Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 6 Gorffennaf 2022.
Diolch. Wel, gobeithio bod hynny'n golygu, fel y dywedasant, y bydd hynny'n sicrhau eu bod yn gweithredu'n annibynnol ar wleidyddion, yn enwedig.
Ond fel y dywedais yma ym mis Mawrth 2019 ar bwnc gwahanol, ni fyddai Papur Gwyn Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, 'Diogelu Dyfodol Cymru', a oedd yn galw am barhau i fod yn aelod o farchnad sengl yr UE, yn golygu na fyddai gennym unrhyw reolaeth dros ein ffiniau, ein masnach a'n cyfreithiau, ac felly mewn enw'n unig y byddai gennym Brexit.
Wrth siarad yma yr wythnos diwethaf, canmolodd y Prif Weinidog rinweddau Cymru a'r DU oddi mewn i'r farchnad sengl, er ei fod yn ymddangos fel pe bai'n camu'n ôl o hyn ddoe ar ôl datganiad Keir Starmer fod Llafur wedi diystyru ailymuno â'r farchnad sengl fel polisi'r blaid, ond honnodd y gallai ddileu rhwystrau masnach a theithio er hynny. Pa gyngor y byddech chi'n ei roi felly fel Cwnsler Cyffredinol i'r Prif Weinidog a Mr Starmer ynghylch y rhwystrau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â hyn?