Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 5 Gorffennaf 2022.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad am y datganiad ansawdd. Mae'n gam arwyddocaol, dwi'n meddwl. Does yna ddim deufis ers oeddem ni ym Mhlaid Cymru yn cyflwyno cynnig o flaen y Senedd yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi sylw i faterion iechyd yn ymwneud â merched, a dwi'n falch ein bod ni yma rŵan yn gweld y datganiad yma heddiw.
Mae'n rhyfeddol ac yn gywilyddus, mewn difri, ei bod hi wedi cymryd tan rŵan inni ddechrau o ddifri, efallai, gweld pethau o bersbectif y ferch mewn iechyd.