Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad, a dwi'n croesawu, yn amlwg, yr hyn sydd wedi cael ei ddweud, a dwi'n cael fy nghalonogi hefyd gan rai o'r atebion rŷch chi newydd eu rhoi, er efallai y byddem ni gyd—fel chi, dwi'n siŵr—eisiau mynd ymhellach ac yn gynt. Yn sicr, fel roeddech chi'n dweud, mae yna siwrnai wedi ei chychwyn, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cyrraedd—. Wel, efallai na chyrhaeddwn ni fyth ben y daith, ond yn sicr mae'r gwaith yma'n esblygu'n barhaus. Ond byddem ni eisiau gweld y cynnydd yn digwydd cyn gynted ag sy'n bosib.
Dwi jest yn meddwl, o ran effaith, beth ydych chi'n meddwl bydd effaith yr argyfwng costau byw a'r wasgfa ar gyllidebau cyhoeddus ar gyllidebau ar sail rhyw, oherwydd y peryg yw y bydd cyrff cyhoeddus, efallai, yn teimlo eu bod nhw o dan ormod o bwysau i fynd i'r afael â rhywbeth fel hyn a thrio newid mindset a newid diwylliant, lle dwi'n siŵr y byddech chi, ac yn sicr y byddwn i, yn dadlau mai nawr yw'r amser i wneud y shift yna er mwyn amddiffyn y bobl sy'n mynd i ddioddef fwyaf yn sgil yr argyfwng sy'n ein hwynebu ni.
Mi wnaeth Gwlad yr Iâ, wrth gwrs, ddechrau defnyddio cyllido ar sail rhyw adeg y crash economaidd, ac, wrth gwrs, maen nhw ar flaen y gad nawr, onid ydyn nhw—ymhellach ymlaen na neb arall. Felly, a oes cyfle inni ddefnyddio'r amgylchiadau rŷn ni'n ffeindio ein hunain ynddyn nhw i gyflymu'r broses rŷch chi wedi'i hamlinellu i ni?
Rwy'n croesawu bod peilotiau yn digwydd, wrth gwrs. Mae'n rhaid dysgu, mae'n rhaid cropian cyn cerdded ac yn y blaen. Weithiau, rwy'n teimlo bod yna risg ein bod ni'n dioddef o ryw fath o pilotitis—dwi ddim yn siŵr a yw hwnnw'n derm swyddogol. Mae angen inni fynd ati i brif-lifo ar y cyfle cyntaf posib, onid oes e, a dysgu ar y job, mewn ffordd. Felly, dydw i ddim yn gwybod eto, o wybod y rhyferthwy sydd o'n blaenau ni o safbwynt costau byw a'r oblygiadau fydd yna, a allwn ni fod yn symud yn gynt, efallai, ar rhai o'r materion yma.
Rŷch chi wedi cyffwrdd â'r amserlen tymor byrrach, efallai, jyst mewn atebion blaenorol, felly ble ydyn ni o ran yr amserlen tymor hir? Pryd ydych chi'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu edrych i fyw llygaid pobl Cymru a dweud, 'Mae hwn yn digwydd', a phryd byddwch chi'n gallu dweud y bydd y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru hefyd yn cyllido ar sail rhyw mewn modd ystyrlon sydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl?
Dwi'n deall bod y Llywodraeth yn gwerthuso'r peilotiau yma ac yn dysgu gwersi. Sut mae hwnna yn cael ei rannu—rhannu'r dysgu a'r arfer da? Byddai'n dda deall sut mae hwnna'n cael ei raeadru yn ehangach, a hefyd bod y sector cyhoeddus yn dysgu'r gwersi rŷch chi yn eu dysgu.
Yn olaf, beth yw'r sail ddeddfwriaethol fan hyn? A oes angen deddfu i sicrhau bod hwn yn cael ei brif-lifo ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, neu a ydych chi'n hyderus y bydd e'n digwydd heb fod angen deddfwriaeth? Mae Awstria wedi'i wneud e'n rhan o'i chyfansoddiad ers 2009, ac erbyn 2011 mi oedd pob adran o'r Llywodraeth yn prif-lifo cyllidebu ar sail rhyw ar draws deddfu, cyllido a chaffael cyhoeddus. Os ydyn ni eisiau i hyn ymgyrraedd i fod yn gwneud gwahaniaeth go iawn, yna mae'n bosib bod hynny'n rhywbeth rŷch chi yn ei ystyried.