Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Diolch yn fawr am y pwyntiau a'r cwestiynau hynny, a rhannaf yr awydd hwnnw i symud yn gyflym iawn ar hyn. Yn y tymor agos, mae gennym ni bedwar maes gwaith y byddwn yn bwrw ymlaen â nhw, ac maen nhw'n drawsbynciol ar draws y Llywodraeth i sicrhau ein bod yn gwneud y cysylltiadau hynny o ran cyllidebu ar sail rhyw. Felly, mae gennym ni wybodaeth a dealltwriaeth; cymorth a her adeiladol; cyfathrebu ac arweinyddiaeth; a dysgu parhaus. Mae'r rhain yn bethau y byddwn ni, yn amlwg, yn ymgysylltu'n ehangach â'r sector cyhoeddus yn eu cylch wrth inni symud ymlaen.
Credaf fod yr hyn yr ydym ni wedi ei ddysgu o Wlad yr Iâ wedi dangos bod y dull peilot a ddefnyddiwyd ganddyn nhw wedi cymryd saith mlynedd o'r cynlluniau peilot cychwynnol i adeiladu tuag at weithredu mwy cynhwysfawr, ac roedd hynny'n rhywbeth yr oedden nhw'n awyddus iawn i'w rannu â ni. Unwaith eto, mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi'i brofi, rwy'n credu, ar y raddfa lai honno gyda'n cynllun peilot cyntaf—wyddoch chi, mae'r brwdfrydedd, yr awch a'r pwyslais cychwynnol ar y lefel leol honno'n wych, ond wedyn yr her yw pan fyddwch yn dechrau ei phrif ffrydio a'i chodi i lefel fwy cenedlaethol. Dyna'n union, rwy'n credu, yr her yr oedden nhw'n ei hwynebu yng Ngwlad yr Iâ.
Rydym ni wedi bod yn ymgysylltu â nhw, fel y dywedais i, ers 2019, ac mae'r cydberthnasau hynny'n dal i fynd rhagddynt, fel y maen nhw gyda'r rhwydwaith Llywodraethau llesiant hefyd, i weld beth y gallwn ni ei ddysgu oddi wrth ein gilydd o ran cyllidebu ar sail rhyw. Credwn fod gan Wlad yr Iâ ddull diddorol iawn. Felly, saith mlynedd yn ddiweddarach, o leiaf, ers iddyn nhw ei gyflwyno gyntaf, maen nhw bellach yn dechrau, rwy'n credu, cael y teimlad hwnnw o'r newid diwylliannol. Erbyn hyn, maen nhw'n gweithredu mewn modd cynhwysfawr, ac fe gefnogwyd hynny drwy basio cyfraith cyllideb organig newydd.
Yn amlwg, rydym yn awyddus i archwilio'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill o ran deddfwriaeth. Does arna i ddim eisiau awgrymu y byddem yn gallu dod o hyd i'r amser yn ystod tymor y Senedd hon i wneud hynny, ond mae'n sicr yn rhywbeth sydd o ddiddordeb i'r dyfodol yng Nghymru, o gofio ein pwyslais ar sut olwg fydd ar gyllid a'r ddeddfwriaeth sy'n cefnogi hynny yn y dyfodol. Felly, rydym yn cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill a'r hyn y gallwn ni ei ddysgu o'r gwahanol ddulliau gweithredu.
Mae'r sylw am yr argyfwng costau byw yn un pwysig mewn gwirionedd, a chredaf, pan fyddwch mewn argyfwng, fel y gwelsom ni drwy'r pandemig, ei fod yn canolbwyntio'r meddwl ac mewn gwirionedd mae'n rhoi'r ysgogiad i chwalu rhwystrau na ellir eu chwalu fel arall, felly nid oes rheswm pam na ddylem ni fod yn defnyddio'r ysgogiad hwn i fwrw ymlaen â'r agenda cyllidebu ar sail rhyw gyda phwyslais gwirioneddol. Credaf y bu rhywfaint o ymchwil ddiddorol ar effaith yr argyfwng costau byw ar sail rhyw, a ddarparwyd gan y Grŵp Cyllideb Menywod ar lefel y DU, ac mae hynny'n dangos bod gan fenywod lai o gynilion a chyfoeth yn gyffredinol na dynion, a hyd yn oed cyn COVID-19 roedd menywod yn fwy tebygol o fod mewn dyled, ac mae hyn wedi gwaethygu o ganlyniad i'r pandemig. Maen nhw'n glir iawn y bydd yr argyfwng costau byw yn taro'r tlotaf galetaf, ac mae menywod yn fwy tebygol o fod yn dlawd, ac maen nhw wedi cael eu taro'n galetach gan doriadau i nawdd cymdeithasol a darparu gwasanaethau cyhoeddus dros y degawd diwethaf, o ganlyniad i gyni. Felly, nid oes amheuaeth nad yw hwn yn fater rhywedd yn ogystal ag argyfwng costau byw.
Ac yna'r pwynt ehangach ynglŷn â sut y byddwn yn rhannu'r dysgu—byddwn yn gwneud hynny drwy'r grŵp gwella cyllideb a chynghori. Diben y grŵp hwnnw yw ymgysylltu â'r rhanddeiliaid allweddol hynny, felly mae angen inni sicrhau yr ymgysylltir â'r holl bobl hynny y mae angen ymgysylltu â nhw, a byddwn, fel y dywedais i, yn cyhoeddi mwy o wybodaeth am gylch gorchwyl y grŵp hwnnw, ond rwy'n fodlon cynnwys aelodaeth y grŵp hwnnw er mwyn i gyd-Aelodau weld pwy sy'n ymwneud ag ef hefyd. Efallai y gwnaf hynny drwy ddatganiad ysgrifenedig yn yr wythnosau nesaf, pan fydd y cynllun gwaith ar gael inni, fel y gall fy nghyd-Aelodau ymgyfarwyddo â hynny, oherwydd gwn fod llawer o ddiddordeb.