1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 6 Gorffennaf 2022.
1. Sut y mae'r Llywodraeth yn hyrwyddo cyflog teg i weithwyr yn y trydydd sector? OQ58319
Trafodwyd effaith yr argyfwng costau byw ar y trydydd sector a’i weithlu yng nghyfarfod diweddaraf cyngor partneriaeth y trydydd sector. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ac yn parhau i wneud hynny, ac rydym yn defnyddio ein hysgogiadau ehangach i hyrwyddo cyflogau teg yn y trydydd sector.
Diolch am yr ateb.
Un o’r problemau y mae’r sector yn eu hwynebu ar hyn o bryd yw ariannu setliadau cyflogau teg sy’n adlewyrchu’r cynnydd mewn costau byw. Mae hyn yn arbennig o wir gyda sefydliadau sydd â chontractau gyda sawl darparwr sector cyhoeddus sy'n gwneud pethau gwahanol o ran cynyddu contractau. Mae gan un sefydliad rwy'n ymwybodol ohono gontractau ar draws llawer o awdurdodau lleol, gydag oddeutu traean yn cynyddu contractau, traean yn gwrthod a thraean eto i benderfynu. Mae hyn yn rhoi'r sefydliad mewn sefyllfa amhosibl o orfod bod yn deg â'r holl staff heb allu ariannu cyflogau teg. A wnaiff Llywodraeth Cymru arwain y gwaith o sicrhau polisi cyson ar gynyddu contractau a sicrhau y gall y sector barhau i gadw ei staff gwerthfawr a helpu’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas?
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ac yn amlwg, am gydnabod sector sydd nid yn unig yn helpu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ond sydd hefyd yn darparu cyflogaeth i bobl mewn cymunedau ledled y wlad. Fel y dywedais, yng nghyfarfod diweddaraf cyngor partneriaeth y trydydd sector ar yr argyfwng costau byw, codwyd yr effaith y mae'n ei chael ar gyflogau teg yn y sector, ac yn sicr, mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau'n fwy na pharod i fynd ati i weld sut y gallwn ddefnyddio ein dull partneriaeth gymdeithasol yn ogystal â'r holl ysgogiadau sydd gennym i geisio sicrhau cysondeb ar draws y sector a darparu cymorth lle mae cymorth ar gael.
Rydym wedi cydnabod rhai o’r heriau y mae’r sector yn eu hwynebu mewn perthynas â chyllid nid yn unig ar gyfer sefydlogrwydd prosiectau, ond ar gyfer sefydlogrwydd staff hefyd, felly mae hynny’n un o’r rhesymau y tu ôl i newid am y tro cyntaf i ymrwymiad grant tair blynedd, sy’n amlwg yn galluogi gwell cynllunio hirdymor, gan gadw staff a sgiliau. Credaf ei bod yn bwysig iawn, fel y dywedoch chi, fod y sefydliadau trydydd sector hyn nid yn unig yn darparu cymorth a gwasanaethau hanfodol, ond eu bod hefyd yn darparu cyfleoedd da iawn i bobl weithio, ac mae angen inni fod yn ymwybodol o hynny wrth inni symud ymlaen.
Mae’r mater y mae’r Aelod dros Ddwyrain De Cymru yn ei godi yn un pwysig, wrth gwrs. Felly hefyd sut y caiff gweithwyr a gwirfoddolwyr y trydydd sector eu talu am dreuliau ychwanegol sy'n codi wrth iddynt gyflawni eu rolau—er enghraifft, costau tanwydd. Yn ddiweddar, mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol wedi cysylltu â mi, cymdeithas sy’n gweithio gyda nifer o elusennau i ymgyrchu dros gynnydd yn y cynllun taliadau lwfans milltiredd cymeradwy (AMAP). Maent yn nodi bod y cynnydd diweddar yng nghost tanwydd yn cael effaith negyddol ar weithwyr a gwirfoddolwyr y trydydd sector ac yn ei gwneud yn anoddach i recriwtio staff ychwanegol. Rwy'n ymwybodol nad yw mater o’r fath wedi’i ddatganoli, ond serch hynny, Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda’ch swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynghylch cynyddu cyfraddau AMAP yn y tymor byr i helpu i liniaru problemau o’r fath? A beth yn benodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi sefydliadau, gweithwyr a gwirfoddolwyr y trydydd sector gyda chostau cynyddol yn ogystal â chefnogi sefydliadau i recriwtio a chadw mwy o staff a gwirfoddolwyr? Diolch.
A gaf fi ddiolch i Peter Fox am ei gwestiwn? Rydych yn iawn i gydnabod yr effaith y mae'r cynnydd mewn costau tanwydd yn ei chael, nid yn unig ar y trydydd sector, ond clywais heddiw mewn cyfarfod gyda Chyngor Partneriaeth Cymru am yr effaith y mae'n ei chael yn enwedig ar bobl yn y sector gofal cymdeithasol hefyd, sy'n teithio rhwng pobl y maent yn gofalu amdanynt. Felly, cytunaf yn llwyr â chi—. Gwn fod galwadau am godiad o 45c i 55c, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddem ni, fel Llywodraeth, yn ei gefnogi, ac rydym wedi'i godi eisoes gyda swyddogion cyfatebol ar lefel Llywodraeth y DU. Ac mewn gwirionedd, mae eich cwestiwn yn rhagweledol iawn, oherwydd y bore yma, fe wnaethom ymrwymo gyda phartneriaid ar draws llywodraeth leol ac ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, a'r trydydd sector hefyd, i alw ar y cyd am gynnydd yn hynny o beth i helpu i liniaru rhywfaint o’r effaith costau byw y mae'n ei chael ar bobl sy’n darparu gwasanaethau sy’n hanfodol, nid yn unig i bobl, ond i’n cymunedau hefyd.