– Senedd Cymru am 4:18 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Eitem 5 y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar gynnydd o ran cyllidebu ar sail rhyw. Galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans.
Diolch. Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am yr hyn yr wyf yn ei wneud i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru drwy ein dull o gyllidebu ar sail rhyw. Mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn dal i fod yn gyffredin yn 2022, er gwaethaf y datblygiadau niferus a wnaed. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu Cymru sy'n gyfartal o ran rhyw, sy'n golygu cyfran gyfartal o rym, adnoddau a dylanwad i bawb. Mae ein hymrwymiad i gyllidebu ar sail rhyw wedi'i nodi yn ein rhaglen lywodraethu.
Weithiau gall y term 'cyllidebu ar sail rhyw' arwain at ddryswch, felly hoffwn fod yn glir o'r cychwyn am yr hyn y mae'n ei olygu i ni. Nid yw'r dull hwn yn ymwneud â chyllidebau pinc a glas, gan gyfrif faint rydym yn ei wario ar wahanol grwpiau. Mae cyllidebu ar sail rhyw yn fesur y gallwn ni ei ddefnyddio i weld ein cyllidebau a'n polisi. Mae'n ein helpu i amlygu ac ystyried yr effeithiau anfwriadol y gall polisi da ei fwriad ei gael ar wahanol fathau o bobl a meysydd effaith. Bydd cyllidebu ar sail rhyw yn ein helpu i gryfhau a gwella ein gwaith o lunio polisïau, a fydd yn ei dro yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwell am y gyllideb, gan arwain at ganlyniadau gwell. Drwy ddeall a lliniaru effeithiau negyddol anfwriadol ac amlygu ac adeiladu ar y cadarnhaol, gallwn sicrhau'r gwerth mwyaf am bob punt a wariwn.
Hoffwn fod yn glir bod y gwaith hwn yn newid diwylliant systemig hirdymor, a galwaf ar Aelodau'r Senedd hon, a'n hystod eang o bartneriaid, i'n cefnogi ar y daith hon. Ni fydd yn digwydd dros nos, ac ni allwn ni wneud hynny ar ein pen ein hunain. Mae ein cynllun gwella'r gyllideb yn nodi'n glir yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i gyflawni ein hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu. Yn rhan o'r adolygiad rhywiau yn 2018, gwnaethom ymgysylltu â gwledydd Nordig sy'n arwain y byd ar y maes hwn, gan ddysgu o'u dulliau o gyllidebu ar sail rhyw. Clywsom am yr angen i ganolbwyntio ar ymgymryd â gweithgarwch peilot i'n helpu i wella'r ffordd yr ydym ni'n asesu effaith ein penderfyniadau cyllidebol, deall yr effaith wirioneddol y mae ein penderfyniadau'n ei chael, gan wella yn ei dro yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i gyflawni'r canlyniadau yr ydym yn eu ceisio. Bydd cynlluniau peilot yn rhoi dealltwriaeth werthfawr i ni o'r hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio.
Yn 2019, lansiwyd ein cynlluniau peilot cyntaf, ein cyfrifon dysgu personol. Mae ein cyfrifon dysgu personol yn sefydlu dull hyblyg o ddarparu dysgu er mwyn helpu mynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl sy'n ceisio gwella eu cyfleoedd eu hunain yn y gweithle. Dewiswyd cyfrifon dysgu personol gennym ni oherwydd bod pwyslais ar ddiwydiannau ag effaith rhywedd, a gwelsom ganfyddiadau cychwynnol cadarnhaol. Drwy'r gwerthusiad parhaus, rydym wedi nodi rhai gwersi allweddol ynghylch yr heriau o gynnal canlyniadau cadarnhaol pan gaiff gweithgarwch ei gynyddu o ddarpariaeth leol i weithgaredd cenedlaethol. Rydym yn gweithio i sicrhau bod cyllidebu ar sail rhyw yn parhau i fod wrth wraidd y gwaith o gynllunio a darparu rhaglenni ac nad yw'n cael ei ystyried yn rhywbeth sy'n braf ei wneud yn unig.
Mae ein hymrwymiad i gyllidebu ar sail rhyw wedi cael momentwm ychwanegol gan ymrwymiad y rhaglen lywodraethu ac rydym bellach wedi cynnal dau gynllun peilot pellach ym meysydd teithio llesol a gwarant y person ifanc, pob un wedi'i ddewis yn benodol i ddarparu dysgu gwahanol i sicrhau y gallwn fireinio dull cyllidebu ar sail rhyw yng Nghymru. Er eu bod yn dal i fod yng nghamau cynnar y datblygiad, maen nhw eisoes wedi tynnu sylw at bwysigrwydd gwneud popeth o fewn ein gallu i ymgysylltu'n rhagweithiol a gwella'r ffordd y caiff polisi ei gyflawni a'i gynllunio, gan gydnabod natur hirdymor y gwaith hwn.
Mae ein hymgysylltiad â gwledydd eraill sy'n arwain y ffordd o ran cyllidebu ar sail rhyw wedi bod, ac yn parhau i fod, yn amhrisiadwy, o ran helpu i lywio ein gwaith o ymgorffori hyn yng Nghymru. O'r trafodaethau cynnar a gawsom ni gyda gwledydd Nordig i'n hymgysylltiad parhaus â gwledydd fel Canada a Seland Newydd drwy'r rhwydwaith o Lywodraethau llesiant, rydym nid yn unig yn dysgu gan y rhai sydd wedi mynd o'n blaenau ond rydym ni hefyd yn rhannu ein profiadau ein hunain i'w cefnogi yn eu teithiau. Mae'r ymgysylltu hwn hefyd wedi ein hatgoffa, er bod llawer ohonom ni, yn cynnwys fy hun, yn ddiamynedd am newid, y bydd y newid hwn yn cymryd amser.
Gan edrych yn nes at adref, rydym yn falch o weithio gydag arbenigwyr yma yng Nghymru megis Grŵp Cyllideb Menywod Cymru a'n grŵp cynghori ein hunain ar wella ac asesu effaith y gyllideb. Rwyf wedi bod yn falch o weithio gyda Phwyllgor Cyllid y Senedd i archwilio a deall ymhellach fanteision cyllidebu ar sail rhyw wrth gefnogi ein taith hirdymor o wella'r gyllideb. Mae'r grwpiau hyn yn rhoi gwybodaeth, cefnogaeth a her adeiladol i ni wrth i ni barhau i symud ymlaen. Rydym yn dwyn ynghyd y dysgu hwn drwy ein meysydd gwaith niferus nid yn unig i lywio ein dull gweithredu, ond hefyd i gefnogi partneriaid ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i'n helpu i wireddu ein gweledigaeth o Gymru sy'n gyfartal o ran y rhywiau.
Wrth gloi'r datganiad heddiw, mae'n bleser gennyf rannu gyda'r Senedd y gwaith trawslywodraethol sydd ar y gweill i archwilio'r potensial ar gyfer pecyn gwaith penodol mewn ymchwil rhywedd sy'n gysylltiedig ag iechyd. Yn ddiweddarach heddiw, byddwch yn clywed y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer sut y dylai gwasanaeth iechyd o ansawdd da gefnogi menywod a merched. Fy uchelgais yw y byddwn ni, drwy gydweithio ar draws y Llywodraeth, yn sefydlu Cymru fel arweinydd byd-eang wrth fynd i'r afael â rhagfarn rhywedd mewn gofal iechyd.
Yr unig ffordd y gallwn ni fynd i'r afael â chamgymeriadau'r gorffennol yw drwy gydweithio a chyd-gynhyrchu gyda'r rhai yr ydym yn bwriadu eu helpu. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid i gynllunio cynllun drwy gyd-gynhyrchu gwirioneddol gyda chyllidebu ar sail rhywedd yn ganolog iddo. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y materion sy'n wynebu menywod bob dydd ac yn nodi atebion a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau menywod ledled Cymru. Dyma ddechrau ein taith ac mae'n un yr wyf wedi ymrwymo'n llwyr iddi. Edrychaf ymlaen at y drafodaeth heddiw ac at glywed awgrymiadau cyd-Aelodau ynghylch sut y gallwn ni weithio gyda'n gilydd i wirioneddol ymgorffori cyllidebu ar sail rhyw yn ein holl waith.
A gaf i ddiolch ichi, Gweinidog, am eich datganiad? Rwy'n credu y gall mentrau fel cyllidebu ar sail rhyw fod yn ddefnyddiol iawn i helpu dadansoddi'r gwahanol effaith y gall polisïau ei chael ar wahanol rywiau. Er bod cydraddoldeb rhywiol wedi gwella dros amser, gwyddom fod rhwystrau o hyd i gydraddoldeb llawn, ac felly mae'n bwysig edrych ar sut y gallwn ni deilwra polisïau'n well i ddiwallu anghenion ac amgylchiadau gwahanol grwpiau o bobl.
Fel y sonioch chi, Gweinidog, mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno rhai cynlluniau peilot, megis cyfrifon dysgu personol, a byddwn yn gwerthfawrogi rhagor o fanylion am y prosiect, yn ogystal â mwy o fanylion am werthuso'r cynllun peilot hwn. Sut mae canlyniadau'r cynllun hwn yn helpu i lywio polisïau eraill y Llywodraeth? Gweinidog, fe wnaethoch chi sôn hefyd fod dau gynllun peilot newydd cyllidebu ar sail rhyw bellach ar y gweill, un ar gyfer teithio llesol ac un ar gyfer gwarant y person ifanc. Gweinidog, pa ganlyniadau y mae'r Llywodraeth yn ceisio'u cyflawni drwy hyn, a sut y cânt eu gwerthuso? Sut y bydd y Senedd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwahanol gynlluniau a'u heffaith ar feddylfryd y Llywodraeth?
Mae'r rhaglen lywodraethu hefyd yn ymrwymo Gweinidogion i weithredu targedau sy'n ymwneud â chyllidebu ar sail rhyw. Pryd y caiff y rhain eu cyhoeddi, ac a yw'r cynlluniau peilot yn cael eu defnyddio i helpu llywio'r targedau hyn a sut y gellir mesur cynnydd yn ehangach? Mewn perthynas â hyn, os yw mentrau fel cyllidebu ar sail rhyw i gael canlyniadau pendant, yna mae angen sefydlu strwythurau priodol o ran gwneud penderfyniadau. Sut, felly, y mae'r Llywodraeth yn bwriadu gweithio gyda'r grŵp cynghori ar wella ac asesu effaith y gyllideb yn ogystal â rhanddeiliaid eraill i asesu galluoedd presennol y Llywodraeth i lunio polisïau a chyllidebau?
Dirprwy Lywydd, hoffwn i orffen ar bwynt ehangach: rhaid inni hefyd sicrhau ein bod yn ystyried yn briodol yr effaith y bydd polisïau'n ei chael ar amrywiaeth o bobl a nodweddion gwarchodedig ac nid canolbwyntio ar rywedd yn unig, oherwydd wrth gwrs nid yw rhywedd a hunaniaethau penodol yn grwpiau unffurf ac mae ganddyn nhw amrywiaeth o anghenion. Yn hyn o beth, rydym ni wedi clywed amryw o faterion o'r blaen ynghylch pa mor effeithiol neu aneffeithiol yw asesiadau effaith integredig strategol y Llywodraeth. Felly, byddai gennyf ddiddordeb clywed mwy gennych chi, Gweinidog, am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddatblygu offeryn asesiad effaith integredig cryfach yn benodol i allu cynnal asesiadau effaith manylach a mwy cyson ar draws adrannau, gan gynnwys gweithio'n agosach gyda'r comisiynwyr perthnasol i graffu'n well. Diolch.
Diolch yn fawr am godi'r pwyntiau hynny ac am eich cydnabyddiaeth, ar ddechrau eich cyfraniad, am y swyddogaeth bwysig y gall cyllidebu ar sail rhyw ei chwarae wrth ein helpu i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, sydd wedi bod gyda ni ers llawer gormod o amser nawr. Credaf y bydd cyllidebu ar sail rhyw yn arf pwysig inni o ran hyrwyddo cydraddoldeb yma yng Nghymru.
Roedd rhai cwestiynau penodol am y cynlluniau peilot, felly rwy'n hapus iawn i ddarparu mwy o wybodaeth am y rheini. Y cynllun peilot cyntaf a gynhaliwyd gennym ni yw'r cynllun peilot cyfrifon dysgu personol, a dechreuodd hynny ym mis Medi 2019. Yna cafodd y rhaglen honno ei huwchraddio a dechreuodd y ddarpariaeth ar draws Cymru yn 2021. Mae hynny'n gweithio'n agos iawn gyda'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol i sicrhau bod darpariaeth o ran ymateb i anghenion sgiliau rhanbarthol penodol, ond gwyddom fod rhai o'r rhain mewn ardaloedd lle mae menywod fel arfer wedi cael eu tangynrychioli neu eu gorgynrychioli. Felly, rydym ni wedi edrych ar feysydd fel adeiladu ar y naill law a gofal cymdeithasol ar y llaw arall. Rydym yn disgwyl i'r adroddiad terfynol o'r hyn yr ydym ni wedi ei ddysgu o'n cynlluniau peilot gyda'r cyfrifon dysgu personol gael ei gyhoeddi ddiwedd haf 2022. Felly, bydd cyfle inni archwilio hynny'n fanylach. Ar hyn o bryd, ni allwn ni ddarparu mwy o fanylion am yr allbynnau sy'n benodol i ryw, ond edrychwn ymlaen at weld mwy o fanylion ar gael yn ddiweddarach yn yr haf.
Fodd bynnag, mae rhai canfyddiadau cychwynnol y gallaf eu rhannu yn rhoi pwyslais gwirioneddol inni ar yr angen i gadw'r pwyslais parhaus hwnnw ar gyllidebu ar sail rhyw pan gaiff gweithgarwch ei gynyddu. Pan fydd pethau'n digwydd ar lefel fwy penodol a bach, lleol, mae llawer o bwyslais ar y cyllidebu hwnnw ar sail rhyw; daw'r her, felly, pan fyddwn yn gwneud pethau mwy. Felly, mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei ystyried yn ofalus wrth inni symud i'r cynlluniau peilot eraill. Fel y dywed Peter Fox, un yw gwarant y person ifanc, a dyna un o'n hymrwymiadau allweddol i sicrhau bod pawb o dan 25 oed sy'n byw yng Nghymru yn cael cymorth i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, neu'r cymorth sydd ei angen arnynt i fod yn hunangyflogedig.
Mae cymryd rhan yn y cynllun peilot cyllidebu ar sail rhyw yn galluogi'r rhaglen warant i bobl ifanc i adolygu ei systemau, adolygu ei sylfaen dystiolaeth ac edrych eto ar y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud, a dylunio a chyflwyno gweithgarwch newydd o ran rhywedd ac o'r safbwynt rhyngsectorol hwnnw. Mae'r adolygiad cychwynnol o feysydd amrywiol y gwarant pobl ifanc yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, gyda'r bwriad o ddatblygu cynllun manylach i sicrhau ein bod yn cael y budd mwyaf i'r rhaglen, ac, yn y pen draw, wrth gwrs, i bobl ifanc Cymru.
O ran y cynllun peilot teithio llesol, mae'n amlwg bod gan hyn ran bwysig iawn o ran darparu trafnidiaeth gynaliadwy. Mae hynny'n rhywbeth mae arnom ni eisiau i bawb allu elwa ohono. Mae ein cynllun peilot cyllidebu ar sail rhyw yn hyn o beth yn canolbwyntio ar raglen E-Symud Cymru, a fydd yn ystyried pa ddysgu y gallwn ni ei gyflawni drwy hynny. Mae'r cynllun peilot E-Symud yn cael ei ddarparu gan Sustrans Cymru, ac ar hyn o bryd rydym yn cydweithio â nhw i ddeall sut y gall mabwysiadu dull cyllidebu ar sail rhyw ychwanegu gwerth at ein rhaglen bresennol a helpu i gynllunio'r gwaith o gyflawni yn y dyfodol.
Mae'r dadansoddiad cynnar o'r rhai sy'n ymwneud â'r rhaglen hyd yma wedi dangos bod cyfran uwch o gyfranogwyr a nododd eu bod yn fenywod yn defnyddio'r cynllun mewn ardaloedd gwledig. Drwy archwilio a chymhwyso'r safbwynt rhyngsectorol hwnnw, byddwn yn ceisio deall nodweddion y defnyddwyr hyn yn well er mwyn cael mwy o ddealltwriaeth o'r rhesymau y tu ôl i hyn, er mwyn helpu i lywio ein syniadau ar deithio llesol yn y dyfodol. Ond, unwaith eto, byddwn yn gallu rhannu mwy o wybodaeth gyda'r Senedd maes o law.
Mae'r grŵp cynghori ar wella ac asesu effaith y gyllideb yn bwysig iawn o ran helpu Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau a gwella'r ffordd yr ydym ni'n cyllidebu. Mae'r diben, mewn gwirionedd, yn ymwneud â gwella nid yn unig y gyllideb ond hefyd ein prosesau treth i wella canlyniadau. Ac mae'r grŵp hwnnw'n mynd i fwrw ymlaen â gwaith ar fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a bwrw ymlaen â rhai o'n dulliau cyllidebu ar sail rhyw a darparu'r llais cyfaill beirniadol hwnnw i ni yn y gwaith yr ydym yn ei wneud yn y maes hwn.
Mae'r grŵp ei hun yn gymysgedd o aelodau'r grŵp cynghori cyllidebol blaenorol ar gyfer cydraddoldebau, BAGE, gyda rhai ychwanegiadau bellach i gwmpasu ystod ehangach o feysydd effaith. Mae cymysgedd o sefydliadau'r sector gwirfoddol a sefydliadau'r sector cyhoeddus, ac rydym yn gweithio gyda'r grŵp hwnnw ar hyn o bryd i gytuno ar strwythur y rhaglen waith yn y dyfodol. Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn cyhoeddi ein cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp hwnnw a'i gynllun gwaith 12 mis ar wefan Llywodraeth Cymru.
Ac yna, dim ond i fyfyrio ar y pwynt pwysig iawn fod yna amrywiaeth o nodweddion sy'n effeithio ar brofiadau pobl o'r dewisiadau a wnawn o ran cyllidebu, dyna pam y mae'n rhaid i hyn ymwneud â'r dull rhyngsectorol hwnnw. Felly, nid yw'n ymwneud ag edrych ar bethau o safbwynt menywod a safbwynt dynion yn unig, ond ystyried yr holl nodweddion gwarchodedig eraill hynny sy'n effeithio ar brofiadau pobl o wasanaethau a chymdeithas.
Rydym ni yn gwybod fod y dadansoddiadau mwyaf effeithiol o ran rhywiau yn defnyddio'r dull rhyngsectorol hwnnw, gan gyfuno craffu ar yr effaith ar fenywod a dynion, ond gyda'r nodweddion eraill hefyd. Felly, fe allwn ni wneud hynny, ac edrych hefyd ar les o safbwynt diwylliant, yr amgylchedd, cymdeithas ac yn y blaen hefyd. Felly, mae sawl ffordd o edrych ar hyn, a llawer o bethau y gallwn eu dysgu pan fyddwn yn edrych ar y dull rhyngsectorol hwnnw, gan wneud hynny o safbwynt rhywedd.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad, a dwi'n croesawu, yn amlwg, yr hyn sydd wedi cael ei ddweud, a dwi'n cael fy nghalonogi hefyd gan rai o'r atebion rŷch chi newydd eu rhoi, er efallai y byddem ni gyd—fel chi, dwi'n siŵr—eisiau mynd ymhellach ac yn gynt. Yn sicr, fel roeddech chi'n dweud, mae yna siwrnai wedi ei chychwyn, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cyrraedd—. Wel, efallai na chyrhaeddwn ni fyth ben y daith, ond yn sicr mae'r gwaith yma'n esblygu'n barhaus. Ond byddem ni eisiau gweld y cynnydd yn digwydd cyn gynted ag sy'n bosib.
Dwi jest yn meddwl, o ran effaith, beth ydych chi'n meddwl bydd effaith yr argyfwng costau byw a'r wasgfa ar gyllidebau cyhoeddus ar gyllidebau ar sail rhyw, oherwydd y peryg yw y bydd cyrff cyhoeddus, efallai, yn teimlo eu bod nhw o dan ormod o bwysau i fynd i'r afael â rhywbeth fel hyn a thrio newid mindset a newid diwylliant, lle dwi'n siŵr y byddech chi, ac yn sicr y byddwn i, yn dadlau mai nawr yw'r amser i wneud y shift yna er mwyn amddiffyn y bobl sy'n mynd i ddioddef fwyaf yn sgil yr argyfwng sy'n ein hwynebu ni.
Mi wnaeth Gwlad yr Iâ, wrth gwrs, ddechrau defnyddio cyllido ar sail rhyw adeg y crash economaidd, ac, wrth gwrs, maen nhw ar flaen y gad nawr, onid ydyn nhw—ymhellach ymlaen na neb arall. Felly, a oes cyfle inni ddefnyddio'r amgylchiadau rŷn ni'n ffeindio ein hunain ynddyn nhw i gyflymu'r broses rŷch chi wedi'i hamlinellu i ni?
Rwy'n croesawu bod peilotiau yn digwydd, wrth gwrs. Mae'n rhaid dysgu, mae'n rhaid cropian cyn cerdded ac yn y blaen. Weithiau, rwy'n teimlo bod yna risg ein bod ni'n dioddef o ryw fath o pilotitis—dwi ddim yn siŵr a yw hwnnw'n derm swyddogol. Mae angen inni fynd ati i brif-lifo ar y cyfle cyntaf posib, onid oes e, a dysgu ar y job, mewn ffordd. Felly, dydw i ddim yn gwybod eto, o wybod y rhyferthwy sydd o'n blaenau ni o safbwynt costau byw a'r oblygiadau fydd yna, a allwn ni fod yn symud yn gynt, efallai, ar rhai o'r materion yma.
Rŷch chi wedi cyffwrdd â'r amserlen tymor byrrach, efallai, jyst mewn atebion blaenorol, felly ble ydyn ni o ran yr amserlen tymor hir? Pryd ydych chi'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu edrych i fyw llygaid pobl Cymru a dweud, 'Mae hwn yn digwydd', a phryd byddwch chi'n gallu dweud y bydd y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru hefyd yn cyllido ar sail rhyw mewn modd ystyrlon sydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl?
Dwi'n deall bod y Llywodraeth yn gwerthuso'r peilotiau yma ac yn dysgu gwersi. Sut mae hwnna yn cael ei rannu—rhannu'r dysgu a'r arfer da? Byddai'n dda deall sut mae hwnna'n cael ei raeadru yn ehangach, a hefyd bod y sector cyhoeddus yn dysgu'r gwersi rŷch chi yn eu dysgu.
Yn olaf, beth yw'r sail ddeddfwriaethol fan hyn? A oes angen deddfu i sicrhau bod hwn yn cael ei brif-lifo ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, neu a ydych chi'n hyderus y bydd e'n digwydd heb fod angen deddfwriaeth? Mae Awstria wedi'i wneud e'n rhan o'i chyfansoddiad ers 2009, ac erbyn 2011 mi oedd pob adran o'r Llywodraeth yn prif-lifo cyllidebu ar sail rhyw ar draws deddfu, cyllido a chaffael cyhoeddus. Os ydyn ni eisiau i hyn ymgyrraedd i fod yn gwneud gwahaniaeth go iawn, yna mae'n bosib bod hynny'n rhywbeth rŷch chi yn ei ystyried.
Diolch yn fawr am y pwyntiau a'r cwestiynau hynny, a rhannaf yr awydd hwnnw i symud yn gyflym iawn ar hyn. Yn y tymor agos, mae gennym ni bedwar maes gwaith y byddwn yn bwrw ymlaen â nhw, ac maen nhw'n drawsbynciol ar draws y Llywodraeth i sicrhau ein bod yn gwneud y cysylltiadau hynny o ran cyllidebu ar sail rhyw. Felly, mae gennym ni wybodaeth a dealltwriaeth; cymorth a her adeiladol; cyfathrebu ac arweinyddiaeth; a dysgu parhaus. Mae'r rhain yn bethau y byddwn ni, yn amlwg, yn ymgysylltu'n ehangach â'r sector cyhoeddus yn eu cylch wrth inni symud ymlaen.
Credaf fod yr hyn yr ydym ni wedi ei ddysgu o Wlad yr Iâ wedi dangos bod y dull peilot a ddefnyddiwyd ganddyn nhw wedi cymryd saith mlynedd o'r cynlluniau peilot cychwynnol i adeiladu tuag at weithredu mwy cynhwysfawr, ac roedd hynny'n rhywbeth yr oedden nhw'n awyddus iawn i'w rannu â ni. Unwaith eto, mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi'i brofi, rwy'n credu, ar y raddfa lai honno gyda'n cynllun peilot cyntaf—wyddoch chi, mae'r brwdfrydedd, yr awch a'r pwyslais cychwynnol ar y lefel leol honno'n wych, ond wedyn yr her yw pan fyddwch yn dechrau ei phrif ffrydio a'i chodi i lefel fwy cenedlaethol. Dyna'n union, rwy'n credu, yr her yr oedden nhw'n ei hwynebu yng Ngwlad yr Iâ.
Rydym ni wedi bod yn ymgysylltu â nhw, fel y dywedais i, ers 2019, ac mae'r cydberthnasau hynny'n dal i fynd rhagddynt, fel y maen nhw gyda'r rhwydwaith Llywodraethau llesiant hefyd, i weld beth y gallwn ni ei ddysgu oddi wrth ein gilydd o ran cyllidebu ar sail rhyw. Credwn fod gan Wlad yr Iâ ddull diddorol iawn. Felly, saith mlynedd yn ddiweddarach, o leiaf, ers iddyn nhw ei gyflwyno gyntaf, maen nhw bellach yn dechrau, rwy'n credu, cael y teimlad hwnnw o'r newid diwylliannol. Erbyn hyn, maen nhw'n gweithredu mewn modd cynhwysfawr, ac fe gefnogwyd hynny drwy basio cyfraith cyllideb organig newydd.
Yn amlwg, rydym yn awyddus i archwilio'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill o ran deddfwriaeth. Does arna i ddim eisiau awgrymu y byddem yn gallu dod o hyd i'r amser yn ystod tymor y Senedd hon i wneud hynny, ond mae'n sicr yn rhywbeth sydd o ddiddordeb i'r dyfodol yng Nghymru, o gofio ein pwyslais ar sut olwg fydd ar gyllid a'r ddeddfwriaeth sy'n cefnogi hynny yn y dyfodol. Felly, rydym yn cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill a'r hyn y gallwn ni ei ddysgu o'r gwahanol ddulliau gweithredu.
Mae'r sylw am yr argyfwng costau byw yn un pwysig mewn gwirionedd, a chredaf, pan fyddwch mewn argyfwng, fel y gwelsom ni drwy'r pandemig, ei fod yn canolbwyntio'r meddwl ac mewn gwirionedd mae'n rhoi'r ysgogiad i chwalu rhwystrau na ellir eu chwalu fel arall, felly nid oes rheswm pam na ddylem ni fod yn defnyddio'r ysgogiad hwn i fwrw ymlaen â'r agenda cyllidebu ar sail rhyw gyda phwyslais gwirioneddol. Credaf y bu rhywfaint o ymchwil ddiddorol ar effaith yr argyfwng costau byw ar sail rhyw, a ddarparwyd gan y Grŵp Cyllideb Menywod ar lefel y DU, ac mae hynny'n dangos bod gan fenywod lai o gynilion a chyfoeth yn gyffredinol na dynion, a hyd yn oed cyn COVID-19 roedd menywod yn fwy tebygol o fod mewn dyled, ac mae hyn wedi gwaethygu o ganlyniad i'r pandemig. Maen nhw'n glir iawn y bydd yr argyfwng costau byw yn taro'r tlotaf galetaf, ac mae menywod yn fwy tebygol o fod yn dlawd, ac maen nhw wedi cael eu taro'n galetach gan doriadau i nawdd cymdeithasol a darparu gwasanaethau cyhoeddus dros y degawd diwethaf, o ganlyniad i gyni. Felly, nid oes amheuaeth nad yw hwn yn fater rhywedd yn ogystal ag argyfwng costau byw.
Ac yna'r pwynt ehangach ynglŷn â sut y byddwn yn rhannu'r dysgu—byddwn yn gwneud hynny drwy'r grŵp gwella cyllideb a chynghori. Diben y grŵp hwnnw yw ymgysylltu â'r rhanddeiliaid allweddol hynny, felly mae angen inni sicrhau yr ymgysylltir â'r holl bobl hynny y mae angen ymgysylltu â nhw, a byddwn, fel y dywedais i, yn cyhoeddi mwy o wybodaeth am gylch gorchwyl y grŵp hwnnw, ond rwy'n fodlon cynnwys aelodaeth y grŵp hwnnw er mwyn i gyd-Aelodau weld pwy sy'n ymwneud ag ef hefyd. Efallai y gwnaf hynny drwy ddatganiad ysgrifenedig yn yr wythnosau nesaf, pan fydd y cynllun gwaith ar gael inni, fel y gall fy nghyd-Aelodau ymgyfarwyddo â hynny, oherwydd gwn fod llawer o ddiddordeb.
Un ffordd hanfodol o sicrhau bod cyllidebu'n cyflawni ar gyfer menywod yw drwy wneud buddsoddiadau strategol yn y sector gofal. Gwyddom na fyddai'r buddsoddi hwn yn cyflawni ar gyfer menywod yn unig, byddai hefyd yn rhoi hwb i'n heconomi ac yn cynyddu cyflogaeth gyffredinol.
Mae ymchwil wedi dangos y byddai buddsoddi 2 y cant o gynnyrch domestig gros mewn gofal yn creu bron cymaint o swyddi i ddynion â buddsoddi mewn diwydiannau adeiladu, ond y byddai'n creu hyd at bedair gwaith cymaint o swyddi i fenywod. Yn y DU, byddai hyn yn cynyddu cyfradd cyflogaeth menywod 5 y cant a byddai'n cael effaith gadarnhaol fawr ar dwf economaidd a lleihau dyledion, a byddai'n helpu cymunedau lleol hefyd. Byddai buddsoddi o'r fath hefyd yn gyson â phontio tuag at economi carbon isel. Felly, Gweinidog, a gaf i ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i archwilio buddsoddi strategol o'r fath mewn gofal yn rhan o'r gwaith o adeiladu'n ôl ar ôl COVID?
Mae'n gwbl wir bod gan y sector gofal cymdeithasol y gyfran uwch honno o weithwyr benywaidd, felly mae'r buddsoddiad a wnawn yn y sector gofal cymdeithasol yn cael yr effaith uniongyrchol honno ar y gweithwyr hynny a'u dyfodol, ac wrth gwrs ar y teuluoedd y maen nhw yn eu cefnogi. A gwyddom fod menywod yn tueddu i fyw'n hirach na dynion, felly mae gennym ni fwy o fenywod hŷn i fod yn eu cefnogi yn ein cymunedau hefyd, felly credaf fod buddsoddi mewn gofal cymdeithasol bob amser yn fuddsoddiad da ac yn sicr o'r safbwynt hwnnw o ran rhywedd. Gwnaethom newid sylweddol yn y cymorth i awdurdodau lleol yn ein cyllideb ddiwethaf, 2022-23, ac yn arbennig felly mewn perthynas â gofal cymdeithasol. Felly, buom yn gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol ei hun i ddeall cwantwm y cyllid y byddai ei angen arnyn nhw er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol o'r ansawdd yr hoffem ei weld. A rhoesant ffigur o £180.5 miliwn inni yn ychwanegol at yr adnoddau presennol, felly roeddem yn gallu bodloni'r cais hwnnw'n llawn, o gofio'r pwyslais gwirioneddol hwnnw sydd gennym ni ar ddarparu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy o safon, ac mae hynny ochr yn ochr â chyllid ychwanegol mewn perthynas â'r cyflog byw go iawn. Mae'r cyflog byw go iawn, unwaith eto, rwy'n credu, yn enghraifft berffaith o'r ffordd yr ydym ni'n buddsoddi mewn menywod ac yn gwneud dewisiadau sy'n cefnogi menywod, ac mae'r pwyslais hwnnw ar y rhywiau yn ganolog iddo, felly mae'n un o'r meysydd allweddol. A hefyd, nid gofalwyr cyflogedig yn unig, wrth gwrs; mae gofalwyr di-dâl yn aml—fel arfer—yn fenywod, ac felly mae'n rhaid i'n cefnogaeth i ofalwyr di-dâl gael ei gweld o'r safbwynt hwnnw sy'n canolbwyntio ar y rhywiau hefyd. Felly, credaf fod yr enghraifft a roddwyd yn un perffaith o ran ein dull cyllidebu ar sail rhyw.
Rwyf wedi bod yn ymwneud â chyllidebu ar sail rhyw ers cyn fy ethol yma, fel un o sylfaenwyr Grŵp Cyllidebu ar Sail Rhyw, Cymru, bron 20 mlynedd yn ôl. Felly, nid yw'n gysyniad newydd, ond mae llawer o gamddealltwriaeth o'i gwmpas o hyd. Nid yw, fel y dywedoch chi, ac ni fu erioed, yn ymwneud â chyllidebau gwahanol i ddynion ac i fenywod, ond mae'n ymwneud â dilyn yr arian a rhoi cnawd ar esgyrn ein gwerthoedd a'n hymrwymiad i degwch. Felly, rhaid i gyllidebu ar sail rhyw gael ei lywio gan ddata, rhaid iddo ganolbwyntio ar ganlyniadau, a rhaid ei archwilio a rhaid iddo gadw i fyny â'n democratiaeth sy'n esblygu.
Fe wnaethoch chi sôn am gynlluniau peilot ac am ddysgu gwersi, ac rydych chi hefyd wedi sôn am y gwersi rhyngwladol sy'n cael eu dysgu. Ond os edrychwn ni ar y datganiadau—ac mae pobl wedi sôn am geisio dod â'r argyfwng y mae pobl ynddo i ben—os edrychwn ni ar y ffigyrau gros sy'n deillio o'r arian sy'n cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth y DU yn uniongyrchol i ardaloedd, yr elfennau mawr bob amser yw'r rhai sy'n ymwneud ag adeiladu a newid i'r cyfeiriad hwnnw, ac eto gwyddom yn iawn nad oes gan fenywod le amlwg o gwbl yn y gyrfaoedd hynny.
Felly, o ran edrych ar eich cyllidebu ar sail rhyw, rwy'n mwy na'i groesawu—credaf ei fod ddegawdau'n hwyr, ond mae yma—sut ydych chi'n rhyngweithio â'r penderfyniadau hynny a wneir y tu allan i'ch rheolaeth ac yn cyfeirio buddsoddiad lle na fydd yr anghydraddoldebau hynny ond parhau ac yn gwaethygu?
Rwy'n ddiolchgar iawn i Joyce Watson am godi hyn. Rwy'n gwybod y bu'n hyrwyddo hyn ers blynyddoedd lawer, ac mae Grŵp Cyllideb Menywod Cymru yn dal yn ei anterth ac yn cynnig her wirioneddol adeiladol i'r Llywodraeth. Maen nhw'n dweud wrthym ni fod angen inni weithredu'n gyflymach ar y gwaith yr ydym yn ei wneud ac rydym yn gwrando arnyn nhw yn hynny o beth i geisio sicrhau ein bod yn symud mor gyflym â phosibl ac yn dechrau sefydlu'r dull hwn, gan gydnabod, wrth gwrs, fod newid diwylliant yn anodd, mae'n cymryd amser hir, ond credaf, os oes gennych chi ymrwymiad iddo ac os oes gennych chi arweiniad priodol yna credaf y gallwn ni gyrraedd y pwyntiau hyn.
Maen nhw hefyd wedi bod yn ein herio i ddarparu mwy o fanylion am ein gwaith, a dyna pam rydym ni'n awyddus i ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gallwn i Aelodau'r Senedd ond hefyd yn rhoi mwy o fanylion drwy ein cynllun gwella cyllideb, a gyhoeddir gennym ni'n flynyddol, ond sy'n edrych bum mlynedd i'r dyfodol, ochr yn ochr â'n cyllideb ddrafft. Felly, rydym ni wedi gallu gwneud hynny a sicrhau bod cyllidebu ar sail rhyw yn rhan fawr o'n cynlluniau cyhoeddedig yn hynny o beth.
Felly, rydym ni wedi bod yn gwrando'n ofalus iawn ar y grŵp hwnnw, ochr yn ochr â grwpiau fel Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru; rwy'n gwybod y bydd Sioned Williams yn noddi lansiad y cerdyn sgorio, y bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn bresennol ynddo, ac rwy'n gwybod y bu cyllidebu ar sail rhyw yn rhan bwysig iawn o'u her i ni, felly, unwaith eto, byddwn yn ymgysylltu â'r grwpiau hynny wrth inni geisio symud yr agenda yn ei blaen. Ond mae'n ymwneud yn llwyr â rhoi cnawd ar esgyrn ein hymrwymiad i degwch, a chredaf fod yr enghraifft a roddodd Joyce Watson o'r diwydiant adeiladu a sut rydym ni bob amser yn edrych ar y diwydiant hwnnw o ran—. Wel, hyd yn oed nawr, rydym ni'n edrych o ran yr adferiad o COVID, gan adeiladu ein ffordd allan, creu swyddi, ond gwn fod Joyce Watson yn gweithio'n galed iawn ar agenda menywod ym maes adeiladu i sicrhau bod swyddi ar gael i fenywod a bod menywod yn ystyried adeiladu fel gyrfa iddynt. A dyna un o feysydd ein cyfrifon dysgu personol, sy'n edrych yn benodol ar y diwydiant adeiladu a diwydiannau eraill lle'r ydym ni'n draddodiadol wedi gweld menywod yn cael eu tangynrychioli. Felly, mae pethau inni fod yn eu gwneud yno.
Ond eto, ac yn olaf, i gloi, Dirprwy Lywydd, credaf fod ein herio ni yn y Llywodraeth i wneud y newid diwylliant hwnnw tuag at gyllidebu ar sail rhyw ac edrych o'r safbwynt tyner hwnnw'n bwysig, ond rhaid inni fynd â hynny, wedyn, i'n cyfarfodydd ac i'n trafodaethau gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU fel ein bod yn eu herio yn yr un modd. Ac yna mae'n rhaid i ni wneud hynny hefyd gyda'n partneriaid mewn byrddau iechyd, mewn llywodraeth leol ac mewn mannau eraill i sicrhau bod y dysgu yr ydym yn ei ddatblygu a'r ymrwymiad sydd gennym ni yn treiddio drwy bob rhan o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Diolch i'r Gweinidog.