– Senedd Cymru am 2:32 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Yr unig newid i fusnes yr wythnos hon yw lleihau'r amser sydd wedi'i neilltuo ar gyfer dadl Cyfnod 3 heddiw. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Llywydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar gyflawni ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych. Yn ôl yn 2013, gwnaeth y Gweinidog iechyd ar y pryd, sydd, wrth gwrs, yn Brif Weinidog erbyn hyn, gyhoeddiad y byddai ysbyty newydd yn cael ei adeiladu yn y Rhyl i gymryd lle'r ddau ysbyty a gafodd eu cau'n flaenorol sef Ysbyty Brenhinol Alexandra ac Ysbyty Cymunedol Prestatyn. Dywedodd ei fod yn disgwyl i'r adeilad fod yn barod ac ar agor yn 2016. Mae hi nawr yn 2022, naw mlynedd ar ôl y cyhoeddiad yn 2013, ac rydym ni dal heb weld rhaw yn y ddaear. Nawr, o gofio bod yr ysbyty ychydig i lawr y ffordd o'r lleoliad hwn ym Modelwyddan o dan bwysau aruthrol—gwyddom ni ei fod mewn ymyriadau wedi'u targedu, a gwyddom ni fod angen i'r adran achosion brys yn arbennig wella—dylai blaenoriaeth lwyr gael ei rhoi i ddatblygu'r cyfleuster hwn nawr, oherwydd bydd yr uned mân anafiadau a'r gwelyau ychwanegol yn cymryd llawer iawn o bwysau oddi ar yr ysbyty i lawr y ffordd. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad brys, cyn diwedd y tymor, gan y Gweinidog iechyd ar y prosiect pwysig hwn, a phryd y gallwn ni ddisgwyl ei weld yn cael ei gyflawni?
A gaf i ofyn hefyd am ail ddatganiad gan y Gweinidog iechyd? Mae hyn yn ymwneud â rheoleiddio cynhyrchion esthetig, megis defnyddio llenwadau croenol a botox. Mae'r diwydiant estheteg yn rhyw fath o orllewin gwyllt, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, yng Nghymru ar hyn o bryd—mewn gwirionedd, ledled rhannau helaeth o'r byd. Ond gwyddom ni hefyd y gall y llenwadau hyn, oherwydd nad ydyn nhw'n cael eu rheoleiddio, achosi niwed sylweddol, ac mae nifer y bobl sy'n dioddef niwed yn cynyddu. Rwy'n credu bod angen cyfundrefn drwyddedu arnom ni. Rwy'n credu bod angen i ni sicrhau bod y pethau hyn yn cael eu defnyddio'n ddiogel, mewn practisau wedi'u rheoleiddio, gyda safonau hylendid priodol a phethau eraill ar waith hefyd. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud er mwyn gwella diogelwch yn y diwydiant hwn sydd heb ei reoleiddio? Diolch.
Diolch. Wel, yn sicr nid oes lle yn amser y Llywodraeth cyn diwedd y tymor i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wneud datganiad ar y pynciau yr ydych chi wedi'u codi. Byddwch chi'n ymwybodol bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystyried y ffordd y mae'n darparu ei wasanaethau yn gyffredinol. Byddwch chi hefyd yn ymwybodol iawn—yn fwy na neb yn y Siambr mae'n debyg—o'r cyllid sylweddol sydd wedi'i roi i Ysbyty Glan Clwyd i helpu gyda'r pwysau yno hefyd.
Nid wyf i'n anghytuno â'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud am y diwydiant estheteg, yn niffyg gair gwell. Yn sicr, mae angen rheoleiddio a thrwyddedu, ac mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi clywed eich cais.
Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, ynghylch cynllun pensiwn y gweithwyr glo, yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi pwysau ar San Steffan i drin y glowyr hyn a'u gweddwon yn deg o'r diwedd ac ad-dalu'r arian sydd arnyn nhw. Ers 1994, mae Llywodraethau San Steffan wedi pocedi biliynau o bunnau o elw wedi'i wneud gan gynllun pensiwn y gweithwyr glo, oherwydd y ffordd y cafodd ei breifateiddio. Argymhellodd ymchwiliad gan y Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn 2021 y dylai'r trefniadau hyn gael eu hadolygu, ond mae addewidion y mae Boris Johnson ac eraill wedi'u gwneud wedi cael eu torri. Nawr, mae'r adroddiad hwnnw'n casglu llwch, yn union fel y mae'r llwch arall hwnnw o'r blynyddoedd hynny o lafurio o dan y ddaear yn cymryd bywydau mwy a mwy o lowyr bob blwyddyn. Yn yr oriel heddiw, mae aelodau o'r National Mineworkers Pension Campaign yn ymuno â ni; maen nhw nawr yn codi arian i geisio adolygiad barnwrol. Felly, a fyddai modd gwneud datganiad os gwelwch yn dda i fynegi undod â'u hachos ac i ddweud wrth y glowyr hyn y bydd Cymru'n ymladd drostyn nhw? Diolch.
Diolch. A byddwn i'n sicr yn hapus iawn i fynegi undod â chydweithwyr sydd yn y Siambr heddiw. A byddwch chi'n ymwybodol iawn o'r pwysau y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi ar Lywodraeth y DU, a bydd hynny'n parhau.
Gweinidog, mae trigolion y Rhondda yn cysylltu â mi bron yn wythnosol oherwydd bod eu ceisiadau am fannau parcio i bobl anabl wedi'u gwrthod, nid oherwydd nad ydyn nhw'n gymwys, ond oherwydd, yn Rhondda Cynon Taf, nid oes ond cyllid ar gael ar gyfer 12 man newydd y flwyddyn. Ers 2011, mae perchnogaeth ceir fesul cartref yn Rhondda Cynon Taf wedi cynyddu bron 14 y cant, yn ôl Sefydliad yr RAC. Nid yw nifer y mannau parcio i bobl anabl sy'n cael eu rhoi bob blwyddyn yn adlewyrchu'r cynnydd hwn. Mae gormod o breswylwyr anabl wedi'u hynysu gartref gan nad yw'n werth y drafferth na'r risg o fethu â pharcio y tu allan i'w cartref eu hunain. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch sut y caiff mannau parcio i bobl anabl eu hariannu yn y dyfodol? Diolch.
Diolch. Wel, mae mannau parcio i bobl anabl yn cael eu creu gan yr awdurdod priffyrdd, sef yr awdurdod lleol, yn amlwg, drwy orchymyn rheoleiddio traffig. Ac mae angen i awdurdodau lleol ystyried eu cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb yn ogystal ag ar gyfer priffyrdd. Nid oes cyllid penodol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu mannau parcio i bobl anabl; mae angen i awdurdodau lleol ystyried hyn fel rhan o'u gwaith cynllunio cyllideb cyffredinol.
Prynhawn da, Gweinidog. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cais Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gael cyllid ffyniant bro Llywodraeth y DU er mwyn ymgymryd yn llawn â phrosiect Porth Wrecsam, sydd, fel y gwyddoch chi rwy'n siŵr, yn cynnwys adeiladu stondin newydd ym mhen Kop y Cae Ras. Ac rwy'n sicr yn cydnabod y £25 miliwn o gefnogaeth sydd eisoes wedi'i neilltuo gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiect y Porth, ac rydym i gyd yn ddiolchgar am hynny, rwy'n siŵr. Ond, fel y gwyddoch chi, Gweinidog, cafodd deiseb gyda mwy na 16,000 o lofnodion ar gyfer ymgyrch Stadiwm i'r Gogledd ei throsglwyddo'n ffurfiol i Downing Street ddoe, a chefais i'r pleser o'i chefnogi a'i llofnodi. A'r ddeiseb hon a'r cais hwn sydd mor bwysig, oherwydd, fel y gwyddom ni, mae chwaraeon, yn hanesyddol, wedi'i ganoli yma yn y de, ac mae angen i ni ddenu digwyddiadau mawr a digwyddiadau chwaraeon mawr i'r gogledd, a fyddai'n rhoi budd parhaol ledled y rhanbarth. Felly, yng ngoleuni hyn, Gweinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gefnogi ymgyrch Stadiwm i'r Gogledd, ac a wnewch chi ganiatáu datganiad gan Lywodraeth Cymru i amlinellu pa gamau eraill y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r cais hwn? Diolch yn fawr iawn.
Na, ni fydd datganiad ynghylch y stadiwm, fel yr ydych chi wedi'i amlinellu. Fel y dywedwch chi, rhoddodd Llywodraeth Cymru £25 miliwn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel rhan o'r Porth. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ddeiseb a gafodd ei chyflwyno i 10 Downing Street ddoe. Dyma ail ymgais i geisio cael rhywfaint o arian gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu'n gryf y dylem ni gael stadiwm i fyny yn y gogledd sy'n gallu cynnal gemau rhyngwladol. Y Cae Ras yw'r stadiwm pêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd, ac, yn sicr, fel plentyn a pherson ifanc, dyna lle gwelais i fy ngemau rhyngwladol; ni fyddai wedi bod yn bosibl i fy rhieni fynd â mi i lawr i Gaerdydd bryd hynny. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, i bobl ifanc yn enwedig, ac wrth gwrs i bobl y gogledd, weld pêl-droed rhyngwladol, a gwn ei fod yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i'w weld.
A gaf i ofyn am ddadl ar ein gweithdrefnau yma yn y lle hwn? Hyd y gwn i, nid ydym ni wedi cael unrhyw adolygiad o weithdrefnau yn y Senedd hon ers yr etholiad y llynedd, ac nid wyf i'n cofio unrhyw adolygiad o ddifrif o bethau o'r fath yn y Senedd flaenorol chwaith. Cawsom ni drafodaeth yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ar y farchnad sengl. Nawr, lle bynnag y byddwch chi'n sefyll ar y mater hwnnw, ac mae fy marn yn hysbys iawn ac yn glir iawn, ni all fod yn iawn, does bosib, i ni gael dadl am 30 munud yfory ar y papur Trefn ar gyfer y mater hwn. Nid yw hon yn wleidyddiaeth o ddifrif; dyma wleidyddiaeth iard yr ysgol i gredu y gallwn ni gael dadl ar fater mor ddifrifol mewn 30 munud. Nid yw'n ffordd o ddifrif o gynnal ein materion yma, nid yw'n ffordd o ddifrif o drafod materion pwysig sy'n wynebu'r wlad hon, ac nid yw'n ffordd o ddifrif o ddod i gasgliadau ar y materion hyn. Felly, hoffwn i ofyn am ddadl ar ein gweithdrefnau, hoffwn i ofyn am ddadl ar sut yr ydym ni'n strwythuro ein busnes ni yn y lle hwn, a hoffwn i weld y Pwyllgor Busnes yn dod yma ac yn gwrando ar y ddadl honno, fel y gall pob un ohonom ni, lle bynnag yr ydym ni'n sefyll ar y materion hyn, gael sgwrs glir iawn ynghylch sut yr ydym ni eisiau i'n busnes ni gael ei drin yn y lle hwn.
Diolch. Wel, yn amlwg, mae Plaid Cymru wedi dewis defnyddio'i hamser yfory ar gyfer y ddadl yr ydych chi wedi'i hamlinellu. Rwyf i a'r Llywydd wedi clywed eich cais. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y gallwn ni ei drafod yn y Pwyllgor Busnes yn y lle cyntaf.
Hoffwn i ofyn am ddatganiad brys y prynhawn yma gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, ynglŷn â'i hadolygiad o wasanaethau plant yng Nghymru. Roeddwn i'n arswydo o weld manylion achos Logan Mwangi—daeth bywyd ifanc i ben mor fuan wth law y rhai a oedd i fod i garu a gofalu amdano. Er fy mod i'n falch o weld cyfiawnder yn cael ei gyflawni yn erbyn y drygioni a gipiodd bywyd bachgen ifanc cyn iddo ddechrau, mae angen i ni sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto a bod y gwasanaethau cymdeithasol yma yng Nghymru yn addas i amddiffyn ein plant sy'n wynebu risg. A hoffwn i anfon fy nghydymdeimlad o'r galon at dad Logan a gweddill ei deulu a'i ffrindiau, ac athrawon yn Ysgol Gynradd Tondu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yr effeithiwyd arnyn nhw i gyd gan y drasiedi erchyll hon.
Cafodd Logan ei dynnu oddi ar y gofrestr amddiffyn plant fis cyn iddo farw. Ni chafodd ei ymweliad arferol, ychydig cyn y digwyddiad hwn, ei gynnal oherwydd diagnosis positif COVID, er bod cyfarpar diogelu personol ar gael i'r staff eu defnyddio. Ac fel y dywedais i pan gafodd lladdwyr Logan eu dyfarnu'n euog, yr oeddwn i'n synnu bod y Prif Weinidog wedi dweud nad oedd yn credu bod angen adolygiad annibynnol o wasanaethau plant yng Nghymru ar ôl i'r achos trasig hwn amlygu rhai diffygion difrifol yn y system. Gwnaethom ni alw am adolygiad yn ôl ym mis Mai, ac, o gofio bod tair gwlad arall y DU yn cynnal un ar hyn o bryd, a'r ffaith mai Cymru sydd â'r cyfraddau gwaethaf ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ni allaf i ddeall pam nad yw Llywodraeth Cymru yn dilyn yr esiampl. Ni ddylid caniatáu i'r achosion hyn ddigwydd, ac mae plant sy'n agored i niwed yn haeddu cael eu hamddiffyn yn llawn gan y wladwriaeth, ac mae'r hunanfodlonrwydd diwylliannol ymddangosiadol yng nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael dylanwad negyddol ar dynged y plentyn hwn. Ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i orchymyn yr adolygiad annibynnol hwn yn ddi-oed. Diolch.
Diolch. Rwyf innau hefyd eisiau estyn fy nghydymdeimlad i'r rhai sy'n caru ac sy'n gweld eisiau Logan. Ni fydd amser ar gyfer datganiad brys yn y ffordd yr ydych chi'n gofyn amdano, ond gallaf i eich sicrhau bod mesurau ar waith i sicrhau bod dysgu o ddigwyddiadau fel hyn yn llywio'r gwaith o wella arferion diogelu yng Nghymru yn barhaus. Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn aros am ganlyniadau'r arolygiad diweddar o wasanaethau plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr—sydd wedi'i gynnal gan Arolygiaeth Gofal Cymru—yn ogystal â chwblhau'r adolygiad ymarfer plant i edrych ar y digwyddiadau cyn marwolaeth Logan, a bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr holl ganfyddiadau ac argymhellion yn ofalus.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog newid hinsawdd ar yr uwchgynhadledd ffosffadau sy'n digwydd yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru? Gwn i fod ymrwymiad i ddarparu datganiad ysgrifenedig i'r Senedd hon am ganfyddiadau'r uwchgynhadledd honno, ond mae hwn yn fater pwysig nid yn unig i fy etholaeth i, ond i nifer o etholaethau ledled Cymru. Felly, rwy'n gofyn i ni gael datganiad llafar ar yr hyn sy'n cael ei drafod yn yr uwchgynhadledd, fel y gall Aelodau yn y Siambr hon wneud eu gwaith o graffu ar lywodraeth Cymru ar y pwnc pwysig iawn hwn. Diolch, Llywydd.
Wel, bydd datganiad ysgrifenedig. Byddwch chi'n ymwybodol bod Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn digwydd yn ystod wythnos gyntaf y toriad. Felly, bydd datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ystod toriad yr haf. Yn amlwg, nid oes modd cael datganiad llafar.
Diolch i'r Trefnydd.