Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Hoffwn fod yn glir bod y gwaith hwn yn newid diwylliant systemig hirdymor, a galwaf ar Aelodau'r Senedd hon, a'n hystod eang o bartneriaid, i'n cefnogi ar y daith hon. Ni fydd yn digwydd dros nos, ac ni allwn ni wneud hynny ar ein pen ein hunain. Mae ein cynllun gwella'r gyllideb yn nodi'n glir yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i gyflawni ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu. Yn rhan o'r adolygiad rhywiau yn 2018, gwnaethom ymgysylltu â gwledydd Nordig sy'n arwain y byd ar y maes hwn, gan ddysgu o'u dulliau o gyllidebu ar sail rhyw. Clywsom am yr angen i ganolbwyntio ar ymgymryd â gweithgarwch peilot i'n helpu i wella'r ffordd yr ydym ni'n asesu effaith ein penderfyniadau cyllidebol, deall yr effaith wirioneddol y mae ein penderfyniadau'n ei chael, gan wella yn ei dro yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i gyflawni'r canlyniadau yr ydym yn eu ceisio. Bydd cynlluniau peilot yn rhoi dealltwriaeth werthfawr i ni o'r hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio.
Yn 2019, lansiwyd ein cynlluniau peilot cyntaf, ein cyfrifon dysgu personol. Mae ein cyfrifon dysgu personol yn sefydlu dull hyblyg o ddarparu dysgu er mwyn helpu mynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl sy'n ceisio gwella eu cyfleoedd eu hunain yn y gweithle. Dewiswyd cyfrifon dysgu personol gennym ni oherwydd bod pwyslais ar ddiwydiannau ag effaith rhywedd, a gwelsom ganfyddiadau cychwynnol cadarnhaol. Drwy'r gwerthusiad parhaus, rydym wedi nodi rhai gwersi allweddol ynghylch yr heriau o gynnal canlyniadau cadarnhaol pan gaiff gweithgarwch ei gynyddu o ddarpariaeth leol i weithgaredd cenedlaethol. Rydym yn gweithio i sicrhau bod cyllidebu ar sail rhyw yn parhau i fod wrth wraidd y gwaith o gynllunio a darparu rhaglenni ac nad yw'n cael ei ystyried yn rhywbeth sy'n braf ei wneud yn unig.
Mae ein hymrwymiad i gyllidebu ar sail rhyw wedi cael momentwm ychwanegol gan ymrwymiad y rhaglen lywodraethu ac rydym bellach wedi cynnal dau gynllun peilot pellach ym meysydd teithio llesol a gwarant y person ifanc, pob un wedi'i ddewis yn benodol i ddarparu dysgu gwahanol i sicrhau y gallwn fireinio dull cyllidebu ar sail rhyw yng Nghymru. Er eu bod yn dal i fod yng nghamau cynnar y datblygiad, maen nhw eisoes wedi tynnu sylw at bwysigrwydd gwneud popeth o fewn ein gallu i ymgysylltu'n rhagweithiol a gwella'r ffordd y caiff polisi ei gyflawni a'i gynllunio, gan gydnabod natur hirdymor y gwaith hwn.
Mae ein hymgysylltiad â gwledydd eraill sy'n arwain y ffordd o ran cyllidebu ar sail rhyw wedi bod, ac yn parhau i fod, yn amhrisiadwy, o ran helpu i lywio ein gwaith o ymgorffori hyn yng Nghymru. O'r trafodaethau cynnar a gawsom ni gyda gwledydd Nordig i'n hymgysylltiad parhaus â gwledydd fel Canada a Seland Newydd drwy'r rhwydwaith o Lywodraethau llesiant, rydym nid yn unig yn dysgu gan y rhai sydd wedi mynd o'n blaenau ond rydym ni hefyd yn rhannu ein profiadau ein hunain i'w cefnogi yn eu teithiau. Mae'r ymgysylltu hwn hefyd wedi ein hatgoffa, er bod llawer ohonom ni, yn cynnwys fy hun, yn ddiamynedd am newid, y bydd y newid hwn yn cymryd amser.
Gan edrych yn nes at adref, rydym yn falch o weithio gydag arbenigwyr yma yng Nghymru megis Grŵp Cyllideb Menywod Cymru a'n grŵp cynghori ein hunain ar wella ac asesu effaith y gyllideb. Rwyf wedi bod yn falch o weithio gyda Phwyllgor Cyllid y Senedd i archwilio a deall ymhellach fanteision cyllidebu ar sail rhyw wrth gefnogi ein taith hirdymor o wella'r gyllideb. Mae'r grwpiau hyn yn rhoi gwybodaeth, cefnogaeth a her adeiladol i ni wrth i ni barhau i symud ymlaen. Rydym yn dwyn ynghyd y dysgu hwn drwy ein meysydd gwaith niferus nid yn unig i lywio ein dull gweithredu, ond hefyd i gefnogi partneriaid ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i'n helpu i wireddu ein gweledigaeth o Gymru sy'n gyfartal o ran y rhywiau.
Wrth gloi'r datganiad heddiw, mae'n bleser gennyf rannu gyda'r Senedd y gwaith trawslywodraethol sydd ar y gweill i archwilio'r potensial ar gyfer pecyn gwaith penodol mewn ymchwil rhywedd sy'n gysylltiedig ag iechyd. Yn ddiweddarach heddiw, byddwch yn clywed y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer sut y dylai gwasanaeth iechyd o ansawdd da gefnogi menywod a merched. Fy uchelgais yw y byddwn ni, drwy gydweithio ar draws y Llywodraeth, yn sefydlu Cymru fel arweinydd byd-eang wrth fynd i'r afael â rhagfarn rhywedd mewn gofal iechyd.
Yr unig ffordd y gallwn ni fynd i'r afael â chamgymeriadau'r gorffennol yw drwy gydweithio a chyd-gynhyrchu gyda'r rhai yr ydym yn bwriadu eu helpu. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid i gynllunio cynllun drwy gyd-gynhyrchu gwirioneddol gyda chyllidebu ar sail rhywedd yn ganolog iddo. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y materion sy'n wynebu menywod bob dydd ac yn nodi atebion a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau menywod ledled Cymru. Dyma ddechrau ein taith ac mae'n un yr wyf wedi ymrwymo'n llwyr iddi. Edrychaf ymlaen at y drafodaeth heddiw ac at glywed awgrymiadau cyd-Aelodau ynghylch sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i wirioneddol ymgorffori cyllidebu ar sail rhyw yn ein holl waith.