Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Diolch. Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am yr hyn yr wyf yn ei wneud i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru drwy ein dull o gyllidebu ar sail rhyw. Mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn dal i fod yn gyffredin yn 2022, er gwaethaf y datblygiadau niferus a wnaed. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu Cymru sy'n gyfartal o ran rhyw, sy'n golygu cyfran gyfartal o rym, adnoddau a dylanwad i bawb. Mae ein hymrwymiad i gyllidebu ar sail rhyw wedi'i nodi yn ein rhaglen lywodraethu.
Weithiau gall y term 'cyllidebu ar sail rhyw' arwain at ddryswch, felly hoffwn fod yn glir o'r cychwyn am yr hyn y mae'n ei olygu i ni. Nid yw'r dull hwn yn ymwneud â chyllidebau pinc a glas, gan gyfrif faint rydym yn ei wario ar wahanol grwpiau. Mae cyllidebu ar sail rhyw yn fesur y gallwn ni ei ddefnyddio i weld ein cyllidebau a'n polisi. Mae'n ein helpu i amlygu ac ystyried yr effeithiau anfwriadol y gall polisi da ei fwriad ei gael ar wahanol fathau o bobl a meysydd effaith. Bydd cyllidebu ar sail rhyw yn ein helpu i gryfhau a gwella ein gwaith o lunio polisïau, a fydd yn ei dro yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwell am y gyllideb, gan arwain at ganlyniadau gwell. Drwy ddeall a lliniaru effeithiau negyddol anfwriadol ac amlygu ac adeiladu ar y cadarnhaol, gallwn sicrhau'r gwerth mwyaf am bob punt a wariwn.