar ôl ymgynghori'n eang ar fersiwn ddrafft ac ymgysylltu'n helaeth ar ei chreu. Mae'r strategaeth hon yn gyfle i Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector gymryd camau i fynd i'r afael â thrais gwrywaidd, anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a chasineb at fenywod yn uniongyrchol.
Bydd y strategaeth hon, sef yr ail strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol—VAWDASV—, yn cwmpasu'r cyfnod hyd at ddiwedd y weinyddiaeth hon yn 2026. Rhan greiddiol ohoni yw ymrwymiad i fynd i'r afael ag achos yn ogystal ag effaith, i ymestyn cwmpas ein gweithredoedd i'r cyhoedd yn ogystal â'r amgylchfyd preifat, ac i adeiladu ein partneriaeth o asiantaethau datganoledig ac asiantaethau nad ydyn nhw wedi'u datganoli ochr yn ochr â'r sector preifat a'r trydydd sector drwy greu strwythur llywodraethu glasbrint.
Mae Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac mae gennym ni hawl i fod yn falch o'n record: o'r awdurdodau cyhoeddus sydd wedi gweithio'n ddiflino i greu amgylchedd lle mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael ei herio; o'r gwasanaethau arbenigol a'r partneriaid sy'n cynnig cymorth drwy wasanaethau sy'n ymatebol ac sy'n seiliedig ar werthoedd; a'r goroeswyr sydd wedi cynnig eu lleisiau a'u persbectif i helpu eraill drwy ddylanwadu ar sut y gallwn ni wella.
Ac eto, rydym ni wedi gweld enghreifftiau erchyll o fenywod wedi'u llofruddio gan ddynion ymosodol a threisgar. Mae menywod yn colli hyder yng ngallu'r system farnwrol i'w hamddiffyn rhag trais rhywiol, ac mae gennym ni ferched ifanc sydd wedi dweud wrth Estyn am eu profiad beunyddiol o aflonyddu rhywiol. Mae llawer i'w wneud eto. Rhaid inni ymateb drwy herio'r casineb at fenywod a'r gwrywdod gwenwynig sy'n fwrn ar ein cymdeithas ac yn darparu'r amgylchedd lle gall trais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol barhau.
Mae dewis canolbwyntio ar drais gwrywaidd yn fwriadol. Rwy'n cydnabod y gall dynion ddioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol ond, hyd yn oed pan fo hyn yn wir, dynion yw mwyafrif y rhai sy'n cyflawni'r trais. Ac er bod arnom ni eisiau cefnogi'r holl oroeswyr a mynd i'r afael â phawb sy'n cyflawni trais, gallwn gael yr effaith fwyaf drwy fynd ati fel cymdeithas gyfan i herio'r casineb at fenywod sy'n arwain at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Felly, mae uchelgais wrth wraidd y strategaeth hon. Ein huchelgais yw blaenoriaethu'r camau gweithredu a'r ymyriadau llwyddiannus mae arnom ni eisiau parhau â nhw, a diffinio blaenoriaethau a dulliau newydd o ehangu a chyflymu ein hymateb a mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol fel system gyfan. Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i ehangu cwmpas y strategaeth i gynnwys aflonyddu ar y stryd ac yn y gweithle. Mae hon felly'n strategaeth ar gyfer awdurdodau cyhoeddus, addysg a thai, a gwasanaethau arbenigol yn y trydydd sector, gan greu ymdeimlad cyfunol o ymdrech tuag at gyd-weledigaeth a bydd yn cyfrannu at ein nodau llesiant cyfunol, yn enwedig Cymru fwy cyfartal a Chymru iachach. Mae hefyd yn strategaeth i fusnesau a chymdeithas ehangach newid arferion, ymddygiad a diwylliannau, a fydd wrth wraidd cyflawni ein huchelgeisiau.
Mae ein rhaglen lywodraethu hefyd yn nodi ein hamcan llesiant i ddathlu amrywiaeth a dileu anghydraddoldeb o bob math. Bydd y strategaeth hon a'r gwaith a fydd yn dilyn yn gwneud cyfraniad sylweddol i hyn a'n gweledigaeth gyfunol i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Rhaid inni herio arferion, agweddau a chredoau cymdeithasol gan mai'r rhain sy'n gyfrifol am barhad trais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol, am ei esgusodi a'i ddilysu. Efallai na fyddwn yn dod â thrais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ben yn ystod oes y strategaeth hon, ond drwy osod ein huchelgais mor uchel â hyn, mae'n ddigon posibl y byddwn yn cyflawni ein nod o danseilio'r amgylchedd lle mae cam-drin domestig yn digwydd a dad-normaleiddio aflonyddu rhywiol a thrais a'r arferion sy'n ei alluogi ym mhob rhan o'n cymdeithas.
Bydd gwneud y strategaeth hon yn ddogfen fyw yn tynnu ar arweinyddiaeth ar bob lefel ac ym mhob rhan o'r system; arweinyddiaeth gan wleidyddion ac arweinwyr ar bob lefel mewn gwasanaeth cyhoeddus, y gwasanaethau trais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol arbenigol, byd busnes, goroeswyr a chymdeithas ddinesig ehangach. Dangosir yr arweinyddiaeth hon yn ein dull glasbrint amlasiantaethol, a oruchwylir gan y bwrdd partneriaeth cenedlaethol newydd yr wyf yn ei gyd-gadeirio â'r comisiynydd heddlu a throseddu, Dafydd Llywelyn. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y bwrdd ar 23 Mai a chytunwyd i gomisiynu gweithgorau i ddatblygu gwaith ar aflonyddu ar y stryd, aflonyddu yn y gweithle, comisiynu cynaliadwy, mynd i'r afael â throseddwyr, plant a phobl ifanc, a phobl hŷn. Yn hanfodol, yn cefnogi hyn i gyd bydd panel craffu a chynnwys llais goroeswyr, a fydd yn sicrhau na wneir unrhyw benderfyniadau heb ddealltwriaeth glir o safbwynt y rhai sydd â phrofiad uniongyrchol. Felly, bydd ein gweithredoedd yn cael eu cyd-gynhyrchu, fel y mae ein strategaeth, ac rwy'n cymeradwyo'r dull hwn a'n strategaeth i'r Senedd ac yn galw ar bawb i gefnogi ein huchelgais i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Gweinidog, ar ôl i chi gyhoeddi strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru 2022-26 ar 24 Mai, dywedodd Cymorth i Fenywod Cymru eu bod yn
'cefnogi uchelgais y Llywodraeth ond mae angen tystio i sylwedd yn y camau gweithredu a'r atebolrwydd wrth gyflawni'r strategaeth hon sy'n cyd-fynd â hi, ochr yn ochr â sector a ariennir yn gynaliadwy sydd â'r gallu i'w chyflawni.'
Pa ddiweddariad allwch chi ei roi mewn ymateb i'w datganiad ein bod ni bellach yn aros am eglurder a manylion yn y glasbrint ynghylch sut y bydd gwir gydweithredu ac atebolrwydd ar draws y sectorau a chymdeithas yn gweithio? Mewn geiriau eraill, beth fyddwch chi yn ei wneud yn benodol i sefydlu a monitro hyn drwy'r strwythur llywodraethu glasbrint?
Sut ydych chi'n ymateb i'w datganiad bod yn rhaid i'r strategaeth hon
'fod yn sylfaen ar gyfer gwireddu model ariannu cynaliadwy yn llawn', lle mae'r dystiolaeth y maen nhw wedi'i chael
'yn tystio i'r anfanteision pellgyrhaeddol o gyllid tymor byr, ansicr i staff a goroeswyr fel ei gilydd'?
Sut ydych chi'n ymateb i'w datganiad eu bod yn
'siomedig o weld diffyg ymrwymiad ac egni yn cael ei roi i geisio ateb yng Nghymru i oroeswyr mudol nad oes ganddyn nhw fodd o gael arian cyhoeddus'?
Sut ydych chi'n ymateb i'w taerineb bod
'yr awydd a amlinellir yn y strategaeth i ddeall yn well y materion a'r rhwystrau sy'n wynebu rhai grwpiau bach...yn trosi'n gamau gweithredu ystyrlon, cyllid, a chymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy'n seiliedig ar drawma o fewn y ddarpariaeth'?
Ac, er eu bod yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ganoli lleisiau goroeswyr, sut ydych chi'n ymateb i'w datganiad bod
'sicrhau na chaiff y lleisiau hyn eu hynysu, neu fod arbenigedd yn cael ei danbrisio, yn hanfodol'?
Mae eich strategaeth yn cyfeirio at Ddeddf Cam-drin Domestig y DU 2021 ac at greu swydd y comisiynydd cam-drin domestig, ac yn datgan, er nad oes gan y comisiynydd awdurdodaeth dros faterion datganoledig, y bydd awdurdodau cyhoeddus Cymru yn cydweithio â'r comisiynydd i hyrwyddo'r agenda ar y cyd i sbarduno gwelliant. Sut fyddwch chi'n sicrhau ac yn monitro hyn?
Wrth holi'r Prif Weinidog yn gynharach heddiw, cyfeiriais at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi trechu fy ngwelliannau i'r Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn 2014, gan alw ar i'r strategaeth genedlaethol gynnwys darparu o leiaf un rhaglen i gyflawnwyr troseddau, gan nodi mai Dewis i Newid Cymru oedd yr unig raglen gyfredol a achredwyd gan Respect yng Nghymru bryd hynny. Er nad oedd y Gweinidog ar y pryd yn derbyn yr angen i gynnwys cyfeiriad at raglenni cyflawnwyr troseddau, ymrwymodd Lywodraeth Cymru wedyn i gasglu rhagor o dystiolaeth ar ddatblygu rhaglenni ar gyfer cyflawnwyr troseddau cyn eu carcharu
Ar ôl imi ofyn i'r Prif Weinidog yn gynharach beth mae ei Lywodraeth wedi ei wneud ynglŷn â hyn, saith mlynedd ar ôl i'r Ddeddf ddod i rym, cyfeiriodd at y trydydd o'r chwe amcan yn y strategaeth genedlaethol pum mlynedd newydd. Mae'r strategaeth yn nodi mai'r drydedd flaenoriaeth y bydd yr is-grwpiau a grëwyd gan y bwrdd partneriaeth cenedlaethol dan arweiniad y Gweinidog yn mynd i'r afael â hi i ddechrau yw mynd i'r afael â chyflawni, a'ch bod yn bwriadu adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud yn y maes hwn drwy roi ragor o bwyslais ar y cyd ar yr unigolion hyn. Felly, a wnewch chi fanylu os gwelwch yn dda ynghylch faint o waith sydd eisoes wedi'i wneud yn y maes hwn yn y chwe blynedd ers i'r Prif Weinidog blaenorol ddweud wrthyf fod y rhain yn faterion sy'n cael eu datblygu gan grŵp cynghori'r Gweinidog, ac, wrth gwrs, gan y strategaeth.
Mae eich strategaeth yn datgan y byddwch yn mabwysiadu'r dull hwn o weithredu o fewn y system cyfiawnder troseddol, drwy blismona, carchardai a'r gwasanaeth prawf. Felly, pa gamau cysylltiedig y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd o'r blaen o fewn y system cyfiawnder troseddol, a sut y byddwch yn ymgysylltu, er enghraifft, â rhaglen cyflawnwyr troseddau cam-drin domestig Heddlu Gogledd Cymru, ADAPT? At hynny, sut y bydd eich gweithredoedd yn diwallu'r angen am raglenni ledled Cymru ar gyfer cyflawnwyr troseddau cyn eu carcharu?
Yn ystod hynt y Ddeddf, gweithiodd y tair gwrthblaid gyda'i gilydd i sicrhau consesiynau gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cynnwys rhanddeiliaid o'r sector trais yn erbyn menywod wrth ddatblygu addysg perthnasoedd iach o fewn y cwricwlwm, i'w dilyn gan bob ysgol. Roedd pob un ohonom ni wedi ymweld ag ysgolion gyda phrosiect Sbectrwm Hafan Cymru i addysgu disgyblion a hyfforddi athrawon am berthnasoedd iach. Gan fod addysg perthnasoedd iach bellach yn cael ei chyflwyno mewn ysgolion, sut fyddwch chi'n sicrhau bod y dull rhyngweithiol a ddefnyddir gan y prosiect Sbectrwm yn cael ei flaenoriaethu dros ddull 'athrawon yn dweud' na fydd yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf?
Yn olaf, yn eich datganiad rydych yn cydnabod y gall dynion ddioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol, ond rydych chi'n ychwanegu, hyd yn oed pan fo hyn yn wir, fod y rhan fwyaf sy'n cyflawni troseddau o'r fath yn ddynion. Ac wrth gwrs, mae hynny'n wir. Ond mae ffigyrau y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod traean o ddioddefwyr cam-drin domestig yn ddynion ac, yn hollbwysig, yn fechgyn. A wnaiff Llywodraeth Cymru felly sicrhau y gall y dioddefwyr a'r goroeswyr hyn gael gafael ar gymorth arbenigol wedi'i deilwra mewn man diogel yn eu hardaloedd eu hunain, ac os felly, sut?
Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Rwy'n croesawu ymrwymiad ac ymgysylltiad Cymorth i Fenywod Cymru. Fe wnaethoch chi gyfeirio at eu hymateb pan gyhoeddais y strategaeth ym mis Mai. Maen nhw, wrth gwrs, wedi bod yn rhan o'r ymgynghoriad. Maen nhw wedi helpu i gyd-gynhyrchu'r strategaeth ac, yn wir, maen nhw'n gwasanaethu ar y bwrdd partneriaeth cenedlaethol newydd. Mae'r bartneriaeth genedlaethol newydd yn ffordd newydd o fwrw ymlaen â hyn. Dyma'r hyn yr ydym yn ei alw'n lasbrint. Mae'n dwyn ynghyd sefydliadau datganoledig a chyrff nad ydyn nhw wedi'u datganoli, yn y ffordd yr ydym ni wedi bod yn bwrw ymlaen â'r glasbrint ar gyfer troseddwyr benywaidd a chyfiawnder ieuenctid. Felly, mae'n cryfhau'r bartneriaeth honno rhwng cyrff datganoledig a heb eu datganoli, rhwng cyrff cyhoeddus, llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd, yr heddlu, sy'n cyd-gadeirio, a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn. Mae'n strwythur ar gyfer cyflawni sy'n dwyn ynghyd yr holl sefydliadau hynny. Mae'n sicrhau cydberchnogaeth ac ymrwymiad ar y cyd ar gyfer gwneud penderfyniadau ar y cyd ac ar gyfer atebolrwydd. Yn amlwg, mae Cymorth i Fenywod Cymru, fel aelodau o'r bwrdd hwnnw, wedi gweithio ochr yn ochr â sefydliadau arbenigol eraill, ac yn hollbwysig o ran menywod mudol a goroeswyr, wrth gwrs, mae BAWSO. Felly, rwy'n croesawu'n fawr yr holl bwyntiau sydd wedi'u gwneud. Rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i gyflawni'r rheini, yn enwedig gan fod gennym y bwrdd partneriaeth cenedlaethol i fwrw ymlaen â hynny.
Rwy'n falch iawn fy mod i, ddoe, wedi gallu rhoi tystiolaeth ochr yn ochr â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac, yn wir, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, i ymateb i'w hymchwiliad hollbwysig i anghenion goroeswyr mudol, ac i allu ymateb i lawer o'r cwestiynau a holwyd, yn enwedig ynghylch sut mae arnom ni eisiau cefnogi'r rheini nad oes ganddyn nhw hawl i gael arian cyhoeddus sy'n dioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac sydd angen cymorth. Mae hyn yn rhywbeth lle mae gennym ni grŵp llywio sydd wedi'i sefydlu i edrych ar hyn. Rydym ni hefyd yn edrych ar ein pwerau cyfreithiol mewn cysylltiad â sut y gallwn ni ddarparu cymorth ariannol i helpu pobl nad oes ganddyn nhw hawl i gael arian cyhoeddus. Mae gennym ni grŵp llywio sy'n cael ei arwain gan gynghorwyr cenedlaethol y strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, i edrych ar ffyrdd y gallwn ni gefnogi'r goroeswyr hynny. Bu inni eu cefnogi nhw drwy'r pandemig oherwydd ei bod yn hanfodol i iechyd y cyhoedd ein bod yn eu cefnogi. Rwy'n edrych ymlaen at ganlyniadau'r ymchwiliad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, sy'n hanfodol bwysig.
Byddwn yn dweud fy mod yn gobeithio y byddech, fel y gwneuthum ddoe, yn lleisio fy mhryder bod Llywodraeth y DU, mewn gwirionedd, yn ceisio dweud y gallant gymeradwyo CEDAW, confensiwn Istanbul, sy'n ceisio dileu trais yn erbyn menywod, drwy eithrio menywod mudol. Wel, allwch chi ddim gwneud hynny. Rhaid cynnwys menywod mudol. Gobeithio y byddech hefyd yn ein cefnogi, ac rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor yn gwneud y pwyntiau hynny. Rydych chi'n gwneud pwyntiau pwysig. Mae llawer o gwestiynau yn y fan yna, ac ymdriniaf â chymaint ag y gallaf.
Rwy'n credu bod y materion sy'n ymwneud â llais y goroeswr yn bwysig iawn ac yn allweddol i fy ymateb eisoes. Rhaid i leisiau goroeswyr fod wrth wraidd popeth a wnawn, felly rydym ni mewn gwirionedd yn datblygu panel craffu a chynnwys llais goroeswyr, ac mae'n rhaid i hwnnw fod yn grŵp amrywiol o oroeswyr, sy'n cwmpasu holl sbectrwm trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd hwnnw hefyd yn cael ei gadeirio gan y cynghorydd cenedlaethol, ac mae hefyd yn tynnu o'n grwpiau goroeswr sydd eisoes wedi'u sefydlu ledled Cymru. Mae hynny'n hollbwysig.
Ymatebodd y Prif Weinidog i'r mater a'r cwestiynau a godwyd gennych am yr hyn yr ydym yn ei wneud o ran y rhai sy'n cyflawni'r troseddau. Tynnodd sylw, a hynny'n briodol, at amcanion y strategaeth: cynyddu'r pwyslais ar ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif, ond hefyd cefnogi'r rhai sydd am newid eu hymddygiad ac osgoi troseddu. Dyna'r amcan: cefnogi'r rhai a allai ymddwyn yn sarhaus neu'n dreisgar i newid eu hymddygiad. Felly, rydym ni'n adeiladu ar raglenni sy'n bodoli eisoes, ac mae'n amlwg bod hyn yn rhywbeth pryd y mae'n rhaid inni sicrhau y caiff pawb sy'n cyflawni troseddau eu dwyn i gyfrif, ond gan gydnabod bod hyn yn ymwneud â mynd i'r afael â'r deinameg pŵer a rheoli a grëir gan anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Rwyf wedi rhoi croeso brwd i'r ffaith ein bod wedi cael llawer o'n cydweithwyr gwrywaidd ar draws y Siambr hon yn dweud bod hyn yn ymwneud â dyfodol eu plant, eu meibion, yn ogystal â'u merched wrth gwrs, o ran y risgiau parhaus o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae aflonyddu rhywiol mewn ysgolion yn flaenoriaeth ar draws Llywodraeth Cymru—bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu cefnogi, eu bod yn teimlo y gallant roi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw. Rydych chi wedi sôn am raglen Hafan, sy'n hollbwysig. Mae wedi gwneud cymaint o waith da. Rwy'n croesawu gwaith Estyn o ran eu hymateb. Gofynnwyd iddyn nhw, wrth gwrs, gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, i adolygu'r diwylliant a'r prosesau mewn ysgolion uwchradd ar ôl gwefan Gwahodd Pawb, ac maen nhw'n mynd i ymweld ag ysgolion drwy gydol yr hydref. Byddwn yn aros am y casgliadau a amlinellir yn eu hadolygiad. Ac, wrth gwrs, yn hollbwysig—ac mae hwn yn gam gwirioneddol ymlaen—bydd addysg perthnasoedd a rhywioldeb yn rhan statudol o'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Mae'n bwysig inni gydnabod y ffaith, o ran dynion, fod dioddefwyr gwrywaidd, ond wyddoch chi, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y caiff troseddau eu cyflawni yn bennaf ond nid yn gyfan gwbl gan ddynion yn erbyn menywod, a bod yn rhaid inni gydnabod hynny wedyn. Rwyf wedi siarad am yr hyn yr ydym yn ei wneud o ran y rhai sy'n cyflawni'r troseddau a'u dwyn i gyfrif, ond hefyd yn mynd i'r afael â'r ffyrdd y gallwn ni gefnogi drwy raglenni, eu hymwybyddiaeth ac iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb i newid. O ran cefnogi neu gydnabod dioddefwyr gwrywaidd, y llynedd darparwyd cyllid o £16,000 gennym i hyfforddi gweithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â dioddefwyr gwrywaidd yn eu gwaith beunyddiol—felly, tai, addysg a gofal cymdeithasol yw hynny—fel y gallant adnabod a deall yr arwyddion a ddangosir gan ddynion sy'n dioddef cam-drin domestig. Rydym yn parhau i gefnogi prosiect Dyn Cymru Ddiogelach. Mae'r prosiect Dyn yn gweithio i wella diogelwch a chynyddu llesiant drwy ddull cydweithredol. Rydym yn darparu £75,000 i'r prosiect hwnnw. Ond, wyddoch chi, mae'n mynd yn ôl at sut, bob tri diwrnod, ceir un farwolaeth oherwydd trais domestig dan law dynion, a phob dydd gwelwn y pandemig erchyll hwnnw, fel y'i disgrifiwyd, yn parhau.
Gobeithio y byddwch yn cefnogi cam nesaf ein strategaeth wrth inni fynd i'r afael â'r achosion, yr angen cymdeithasol i ymateb i hyn, a hefyd i gefnogi'r dull glasbrint hwn, lle y gwnawn y newidiadau y mae angen i ni eu gwneud i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel i fyw yn Ewrop.
Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae hi ychydig dros flwyddyn bellach ers i fi ymgymryd a'm rôl fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldebau, ac fel y gwyddoch, rwy hefyd yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a merched. Rwy wedi clywed ac wedi datgan sawl tro erbyn hyn yr ystadegau moel, pryderus sy'n adrodd y profiadau erchyll, y troseddau ofnadwy a'r agweddau llawn casineb a rhagfarn sy'n golygu bod gormod o bobl yng Nghymru yn dal i ddioddef trais domestig, trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd. Mae dros 50 o fenywod wedi colli eu bywydau ers i'r Ddeddf trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais Rhywiol gael ei chyflwyno gyntaf gan y Llywodraeth, a degau o filoedd wedi dod yn oroeswyr trais a chamdriniaeth. Does dim modd, felly, gorbwysleisio pwysigrwydd y strategaeth hon na phwysigrwydd ei gweithrediad effeithiol o ran diogelwch menywod.
Mae bywydau yn cael eu colli a'u dinistrio. Dim ond yr wythnos yma, fe glywsom am lofruddiaeth Zara Aleena yn nwyrain Llundain yn dilyn ymosodiad ffiaidd. Mae enghreifftiau cyson o ddynion ar bob lefel yn ein cymdeithas yn camddefnyddio ac yn manteisio ar eu braint a'u grym patriarchaidd o fewn cymdeithas i boenydio, tanseilio, rheoli, bygwth, ac mewn rhai achosion ymosod yn gorfforol ar fenywod. Rhaid i ni fynnu ar agwedd o ddim goddefgarwch, yn ein gweithleoedd a'n sefydliadau, ym myd addysg ac ym myd gwleidyddiaeth, er mwyn sicrhau'r newid cymdeithasol gwaelodol sydd dirfawr ei angen. Rwy'n falch bod y strategaeth, felly, yn cydnabod bod trais yn erbyn menywod yn fater i gymdeithas gyfan a bod angen cymryd y cyfrifoldeb oddi ar fenywod i newid eu hymddygiad a'r onws yn cael ei rhoi ar y rheini sy'n arddangos agweddau tocsig, misoginistaidd a pheryglus.
Fel aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, rwy wedi clywed tystiolaeth a fydd yn aros gyda fi am byth am brofiad goroeswyr o'r cymunedau mudol. Weinidog, mae Llywodraeth Cymru yn datgan nifer o weithiau drwy gydol y strategaeth newydd eu bod am wneud Cymru’r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw, ond sut ydych chi'n gobeithio cyflawni hyn pan fydd llawer o oroeswyr o gymunedau mudol heb fynediad at unrhyw arian cyhoeddus ac felly yn dal i fethu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnyn nhw—beth mae 'diogelwch' yn ei olygu ar eu cyfer nhw? A fyddai'r Llywodraeth yn ystyried sefydlu cronfa argyfwng a fyddai ar gael at ddefnydd y sectorau cefnogi arbenigol yn yr achosion yma, fel sy'n digwydd yn yr Alban?
Yn eu tystiolaeth i'r pwyllgor rŷch chi wedi cyfeirio ato fe, mae BAWSO a Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith, er gwaethaf ymateb i’r ymgynghoriad, nad yw anghenion menywod mudol wedi’u hadlewyrchu’n ddigonol yn y strategaeth derfynol, ac mae Cymorth i Ferched Cymru, fel y clywon ni gan Mark Isherwood, hefyd wedi mynegi eu siom wrth weld diffyg ymrwymiad ac egni yn y strategaeth o ran canfod datrysiad Cymreig ar gyfer goroeswyr mudol sydd heb fynediad at gyllid cyhoeddus. A wnewch chi egluro pam bod adran benodol ar fenywod a phlant mudol, sydd mor fregus a gymaint angen ein cymorth a’n cefnogaeth, ar goll o’r strategaeth?
Tra ei bod yn fwy cynhwysfawr o ran ei hymdriniaeth o blant a phobl ifanc, mae’r strategaeth newydd yn methu â chreu dyletswydd benodol i amddiffyn plant a phobl ifanc mewn achosion o VAWDASV. Mae elusennau plant, fel Barnardos a’r NSPCC, wedi mynegi siom at hyn. Mae profi VAWDASV yn eich cartref fel plentyn neu berson ifanc yn brofiad trawmatig iawn gydag effeithiau hirhoedlog a niweidiol yn aml, ac mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau bod hawliau plant a phobl ifanc cael eu cynnal a’u llesiant yn cael ei flaenoriaethu. A allai’r Gweinidog, felly, gyflwyno dyletswydd o’r fath, i sicrhau bod holl ddioddefwyr VAWDASV yn cael eu hamddiffyn yn briodol?
Yn olaf, Weinidog, ym mis Ionawr, fe ddaeth Plaid Cymru â dadl i’r Siambr yn dilyn cynnydd pryderus a brawychus yn y nifer o achosion o stelcio. Pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud o ran atal stelcio, o ran annog menywod i adrodd am stelcio, a sut fydd y strategaeth yma yn amddiffyn y rhai sy’n dioddef stelcio yn well? Diolch.
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Rwy'n credu fy mod wedi mynegi eich holl werthoedd, egwyddorion ac amcanion yn fy natganiad, a pham mae'r datganiad hwn yn gydnabyddiaeth llawer llymach a chryfach o'r gwrywdod gwenwynig a'r casineb at fenywod sy'n sail i gam-drin pŵer ymysg dynion. Am flynyddoedd lawer, ac roeddwn yn rhan ohono ddegawdau'n ôl, sefydlwyd lloches Cymorth i Fenywod gennym i ymateb i hynny, ac mae gennym ni wasanaethau arbenigol gwych, megis Cymorth i Fenywod Cymru, BAWSO a llawer o rai eraill, sy'n ymateb i hynny, ddydd a nos, bod dydd o'r wythnos, ond allwn ni ddim parhau i ddarparu'r gwasanaethau a phrofi'r ffordd yr ydym yn gwneud hynny, y mae'n rhaid i ni eu cael o ran comisiynau a chefnogi ac ati, a chyllid, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r achos. Mae hyn yn newid sylweddol go iawn. Ac mae'n rhaid iddo gynnwys asiantaethau cyfiawnder troseddol. Dyna pam mae cyd-gadeirio gyda'r comisiynydd heddlu a throseddu yn hanfodol. Ond dyna hefyd pam yr ydym ni wedi cael y gwasanaethau arbenigol hynny fel BAWSO a Chymorth i Fenywod Cymru yn eistedd ar y bwrdd partneriaeth cenedlaethol, ochr yn ochr â'r GIG, ochr yn ochr â'r awdurdodau lleol, sydd hefyd yn gorfod gwneud eu rhan, gyda'r heddlu, Iechyd Cyhoeddus Cymru a llywodraeth leol. Bydd yn ddull arwain.
Rwy'n aros am yr ymchwiliad pwysig sy'n cael ei gynnal gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac roeddem wedi gobeithio y gallem roi rhywfaint o sicrwydd ichi ddoe ein bod yn edrych ar bob ffordd y gallwn fynd i'r afael â materion menywod mudol. Roeddwn yn falch iawn o ymateb i adroddiad SEREDA a wnaed, a oedd mewn gwirionedd yn olrhain profiadau menywod mudol sydd wedi gadael gwrthdaro a sefyllfaoedd erchyll y maen nhw wedi ffoi rhagddyn nhw. Mewn gwirionedd, mae eu teithiau i ddianc hyd yn oed yn aml—. Mae eu profiad o drais yn eu herbyn yn bygwth pob un ohonyn nhw wrth deithio i ddod atom ni, i genedl noddfa. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod rhywfaint o'r gwaith, y cyfweliadau a gynhaliwyd, wedi gweld, mewn gwirionedd, hyd yn oed pan fyddant yn cyrraedd yma, y gallent deimlo mewn perygl. Rhaid inni hefyd ystyried y cynllun gweithredu gwrth-hiliol yma, oherwydd gwyddom fod yn rhaid inni edrych ar hyn o ran anghenion a materion croestoriadol pobl wrth iddyn nhw ddod, wrth iddyn nhw ddianc rhag gwrthdaro, ac yna rhaid inni sicrhau bod ganddyn nhw le diogel yma yng Nghymru.
Felly, ydym, rydym yn edrych ar y posibilrwydd o ddatblygu cronfa. Rhaid inni edrych arno o ran ein pwerau, unwaith eto. Rydym ni wedi cymryd cyngor cyfreithiol ar hyn, a byddwn yn cael cyngor o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru, ac mewn egwyddor gallaf ddweud ei bod yn ddilys i Weinidogion Cymru ddefnyddio cymorth ariannol i helpu pobl nad oes ganddyn nhw hawl i gael arian cyhoeddus. Felly, rydym ni bellach yn gweithio gyda gwasanaethau cyfreithiol, felly dyma'r gwaith sy'n berthnasol iawn i'r ymchwiliad sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd. Cawn yr union gyngor i ni fel Gweinidogion o ran yr hyn y gallwn ei wneud. Mae'n amlwg bod yn rhaid inni edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd o ran yr holl gymorth arall yr ydym yn ei roi o ran cyllideb trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a chynyddu'r cyllid, yr ydym wedi'i wneud eleni ar gyfer ein gwasanaethau arbenigol, ond mewn gwirionedd edrych ar hyn o'r rheng flaen yn y ffordd yr oeddem yn cefnogi, yn ystod y pandemig, menywod, menywod mudol yn arbennig, oherwydd y pandemig, gan ddefnyddio ein pwerau iechyd cyhoeddus. Ac mae hynny'n dal i fynd rhagddo, ond y pwysau hefyd o ran y math hwnnw o gymorth y mae'n rhaid i ni ei asesu.
Dywedaf fod y strategaeth ei hun yn ddogfen fyw ac rydym yn aros am ganlyniad yr ymchwiliad. Ond rydym yn edrych ar bob maes gwaith. Mae gennym ni ffrwd waith ar blant a phobl ifanc, a chawsom lawer o drafodaethau a ddylai fod yn pontio'r cenedlaethau, plant a phobl ifanc a phobl hŷn, a chytunwyd—a chredaf fod Mike Hedges yn falch iawn pan euthum i gyfarfod â'r grŵp trawsbleidiol ar bobl hŷn—ac fe ddwedom ni fod angen ffrwd waith ar bobl hŷn, ac mae angen ffrwd waith ar blant a phobl ifanc hefyd. A gallaf ragweld yn llwyr y bydd arnom angen ffrwd waith ar gyfer menywod mudol. Felly, gobeithiaf y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd ichi y bydd hyn—ac, unwaith eto, aros am ganlyniad yr ymchwiliad—yn helpu i'n hysbysu ni wrth inni symud ymlaen gyda'r strategaeth hon.
Diolch am eich datganiad heddiw, Gweinidog, ac fe hoffwn i ddiolch ichi eto am ddod i lansiad 'Dyletswydd i Gefnogi'. Roedd yn adroddiad a gomisiynwyd gennyf i gyda Chymorth i Fenywod Cymru ar ddarparu gwasanaethau cymorth i blant a phobl ifanc sy'n profi cam-drin gartref. Dywedais yn gynharach a dywedaf eto fod un o bob pump o blant yn dyst i gamdriniaeth gartref, ac mae angen dybryd am gymorth wedi'i deilwra ar eu cyfer, ac rwy'n gwybod eich bod yn cydnabod hynny.
Canfu'r ymchwil bocedi o arfer da iawn yng Nghymru, a chanfuwyd awydd cryf gan ddarparwyr gwasanaethau a Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cymorth hwnnw, ond roedd bylchau hefyd wedi'u canfod ac roedd cyfleoedd i gryfhau'r ddarpariaeth wedi'u colli. Felly, a gaf i ofyn sut y mae'r strategaeth newydd yn ymateb yn benodol i anghenion pobl ifanc, a sut y gallai wella mynediad at gymorth arbenigol ar gam-drin domestig i blant ledled Cymru, gan ddarparu'r cymorth hwnnw pan fydd ei angen arnyn nhw a ble y mae ei angen arnyn nhw?
Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson. A gaf i ddweud pa mor falch oeddwn i o allu siarad yn lansiad 'Dyletswydd i Gefnogi' ddydd Llun? Rhoddais fy ymrwymiad y byddwn yn dychwelyd â'r argymhellion—rwy'n credu i'r Prif Weinidog wneud hynny hefyd—i fyfyrio arnyn nhw. Yr hyn sy'n ddiddorol, wrth gwrs, yw bod eich adroddiad wedi tynnu sylw at y dystiolaeth nad mater i Lywodraeth Cymru yn unig yw hwn; mae'n rhywbeth ar gyfer pob awdurdod lleol. Rydych yn tynnu sylw at y ffaith bod gan rai awdurdodau lleol bwyllgorau craffu plant a phobl ifanc ac nad oes gan rai eraill y rheini, a pha mor bwysig yw pwyllgorau craffu plant a phobl ifanc.
Ac mae gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ddiddordeb yn hyn ac, yn wir, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, oherwydd rwy'n gwybod, o ran ein hawdurdodau lleol, fod hyn i raddau helaeth o ran pob agwedd ar y strategaeth, 'Busnes Pawb'. Mae a wnelo hyn â Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd, o addysg i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Ac fe wnaethom ni eistedd gyda'n gilydd ddoe—a dyna syniad da i wahodd tri Gweinidog i roi tystiolaeth ddoe. Felly, gallaf eich sicrhau y byddwn yn ystyried yr holl argymhellion—yr arferion da ac, roeddwn yn credu, y cafwyd rhai sylwadau calonogol ynghylch sut y mae comisiynu cynaliadwy yn symud ymlaen ar sail ranbarthol, a all hefyd helpu i sicrhau bod gennym ni fwy o gysondeb ledled Cymru. Mae gennym ni ganllawiau statudol ar gomisiynu o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth, ond mae gennym ni hefyd y ffrwd waith honno ar blant a phobl ifanc ar gyfer y grŵp strategaeth, a byddant yn edrych ar eich adroddiad.
Diolch.
Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr am fy ngalw i. Clywsom lawer o enghreifftiau o arfer da rhagorol ymhlith cyrff cyhoeddus—amrywiaeth ohonyn nhw—o ran cymryd o ddifrif y ffyrdd yr oedd angen iddyn nhw atgyfeirio pobl a oedd yn oroeswyr trais fel mudwyr heb unrhyw hawl i gael arian cyhoeddus. Byddwn yn trafod hynny ddiwrnod arall.
Ond roedd hefyd yn ddefnyddiol clywed tystion o sefydliadau arbenigol yn y trydydd sector yn mynnu gweithredu i fynd i'r afael â'r casineb at fenywod a'r gwrywdod gwenwynig hwn gan y rhai sy'n cyflawni'r troseddau hyn. Mae hynny'n rhywbeth na wnaethom ni ymdrin ag ef yn yr ymchwiliad hwn. Felly, mae'n dda iawn gweld bod lle amlwg i atal yn eich datganiad ac yn eich strategaeth ddiwygiedig. Tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy am hynny, oherwydd, yn amlwg, mae angen inni fynd i'r mannau lle mae dynion a menywod—ac yn enwedig dynion—felly, mae hyn yn rhywbeth, er enghraifft, gall ein heglwysi, ein mosgiau, ein temlau a'n synagogau helpu ag ef, ynghyd â'n holl glybiau chwaraeon, y mae llawer iawn ohonyn nhw yng Nghymru, a sefydliadau eraill lle mae gan gyflogwyr, yn amlwg, yn y gwaith, ran bwysig iawn. Felly, dim ond meddwl oeddwn i tybed a allech chi ymhelaethu ychydig ynghylch sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu bwrw ymlaen â'r agenda atal, sydd gymaint yn fwy cost-effeithiol nag ymdrin â'r broblem wedyn.
Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Rwy'n credu bod hyn yn symud ymlaen yn rhannol, yn ogystal â'r hyn yr wyf eisoes wedi'i ddweud, i'n hymgyrchoedd a'n cyfathrebu. Felly, mae hyn yn ymwneud â sut yr ydym yn herio agweddau cymdeithasol i atal trais yn erbyn menywod, dynion a phlant rhag digwydd yn y lle cyntaf. Felly, yr ymgyrch Byw Heb Ofn—mae hynny'n parhau i godi ymwybyddiaeth o stelcian, aflonyddu, cam-drin a thrais yn erbyn menywod ym mhob agwedd ar fywyd. Mae'n rhaid i hyn dreiddio i bob agwedd ar fywyd. Hefyd, wnes i ddim ymateb i'r cwestiwn am stelcian mewn gwirionedd. Mae'r ffaith bod menywod yn symud i'r amgylchfyd cyhoeddus—. Byddaf bob amser yn cofio y llynedd neu pan oeddem yn trafod llacio'r cyfyngiadau symud, ac fe wawriodd arnom nad oedd menywod yn ddiogel; nid oedden nhw'n teimlo'n ddiogel yn rhedeg ar eu pennau eu hunain, ac mae mor bwysig iddyn nhw wneud yr ymarfer hwnnw. Dylai menywod fod yn ddiogel wrth redeg y tu allan mewn mannau cyhoeddus, i gerdded drwy fan cyhoeddus, dylen nhw fod yn ddiogel yn y nos. Ac mae stelcian yn drosedd wrthun. Cefais gyfarfod â chomisiynwyr yr heddlu a throseddu ynglŷn â stelcian a sut ydym ni'n codi mwy o ymwybyddiaeth o hyn. Ac, mewn gwirionedd, mae'r ymgyrch Byw Heb Ofn yn ymestyn i edrych ar yr holl amgylchfyd cyhoeddus o ran mynd i'r afael â'r materion hyn. Felly, mae'n mynd i effeithio ar bob agwedd ar fywyd, oherwydd rydym yn ymestyn o'r cartref i'r amgylchfyd cyhoeddus. Ac, wrth gwrs, bydd hynny'n cynnwys nid yn unig y man cyhoeddus, y stryd, trafnidiaeth, ond hefyd y gweithle, gan weithio'n agos iawn gyda'n hundebau llafur, y bu ganddyn nhw ran flaenllaw o ran mynd i'r afael â hyn yn y gweithle.
Yn olaf, Buffy Williams.
Diolch, Llywydd, a diolch, Gweinidog, am y datganiad heddiw. Mae pob math o drais yn erbyn menywod yn annerbyniol, ac mae'n gwbl hanfodol bod gennym ni ein chwe nod allweddol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Roeddwn yn arswydo o weld nifer yr achosion o gam-drin domestig a thrais rhywiol yn y Rhondda o'i gymharu â gweddill y wlad. Mae hon yn broblem wirioneddol yn fy etholaeth i ac yn un y mae angen mynd i'r afael â hi ar frys. Mae gennym ni fentrau fel Drive yn rhedeg o rai o'n grwpiau ac elusennau trydydd sector, ond mae angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth, i wella'r gefnogaeth ac i atal trais yn erbyn menywod. Byddwn yn cynnal trafodaeth ford gron yn y Rhondda gyda'r nodau hyn mewn golwg. A wnaiff y Gweinidog gymryd rhan yn ystod y drafodaeth ford gron ac archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru ein cefnogi i gyflawni ein nodau?
Wel, diolch yn fawr iawn i Buffy Williams, a byddai'n wych pe bai pob Aelod o'r Senedd yn gofyn yr un math o beth i mi, oherwydd rwy'n credu bod arnom ni angen y sgyrsiau bord gron fesul sir, cymuned-wrth-gymuned hynny i fynd i'r afael â'r materion hyn. A diolch i chi hefyd am dynnu sylw at Drive, sydd wedi bod yn effeithiol—yn wirioneddol effeithiol. Hefyd, nid ydym wedi trafod rhannau allweddol yr ydym ni eisoes wedi bod yn eu cyflawni o ran y cynllun hyfforddi cenedlaethol, gan estyn allan at ein gweithwyr proffesiynol—mae bron i hanner miliwn o bobl wedi cymryd rhan yn ein rhaglen e-ddysgu mewn gwirionedd. Ond byddaf yn sicr yn edrych ymlaen at ymuno â'ch bord gron. Mae hyn yn hanfodol. Rydym yn sôn am atal. Mae'r heddlu wedi sefydlu uned atal uwch, ac mae mynd i'r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol bellach yn un o'u prif amcanion. Ac a gaf i ddweud o'r diwedd, gadewch inni gofio, yn ein rhaglen lywodraethu, fod ymrwymiad i ehangu'r ymgyrch hyfforddi ac ymwybyddiaeth 'Paid Cadw'n Dawel'? Dyna'r alwad heddiw, onid e? Paid Cadw'n Dawel. Rhaid inni sefyll gyda'n gilydd ar hyn.
Diolch i'r Gweinidog